Cynllun iaith Gymraeg
Cynllun Iaith Gymraeg y Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
珂温艶r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn helpu i sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor. 珂温艶r DCMS yn diogelu ac yn hyrwyddo ei threftadaeth ddiwylliannol ac artistig, ac yn helpu busnesau a chymunedau i dyfu drwy fuddsoddi mewn arloesi a thrwy dynnu sylw at Brydain fel lle gwych i ymweld ag ef. 珂温艶r DCMS yn helpu i roi mantais unigryw ir DU ar y llwyfan byd-eang, gan ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd.
Ynghylch Cynllun Iaith Gymraeg y DCMS
Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Fwrdd yr Iaith Gymraeg i hybu a hwylusor defnydd or Gymraeg, a darparodd ar gyfer paratoi cynlluniau gan gyrff cyhoeddus a fyddain rhoi effaith ir egwyddor y dylid trin y Gymraeg ar Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Darparodd y Ddeddf y gallai personau syn gweithredu ar ran y Goron ddewis a ddylen nhw baratoi Cynllun Iaith Gymraeg or fath ac fe benderfynodd y DCMS wneud hynny. Daeth y cynllun i rym ar 8 Mehefin 2007. Ers hynny maer DCMS wedi diwygioi Chynllun Iaith Gymraeg ddwywaith, ac fei cymeradwywyd ddiwethaf gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 04/04/2024.
Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Senedd bellach) Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i foderneiddior fframwaith cyfreithiol yngl天n 但 defnyddior Gymraeg. Roedd y Mesur yn cynnwys darpariaethau i ddisodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg 但 Chomisiynydd y Gymraeg a disodli Cynlluniau Iaith 但 safonau ymddygiad yngl天n 但r Gymraeg, syn cael eu hadnabod fel safonaur Gymraeg. Er hynny, mae Cynlluniau Iaith yn parhau mewn grym nes eu bod wediu disodli gan safonau Cymraeg syn berthnasol ir person dan sylw. Nid ywr DCMS o dan ddyletswydd ar hyn o bryd i gydymffurfio 但 safonaur Gymraeg ac mae wedi diweddaru ei Chynllun Iaith a baratowyd o dan Adran 21 o Ddeddf 1993 [ac yn unol 但 chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gymraeg o dan Adran 9 or Ddeddf].
珂温艶r Cynllun yn ymdrin 但r gwasanaethau y maer DCMS yn eu darparu ir cyhoedd yng Nghymru a sut maer DCMS yn bwriadu rhoi effaith ir egwyddor y dylid trin y Gymraeg ar Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Yn y Cynllun, maer term cyhoeddus yn golygu unigolion, personau naturiol a chyfreithiol, gan gynnwys cyrff corfforaethol. Maen cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu adran or cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol or cyhoedd. 珂温艶r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr ac eraill syn cynrychioli cwmn誰au cyfyngedig hefyd wediu cynnwys o fewn ystyr y term cyhoeddus. Er hynny, nid ywn cynnwys personau syn gweithredu mewn swyddogaeth syn cynrychiolir Goron, y Llywodraeth neur Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw personau syn cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus yn dod o fewn ystyr y gair cyhoeddus pan f担nt wrthin cyflawnir swyddogaethau swyddogol hynny.
Ynghylch y DCMS
Nod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yw sbarduno twf, cyfoethogi bywydau a hyrwyddo Prydain dramor. 珂温艶r DCMS yn helpu i greu economi syn arwain y byd; maer Adran yn hybu treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddydol a chwaraeon y DU; ac maer DCMS yn gyfrifol am adeiladu cymdeithas sifil syn fwy ac yn gryfach.
珂温艶r DCMS yn hanfodol ar gyfer creu cyfleoedd economaidd, arloesedd, ac ysbrydoliaeth a mwynhad i bawb. Gwerth y sectorau elusennol, diwylliannol, cyfryngau a chwaraeon yw 贈145 biliwn (8% o werth ychwanegol gros (GVA) y DU yn 2022) ac maer sectorau hyn yn cefnogi bron pedair miliwn o swyddi. Mae ein diwydiannau creadigol yn werth mwy ynddynt eu hunain ir economi nar sectorau olew a nwy, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu cerbydau, ac awyrofod gydai gilydd.
