Datganiad i'r wasg

Nodyn atgoffa Ffurflen Dreth ar gyfer defnyddwyr cryptoasedion

Mae CThEF yn atgoffa defnyddwyr cryptoasedion i wirio a oes angen iddynt wneud Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gydar defnydd o gryptoasedion yn tyfu, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog pobl i osgoi cosbau posibl drwy wirio a oes angen iddyn nhw lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.油

Dylai unrhyw un sydd 但 chryptoasedion ddatgan unrhyw incwm neu enillion dros y lwfans rhydd o dreth ar Ffurflen Dreth. Gallai treth fod yn ddyledus pan fydd person yn gwneud y canlynol:油

  • yn cael cryptoasedion drwy gyflogaeth, os maen nhwn cael eu dal fel rhan o fasnach, neu syn ymwneud 但 gweithgareddau syn gysylltiedig 但 chrypto ac syn cynhyrchu incwm油
  • yn gwerthu neun cyfnewid cryptoasedion, gan gynnwys:油
    • gwerthu cryptoasedion am arian油
    • cyfnewid un math o gryptoased am fath arall油
    • defnyddio cryptoasedion i brynu rhywbeth油
    • rhoi cryptoasedion fel anrheg i berson arall油
    • cyfrannu cryptoasedion at elusen油

Ewch i 51画鋼 i ddysgu rhagor o wybodaeth am sut mae cryptoasedion yn cael eu trethu.油

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth syn ddyledus yw 31 Ionawr 2024. Os nad yw cwsmeriaid yn si典r a oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth, gallant wirio hynny drwy ddefnyddior offeryn ar-lein, syn rhad ac am ddim ar 51画鋼.油

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:油

Weithiau mae pobl yn anghofio fod angen cofnodi gwybodaeth am incwm ac enillion crypto ar eu Ffurflen Dreth. Efallai mai dymar tro cyntaf ir fath sefyllfa godi i rai, felly maen bwysig cadarnhau a oes angen cyflwyno Ffurflen Dreth. Gydar dyddiad cau Hunanasesiad ond wythnosau i ffwrdd, dwin annog pobl i beidio ag oedi cyn llenwir Ffurflen Dreth.油油

Mae help wrth law - gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chymorth ar-lein, chwiliwch am help with Self Assessment ar 51画鋼.

Mae gan CThEF ystod eang o adnoddau ar-lein, gan gynnwys cyfres o , a help a chymorth ar 51画鋼, i roi cymorth i gwsmeriaid i lenwiu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.油油

Gall cwsmeriaid Hunanasesiad ar-lein gyflwyno eu Ffurflenni Treth a thalu unrhyw dreth sydd arnynt ar 51画鋼.油

Mae ap CThEF yn ddiogel ac yn rhad ac am ddim. Dymar ffordd gyflymaf a hawsaf i gwsmeriaid dalu eu bil treth. Mae gwybodaeth am y gwahanol ddulliau o dalu ar gael ar 51画鋼.油

Gall y rhai nad oes modd iddynt dalun llawn gael mynediad at gymorth a chyngor ar 51画鋼. Maen bosibl y bydd CThEF yn gallu helpur sawl, y mae arnynt llai na 贈30,000, drwy drefnu cynllun talu fforddiadwy, a elwir yn Amser i Dalu . Gall cwsmeriaid drefnu hyn ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 51画鋼 a chwilio am HMRC payment plan.油

Bydd CThEF yn ystyried rhesymaur cwsmer dros beidio 但 bodlonir dyddiad cau. Maen bosibl bydd y sawl syn rhoi esgus rhesymol i CThEF yn osgoi cosb. Y cosbau am Ffurflenni Treth hwyr yw:油

  • cosb benodol gychwynnol o 贈100, syn berthnasol hyd yn oed os nad oes treth iw thalu, neu os ywr dreth syn ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
  • ar 担l 3 mis, cosbau ychwanegol o 贈10 y dydd, hyd at uchafswm o 贈900
  • ar 担l 6 mis, cosb bellach sef 5% or dreth syn ddyledus neu 贈300, pun bynnag sydd fwyaf
  • ar 担l 12 mis, cosb arall sef 5% neu 贈300, pun bynnag sydd fwyaf

