Canllaw i wrthwynebiadau: Trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (Cymraeg)
Published 3 October 2024
Applies to England, Scotland and Wales
1. CANLLAW I WRTHWYNEBIADAU
1.1 TRWYDDEDU GWEITHREDWYR CERBYDAU GWASANAETH CYHOEDDUS
2. RHAGAIR
Prif nod y canllaw hwn yw helpu sefydliadau sydd 但 hawl statudol i wrthwynebu cais am drwydded gweithredwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus (PSV) i:
-
deall prif ddibenion y system trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus;
-
ateb llawer o y cwestiynau ynghylch gwneud gwrthwynebiad statudol yn erbyn rhoi trwydded; ac i
-
gynorthwyo gyda lletya gwrthwynebiad yn erbyn ceisiadau
Nid ywr canllaw hwn wedii fwriadu i roi cyngor cyfreithiol.
Bwriad yr wybodaeth yn y canllaw hwn hefyd yw esbonior broses o wrthwynebu ceisiadau ar gyfer y rhai syn gwneud cais am drwyddedau gweithredwr.
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar gael yn: /guidance/public-service-vehicle-operator-licensing-guide
Maer Canllaw hwn hefyd yn rhoi cyngor ar sut i roi gwybod am unrhyw achosion posibl o dorri amodau trwyddedu neu weithgareddau anawdurdodedig gan weithredwyr.
Mae Atodiad 2 yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth berthnasol, mae cop誰au ar gael ar-lein.
Maer canllaw hwn a gwybodaeth arall am drwyddedu gweithredwyr ar gael ar y wefan /psv-operator-licences/how-to-apply-for-a-psv-licence
Maer cyhoeddiad Hysbysiadau a Thrafodion hefyd ar gael ar-lein syn rhoi manylion yr holl geisiadau am drwyddedau cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a dderbyniwyd gan gomisiynydd traffig ar penderfyniadau a wnaed ar y ceisiadau. Edrychwch ar y wefan ar:
/government/collections/traffic-commissioner-notices-and-proceedings
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch 但 Swyddfar Comisiynydd Traffig - enquiries@otc.gov.uk
3. Trwyddedu Gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSV)
3.1 Beth yw trwyddedu gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a phwy sydd angen trwydded?
Mae trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn system o drwyddedu sydd 但r nod o sicrhau defnydd diogel a phriodol o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
Mae angen trwydded ar y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cerbydau a ddyluniwyd neu a addaswyd i gludo naw neu fwy o deithwyr a lle cymerir taliad i gludo teithwyr am d但l neu wobr.
Fel arfer mae angen trwydded a roddir gan awdurdod lleol o dan drefn hurio preifat neu dacsi ar gerbydau sydd ag wyth neu lai o seddi teithwyr a ddefnyddir ar gyfer llogi neu wobr. Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau pan fydd y cerbydau hyn yn cael eu dosbarthu fel cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a rhaid eu gweithredu o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Gelwir y rhain yn gerbydau bach ac mae canllawiau pellach ar gael yma: /guidance/public-service-vehicle-operator-licensing-guide#overview-of-operator-licensing
Deiliad trwydded ywr gweithredwr. Bydd trwydded yn awdurdodi gweithredwr i ddefnyddio hyd at uchafswm o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ac i ddefnyddio canolfan neu ganolfannau gweithredu penodol.
4. Sut mae gweithredwr yn cael trwydded?
Rhaid i weithredwr feddu ar drwydded ym mhob Ardal Draffig lle mae ganddo/ganddi ganolfan neu ganolfannau gweithredu. Gall trwyddedau awdurdodi defnyddio mwy nag un ganolfan weithredu.
Gwneir ceisiadau am drwydded i gomisiynydd traffig. Mae pob comisiynydd traffig yn gorff cyhoeddus ar wah但n ac, er eu bod wedi cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae pob un yn annibynnol ar unrhyw adran or Llywodraeth, os ydynt yn arfer swyddogaethau barnwrol neu peidio. Mae wyth ardal draffig ac wyth comisiynydd traffig (Mae manylion yr ardaloedd traffig yn Atodiad 1).
Ar gais, bydd comisiynydd traffig yn ystyried enw da ymgeisydd i ddal trwydded; yr adnoddau ariannol sydd ar gael, ar trefniadau sydd ar waith, i gynnal a chadw ei gerbydau; a, lle bon briodol, cymhwysedd proffesiynol. Bydd comisiynydd traffig yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau statudol a wneir yn erbyn caniat叩ur drwydded.
Unwaith y bydd trwydded wedi cael ei chyhoeddi, gall gweithredwr wneud cais iw ddiwygio (amrywio).
