Canllawiau

Sut i ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 14 Mai 2025

Rhagarweiniad

Gall cyflogwyr sydd â llai na 10 o gyflogeion ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Nid yw’r Offer hyn yn addas ar gyfer asiantau na llyfrifwyr, gan na ellir copïo data ar gyfer un gyflogres benodol. Mae’n bosibl ni fydd hyn yn eich galluogi i gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, na chwaith diogelu data yn y ffordd gywir.

Os ydych yn gyflogwr, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i anfon manylion eich cyflogres i CThEF drwy gyflwyno Cyflwyniad Taliadau Llawn. Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi gwybod i CThEF faint o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u didynnu o gyflogau eich cyflogeion. Dyma’r swm y bydd yn rhaid i chi dalu i CThEF ar y dyddiad talu misol arferol. Dysgwch ragor am dalu TWE y cyflogwyr.

Gallwch hefyd ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i greu ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • na wneir unrhyw daliadau i gyflogeion yn ystod cyfnod cyflog
  • rydych am adennill taliadau statudol
  • mae’r cwmni wedi wynebu didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (mae hyn yn berthnasol i gwmnïau cyfyngedig yn unig)
  • mae yna hawliad am Lwfans Cyflogaeth, neu rydych am dynnu’ch hawliad yn ôl
  • rydych am gyfrifo swm yr Ardoll Brentisiaethau syʼn ddyledus

Os ydych am wirio bod y rhif Yswiriant Gwladol a ddarperir gan eich cyflogai yn gywir, neu ddod o hyd i rif eich cyflogai, gallwch anfon Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol.

Ni all yr Offer wneud y canlynol:

  • helpu i gofrestru ar gyfer pensiwn yn awtomatig
  • cyfrifo’r cyfraniadau pensiwn y mae angen i chi a’ch cyflogeion eu gwneud
  • gwirio a yw’ch cyflogeion yn gymwys i gael pensiwn
  • rhoi gwybodaeth iʼch darparwr pensiwn

Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i roi pensiwn gweithle i rai cyflogeion penodol. Dysgwch ragor am sefydlu a rheoli cynllun pensiwn gweithle (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn i chi ddechrau

Cyn defnyddio’r canllaw hwn mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r Offer drwy ddewis y canlynol:

  • Gosodiadau ar yr Offer
  • Diweddaru o’r ddewislen
  • y botwm ‘Gwirio nawr’

Y gosodiad diofyn ar gyfer diweddariadau awtomatig yw ‘Iawn’ pan fyddwch chi’n gosod Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf. Bydd y gosodiad hwn yn golygu eich bod bob amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Os ydych yn cael trafferth lawrlwytho neu agor Offer TWE Sylfaenol, gwiriwch y canllaw ynghylch argaeledd y gwasanaeth ac unrhyw broblemau a allai fod wedi codi (yn agor tudalen Saesneg) i wybod beth i’w wneud.

Os ydych yn defnyddio fersiwn Cymraeg yr Offer TWE Sylfaenol

Pan fyddwch yn defnyddio fersiwn Cymraeg yr Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf, bydd angen i chi roi’r gosodiadau iaith ar waith. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn er mwyn diweddau’r gosodiadau iaith.

Ar fwrdd gwaith eich cyfrifiadur, chwiliwch am y logo ar gyfer yr Offer TWE Sylfaenol â choron, a dilynwch y camau i roi’r gosodiadau Cymraeg ar waith.

  1. De-gliciwch y logo.
  2. Dewiswch ‘Language’.
  3. Dewiswch ‘Cymraeg/Welsh’.
  4. Caewch yr Offer TWE Sylfaenol a’i ailagor i weld y fersiwn Cymraeg.

Os ydych yn defnyddio fersiwn hygyrch yr Offer TWE Sylfaenol

Pan fyddwch yn defnyddio fersiwn hygyrch yr Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf, bydd angen i chi roi’r gosodiadau perthnasol ar waith.

Os ydych yn defnyddio Windows

Ar ôl i chi osod yr Offer ar eich cyfrifiadur, dilynwch y camau i agor fersiwn hygyrch yr Offer yn Windows.

  1. Dewiswch yr eicon Dewislen Cychwyn.
  2. Dewiswch Offer TWE Sylfaenol — Modd Cynorthwyol, neu Y Cyfan ac yna Offer TWE Sylfaenol — Modd Cynorthwyol.