Mae cosbau ychwanegol am dalun hwyr hefyd, sef 5% or dreth sydd heb ei thalu ar 担l 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis. Codir llog hefyd ar unrhyw dreth a delir yn hwyr.油油

Dylai pawb fod yn ymwybodol or risg o gael eu twyllo ni ddylent rannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer gwasanaethau CThEF gydag unrhyw un ar unrhyw adeg, gan gynnwys asiant treth, os oes ganddynt un. Mae cyngor CThEF ynghylch sgamiau ar gael ar 51画鋼.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad

Bydd angen i gwsmeriaid sydd 但 chryptoasedion lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mewn punnoedd Sterling yn achos y canlynol:油

  • mae cyfanswm eu henillion trethadwy dros y lwfans rhydd o dreth blynyddol
  • maent yn cael cryptoasedion o gyflogaeth a Threth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd heb gael eu talu trwy TWE
  • mae cyfanswm eu hincwm dros y lwfans rhydd o dreth blynyddol, gan gynnwys incwm oddi wrth weithgareddau syn ymwneud 但 chrypto

Ewch i 51画鋼 ar gyfer arweiniad sut i dalu treth ar gryptoasedion.油

Yn ystod mis Ionawr, mae ein llinell gymorth yn rhoi help i gwsmeriaid sydd 但 chwestiynau ynghylch taliadau ac ad-daliadau Hunanasesiad, ac sydd angen cymorth wrth lenwi eu Ffurflen Dreth. Ar gyfer pob ymholiad arall, ewch ar-lein lle byddwch yn dod o hyd i arweiniad, fideos ac offerynnau a fydd yn eich helpu. Ewch i www.gov.uk/ffurflenni-treth-hunanasesiad.油

Mae CThEF am eich helpu i gael eich treth yn gywir. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael ar-lein, syn cynnwys:油油

  • bydd y cynorthwyydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, ac os na allwch chi ddod o hyd ir hyn rydych chin chwilio amdano, gallwch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd.
  • mae nodiadau arweiniad a thaflenni cymorth a yn rhoi gwybodaeth helaeth i chi os ydych wedich drysu.
  • gweminarau byw lle gallwch ofyn cwestiynau neu, os na allwch ymuno, gallwch wylio gweminarau wediu recordio ar alw.
  • ap CThEF a Chyfrif Treth Personol gallwch ddod o hyd ich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar unwaith, gwneud taliad Hunanasesiad, cael eich rhif Yswiriant Gwladol a chael eich incwm cyflogaeth a hanes eich cyflogaeth ar gyfer eich Ffurflen Dreth.
  • cymorth technegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF am help i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein
  • y diweddaraf drwy e-bost , fel na fyddwch chin collir wybodaeth ddiweddaraf am Hunanasesiad.
  • y diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol dilynwch CThEF ar Twitter @HMRCcustomers i gael y diweddaraf am wasanaethau Hunanasesiad ac i gael nodynnau atgoffa defnyddiol.
  • Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch ich helpu gyda Hunanasesiad, gallwch gysylltu 但 sefydliad yn y sector gwirfoddol neu gymunedol syn gallu rhoi help a chyngor i chi, neu gallwch gael cymorth yn uniongyrchol gan CThEF.

Gall y lleiafrif bychan o gwsmeriaid y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, neu syn cael trafferth ymgysylltu 但 ni drwy ddull digidol barhau i siarad ag ymgynghorydd.油

Dylai cwsmeriaid gynnwys manylion eu cyfrif banc wrth gyflwyno Ffurflen Dreth, fel y gall CThEF eu had-dalun gyflym ac yn ddiogel pe bai angen gwneud hynny.油

Maen bwysig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau iw hamgylchiadau. Gall cwsmeriaid ddefnyddio ap CThEF i ddiweddaru eu manylion gan gynnwys cyfeiriad neu enw newydd. Mae angen i gwsmeriaid hefyd roi gwybod i ni os ydynt wedi rhoir gorau i fod yn hunangyflogedig neu os oes angen iddynt newid eu manylion busnes. Gallant wneud hyn ar-lein yn 51画鋼.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Ionawr 2024