Stori newyddion

Y DU yn dod yn Aelod Cyswllt o Sefydliad Addysg De Ddwyrain Asia

Bydd aelodaeth y DU o Sefydliad Gweinidogion Addysg De Ddwyrain Asia (SEAMEO) yn helpu i gryfhau ei mentrau addysg yn Ne Ddwyrain Asia, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wrth iddo arwain dirprwyaeth y DU i 47fed cynhadledd y Cyngor yn Fietnam heddiw (20 Mawrth).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Maer DU wedi dod yn Aelod Cyswllt o SEAMEO sefydliad rhyngwladol a sefydlwyd ymysg llywodraethau gwledydd de ddwyrain Asia i hyrwyddo cydweithrediad rhanbarthol ym meysydd addysg, gwyddoniaeth a diwylliant.

Bydd yr aelodaeth yn caniat叩u ir DU atgyfnerthu ei pherthynas bresennol 但 rhwydwaith addysg De Ddwyrain Asia, ac i feithrin cysylltiadau addysg rhanbarthol newydd er mwyn dod 但 ffyniant ir holl wledydd syn aelodau o SEAMEO.

Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar ran Llywodraeth y DU yn uwchgynhadledd SEAMEO yn Hanoi lle cyfeiriodd at yr achlysur or DU yn ymuno 但 SEAMEO, ar manteision a ddaw o fod yn aelod.

Dywedodd:

Mae addysg yn golofn ganolog yn y berthynas sydd gennym eisoes gydag aelod-wladwriaethau unigol SEAMEO. Bydd ein haelodaeth yn ategur gwaith hwnnw. Ond bydd hefyd yn helpur DU i ddatblygu ei mentrau addysg ar sail ranbarthol, gan gymryd arweiniad or ffordd y mae aelod-wladwriaethau ASEAN yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn ysbrydolii gilydd.

Mae gan y DU gynnig deniadol iw wneud yng nghyswllt addysg. Mae gradd o brifysgol ym Mhrydain yn cynnig safon fyd-enwog a phrofiad diwylliannol cyfoethog. Rydym am ddefnyddio ehangder ac ansawdd ein system addysg i gryfhau rhagor ar ein cysylltiadau gyda De Ddwyrain Asia.

A bydd ein haelodaeth gyswllt o SEAMEO yn ein helpu i gyflawnir dyhead hwn. Maer cysylltiadau addysg rhwng y DU a Fietnam yn gryf iawn yn barod. Rydym eisoes yn darparu rhaglen uchelgeisiol mewn perthynas 但 hyfforddiant galwedigaethol ac eleni rydym wedi cytuno i lansio prifysgol rhwng y DU a Fietnam o safon ryngwladol yn Danang.

Ond rydym eisiau gwneud mwy. Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i weithio, nid yn unig gyda SEAMEO, ond ledled de ddwyrain Asia, gydar prif nod o fanteisio ar y buddion ehangach a ddaw yn sg樽l y cydweithrediad hwn.

Yn ystod ei ymweliad 但 Fietnam, cyfarfu Mr Jones hefyd 但r Cyfarwyddwr Cyffredinol Tuan yn y Weinyddiaeth Addysg a Hyfforddiant. Buont yn trafod y cysylltiadau addysg rhwng y DU a Fietnam, a chyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio.

Yn y cyfarfod hefyd yr oedd yr Athro Brian Foxon, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rhyngwladol Prifysgol Glynd典r syn cynrychioli buddiannau holl brifysgolion Cymru ar yr ymweliad hwn. Cymerwyd y cyfle ganddynt i ddisgrifio gwaith prifysgolion Cymru ar cynnig y maent yn gorfod ei wneud i fyfyrwyr o Fietnam syn gobeithio dod i astudio ir DU.

Mae Prifysgol Abertawe eisoes yn cydweithio gyda phrifysgolion Fietnam. Mae t樽m Gwasanaethau Hyfforddiant Saesneg y brifysgol eisoes wedi darparu hyfforddiant i 25 o swyddogion yng ngweinyddiaethau Fietnam yn ystod haf 2012, gydar gobaith y bydd rhagor o hyfforddiant yn cael ei gynnal. Mae gan Brifysgol Glynd典r hefyd gysylltiadau agos 但r wlad ac mae ganddi Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfleoedd Addysg Uwch gyda Chorfforaeth Teledu a Chyfryngau Fietnam.

Dywedodd yr Athro Foxon:

Mae ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru 但 chynhadledd SEAMEO yn rhoi neges glir ir rhanbarth fod prifysgolion Prydain yn wirioneddol awyddus i feithrin partneriaethau cryf gyda busnesau a phrifysgolion lleol.

Mae effaith ariannol y cysylltiadau hyn ar brifysgolion Prydain yn sylweddol. Mae ei ymweliad felly wedi agor drysau ar gyfer cael trafodaethau cynhyrchiol gydag asiantaethaur llywodraeth, busnesau rhanbarthol a phartneriaid addysg.

Ychwanegodd Mr Jones:

Maer DU, yn enwedig prifysgolion Cymru, yn gweld gwerth mewn partneriaethau rhyngwladol. Maent yn fwyfwy pwysig o ran ymchwil ac arloesi ac rydym yn awyddus i sicrhau partneriaethau ychwanegol rhwng Prifysgol Genedlaethol Fietnam a phrifysgolion yng Nghymru.

Ar hyn o bryd maer DU yn denu 13% or farchnad myfyrwyr addysg uwch rhyngwladol dim ond yn UDA y ceir mwy. Yn 2011/12, roedd 435,235 o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio yn y DU, 302,680 ohonynt o du allan ir UE.

Dywedodd Mark Harper, y Gweinidog Mewnfudo:

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi a chafwyd tri y chant o gynnydd y llynedd yn y ceisiadau am fisas myfyrwyr a noddir ar gyfer y sector prifysgolion. Yn Fietnam ei hun, cafodd dros 12,000 o fisas caniat叩u mynediad eu rhoi y llynedd ac roedd dros chwarter or rheinin fisas i astudio.

Does dim terfyn ar nifer y myfyrwyr a all ddod yma; gall prifysgolion gyflwyno eu profion iaith eu hunain; a gall graddedigion aros a gweithio os byddant yn dod o hyd i swydd ar lefel gradd. Maer DU ar agor ir myfyrwyr gorau a mwyaf disglair o bob rhan or byd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2013