Guidance

Canllaw i Wrandawiadau'r Comisiynydd Traffig

Updated 11 October 2024

1. Canllaw i Wrandawiadau o Flaen Comisiynydd Traffig

1.1 Maer canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig y dylech ei ddarllen ymlaen llaw cyn gwrandawiad o flaen Comisiynydd Traffig

Mae canllawiau trwyddedu gweithredwyr eraill ar gael ar-lein ar wefan:

/being-a-goods-vehicle-operator

/psv-operator-licences

2. Ymchwiliad Cyhoeddus o flaen Comisiynydd Traffig

2.1 BETH YW YMCHWILIAD CYHOEDDUS?

Mae ymchwiliad cyhoeddus yn wrandawiad tribiwnlys ffurfiol, a comisiynydd traffig ywr penderfynwr. Mae tri prif fath o ymchwiliad cyhoeddus - y rhai a gynhelir i benderfynu ar geisiadau am drwyddedau; adolygiadau o ganolfannau gweithredu (ar gyfer trwyddedau gweithredwr nwyddau yn unig); ar rhai a ddelir am resymau rheoleiddiol, lle bydd dyfodol gweithrediadau trafnidiaeth yn cael ei ystyried.

Fel arfer cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus yn bersonol, yn debyg i lys neu dribiwnlys arall. Mewn rhai achosion, gall comisiynydd traffig benderfynu cynnal ymholiad o bell gyda phart誰on yn mynychu rhithiol (ar-lein). Oherwydd cymhlethdod yr achos maer cyfle i wneud hyn yn gyfyngedig a bydd part誰on yn cael eu hysbysu yn y llythyr syn eu galw ir ymchwiliad a ywr gwrandawiad iw gynnal yn bersonol neun rhithiol, gydag unrhyw gyfarwyddiadau penodol. Yn fwy cyffredin, clywir tystiolaeth rhai tystion o bell, ond bydd part誰on yn cael yr un cyfle i ofyn cwestiynau ac egluror ffeithiau gydar tystion hyn. Mae llawer or wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw hwn yn berthnasol i wrandawiadau personol neu rithiol, ond fei hysgrifennwyd gyda gwrandawiadau yn bersonol fel y math mwyaf cyffredin.

Wrth wrando ar gais, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan yr ymgeisydd ac os bydd angen unrhyw wrthwynebiad dilys ir cais. Wrth adolygu canolfan weithredu, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan y gweithredwr ac unrhyw achwynwyr dilys. Mewn achosion rheoleiddio bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan y gweithredwr ac fel arfer tystiolaeth a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a/neu gyrff gorfodi eraill.

Ym mhob ymchwiliad cyhoeddus gall y comisiynydd traffig hefyd glywed gan dystion ychwanegol ac, os ywr comisiynydd traffig yn ystyried bod hynnyn briodol, gall asesydd ariannol gynorthwyo.

Pan fydd comisiynydd traffig wedi cael gwrthwynebiad dilys (sylw a/neu wrthwynebiad) i gais, gall ef/hi ystyried ei fod yn briodol cynnal ymchwiliad cyhoeddus. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb sydd 但 diddordeb i gyflwyno eu hachos ir comisiynydd traffig.

Gall comisiynydd traffig benderfynu bod angen ymchwiliad cyhoeddus er mwyn egluro gwybodaeth sydd wedi dod i law, syn codi pryderon. Yn ogystal, rhaid i gomisiynydd traffig gynnal ymchwiliad cyhoeddus os ywn ystyried cymryd camau rheoleiddio yn erbyn trwydded bresennol a bod y gweithredwr yn gofyn am wrandawiad. Yn bellach, rhaid i gomisiynydd traffig gynnal ymchwiliad cyhoeddus os ywn ystyried cymryd camau rheoleiddio yn erbyn enw da a/neu gymhwysedd proffesiynol rheolwr trafnidiaeth, a bod cais wedi cael ei wneud am y gwrandawiad.

3. PARTION I YMCHWILIAD CYHOEDDUS

3.1 SUT BYDD GWEITHREDWR, YMGEISYDD, RHEOLWR TRAFNIDIAETH YN CAEL GWYBOD AM YMCHWILIAD CYHOEDDIAD?

Bydd llythyr yn eich galw ir ymchwiliad yn esbonio pam mae ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth y mae wedii alw oddi wrth, ynghyd 但r dystiolaeth y bydd y comisiynydd traffig yn ei hystyried. Bydd hwn yn cael ei anfon ir cyfeiriad gohebiaeth a roddir i Swyddfar Comisiynydd Traffig ai gofnodi ar y drwydded. Bydd hysbysiad o ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei anfon gan roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd mewn perthynas 但 thrwydded neu gais gweithredwr nwyddau presennol, 14 diwrnod o rybudd mewn perthynas 但 thrwydded neu gais gweithredwr teithwyr presennol a 28 diwrnod o rybudd mewn perthynas 但 ymchwiliad cyhoeddus yn ymwneud 但 rheolwr trafnidiaeth. Gellir cwtogir cyfnodau hyn gyda chytundeb yr ymgeisydd/gweithredwr neur rheolwr trafnidiaeth. Nid ywr amserlennin berthnasol ar gyfer achosion a ohiriwyd o ddata lle rhoddwyd rhybudd yn flaenorol.