Bydd Offer TWE Sylfaenol yn agor mewn modd cynorthwyol ar eich porwr.

Bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau canlynol bob tro yr ydych yn agor yr Offer.

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur Mac

Ar ôl i chi osod yr Offer ar eich cyfrifiadur, dilynwch y camau i agor fersiwn hygyrch yr Offer ar beiriant Mac.

  1. Agorwch yr Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio llwybr byr bwrdd gwaith eich cyfrifiadur neu gan ddefnyddio ‘alias’.
  2. Caewch yr Offer TWEÌý³§²â±ô´Ú²¹±ð²Ô´Ç±ô.
  3. Dewiswch Ewch o’r bwrdd gwaith neu gan ddefnyddio ffenestr chwilio.
  4. Dewiswch Hafan.
  5. Agorwch y ffolder ‘CThEF’.
  6. Agorwch y ffolder ‘payetools-rti’.
  7. De-gliciwch y ffeil ‘bptshell-settings.ini’.
  8. Dewiswch Agor gyda wedi’i ddilyn gan Textedit
  9. Rhowch [Cyffredinol]/[General] ar ddiwedd y ffeil.
  10. Rhowch modd=cynorthwyol/mode=assistive ar y llinell nesaf.
  11. Cadwch y ffeil.
  12. Agorwch yr Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio llwybr byr bwrdd gwaith eich cyfrifiadur neu gan ddefnyddio ‘alias’.

Bydd Offer TWE Sylfaenol yn agor mewn modd cynorthwyol ar eich porwr.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn er mwyn diweddau’r gosodiadau hygyrchedd.

Defnyddiwch lwybr byr bwrdd gwaith eich cyfrifiadur neu ‘alias’ i gadw’r gosodiadau hyn.

Os ydych yn defnyddio Linux

  1. Agorwch Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio llwybr byr bwrdd gwaith eich cyfrifiadur.
  2. Caewch yr Offer TWEÌý³§²â±ô´Ú²¹±ð²Ô´Ç±ô.
  3. Dewiswch y ffolder ‘Hafan’ o’r ap ‘Ffeiliau’.
  4. Agorwch y ffolder ‘CThEF’.
  5. Agorwch y ffolder ‘payetools-rti’.
  6. De-gliciwch y ffeil ‘bptshell-settings.ini’.
  7. Dewiswch Agor gyda Golygydd Testun
  8. Rhowch [Cyffredinol]/[General] ar ddiwedd y ffeil.
  9. Rhowch modd=cynorthwyol/mode=assistive ar y llinell nesaf.
  10. Cadwch y ffeil.
  11. Agorwch Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio llwybr byr bwrdd gwaith eich cyfrifiadur.

Bydd Offer TWE Sylfaenol yn agor mewn modd cynorthwyol ar eich porwr.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn er mwyn diweddau’r gosodiadau hygyrchedd.

I gadw’r gosodiadau hyn, defnyddiwch lwybr byr eich bwrdd gwaith pan fyddwch yn agor yr Offer TWE Sylfaenol.

Ychwanegu neu ddiweddaru manylion cyflogai

Gallwch ychwanegu cyflogeion at eich cyflogres a diweddaru eu manylion gan ddefnyddio’r Offer TWE Sylfaenol.

Ychwanegu cyflogai

Gallwch ychwanegu manylion ar gyfer hyd at 9 o gyflogeion.

