Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 20: hawliau cartref a cheisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996

Diweddarwyd 11 Gorffennaf 2022

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 20: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Prif ddiben Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (a newidiwyd ei hunan gan Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau or Rhyw Arall) 2019) yw gwarchod hawl priod neu bartner sifil i feddiannur cartref. Nid ywr hawl hon yn fudd gor-redol ond maen ffurfio arwystl ar y cartref y bydd modd ei warchod ar y gofrestr trwy rybudd a gytunwyd (rheol 82 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cyn 14 Chwefror 1983, byddai modd gwarchod arwystl or fath ar y gofrestr hefyd trwy rybuddiad. Maer arwystl yn codi ar ba un bynnag ywr diweddaraf or dyddiadau canlynol:

  • y dyddiad pan fydd y priod neu bartner sifil arall yn caffael y cartref
  • dyddiad y briodas neur bartneriaeth sifil
  • 1 Ionawr 1968

er na ragwelir y bydd yn cael ei geisio nes bydd y briodas neu bartneriaeth sifil yn ymddangos mewn perygl.

Nid oes angen unrhyw warchodaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 mewn achosion lle maer cartref yn cael ei ddal ar y cyd, yn gyfreithiol ac yn fuddiol fel ei gilydd, gan y priod neur partner sifil ar priod arall neur partner sifil arall.

Os oes gan y priod neur partner sifil hawliau cartref o ran budd y priod arall neur partner sifil arall o dan ymddiried, nid oes modd cofrestru rhybudd or arwystl os nad oes neb, byw neu heb ei eni, sydd neu a allai ddod yn fuddiolwyr o dan yr ymddiried (Adrannau 31(4), (5) a (13) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Mae hyn yn golygu, os ywr tir yn cael ei ddal ar ymddiried, y bydd angen i ni fod yn fodlon nad oes gan neb fudd yn yr ymddiried heblawr naill briod neur partner sifil neur llall.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail cop誰au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr derbyn cop誰au ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop誰au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio or dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop誰au ardystiedig.

Wrth uwchlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir or gwreiddiol gan ddefnyddior datganiadau ardystio sydd ar gael.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop誰au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Ydyr ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru?

Maen hanfodol gwybod a yw ystad neu fudd y priod arall neur partner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig. Os ywn cael ei ddal o dan deitl digofrestredig, rhaid gwneud cais ir Adran Pridiannau Tir i gofrestru pridiant tir Dosbarth F gweler Tir digofrestredig.

Os ywn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig, mae cofrestru pridiant tir Dosbarth F yn aneffeithiol o ran gwarchod hawliau meddiannaeth y priod neur partner sifil. Rhaid gwneud cais i gofrestru rhybudd gweler Cais am rybudd.

Os nad ywn hysbys a yw ystad neu fudd y priod arall neur partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru, dylid gwneud cais am chwiliad swyddogol or map mynegai i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF gan ddefnyddio ffurflen SIM. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai chwiliadau swyddogol i gael rhagor o fanylion.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad or map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Maer gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-d但l i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd 但 mynediad ir porthol ac maen darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.

Pan fydd chwiliad or map mynegai yn cael ei wneud mewn perthynas 但 chais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, maen bwysig bod y nodyn canlynol yn cael ei ysgrifennu ar ben y ffurflen SIM:

Maer chwiliad hwn yn cael ei wneud yn unig at ddibenion Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.

Bydd hyn yn ein galluogi i:

  • osgoi codi unrhyw faterion a allai godi fel arall ar union derfynaur eiddo
  • rhoi manylion unrhyw brydles

Bydd tystysgrif swyddogol canlyniad y chwiliad yn cael ei chyhoeddi gennym cyn pen diwrnod neu 2 wedi derbyn y cais a bydd yn dadlennu unrhyw ystad(au) gofrestredig neu fudd(buddion) yn y cartref.

3. Ffurflenni cais

Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn pennur ffurflenni cais canlynol.

4. Cais am rybudd

Pan for teitl i ystad neu fudd y priod arall neur partner sifil arall yn y cartref wedi ei gofrestru a bod gan y priod neur partner sifil hawliau meddiannaeth syn arwystl ar yr eiddo yn 担l darpariaethau adrannau 31(2) neu 31(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, dylid gwneud cais i warchod yr arwystl trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr teitl. I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad rhybudd o hawliau cartref (HR1) yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen HR1.

Gall trawsgludwr ardystio ym mhanel 10 ffurflen HR1 fod ganddo gopi swyddfa o unrhyw orchymyn llys a wnaed o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

Nid oes dim iw dalu.

Sylwer: Mae adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn sefydlu hawl i weithredu am dorri dyletswydd statudol yn erbyn unrhyw un syn gwneud cais am rybudd heb achos rhesymol. Maer hawl o blaid unrhyw berson syn dioddef niwed o ganlyniad.

