Lansio Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yng Nghynllun Gweithredu newydd Strategaeth ar gyfer Cyn-filwyr Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cael ei benodi eleni.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei benodi eleni.
Bydd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn gweithio i wellar cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru, yn ogystal 但 chraffu ar bolis誰au perthnasol yn y wlad.
Maer r担l yn adeiladu ar lwyddiant rolau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a bydd yn golygu bod gan bob gwlad ddatganoledig gomisiynydd cyn-filwyr.
Daw hyn wrth ir Swyddfa Materion Cyn-filwyr gyhoeddi Cynllun Gweithredur Strategaeth ar gyfer Cyn-filwyr. Maer cynllun yn cynnwys 60 o ymrwymiadau o bob rhan or llywodraeth, yn cynnwys lansio r担l comisiynydd newydd Cymru i gefnogi cyn-filwyr, gan roi cyfanswm o dros 贈70 miliwn o gyllid.
Bydd y cynllun yn cynyddu cyflogaeth, yn gwella gwasanaethau iechyd a lles, yn ogystal 但 darparu data a dealltwriaeth gwell or gymuned cyn-filwyr.
Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog dros Wasanaethau Amddiffyn a Chyn-filwyr:
Bydd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn llais annibynnol ar faterion syn ymwneud 但 chyn-filwyr, ac yn helpu i hyrwyddo buddiannau cymuned y cyn-filwyr.
Ni waeth lle mae cyn-filwyr yn y DU, rydyn ni am iddyn nhw allu cael gafael ar gymorth or ansawdd gorau.
Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru, ac rydyn nin eithriadol o falch on cyn-filwyr. Mae ein cyn-filwyr au teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cymorth a pharch trwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.
Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cynyddu ac yn cydlynur cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion ar menywod syn gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog.
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:
Hoffwn groesawur penderfyniad i benodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Bydd hyn yn ychwanegu gwerth at y cyfoeth o gymorth a gwasanaethau rydyn nin eu darparu i gyn-filwyr yng Nghymru,
Er engrhaifft, gwasanaeth unigryw GIG Cymru i Gyn-filwyr, syn cefnogi cyn-filwyr sydd 但 phroblemau iechyd meddwl, a Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog syn rhoi cymorth i gyn-filwyr au teuluoedd gyda gwybodaeth am y cymorth lleol sydd ar gael mewn meysydd allweddol fel gofal iechyd a thai. Rydyn ni hefyd yn cefnogi elusennau i fynd ir afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac yn darparu adnoddau i helpu sefydliadau i gyflogi cyn-filwyr.
Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i ddarparu gwasanaethau a chymorth in cyn-filwyr yng Nghymru ac mae cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at hynny.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth i gyn-filwyr mewn meysydd datganoledig, fel gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr syn sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd lleol therapydd arbenigol i gyn-filwyr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi cynllun Lle Gwych i Weithio Llywodraeth y DU, yn ogystal 但r Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr.
Maer ymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredur Strategaeth ar gyfer Cyn-filwyr yn cynnwys:
- Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaeth gofal iechyd meddwl arbenigol GIG Cymru i Gyn-filwyr a gwasanaeth Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru (VTN) ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anafiadau corfforol cymhleth
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLO) a phartneriaid, gan gynnwys cydlynwyr atal hunanladdiad a hunan-niweidio rhanbarthol i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl
- Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn cyhoeddi copi newydd o Ganllawiau ar Gyfamod y Lluoedd Arfog; Blaenoriaeth mewn Gofal Iechyd i Gyn-filwyr.