珂温艶r DCMS yn arwain agenda syn gosod Prydain ar lwyfan y byd (digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol, treftadaeth a thwristiaeth or radd flaenaf etc.). Mae sectoraur DCMS yn chwarae rhan hollbwysig mewn datblygiad a llesiant economaidd a chymdeithasol lleol a rhanbarthol. Hefyd maer DCMS yn arwain ar hybu gwirfoddoli, dyngarwch, gweithredu cymunedol a chymdeithasol, busnes syn gyfrifol yn gymdeithasol ar Gwasanaeth Cenedlaethol i Ddinasyddion.
Canlyniadau blaenoriaethol yr Adran ywr canlynol:
-
TWF Sbarduno twf ar draws ein holl sectorau, gan gynnwys diwydiannau creadigol a thwristiaeth, a rhoi cymorth iddyn nhw i godi gwastad ein heconom誰au lleol.
-
CYFLE Creu cyfleoedd i bobl ifanc, a chyfoethogi cymunedau, ynghyd 但n cyrff cyhoeddus an sector elusennau, drwy ehangu mynediad at chwaraeon llawr gwlad, celfyddydau a threftadaeth, llyfrgelloedd a gwasanaethau ieuenctid, a thrwy godi nifer y bobl syn cymryd rhan yn y rhain.
-
BYD-EANG Arddangos y DU ir byd a rhoi hwb in henw da ledled y byd drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr ar draws y wlad.
-
CYFLAWNI Cyflawni diwygiadau i wneud ein sector cyfryngau sydd or radd flaenaf yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd ar gyfer gamblo, ac i amddiffyn rhagoriaeth a chynaliadwyedd ariannol p棚l droed Lloegr, gan roi cefnogwyr wrth wraidd clybiau.
Lluniwyd Concordat syn diffinio gweithdrefnau gweithredol a gwaith rhwng y DCMS ar Senedd. Mae hwn yn berthnasol i faterion fel gweithio ar y cyd a chydweithredu rhwng y ddau gorff. Bydd penderfyniadau ar rannu cyfrifoldeb dros y ddarpariaeth Gymraeg yn cael eu gwneud drwy ymgynghori 但r Senedd a thrwy gyfeirio at y Concordat.
Er bod llawer o feysydd cyfrifoldeb y DCMS wediu datganoli ir Senedd, yr Adran syn dal i fod yn gyfrifol am nifer o feysydd polisi neilltuedig. 珂温艶r rhain yn cynnwys polisi atal cyffuriau, trwyddedu adloniant cyhoeddus, darlledu, dosbarthiadau ffilmiau, y deddfau gamblo, y Loteri Genedlaethol, a diogelwch meysydd chwaraeon (ar gyfer meysydd syn cael eu defnyddio yng nghynghrair p棚l-droed Lloegr a Stadiwm y Principality). Mae nifer o fentrau ar lefel y DU wediu cadw hefyd e.e. Derbyniadau yn Lle Treth, Cynllun Indemniad y Llywodraeth ar Hawliau Benthyg ir Cyhoedd. Bydd polis誰aun dal i gael eu hadolygu wrth gael eu creu o ran eu perthnasedd i bobl syn siarad Cymraeg o dan yr egwyddorion cyffredinol.
Cyrff cyhoeddus y DCMS
Nid ywr Adran yn darparu bron dim gwasanaethau yn uniongyrchol ir cyhoedd ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Darperir y rhan fwyaf o wasanaethau ir cyhoedd drwy gyrff cyhoeddus y DCMS. Adeg cyhoeddir Cynllun hwn, mae gan y DCMS 42 o gyrff cyhoeddus, syn amrywio o Amgueddfeydd Cenedlaethol i gyrff cynghori bach, i gyllidwyr cenedlaethol a rheoleiddwyr mawr. Mae hyn yn cynnwys 15 o amgueddfeydd; y Llyfrgell Brydeinig; rheoleiddwyr fel y Comisiwn Hapchwarae; a chyrff ariannu cenedlaethol fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 珂温艶r Adran yn gyfrifol am Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn y DU ac, or herwydd, mae ganddi berthynas uniongyrchol 但 Sianel Pedwar Cymru (S4C), syn darlledu ledled Cymru yn y Gymraeg.
Cyrff cyhoeddus y DCMS sydd 但u Cynlluniau Iaith eu hunain yw: y Comisiwn Elusennau, y Comisiwn Hapchwarae, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac UK Sport.
Unig gyrff cyhoeddus y DCMS syn dod o dan safonaur Gymraeg yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y BBC ac S4C.