5. Gorchymyn llys yn parhau hawliau

Fel arfer, bydd hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 dim ond yn parhau yn ystod bodolaeth y briodas neur bartneriaeth sifil (gweler Darfyddiad hawliau). Fodd bynnag, mae adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, yn darparu, os digwydd anghydfod priodasol neu ddieithriad, y gall y llys orchymyn yn ystod bodolaeth y briodas neur bartneriaeth sifil, gyfarwyddyd bod hawliau cartref y priod neur partner sifil i barhau er y gall y briodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben.

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn or fath ac na warchodwyd hawliaur priod neur partner sifil eisoes, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i gofrestru rhybudd yn unol 但 Deddf Cyfraith Teulu 1996 fel yi newidiwyd gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004. (Os ywr hawliau wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes, gweler Adnewyddu gwarchodaeth).

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad rhybudd o hawliau cartref (HR1) ac uwchlwytho ffurflen HR1 ynghyd 但 chopi swyddfa or gorchymyn llys. Fel arall, lle bo trawsgludwr yn gweithredu, gellir cwblhaur dystysgrif ym mhanel 10 ffurflen HR1 yn lle dangos y gorchymyn llys.

Nid oes dim iw dalu.

6. Adnewyddu gwarchodaeth

Os ywr llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 pan fo hawliaur priod neur partner sifil wedi eu gwarchod ar y gofrestr eisoes trwy rybudd neu rybuddiad, dylid gwneud cais mor fuan ag y bo modd i adnewyddur warchodaeth gynharach rhag ofn ir priod arall neur partner sifil arall geisio ei ddileu heb ddadlennu bodolaeth y gorchymyn llys.

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad adnewyddu hawliau cartref ac uwchlwytho ffurflen HR2 ynghyd 但 chopi swyddfa or gorchymyn. Mae tystysgrif trawsgludwr ym mhanel 8 ffurflen HR2 yn ddigonol i gydymffurfio 但n gofynion. Bydd yr adnewyddiad yn cael ei beri ar y gofrestr trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd. Nid ywr adnewyddiad hwn o gofrestriad yn effeithio ar flaenoriaeth yr arwystl gwreiddiol (paragraff 4(5), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).

Nid oes dim iw dalu.

7. Darfyddiad hawliau

Mae modd darfod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil yn y ffyrdd canlynol.

  • trwy farwolaeth y naill briod neu bartner sifil neur llall (adran 31(8)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar b典er y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
  • trwy ddiweddur briodas neu bartneriaeth sifil heblaw trwy farwolaeth (adran 31(8)(b) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996), ond gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth ar b典er y llys i wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996
  • trwy orchymyn y llys (paragraff 4(1)(c), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)
  • trwy ir priod neur partner sifil ryddhaur hawliaun wirfoddol yn ysgrifenedig (paragraff 5(1), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996)

8. Cais i ddileu rhybudd

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd trwy gynnwys y trafodiad dileu hawliau cartref yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen HR4, a rhaid cynnwys y dystiolaeth briodol. Lle gwneir y cais yn dilyn un or digwyddiadau a ddisgrifir yn Darfyddiad hawliau, dylair dystiolaeth gynnwys:

  • tystysgrif marwolaeth
  • copi swyddfa or gorchymyn terfynol neur gorchymyn dirymu priodas (a elwid yn archddyfarniad terfynol o ysgariad neu ddirymedd cyn 6 Ebrill 2022)
  • copi swyddfa o orchymyn llys yn diweddur hawliau cartref
  • copi swyddfa or gorchymyn terfynol neu orchymyn rhagdybiaeth marwolaeth, neu or gorchymyn ymwahanu, yn ymwneud 但r bartneriaeth sifil
  • rhyddhad or hawliau cartref, wedi ei lofnodi gan y priod neur partner sifil naill ai trwy lythyr neu gan ddefnyddio ffurflen HR4

Os ywr llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato ar y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd angen ir ceisydd gyflwyno tystiolaeth foddhaol hefyd bod y gorchymyn hwn wedi peidio 但 bod yn effeithiol (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996).

Nid oes dim iw dalu.

9. Cais i dynnu rhybuddiad i ffwrdd

Mae modd gwneud cais i dynnu rhybuddiad i ffwrdd trwy un or ffyrdd canlynol:

  • trwy dynnur rhybuddiad yn 担l o dan reol 222 o Reolau Cofrestru Tir 2003. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad tynnu rhybuddiad yn 担l ac uwchlwytho ffurflen WCT, wedi ei lofnodi gan y priod neu drawsgludwr y priod
  • trwy ddileur rhybuddiad o dan reol 223 o Reolau Cofrestru Tir 2003 gan y priod arall. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad dileu rhybudd ac uwchlwytho ffurflen CCD
  • trwy uwchlwytho llythyr eglurhaol, ynghyd 但r dystiolaeth briodol syn cadarnhau un or digwyddiadau a ddisgrifir yn y 3 phwynt bwled cyntaf yn Darfyddiad hawliau. Os ywr llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 y cyfeirir ato yn y gofrestr (gweler Gorchymyn llys yn parhau hawliau ac Adnewyddu gwarchodaeth), bydd hefyd yn angenrheidiol ir ceisydd ddarparu tystiolaeth foddhaol bod y gorchymyn hwn wedi peidio 但 chael effaith (gweler paragraff 4(2)(b), Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad dileu rhybuddiad neu tynnu rhybuddiad yn 担l priodol ac uwchlwythor dystiolaeth y cyfeirir ati uchod yn ller ffurflen gais

Nid oes dim iw dalu.

