Cynllun iaith Gymraeg
Sut rydym yn ystyried anghenion y Gymraeg pan fyddwn yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru (Fersiwn ddiwygiedig a chymeradwy 2023 o Gynllun Iaith Gymraeg 2021 Asiantaeth y Swyddfa Brisio).
Rhagarweiniad
Rhagair
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn falch o fod yn sefydliad blaengar, modern syn datblygun gyson. Mae rhan enfawr or datblygiad hwnnwn ymwneud 但 hygyrchedd, a sicrhau bod gan ein holl gwsmeriaid fynediad at y gefnogaeth orau y gallwn ei chynnig iddynt. Gyda hyn mewn golwg, rwyn falch o gyflwyno Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig yr Asiantaeth.
Nod y Cynllun yw nid yn unig cyflawni ein gofynion cyfreithiol, ond sicrhau bod ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg a Saesneg yn gydradd mae hyn yn golygu gosod yr un disgwyliadau manwl on gwasanaethau yn y ddwy iaith a dangos yn glir sut yr ydym yn anelu at gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol yng Nghymru.
Mae llawer iawn o waith caled wedii wneud ar draws yr Asiantaeth er mwyn cynhyrchur Cynllun diwygiedig hwn ac adfywio ein dull o weithredu o ran yr Iaith Gymraeg yn gyfan gwbl. Mae adborth a chanfyddiadau gan gydweithwyr or adran Gweithredol a siaradwyr Cymraeg wedi gosod sail in gwaith, ac rydym wedi cyfuno hynny 但 syniadau gan ein timau Polisi er mwyn llunio agwedd gyflawn at y Gymraeg.
Rydym wedi symud ir hyb ranbarthol newydd yng Nghaerdydd, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gael presenoldeb corfforol a gweladwy yng Nghymru. Rydym bob amser yn gweithio i wneud gwahaniaeth ac adeiladu Asiantaeth y Swyddfa Brisio well, ac mae hwn yn gam pwysig yn y daith barhaus honno.
Rwyn falch o fod yn parhau 但r gwaith hwn ac rwyn ymfalch誰on fawr mewn goruchwylior gwaith o ddarparu ein gwasanaethau yn Gymraeg.
Jonathan Russell CB
Swyddfar Prif Weithredwr
Yngl天n 但r VOA
Pwy ydym an r担l
-
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn un o asiantaethau gweithredol Cyllid a Thollau EF (CThEF). Mae ein Prif Weithredwr yn aelod o Bwyllgor Gweithredol CThEF.
-
Ni ywr arbenigwyr ac ymgynghorwyr prisio eiddo yn y sector cyhoeddus. Rydym yn darparu prisiadau diduedd ar oddeutu 2.1 miliwn o eiddo annomestig ac yn pennu bandiau treth gyngor i oddeutu 26.1 miliwn o eiddo domestig ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn Asiantaeth Weithredol anweinidogol ac mae ein penderfyniadau ar brisiadau yn gwbl annibynnol a diduedd.
-
Mae polisi Ardrethu Annomestig a Threth Gyngor wedii ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac rydym yn cynnal y Rhestrau Treth Gyngor ac Ardrethu Annomestig yng Nghymru ar ran Awdurdodau Bilio Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfrif am tua 126,700 o eiddo annomestig ac 1.4 miliwn o eiddo domestig.
-
Maer gwaith hwn wedii nodi mewn Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) rhwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Llywodraeth Cymru. Maer CLG yn cwmpasu ein hamcanion an targedau perfformiad o ran eiddo yng Nghymru ac mae hefyd yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth Cymraeg in cwsmeriaid syn dymuno trafod eu busnes gyda ni yn Gymraeg.
-
Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS) yw cangen eiddo arbenigol Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) ar draws Cymru, yr Alban a Lloegr . Maer DVS yn darparu cyngor annibynnol, diduedd a phroffesiynol ar brisio ac eiddo ar draws y sector cyhoeddus, a lle mae arian cyhoeddus neu swyddogaethau cyhoeddus dan sylw. Mae DVS yn ymgymryd ag ystod o swyddogaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys prisiadau cyfalaf a rhent, prisio asedion at ddibenion cyfrifyddu ariannol, ymgynghori a chyngor ynghylch hyfywedd datblygu, cyngor prynu gorfodol ac iawndal, a gwasanaethau arolygu adeiladau.
-
Mae gwaith y DVS yn gweithredu o dan gymysgedd o Gytundebau Lefel Gwasanaeth a chyfarwyddiadau cytundebol a galw cystadleuol. Maer DVS yn cefnogir sector cyhoeddus wrth iddynt weithredu ystod eang o swyddogaethau rheoleiddiol a deddfwriaethol a chyflawni polis誰aur llywodraeth a strategaethau ystadau mewn sefyllfaoedd o swyddogaeth gyhoeddus a/neu lle mae arian cyhoeddus dan sylw.
-
Rydym yn cyflogi tua 4,122 o gyflogeion gyda thua 274 or rheini yng Nghymru. Mae gennym swyddfeydd yn Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin a Wrecsam. Mae gennym hefyd nifer o gyflogeion syn gweithio o gartref yng Nghymru.
-
Mae rhagor o wybodaeth am yr Asiantaeth, yr hyn a wnawn, an dyletswyddau statudol ar ein gwefan.
Ein Cynllun
- Maer cynllun hwn wedii baratoi o dan Adran 21 o Ddeddf Iaith Gymraeg 1993, syn nodi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus syn darparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun syn nodir mesurau y byddant yn eu cymryd i drin y Gymraeg ar Saesneg yn gyfartal. Nod y VOA yw rhoir egwyddorion a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar waith. Mae hyn yn golygu y bydd, lle bynnag y bon briodol ac yn ymarferol, yn trin y Gymraeg ar Saesneg yn gyfartal.