3.2 SUT MAE GWRTHWYNEBWYR/CYNRYCHIOLWYR/ACHWYNWYR YN GWYBOD OS BYDD YMCHWILIAD CYHOEDDUS YN CAEL EI GYNNAL?

Ar gyfer trwyddedau gweithredwyr HGV, gall gwrthwynebwyr statudol megis awdurdodau lleol, awdurdodau cynllunio, yr heddlu, a rhai cymdeithasau masnach ac undebau llafur, wrthwynebu caniatad cais am drwydded nwyddau ar sail enw da neu addasrwydd i ddal trwydded, sefyllfa ariannol, pryderon ynghylch trefniadaur gweithredwr ar gyfer cynnal a chadw cerbydau a chydymffurfio ag oriau gyrwyr, cymhwysedd proffesiynol y gweithredwr ac addasrwydd amgylcheddol a chyffredinol canolfan weithredu.

Mae gan berchnogion a meddianwyr tir neu adeiladau ger canolfan weithredu syn teimlo y byddai defnydd neu fwynhad ou tir eu hunain yn cael ei effeithion negyddol gan y defnydd arfaethedig o ganolfan weithredu HGV yr hawl i fynegi eu barn i gomisiynydd traffig. Feu gelwir yn gynrychiolwyr; dim ond ar sail amgylcheddol y gellir gwneud sylwadau.

Yn wahanol i wrthwynebiadau, a wneir mewn ymateb i geisiadau, gall cwynion gael eu gwneud ar unrhyw adeg a chan unrhyw un. Gall cwyn am ganolfan weithredu awdurdodedig fod naill ai ar sail amgylcheddol neu ddiogelwch ar y ffyrdd. Fodd bynnag, dim ond os ystyrir bod y gweithredwr dan sylw yn gweithredu y tu allan i delerau ei drwydded/thrwydded y gall y comisiynydd traffig gymryd camau ar unwaith; fel arall, dim ond ar yr hyn a elwir yn Ddyddiad Adolygu y gall y comisiynydd traffig weithredu, syn digwydd bob pum mlynedd ac syn seiliedig ar pryd y rhoddwyd y drwydded gyntaf.

Bydd unrhyw un sydd wedi gwneud gwrthwynebiad neu sylw dilys yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad, amser a lleoliad yr Ymchwiliad ac yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol. Fel arfer rhoddir o leiaf 21 diwrnod o rybudd iddynt a gofynnir iddynt gadarnhau os byddant yn mynychu neu peidio.

Ar gyfer trwyddedau gweithredwr cerbydau teithwyr, dim ond gwrthwynebwyr statudol fel yr heddlu ac awdurdodau lleol all wrthwynebur cais. Gallant wrthwynebu caniatad cais am drwydded teithwyr ar sail enw da (ffitrwydd) i ddal trwydded, sefyllfa ariannol, pryderon ynghylch trefniadaur gweithredwr ar gyfer cynnal a chadw cerbydau a chydymffurfiaeth oriau gyrwyr a chymhwysedd proffesiynol y gweithredwr.

3.3 PWY DDYLAI FYNYCHU YMCHWILIAD CYHOEDDUS?

Os ywr gweithredwr/ymgeisydd yn fasnachwr unigol neun bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), dylair perchennog neur partneriaid fynychur ymchwiliad. Yn achos cwmni neu PAC, dylai o leiaf un cyfarwyddwr fod yn bresennol. Os ywr cwmni neur PAC yn dymuno anfon uwch gynrychiolydd dylai geisio caniat但d y comisiynydd traffig yn gyntaf a bydd angen iddo ddarparu awdurdodiad ysgrifenedig gan y bwrdd cyfarwyddwyr i gynrychiolir cwmni yn yr ymchwiliad. Gall ymchwiliad gael ei ohirio neu gall yr achos fynd yn ei flaen heb y gallu i gyflwyno sylwadau, pe na bair awdurdodiad hwn yn cael ei ddarparu.

Gallai methu 但 mynychur ymchwiliad olygu bod y comisiynydd traffig yn penderfynu ar yr achos yn eich absenoldeb.

Nid oes darpariaeth i wneud cais am y costau nar gost o fynychu ymchwiliad cyhoeddus ac nid oes gan y comisiynydd traffig unrhyw b典er i wneud unrhyw ddyfarniad or fath.

Yn achos cais, y gwrthwynebydd/cynrychiolydd sydd i benderfynu os ywn dymuno mynychur ymchwiliad cyhoeddus. Gall y comisiynydd traffig roi llai, neu ddim pwys, iw wrthwynebiad ir cais os na chaiff yr ymgeisydd gyfle i gwestiynu sail y gwrthwynebiad.

Gall unrhyw barti i ymchwiliad ofyn i rywun eu cynrychioli yn y gwrandawiad hwnnw. Gall hwn fod yn eiriolwr cymwysedig: Cwnsler (bargyfreithiwr yn Lloegr a Chymru neu aelod o Gyfadran yr Eiriolwyr yn yr Alban), neu gyfreithiwr. Gall unrhyw un arall, gan gynnwys ymgynghorydd trafnidiaeth, siarad dim ond os ceir cytundeb y comisiynydd traffig o flaen llaw. Nid oes cyfreithiwr ar ddyletswydd yn bresennol yn yr ymchwiliad ac nid oes Cymorth Cyfreithiol ar gael i gynrychiolaeth. Mater i chi yw ystyried os ydych am geisio cyngor annibynnol cyn gynted 但 phosibl ar 担l derbyn y llythyr yn eich hysbysu am yr ymchwiliad cyhoeddus. Mae comisiynydd traffig yn annhebygol o dderbyn cais i ohirior ymchwiliad ar y diwrnod ar y sail eich bod nawr yn dymuno cael eich cynrychioli.