Er bod y cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn canllawiau polisi bras a bennir gan y Gweinidogion, mater i Brif Weithredwr pob corff ywr gweithredu o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithredur mesurau yn Neddf yr Iaith Gymraeg. Pan nad oes gan gyrff cyhoeddus eu Cynlluniau Iaith eu hunain neu pan nad ydynt yn dod o dan safonaur Gymraeg, bydd y DCMS yn cefnogi ac yn annog y cyrff cyhoeddus perthnasol i fabwysiadu egwyddorion y Cynllun Iaith hwn. Pan fon gymwys, bydd y DCMS yn ychwanegu cymal ar gydymffurfio 但i Chynllun Iaith at gytundebau rheoli cyrff cyhoeddus, lle maent yn gweithredu yng Nghymru neun cynnig gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru, wrth ir cytundebau hynny gael eu diwygio. Bydd y DCMS yn annog cyrff cyhoeddus i baratoi eu Cynlluniau Iaith eu hunain os bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdanynt.
Cynllunio Gwasanaethau au Darparu
Bydd polis誰au, mentrau a gwasanaethaur DCMS yn gyson 但r Cynllun Iaith. Byddant yn cefnogir defnydd or Gymraeg a, lle bynnag y bon bosibl, byddant yn helpur cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddior Gymraeg fel rhan ou bywydau o ddydd i ddydd.
Tynnir sylw holl uwch-reolwyr y DCMS at y Cynllun Iaith drwy ddarparu gwybodaeth ar fewnrwyd y DCMS yn ogystal 但 thrwy hyfforddiant. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn amlinellur egwyddorion syn sail i Ddeddf yr Iaith Gymraeg. T樽m Datganolir DCMS fydd y pwynt cyfeirio ar gyfer adroddiadau ynghylch cydymffurfio i Gomisiynydd y Gymraeg.
Wrth lunio a darparu polis誰au a mentrau syn effeithio ar Gymru bydd y DCMS yn gwneud y canlynol:
- sicrhau bod y canlyniadau ieithyddol wediu hasesu
- sicrhau bod cynnwys polis誰au a mentrau or fath yn gyson 但r Cynllun Iaith, ac nad ydynt yn tanseilior Cynllun Iaith na Chynlluniau Iaith sefydliadau eraill
- sicrhau bod y mesurau a geir yn y Cynllun Iaith hwn yn cael eu cymhwyso hefyd at bolis誰au a mentrau newydd pan g但nt eu rhoi ar waith, yn ogystal 但r polis誰au syn bodoli eisoes
- asesu y bydd polis誰au, codau ymarfer, canllawiau ayb syn bodoli eisoes yn cael eu hadolygu cyn gynted 但 phosibl, os canfyddir eu bod yn groes i ddarpariaeth Deddf yr Iaith Gymraeg ar Cynllun
- hybu a hwylusor defnydd or Gymraeg lle bynnag y bon ymarferol
- sicrhau y bydd dogfennau ymgynghorir DCMS yn trafod y gydberthynas rhwng y Gymraeg ar polis誰au, y mentrau ar gwasanaethau syn cael eu datblygu, lle bynnag y bo hynnyn bosibl
- symud yr Adran yn agosach at gyflawnir nod o gydraddoldeb llawn ar bob cyfle
- cyfrannu at ddatblygu neu gyflawni polis誰au a mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth a arweinir gan sefydliadau eraill mewn dull syn gyson 但r Cynllun Iaith hwn
- manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth newydd yn cefnogi defnyddior Gymraeg
Darparu Gwasanaethau
Fel y nodwyd or blaen, nid ywr Adran yn darparu bron dim gwasanaethaun uniongyrchol ir cyhoedd, boed yng Nghymru neu weddill y DU. Darperir y rhan fwyaf o wasanaethau ir cyhoedd drwy Gyrff Cyhoeddus (er enghraifft, amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol). Bydd gwasanaethaur DCMS ir cyhoedd yng Nghymru yn cael eu darparu yn unol 但 chynnwys y Cynllun hwn. Byddwn yn rhoi gwybod ir cyhoedd pan fydd gwasanaethau ar gael yn Gymraeg.
Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gyfartal o ran ansawdd a ch但nt eu darparu o fewn yr un amserlen. Caiff hyn ei wneud yn glir pryd bynnag y bydd y DCMS yn gwneud datganiadau ar ansawdd gwasanaethau a chyfle cyfartal.