10. Cyflwyno rhybudd ir perchennog cofrestredig

Caiff rhybudd ei gyflwyno bob amser ar y perchennog cofrestredig pan ddaw unrhyw gais i gofnodi neu adnewyddu hawl cartref.

11. Gwarchodaeth yn gyfyngedig i un cartref yn unig

Nid oes modd gwarchod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil ond o ran un cartref ar unrhyw adeg arbennig, pa un ai yw ystad neu fudd y priod arall neu bartner sifil arall yn y cartref yn cael ei ddal o dan deitl cofrestredig neu ddigofrestredig (paragraff 2, Atodlen 4 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996). Rhaid i drawsgludwr, felly, ddarganfod a oes gan ei gleient unrhyw warchodaeth eisoes o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 ac yna rhaid dadlennur sefyllfa ar ffurflen HR1.

12. Chwiliad swyddogol gan forgeisai

O dan adran 56 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 rhaid i forgeisai t天 preswyl syn dwyn achos i ddiogelu eu gwarant, roi rhybudd or achos ir priod neur partner sifil sydd 但i hawliau meddiannaeth yn cael eu diogelu naill ai trwy:

  • pridiant tir Dosbarth F (yn achos tir digofrestredig)
  • rhybudd neu rybuddiad (yn achos tir cofrestredig)

Gall morgeisai tir cofrestredig wneud cais gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF am chwiliad swyddogol i ddatgelu a oes rhybudd neu rybuddiad wedi ei gofrestru i warchod hawliau meddiannaeth priod neu bartner sifil. Gweler .

Dylai ceiswyr e-wasanaethau busnes, Business Gateway ar Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol ddewis yr opsiwn priodol or ddewislen briodol.

Fel arall, gellir gwneud ceisiadau ar ffurflen HR3. Gweler Cyfeiriad swyddfa Cofrestrfa Tir EF i weld i ba swyddfa dylid anfon cais.

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru am yr hyn sydd iw dalu. Os ywr t天 preswyl yn ddigofrestredig, dylair morgeisai wneud chwiliad swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir gan ddefnyddio ffurflen K15 gweler Tir digofrestredig.

13. Hawliau meddiannaeth methdalwr

Mae gan briod neu bartner sifil methdalus, sydd 但 hawl i feddiannu t天 preswyl yn rhinwedd ystad neu fudd llesiannol, hawliau meddiannaeth mewn perthynas 但r ymddiriedolwr mewn methdaliad o dan yr amgylchiadau syn cael eu hamlinellu yn adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Mae hyn yn berthnasol boed gan briod neu bartner sifil y methdalwr unrhyw hawliau meddiannaeth o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 neu beidio.

Mae modd cofnodi rhybudd o hawl meddiannaeth y methdalwr ar y gofrestr ar yr amod bod y cais (gan ddefnyddio ffurflen HR1) yn cael ei helaethu i ddatgan:

  • bod y methdalwr yn gwneud cais o dan adran 337 o Ddeddf Ansolfedd 1986
  • bod budd y methdalwr yn yr eiddo wedi ei freinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (y dylid ei enwi)

14. Cyfeiriad swyddfa Cofrestrfa Tir EF lle dylid anfon cais

  • os oes gennych gytundeb gyda th樽m cwsmeriaid, dylech anfon eich ceisiadau papur at eich t樽m cwsmeriaid
  • os nad oes gennych gytundeb gyda th樽m cwsmeriaid, argymhellwn eich bod yn anfon eich ceisiadau papur i swyddfa arbennig, yn dibynnu ar yr ardal weinyddol y lleolir eich busnes.

15. Tir digofrestredig

Dylid anfon pob cais o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 o ran tir digofrestredig ir cyfeiriad canlynol:

Land Charges Department
PO Box 292
Plymouth
PL5 9BY
(DX8249 Plymouth 3)

Ff担n: 0300 006 6616

16. Pethau iw cofio

Er mwyn osgoi gorfod anfon ymholiadau, cyn cyflwyno eich cais inni, gwnewch yn siwr:

  • bod yr ystad neu fudd yn y cartref wedi ei gofrestru
  • eich bod yn dewis y trafodiad cywir ac yn uwchlwythor ffurflen gywir
  • bod hawliau meddiannaeth wedi eu gwarchod eisoes o ran cartref arall
  • lle bon berthnasol, eich bod wedi uwchlwythor gorchymyn llys priodol neu wedi cwblhaur dystysgrif trawsgludwr briodol y cyfeirir atynt yn ffurflenni HR1 a HR2
  • lle bon berthnasol, eich bod wedi talur ff誰oedd cywir

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar osgoi ymholiadau ar gael ar Hyb Hyfforddi Cofrestrfa Tir EF.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.