Os byddwch yn penderfynu cael eich cynrychioli, dylech drosglwyddor llythyr syn eich galw ir ymchwiliad ich cynrychiolydd cyn gynted 但 phosibl er mwyn caniat叩u digon o amser i baratoi eich achos yn iawn a hysbysu Swyddfar Comisiynydd Traffig.

Cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb i gael eich cynrychioli dylech sicrhau bod gan eich cynrychiolydd arfaethedig wybodaeth dda am ddeddfwriaeth trwyddedu gweithredwyr a gofynion y comisiynwyr traffig. Maer rhain yn faterion arbenigol ac ni fydd gan bob cyfreithiwr neu ymgynghorydd ddigon o brofiad ich cynrychiolin effeithiol. Os ydych yn aelod o gymdeithas fasnach, efallai y gallant argymell cynrychiolydd i chi. Os bydd rhywun syn dymuno eich cynrychioli yn cysylltu 但 chi, dylech geisio sefydlu eu profiad cyn dod i unrhyw gytundeb. Gallwch wneud hyn drwy ofyn am eirdaon gan gleientiaid blaenorol neu ofyn iddynt egluror canllawiau sydd wediu cynnwys yn y Dogfennau Statudol a gyhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig. Ni all Swyddfar Comisiynydd Traffig wneud argymhellion gan gynrychiolwyr, ond gall gadarnhau gwybodaeth ffeithiol, megis os yw cynrychiolydd penodol yn hysbys ir comisiynydd traffig ac os ywn debygol o gael ei gymeradwyo ich cynrychioli yn yr ymchwiliad cyhoeddus.

Unwaith y caiff ei benodi dylai eich cynrychiolydd ymgyfarwyddo 但 ffeithiaur achos a dylid hysbysur comisiynydd traffig o flaen llaw o enwr person a fydd yn bresennol.

3.4 BETH FYDD YN DIGWYDD OS NA ALLAF FOD YN BRESENNOL?

Os na all gweithredwr/ymgeisydd a/neu reolwr trafnidiaeth fod yn bresennol ar y dyddiad a roddir ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus gallant ofyn am ohiriad. Fodd bynnag, ni fydd gwrandawiadau fel arfer yn cael eu gohirio heblaw bod rheswm da a chymhellol dros wneud hynny. Felly bydd angen ir comisiynydd traffig wybod y rhesymau pam na all y person perthnasol fod yn bresennol. Er enghraifft, os oes gwyliau a archebwyd o flaen llaw, gall y comisiynydd traffig ofyn am dystiolaeth ei fod wedii archebu cyn dyddiad y llythyr syn galwr person hwnnw ir ymchwiliad cyhoeddus. Nid yw comisiynydd traffig yn rhwym yn awtomatig i dderbyn tystysgrif feddygol. Rhaid i geisiadau am ohiriadau ar sail feddygol gael eu cefnogi gan dystiolaeth feddygol syn nodi os a pham na all person fynychu gwrandawiad. Nid oes unrhyw dribiwnlys wedii rwymon awtomatig gan dystysgrif feddygol a chaiff ddefnyddio ei ddisgresiwn i ddiystyru tystysgrif, yn enwedig lle;

  • maer dystysgrif yn datgan bod y parti yn anaddas i weithio (yn hytrach nan anaddas i fynychu gwrandawiad);

  • maen ymddangos nad yw natur yr anhwylder, (e.e. torri braich), yn gallu atal presenoldeb yn y gwrandawiad;

  • maer parti wedii ardystio fel un syn dioddef o straen / gorbryder / iselder ac nid oes unrhyw arwydd bod y partin gwella o fewn amserlen realistig

4. Y GWRANDAWIAD

4.1 GOFYNION PENODOL

Os oes gan unrhyw un syn mynychur ymchwiliad unrhyw ofynion penodol neu fod angen eu cymryd i ystyriaeth e.e. at ddibenion crefyddol, mynediad i gadeiriau olwyn, nam ar y clyw neur golwg, neu os oes angen cyfieithydd arnoch, rhowch wybod i Swyddfa berthnasol y Comisiynydd Traffig o leiaf bythefnos cyn dyddiad yr ymchwiliad er mwyn gallu gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Mae comisiynwyr traffig yn deall y gall ystod eang o amodau achosi anhawster ir rhai syn mynychu gwrandawiadau. Yn ogystal 但r amodau corfforol gweledol amlwg, efallai y bydd gan rai pobl gyflyrau nad ydynt yn amlwg, ond a allai gyflwyno heriau ychwanegol. Gall y rhai syn bresennol mewn gwrandawiadau fod yn sicr y bydd unrhyw fater a godir gyda staff neur comisiynwyr yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Cymerir pob cam rhesymol i ddarparu ar gyfer anghenion unigol, ond maen bwysig bod Swyddfar Comisiynydd Traffig yn cael rhybudd priodol.

Os oes gan fynychwyr hoffterau penodol o ran sut i fynd ir afael 但 hwy, e.e. defnydd rhagenwau, neu ar unrhyw fater arall y maent yn ei ystyried yn sensitif, dylent ei godi gyda staff naill ai cyn diwrnod y gwrandawiad neu cyn iddo ddechrau

4.2 DARPARU DOGFENNAU

Bydd y llythyr syn hysbysu gweithredwyr a rheolwyr trafnidiaeth am wrandawiad hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol. Dylid cydymffurfion llawn 但r rhain. Maen arferol i rai dogfennau gael eu hanfon cyn gwrandawiad. Mae dogfennau y gofynnir amdanynt yn gyffredin yn ymwneud 但 chofnodion cynnal a chadw cerbydau a thystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth ag oriau gyrwyr. Maen bwysig bod unrhyw ddogfen neu dystiolaeth yn cael ei hanfon at Swyddfa berthnasol y Comisiynydd Traffig o fewn y cyfnod a nodir, fel bod digon o amser iw hystyried yn briodol. Os na dderbynnir dogfennau yn unol 但 chyfarwyddiadau, gall comisiynydd traffig benderfynu peidio 但u cymryd i ystyriaeth. Gallai hyn gael effaith negyddol ar y gweithredwr neur rheolwr trafnidiaeth.