  1. Dewiswch enw’r cyflogai o’r rhestr ar y dudalen hafan i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch Rheoli cyflogeion o’r ddewislen.
  3. Dewiswch Ychwanegu cyflogai o’r ddewislen ar y dudalen ‘Rheoli cyflogeion’.
  4. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNewydd a phresennol ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogeion.
  5. Llenwch eu manylion personol, gan gynnwys eu henw, cyfeiriad, rhywedd, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol (os yw’n hysbys) a rhif eu pasbort (os yw’n hysbys).
  6. Nodwch eu ID ar y gyflogres os ydych wedi trefnu un, er mwyn osgoi creu cofnod dyblyg o gyflogaeth ar gyfer y cyflogai hwn. Bydd CThEF yn ei ddefnyddio ar unrhyw ohebiaeth â chi ynghylch y cyflogai hwnnw. Os byddwch yn ail-gyflogi rhywun yn yr un flwyddyn dreth, peidiwch â defnyddio’i ID ar y gyflogres blaenorol.
  7. Dewiswch nifer yr oriau gwaith arferol yr wythnos.
  8. Os yw’r cyflogai’n gyfarwyddwr cwmni, nodwch ddyddiad y penodiad. Dewiswch ‘Dull cronnus y cyfarwyddwr’ ar gyfer cyfrifo’r Yswiriant Gwladol os bydd y cyflogai yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y flwyddyn dreth a ddewiswyd. Gallwch wirio pryd y bydd unigolyn yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).
  9. Nodwch y dyddiad y dechreuodd y cyflogai weithio i chi.
  10. Dewiswch sail ar gyfer sefydlu’r cyflogai — cyflogai newydd gyda P45 neu heb P45, cyflogai newydd sy’n cael pensiwn galwedigaethol, cyflogai newydd wedi’i secondio i weithio yn y DU, neu gyflogai presennol. Bydd yr opsiwn a ddewiswyd yn codi’r cwestiynau cysylltiedig.
  11. Nodwch fanylion y taliadau, gan gynnwys pa mor aml yr ydych yn talu’ch cyflogai, y cod treth, y llythyr categori Yswiriant Gwladol (ar gyfer cyflogeion presennol, bydd hwn i’w weld ar eich cofnodion cyflogres), a ph’un a oes unrhyw ddidyniadau benthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig yn berthnasol (bydd y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF yn nodi’r math o gynllun myfyriwr).  Dylech dim ond newid cod treth cyflogai os bydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.
  12. ¶Ù±ð·É¾±²õ·É³¦³óÌýNesaf i gwblhau ychwanegu cyflogai.

Gallwch dalu trydydd parti ar ran cyflogai, neu yn ei le.

  1. Dewiswch Ychwanegu cyflogai o’r ddewislen ar y dudalen ‘Rheoli cyflogeion’.
  2. Dewiswch Nid yw’n unigolyn a dilynwch y camau i ychwanegu cyflogai nad yw’n unigolyn.

Gallwch hefyd dalu’ch cyflogai â thaliad cymudiad bychan (pan fydd cyflogai’n tynnu allan ei bensiwn cyfan fel un cyfandaliad).

  1. Dewiswch Ychwanegu cyflogai o’r ddewislen ar y dudalen ‘Rheoli cyflogeion’.
  2. Dewiswch Taliad cymudiad pitw.
  3. Nodwch fanylion personol y cyflogai.
  4. Dewiswch yr opsiwn perthnasol a dilynwch y camau i ychwanegu taliad cymudiad pitw.

Mae’r opsiynau ar gyfer taliadau cymudiad pitw fel y ganlyn:

  • cyfandaliad cymudiad pitw — hyd at £30,000
  • cyfandaliad cronfa fechan o gynllun pensiwn personol — hyd at 3 chronfa bensiwn fach o £10,000 neu lai i’w talu fel cyfandaliadau
  • cyfandaliad cronfa fechan o gynllun pensiwn galwedigaethol — unrhyw nifer o gyfandaliadau i’w talu hyd at £10,000 yr un

Bwrw golwg dros neu ddiweddaru manylion cyflogai

Mae’r dudalen ‘Manylion y cyflogai’ yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • nodi manylion gadael ar gyfer cyflogai, neu fwrw golwg dros fanylion cyflogai sydd eisoes wedi gadael, gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Crynodeb o’r cyflogai sy’n gadael’
  • bwrw golwg dros unrhyw gyflwyniadau sydd wedi cael eu hanfon yn llwyddiannus at CThEF, gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Hanes cyflwyniadau’r cyflogai’
  • llenwi ffurflenni sy’n ymwneud â’r cyflogai hwn, gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Ffurflenni cyflogeion’
  • newid manylion cyflogai, gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Newid manylion y cyflogai’
  1. Dewiswch enw’r cyflogai o’r rhestr ar y dudalen hafan i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen.
  3. Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr er mwyn diweddaru ei fanylion.