- Rydym yn cydnabod bod yn rhaid rhoi cyfle in cwsmeriaid yng Nghymru syn dymuno cynnal busnes yn Gymraeg, pun ai drwy ohebiaeth ysgrifenedig, e-bost neu ff担n, wneud hynny ac na ddylid eu trin yn llai ffafriol na chwsmeriaid syn dymuno rhyngweithio 但 ni yn Saesneg.
- Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel in holl gwsmeriaid, ac mae ein gwasanaeth Cymraeg yn rhannur dyhead hwn. Dylair holl wasanaethau yn Gymraeg fod or un safon 但n gwasanaethau Saesneg.
- Mae angen diweddaru ein Cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021, i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau. Maer ddogfen hon yn adeiladu ar ein hymrwymiad blaenorol ac yn nodir egwyddorion y byddwn yn eu mabwysiadu wrth ddarparu gwasanaethau in cwsmeriaid syn siarad Cymraeg.
- Ymgymerir ag unrhyw fath o gyswllt 但r cyhoedd yng Nghymru sydd y tu allan i gwmpas y Cynllun hwn mewn modd syn gyson ag egwyddorion cyffredinol y Cynllun a Deddf Iaith Gymraeg 1993.
- Maer Cynllun hwn yn cydnabod bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru, fel yi hymgorfforir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Sefydlodd y ddeddfwriaeth hon hefyd y rhyddid i ddefnyddior Gymraeg yng Nghymru heb ymyrraeth gan eraill, ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cydnabod y rhyddid hwn.
- Cymeradwywyd y Cynllun hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 02/11/2023. Maen disodlir Cynllun diwygiedig a gymeradwywyd gan y Comisiynydd ar 11 Mawrth 2021 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021. Maer cyhoeddiad hwn felly yn fersiwn ddiwygiedig a chymeradwy o Gynllun 2021.
Diogelu Data
- Bydd y Cynllun hwn, ynghyd 但 holl wasanaethaur Asiantaeth, yn cael ei ddarparu yn unol 但 Pholisi Preifatrwydd cyfunol CThEF ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Maer polisi hwn yn nodir egwyddorion a ddefnyddiwn yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddata personol sydd gennym mewn perthynas 但n cwsmeriaid yng Nghymru, pun a ywr datan cael eu cadw yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn cael eu trin yn yr un modd ac yn sicrhau bod unrhyw ddata a gadwn ynghylch dewis iaith yn gyson 但r Polisi.
Adolygu a diwygior Cynllun
- Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu bob pedair blynedd, a dim hwyrach na diwedd Ebrill 2027 (adolygwyd ddiwethaf erbyn 1 Ebrill 2023). Yn ogystal, bydd diwygiadau ir Cynllun hwn yn cael eu hystyried yn gynt na mis Ebrill 2027 os bydd newidiadau ir gofynion deddfwriaethol neu ir ffordd y mae ein gwasanaethaun cael eu cyflenwi yng Nghymru. Ni fydd y Cynllun hwn yn cael ei ddiwygio heb i Gomisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo ymlaen llaw.
Cynllunio a Chyflenwi Gwasanaeth
Cyflenwi Gwasanaethau
- Maer Asiantaeth yn anelu at ddarparu ein holl wasanaethau (syn briodol i Gymru) ar gyfer Ardrethu Annomestig, Treth Gyngor a DVS yn Gymraeg. Maer Cynllun hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad ar egwyddorion y byddwn yn eu mabwysiadu wrth ddarparu ein gwasanaethau.
- Er y byddwn yn anelu at ddarparu ein holl wasanaethau Cymraeg gan ddilyn yr un amserlen ag a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaethau Saesneg, maen rhaid i ni gydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl.
- Os na fydd ein gwasanaethau ar gael yn Gymraeg yn ddiofyn, byddwn yn sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi ein cwsmeriaid i allu trafod eu busnes gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle bon bosibl, cyhoeddir y trefniadau hyn yn glir ochr yn ochr ag unrhyw ddogfen neu wasanaeth nad yw ar gael yn Gymraeg yn ddiofyn.
- Er mwyn gwella ein gwasanaethau Cymraeg a chyflawnir ymrwymiadau yn y Cynllun hwn, mae gennym ni D樽m Cymraeg pwrpasol i ddelio 但 chyswllt cwsmeriaid, cyfieithu a chymorth gydan gwasanaeth ehangach.
- Bydd y t樽m hwn yn rhan allweddol on hymdrechion i adeiladu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddatblygu gwybodaeth brisio ein cyflogeion syn gweithio ym maes gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau Cymraeg ein cyflogeion technegol.
- Dros amser, byddwn yn datblygu un gronfa o siaradwyr Cymraeg y gellir eu defnyddion hyblyg ac i ddarparu cymorth ar draws gweithrediadau Cymraeg yr Asiantaeth.
- Byddwn hefyd yn gweithio gydan rhiant-adran, adrannau eraill or llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg i rannu arferion gorau er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy.
- Lle bon berthnasol, bydd y DVS yn ymdrechu i gael yr adnoddau i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl gyda chleientiaid syn dymuno gwneud hynny.
Datblygu Polisi
- Cefnogir yr Asiantaeth gan dimau Strategaeth a Pholisi syn gyfrifol am gynghori ein Pwyllgor Gweithredol ar faterion syn cael effaith ar draws ein gwasanaethau.
- Lle y bo modd, byddwn yn ceisio llunio ein polis誰au mewn modd syn annog defnyddior Gymraeg pan fydd cwsmeriaid yn trafod eu busnes gyda ni. Bydd yr holl bolis誰au a mentrau newydd syn newid y ffordd y mae ein gwasanaethaun gweithredu hefyd yn ystyried eu heffaith ar ein cwsmeriaid syn siarad Cymraeg. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion cwsmeriaid syn siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn gynnar wrth lunio polis誰au a bod unrhyw newidiadau yn ystyrlon on hymrwymiadau yn y Cynllun hwn.
