Datganiad i'r wasg

Mae band eang cyflym iawn yn awr ar gael i fwy nag 19 allan o 20 cartref a busnes yn y DU

Cymru'n gweld cynnydd cyflym mewn mynediad at fand eang cyflym iawn

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Mae Cymru yn profi twf cyflym mewn mynediad at fand eang cyflym iawn o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn Rhagfyr 2017.
  • Mae cyflwyniad parhaus y Llywodraeth yn parhau i gyrraedd miloedd fwy o gartrefi a busnesau bob wythnos.
  • Mae cyflymderau uchel iawn eisoes wedi llwyddo i gynyddu gwerthiant o 贈8.9 biliwn i econom誰au lleol.

Mae Cymru wedi gweld cynnydd cyflym yn y nifer o gartrefi a busnesau sydd 但 mynediad at fand eang cyflym iawn, o 29.4% yn 2010 at 94.2% erbyn mis Rhagfyr y llynedd. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth y DU i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% or DU erbyn diwedd 2017.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan wedi cadarnhau bod mwy nag 19 allan o 20 cartref a busnes yn y DU wedi cael y cyfle i uwchraddio eu cysylltiadau rhyngrwyd i gyflymdra cyflym iawn o 24 Mb yr eiliad neu gyflymach mwy na dwbl yr hyn y mae Ofcom yn ei gynghori sydd ei angen gan gartref teuluol nodweddiadol.

Mae cyflwyno gwerth 贈1.7 biliwn o fand eang cyflym iawn i ardaloedd na thybir eu bod yn hyfyw yn fasnachol gan ddiwydiant wedi cyrraedd hyd yma mwy na 4.5 miliwn o adeiladaur DU a fyddai fel arall wedi cael eu gadael gyda chysylltedd araf, ac mae mwyafrif y rhain mewn ardaloedd gwledig.

Yn ychwanegol at y buddion anferth in bywydau beunyddiol y mae cyflymderau uchel iawn yn eu cynnig, mae caur gagendor digidol hwn wedi cyflawni hwb sylweddol yn ogystal i econom誰au lleol gan greu oddeutu 50,000 o swyddi lleol newydd a chynhyrchu 贈8.9 biliwn ychwanegol mewn trosiant yn yr ardaloedd lle cafodd ei gyflwyno gan y Llywodraeth rhwng 2013 a 2016.

Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog dros Lywodraeth y DU yng Nghymru:

Darparu mynediad at fand eang cyflym iawn, dibynnol ywr un peth pwysicaf maen debyg y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau an busnesau gwledig, ac fel y cyfryw, maen wych clywed bod Cymru wedi cyrraedd darpariaeth o 94% gyda band eang cyflym iawn.

Mae gan Gymru fwlch llawer mwy iw gau na Lloegr, ac felly maen newyddion cadarnhaol iawn eu bod wedi gwneud camau mor fawr i gaur gagendor digidol, yn arbennig felly o gofior topograffi heriol iawn sydd yng Nghymru.

Gwyddwn fod llawer mwy iw wneud, ond mae cyhoeddiad heddiw yn nodi cam sylweddol ymlaen yn ymdrechion Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang syn addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae cyflwyno band eang cyflym iawn gan y Llywodraeth wedi gwneud cyflymderau uchel iawn yn wirionedd i fwy na 4.5 miliwn o gartrefi a busnesau a fyddai fel arall wedi methu 但i gael. Ond mae llawer mwy iw wneud yn ein gwaith i adeiladu Prydain syn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym nin cyrraedd mwy o adeiladau bob wythnos, ac rydym wedi ymrwymo i wneud band eang cyflym iawn syn ddibynadwy ac yn fforddiadwy yn hawl gyfreithiol ar gyfer pawb erbyn 2020.

Roedd mis Rhagfyr yn fis prysur dros ben i Openreach, fel prif bartner y Llywodraeth yn y prosiect isadeiledd anferth hwn, sydd wedi bod yn gweithio yn galed drwy fisoedd y gaeaf i sicrhau bod y cyflwyniad yn parhau ar y trywydd cywir. Llwyddwyd i gyrraedd oddeutu 800,000 o gartrefi a busnesaur llynedd drwy raglen BDUK Llywodraeth y DU, ochr yn ochr 但 chyflawni masnachol, gydag Openreach yn cyflawni cyfran fawr or cyflawniad hwn. O ganlyniad ir gosodiadau hyn, cyrhaeddwyd y targed o 95% ym mis Rhagfyr 2017.

Dywedodd Clive Selley, PSG, Openreach:

Heb amheuaeth, mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol a hoffwn ddiolch ir miloedd o beirianwyr Openreach ar nifer llawer mwy on pobl syn eu cefnogi ac sydd wedi gweithio mor ddiflino i wneud hyn yn bosibl.

Rydym wedi teithio yn bell mewn amser mor fyr, gydag un or gosodiadau band eang cyflymaf yn y byd. Mae hon y garreg filltir bwysig ond nid ydym yn rhoi terfyn ar bethau yma. Rydym nin benderfynol o weld Prydain Prydain gyfan wedii chysylltu 但 chyflymderau band eang addas. Bydd Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol y Llywodraeth yn gwneud band eang cyflym iawn yn hawl gyfreithiol a byddwn yn gweithio gyda diwydiant, Llywodraeth ac Ofcom i gyflawni hyn. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ymestyn ein rhwydwaith er mwyn ymdrin 但 mannau gwan syn weddill, drwy gyfuniad on rhaglenni masnachol ein hunain an partneriaethau gydag awdurdodau a chymunedau lleol.

Mae cymal yng nghontractaur Llywodraeth yn nodi bod angen i gyflenwyr ailddefnyddio cyllid pan mae pobl yn derbyn cysylltiadau band eang cyflym iawn syn cael eu gosod fel rhan or rhaglen. Mae dros 2.25 miliwn o gartrefi a busnesau wedi derbyn band eang cyflym iawn mewn ardaloedd syn cael eu cynnwys gan brosiectau BDUK. Hyd yma, mae BT wedi neilltuo 贈477 i ymestyn y ddarpariaeth dros oes lawn y contractau i fyny o 贈292 miliwn ym mis Rhagfyr 2016 mewn gwledydd a rhanbarthau o gwmpas y DU.

Ynghyd ag effeithlonrwydd prosiectau o leiaf 贈210 miliwn a ddaw o ganlyniad i reoli a chyflawnir rhaglen yn llwyddiannus, bydd hyd at 贈687 miliwn ar gael ar gyfer awdurdodau lleol i ailfuddsoddi a mynd 但 band eang cyflym iawn ir cartrefi ar busnesau hynny nad ydyn nhw eisoes yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau syn bodoli.

Yn ogystal 但 chyflawni cynlluniedig arall, bydd hwn yn helpu i fynd 但 darpariaeth cyflym iawn ir mwyafrif or adeiladau syn weddill dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at hyn, mae Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol y maer Llywodraeth yn ei gyflwyno yn rhoi hawl cyfreithiol i bawb gael band eang cyflym iawn (10Mb yr eiliad neu gyflymach) erbyn 2020, syn golygu na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar 担l, ac y bydd gan bob cartref a busnes yn y DU y cysylltedd y maen nhw ei angen yn yr oes ddigidol.

DIWEDD

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

  1. Ewch i er mwyn gweld y ffigyrau diweddaraf yngl天n 但 darpariaeth band eang.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2018