5. Gwrthwynebiadau
5.1 Pwy all wrthwynebu caniat叩u cais?
Dim ond awdurdod lleol neu brif swyddog heddlu sydd 但 hawl statudol i wrthwynebu cais am drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
Mae awdurdod lleol yn golygu:
- yng Nghymru a Lloegr, cyngor sir, dosbarth neu fwrdeistref yn Llundain neu Gyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Weithrediaeth Trafnidiaeth Teithwyr; a
- yn yr Alban, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. Deddf 1994 (Yr Alban).
5.2 Ar ba sail y gellir gwneud gwrthwynebiadau
Gall gwrthwynebiadau gael eu gwneud gan wrthwynebwyr statudol syn awdurdod lleol neun brif swyddog heddlu. Gallant wrthwynebu caniat叩u cais ar y sail bod yr ymgeisydd:
-
gydag enw da, gan gynnwys enw dar rheolwr trafnidiaeth neu ffactorau a ganlyn yr unigolyn
-
sefyllfa ariannol
-
cymhwysedd proffesiynol
-
trefniadau ar gyfer cadw cerbydau mewn cyflwr ffit a defnyddiol
-
y gallu i gydymffurfio 但 gofynion y gyfraith syn ymwneud 但 gyrru a gweithredu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
Ni all comisiynydd traffig ystyried addasrwydd amgylcheddol canolfan weithredu na diogelwch y briffordd gyhoeddus syn arwain at y ganolfan weithredu neur rhwydwaith ffyrdd. Materion ir awdurdodau priffyrdd ywr rhain.
5.3 Sut mae gwrthwynebwyr yn cael gwybod am geisiadau?
Rhaid i gomisiynydd traffig gyhoeddi manylion y rhan fwyaf o geisiadau. Gwneir hyn trwy ddefnyddio cyhoeddiad or enw Hysbysiadau a Thrafodion (Ns & Ps), a gyhoeddir bob wythnos. Maer cyhoeddiad yn cael ei e-bostio ar gais i Wrthwynebwyr Statudol yn y rhanbarth a gwmpesir gan yr ardal draffig. Maen rhaid i wrthwynebwyr statudol ymateb o fewn cyfnod penodol ar 担l cyhoeddi manylion cais os ydynt yn dymuno gwrthwynebu. Cedwir y rhestr o dderbynwyr mor gyfredol 但 phosibl ond os teimlwch y dylech fod yn derbyn copi ac nad ydych, cysylltwch 但 Swyddfar Comisiynydd Traffig.
Mae cop誰au o Hysbysiadau a Thrafodion hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar y wefan: /government/collections/traffic-commissioner-notices-and-proceedings
6. Gwrthwynebu
Rhaid i wrthwynebiad i gais am drwydded gweithredwr:
-
gael ei wneud yn ysgrifenedig ir comisiynydd traffig yn Swyddfar Comisiynydd Traffig a lle bynnag bod modd, dylai ddyfynnur ddeddfwriaeth y gwneir y gwrthwynebiad oddi tani;
-
gael ei lofnodi gan lofnodwr awdurdodedig or sefydliad syn gwneud y gwrthwynebiad;
-
dod i law Swyddfar Comisiynydd Traffig ddim hwyrach na 21 diwrnod ar 担l y dyddiad y cyhoeddir hysbysiad or cais yn Hysbysiadau a Thrafodion (oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol);
-
gael ei gop誰o ir ymgeisydd ar yr un diwrnod, neur diwrnod gwaith nesaf, ag y cyflwynir y gwrthwynebiad ir comisiynydd traffig
-
nodi seiliau penodol a rhoi digon o fanylion fel bod yr ymgeisydd yn gwybod yr achos y maen rhaid iddo/iddi ei ateb.
Os na chaiff unrhyw un or meini prawf uchod eu bodloni efallai na fydd y comisiynydd traffig yn derbyn y gwrthwynebiad heblaw bod amgylchiadau eithriadol.
Er mwyn eich cynorthwyo i gyflwyno gwrthwynebiad i gais, mae templed enghreifftiol iw weld yn Atodiad 3 y canllaw hwn. Er nad oes unrhyw ofyniad i gyflwyno gwrthwynebiad gan ddefnyddior templed hwn, fe bwriedir fel canllaw defnyddiol syn nodi materion y gall y comisiynydd traffig eu cymryd i ystyriaeth ac na chaiff eu hystyried.
7. Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn achos gwrthwynebiad dilys bydd Swyddfar Comisiynydd Traffig fel arfer yn ysgrifennu at y gweithredwr yn gofyn am ragor o wybodaeth ac yn gofyn am sylwadau ar y materion sydd wediu cynnwys yn y gwrthwynebiad.
Bydd y comisiynydd traffig wedyn yn penderfynu os ywn gallu gwneud penderfyniad ar y cais neu os oes angen cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i glywed tystiolaeth gan y ddau barti cyn dod i benderfyniad. Lle bod y comisiynydd traffig or farn y gallai fod yn bosibl datrys materion heb Ymchwiliad Cyhoeddus, bydd yn gofyn am sylwadaur part誰on perthnasol ar unrhyw ffordd ymlaen arfaethedig cyn penderfynu os ellir penderfynu ar y cais bryd hynny, neu os yw yn angenrheidiol i fynd ymlaen i wrandawiad.