- Byddwn yn ystyried pa effeithiau (os o gwbl) y gallair penderfyniad polisi arfaethedig eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddior Gymraeg, a sicrhau nad ywr polisin trin y Gymraeg yn llai ffafriol nar iaith Saesneg.
- Pan fyddwn yn gweithio gydag adrannau eraill, cyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru, neu pan ofynnir i ni ddarparu cyngor iddynt, byddwn yn sicrhau ein bod yn ymwybodol on rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ein hymrwymiadau yn y Cynllun hwn ac effeithiau posibl ar ein cwsmeriaid syn dymuno trafod eu busnes gyda ni drwyr Gymraeg.
Prisio ac apeliadau
- Mae gan gwsmeriaid yng Nghymru yr hawl i gynnal pob busnes gydar Asiantaeth yn Gymraeg pe baent yn dewis hynny. Mae ein ar broses Data Rhent a Phrydlesu (RALD) ar gael ar-lein yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Y prosesau hyn yw craidd ein gwaith ailbrisio, ac maen golygu y gallwn dderbyn data gan gwsmeriaid ni waeth beth yw eu dewis iaith. Gall cwsmeriaid hefyd gyflwyno eu hymholiadau cychwynnol am eu prisiad annomestig yn Gymraeg, naill ai drwy e-bost neu dros y ff担n.
- Byddwn yn sicrhau bod unrhyw gyfathrebu 但 chwsmer ynghylch ei brisiad yn Gymraeg os yw wedi nodi mai dynai ddewis, a byddwn yn gallu egluro unrhyw benderfyniadau prisio yr ydym wediu gwneud naill ai ar bapur neu ar lafar drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y gwaith DVS.
- Mae prisio yn fater cymhleth, ac mae gennym gydweithwyr syn siarad Cymraeg sydd ar gael i arwain cwsmeriaid wrth iddynt ddelio 但 ni. Os oes angen ymweliad safle, mae gennym y gallu i ddarparu Syrf谷wr Prisio Cymraeg ei iaith, a gallwn hefyd gyflwyno mewn Tribiwnlysoedd Prisio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael ar unwaith i ohebu 但 chwsmer am fanylion ei brisiad, byddwn yn trefnu amser addas i hyn ddigwydd.
- Rydym yn mynychu Tribiwnlys Prisio Cymru yn rheolaidd i herio apeliadau yn erbyn prisiadau eiddo yng Nghymru. Trefnir ac arweinir Tribiwnlysoedd Prisio gan Dribiwnlys Prisio Cymru (VTW), a chynhelir y cyfarfodydd hyn yn unol 但 .
- Os gofynnir ir Tribiwnlys gael ei gynnal yn Gymraeg, byddwn yn ystyried argaeledd cyflogeion addas syn siarad Cymraeg ac yn gwneud trefniadau i fynychu gyda chynrychiolaeth Gymraeg.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Rydym fwy neu lai wedi gorffen y broses integreiddio digidol gydan rhiant-adran, CThEF. Mae hyn yn cynnwys y dyfeisiau a ddefnyddir gan gyflogeion o ddydd i ddydd ar seilwaith digidol syn cynnal ein gwasanaethau.
- Mewn rhai meysydd, rydym yn dibynnu ar systemau etifeddol i gynnal ein busnes. Mae rhai or systemau hyn yn rhagddyddio Deddf Iaith Gymraeg 1993 ac mae rhai yn methu 但 gweithion ddwyieithog. Lle y bo modd, bydd systemau syn gallu cynhyrchu dogfennau yn awtomatig i gwsmeriaid yn Gymraeg yn parhau i wneud hynny. Lle nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn sicrhau bod prosesau ar waith i ddarparur gwasanaethau hyn drwy ddulliau eraill.
- Os byddwn yn dylunio systemau digidol newydd syn wynebu cwsmeriaid neun diweddaru unrhyw un or systemau presennol syn briodol i Gymru, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion ein cwsmeriaid Cymraeg yn cael eu hymgorffori yn ein manylebau yn ystod y camau cyntaf.
Gweithio mewn Partneriaeth a Chaffael
- Pan fyddwn yn tendro busnes yng Nghymru yn unig, byddwn yn cynnig y tendr yn Gymraeg ac yn Saesneg os ystyrir bod hynnyn briodol.
- Ar adegau pan fyddwn yn gweithio gydag eraill i ddarparu gwasanaeth yng Nghymru, bydd tendraun cyfeirion benodol at y Cynllun hwn, a byddwn yn sicrhau ymwybyddiaeth lawn or Cynllun hwn, gan annog unrhyw gyflenwr i gydymffurfio 但r mesurau yr ydym wediu nodi.
- Bydd unrhyw gytundebau ffurfiol yn cyfeirio at hyn a byddwn yn dwyn ein partneriaid i gyfrif am ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg drwyr mecanweithiau adrodd/gweithdrefnau rheoli perfformiad.
- Pan fydd y DVS yn darparu gwasanaethau in cleientiaid, megis ceisiadau am fusnes yng Nghymru, bydd yn cynnig y tendr yn Gymraeg ac yn Saesneg os ywn briodol. Ir perwyl hwn, bydd y tendr yn cynnwys nifer y siaradwyr Cymraeg sydd ar gael ir DVS ar hyn o bryd.
Gwasanaethau cyfieithu
- Yn y lle cyntaf, bydd ein t樽m gwasanaeth cwsmeriaid Iaith Gymraeg penodedig an cydweithwyr ar draws yr Asiantaeth sydd 但r hyder ar gallu i ddelio 但 chwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ymdrin 但 chyfieithu rhwng y Gymraeg ar Saesneg.
