Siarter gwybodaeth bersonol

Sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol a sut i wirio pa fanylion rydym yn eu cadw amdanoch yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.


Polisi preifatrwydd GLlTEF

Mae’r polisi hwn yn esbonio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) pan fyddwn yn dal neu’n gofyn am wybodaeth bersonol (data personol) amdanoch chi; sut y gallwch gael gafael ar gopi o’ch data personol; a’r hyn y gallwch ei wneud os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le.

(PDF, 85.7 KB, 3 pages)

Mae GLlTEM yn casglu a phrosesu data personol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gweinyddu cyfiawnder

  • gorfodaeth troseddol a sifil, gan gynnwys casglu dirwyon

  • ymchwil ar gyfer datblygu polisïau ac ystadegau

  • gwella’r gwasanaethau a ddarparwn

Mae gan GLlTEF rwydwaith o Ganolfannau Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CTSC) sy’n delio â sawl agwedd o achosion llys a thribiwnlys mewn nifer o awdurdodaethau. Mae hyn yn cynnwys delio â gwybodaeth a geir gan ein defnyddwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu gwesgyrsiau. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr, ffôn, gwe-sgwrs neu neges testun.

Pan fyddwch yn cysylltu â CTSC efallai y byddwn hefyd yn recordio galwadau ffôn a chadw cofnod o gwesgyrsiau, negeseuon e-bost a ffurflenni gwe.

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion teulu

Achosion teulu yw achosion lle gofynnir i’r llys ddatrys problem mewn perthynas â phlant. Mae hefyd yn cynnwys anghydfodau rhwng partïon, megis ysgariad a rhwymedi ariannol. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych wrth wneud neu wrth ymateb i gais yn y llys teulu neu Adran Teulu yr Uchel Lys.

(PDF, 117 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion sifil

Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r safonau y gallwch eu disgwyl pan fyddwn yn prosesu data personol amdanoch chi yng nghyswllt achosion yn y llys sifil megis hawliadau am arian, meddiannu eiddo a materion ansolfedd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch gael copi o’ch data personol a beth allwch wneud os ydych chi’n credu nad yw’r safonau’n cael eu bodloni.

(PDF, 117 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer ein tribiwnlysoedd

Mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich data mewn achosion sy’n cael eu gwrando yn ein tribiwnlysoedd.

(PDF, 118 KB, 4 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer achosion troseddol

Mae rhagor o wybodaeth am y data a gesglir yn ystod achosion troseddol ar gael yn y .

Polisi preifatrwydd ar gyfer y Llys Gwarchod

Mae’r polisi hwn yn nodi sut rydym yn defnyddio eich data mewn achosion a wrandewir yn y Llys Gwarchod.

Polisi preifatrwydd ar gyfer Help i Dalu Ffioedd

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i ffurflen EX160, a ddefnyddir wrth wneud cais am help i dalu ffioedd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd

(PDF, 283 KB, 10 pages)

Polisi preifatrwydd ar gyfer arolygon defnyddwyr

Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi manylion am lenwi arolygon defnyddwyr GLlTEF.

(PDF, 208 KB, 3 pages)

Gwasanaethau ar-lein

Os byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, mae’r hysbysiad preifatrwydd a’r telerau ac amodau i’w gweld o fewn y gwasanaeth ar-lein.

Os byddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu data sy’n rhoi gwybodaeth i ni am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn, gan gynnwys:

  • os byddwch yn agor neges e-bost gennym neu’n clicio ar ddolen mewn e-bost
  • cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, eich ffôn neu’ch cyfrifiadur llechen
  • yr ardal neu’r dref lle rydych yn defnyddio eich cyfrifiadur, eich ffôn neu’ch cyfrifiadur llechen
  • y porwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio

Ceisiadau am wybodaeth bersonol

Fel asiantaeth weithredol o’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, mae siarter gwybodaeth bersonol y Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd yn esbonio sut rydym yn delio â cheisiadau am wybodaeth bersonol.