4.3 CYRRAEDD Y LLEOLIAD

Heblaw y cyfarwyddir yn wahanol, fech cynghorir i gyrraedd y lleoliad o leiaf awr cyn ir ymchwiliad ddechrau a dod ag unrhyw ohebiaeth syn eich hysbysu or ymchwiliad ynghyd ag unrhyw bapurau achos a anfonwyd atoch gydar llythyr, a llun adnabod.

Dylai gwrthwynebwyr/cynrychiolwyr/achwynwyr sicrhau eu bod wedi cofrestru eu presenoldeb gyda Chlerc yr Ymchwiliad Cyhoeddus a fydd yn gwneud nodyn o enwaur bobl syn mynychu, ar rhai sydd am siarad yn yr Ymchwiliad. Gallai unrhyw fethiant i gofrestru arwain at gollir cyfle i gael gwrandawiad.

Efallai y gofynnir i chi ddangos llun adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru, i gadarnhau pwy ydych chi. Gall methu 但 chyflwynor prawf adnabod gofynnol arwain at y comisiynydd traffig yn gwrthod clywed gennych. Os nad ydych yn sicr pa brawf adnabod syn dderbyniol dylech gysylltu 但 Swyddfar Comisiynydd Traffig am eglurhad.

Bydd Clerc yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn dweud wrthych ble i eistedd a bydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y trafodion. Gall yr amser cychwyn gwirioneddol ddibynnu ar achosion eraill a restrir ar gyfer gwrandawiad y diwrnod hwnnw. Sicrhewch fod eich ff担n symudol wedii ddiffodd cyn i chi fynd i mewn ir ystafell ymholiadau cyhoeddus.

4.4 Y GWEITHREDIADAU

Maer gweithrediadau hyn yn wrandawiadau ffurfiol a disgwylir ir rhai syn bresennol ddangos parch at eraill ac at yr achosion eu hunain. Dylid cyfeirio at y comisiynydd traffig fel Syr neu Fadam, yn dibynnu ar y rhyw a nodwyd neun syml fel Comisiynydd.

Ni roddir tystiolaeth o dan llw ond maen ofynnol i dystion ddweud y gwir bob amser. Gallai unrhyw fethiant i wneud hynny arwain at y comisiynydd traffig yn canfod nad ywr person ag enw da nac yn addas i ddal trwydded neu i weithredu fel rheolwr trafnidiaeth. Gallai hefyd effeithio ar y pwysau a roddir i dystiolaeth y person hwnnw. At hynny, gallai rhoi tystiolaeth ffug i gomisiynydd traffig gyfeirio at y mater yn cael ei gyfeirio at yr heddlu a gallai cyhuddiadau troseddol ddilyn.

Maer ymchwiliad yn agored i aelodaur cyhoedd ac unrhyw bart誰on eraill sydd 但 diddordeb. Bydd y comisiynydd traffig yn ystyried, ar gais, os dylid clywed tystiolaeth sensitif benodol mewn sesiwn breifat, e.e. gwybodaeth ariannol neu wybodaeth feddygol bersonol.

Ar 担l ir clerc gyhoeddir achos a rhoi manylion cryno, bydd y comisiynydd traffig yn amlinellu natur y trafodion er mwyn sicrhau bod pawb yn deall pam ei fod yn digwydd ar gweithdrefnau iw dilyn.

Bydd pawb sydd 但 hawl i roi tystiolaeth, gwneud cyflwyniadau, neu wneud sylwadau yn cael cyfle i siarad a gofyn cwestiynau perthnasol. Mater ir comisiynydd traffig yw penderfynu beth syn berthnasol at ddibenion yr achos. Gall unrhyw un syn rhoi tystiolaeth ir ymchwiliad ddisgwyl ir ymgeisydd/gweithredwr, neu gynrychiolydd syn gweithredu ar ei ran, ofyn cwestiynau iddo. Bydd y comisiynydd traffig hefyd yn gofyn cwestiynau i bob parti.

Wrth ystyried cais, bydd gan y comisiynydd traffig gopi or holl wrthwynebiadau a/neu sylwadau dilys. Gall y comisiynydd traffig ganiat叩u i wybodaeth ychwanegol gael ei chyflwyno (ond mae hynnyn annhebygol o gynnwys seiliau ychwanegol) neu i ddogfennau neu ffotograffau ychwanegol gael eu cynhyrchu yn yr ymchwiliad. Maen ddefnyddiol dod 但 chop誰au ychwanegol o ddogfennau ir gwrandawiad gan y bydd hyn yn osgoi gorfod treulio llawer o amser yn mynd o gwmpas y dogfennau gwreiddiol.

Yn ystod yr gweithrediad gall y comisiynydd traffig ofyn ir gweithredwr beth allair effeithiau fod ar ei fusnes pe bain cymryd camau yn erbyn y drwydded. Yn achos ceisiadau, gallair comisiynydd traffig ofyn am effaith bosibl amodau ar y gweithrediad arfaethedig.

