Canllawiau

Cais am iawndal: canllaw cyffredinol

Diweddarwyd 7 Awst 2025

Talu iawndal

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn talu iawndal mewn amgylchiadau penodol i bobl ble mae eu heuogfarnau wedi eu gwyrdroi mewn apeliadau sydd wedi mynd tu hwnt ir terfyn amser. Maer sefyllfaoedd hyn wedi eu hegluro yn .

Os byddwch yn herio euogfarn yn llwyddiannus oherwydd camweinyddu cyfiawnder, byddwch yn derbyn iawndal fel cyfandaliad di-dreth. Am fwy o fanylion, darllenwch Canllawiau CThEF ar daliadau iawndal.

Beth fydd ei angen arnoch

Ble bon bosibl, dylai dogfennau i gefnogir cais fod ynghlwm ir cais.

Dogfennau sydd eu hangen os bydd ap棚l yn cael ei wrando yn Llys y Goron

  • Tystysgrif Euogfarn
  • Memorandwm o Gofnod / Euogfarn
  • Ap棚l i Lys y Goron gan Lys Ynadon Canlyniad Ap棚l
  • Trawsgrifiad Ap棚l / Ail dreial
  • Datganiad or Rhesymau CCRC (os yn berthnasol)

Dogfennau sydd eu hangen os bydd ap棚l yn cael ei wrando yn y Llys Ap棚l

  • Ffurflen NG
  • Seiliaur Ap棚l
  • Gorchymyn ar yr Ap棚l/Cais
  • Crynodeb y Llys Ap棚l
  • Dyfarniad y Llys Ap棚l
  • Datganiad or Rhesymau CCRC (os yn berthnasol)

Os na fyddwch yn anfon y dogfennau gofynnol gall hyn arafur broses o ymdrin 但r cais.

Os nad oes gennych y dogfennau ar gael, efallai y bydd y gwasanaeth gwneud cais camweinyddu cyfiawnder yn gallu cael y dogfennau hyn gan y Swyddfa Apeliadau Troseddol neu Lys y Goron perthnasol.

Sut i wneud cais am iawndal

Gallwch wneud cais ar-lein am iawndal.

Gallwch hefyd wneud cais yn ysgrifenedig ir Ysgrifennydd Gwladol drwy lawrlwythor ffurflen gais ac ei e-bostio i mojas@justice.gov.uk neu ei hanfon yn y post:

Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder
Cyfarwyddiaeth Llysoedd, Cyfiawnder Troseddol a Theulu
7fed Llawr

Post Point 7.23

102 Petty France

Llundain

SW1H 9AJ

Sut mae dedfrydaun cael eu penderfynu

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried unrhyw gais a wnaed iddynt o dan y darpariaethau statudol. Y tu allan ir darpariaethau statudol hyn nid oes hawl i iawndal mewn perthynas ag euogfarn a ddil谷wyd.

Maen rhaid gwneud y cais cyn diwedd cyfnod o 2 flynedd yn dechrau gydar dyddiad y cafodd y ceisydd faddeuant neur dyddiad gafodd eu heuogfarn ei gwrthdroi (gweler ymhellach isod yngl天n 但 beth mae hyn yn ei olygu).

Mewn achosion eithriadol:

  • efallai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dewis rhoi iawndal i rywun
  • syn gallu dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oeddent wedi cyflawni trosedd ond sydd fel arall ddim yn dod o fewn y prawf adran 133 llym gall yr Ysgrifennydd Gwladol ystyried cais a wnaed y tu allan ir terfyn o 2 flynedd. Yn gyffredinol, ni fyddai peidio bod yn ymwybodol or cynllun yn cyfrif fel amgylchiadau eithriadol ond byddai pob cais a dderbynnir y tu allan ir terfyn amser yn cael ei ystyried yn 担l ei deilyngdod ei hun.

Bydd gweithiwr achos yn cael ei neilltuo unwaith y caiff cais ei gadarnhau i fod wedii wneud o dan y darpariaethau statudol ac maer cofnodion llys perthnasol ar gael.

Bydd hyd dedfryd o garchar yn cael ei ystyried wrth ddyrannu achosion. Bydd achosion ble roedd y dedfryd o garchar dros 4 blynedd yn cael blaenoriaeth. Bydd pob achos arall yn cael ei drin yn y drefn y cawsant eu derbyn.

Darpariaethau statudol

Mae iawndal yn daladwy o dan adran 133 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 os ywr ddau beth a ganlyn yn berthnasol:

  1. Mae euogfarn y ceisydd wedii gwrthdroi neu maent wedi derbyn Maddeuant Rhydd.
  2. Maen rhaid ir euogfarn fod wedii gwrthdroi, neur ymgeisydd wedi cael maddeuant, ar sail bod ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oedd yr unigolyn wedi cyflawnir drosedd, oni bai bod diffyg datgelur ffaith hon yn gyfan neun rhannol briodol ir ceisydd.

Mae euogfarn yn cael ei ystyried wedii gwrthdroi os cafodd ei dileu:

  • ar ap棚l y tu allan ir terfyn amser ac nid ywr ceisydd yn destun ail dreial
  • ar ap棚l y tu allan ir terfyn amser, ac roedd y ceisydd yn destun ail dreial ac maer ymgeisydd wedii gael yn ddieuog o bob trosedd yn yr ail dreial neu maer erlyniad wedi nodi ei fod wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen 但r ail dreial
  • ar 担l ir achos gael ei gyfeirio ir Llys Ap棚l gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol o dan Adran 9 Deddf Apeliadau Troseddol 1995
  • ar ap棚l o dan Adran 7 Deddf Terfysgaeth 2000
  • ar ap棚l o dan Atodlen 3 Deddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011
  • ar ap棚l o dan Atodlen 4 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
  • ar ap棚l o dan Atodlen 9 Deddf Diogelwch Cenedlaethol 2023