Ein Swyddogaethau Rheoleiddo a Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Drydydd Part誰on
Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd part誰on yn gyson 但r rhannau perthnasol or Cynllun hwn, pan for cytundebau neur trefniadau hynnyn ymwneud 但 darparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru. Byddwn yn monitro ac yn sicrhau bod trydydd part誰on yn darparur gwasanaethau hyn yn unol 但r ymrwymiadau a geir yn y Cynllun Iaith hwn.
Dyfarnu Grantiau a Benthyciadau
Pan fyddwn yn dyfarnu grantiau a benthyciadau ar gyfer gweithgareddau sydd iw cynnal yng Nghymru, byddwn yn cynnwys amodau yngl天n 但 defnyddior Gymraeg. Wrth wneud hyn, byddwn yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn hyn o beth.
Ymdrin 但r Cyhoedd Cymraeg
Gohebiaeth
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, yn yr iaith honno y byddwn yn ymateb. Bydd yr amserlen darged ar gyfer ymateb i ohebiaeth Gymraeg, ar math o ateb a anfonir, yr un fath ag ar gyfer ymateb i ohebiaeth Saesneg.
Bydd y DCMS yn dechrau gohebu yn Gymraeg ag unigolyn, gr典p neu sefydliad y gwyddys eu bod yn gweithio yn Gymraeg yn bennaf neu ei bod yn well ganddynt gael llythyrau yn Gymraeg. Rydym wedi datblygu system i gofnodi dewis iaith, fel bod yr ohebiaeth ddilynol yn Gymraeg pan fydd y dewis hwnnwn hysbys, oni bai bod yr unigolyn neur sefydliad dan sylw yn nodi fel arall.
Bydd dogfennau a amgaeir gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog, pan fyddant ar gael. Bydd dogfennau a amgaeir gyda llythyrau Cymraeg yn Gymraeg neun ddwyieithog, pan fyddant ar gael. Bydd yr uchod yn gymwys ar gyfer gohebiaeth e-bost yn ogystal 但 gohebiaeth ar bapur. Bydd pob gohebiaeth Gymraeg a anfonir gennym ar ffurf copi caled yn cael ei llofnodi.
Os byddwn yn cyhoeddi cylchlythyrau neu lythyrau safonol ir cyhoedd yng Nghymru byddwn yn gwneud hynnyn ddwyieithog.
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Pan fo ceisiadaun cael eu gwneud o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, byddwn yn cyfieithur ymateb ir Gymraeg ar yr amod bod nifer y geiriau sydd iw cyfieithu yn llai na chant.
Llythyrau Penderfynu
Os bwriedir i lythyr penderfyniad gyfleu polisi i gynulleidfa lawer ehangach nar rhai syn uniongyrchol gysylltiedig 但r ymchwiliad, neu unrhyw weithdrefn statudol arall, bydd y DCMS yn ystyried a ddylid ei drin, o dan y Cynllun Iaith hwn, fel cyhoeddiad.
Cyfathrebu dros y Ff担n
Oherwydd lleoliadaur DCMS, ni fyddain ymarferol cynnal sgyrsiau ff担n yn Gymraeg. Trefnir bod llinellau cymorth dros y ff担n, neu gyfleusterau tebyg, i roi gwybodaeth, gwasanaethau neu gymorth ir cyhoedd yn Gymraeg ar gael os bydd gan y mater ap棚l eang ac os ywn berthnasol ir cyhoedd yng Nghymru. Lle nad yw hyn yn wir, rhoddir gwybod i aelodau or cyhoedd syn dymuno cyfathrebu 但r DCMS yn Gymraeg eu bod yn gallu gwneud hynny drwy lythyr neu e-bost.
Cyfarfodydd Cyhoeddus
Nid ywr DCMS yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ymchwiliadau na gwrandawiadau yn aml. Os caiff cyfarfodydd or fath eu cynnal o dan arweiniad y DCMS, au bod yn cael eu cynnal yng Nghymru, darperir gwasanaeth cyfieithu oni bai bod y DCMS wedi cael gwybod bod pob cyfranogwr yn debygol o ddefnyddior un iaith. Bydd gwahoddiadau a hysbysebion cyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog a naill ain nodi bod cyfleusterau cyfieithu ar gael neun gwahodd y cyhoedd i roi gwybod ir DCMS ymlaen llaw ym mha iaith y dymunant siarad. Bydd y DCMS yn rhoi gwybod ir rhai syn dod i gyfarfodydd cyhoeddus pan fydd cyfleusterau cyfieithu ar gael ac yn annog cyfraniadau yn Gymraeg.