Yn olaf, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd o flaen ef/hi.

Efallai y byddain ddefnyddiol paratoi rhai nodiadau o flaen llaw, yn rhestrur pwyntiau perthnasol yr hoffech eu codi yn yr ymchwiliad gan gofior ffactorau y gallair comisiynydd traffig eu cymryd i ystyriaeth.

4.5 COFNODIR YMHOLIAD

Bydd y trafodion yn cael eu recordio fel y gellir cynhyrchu trawsgrifiad, pe bai angen un. (Fel arfer, dim ond mewn achosion lle mae ap棚l yn erbyn penderfyniad y comisiynydd traffig y caiff trawsgrifiadau eu harchebu.) Sylwch y gallai gwybodaeth bersonol gael ei chofnodi yn ystod yr ymchwiliad a gallai gael ei rhoi ir cyhoedd heblaw eich bod yn gofyn ir wybodaeth hon gael ei rhoi yn breifat. Gall unrhyw gais or fath gael ei ganiat叩u yn 担l disgresiwn y comisiynydd traffig.

Sylwch y gall unrhyw wybodaeth a roddwch ir ymchwiliad gael ei ddatgelu i drydydd parti at ddibenion gorfodi.

Ni chaniateir i unrhyw un syn mynychur ymchwiliad wneud unrhyw gofnod arall or achos.

4.6 Y PENDERFYNIAD

Safon y prawf mewn achos o flaen comisiynydd traffig ywr safon sifil, (h.y. yn llai nar hyn syn ofynnol ar gyfer achos llys troseddol, lle maer prawf y tu hwnt i bob amheuaeth resymol). Mewn ymchwiliad cyhoeddus dim ond bod angen i gomisiynydd traffig fod yn fodlon bod yr achos wedii brofi ar gydbwysedd tebygolrwydd, mewn geiriau eraill a ywn fwy tebygol na pheidio bod rhywbeth penodol wedi digwydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd part誰on sydd 但 diddordeb yn cael gwybod am ganlyniad yr ymchwiliad ar y diwrnod a chaiff hyn ei gadarnhaun ysgrifenedig o fewn ychydig ddyddiau. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y comisiynydd traffig am ystyried ei benderfyniad ymhellach, ac os felly bydd y penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch cyn gynted 但 phosibl, fel arfer o fewn 28 diwrnod ar 担l ir comisiynydd traffig dderbyn yr holl wybodaeth berthnasol.

Bydd pob gwrthwynebydd/cynrychiolydd/achwynydd yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig or penderfyniad a datganiad o resymaur comisiynydd traffig, os gofynnir am hynny.

4.7 APELIADAU

Mae gan ymgeiswyr, gweithredwyr a gwrthwynebwyr statudol hawliau apelio gwahanol i Siambr Apeliadau Gweinyddol (Trafnidiaeth) yr Uwch Dribiwnlys. Bydd manylion ynghylch sut i apelio yn cael eu nodi yn y llythyr penderfyniad, a anfonir ar 担l yr ymchwiliad.

Mae gan gomisiynwyr traffig ddisgresiwn i gyfarwyddo na fydd penderfyniadau penodol, fel arfer yn ymwneud ag atal dros dro neu ddirymu trwydded gweithredwr, yn dod i rym hyd nes y bydd ap棚l yn cael ei chyflwyno ac yr ymdrinnir 但 nhw gan yr Uwch Dribiwnlys.

Dylid gwneud cais am arhosiad cyn gynted 但 phosibl ond gellir ei wrthod o hyd. Lle gwrthodir ataliad mae gan y parti hawl i apelio i farnwr yn Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys.

Mae gwefan y Tribiwnlys yn cynnwys ffurflen a manylion am y broses.

Ni all comisiynydd traffig adolygu ei benderfyniad i ganiat叩u neu wrthod cais heblaw ei fod yn fodlon y bu rhywfaint o afreoleidd-dra gweithdrefnol wrth ymdrin ag ef. Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad y comisiynydd traffig cyn gynted 但 phosibl, a beth bynnag o fewn dau fis i ddyddiad penderfyniad gwreiddiol y comisiynydd traffig. Cyfeirir cynrychiolwyr at y Canllaw i Wneud Sylwadau, Gwrthwynebiadau a Chwynion

Corff barnwrol annibynnol ywr Uwch Dribiwnlys, a sefydlwyd i wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadaur Comisiynwyr Traffig. Cyhoeddir penderfyniadau ar y . Gellir ddod o hyd i benderfyniadau a wnaed cyn Mehefin 2015 ar wefan:

Mae pob comisiynydd traffig yn ceisio cynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol a phroffesiynol. Mae unrhyw g典yn bod comisiynydd traffig mewn rhyw ffordd wedi methu 但 chyrraedd y safonau hyn yn cael ei chymryd o ddifrif. Mae cwyn ynghylch ymddygiad yn gwbl ar wah但n i unrhyw ap棚l ir Uwch Dribiwnlys y gallech ddymuno ei ddilyn. Maer cyhoeddiad Protocol Cwynion Trydydd Parti ar gyfer Comisiynwyr Traffig A Dirprwy Gomisiynwyr Traffig yn rhoi rhagor o wybodaeth.