Cyfrifo taliadau statudol

Cyn ychwanegu manylion cyflog, bydd angen i chi gyfrifo unrhyw daliadau statudol, gan gynnwys:

  • Tâl Salwch Statudol (SSP)
  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • Tâl Tadolaeth Statudol (SPP)
  • Tâl ar y Cyd i Rieni (ShPP)
  • Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP)
  • Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP)
  • Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (SNCP)

Os ydych yn talu Tâl Salwch Statudol i gyflogai, mae angen i chi gadw cofnod o’r canlynol:

  • pa mor hir y mae’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch pan fydd yn fwy na 3 diwrnod yn olynol — gelwir hyn yn ‘cyfnod o anallu i weithio’
  • faint o Dâl Salwch Statudol y gwnaethoch ei dalu
  • y dyddiadau pan na wnaethoch dalu Tâl Salwch Statudol
  • pam na wnaethoch dalu Tâl Salwch Statudol ar y dyddiadau hyn

Dylech hefyd gadw cofnodion o dystiolaeth feddygol ategol.

Gallwch fwrw golwg dros fanylion salwch a Thâl Salwch Statudol y cyflogai.

  1. Dewiswch Rheoli cyflogeion o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch gyflogai o’r rhestr i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogai’.
  3. Dewiswch Cofnod Tâl Salwch Statudol (SSP2) o’r ddewislen a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Ar gyfer pob taliad statudol arall, ewch i Cyfrifianellau a dewiswch y gyfrifiannell berthnasol i gyfrifo’r symiau. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys ffurflenni taliad statudol.

Gwnewch nodyn o ganlyniadau’r cyfrifiad. Bydd angen y ffigurau hyn arnoch er mwyn:

  • gwneud taliadau i gyflogai
  • cyfrifo a allwch adennill unrhyw symiau a dalwyd, a hawlio iawndal

Fel rheol, byddech yn adennill taliadau statudol drwy ddal yn ôl swm y tâl statudol yr ydych yn ei wneud oddi wrth y didyniadau sydd arnoch, sef didyniadau treth, didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Fodd bynnag, os nad oes gennych ddigon o ddidyniadau i dalu neu adennill y taliad statudol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol ar gyfer ad-daliad treth cyflogai (yn agor tudalen Saesneg).

Ychwanegu taliadau i gyflogai

Ychwanegwch eich holl gyflogeion i’r Offer TWE Sylfaenol cyn i chi lenwi manylion y taliadau ar gyfer unrhyw un o’ch cyflogeion.

Pan nodwch gyflog cyflogai, bydd yr Offer TWE Sylfaenol yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo treth y cyflogai, ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol ac unrhyw ddidyniadau benthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig
  • cadw cofnod o’r manylion hyn ar y ‘Cofnod o gyflog a didyniadau’r cyflogaiʼ ar gyfer y cyflogai hwnnw
  • dal swm y didyniadau hyn ar gyfer ʽCofnod o Daliadau’r Cyflogwrʼ fel eich bod yn gwybod y swm syʼn ddyledus i CThEF bob mis

Gallwch nodi cyflog cyflogai a chyfrifo unrhyw ddidyniadau ar y dudalen ‘Ychwanegu taliadau i gyflogai’.

  1. Dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr ar y dudalen hafan i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch y flwyddyn dreth gywir.
  3. Dewiswch Rheoli cyflogeion o’r ddewislen.
  4. Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr ‘Cyflogeion presennol’.
  5. Dewiswch Taliadau i gyflogai o’r ddewislen.
  6. Dewiswch Ychwanegu taliadau i gyflogai o’r ddewislen.
  7. Darllenwch yr arweiniad ar y dudalen.

Ychwanegu’r dyddiad talu

Nodwch y dyddiad y caiff y taliad ei wneud, a swm y taliad hwnnw.

Mae’n rhaid i’r dyddiad hwn fod:

  • yn y flwyddyn dreth bresennol
  • ar ôl y dyddiad talu diwethaf a nodwyd ar gyfer y cyflogai hwn
  • yr un dyddiad â’r dyddiad yr ydych yn talu’r cyflogai, nid y dyddiad yr ydych yn rhedeg eich cyflogres

Defnyddiwch y diwrnod cyflog arferol hyd yn oed os yw’n disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod banc.

Taliadau statudol

Nodwch y taliadau statudol yr ydych wedi’u cyfrifo.

Ychwanegu treuliau a buddiannau

Mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r gwasanaeth ar-lein i roi buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres cyn 6 Ebrill y flwyddyn dreth yr ydych am roi buddiannau o’r fath drwy’r gyflogres.