Arfer y DCMS fydd darparu papurau a gwybodaeth arall ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg. Oherwydd lleoliadaur DCMS, fel arfer ni fyddain ymarferol cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb 但r cyhoedd yn Gymraeg, ond byddair DCMS yn ceisio darparu cyfieithiad pe baem yn asesu bod angen hynny, gan gymryd i ystyriaeth y fforwm, trefnwyr y digwyddiad, ar rhai a fyddain bresennol.
Ymwneud 但r cyhoedd yng Nghymru mewn ffyrdd eraill
Pan fydd y DCMS yn cynnal arolygon cyhoeddus, yr arfer fydd sicrhau bod pob agwedd ar y cyfathrebu 但r cyhoedd yn ddwyieithog. Pryd bynnag y bon ymarferol, gofynnir i ymatebwyr a fyddain well ganddynt ymateb ir arolwg yn Gymraeg neu Saesneg. Pan fydd y DCMS yn trefnu seminarau, cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau tebyg ir cyhoedd, bydd y DCMS yn gwneud trefniadau yn lleol iw darparu yn Gymraeg pan fydd yr Adran yn asesu bod angen hynny, gan gymryd i ystyriaeth y fforwm, trefnwyr y digwyddiad, ar rhai a fydd yn bresennol.
Wyneb Cyhoeddus yr Adran
Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd, Arddangosfeydd a Hysbysebion
Bydd deunydd cyhoeddusrwydd, gwybodaeth ir cyhoedd, deunydd arddangos a deunydd hysbysebu y maer DCMS yn eu defnyddio yng Nghymru (er mwyn targedur cyhoedd) yn cael eu cynhyrchun ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n. Os oes rhaid cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd. Os cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n, bydd y naill ar llall yn cynnwys neges yn nodi bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.
Bydd unrhyw hysbysebion a osodir mewn papurau newydd (neu ddeunydd tebyg) Saesneg, a ddosberthir yn bennaf neun gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog neun ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n. Bydd y ddwy fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg, bydd hysbysebion yn Gymraeg yn unig.
Bydd hysbysebion ar y teledu, yn y sinema ac ar y radio syn cael eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Bydd ymgyrchoedd ar y teledu syn ymddangos ar S4C yn ystod oriau rhaglenni Cymraeg yn Gymraeg. Bydd ymgyrchoedd radio a ddarlledir yn ystod rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol yn Gymraeg. Bydd y DCMS yn osgoi defnyddio is-deitlau Cymraeg, neu dybio hysbysebion yn Gymraeg (ac eithrio trosleisiadau).
Pan fyddwn yn sefydlu mecanweithiau (e.e. llinellau ff担n, cyfryngau cymdeithasol) i dderbyn gwybodaeth oddi wrth y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg.
Cyhoeddiadau
Bydd y DCMS yn cyhoeddi deunyddiau sydd ar gael ir cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn amodol ar gerdyn sgorio* y cytunir arno gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Caiff deunyddiau eu cyhoeddi fel un fersiwn ddwyieithog, yn hytrach nag ar wah但n yn Gymraeg a Saesneg, pryd bynnag y bon ymarferol ac yn gost-effeithiol gwneud hynny. Os bydd rhaid cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n (er enghraifft, pan fyddai un ddogfen yn rhy hir neun rhy swmpus), bydd y ddwy fersiwn or un maint ac ansawdd. Bydd y ddwy fersiwn yn nodin glir fod y deunydd ar gael yn yr iaith arall hefyd. Os nad yw ar gael yn rhad ac am ddim, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na phris cyhoeddiad mewn un iaith a bydd pris fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n yr un peth. Bydd yr uchod yn gymwys hefyd i ddeunydd sydd ar gael yn electronig ar wefan y DCMS ar 51画鋼 neu mewn fformatau eraill.
*Defnyddir y cerdyn sgorio Iaith Gymraeg, fel y cytunwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, fel arweiniad i swyddogion yn y DCMS wrth gynhyrchu testun neu ddogfennau cyhoeddus. Nid ywr cerdyn sgorio hwn yn berthnasol yn achos ymateb i ohebiaeth oddi wrth y cyhoedd mae hynnyn cael ei gwmpasu mewn man arall yn y cynllun hwn.