5. CWESTIYNAU CYFFREDIN

5.1 Pwy yw comisiynwyr traffig a beth yw eu r担l?

Penodir comisiynwyr traffig gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Maent yn gorff cyhoeddus anadrannol, yn gweithion annibynnol ar yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ai Hasiantaethau. Y comisiynydd traffig yn y pen draw syn penderfynu os ddylid galw ymgeisydd, gweithredwr, rheolwr trafnidiaeth a/neu yrrwr(wyr) i wrandawiad. Maer ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi cyfle ir comisiynydd traffig archwilio, mewn lleoliad ffurfiol, yr ymgeisydd/gweithredwr a/neur rheolwr trafnidiaeth, a chlywed tystiolaeth cyn dod i benderfyniad ynghylch caniat叩u neu wrthod cais neu gymryd camau rheoleiddio yn erbyn trwydded bresennol. Rheoleiddwyr annibynnol arbenigol yw comisiynwyr traffig syn gweithredu mewn swyddogaeth farnwrol wrth gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynnyn golygu bod yn rhaid iddynt sicrhau, fel unrhyw dribiwnlys arall ym Mhrydain, bod yr achosion yn deg ac yn rhydd rhag ymyrraeth a thuedd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae comisiynwyr traffig yn ei wneud ar gael ar y gwefan:

/government/organisations/traffic-commissioners/about

5.2 Sut y bydd y comisiynydd traffig yn ystyried cyllid?

Bydd y llythyr syn galw gweithredwr i ymchwiliad cyhoeddus yn nodi os ywr comisiynydd traffig yn ystyried argaeledd cyllid yn erbyn lefel yr adnoddau y disgwylir i weithredwr neu ymgeisydd ei ddangos.

Wrth ystyried y mater hwn, bydd y comisiynydd traffig yn ceisio atebion i dri chwestiwn allweddol, a nodwyd gan y Tribiwnlys Trafnidiaeth mewn ap棚l 1992/D41 J J Adam (Haulage) Ltd. Y cwestiynau hyn yw:

  • Faint o arian all y gweithredwr ddod o hyd iddo os bydd angen?
  • Pa mor gyflym y gallant ddod o hyd iddo?
  • O ble y daw?

Bydd y comisiynydd traffig yn ystyried bod cyllid ar gael os oes gennych:

  • arian yn y banc y gellir ei ddefnyddio (h.y. nid oes ei angen eisoes ar gyfer talu dyledion yng nghwrs arferol y busnes), neu
  • orddrafft yn yr ystyr bod balans heb ei dynnu cyn cyrraedd y terfyn, neu
  • ddyledion y gellir eu cael oherwydd eu bod yn ddyledus ac yn debygol o fod yn hawdd eu casglu neu
  • asedau y maen hawdd cael arian ohonynt yn yr ystyr bod yr asedau yn eitemau y gellir eu gwerthun rhwydd heb unrhyw effaith andwyol ar allur busnes i gynhyrchu arian,
  • neu os oes gennych chi ffordd arall i ddod o hyd i arian ar fyr rybudd.

Maen bwysig nodi bod yn rhaid i ddeiliad trwydded allu dangos bod cyllid digonol ar gael yn barhaus yn ystod oes trwydded. Nid ywn ddigon dangos cyllid digonol ar ddiwrnod yr ymchwiliad drwy atebion tymor byr e.e. benthyciadau dros dro sydd iw had-dalu yn y dyfodol agos.

Ceir rhestr or mathau o dystiolaeth y gellid dibynnu arni yn y canllawiau statudol a g yhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig. Fech cynghorir yn gryf i ddarllen y canllawiau hynny a cheisio cyngor annibynnol os nad ydych yn deall y gofynion.

5.3 Beth a olygir gan enw da neu addasrwydd i ddal trwydded?

Rhaid i bob deiliad trwydded gweithredwr safonol, trwydded PSV gyfyngedig a rheolwyr trafnidiaeth fod ag enw da. Rhaid i bob deiliad trwydded nwyddau cyfyngedig fod yn addas i ddal trwydded.

Wrth ystyried enw da ac addasrwydd, gall y comisiynydd traffig ystyried ymddygiad y gweithredwr neur ymgeisydd yn ogystal ag unrhyw euogfarnau perthnasol neu unrhyw wybodaeth arall syn ymddangos yn ymwneud ag addasrwydd deiliad y drwydded i fodloni rhwymedigaethaur drwydded a gallu rheolwr trafnidiaeth i weithredu fel rheolwr trafnidiaeth ar drwydded safonol.

Maer euogfarnau perthnasol wedi cael eu datgan mewn deddfwriaeth. Gall collfarnau am droseddau trafnidiaeth ffordd a throseddau difrifol eraill arwain at golli enw da yn orfodol.

Bydd y llythyr syn eich galw ir ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi gwybod pa dystiolaeth y maer comisiynydd traffig yn ei hystyried ac os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud 但 hyn dylech gysylltu 但 Swyddfar Comisiynydd Traffig am gyngor.

Ceir rhagor o fanylion am enw da ac addasrwydd yn y canllawiau statudol ar cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig sydd iw gweld yn: Comisiynwyr traffig: enw da ac addasrwydd - 51画鋼 (www.gov.uk)

5.4 Sut gallaf benderfynu os yw rheolwr trafnidiaeth yn fewnol neun allanol?

Rhaid i reolwr trafnidiaeth hefyd fod 但 chysylltiad gwirioneddol 但r gweithredwr. Maer cais a ffurflenni eraill yn gofyn am ddatganiad bod gan reolwr trafnidiaeth mewnol y cysylltiad gwirioneddol hwnnw. Ar gyfer rheolwr trafnidiaeth Mewnol y gellid dangos os mair rheolwr trafnidiaeth yw:

  • deiliad y drwydded; neu
  • un or partneriaid y mae ei enw ar y drwydded; neu
  • syn gyfarwyddwr y cwmni y delir y drwydded yn ei enw; neu weithiwr amser llawn neu ran-amser.