Nodwch y buddiannau sy’n destun y canlynol:

  • treth TWE
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1

Os ydych yn rhoi buddiannau car a thanwydd car drwy’r gyflogres, bydd yn rhaid i chi hefyd ychwanegu manylion y car yn yr adran ‘Manylion y buddiannau car a ddarparwyd drwy’r gyflogres’ ar y dudalen ‘Manylion y cyflogai’.

Ar ôl cofrestru, ni fydd angen i chi lenwi ffurflenni P11D mwyach ar gyfer treuliau a buddiannau cymwys oherwydd bydd y rhain nawr yn cael eu cynnwys yn eich prosesau cyflogres arferol.  Bydd yn dal angen i chi wneud y canlynol:

  • dilyn y prosesau P11D arferol ar gyfer unrhyw dreuliau a buddiannau nad ydych yn eu rhoi drwy’r gyflogres
  • rhoi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch drwy gyflwyno ffurflen P11D(b) ar-lein ar ddiwedd y flwyddyn dreth

Dysgwch ragor am sut i roi gwybod am a thalu treuliau a buddiannau.

Ychwanegu cyfraniadau pensiwn

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn:

  • faint y dylai eich cyfraniadau pensiwn fod
  • pryd y dylech eu talu
  • p’un a yw’r cyfraniadau hyn yn cael eu talu o gyflog gros (a elwir yn ‘trefniant cyflog net’) neu gyflog net (a elwir yn ‘trefniant rhyddhad wrth y ffynhonnell’)

Nodwch swm y cyfraniadau pensiwn yn y blwch perthnasol.

Ychwanegu taliadau nad ydynt yn agored i dreth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Nodwch y taliadau a wnaed i’ch cyflogai lle bo’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r taliadau yn gyflog
  • nid yw’r taliadau yn agored i Dreth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Dysgwch ragor ynghylch pʼun a yw taliad yn drethadwy neuʼn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn adran ‘Cyflog, treuliau a buddiannau’ Canllaw y Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).

Enghreifftiau o symiau y dylech roi gwybod amdanynt:

  • benthyciadau ymlaen llaw i brynu tocyn tymor
  • rhai costau teithio a chynhaliaeth
  • ffioedd parcio ceir ar gyfer teithiau syʼn ymwneud âʼr busnes
  • difidendau o gyfranddaliadau

Ychwanegu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A mewn amser real ar ddyfarniadau terfynu a thystebau chwaraeon

Mae’n rhaid i chi roi gwybod, mewn amser real, am gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n daladwy ar y canlynol:

  • swm dyfarniad terfynu dros £30,000
  • swm taliad tysteb chwaraeon nad yw’n gontractiol neu nad yw’n arferol dros £100,000

Ychwanegu gwybodaeth am weithio oddi ar y gyflogres

Os yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres yn berthnasol i gyflogai, dewiswch y blwch yn yr adran am gyflogeion oddi ar y gyflogres.

Ychwanegu manylion slip cyflog

Defnyddiwch y blychau ‘Manylion slip cyflog’ i wneud y canlynol:

  • ychwanegu nodiadau perthnasol am dreuliau a buddiannau sydd wedi’u rhoi drwy’r gyflogres
  • egluro sut y bydd cyflog net yn wahanol i’r cyflog a gynhyrchir yn awtomatig ar y slip cyflog
  • ychwanegu’r oriau a weithiwyd

Os ydych yn rhoi buddiannau drwy’r gyflogres (fel ceir) nid y cyflog net a ddangosir yw swm eich cyflog clir, gan fod buddiannau yn cael eu hychwanegu at y cyflog gros at ddibenion treth. Bydd angen i chi nodi’r wybodaeth hon yn y blwch ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Ychwanegu gwybodaeth am gyflwyno’n hwyr

Os ydych yn cyflwyno’n hwyr, ticiwch y blwch cyflwyno’n hwyr a dewis y rheswm dros yr oedi. Bydd y rheswm hwn yn cael ei ystyried cyn codi cosbau am beidio ag anfon manylion y gyflogres mewn pryd (yn agor tudalen Saesneg) ar eich cyfrif.

Gwirio a chadw taliadau

Mae angen i chi wirio’r taliadau rydych wedi’u nodi cyn eu cadw.