Y Rhyngrwyd, Gwefannau ar Cyfryngau Cymdeithasol
珂温艶r DCMS ai chyrff cyhoeddus yn gyfrifol am uwchlwytho testun a dogfennau iw hadrannau penodol ar wefan 51画鋼, a ddynodir 但 logo/enwr DCMS (neu logo/enwr Corff Cyhoeddus perthnasol) a welir ar frig y tudalen. Bydd y DCMS yn uwchlwytho gwybodaeth Gymraeg ir tudalennau hyn fel y bon briodol (er enghraifft pan for cynnwys yn debygol o fod yn berthnasol i bobl Cymru), gan bwyso a mesur fesul achos a chan ddefnyddioi cherdyn sgorio. Mae rhai targedau penodol ar gyfer cyfieithu ir Gymraeg ar ei gwefan iw gweld yn ei chynllun gweithredu. Pryd bynnag maer DCMS yn gosod cyhoeddiadau Saesneg ar ei gwefan, bydd y fersiynau Cymraeg yn cael eu gosod ar yr un pryd, os ydynt ar gael.
Wrth ddylunio gwefannau newydd, neu wrth ailddatblygu ei gwefannau presennol, bydd y DCMS yn ystyried canllawiau Comisiynydd y Gymraeg yngl天n 但 datblygu gwefannau.
珂温艶r DCMS yn gyfrifol hefyd am nifer o wefannau yn y cyfryngau cymdeithasol, ac maen cyhoeddi gwybodaeth ar y rhain yn Gymraeg pan fo hynnyn benodol berthnasol yng Nghymru (e.e. cyhoeddiad lle mae yna weithgaredd a/neu syn debygol o effeithio ar bobl yng Nghymru, neu bolisi sydd 但 diddordeb ar draws y DU sydd 但 diddordeb cryf i bobl yng Nghymru a/neu syn debygol o effeithio arnynt).
Ffurflenni ar Deunydd Esbonio Perthynol
Arfer y DCMS fydd sicrhau bod pob ffurflen a deunydd esboniadol perthynol iw defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog, gydar fersiynau Cymraeg a Saesneg gydai gilydd mewn un ddogfen. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol a gyhoeddir ar ei gwefannau.
Pan fo angen ffurflenni, rheolau neu weithdrefnau rhagnodedig iw defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru, cynhyrchir y rhain yn Gymraeg neun ddwyieithog. Pan fydd y DCMS yn rhoi gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg o ffurflenni a anfonir at y cyhoedd, bydd y DCMS yn gwneud hynny yn Gymraeg. Pan fydd y DCMS yn rhoi gwybodaeth ar ffurflenni dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, gwnaiff y DCMS hynnyn ddwyieithog oni bai ei bod yn gwybod y byddain well gan bobl gael yr wybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig. Pan fydd sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ei rhan, bydd y DCMS yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn unol 但r uchod.
Hysbysiadau Swyddogol, Hysbysiadau Cyhoeddus a Hysbysiadau Recriwtio Staff
Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn papurau newydd (neu gyfryngau tebyg) Saesneg, a ddosberthir yn bennaf neun gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog neun ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wah但n. Mewn cyhoeddiadau Cymraeg, bydd hysbysiadau yn Gymraeg. Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd pun a g但nt eu cynhyrchu fel un fersiwn ddwyieithog neu fel hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wah但n. Yn y cyfryngau Saesneg, gall swyddi lle maer gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol gael eu hysbysebu yn Gymraeg, gyda disgrifiad byr yn Saesneg.
Gall hysbysiadau a hysbysebion recriwtio a osodir mewn cylchgronau (a chyhoeddiadau eraill) Saesneg, a ddosberthir ledled y DU, fod yn Saesneg, oni bai bod y swydd yn un lle maer gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Os felly, gall yr hysbysiad fod yn gwbl ddwyieithog, neu yn Gymraeg gydag esboniad byr yn Saesneg.
Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn mannau eraill yng Nghymru yn ddwyieithog.
Datganiadau ir Wasg a Chysylltiadau 但r Cyfryngau
Bydd datganiadau ir wasg ar cyfryngau darlledu Cymraeg yng Nghymru yn cael eu hanfon yn Gymraeg, lle bydd terfynau amser yn caniat叩u hynny. Pan fydd y DCMS yn cyhoeddi datganiadau ir wasg syn ymdrin 但 materion yng Nghymru, ei harfer fydd eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.
Rhoir Cynllun ar waith
Trefniadau mewnol
珂温艶r Cynllun hwn wedii gyhoeddi gyda chefnogaeth lawn Ysgrifennydd Parhaol y DCMS.
