Stori newyddion

Sgamiau SMS-rwydo Myfyrwyr ar Gynnydd

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar ddechrau 24/25 blwyddyn academaidd

Ar ddechraur flwyddyn academaidd 24/25, maer Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn atgoffa myfyrwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau SMS-rwydo.

Mae sgamwyr yn targedu myfyrwyr yr adeg hon or flwyddyn wrth iddynt dderbyn eu taliad benthyciad cynhaliaeth cyntaf. Mae SLC yn disgwyl talu 贈2bn i fyfyrwyr dros dymor yr hydref ar llynedd fe ataliwyd 贈2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cael eu cymryd gan sgamiau SMS-rwydo a gwe-rwydo, lle derbyniodd myfyrwyr gyfathrebiadau ffug a gweithredu arnynt.

SMS-rwydo, sef twyll syn ymwneud 但 negeseuon testun, ywr math mwyaf poblogaidd dwyll ar hyn o bryd, gyda myfyrwyr fel arfer yn cael eu gwahodd i glicio dolen i gwblhau tasg er enghraifft gwirio manylion banc neu gadarnhau eu gwybodaeth bersonol, gan roi cyfle i daliad gael ei ddargyfeirio i gyfrif banc twyllwr.

Ni fydd SLC byth yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu neu ddilysu eu gwybodaeth bersonol neu ariannol trwy e-bost neu neges destun, ac mae Alan Balanowski, Cyfarwyddwr Risg SLC, yn annog myfyrwyr i dalu sylw i unrhyw gyfathrebu a g但nt gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) neu SLC yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd: Mae dechrau neu ddychwelyd ir brifysgol yn gyfnod cyffrous, ond mae hefyd yn brysur, gyda myfyrwyr yn rhoi trefn ar bethau ac yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd, syn cynnwys ymdrin 但 gwybodaeth gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys ni ein hunain. Ein nod yw sicrhau bod ein proses dalu yn syml i fyfyrwyr, ond rydym yn profi cynnydd mewn sgamiau SMS-rwydo ar yr adeg hon or flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod angen i fyfyrwyr fod yn effro i unrhyw ymgais bosibl i atal rhandaliad eu benthyciad cynhaliaeth.

Mae gennym ni amrywiaeth o ddulliau ataliol rydyn nin eu defnyddio i dargedu sgamiau, ond yr offeryn syn cael yr effaith fwyaf sydd gennym ni yw gweithio gyda myfyrwyr i atal twyllwyr. Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai ei dileu a rhoi gwybod amdani ar unwaith, ond os bydd twyllwr yn llwyddo i gael manylion personol, yna maen rhaid i ni gydweithion gyflym i ganfod a rhwystror weithred.

Y llynedd, fe lwyddon ni i atal 贈2.9m o daliadau benthyciad cynhaliaeth rhag cyrraedd twyllwyr, ac rydym yn canolbwyntio ar weithio mor effeithiol ag y gallwn i amddiffyn myfyrwyr au cyllid.

Mae ein neges i fyfyrwyr yn eithaf syml, meddyliwch cyn clicio.

Awgrymau dar SLC

  • Nid yw SLC na CMC yn darparu unrhyw wasanaethau trwy WhatsAppac ni fyddant byth yn cychwyn cyswllt 但 myfyriwr trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, X, Instagram a Tik Tok, i drafod eu cais neu eu hawl i gyllid myfyriwr.Os yw cwsmer yn derbyn cyfathrebiad gan CMC nad ywn si典r ohono, dylai fewngofnodi iw gyfrif ar-lein i wirio a ywn ddilys.
  • Gwiriwch ansawdd y cyfathrebu - yn aml bydd camsillafu, diffyg atalnodi a gramadeg gwallus yn arwyddion o we-rwydo.
  • Cadwch lygad am unrhyw e-byst, galwadau ff担n neu negeseuon testun amheus, yn enwedig o gwmpas amser taliad disgwyliedig.
  • Mae e-byst twyll a negeseuon testun yn aml yn cael eu hanfon mewn swmp at lawer o bobl ar yr un pryd ac yn annhebygol o gynnwys enw cyntaf ac enw olaf. Maer rhain yn dechrau fel arfer gydag Annwyl Fyfyriwr.
  • Mae negeseuon syn cyfleu ymdeimlad o frys hefyd yn annhebygol o fod yn ddilys er enghraifft bydd methu ag ymateb o fewn 24 awr yn arwain at gau y cyfrif.
  • Meddyliwch cyn clicio. Os yw e-bost neu neges destun yn cynnwys dolen, daliwch eich cyrchwr drosto i wirio ei fod yn mynd lle mae i fod. Os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch 但i mentro. Ewch yn uniongyrchol at y ffynhonnell yn hytrach na chlicio ar ddolen a allai fod yn beryglus.
  • Gall twyllwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio cael myfyrwyr i dalu arian neu rannu manylion personol, gan gynnwys defnyddio galwadau ff担n twyllodrus, postiadau cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau digidol. Defnyddiwch rifau ff担n swyddogol, y cyfrif ar-lein a sianeli cyfathrebu swyddogol bob amser i wirio bod y cyswllt a dderbyniwyd yn ddilys.
  • Byddwch yn ymwybodol or wybodaeth rydych chin ei rhannu amdanoch chich hun ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn mannau eraill ar-lein, i helpu gwarchod rhag lladrad hunaniaeth. Mae lladrad hunaniaeth yn digwydd pan fydd twyllwyr yn cyrchu digon o wybodaeth am hunaniaeth person, megis ei enw, dyddiad geni, cyfeirnod cwsmer, gwybodaeth cwrs neu gyfeiriadau presennol neu flaenorol i ddynwared nhw ar-lein a thros y ff担n.
  • Mae SLC neu Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn anfon neges destun at fyfyrwyr yng Nghymru os oes newid wedii wneud iw manylion banc. Os nad ydych wedi newid eich manylion banc ac wedi derbyn neges, cysylltwch 但 ni ar unwaith.
  • Cymrwch olwg ar ein canllaw i nodi twyll arwww.gov.uk/guidance/phishing-scams-how-you-can-avoid-them

Os bydd myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai adrodd amdano ar unwaith trwy e-bost i report@phishing.gov.uk ac i Slc trwy ffonio ein llinell ymroddedig ar 0300 100 0059.

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth ychwanegol ar adnabod ac osgoi twyll gan , canolfan adrodd genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2024