  1. Ar ôl ychwanegu’r holl daliadau ar y dudalen ‘Ychwanegu taliadau i gyflogai’, dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Adolygu manylion taliadau i gyflogai’. Mae’n dangos y symiau rydych wedi’u nodi fel y gallwch eu gwirio.
  2. Os yw’r symiau’n gywir, dewiswch Nesaf. Bydd hyn yn mynd â chi yn ôl i’r dudalen ‘Taliadau i gyflogai’ ddiwygiedig.
  3. Dewiswch Bwrw golwg dros i weld manylion taliadau eich cyflogai.
  4. Dewiswch y groes ar y tab i gau’r dudalen ‘Manylion taliadau i gyflogai’.

Ailadroddwch y broses ‘Ychwanegu taliadau i gyflogai’ ar gyfer cyflogeion eraill.

Bwrw golwg dros a diweddaru taliadau i gyflogai

Mae’r dudalen ‘Manylion y cyflogai’ yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • newid neu fwrw golwg dros fanylion cyflog cyflogai gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Taliadau i gyflogai’
  • bwrw golwg dros faint sydd wedi’i dalu i’r cyflogai hyd yn hyn, ynghyd â’r didyniadau, gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Crynodeb o flwyddyn y cyflogai hyd yma’

Creu slipiau cyflog

Gallwch greu slipiau cyflog ar gyfer eich cyflogeion.

  1. Dewiswch gyflogai ar y dudalen ‘Rheoli cyflogeion’.
  2. Dewiswch ‘Taliadau i gyflogai’ o’r ddewislen.
  3. Dewiswch Slip cyflog ar y dudalen ‘Taliadau i gyflogai’ i fwrw golwg dros y slip cyflog.
  4. Cadwch y slip cyflog fel PDF ar eich cyfrifiadur.

Mae’n rhaid i’ch cyflogai gytuno i gael ei slipiau cyflog drwy e-bost cyn i chi fynd ati i’w hanfon.

Gallwch anfon y PDF fel atodiad e-bost, neu ei argraffu o’r lleoliad y mae wedi’i gadw ar eich cyfrifiadur.

Anfon manylion y gyflogres i CThEF

Mae angen i chi anfon manylion y gyflogres i CThEF gyda Chyflwyniad Taliadau Llawn ar y dyddiad yr ydych yn talu eich cyflogeion, neu cyn y dyddiad hwnnw, er mwyn osgoi unrhyw gosbau. Bydd angen i chi wneud hyn:

  • bob tro y byddwch yn talu staff
  • ar gyfer pob aelod o staff yr ydych yn ei dalu

Mae hyn yn rhoi gwybod i CThEF swm y dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol:

  • yr ydych wedi ei dynnu o gyflog eich cyflogai
  • y bydd angen i chi dalu’n llawn ar y dyddiad talu misol arferol

Gwirio’ch manylion ac anfon manylion eich cyflogres i CThEF.

  1. Gwiriwch eich bod wedi ychwanegu’r holl gyflogeion a fydd yn cael eu talu drwy ddewis y cysylltiad ‘Cyflwyniadau heb eu gwneud’ ar y dudalen ‘Taliadau i gyflogai’.  Bydd hwn yn mynd â chi i’r dudalen, ‘Manylion cyflwyniadau heb eu gwneud’.
  2. Dewiswch Anfon yr holl gyflwyniadau heb eu gwneud.
  3. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Dilysu cyflwyniad’.
  4. Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
  5. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Statws y cyflwyniad’, ac yna ymlaen i’r dudalen ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’.

Os bydd eich cyflwyniad yn methu ar y cam hwn, dylech ei ddileu a gwneud cywiriad.

Os na allwch wneud cywiriad, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Mae’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’ yn cynnwys cysylltiadau a fydd yn eich galluogi i fwrw golwg dros y canlynol:

  • cyflwyniadau ‘mewn llaw’ — cyflwyniadau sydd eisoes wedi cael eu hanfon ac yn aros am neges gan CThEF ynghylch p’un a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai beidio
  • cyflwyniadau llwyddiannus
  • cyflwyniadau sydd wedi methu
  • cyflwyniadau sydd wedi dod i ben — cyflwyniadau sydd eisoes wedi cael eu hanfon, ond doedd dim modd cael neges gan CThEF ynghylch p’un a oeddent yn llwyddiannus ai beidio

Cywiro neu newid taliadau

Gallwch newid manylion cyflog a didyniadau cyflogai am flwyddyn sydd wedi dod i ben, ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 ac yn ddiweddarach.

