Datganiad yr Haf yn Darparu Cynllun ar Gyfer Swyddi yng Nghymru
Heddiw, mae'r Canghellor wedi nodi'r camau nesaf yn strategaeth Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd Cymru yn dilyn coronafeirws

Heddiw, maer Canghellor wedi nodir camau nesaf yn strategaeth Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd Cymru yn dilyn coronafeirws gan gyhoeddi Cynllun ar gyfer Swyddi i lefelu, lledaenu cyfleoedd ac unor DU.
Nododd Rishi Sunak sut y byddain canolbwyntio ar ddiogelu, cefnogi a chreu swyddi wrth ir DU ddechrau ar y cam nesaf yn ei hadferiad yn dilyn y pandemig.
Wrth gyflwyno ei ddiweddariad economaidd yn ystod yr haf, dywedodd:
Mae gan ein cynllun nod clir: diogelu, cefnogi a chreu swyddi. Bydd yn rhoi hyder i fusnesau i gadw a chyflogi pobl. I greu swyddi ym mhob rhan on gwlad. I roi dechrau gwell i bobl ifanc. Rhoi cyfle i bobl o bob man i ddechrau or newydd.
Fel rhan o gyfres o fesurau nodedig newydd, cyhoeddodd y Canghellor y bydd y Llywodraeth yn:
- cefnogi swyddi gydar Bonws Cadw Swyddi i helpu busnesau i gadw gweithwyr a oedd ar ffyrlo. Bydd cyflogwyr y DU yn cael bonws untro o 贈1,000 ar gyfer pob gweithiwr sydd wedi cael ei gyflogi fel aelod o staff ar 31 Ionawr 2021.
- ehangu cymorth chwilio am waith gan gynnwys Cronfa Cymorth Hyblyg a chynllun Kickstart gwerth 贈2 biliwn i gymhorthdalu swyddi i bobl ifanc
- creu swyddi yn y sectorau adeiladu a thai drwy gyllid i ddatgarboneiddio adeiladaur sector cyhoeddus, prosiect arddangoswyr i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol ac arian i gefnogi ymchwil a datblygu ar gyfer Cipio Awyr Uniongyrchol (fel y cyhoeddwyd gan y Brif Weinidog Boris Johnson ar 30 Mehefin) a moderneiddio llysoedd a charchardai a gwella carchardai ar yst但d brawf
- a diogelu swyddi gyda thoriadau TAW ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, yn ogystal 但r cynllun disgownt Bwyta Mas i Helpu Mas.
Mae diweddariad economaidd yr haf yn cadarnhau 贈500 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru drwyr fformiwla Barnett o ganlyniad ir coronafeirws.
Mae Llywodraeth y DU bellach yn darparu 贈2.8 biliwn drwy fformiwla Barnett i helpu Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Covid-19.
Dywedodd Rishi Sunak mair Cynllun ar gyfer Swyddi oedd ail gam cynllun tri cham i sicrhau adferiad economaidd y DU or coronafeirws.
Canolbwyntiodd y cam cyntaf, a ddechreuodd ym mis Mawrth, ar amddiffyn gyda phecyn cymorth gwerth 贈 160bn un or ymatebion economaidd mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y byd. Yng Nghymru, maer pecyn hwn wedi diogelu mwy na 316,000 o swyddi hyd yn hyn, wedi helpu miloedd o fusnesau ac wedi talu 贈273 miliwn i fwy na 100,000 o bobl hunangyflogedig.
Nododd y Canghellor y byddair trydydd cam, yn dilyn yr ail gam yn canolbwyntio ar swyddi, yn canolbwyntio ar ailadeiladu, gydag adolygiad or Gyllideb a gwariant yn yr Hydref.
Wrth siarad am yr effaith ar Gymru, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak:
Trwy gydol yr argyfwng hwn rydym wedi cefnogi cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, gan sefydlu un or ymatebion economaidd mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y byd.
Heddiw, rwyf wedi nodir camau nesaf yn ein cynllun i sicrhau ein hadferiad. Bydd yn diogelu, yn cefnogi ac yn creu swyddi ledled Cymru gan lefelu cyfleoedd a chryfhaur Undeb.
Rydym yn cefnogi swyddi ledled Cymru gyda buddsoddiad enfawr yn ein Canolfannau Gwaith, gan gynnwys dyblu nifer yr hyfforddwyr gwaith. Rydyn nin creu swyddi newydd gwyrdd gyda phrosiectau datgarboneiddio, moderneiddio i lysoedd a charchardai ac mae 贈500m yn cael ei ddyrannu drwyr fformiwla Barnett. Ac rydym yn diogelu swyddi presennol drwy dorri TAW a chyflwynor cynllun Bwyta Mas i Helpu Mas, gan roi hwb ir sectorau lletygarwch a thwristiaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae pecyn o fesuraur Canghellor yn darparu dros Gymru a bydd yn ailadeiladu ein heconomi wrth i ni bownsion 担l or pandemig coronafeirws.
Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelu bywoliaeth pobl a sicrhau ffyniant yng Nghymru. Maer cyfleoedd yr ydym yn eu creu ac i gadw swyddi yn newyddion da i bobl ifanc a chyflogwyr ym mhob rhan o Gymru, tra bydd y toriad TAW o 15 y cant ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn hwb enfawr ir sector hwnnw. Mae bellach yn gwbl hanfodol in diwydiant twristiaeth a lletygarwch or radd flaenaf agor yn iawn i fusnes ac y gall pob un ohonom Fwynhaur Haf yn Saff gydar gorau sydd gan Gymru iw gynnig.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i bawb yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau ledled Cymru a bydd ein penderfyniadau yn arwain at hanner biliwn o bunnau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, yn ddod 但u harian cymorth Covid-19 ychwanegol i 贈2.8 biliwn.
Maer Canghellor wedi darparu pecyn cymorth gwych syn paratoir ffordd ar gyfer adferiad economaidd Cymru.