7.1 Pa ystod o benderfyniadau sydd ar gael ir comisiynydd traffig?
Mae nifer o opsiynau ar gael ir comisiynydd traffig, y rhai mwyaf arferol yw:
-
caniat叩ur cais fel y gwnaed cais amdano;
-
caniat叩ur cais ond gosod amodau neu gofnodi ymrwymiadau yngl天n 但 defnyddior cerbydau;
-
caniat叩ur cais am lai o gerbydau;
-
gwrthod y cais.
Mae torri amodau trwydded yn drosedd ac mae gweithredwr yn wynebu cosbau os bydd yn gwneud hynny.
7.2 Ydy penderfyniad y comisiynydd traffig yn derfynol?
Gall ymgeisydd apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio 但 chaniat叩u cais fel y gwnaed cais amdano neu benderfyniad i atodi amodau. Gall gwrthwynebydd statudol apelio yn erbyn caniat叩u cais. Rhaid gwneud pob ap棚l ir Uwch Dribiwnlys - Siambr Apeliadau Gweinyddol (Trafnidiaeth).
Mae gwefan y Tribiwnlys yn cynnwys ffurflen a manylion y broses.
8. ATODIAD 1 Ardaloedd Traffig
Sylwch fod y rhestr isod yn gweithredu fel canllaw yn unig. Wrtham drwydded bydd yr ardal draffig gywir yn cael ei dyrannun awtomatig. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch pa ardal draffig y maeynddi, gallwch gysylltu 但 Swyddfar Comisiynydd Traffig am gyngor.
8.1 Ardal Traffig y Gogledd Ddwyrain - Yn gyfrifol am
Y bwrdeistrefi metropolitan o fewn:
-
De Swydd Efrog
-
Tyne a Wear
-
Gorllewin Swydd Efrog
Siroedd:
-
Durham
-
Dwyrain Riding yn Swydd Efrog
-
Northumberland
-
Gogledd Swydd Efrog
-
Swydd Nottingham
Ardaloedd:
-
Gogledd-Ddwyrain Swydd Lincoln,
-
Gogledd Swydd Lincoln
8.2 Ardal Traffig y Gogledd Orllewin - Yn gyfrifol am
Y bwrdeistrefi metropolitan:
-
Manceinion Fwyaf
-
Glannau Mersi
Siroedd:
-
Sir Gaer
-
Cymbria
-
Swydd Derby
-
Swydd Gaerhirfryn
8.3 Ardal Traffig y Dwyrain - Yn gyfrifol am
Siroedd:
-
Swydd Bedford
-
Swydd Buckingham
-
Swydd Gaergrawnt
-
Essex
-
Swydd Hertford
-
Swydd Gaerl天r
-
Swydd Lincoln (ac eithrio Ardaloedd Gogledd Swydd Lincoln a Gogledd-Ddwyrain Swydd Lincoln)
-
Norfolk
-
Northamptonshire
-
Rutland
-
Suffolk
8.4 Ardal Traffig Cymru - Cyfrifol am
- Cymru
8.5 Ardal Traffig Gorllewin Canolbarth Lloegr - Yn gyfrifol am
Y bwrdeistrefi metropolitan yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Siroedd:
-
Sir Henffordd
-
Sir Amwythig
-
Swydd Stafford
-
Swydd Warwick
-
Swydd Gaerwrangon
Ardal Traffig y Gorllewin - Yn gyfrifol am
Siroedd:
-
Berkshire
-
Cernyw
-
Dyfnaint
-
Dorset
-
Sir Gaerloyw
-
Hampshire
-
Ynys Wyth
-
Swydd Rydychen
-
Gwlad yr Haf
-
Wiltshire
Ardaloedd:
-
Caerfaddon a Gogledd-Ddwyrain Gwlad yr Haf
-
Bryste
-
Gogledd Gwlad yr Haf
-
De Swydd Gaerloyw
8.6 Ardal Traffig y De Ddwyrain ar Metropolitan - Yn gyfrifol am
- Llundain Fwyaf
Siroedd:
-
Caint
-
Surrey
-
Dwyrain Sussex
-
Gorllewin Sussex
8.7 Ardal Traffig yr Alban - Yn gyfrifol am
- Yr Alban
9. ATODIAD 2 - Deddfwriaeth Berthnasol
Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981
Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Trwyddedau Gweithredwyr) 1995
Deddf Trafnidiaeth 1985
Rheoliad (EC) Rhif 1071/2009 (Mynediad at feddiannaeth gweithredwr trafnidiaeth ffordd) fel y cedwir yn neddfwriaeth y DU
10. ATODIAD 3 Templed ar gyfer gwrthwynebu
Gweler ynghlwm .