Gall y comisiynydd traffig wirio hyn ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio neu yn ystod oes y drwydded ac yn erbyn datganiadau blaenorol trwy ofyn am brawf cyflogaeth, megis contract. Gellir ddangos cyflogaeth mewn nifer o ffyrdd, gan ddechrau gyda threth a chyfraniadau gweithwyr. Yn gyffredinol, mae gweithiwr (mewnol) fel arfer yn rhan o sefydliad y cyflogwr ac yn gwneud ei waith fel rhan annatod or busnes tra nad yw contractwr annibynnol (allanol) fel arfer wedii integreiddio ir sefydliad ond maen affeithiwr iddo.

5.5 Beth yw cymhwysedd proffesiynol?

Fel arfer dangosir Cymhwysedd Proffesiynol trwy gynhyrchu tystysgrif (CPC) syn bodlonir gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae rhai pobl wedi cael eu heithrio or gofyniad drwy gymwysterau a enillwyd neu drwy feddu ar dystysgrif Hawliau Caffaeledig a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ir bobl hynny a ddangosodd eu bod wedi rheolin barhaus weithrediad cludiant ffordd neu gludiant teithwyr ffordd yn y DU neu un neu fwy o Aelod-wladwriaethaur UE am y cyfnod o 10 mlynedd yn diweddu 4 Rhagfyr 2009. Nid yw tystysgrifau Hawliau Caffaeledig newydd ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ar gael rhagor a byddai angen cymwysterau amgen er mwyn cyflawni r担l rheolwr trafnidiaeth.

Mae newidiadau ir system trwyddedu gweithredwyr i ddod 但 cherbydau (neu gyfuniadau) dros 2.5 tunnell a hyd at 3.5 tunnell syn ymwneud 但 gweithrediadau llogi neu wobrwyo ir UE, wedi arwain at ailgyflwyno tystysgrifau Hawliau Caffaeledig ar gyfer y math hyn o weithrediad yn unig. Y bwriad yw y bydd y rhain yn cael eu cyfyngu i gyfnod o dair blynedd er mwyn galluogi pobl i ennill y cymhwyster llawn. Ni fydd y tystysgrifau hyn yn eithrio pobl syn rheoli fflyd o gerbydau nwyddau trwm. Nid ywr ddeddfwriaeth hon wedi dod i rym eto.

Bernir bod deiliad tystysgrif cymhwysedd proffesiynol yn meddu ar wybodaeth syn cyfateb ir lefel a nodir yn y ddeddfwriaeth heblaw bod comisiynydd traffig yn canfod fel arall. Nid ywn bosibl rhestrur holl ddyletswyddau y gellid ddisgwyl i reolwr trafnidiaeth eu cyflawni, er y gallair Canllawiau Statudol ar Cyfarwyddiadau Statudol fod o gymorth.

Gallai gwahanol dimau neu is-adrannau o fewn busnes gyflawni swyddogaethau amrywiol, ond y rheolwr trafnidiaeth syn gyfrifol yn y pen draw am gyflawnir ddyletswydd statudol. Os bydd comisiynydd traffig yn canfod fel arall, yna gall y comisiynydd traffig orchymyn ir rheolwr trafnidiaeth hwnnw gymryd mesurau adsefydlu syn cynnwys ailsefyll yr arholiad cymhwyster i gael Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol.

5.6 Beth yw ymchwiliad cyhoeddus amgylcheddol?

Llaw-fer yw hwn ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i bennu addasrwydd canolfan weithredu ar gyfer trwydded gweithredwr cerbydau HGV. Maen un yn unig o nifer o faterion y maen rhaid ir comisiynydd traffig eu hystyried wrth benderfynu ar y cais. Gall perchnogion a deiliaid eiddo ger y ganolfan weithredu arfaethedig syn credu y byddai effaith niweidiol ar eu defnydd neu eu mwynhad ou heiddo eu hunain wneud sylwadau ar sail amgylcheddol yn unig. Maen rhaid ir sylwadau hynny gydymffurfio 但 nifer o amodau syn ofynnol yn 担l y gyfraith syn sicrhau bod yr achos yn deg cyn y gellir eu trin fel rhai dilys.

Gall y comisiynydd traffig ystyried:

  • natur neu ddefnydd unrhyw dir arall yng nghyffiniaur ganolfan weithredu ar effaith y byddair drwydded yn debygol oi chael ar yr amgylchedd;
  • os ywr safle wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan weithredu or blaen, i ba raddau y byddai caniat叩ur cais yn arwain at newid a fyddain effeithion andwyol ar amgylchedd ei gyffiniau;
  • os nad yw wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan weithredu or blaen, unrhyw wybodaeth y maen hysbys iddo/iddi am ganiat但d cynllunio syn ymwneud 但r ganolfan weithredu neu dir arall yng nghyffiniaur ganolfan weithredu;
  • nifer, math a maint y cerbydau modur a threlars awdurdodedig;
  • y trefniadau, neur trefniadau arfaethedig, ar gyfer parcio cerbydau modur neu drelars;
  • natur ac amserau defnydd y tir fel canolfan weithredu;
  • natur ac amserau defnyddio offer a osodwyd (neu y bwriedir eu gosod) yn y ganolfan weithredu mewn cysylltiad 但i ddefnydd fel canolfan weithredu;
  • y modd y mae cerbydau a awdurdodwyd gan y drwydded yn mynd i mewn ac allan or ganolfan weithredu, ac amlder y cerbydau hynny.

