Ymchwil yn APHA

Rydym yn cyflawni gweithgareddau ymchwil a gwyliadwriaeth mewn perthynas ag ystod o glefydau bacterol, feirysol a pharasitig sy'n effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys bywyd gwyllt.


Mae llawer o weithgarwch gwyddonol APHA yn canolbwyntio ar ddiogelur DU rhag bygythiad ac effaith amrywiaeth eang o glefydau planhigion ac anifeiliaid a gwrthdrawiadau rhywogaethau eraill. Mae llawer or clefydau hyn yn rhai milheintiol syn golygu bod yr haint yn cael ei drosglwyddo o anifeiliaid i bobl.

Ymchwil wyddonol

Mae ein gwaith ymchwil yn darparu tystiolaeth wyddonol syn ein galluogi i roi cyngor arbenigol ac maen sail i waith datblygu polisi gan y llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, yr Undeb Ewropeaidd, Awdurdod Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Cymdeithas Iechyd Anifeiliaid y Byd a Sefydliad Iechyd y Byd am ein bod yn ganolfan gyfeirio ryngwladol ar gyfer ystod eang o glefydau.

Mae staff o APHA hefyd yn gweithio gydag academia, diwydiant, ffermwyr, milfeddygon a rheolwyr yn y maes ac yn cynnal gweithgareddau gwyliadwriaeth er mwyn canfod ac ymateb i glefydau egsotig, ac er mwyn nodi ac asesu clefydau newydd, a rhai syn dod ir amlwg, mewn da byw ac mewn bywyd gwyllt. Gweler i gael rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd an gweithgareddau gwyliadwriaeth.

Maer asiantaeth yn gwneud ystod eang o waith ymchwil ar amrywiaeth o glefydau syn effeithio ar blanhigion, anifeiliaid a bywyd gwyllt gan gynnwys pathogenau syn dod ir amlwg, clefydau feirysol endemig ac egsotig, TB buchol, bacteria a gludir mewn bwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae prif feysydd ein gwaith ymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • twbercwlosis buchol a datblygu brechlynnau a phrofion diagnostig ar gyfer gwartheg
  • clefydau bacterol a diogelwch bwyd gan gynnwys bacteria a gludir mewn bwyd megis Salmonela, campylobacter ac E.coli, pathogenau bacterol megis Brwsela a Mycoplasma, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • clefydau feirysol gan gynnwys feirysau adar a mamalaidd megis clefyd Newcastle, y ffliw a chlefyd clasurol y moch, feirysau milheintiol a feirysau bywyd gwyllt megis y gynddaredd a chlefydau a gludir gan fectorau
  • enseffalopath誰au sbyngffurf trosglwyddadwy
  • rheoli bywyd gwyllt gan gynnwys clefydau bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol, datblygu dulliau ac achosion o wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt

Y strategaeth wyddoniaeth ac adolygu

Mae ein strategaeth wyddoniaeth, 2021 i 2026 yn amlinellu sut mae gwyddoniaeth wedii gwreiddio ym mhob rhan o APHA ac yn nodi ei bod yn sail ir dystiolaeth ar cyngor arbenigol a roddir i gwsmeriaid polisi, diwydiant a rhanddeiliaid wrth godi ymwybyddiaeth o fygythiadau, eu diffinio au lliniaru.

Gwyddoniaeth ryngwladol

Cafodd y Rhaglen Ddatblygu Ryngwladol ei sefydlu yn 2018 er mwyn ymateb i risgiau a chyfleoedd Brexit a datblygu strategaethau ymgysylltu newydd ar lefel ryngwladol i gefnogi cytundebau masnach byd-eang y DU yn y dyfodol. Fel rhan or gwaith, mae nifer o feysydd polisi 但 blaenoriaeth wedi cael eu hadolygu, gan gynnwys trefniadau masnach a ffiniau, cyflenwyr brechlynnau, ac mae canolfannau labordy cyfeirio rhyngwladol newydd wedi cael eu sefydlu.

Mae APHA wedi ennill enw da ers tro fel un or canolfannau arbenigol gorau yn y byd o ran gwyddor filfeddygol a chaiff hyn ei gadarnhau gan ein statws fel (PDF, 482 KB, 1 page) ar gyfer ystod eang o glefydau heintus ac anheintus mewn anifeiliaid. Maer asiantaeth yn darparu gwasanaeth ymgynghori milfeddygol a gwyddonol i wledydd ledled y byd gan gynnig:

  • profion cadarnhau
  • hyfforddiant technegol ac ymgynghoriaeth arbenigol
  • datblygu a safoni dulliau diagnostig er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben i ganfod mathau newydd o bathogenau

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith datblygu rhyngwladol, cysylltwch 但 APHAIDT@apha.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

  • - Labordy Cyfeirio TSE Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd
  • - Labordy Cyfeirio Ffliw Anifeiliaid Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd/Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys
  • (PDF, 1.77 MB, 2 pages)

Labordy Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Trichinella ac Echinococcus

Mae Labordy Cyfeirio Cenedlaethol y DU ar gyfer Trichinella ac Echinococcus yn gyfrifol am y canlynol:

  • profion diagnostig ar gyfer moch a baeddod gwyllt i ganfod y parasit milheintiol Trichinella sp.
  • ymarfer gwyliadwriaeth blynyddol y DU ar gyfer y parasit Echinococcus multilocularis

Cafodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ei dynodin gyfrifol am gynnal safonau profion Trichinella yn y DU gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Caiff hyn ei ddisgrifio yn Magnetic stirrer method for pooled sample digestion yn .