珂温艶r t樽m Datganoli yn y gyfarwyddiaeth Strategaeth Gorfforaethol yn atebol ir Ysgrifennydd Gwladol am lwyddiant y Cynllun ac am fonitro sut maen cael ei weithredu. Bydd yr holl Gyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu timaun gweithredu yn unol 但r Cynllun. Anfonir canllawiau at y staff (sef canllawiau a fydd yn cael eu diweddarun rheolaidd) ynghylch defnyddior Gymraeg a goblygiadaur Cynllun hwn.
Bydd y DCMS yn diweddaru ei chynllun gweithredu (gweler yr Atodiad) ac yn adrodd am gynnydd ir Comisiynydd, gan nodi sut y bydd yr Adran yn sicrhau ei bod yn gweithredu yn unol 但r Cynllun Iaith hwn. Dawr cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad y dawr Cynllun Iaith i rym, neu cyn gynted 但 phosibl wedi hynny. Bydd y cynllun gweithredun cynnwys targedau, terfynau amser ac adroddiad ar y cynnydd ar bob targed. Nod cyffredinol y cynllun gweithredu fydd sicrhau ein bod yn cyflawnir ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith hwn cyn gynted 但 phosibl.
Staffio
Ar gyfer unrhyw swyddi syn cynnwys cysylltiad helaeth a rheolaidd 但r cyhoedd yng Nghymru, bydd y DCMS yn asesu a ddylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn ddymunol neun hanfodol a bydd hyn yn cael ei nodi yng nghymwyseddaur swydd ac mewn hysbysebion ar gyfer y swydd.
Mae gofynion dwyieithog a dealltwriaeth o faterion Cymraeg yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar benodiadau i Fyrddau, Paneli neu Dribiwnlysoedd os ydynt yn debygol o wneud penderfyniadau syn effeithio ar Gymru.
Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth
Bydd y DCMS yn cefnogi ac yn ariannu hyfforddiant i staff sydd, fel rhan ou dyletswyddau, yn dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd 但r cyhoedd yng Nghymru ac syn dymuno dysgu Cymraeg, neu wellau Cymraeg. Bydd y DCMS yn caniat叩u ir staff fynychu cyrsiau yn ystod eu horiau gwaith.
Pryd bynnag y bon ymarferol, bydd y DCMS yn darparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg i ddatblygu gallu staff sydd, fel rhan ou dyletswyddau, yn dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd 但r cyhoedd yng Nghymru.
Yn ychwanegol, bydd y t樽m Datganoli yn ceisio cynyddu amlygrwydd y Cynllun ir holl staff drwy adnoddau mewnol yr Adran, gan gynnwys y fewnrwyd adrannol, E-gylchlythyrau a thrwy gynnwys y Gymraeg yn ei sesiynau dysgu ar ddatganoli. Bydd y t樽m hefyd yn paratoi canllawiau ir staff ar sut i ddefnyddior gwasanaethau cyfieithu, ac ar y trefniadau cyllideb perthynol.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Darperir ar gyfer yr angen i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg, ac i weithredu yn unol 但r Cynllun Iaith hwn, wrth ir Adran ddatblygu, dylunio a phrynu cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Wrth ir DCMS ddatblygu neu gaffael systemau TGCh, bydd y DCMS yn ystyried gofynion y Gymraeg a chanllawiau gan Gomisiynydd y Gymraeg, fel y bon briodol.
Gweithio mewn Partneriaeth
Pan for DCMS yn arweinydd strategol ac ariannol mewn partneriaeth ffurfiol, bydd y DCMS yn sicrhau bod unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio 但r Cynllun Iaith hwn. Pan for DCMS yn ymuno 但 phartneriaeth ffurfiol y mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd cyfraniad y DCMS ir bartneriaeth yn cydymffurfio 但r Cynllun Iaith hwn. Wrth weithredu yn enwr consortiwm, bydd y DCMS yn gweithredu yn unol 但r Cynllun Iaith hwn. Pan for DCMS yn bartner mewn consortiwm, bydd y DCMS yn annog y consortiwm i gydymffurfio 但r Cynllun Iaith hwn. Pan for DCMS yn gweithio gydag un oi chyrff cyhoeddus (neu adran arall or llywodraeth) i lunio dogfennau ar y cyd, Cynllun Iaith y corff neur adran or llywodraeth sydd 但r ymrwymiad cryfaf fydd drechaf.