- Er mwyn helpu i gyflawnir Cynllun hwn, rydym wedi cyflwyno trefniant gydan rhiant-adran i ddefnyddio ei Th樽m Iaith Gymraeg in cynorthwyo i gyfieithu dogfennau a gwasanaethau allweddol in cwsmeriaid Cymraeg.
- Bydd ein T樽m Iaith Gymraeg yn gweithio gydai d樽m cyfatebol yn CThEF i hwyluso a sicrhau ansawdd unrhyw gyfieithiadau er mwyn gwneud yn si典r bod ein cwsmeriaid yn cael gwasanaeth yn unol 但r Cynllun hwn an rhwymedigaethau statudol.
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd neu gyfieithu testun annibynnol, yn 担l yr angen.
Cyfathrebu 但r cyhoedd
- Mae cyfathrebu 但n cwsmeriaid yn hanfodol bwysig in holl wasanaethau ac mae gennym gyfrifoldeb i gynnal ein busnes mewn ffordd deg, gyfartal a hygyrch.
- Ein prif ddulliau o gyfathrebu 但r cyhoedd yw dros y ff担n, gohebiaeth copi caled ac electronig, a thrwy ein gwefan.
- Rydym yn darparu nifer o bwyntiau cyswllt sydd ar gael yn ddwyieithog i sicrhau bod ein cwsmeriaid syn siarad Cymraeg yn derbyn yr un driniaeth 但r rhai syn defnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Saesneg.
Cyfathrebu dros y ff担n
- Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio rif ff担n penodedig ar gyfer eiddo yng Nghymru. Y rhif hwn yw 03000 505505. Caiff galwadau ir rhif hwn eu cyfeirio at d樽m cyswllt penodedig 但 siaradwyr Cymraeg rhugl syn gallu delio ag ymholiadau cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn caniat叩u in cwsmeriaid syn siarad Cymraeg gysylltu 但 ni yn eu dewis iaith a derbyn yr un gwasanaeth 但r rhai syn cysylltu 但 ni yn Saesneg.
- Mae galwadau ir rhif hwn yn cael eu hateb yn ddwyieithog, gan roi dewis ir cwsmer a hoffai ddelio 但 ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd unrhyw negeseuon peiriant ateb neu negeseuon awtomataidd ar y llinell hon hefyd yn ddwyieithog.
- Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael am unrhyw reswm, bydd y cwsmer yn cael dewis derbyn galwad yn 担l gan siaradwr Cymraeg neu barhau 但r alwad yn Saesneg.
- Bydd galwadau ir llinell hon yn agored ir un targedau perfformiad 但n llinellau Saesneg lle y bo hynnyn briodol.
- Pan fydd ymholiad yn dechnegol neun gymhleth ac na ellir ei ateb ar unwaith, darperir amserlen resymol ar gyfer ateb ymholiad cwsmer yn Gymraeg.
- Rydym yn anelu at ddatblygu gallu a gwybodaeth ein T樽m Cymraeg i wella lefel y gwasanaeth sydd ar gael in cwsmeriaid syn siarad Cymraeg yn barhaus.
Gohebiaeth 但r cwsmer
- Pryd bynnag y bydd cwsmer yn cysylltu 但 ni yn Gymraeg, boed drwy e-bost neu drwy gopi caled, byddwn yn anelu at ateb yn Gymraeg ar sail yr un amserlen ag y byddem wedii defnyddio wrth ateb yn Saesneg.
- Weithiau, efallai na fydd yn bosibl cyflawnir nod hwn os bydd ymholiad yn dechnegol neun gymhleth. Yn yr achosion hyn, byddwn yn darparu amserlen ir trethdalwr, gan egluro bod yn rhaid cael gafael ar y cyngor technegol perthnasol ai gyfieithu.
- Bydd unrhyw hysbysiad neu ohebiaeth gychwynnol i gwsmeriaid yng Nghymru bob amser yn ddwyieithog. Yn yr un modd, bydd unrhyw ddogfennau a amgaeir yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Bydd pob gohebiaeth i gyfeiriadau yng Nghymru yn cynnwys y neges ddwyieithog Gellir ateb yn Gymraeg neu Saesneg / You may reply in Welsh or English.
- Bydd unrhyw ohebiaeth safonol, gylchlythyr neu ohebiaeth debyg i gylchlythyr yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Os oes rhaid cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wah但n, ein harfer arferol fydd sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd. Fodd bynnag, os na allwn gynhyrchur ddwy fersiwn ar yr un pryd, ein nod fyddai cynhyrchur fersiwn Gymraeg cyn gynted ag syn ymarferol.
Ein cyhoeddiadau an harweiniad i gwsmeriaid
- Maer VOA yn rhoi arweiniad i gwsmeriaid ar 51画鋼. Mae hyn yn cwmpasu cynnwys a gedwir ar dudalennau 51画鋼, a reolir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), a gwefan y VOA, a reolir gan y VOA (ond mae gofyn iddo fodloni safonau GDS ar gyfer cynnwys, gan gynnwys hygyrchedd). Mae gwasanaethau, fel Gwirio a Herio Eich Band Treth Gyngor, hefyd yn cael eu cynnal ar 51画鋼. Mae cyhoeddiadau allweddol, fel adroddiad blynyddol y VOA a llawlyfrau technegol hefyd ar gael drwy 51画鋼.
- Maer VOA yn cyfeirio at gynnwys a chyhoeddiadau drwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, Twitter a LinkedIn. Rydym hefyd yn llunio gwybodaeth i Awdurdodau Cymru ei rhannu drwy eu sianeli (gwefan a chyfryngau cymdeithasol).
- Bydd unrhyw gyhoeddiadau newydd ac arwyddocaol syn canolbwyntio ar y cwsmer ac syn ymwneud 但n cwsmeriaid yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y ddau fersiwn or un maint, amlygrwydd ac ansawdd.
- Os na allwn gynhyrchu cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd, ein nod fyddai cynhyrchur fersiwn Gymraeg cyn gynted ag syn ymarferol.
- Gall cwsmer ofyn am fersiwn Cymraeg o unrhyw arweiniad neu gyhoeddiad gan y VOA os nad yw eisoes ar gael. Fodd bynnag, oherwydd eu hyd au cymhlethdod technegol, byddai cyfieithiad Cymraeg llawn ar gyfer rhai on deunyddiau cyhoeddedig gan gynnwys Llawlyfr Ardrethu, Llawlyfr Treth Gyngor, Adroddiad Blynyddol a Chynllun Busnes yn anymarferol ar hyn o bryd. Gellir cynhyrchu cyfieithiadau o adrannau unigol neu berthnasol ar gyfer cwsmer ar gais.
- Er mwyn cynorthwyo ac arwain ein meysydd busnes amrywiol yn well, byddwn yn datblygu canllaw i nodi pryd mae angen cyhoeddi canllawiau a chyhoeddiadau cwsmeriaid yn Gymraeg. Bydd y canllaw hwn yn ymdrin 但 chanllawiau y maer VOA yn berchen arnynt ar dudalennau 51画鋼, cyhoeddiadau, a gwybodaeth a rennir ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn nodi egwyddorion arweiniol yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol i helpu i benderfynu pa gynnwys y dylid ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Unwaith y bydd y canllaw hwn wedii gwblhau, bydd o gymorth gyda phwynt 64 uchod.
- Bydd y canllaw yn helpu i benderfynu a oes angen cyfieithu ein dogfennau presennol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at ddeunydd pwysig yn eu dewis iaith. Byddwn yn parhau 但r broses hon i adeiladu ar ein cynnydd a sicrhau bod mwy o ddogfennau ar gael yn Gymraeg yn ddiofyn. Pan nad ywr rhain ar gael, a bod cwsmer eu hangen, byddwn yn blaenoriaethur ceisiadau cyfieithu hyn.
- Byddwn yn gweithio tuag at wneud ein hymrwymiad i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar dudalen hafan y VOA i sicrhau bod ein gwasanaethau an darpariaethau Cymraeg yn weladwy ir defnyddiwr.
Ymwneud 但r cyhoedd yng Nghymru mewn ffyrdd eraill
- Wrth gynllunio a datblygu cynlluniau cyfathrebu allanol ar gyfer prosiectau amrywiol a/neu ddigwyddiadau gweithredol, bydd ein T樽m Cyfathrebu yn ystyried a oes angen unrhyw negeseuon Cymraeg a/neu gyhoeddiadau ategol.
- Pan fyddwn yn cynnal unrhyw fath o arolwg cyhoeddus neu waith ymchwil yng Nghymru, y drefn arferol fydd sicrhau bod pob agwedd ar gyfathrebu 但r cyhoedd yn ddwyieithog. Gofynnir i ymatebwyr a ydynt yn dymuno ymateb ir arolwg yn Gymraeg neu Saesneg or cychwyn cyntaf.
Ein cyflogeion
Staffio yng Nghymru
- Ein nod yw darparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel in holl gwsmeriaid, a byddwn yn recriwtio, yn datblygu ac yn ceisio cadw cyflogeion syn fedrus wrth siarad Cymraeg er mwyn gwneud hyn.
- Y nod yw bod ein t樽m yng Nghaerdydd yn delio 但 phob cyswllt a geir gan gwsmeriaid yn Gymraeg. I ddechrau, bydd hyn yn cwmpasur holl gyswllt cyntaf a, dros amser, rydym yn disgwyl y bydd dylanwad y t樽m hwn yn ehangu wrth iddo ymgorffori yn yr Asiantaeth. I gyflawni hyn, byddwn yn:
a. Cynnal arolwg on cyflogeion i gael gwybod faint syn gallu siarad, darllen ac ysgrifennun Gymraeg (gan gynnwys cyflogeion syn dysgu Cymraeg), beth yw lefel eu gallu au lleoliad;
b. Ymateb i unrhyw brinder adnoddau drwy weithgareddau recriwtio a hyfforddi targededig;
c. Dod o hyd ir cyflogeion syn dymuno dysgu Cymraeg a sicrhau eu bod yn cael cymorth i wneud hynny;
d. Ceisio cyfleoedd i hyrwyddo cyfleoedd recriwtior Asiantaeth i siaradwyr Cymraeg.
Recriwtio
- Mae ein holl recriwtio yn cael ei gynnal drwy borth canolog. Pan fyddwn yn recriwtio ar gyfer swyddi sydd wediu lleoli yng Nghymru yn unig, byddwn yn sicrhau bod yr hysbyseb ar gael yn Gymraeg ar ryw ffurf.
- Lle rydym yn recriwtio ar gyfer rolau sydd angen sgiliau Cymraeg, byddwn yn asesu natur pob r担l unigol i sicrhau bod pob rhan or broses ymgeisio a chyfweld yn digwydd yn Gymraeg, neu rannau ohoni. Bydd y broses hon yn gweithredu fel asesiad o Gymraeg ysgrifenedig a llafar ymgeisydd.
Dysgu a Datblygu
- Rydym wedi ymrwymo i annog a chynorthwyo cyflogeion sydd am ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau Cymraeg.
- Rydym wedi cofrestru gydar er mwyn galluogin cyflogeion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae gan gwrs Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg nifer o lefelau, ac rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod lawn yr hyfforddiant hwn i gyflogeion. Mae hyn yn cynnwys cwrs preswyl i ddatblygu ac ymarfer Cymraeg, sydd ar gael i gyflogeion. Byddwn yn cynorthwyo ein cyflogeion i elwa ar y cynnig hwn, pun a ydynt yn dymuno siarad Cymraeg yn y gweithle ai peidio.
- Pan ddaw angen i'r golwg o ran datblygu neu adnoddau, byddwn yn cefnogi cyflogeion, pun ain ariannol neu drwy roi amser, i ymgymryd 但 dysgu a datblygiad er mwyn ateb y gofyn.
- Rydym yn darparu offer arbenigol i gyflogeion ar ein mewnrwyd, gan ganolir holl brosesau ac arweiniad Cymraeg mewn un hyb fel pwynt cyfeirio ar gyfer gofynion o ran y Gymraeg.
- Byddwn yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i ddechrau a datblygu rhwydweithiau ar gyfer cyflogeion syn siarad Cymraeg, cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac ehangu ein cynnig Dysgu a Datblygu.
- Bydd gofynion hyfforddiant technegol arbenigol, megis paratoi ar gyfer y Tribiwnlys Prisio, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cael eu hasesu a gellir eu darparu fel y bon briodol.
Wyneb Cyhoeddus yr Asiantaeth yng Nghymru
Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd, Arddangosfeydd a Hysbysebu
- Bydd unrhyw gyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, arddangosfa a/neu ddeunydd hysbysebu a ddefnyddiwn yng Nghymru yn cael eu cynhyrchun ddwyieithog lle bor sianel ar fethodoleg ymgyrchun gallu gwneud hynny. Bydd y ddau fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd, a byddant ar gael ar yr un pryd.
Hunaniaeth Gorfforaethol yng Nghymru
- Mae hunaniaeth gorfforaethol yn bwysig ir Asiantaeth a byddwn yn sicrhau bod pob logo a phennawd llythyr ar gael yn Gymraeg.
- Dylai ein swyddfeydd yng Nghymru sydd ag arwyddion allanol ddefnyddio fersiwn dwyieithog o logor Asiantaeth a dylai unrhyw destun ychwanegol fod yn ddwyieithog.
- Bydd unrhyw arwyddion newydd a ddarperir yng Nghymru yn ddwyieithog, gyda thestun Cymraeg a Saesneg or un maint ac amlygrwydd.
Cyfarfodydd Cyhoeddus
- Pan fyddwn yn mynychu cyfarfodydd, cyfarfodydd cyhoeddus a fforymau yng Nghymru, os cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn yn ymdrechu i sicrhau presenoldeb cydweithwyr syn siarad Cymraeg.
Cysylltiadau 但r Cyfryngau, Ymgyrchoedd a Datganiadau ir Wasg
- Bydd datganiadau ir wasg syn berthnasol in cwsmeriaid yng Nghymru yn cael eu cyhoeddin ddwyieithog.
Gweithredu a monitror Cynllun
- Cyfrifoldeb yr Asiantaeth gyfan yw darparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol a hygyrch, a chyhoeddir y Cynllun hwn gyda chefnogaeth ein Prif Weithredwr an Pwyllgor Gweithredol.
- Cyfrifoldeb Swyddog y Gymraeg yw gweithredu a monitror Cynllun hwn. Bydd yn gyfrifol am fonitro ein cydymffurfiad 但 deddfwriaeth syn ymwneud 但r Gymraeg ac am gyflawnir ymrwymiadau rydym wediu nodi yn y Cynllun hwn.
- Maer cyfrifoldeb am ymrwymiadau unigol, fel y rhai o fewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Adnoddau Dynol, yn parhau gydau priod feysydd busnes.
Gweithredur Cynllun
- Byddwn yn cymryd nifer o gamau i sicrhau bod y Cynllun hwn yn cael cyhoeddusrwydd a dealltwriaeth drwyr Asiantaeth. Byddwn yn:
a. Cyhoeddir Cynllun ar ein tudalen fewnrwyd ac yn lansio hyb arweiniol pwrpasol ar gyfer y Gymraeg;
b. Cyhoeddir Cynllun ar ein tudalen we 51画鋼 yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hyrwyddo ymwybyddiaeth or cynllun neu ymrwymiadau unigol lle bynnag y bo hynnyn briodol i annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg;
c. Datblygu Cynllun Gweithredu cefndirol i weithredu a monitro ein cynnydd wrth gyflawnir Cynllun hwn. Fel yi gwelir yn Atodiad B.
d. Cynhyrchu pecyn cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfieithu
e. Datblygu system sgorio fewnol i arwain ac adnabod pryd y dylid cyhoeddi cyhoeddiadau a deunydd yn Gymraeg.
f. Cynorthwyo ein Swyddog / Cydlynydd Iaith Gymraeg i hyrwyddor Cynllun an rhwymedigaethau o dan Ddeddf Iaith Gymraeg 1993 ar draws yr Asiantaeth;
g. Cynnal gweithdai i gyflogeion er mwyn rhoi hyfforddiant ac arweiniad ar y Cynllun Iaith Gymraeg.
Monitror Cynllun
- Bydd ein Swyddog / Cydlynydd Iaith Gymraeg yn gyfrifol am fonitro cyflawniad yr Asiantaeth yn erbyn y Cynllun hwn. Bydd yn diweddaru Pwyllgor Gweithredol yr Asiantaeth yn rheolaidd, yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau, ac yn arwain ar y gwaith o gynhyrchu adroddiad monitro blynyddol on gwasanaethau Cymraeg.
- Byddwn yn ystyried unrhyw welliannau angenrheidiol i wella ein gwasanaeth ar gyfer ein cwsmeriaid syn siarad Cymraeg a hynny mewn ymgynghoriad 但 Chomisiynydd y Gymraeg.
- Byddwn yn rhoi adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg ar ein perfformiad yn erbyn yr ymrwymiadau yn y Cynllun hwn. Cynhyrchir yr adroddiad hwn yn flynyddol a bydd ar gael ir cyhoedd ar gais.
Cysylltu 但 ni
Cyfieithiadau ac Ymholiadau
- Os oes dogfennau ar wefan y VOA y mae angen eu cyfieithu ir Gymraeg, cysylltwch 但 ni gan ddefnyddio voacymraeg@voa.gov.uk.
Cwestiynau ac awgrymiadau am welliannau
- Rydym yn croesawu ac yn annog cwestiynau ac adborth am y Cynllun hwn an gwasanaethau Cymraeg.
- I gysylltu, anfonwch e-bost atom yn voacymraeg@voa.gov.uk neu ysgrifennwch atom yn:
Swyddog / Cydlynydd Iaith Gymraeg
Swyddfa Brisio Caerdydd,
T天 William Morgan,
6 Sgw但r Canolog,
Caerdydd CF10 1ER
Cwynion
- Rydym wedi cymryd pob cam i sicrhau cydymffurfiad 但r Cynllun hwn ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu darparun deg ac yn gyfartal yn Gymraeg. Os nad ydym yn bodloni eich disgwyliadau, anfonwch e-bost atom yn complaints@voa.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom yn:
Ymchwilio i G典ynion / Complaints Investigation
Asiantaeth y Swyddfa Brisio / Valuation Office Agency,
Wycliffe House,
Green Lane,
Durham DH1 3UW
Hygyrchedd
- Gellir darparur holl ddeunydd syn ymwneud 但r ddogfen hon mewn fformatau braille, print bras neu sain ar gais. I ofyn am fersiynau hygyrch or ddogfen hon, anfonwch e-bost atom yn cymraeg@voa.gov.uk neu ysgrifennwch atom yn:
Swyddog / Cydlynydd Iaith Gymraeg
Swyddfa Brisio Caerdydd,
T天 William Morgan,
6 Sgw但r Canolog,
Caerdydd CF10 1ER
Atodiad A: Rheoli Dogfennau
Fersiwn | Dyddiad | Disgrifiad | Golygydd |
---|---|---|---|
1.0 | 01/04/2021 | Cyhoeddir Cynllun Iaith Gymraeg | M. Williams |
2.0 | 02/11/2023 | Adolygiad o Gynllun Iaith Gymraeg Ebrill 2021 | B. Ifans (n辿e Huws) |
Atodiad B: Cynllun Gweithredu
Ein Cynllun |
Adran berthnasol yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg | Gweithredoedd | Dyddiad targed | Cyfrifoldeb |
---|---|---|---|
Adolygu a diwygior Cynllun | Adolygur Cynllun i baratoi ar gyfer Ebrill 2027. | Tachwedd 2026 - Ebrill 2027 | Swyddog y Gymraeg / Pob adran syn gysylltiedig 但r ymrwymiadau yn y Cynllun Iaith Gymraeg |
Cynllunio a Chyflenwi Gwasanaeth |
Cyflenwi Gwasanaethau | Parhau i ddatblygu un gronfa o siaradwyr Cymraeg iw defnyddion hyblyg ac i ddarparu cymorth ar draws gweithrediadau Cymraeg yr Asiantaeth | Parhaus | Swyddog y Gymraeg / Gweithrediadau |
Cynllunio ar gyfer y gweithlu ac olyniaeth | Monitro anghenion staffior Gymraeg ym mhob maes gweithredol i sicrhau bod gan yr Asiantaeth y lefel briodol o adnoddau i ddarparu ein gwasanaethau Cymraeg. Dylai hyn hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer olyniaeth yn y meysydd busnes i gwmpasu anghenion y Gymraeg yn y dyfodol. | Parhaus | Pob maes busnes gweithredol. |
Datblygu Polisi | Codi ymwybyddiaeth ar draws y VOA or angen i ystyried y Gymraeg wrth gynllunio polisi, menter neu wasanaeth newydd. | Parhaus | Pob aelod o staff yn cyfrannu at ddatblygiad polis誰au, mentrau neu wasanaethau newydd. T樽m Cynllunio a Chyflenwi Profiad y Cwsmer |
Cynllunio ar gyfer newid | Wrth gynllunio a pharatoi prosiectau a newidiadau yn y dyfodol, byddwn yn ystyried unrhyw effeithiau ar Gymru gan gynnwys y Gymraeg e.e. Cyfieithiadau Cymraeg, Cysoni Polisi, Ymgynghori. | Parhaus | Gwasanaethau rheoli newid / Timau Polisi a Rhaglenni |
Cyfathrebu 但r cyhoedd |
T樽m Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg | Parhau i ddatblygu gallu a gwybodaeth ein T樽m Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg i wella lefel y gwasanaeth sydd ar gael in cwsmeriaid syn siarad Cymraeg. | Parhaus | Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid |
Arweiniad a Hyfforddiant Galwadau Iaith Gymraeg | Codi ymwybyddiaeth on Cynllun Iaith Gymraeg ymhlith aelodau ein t樽m Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Durham a Plymouth, a sut i ddelion effeithiol 但 galwadau Cymraeg a threfnu galwad yn 担l. | Parhaus | Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid |
Arweiniad a Hyfforddiant Cofnod o ohebiaeth Gymraeg | Parhau i wella ein harweiniad an hyfforddiant i aelodaur t樽m Gwasanaeth Cwsmeriaid a Gweithwyr Achos ar sut i gofnodi ac adnabod cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ar rhai syn dymuno gohebu 但r Asiantaeth yn Gymraeg. Bydd hyn hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar sut i gofnodi a chanfod dewis iaith ar ein systemau digidol. | Parhaus | Pob adran syn ymwneud 但 chyswllt cwsmeriaid |
Profir llinellau ff担n | Profi rhif cyswllt Cymru (gan gynnwys y llinell Gymraeg) i sicrhau bod y negeseuon Cymraeg ar opsiynau perthnasol yn gweithion iawn. | Bob 3 mis | Swyddog y Gymraeg / Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid |
Negeseuon awtomataidd | Profi mewnflychau syn wynebu cwsmeriaid (syn berthnasol i Gymru) i sicrhau bod negeseuon awtomataidd yn cael eu cyflwynon ddwyieithog ac yn gywir. | Bob 4 mis | Swyddog y Gymraeg |
Gohebiaeth ar ffurf copi caled ac e-bost | Parhau i sicrhau bod unrhyw fath o ohebiaeth gychwynnol (gan gynnwys unrhyw ddogfennau amgaeedig) i gwsmeriaid yng Nghymru yn cael eu cynhyrchun ddwyieithog. | Parhaus | Pob adran syn ymwneud 但 chyswllt cwsmeriaid |
Ein cyhoeddiadau an harweiniad i gwsmeriaid |
Canllaw cyfieithu | Datblygu canllaw i nodin well pryd y mae angen cyfieithu a chyhoeddi canllawiau cwsmeriaid a chyhoeddiadau yn Gymraeg. Bydd y canllaw hwn yn ymdrin 但 chanllawiau syn eiddo ir VOA ar dudalennau 51画鋼, cyhoeddiadau, a gwybodaeth a rennir ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn nodi egwyddorion arweiniol yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol i helpu i benderfynu pa gynnwys y dylid ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y canllaw yn helpu i benderfynu a oes angen cyfieithu unrhyw rai on dogfennau presennol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at ddeunydd pwysig yn eu dewis iaith. | Diwedd 2024 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol / Gwasanaethau Rheoli Newid |
Tudalen hafan y VOA | Cynyddu presenoldeb y Gymraeg ar ein tudalen hafan gan gynnwys logos dwyieithog a sicrhau bod ein gwasanaethau an darpariaethau Cymraeg yn weladwy ir defnyddiwr. | Ar neu cyn Mawrth 2025 | T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol |
Tudalennau we ar 51画鋼 syn eiddo ir VOA | Cynyddu nifer y tudalennau gwe Cymraeg ar 51画鋼 syn eiddo ir VOA yn unol 但r Canllaw Cyfieithu. | Diwedd 2026 | T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol |
Y Cyfryngau Cymdeithasol | Sicrhau cynnwys cyfryngau cymdeithasol dwyieithog ar bynciau allweddol yn ogystal ag ymgyrchoedd syn berthnasol i gwsmeriaid yng Nghymru | Diwedd 2024 | T樽m Cyfathrebu |
Recriwtio |
Asesiad o sgiliau iaith Gymraeg | Datblygu amserlen asesu sgiliau ar gyfer y cydweithwyr rydym yn eu recriwtio lle mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol ou r担l. Bydd yr asesiad yn asesu sgiliau Cymraeg y cyflogain rheolaidd yn ystod y flwyddyn waith i reoli ansawdd ac i amlygu unrhyw feysydd iw gwella. | Diwedd 2026 | AD / Swyddog y Gymraeg |
Cynefino cyflogeion newydd | Sicrhau bod pob cyflogai newydd syn ymuno 但r Asiantaeth neu syn newydd i r担l yng Nghymru yn ymwybodol on rhwymedigaethau iaith Gymraeg a sut i ymdrin 但 gohebiaeth Gymraeg. Mae hyn yn berthnasol i bob cyflogai ac yn enwedig y rhai syn ymuno ag Uned Brisio Ranbarthol (RVU) Cymru a Gorllewin Lloegr, DVS a Thimau Gwasanaeth Cwsmeriaid. | Diwedd 2025 | AD / Dysgu a Datblygu |
Dysgu a Datblygu |
Cyfleoedd dysgu ac adnoddau | Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu Cymraeg wrth iddynt godi. | Parhaus | Swyddog y Gymraeg / Dysgu a Datblygu |
Arweiniad ar y fewnrwyd | Diweddaru arweiniad presennol a chreu arweiniad newydd ar brosesau mewnol y Gymraeg yn 担l yr angen. Bydd yr arweiniad wedii leoli ar y dudalen fewnrwyd Gymraeg ganolog. | Diwedd 2025 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyhoeddi Digidol. |
Rhoi gwybod i gyflogeion am y prosesau Cymraeg diweddaraf | Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o brosesaur Gymraeg yn fewnol drwyr sianeli priodol. | Diwedd 2025 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyfathrebu |
Canllaw cyfieithu | Codi ymwybyddiaeth ar draws y VOA am y Canllaw Cyfieithu newydd | Diwedd 2024 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol / Gwasanaethau Rheoli Newid |
Gweithredu a monitror Cynllun |
Codi ymwybyddiaeth or cynllun diwygiedig newydd. | Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth or Cynllun Gweithredu ar Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig yn fewnol drwyr sianeli priodol. | Ar neu cyn Ionawr 2024 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol/Gweithrediadau |
Codi ymwybyddiaeth or cynllun gweithredu newydd. | Cyhoeddi a hyrwyddor Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig in cwsmeriaid ar ein gwefan a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. | Ar neu cyn Ionawr 2024 | Swyddog y Gymraeg / T樽m Cyfathrebu / T樽m Cyhoeddi Digidol |
Monitror cynllun gweithredu | Defnyddio Gweithgor yr Iaith Gymraeg i fonitro datblygiadau wrth roir Cynllun Gweithredu ar waith. | Parhaus | Aelodaur Gweithgor Iaith Gymraeg |
Adolygu ac Adrodd | Paratoi adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol ac yn 担l y gofyn, yn amlinellur cynnydd o ran cyflawnir cynllun hwn ar cynllun gweithredu. | Bob mis Tachwedd | Swyddog y Gymraeg |
Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iaith Gymraeg Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)