Darllenwch fwy am y (PDF, 159 KB, 3 pages).

Adroddiadau

Mae APHA yn llunio adroddiadau blynyddol ar gyfer y Labordy Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Trichinella ac Echinococcus.

Mae APHA hefyd yn darparu gwybodaeth i gefnogi labordai hylendid cig, gan gynnwys newyddion a gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer dulliau profi.

Cysylltu

National Reference Laboratory for Trichinella and Echinococcus
Animal and Plant Health Agency
York Biotech Campus
York
YO41 1LZ
E-bost: nrl.parasitology@apha.gov.uk

Blog gwyddoniaeth

Darllenwch i ddysgu mwy am ein gwaith gwyddonol an gwaith ymchwil yn APHA. Gallwch hefyd bob tro y caiff y blog ei ddiweddaru.

Papurau gwyddonol

Papurau gwyddonol a gyhoeddir gan APHA

Cysylltu

Os bydd gennych ymholiad yngl天n 但n gwaith ymchwil neu ein labordy cyfeirio, anfonwch e-bost i apha.corporatecorrespondence@apha.gsi.gov.uk.

Gwasanaethau masnachol

Mae Adran Wyddonol APHA yn cynnig ystod o wasanaethau a chynhyrchion gwyddonol masnachol i gwsmeriaid y tu allan ir llywodraeth.

Mae manylion llawn ar gael ar .

Pwyllgor Moeseg

Er mwyn i APHA gyflawni ei chenhadaeth o ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd ar economi bydd angen gwneud gwaith ymchwil gwyddonol ir clefydau syn effeithio ar hyn.

Mae rhan or gwaith ymchwil yn cynnwys defnyddio anifeiliaid. Er mwyn gwneud hyn, mae APHA yn cydymffurfio 但 Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. Mae ganddi hefyd god ymarfer, gweithdrefnau a rhaglenni hyfforddiant i ddiffinio a gorfodir safonau uchel y maen rhaid ir asiantaeth ymgyrraedd atynt ar gyfer y math hwn o waith.

Mae gan APHA ei Phwyllgor Moeseg ei hun ac y maen rhaid iddo adolygu a chymeradwyo pob arbrawf syn cynnwys defnyddio anifeiliaid at ddiben gwyddonol cyn eu dechrau. Ymhlith yr aelodau mae milfeddygon, staff gofalu am anifeiliaid, bioystadegwr, gwyddonwyr ac unigolion nad ydynt yn wyddonwyr or asiantaeth gyfan. Mae hefyd aelodau lleyg allanol or pwyllgor, a recriwtiwyd or gymuned leol, syn dod 但 safbwynt annibynnol ir gweithrediadau.

Maer Pwyllgor Moeseg yn sicrhau bod y 3 cham (3 Rs*) wediu cymhwyso at y cynnig astudio:

  • cyfnewid os gellir defnyddio arbrawf amgen syn ymwneud 但 rhywbeth anfyw yn lle arbrawf ar anifeiliaid yna maen rhaid gwneud hynny

  • lleihau maen rhaid defnyddior nifer lleiaf o anifeiliaid ag syn gyson 但 chynhyrchu canlyniadau ystyrlon

  • mireinio maen rhaid i bob agwedd ar ofalu am anifeiliaid au defnyddio o ddechrau hyd at ddiwedd yr astudiaeth gael ei dylunio i leihaur effaith ar les yr anifeiliaid

Ar 担l y cam hwn, mae pob astudiaeth arfaethedig ynan ddarostyngedig i ddadansoddiad o niwed-budd, pan gaiff y niwed a achosir ei gymharu 但 buddiannau posibl y gwaith. Dim ond pan fydd y buddiannau posibl yn fwy nar niwed y caiff prosiect ei gyfiawnhau a dim ond bryd hynny y bydd APHA yn cynnal astudiaethaun defnyddio anifeiliaid

Maer Pwyllgor Moeseg ar rhai hynny syn cymryd rhan yn y gwaith hefyd yn cwblhau dadansoddiadau 担l-weithredol or arbrofion er mwyn sicrhau y caiff y buddiannau eu cyflawni, ac er mwyn gwellar gwaith o fireinio arbrofion yn barhaus.

Mae APHA wedi llofnodir .

Darllenwch am ddefnydd APHA o anifeiliaid o dan y Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol)(ASPA).

*Russell W M S a Burch R L (1959) The Principles of Humane Experimental Technique. Methuen: Llundain.

Dangosfyrddau ymchwiliadau i glefydau anifeiliaid hysbysadwy

Mae dangosfyrddau ymchwiliadau i glefydau anifeiliaid hysbysadwy yn crynhoi nifer yr ymchwiliadau y mae APHA wediu cyflawni ar gyfer clefydau anifeiliaid hysbysadwy egsotig.

Maer prif ddangosfwrdd yn dangos data am bob ymchwiliad a gwblhawyd, tra bod y dangosfyrddau syn benodol i rywogaeth (gwartheg, defaid, geifr a dofednod) yn dangos yr ymchwiliadau hyn yn fanylach.

Edrychwch ar .

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau yngl天n 但r dangosfwrdd, anfonwch e-bost i APHAExperimentStats@apha.gsi.gov.uk.

Dysgwch fwy am glefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid.