Cyfarwyddyd ymarfer 36: gweinyddiad a derbynyddiaeth
Diweddarwyd 1 Awst 2022
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Maer cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybodaeth am agweddau cofrestru tir ar drafodion ystadau gan weinyddwyr a derbynyddion gweinyddol a benodwyd yn 担l darpariaethau Deddf Ansolfedd 1986.
Ar gyfer materion yn ymwneud 但 derbynyddion a benodir yn 担l darpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925, gweler cyfarwyddyd ymarfer 36A: derbynyddion a benodir o dan ddarpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Ar gyfer materion yn ymwneud ag ansolfedd personol neu gorfforaethol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol a chyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol.
Er 8 Rhagfyr 2017, maer prosesau ansolfedd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn adlewyrchur rhai sydd ar gael i gwmn誰au ansolfent ar y cyfan, felly yn y cyfarwyddyd hwn, gellir darllen yr ymadroddion cwmni neu gorff corfforaethol (ar 8 Rhagfyr 2017 neu ar 担l hynny) i gynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. (Fodd bynnag, mae Rheolau Ansolfedd 1986 yn dal i fod yn gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig lle cyflwynwyd deiseb ar gyfer gweinyddu cyn 15 Medi 2003.)
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Dim ond cop誰au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio or dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop誰au ardystiedig.
2. Gweinyddwyr
2.1 Penodi a phwerau
Gweinyddwr yw rhywun a benodwyd o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 i reoli materion, busnes ac eiddo cwmni. Rhaid i weinyddwr fod yn ymarferydd ansolfedd (paragraff 6 Atodlen B1).
Gall y canlynol benodi gweinyddwr:
- gorchymyn gweinyddu a wnaed gan y llys (dan baragraff 10 Atodlen B1)
- deiliad arwystl ansefydlog cymhwysol (dan baragraff 14 Atodlen B1)
- y cwmni neu ei gyfarwyddwyr (dan baragraff 22 Atodlen B1)
- unrhyw gredydwr neu ddatodwr partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (o dan baragraff 12(1)(c) neu 38(1) yn y drefn honno o Atodlen B1)
Arwystl ansefydlog cymhwysol yw un sydd naill ai:
- yn datgan bod paragraff 14 Atodlen B1 yn berthnasol iddo
- yn awdurdodi ei ddeiliad i benodi gweinyddwr
- yn awdurdodi ei ddeiliad i benodi derbynnydd fyddain dderbynnydd gweinyddol
Mae rhywun yn dal arwystl ansefydlog cymhwysol os ywn dal naill ai:
- arwystl ansefydlog cymhwysol (neu nifer o arwystlon tebyg) syn berthnasol i eiddor cwmni i gyd neu i gyd i bob diben
- arwystlon a mathau eraill o warant sydd, gydai gilydd, yn berthnasol i eiddor cwmni i gyd, neu i gyd i bob diben, ac o leiaf un ohonynt yn arwystl ansefydlog cymhwysol
Lle bor llys yn penodir gweinyddwr, maer penodiad yn dod i rym ar adeg a bennwyd gan y gorchymyn neu, os na phennwyd amser, pan gaiff y gorchymyn ei wneud (paragraff 13(2) Atodlen B1).
Lle bo deiliad arwystl ansefydlog, y cwmni neur cyfarwyddwyr yn penodi gweinyddwr, dawr penodiad i rym pan fydd yr apwyntiwr yn cyflwyno rhybudd o benodiad yn y llys ynghyd 但r dogfennau penodedig (paragraffau 19 a 31 Atodlen B1). Ar neu ar 担l 6 Ebrill 2017, rhaid ir rhybudd gydymffurfio 但 gofynion rheol 3.17 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (neu reolau 3.24 neu 3.25 os ywr cwmni neur cyfarwyddwyr yn penodir penodiad). Cyn 6 Ebrill 2017, neu lle bo darpariaethau trosiannol Rheolau Ansolfedd 2016 yn gymwys, rhaid ir penodiad fod ar ffurf 2.6B (os mai deiliad arwystl ansefydlog syn penodi) (rheol 2.16 o Reolau Ansolfedd 1986), ffurf 2.9B (os mair cwmni syn penodi) neu ffurf 2.10B (os mair cyfarwyddwyr syn penodi) (rheol 2.23 o Reolau Ansolfedd 1986). Rhaid ffeilior rhybudd o benodiad gydar llys a fydd yn rhoi 2 gopi o rybudd y penodiad o dan s棚l ir apwyntiwr, gyda dyddiad ac amser y penodiad arnynt. Rhaid ir apwyntiwr anfon un or rhain at y gweinyddwr cyn gynted ag syn ymarferol o fewn rheswm (rheolau 3.18 a 3.26 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016). Rhaid ir gweinyddwr gyhoeddi rhybudd oi benodiad cyn gynted ag syn rhesymol ymarferol (paragraff 46(2)(b) o Atodlen B1) rhaid rhestrur rhybudd, gellir ei hysbysebu a rhaid ei anfon at bobl eraill, gan gynnwys y cofrestrydd cwmn誰au o dan paragraff 46(4) o Atodlen B1 (mae T天r Cwmn誰au wedi cyhoeddi ffurflen AM01 at y diben hwn).
Lle penodir cyd-weinyddwyr neu weinyddwr cydredol, rhaid ir penodiad nodi pa swyddogaethau (os o gwbl) sydd iw harfer ar y cyd, a pha rai (os o gwbl) sydd iw harfer gan rai neu bob un or rhai a benodwyd (paragraff 100, Atodlen B1). Os ywr penodiad yn dawel ar y mater hwn, bydd agen datganiad neu dystysgrif ar wah但n ar Gofrestrfa Tir EF i gadarnhaur sefyllfa.
Rhaid ir gweinyddwr gyflawni ei swyddogaethau gydag amcan achub y cwmni fel busnes byw neu, o fethu gwneud hynny, cael gwell canlyniad i gredydwyr y cwmni i gyd nag a fyddain debygol petain cael ei ddirwyn i ben. Os nad ywr naill amcan nar llall yn ymarferol o fewn rheswm, gall sylweddu eiddo er mwyn gwneud dosraniad i un neu fwy o gredydwyr gwarantedig neu ddethol (paragraff 3 Atodlen B1).
Gall y gweinyddwr wneud unrhyw beth angenrheidiol neu gyfleus er rheoli materion, busnes ac eiddor cwmni. Heb leihau effaith cyffrediniaeth hynny, mae ganddor pwerau a fanylir yn Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986. Maer rhain yn cynnwys p典er gwerthu ac i roi neu dderbyn ildio prydles. Gall y gweinyddwr ddefnyddio s棚l y cwmni a chyflawni unrhyw weithred, derbynneb neu ddogfen yn enw ac ar ran y cwmni. Nid oes unrhyw b典er datganedig i wneud rhodd. Nid oes angen i rywun syn delio 但r gweinyddwr yn ddiffuant ac am werth holi a ywr gweinyddwr yn gweithredu o fewn ei bwerau (paragraffau 59 a 60 Atodlen B1). Maer gweinyddwr yn gweithredu fel asiant y cwmni (paragraff 69 Atodlen B1).
2.2 Y berthynas gyda datodiad a derbynyddiad
Nid oes modd penodi gweinyddwr tra bor cwmni mewn datodiad, heblaw gan y llys ar gais y datodwr neu, o dan rai amgylchiadau, ar gais deiliad arwystl ansefydlog cymhwysol. Os bydd y llys yn penodi gweinyddwr bydd yn cyflawni unrhyw orchymyn dirwyn i ben (paragraffau 8, 37 a 38 Atodlen B1).
Fel arfer, nid oes modd gosod cwmni sydd mewn gweinyddiad mewn datodiad (paragraffau 40 a 42 Atodlen B1).
Lle bo cwmni mewn derbynyddiaeth weinyddol dim ond y llys all benodi gweinyddwr, ac yn unig o dan yr amgylchiadau cyfyngedig syn cael eu manylu ym mharagraff 39 Atodlen B1. Mae penodi gweinyddwr ohonoi hun yn diswyddo unrhyw dderbynnydd gweinyddol sydd gan y cwmni (paragraff 41(1) Atodlen B1). Nid oes modd penodi derbynnydd gweinyddol tra bor cwmnin mewn gweinyddiad (paragraff 43(6A) Atodlen B1).
Nid yw bodolaeth derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn atal rhag penodi gweinyddwr, ac nid ywn diswyddo derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo ohonoi hun os digwydd hyn. Fodd bynnag, rhaid i dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo adael y swydd os bydd y gweinyddwr yn gofyn iddo wneud hynny (paragraff 41(2) Atodlen B1).
2.3 Effeithiau eraill gweinyddiad
Tra bo cwmni mewn gweinyddiad, erys ei eiddo wedii freinio ynddo, ond yn absenoldeb cydsyniad y gweinyddwr neur llys (paragraff 43 Atodlen B1):
- nid oes modd gorfodi unrhyw warant dros eiddor cwmni
- ni ellir adfeddiannu unrhyw nwyddau sydd gan y cwmni o dan gytundeb hurbwrcasu
- ni all neb ddechrau neu barhau achos neu unrhyw broses gyfreithiol arall yn erbyn y cwmni
- ni all landlord fforffedu prydles syn perthyn ir cwmni trwy ailfynediad heddychlon
2.4 Nodi penodi gweinyddwr
Gallwch wneud cais i nodi penodi gweinyddwr ar y gofrestr (rheol 184 o Reolau Cofrestru Tir 2003, fel yi newidiwyd gan Orchymyn Deddf Menter 2002 (Ansolfedd) 2003). Rhaid i chi ddarparu:
- ffurflen AP1
- y ffi syn daladwy o dan Gymal 12 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru a naill ai
- copi ardystiedig o orchymyn y llys wedi ei selio yn penodir gweinyddwr ac yn dangos dyddiad ac amser y penodiad, neu
- copi ardystiedig or copi o dan s棚l (yn dangos dyddiad ac amser y ffeilio) or rhybudd o benodiad a ffeiliwyd yn y llys a wnaed o dan reolau 3.17, 3.24 neu 3.25 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (neu, os ywn gymwys, ar ffurf 2.6B, 2.9B neu 2.10B (a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986)
- yn achos cyd-weinyddwyr neu weinyddwyr cydredol, datganiad neu dystysgrif i gydymffurfio 但 pharagraff 100, Atodlen B1, os nad ywr offeryn penodin cynnwys y wybodaeth hon
I gael gwybod beth syn digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
Sylwer nad yw ffurf 2.12B a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986 (er ei bod yn dwyn y pennawd Rhybudd o benodiad gweinyddwr) yn ddigonol, na chwaith y rhybudd o benodiad o dan reol 3.27 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016, na ffurflen T天r Cwmn誰au AM01. Caiff y ffurf hon ei llunio ar gyfer achosion lle mae gofyn i weinyddwr roi rhybudd i unrhyw un o dan y rheolau hynny neu Ddeddf Ansolfedd 1986. Nid oes unrhyw ofyniad yn Neddf Ansolfedd 1986, Rheolau Ansolfedd 1986 neu Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 i hysbysu Cofrestrfa Tir EF. Felly, nid dymar rhybudd o benodiad y cyfeiriwyd ato yn rheol 184(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Maer rheol honnon cyfeirio at y rhybudd a gyflwynwyd yn y llys o dan baragraff 18 neu 29 Atodlen B1 (hy yn unol 但 rheolau 3.17, 3.24 neu 3.25 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016, neu ar ffurfiau 2.6B, 2.9B neu 2.10B a bennir o dan Reolau Ansolfedd 1986).
Byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr perchnogaeth:
(Dyddiad) Trwy [orchymyn y Llys a wnaed ar] [rhybudd o benodiad a gyflwynwyd ar] (dyddiad) penodwyd AB o (cyfeiriad) yn weinyddwr XY Cyfyngedig.
Mae modd gwneud cais i nodi penodi gweinyddwr ychwanegol neu newid gweinyddwr yn yr un modd.
I ddileur cofnod hwn, dylid gwneud cais ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth bod y gweinyddiad wedi dod i ben. Nid oes dim iw dalu. Fel arfer, y dystiolaeth fydd naill ai:
- copi ardystiedig o orchymyn llys, neu
- copi ardystiedig o rybudd priodol a gofrestrwyd gydar Cofrestrydd Cwmn誰au
- gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ar dyddiad priodol, gall hyn fod yn rhybudd yn cydymffurfio 但 rheol 3.53, 3.55, 3.56, 3.59, 3.60 a 3.61 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 neu ar unrhyw un o ffurfiau 2.30B, 2.32B, 2.33B, 2.34B neu 2.35B, fel y pennwyd o dan reolau 2.110, 2.111, 2.113, 2.116, 2.117 a 2.118 o Reolau Ansolfedd 1986
I gael gwybod beth syn digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
Er bod gweinyddiad fel arfer yn terfynu ohonoi hun ar 担l blwyddyn, mae modd ymestyn y cyfnod hwn (gweler Gwarediadau gan weinyddwr isod). Ni fyddwn yn dileur cofnod oherwydd treigl amser yn unig heb dystiolaeth y cofrestrwyd rhybudd priodol gydar Cofrestrydd Cwmn誰au.
2.5 Gwarediadau gan weinyddwr
Oni bai y nodwyd y penodiad ar y gofrestr fel y disgrifiwyd yn Nodi penodi gweinyddwr, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o benodiad y gweinyddwr wrth wneud cais i gofrestru unrhyw warediad a wnaed gan y gweinyddwr.
Rhaid ir dystiolaeth fod yn gopi swyddfa, o dan s棚l neu ardystiedig o orchymyn y llys neu rybudd o benodiad, fel y disgrifiwyd yn Nodi penodi gweinyddwr. Daw penodiad gweinyddwr i ben ar 担l blwyddyn, oni bai y cafodd ei ymestyn. Mae modd ei ymestyn am gyfnod penodol yn unig ac ond trwy naill ai:
- copi ardystiedig o orchymyn y llys
- (unwaith yn unig ac am ddim mwy na deuddeg mis), cydsyniad yr holl gredydwyr gwarantedig a mwyafrif credydwyr anwarantedig y cwmni (paragraffau 76 i 78 Atodlen B1)
Felly, os yw gweinyddwr yn gwneud gwarediad mwy na blwyddyn ar 担l ir cwmni fynd i weinyddiad, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth yr ymestynnwyd penodiad y gweinyddwr, boed ei benodiad wedi cael ei nodi ar y gofrestr neu beidio. 禽霞鉛温庄r dystiolaeth fod naill ai:
- copi swyddfa neu gopi ardystiedig or gorchymyn llys perthnasol, neu
- copi ardystiedig o rybudd estyniad yn cydymffurfio 但 rheol 3.54 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016
Gall y llys wneud gorchymyn hefyd i ddiweddur gweinyddiad. Rhaid ir gweinyddwr anfon copi or gorchymyn llys at y Cofrestrydd Cwmn誰au o fewn 14 diwrnod (yn dechrau gyda dyddiad y gorchymyn).
Gall y gweinyddwr waredu eiddor cwmnin rhydd o unrhyw arwystl ansefydlog fel pe na bain ddarostyngedig ir arwystl hwnnw (paragraff 70 Atodlen B1) yna mae hawl gan ddaliwr yr arwystl ir un flaenoriaeth dros unrhyw eiddo gan y cwmni syn cynrychiolir eiddo syn cael ei waredu. Pan fyddwch yn cyflwyno cais or fath bydd ein gofynion ar gyfer dileu rhybudd or arwystl ansefydlog yn dibynnu ar sut y cafodd ei gofnodi ar y gofrestr.
Lle cofnodwyd arwystl ansefydlog naill ai:
- fel rhybudd a gytunwyd
- gan y cofrestrydd ar gofrestriad cyntaf yr ystad gofrestredig, neu
- yn 担l darpariaethau Deddf Cofrestru Tir 1925
bydd angen wedii llofnodi gan y gweinyddwr arnom, gyda phanel 12 yn datgan yn eglur bod y gwaredu yn unol 但 pharagraff 70 Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986.
Lle cofnodwyd arwystl ansefydlog fel rhybudd unochrog, mae modd ir buddiolwr ei ddileu (gan wneud cais ar ffurflen UN2), neu gall y perchennog cofrestredig, neu rywun 但 hawl i wneud cais i gofrestru fel perchennog, wneud cais iw ddileu gan ddefnyddio ffurflen UN4, yn y ffordd arferol (gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr).
Os nad oes cofnod cofrestr yn ymwneud ag arwystl ansefydlog ond bod cofnod or math a ddisgrifir yn Cwmni mewn gweinyddiad yn caffael ystad, dylech gyflwyno ffurflen CN1 wedi ei llofnodi gan y gweinyddwr gydar cais, a thystysgrif gan y gweinyddwr neu ei drawsgludwr nad oedd unrhyw warantau or fath yn effeithio ar y teitl neu, ller oedd hyn yn wir, eu bod naill ai wedi eu rhyddhau neu fod y gwarediad yn cael ei wneud yn unol 但 pharagraff 70 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986. (Nid oes unrhyw ffi ychwanegol yn daladwy.)
Gall y gweinyddwr waredur eiddon rhydd o unrhyw arwystl arall gydag awdurdodiad y llys (paragraff 71 Atodlen B1). Yn y fath achos bydd angen i chi gyflwyno, gydar cais i gofrestrur gwarediad, copi swyddfa neu ardystiedig o orchymyn y llys yn awdurdodi gwarediad yn rhydd or arwystl, fel bod modd dileu cofrestriad (neu rybudd) yr arwystl.
I gael gwybod beth syn digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
2.6 Cwmni mewn gweinyddiad yn caffael ystad
Pan fo gweinyddwr wedi gwaredu eiddo cwmnin rhydd o arwystl ansefydlog yn 担l y disgrifiad yn Gwarediadau gan weinyddwr, mae gan yr arwystlai hawl ir flaenoriaeth wreiddiol dros unrhyw ystad newydd y bydd y cwmnin ei chaffael gydar derbyniadau (paragraff 70(2) Atodlen B1).
Oherwydd hynny, wrth gofrestru cwmni y gwyddom sydd 但 gorchymyn gweinyddu arno fel perchennog ystad, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr arwystlon:
(Dyddiad) Maer ystad gofrestredig yn destun y fath warant neu warantau ag y gall fodoli ac effeithio arni yn rhinwedd darpariaethau paragraff 70(2) Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd, 1986.
Lle bydd cofnod or fath, neu unrhyw gofnod tebyg syn cyfeirio at adran 15(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi ei wneud yn y gofrestr, (yn absenoldeb cais i gofrestru gwarediad gan y gweinyddwr) byddwn yn ei ddileu os ywr gweinyddwr yn gwneud cais ar Ffurflen CN1 gyda thystysgrif gan y gweinyddwr neu ei drawsgludwr nad oedd gwarantau or fath yn effeithio ar y teitl neu, ller oedd hyn yn wir, nad oeddent wedi eu crisialu au bod wedi eu rhyddhau. Nid oes ffi iw thalu.
2.7 Gweinyddwr yn cyflawni
Bydd cwmni mewn gweinyddiad yn cyflawni gweithredoedd naill ai trwy ddodi s棚l y cwmni ym mhresenoldeb y gweinyddwr (paragraff 60 Atodlen B1 a pharagraff 8 Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986), neu trwy ir gweinyddwr lofnodi yn enw ac ar ran y cwmni (paragraff 60 Atodlen B1 a pharagraff 9 Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986, ac adran 74(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo1925).
Dymar ffurfiau a awgrymir:
Lle caiff s棚l y cwmni ei defnyddio:

Lle na chaiff s棚l y cwmni ei defnyddio:

3. Derbynyddion gweinyddol
3.1 Diffiniad
Derbynnydd gweinyddol yw naill ai:
- derbynnydd neu reolwr y cyfan (neur cyfan i bob diben) o eiddo cwmni a benodwyd gan, neu ar ran, dalwyr unrhyw ddebenturon y cwmni a warantwyd trwy arwystl oedd, fel yi cr谷wyd, yn arwystl ansefydlog, neu arwystl or fath ac un warant arall neu fwy
- rhywun fyddain dderbynnydd neu reolwr or fath ond am benodi rhywun arall fel derbynnydd rhan o eiddor cwmni (adran 29(2) i Ddeddf Ansolfedd 1986)
3.2 Penodiad
Gall penodiad fod gan y llys neu o dan bwerau mewn debentur. Rhaid i dderbynnydd gweinyddol fod yn ymarferydd ansolfedd (adran 388 o Ddeddf Ansolfedd 1986) a rhaid iddo gadarnhau derbyn y penodiad (rheol 4.1 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016).
Os ywr penodiad o dan bwerau sydd mewn debentur a gr谷wyd trwy weithred, bydd p典er statudol yn codi:
- pan fo arian y morgais wedi dod yn daladwy
- pan for p典er gwerthun arferadwy (adrannau 101(1), 103 a 109 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925)
Gall y debentur amrywio, ymestyn neu eithrior p典er statudol, a gall gynnwys p典er datganedig i benodi (adrannau 109(3) a 101(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Bydd unrhyw ddebentur a luniwyd yn dda yn cynnwys darpariaethau datganedig yn pennu pryd mae modd gwneud penodiad.
Fodd bynnag, ni all deiliad debentur dyddiedig ar neu ar 担l 15 Medi 2003 benodi derbynnydd gweinyddol, ar waethaf unrhyw ddarpariaeth sydd yn y debentur (adran 72A o Ddeddf Ansolfedd 1986, a ddaeth i rym ar y diwrnod hwnnw).
Ceir eithriadau cyfyngedig i hyn yn 担l adrannau 72B i 72GA o Ddeddf Ansolfedd 1986.
Gall daliwr y debentur wneud y penodiad o dan y p典er statudol trwy ysgrifennu o dan lofnod.
Os penodir derbynyddion gweinyddol ar y cyd, rhaid ir penodiad nodi a oes modd iddynt weithio ar y cyd ac yn unigol (adran 231(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986).
3.3 Pwerau derbynnydd gweinyddol
Ystyrir bod y pwerau ddaw ir derbynnydd gweinyddol trwyr debentur yn cynnwys y pwerau statudol yn Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 heblaw ir graddau eu bod yn anghyson 但 darpariaethaur debentur (adran 42(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986).
Mae pwerau Atodlen 1 yn cynnwys p典er gwerthu ac i roi, neu dderbyn ildio, prydles. Nid oes unrhyw b典er datganedig i wneud rhodd.
Nid yw rhywun syn delio 但 gweinyddwr mewn didwylledd ac am werth yn poeni ynghylch holi a yw derbynnydd yn gweithredu o fewn ei b典er (adran 42(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986).
Rhaid i dderbynnydd gweinyddol adael y swydd pan fo gorchymyn gweinyddu o ran y cwmnin dod i rym (adran 8 o Ddeddf Ansolfedd 1986); paragraff 41(1) Atodlen B1).
Gweler Effaith datodiad ar bweraur derbynnydd gweinyddol am effaith datodiad ar bweraur derbynnydd gweinyddol.
3.4 Derbynnydd gweinyddol yn cyflawni
3.4.1 Yn unol 但 phwerau statudol yn Neddf Ansolfedd 1986
Mae gan dderbynnydd gweinyddol b典er statudol i ddefnyddio s棚l y cwmni ac i gyflawni unrhyw weithred yn enw ac ar ran y cwmni (adran 42(1) ac Atodlen 1 i Ddeddf Ansolfedd 1986). Yn ymarferol, y p典er statudol hwn syn fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio, yn hytrach nag atwrneiaeth a ddisgrifir isod.
Y ffurf gyflawni a awgrymir lle na chaiff s棚l y cwmni ei defnyddio:

3.4.2 Yn unol 但 ph典er asiantaeth gyffredinol wedi ei gynnwys yn y debentur
Fel arfer bydd y debentur yn rhoi hawl hefyd ir derbynnydd gweinyddol werthu neu waredu eiddor cwmni fel arall. Mae p典er or fath yn cynnwys y p典er i gyflawni yn enw ac ar ran y cwmni a bydd yn goroesi datodiad (Barrows v Chief Land Registrar, The Times, Hydref 20, 1977). Yn yr achos hwn awgrymir y ffurf gyflawni ganlynol:

3.4.3 Yn unol ag atwrneiaeth benodol wedi ei chynnwys yn y debentur

Fel arall, gall y debentur roi atwrneiaeth o blaid y derbynnydd gweinyddol. Nid yw p典er fel hyn yn b典er gwarant ac ni fydd yn goroesi datodiad (gweler Effaith datodiad ar bweraur derbynnydd gweinyddol). Os ywr derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, hyd yn oed os ywr p典er yn iau na 12 mis, bydd yn rhaid ir ceisydd am gofrestriad gyflwyno un or canlynol gydar cais:
- datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn datgan (os felly y mae) nad oeddynt, ar adeg cwblhaur trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad or p典er neun ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis dirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymur p典er
- dystysgrif wedi ei harwyddo gan drawsgludwr yn ardystio (os felly mae) nad oedd y ceisydd, ar adeg cwblhaur trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad or p典er neun ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis dirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymur p典er
3.4.4 Selio gan y cwmni
Yn 担l cyfarwyddyd y derbynnydd gweinyddol, gall y cwmni selior weithred hefyd gan ddefnyddio ei s棚l gyffredin ym mhresenoldeb swyddogion y cwmni gydag awdurdod priodol, neu gall cyfarwyddwr ac ysgrifennydd y cwmni ei llofnodi fel gweithred.
4. Cofnodion yn y gofrestr ar benodi derbynnydd
禽霞鉛温庄r debentur y penodwyd y derbynnydd gweinyddol drwyddo fod wedi ei gofrestru neu ei gofnodi eisoes ar gyfer y teitl. Gan fod yr eiddo yn aros wedi ei freinio yn y cwmni, ni allwch gofrestrur derbynnydd fel perchennog y teitl na chael rhybudd o gofnod penodiad y derbynnydd ar y gofrestr.
Bydd y derbynnydd am sicrhau bod cyfeiriad y cwmni ar gyfer gohebu fel y mae ar y gofrestr yn un lle bydd unrhyw rybuddion a gyflwynwn yn cael eu derbyn. Gall y derbynnydd ychwanegu cyfeiriad ychwanegol neu newid cyfeiriad syn bodoli (caniateir uchafswm o 3 chyfeiriad (rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cofiwch, unwaith y bydd y dderbynyddiaeth wedi dod i ben, ni fydd yn bosibl tynnu cyfeiriad y derbynnydd i ffwrdd pe bai hynnyn gadael y perchennog cofrestredig heb unrhyw gyfeiriad ar gyfer gohebu.
Os byddwch am gyflwyno cais or fath, mae arnom angen:
- ffurflen AP1
- copi ardystiedig o benodiad y derbynnydd
- copi ardystiedig or debentur (os nad yw wedi ei gofrestru neu ei nodi eisoes a chopi wedi ei ffeilio)
Nid oes dim iw dalu am y cais hwn.
I gael gwybod beth syn digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
5. Effaith datodiad ar bweraur derbynnydd gweinyddol
Asiant y cwmni ywr derbynnydd gweinyddol. Ar ddatodiad, dawr asiantaeth hon i ben ond maer derbynnydd yn dal i fod 但 ph典er i weithredu at ddibenion dal a gwaredu eiddor cwmni a gall ddefnyddio enwr cwmni ir diben hwnnw (Sowman yn erbyn David Samuel Trust Ltd [1978] 1 All ER 616).
Fel y nodwyd yn Derbynnydd gweinyddol yn cyflawni, nid yw atwrneiaeth benodol a gr谷wyd gan y debentur o blaid y derbynnydd gweinyddol yn b典er gwarant a chaiff ei ddirymu gan ddirwyn i ben y cwmni. Fodd bynnag, fel rheol maer debentur yn rhoi p典er asiantaeth gyffredinol i werthu, neu i waredur cwmni fel arall ir derbynnydd. Bydd y p典er yn cynnwys hawl i gyflawni yn enw ac ar ran y cwmni a bydd yr hawl honnon parhau ar 担l dechrau dirwyn i ben (Barrows v Land Registrar, The Times, Hydref 20, 1977); maer hawl i drawsgludo yn enwr cwmnin angenrheidiol ar gyfer cwblhau gwerthiannau a wneir wrth weithredu p典er gwerthur derbynnydd, syn goroesi datodiad.
Pan fydd y llys yn dirwyn cwmni i ben, mae unrhyw warediad o eiddor cwmni ar 担l dechraur dirwyn i ben yn ddi-rym oni bai bod hawl i wneud hynny trwy orchymyn y llys (adran 127 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Fodd bynnag, lle cr谷wyd debentur cyn trefniadau dirwyn i ben, nid yw unrhyw warediad dilynol gan ddaliwr y debentur neu dderbynnydd o dan bwerau asiantaeth gyffredinol sydd yn y debentur (gweler uchod) syn digwydd ar 担l ir dirwyn i ben gychwyn, yn gofyn am orchymyn y llys.
Gall darpariaethau adrannau 238 i 241 a 244 a 245 o Ddeddf Ansolfedd 1986 syn ymwneud 但 thrafodion am werth rhy isel, blaenoriaethau, trafodion credyd am grocbris ac osgoi arwystlon ansefydlog arbennig, beri annilysur debentur yn gyfan gwbl neun rhannol. Pan fydd cais ar sail gwarediad gan dderbynnydd yn cael ei ystyried, os bydd unrhyw awgrym y gall y datodwr geisio osgoir debentur yn 担l y darpariaethau hyn, gallwn gyflwyno rhybudd priodol syn rhoi cyfle i wrthwynebu. Os ywr ceisydd yn ymwybodol o unrhyw her or fath, rhaid i chi ei datgelu i ni wrth gyflwynor cais.
6. Gollwng ystad o forgeisi ac arwystlon ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol
Asiant y cwmni nid daliwr y debentur yw derbynnydd gweinyddol (adran 44(1)(A) o Ddeddf Ansolfedd 1986; adran 109(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925).
Nid oes gan dderbynnydd gweinyddol felly unrhyw b典er i ryddhau eiddor cwmni o unrhyw forgais neu arwystl, gan gynnwys y debentur, heb ystyried a gr谷wyd y morgais neu arwystl cyn neu ar 担l y debentur.
Pan fydd derbynnydd gweinyddol yn gwerthu rhaid ir prynwr sicrhau cael gollyngiad ar gyfer holl forgeisi ac arwystlon y bydd y prynwr hwnnw i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gael gollyngiad or debentur ei hun ac o unrhyw forgeisi ac arwystlon dyddiedig ar ei 担l.
Fodd bynnag, gall y llys orchymyn i waredu ag eiddo yn rhydd o arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd yn dilyn y debentur o dan yr hyn y cafodd y derbynnydd gweinyddol ei benodi, lle y gall y derbynnydd fodlonir llys ei bod yn fwy manteisiol i waredu 但r eiddo yn rhydd or arwystl (adran 43 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Dylid cyflwyno copi swyddfa neu gopi ardystiedig or gorchymyn llys gydag unrhyw gais i gofrestrur gwarediad ac i ddileu cofnod yr arwystl or gofrestr.
7. Tystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi cais i gofrestru ar sail gwarediad gan dderbynnydd gweinyddol
Os yw eich cais i gofrestru yn seiliedig ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol, yn ogystal 但r dystiolaeth arferol, bydd angen y canlynol arnom:
- copi ardystiedig or debentur [dylai hwn fod gennym eisoes os ywr teitl wedi ei gofrestru ar debentur wedi ei gofrestru neu ei gofnodi]
- byddwn yn gwirio bod y debentur wedi ei gofrestru o dan adran 859A o Ddeddf Cwmn誰au 2006 (adran 860 neu 878 o Ddeddf Cwmn誰au 2006 gynt neu adran 395 o Ddeddf Cwmn誰au 1985), ei fod wedi ei gyflawnin briodol ai fod yn cynnwys y darpariaethau priodol i ganiat叩u penodir derbynnydd gweinyddol ac i gynnal y gwarediad
- tystiolaeth bod p典er penodi derbynnydd o dan y debentur wedi codi
- fel arfer byddwn yn derbyn tystysgrif gan yr arwystlai neu gan drawsgludwr ar eu rhan bod p典er penodi o dan y debentur wedi codi
- os dyddiwyd y debentur ar neu ar 担l 15 Medi 2003, ar penodiad heb gael ei wneud gan y llys, mae angen tystiolaeth arnom hefyd bod un or eithriadau yn adrannau 72A i 72GA o Ddeddf Ansolfedd 1986, yn berthnasol
- copi ardystiedig or offeryn penodi derbynnydd
- os bydd derbynyddion gweinyddol ar y cyd yn cael eu penodi rhaid ir penodiad ddatgan a fyddant yn gallu gweithred ar y cyd ac ar wah但n (adran 231(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
- gollyngiad neu ryddhad o holl forgeisi neu arwystlon, gan gynnwys y debentur, y bydd y ceisydd i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt
- os cofrestrwyd y teitl eisoes bydd angen ir gollyngiad neu ryddhad gynnwys morgeisi neu arwystlon a warchodwyd ar y gofrestr yn unig
- os ywr llys wedi gwneud gorchymyn yn awdurdodi gwaredu eiddo yn rhydd o forgais neu arwystl (gweler Gollwng ystad o forgeisi ac arwystlon ar warediad gan dderbynnydd gweinyddol), bydd angen copi swyddfa neu gopi ardystiedig or gorchymyn llys arnom
- os ywr derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, tystiolaeth o fod heb ei ddirymu
- manylion unrhyw her i ddilysrwydd y debentur gan ddatodwr y cwmni, gan gynnwys enw a chyfeiriad y datodwr
- os mai endid tramor yw perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig, a bod y gwarediad yn cael ei wneud wrth arfer p典er gwerthu neu brydlesu gan dderbynnydd a benodir gan berchennog arwystl cofrestredig, neu gan ymarferydd ansolfedd penodedig o dan amgylchiadau penodedig, tystiolaeth i gydymffurfio 但r cyfyngiad canlynol os yw hyn yn ymddangos yn y gofrestr:
CYFYNGIAD: Nid oes unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 iw gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un or darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A ir Ddeddf honno yn gymwys.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor. Sylwer nad ywr Rheoliadau a fydd yn diffinio ymarferydd ansolfedd penodedig ac amgylchiadau penodedig wedi eu gwneud eto.
I gael gwybod beth syn digwydd i ddogfennau a gyflwynir gyda ffurflenni cais, gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
8. Pethau iw cofio
Gwnewch yn siwr:
- os mai gweinyddwr syn gwneud y cais, gwnewch yn siwr eich bod wedi darparu tystiolaeth oi benodiad y gorchymyn gweinyddu a wnaed gan y llys, neu gop誰au ardystiedig or rhybudd o benodiad wedi ei selio gan y llys (gydar dyddiad ar amser wedi ei ardystio)
- os mai derbynnydd gweinyddol syn gwneud y cais, eich bod wedi darparu tystiolaeth oi benodi
- os yw derbynnydd gweinyddol wedi gweithredu fel atwrnai, y cyflwynwyd y dystiolaeth o fod heb ei ddirymu
- eich bod wedi amg叩ur taliad cywir (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- eich bod wedi defnyddio ffurflen AP1
- eich bod yn gwirior manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig ir holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn part誰on, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.