珂温艶r uchod yn cyfeirio at bartneriaethau ffurfiol syn ymdrin 但 gwasanaethau sydd ar gael ir cyhoedd yng Nghymru yn unig.
Monitro
Bydd y DCMS yn monitro ei chynnydd o ran cyflawnir ymrwymiadau a wneir yn y Cynllun hwn. Bob blwyddyn, bydd y DCMS yn cyflwyno adroddiad ar ei chynnydd iw bwrdd rheoli gweithredol ai Gweinidogion, ac anfonir copi at Gomisiynydd y Gymraeg.
Adolygur Cynllun ai Ddiwygio
Bydd y DCMS yn adolygur Cynllun Iaith hwn yn rheolaidd, gydag adolygiad ffurfiol ymhen pedair blynedd. Hefyd, efallai y bydd angen ir DCMS adolygur Cynllun Iaith hwn, neu gynnig diwygiadau iddo, oherwydd newidiadau yn ei swyddogaethau, neu yn yr amgylchiadau y bydd y DCMS yn ymgymryd 但r swyddogaethau hynny ynddynt, neu am unrhyw reswm arall.
Ni wneir unrhyw newidiadau ir Cynllun Iaith hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.
Cwynion ac Awgrymiadau ar gyfer Gwella
珂温艶r DCMS yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd neu gan y staff ar sut y gellid gwella gweithrediad y Cynllun. Bydd y rhain yn cael eu cloriannu a bydd cynigydd yr awgrym yn cael gwybod am y canlyniad.
Dylai unrhyw gwynion yngl天n 但r ffordd maer DCMS wedi gweithredur Cynllun Iaith hwn, neu awgrymiadau ar gyfer ei gwella, gael eu cyfeirio at y t樽m Datganoli, yn y cyfeiriad a ganlyn:
Cydlynydd y Cynllun Iaith Gymraeg
Y T樽m Datganoli / Devolution Team
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon / DCMS
100 Parliament Street
London
SW1A 2BQ
Bydd y DCMS yn cydweithredu 但r Comisiwn er mwyn datrys cwynion, ac yn ystod unrhyw ymchwiliadau a gynhelir o dan Adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Atodiad: Cynllun Gweithredu
珂温艶r cynllun gweithredu hwn yn amlinellur ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud ac sydd iw rhoi ar waith erbyn dyddiad penodol.
Cyfeirnod | Ymrwymiad | Dyddiad Targed |
---|---|---|
A | Bydd y DCMS yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Iaith Gymraeg mewn sesiynau cynefino wyneb yn wyneb (a gyflwynir i aelodau newydd o staff). | Ar waith ar adeg cyhoeddir Cynllun ac yn mynd yn ei flaen. |
B | Bydd y DCMS yn ychwanegu llinell at ei thudalen 51画鋼 yn nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth Gymraeg ac na fydd hyn yn arwain at oedi wrth ymateb. | Ar waith ar adeg cyhoeddir Cynllun ac yn mynd yn ei flaen. |
C | Bob blwyddyn bydd y DCMS yn adolygu a ywr system syn cofnodi dewis iaith yn cael ei defnyddion effeithiol. | Ar waith ar yr adeg gyhoeddi, ac ynan cael ei adolygun flynyddol. |
D | Bydd y DCMS yn cyfieithu adran Amdanom ni ei thudalen ar 51画鋼 ir Gymraeg, gan ychwanegu togl Saesneg/Cymraeg at frig y dudalen. Bydd y togl hwn yn cael ei ychwanegu fel y bon briodol pan fyddwn yn cynyddur cynnwys Cymraeg ar dudalennau gwe DCMS. | Ar waith ar adeg cyhoeddir Cynllun. |
E | Bydd y DCMS yn cyflwyno gweithdrefnau newydd i sicrhau bod amser yn cael ei neilltuo ym mhroses flaengynllunio ei th樽m cyfathrebu er mwyn cyfieithu cynnwys ir Gymraeg, lle bo hynnyn berthnasol. Mae hyn yn cynnwys 51画鋼, y cyfryngau cymdeithasol, a deunydd cyhoeddusrwydd arall. | Ar waith ar adeg cyhoeddir Cynllun ac yn cael ei adolygun barhaus. |
F | Bydd y DCMS yn ychwanegu cysylltiad ir Cynllun at ei thudalennau gwe ar 51画鋼. | Wrth gyhoeddir Cynllun. |