Yn gyffredinol, gall y comisiynydd traffig ystyried effeithiau: S典n cerbydaur ymgeisydd yn symud i mewn ac allan or ganolfan weithredu a thra yn y ganolfan; Ymwthiad Gweledol yr effaith y gallai parcio cerbydau yn y ganolfan weithredu ei chael ar yr olygfa o eiddo neu dir y sawl syn cynrychioli; Dirgryniad - yr effaith y gall symudiadau cerbydau ei chael, naill ai yn y ganolfan weithredu neu ar eu ffordd i mewn neu allan or ganolfan weithredu; Mygdarth/Llygredd effaith mygdarth o gerbydaur ymgeisydd ar ddefnydd neu fwynhad o eiddo.

Gall y comisiynydd traffig ganiat叩u neu wrthod y cais yn llawn neun rhannol a gall osod amodau amgylcheddol a/neu ddiogelwch ffyrdd, ond mae cyfyngiadau iw awdurdodaeth. Dim ond mewn perthynas 但r ymgeisydd y gall y comisiynydd traffig osod amodau ar ddefnyddio canolfan weithredu ac ni all osod cyfyngiadau ar unrhyw gerbydau syn ymweld 但r safle neun ei ddefnyddio at ddibenion eraill. Maer ymchwiliad cyhoeddus yn gwbl ar wah但n i unrhyw un y gallair awdurdodau priffyrdd, cynllunio neu awdurdodau lleol ei gynnal. Cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol yw defnyddior safle at ddibenion eraill. Mae pryderon ynghylch y briffordd gyhoeddus syn arwain at y ganolfan weithredu neur rhwydwaith ffyrdd o amgylch yn faterion i awdurdodau priffyrdd.

5.7 Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn bodlonir gofynion statudol?

Nid yw ymchwiliad cyhoeddus yn llys troseddol ac felly bydd y comisiynydd traffig yn ymwneud 但 sefyllfar gweithredwr ar ddyddiad yr ymchwiliad cyhoeddus. Un ffordd o ddangos eich bod yn bodlonir amodau/ymrwymiadau ar drwydded bresennol yw dod 但r cofnodion y gofynnwyd amdanynt yn y llythyr syn eich galw i ymchwiliad cyhoeddus ir gwrandawiad. Yn syml, os ywr comisiynydd traffig yn canfod nad ywr gofynion yn cael eu bodloni yna gall wrthod cais a/neu gymryd camau yn erbyn y drwydded neu eich enw da/cymhwysedd proffesiynol fel rheolwr trafnidiaeth.

Fodd bynnag, maer ddeddfwriaeth yn caniat叩u i ddeiliad trwydded safonol (ond nid ymgeiswyr) ofyn ir comisiynydd traffig am gyfnod o amser (cyfnod gras) i unionir sefyllfa. Nid oes rhwymedigaeth ar y comisiynydd traffig i roi cyfnod gras. Maer cyfnodau mwyaf a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth fel y canlynol:

Diffyg Cyfnod Mwyaf Gras
Rheolwr Trafnidiaeth, Gadael cyflogaeth 6 months
Rheolwr Trafnidiaeth, Marwolaeth neu anallu corfforol 6 + 3 months
Sefydliad Effeithiol a Sefydlog 6 months
Sefyllfa Ariannol 6 mis i ddangos bydd y gofyniad yn cael ei fodloni ar sail barhaol

5.8 Ble gallaf ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol?

Maer Uwch Gomisiynydd Traffig wedi cyhoeddi cyfres o Ganllawiau Statudol a Chyfarwyddiadau Statudol syn amlinellur arferion mewn amryw o feysydd cyfreithiol. Ymhlith pethau eraill, maent yn cynnwys Addasrwydd ac Enw Da; Cyllid; Rheolwyr Trafnidiaeth; Canolfannau Gweithredu a Sefydliadau Stablau; Rheoli Achos; Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau.

5.9 Deddfwriaeth Berthnasol

Rhestrir y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati amlaf isod. Mae llawer or ddeddfwriaeth hon wedi cael ei ddiwygio.

5.10 Trwyddedu gweithredwr cerbyd nwyddau

Deddf Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredwyr) 1995

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredwyr) 1995 (SI 1995/2869)

Rheoliadau Gweithredwyr Trafnidiaeth Ffyrdd 2011 (SI 2011/2632)

Rheoliad (EC) Rhif 1071/2009 (Mynediad at feddiannaeth gweithredwr trafnidiaeth ffordd) (Fel y cedwir yng nghyfraith y DU)

Rheoliad (EC) Rhif 1072/2009 (Rheolau cyffredin ar gyfer mynediad ir farchnad cludo nwyddau ar y ffyrdd rhyngwladol) (Fel y cedwir yng nghyfraith y DU)

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Pwerau Gorfodi) 2001

5.11 Trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus

Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Trwyddedau Gweithredwyr) 1995

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Comisiynwyr Traffig: Cyhoeddi ac Ymholiadau) 1986

Deddf Trafnidiaeth 1985

Deddf Trafnidiaeth 2000

Deddf Trafnidiaeth Leol 2008

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Pwerau Gorfodi) 2009

Rheoliadau Cerbyd Gwasanaethau Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) (yr Alban) 2001

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) 1986

Efallai y byddwch am gael copi or Ddeddf neur Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y llythyr syn eich galw ir ymchwiliad cyhoeddus oddi wrth y Llyfrfa Cyfyngedig: . Fel arall, gellir gweld fersiynau electronig or Ddeddf ar Rheoliadau ar wefan