Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn bwriadu cael Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrth y Senedd bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf erioed i Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Generic image of soldier

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru.

Wrth siarad yn nadl flynyddol Dydd G典yl Dewi yn y Senedd ddydd Iau 25 Chwefror, dywedodd Ysgrifennydd Cymru wrth ASau fod Llywodraeth y DU yn mynd ati i edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf i Gymru.

Nod Comisiynwyr Cyn-filwyr yw gwella bywydau a hyrwyddo buddiannau cyn-filwyr y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda chyn-filwyr ar sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol syn eu cynrychioli.

Ychwanegodd Mr Hart y byddair cynlluniaun gam pwysig iawn i gyn-filwyr yng Nghymru au teuluoedd ac y bydden nhwn helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth y DU o wneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydyn nin eithriadol o falch on cyn-filwyr o Gymru. Mae cyn-filwyr au teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.

Bydd recriwtio Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn cyfrannun helaeth at gynyddur gefnogaeth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Johnny Mercer, y Gweinidog dros Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:

Maer lluoedd arfog yn amddiffyn y Deyrnas Unedig gyfan ac felly maen iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyn-filwyr pan fyddan nhwn gadael y lluoedd arfog.

Byddai Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn gam pwysig ymlaen i gefnogi cyn-aelodaur lluoedd arfog yn y wlad ac maen cydnabod cyfraniad milwrol balch Cymru.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2021