Datganiad i'r wasg

Heddluoedd Cymru i recriwtio swyddogion newydd ymysg y 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol

Llywodraeth y DU yn cadarnhau targed recriwtio ar draws y pedwar llu heddlu yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref ei gweledigaeth ar gyfer plismona yn ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol

  • Bydd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gallu recriwtio swyddogion heddlu ym mlwyddyn gyntaf y cynnydd na welwyd ei debyg

  • 6,000 o heddlu newydd yn rhan or targedau recriwtio uchelgeisiol i gadw ein strydoedd yn ddiogel, yn cynnwys 302 o swyddogion heddlu drwyr pedwar llu yng Nghymru.

  • Maer cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, pun ai ydyn nhwn byw yn y ddinas neu yn y wlad - Ysgrifennydd Cartref

Heddiw cadarnhaodd y Swyddfa Gartref y targedau recriwtio heddlu ar gyfer blwyddyn gyntaf yr ymgyrch i gynyddu eu niferoedd o 20,000 yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae cynyddu nifer yr heddlun flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, syn darparu 贈750 miliwn i helpur heddlu i recriwtio hyd at 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol erbyn diwedd 2020-21, sef y cam cyntaf yn yr ymgyrch newydd hon i gynyddu niferoedd heddlu. Mae hyn yn deillio or cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn yr Adolygiad Gwariant.

Bydd heddluoedd yng Nghymrun gallu recriwtio cyfanswm o 302 o swyddogion heddlu newydd. Dymar niferoedd a fydd yn cael eu recriwtio yn y flwyddyn gyntaf:

  • Bydd Heddlu De Cymrun gallu recriwtio 136 o swyddogion heddlu newydd syn gynnydd o 4.6%

  • Bydd Heddlu Gogledd Cymrun gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd syn gynnydd o 4.3%

  • Bydd Heddlu Gwent yn gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd syn gynnydd o 4.7%

  • Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gallu recriwtio 42 o swyddogion heddlu newydd syn gynnydd o 3.7%

Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei gweledigaeth ar gyfer plismona ddoe wrth gadeirio ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, syn cynnwys cynrychiolwyr o blith swyddogion heddlu rheng flaen ac arweinwyr yr heddlu.

Meddai Priti Patel, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Maer cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, pun ai ydyn nhwn byw yn y ddinas neu yn y wlad.

Dyma flaenoriaeth y bobl a dyman union beth maer Llywodraeth yn ei ddarparu.

Maen golygu y bydd mwy na 300 o swyddogion heddlu ychwanegol drwy Gymru, gan helpu i leihau troseddau a chadw cymunedaun ddiogel.

Meddai Kevin Foster, Gweinidog Cymru yn Llywodraeth y DU:

Bydd y pedwar llu yng Nghymrun elwa ar yr adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, gan eu galluogi i fynd ir afael 但 throseddun fwy effeithiol a helpu i gadw pobl a chymunedaun ddiogel.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir bod rhoi mwy o swyddogion heddlu ar ein strydoedd fel rhan on hymgyrch recriwtio mwyaf mewn degawdau yn flaenoriaeth i ni.

Bydd yr holl swyddogion heddlu a gaiff eu recriwtio fel rhan or 20,000 yn ychwanegol at y rhai a gyflogwyd i lenwi swyddi gwag presennol. Maent hefyd yn ychwanegol at y swyddogion heddlu ychwanegol sydd eisoes yn cael eu recriwtio oherwydd y cynnydd o 贈1 biliwn mewn cyllid ir heddlu ar gyfer 2019-20, syn cynnwys arian o dreth y cyngor ac ar gyfer trais difrifol.

Bydd cyllid y Llywodraeth ar gyfer recriwtio yn 2020-21 yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant ac offer.

Ddoe clywodd y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yng Ngorffennaf i sbardunor ymgyrch recriwtio a materion plismona o bwys eraill, fod yr holl luoedd eisoes yn recriwtio a bod y wefan ar gyfer yr ymgyrch, Be a Force For All, wedii gweld fwy na 215,000 o weithiau.

Roedd Ffederasiwn yr Heddlu a Chymdeithas Arolygon yr Heddlu yn bresennol yn y bwrdd am y tro cyntaf, gan sicrhau ymrwymiad yr Ysgrifennydd Gwladol i swyddogion heddlu rheng flaen au huwch reolwyr gael eu cynrychioli.

Meddai John Apter, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn yr Heddlu:

Roedd y cyfarfod ddoe yn adeiladol, ac maen bwysig ein bod ni, fel y gymdeithas staff heddlu fwyaf, yn bresennol i sicrhau bod ein haelodaun cael eu cynrychioli.

Maen hen bryd inni fuddsoddi mewn plismona ac am y tro cyntaf gwyddom y niferoedd gwirioneddol o swyddogion heddlu ychwanegol fydd gan bob llu yn y flwyddyn nesaf.

Maer ffigurau hyn yn seiliedig ar y modelau fformwla ariannu bresennol ac er nad ywr dull yman berffaith, rwyn derbyn mai hwn ywr unig ateb sydd ar gael i sicrhaur niferoedd yn gyflym yn y flwyddyn gyntaf.

Bellach mae angen i ni sicrhau bod y fformwlan cael ei hailystyried yn y blynyddoedd nesaf i sicrhau dyraniad tecach o swyddogion heddlu ar draws bob llu, ond maen sicr yn ddechrau cadarnhaol a bydd yn rhoi hwb angenrheidiol i fy aelodau ar cymunedau y maen nhwn eu gwasanaethu.

Cyhoeddwyd targedau recriwtio heddiwn dilyn sefydlu Cronfa Strydoedd Mwy Diogel gwerth 贈25 miliwn.

Gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wneud cais am arian i atal byrgleriaeth a lladrata mewn mannau lle maer lefel uchaf o droseddu trwy gynlluniau a allai gynnwys ymyriadau i wella diogelwch cartrefi, fel gosod gwell cloeon a rhoi gatiau ar strydoedd cefn, a sicrhau bod strydoedd wediu goleuon well yn y nos, er enghraifft

Mae hefyd yn estyniad or cynllun treialu gan y Swyddfa Gartref iw gwneud yn symlach i luoedd ddefnyddio pwerau stopio a chwilio trais difrifol Adran 60 a chyhoeddi pecyn gweithredu gwerth 贈20 miliwn i fynd ir afael 但 gangiau cyffuriau syn gweithredu o amgylch y sir.

Hefyd cyhoeddodd y Swyddfa Gartref 贈10 miliwn o gyllid i gynyddu nifer y swyddogion heddlu syn cario gynnau Taser iw cadw eu hunain ar cyhoedd yn ddiogel a dywedodd y bydd cynlluniau ar gyfer cyfamod yr heddlun canolbwyntio ar ddiogelwch corfforol yr heddlu, eu hiechyd au llesiant a chefnogaeth ar gyfer eu teuluoedd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Hydref 2019