  1. Dewiswch y flwyddyn berthnasol ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch Rheoli cyflogeion o’r ddewislen.
  3. Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen ‘Manylion y cyflogai’.
  4. Dewiswch y mis treth perthnasol o’r ddewislen er mwyn newid y taliad perthnasol.
  5. Dewiswch Newid ar gyfer y taliad perthnasol.
  6. Nodwch y manylion cywir i gynhyrchu Cyflwyniad Taliadau Llawn 12 mis diwygiedig sy’n dangos ffigurau’r flwyddyn hyd yma wedi’u cywiro ar gyfer y cyflogai hwnnw.
  7. Cyflwynwch y Cyflwyniad Taliadau Llawn diwygiedig.

Os oes angen i chi newid manylion ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 a blynyddoedd cynharach, dylech anfon y naill neu’r llall o’r canlynol:

Gostwng y swm sy’n ddyledus i CThEF

Gallwch ostwng y swm sy’n ddyledus i CThEF os ydych yn gallu adennill unrhyw daliadau statudol, neu symiau eraill, drwy anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

Cyfrifo faint iʼw dalu i CThEF bob mis

Ar ôl i chi dalu cyflogeion am fis treth (sef y chweched o un mis hyd at y pumed o’r mis canlynol) ac anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn, bydd angen i chi gyfrifo’ch taliad i CThEF.

Mae’n rhaid i chi dalu swm llawn y didyniadau i CThEF (treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig) fel y nodir ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn, llai unrhyw addasiadau a hawliwyd ar y Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

 Cyn y 19eg o’r mis treth nesaf, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo unrhyw symiau adenilladwy, a’u nodi
  • cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF
  • anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, os oes gennych unrhyw symiau adenilladwy

Mae’n rhaid i chi anfon data’r gyflogres ar neu cyn pob diwrnod talu, hyd yn oed os ydych yn talu CThEF ar wahanol adegau.

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu CThEF yn chwarterol, mae’n dal i fod yn rhaid i chi anfon y canlynol:

  • Cyflwyniad Taliadau Llawn bob tro y byddwch yn talu eich cyflogeion
  • Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, os na fydd unrhyw daliadau yn cael eu gwneud i unrhyw gyflogai mewn mis treth cyfan

Mae’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’ yn cynnwys cysylltiadau a fydd yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • ychwanegu neu fwrw golwg dros y dyddiad y daeth y cynllun TWE hwn i ben — dewiswch Cynllun TWE wedi dod i ben
  • ychwanegu neu fwrw golwg dros unrhyw gyllid a gafwyd gan CThEF — dewiswch Cofnod o gyllid

Cyfrifo unrhyw symiau adenilladwy, a’u nodi

Efallai y bydd modd i chi ostwng y swm sy’n daladwy i CThEF ar gyfer y canlynol:

  • taliadau statudol a wnaed (ac eithrio Tâl Salwch Statudol)
  • iawndal sy’n ddyledus ar daliadau statudol a wnaed
  • didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu a ddidynnwyd o’ch taliadau fel isgontractwr, os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig

Os ydych wedi talu unrhyw daliadau statudol i staff yn ystod y mis treth, defnyddiwch y gyfrifiannell briodol o’r cysylltiad ‘Cyfrifianellau’ er mwyn cyfrifo’r canlynol:

  • faint o’r taliad statudol hwnnw y gallwch ei adennill
  • swm unrhyw iawndal
  1. Gwnewch nodyn o’r symiau.
  2. Ar y dudalen hafan, dewiswch y cyflogwr o’r rhestr i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  3. Dewiswch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy o’r ddewislen.
  4. Dewiswch Ychwanegu swm adenilladwy o’r ddewislen.
  5. Nodwch y ‘dyddiad adennill’. Dylai’r dyddiad hwn fod y diwrnod olaf yn y mis treth pan dalwyd y cyflogau.
  6. Llenwch y meysydd fel y bo’n briodol, gan eu gadael yn wag os mai sero yw’r swm. Os ydych yn hawlio didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu, dylech dim ond gwneud cais os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig sy’n gweithredu yn y diwydiant adeiladu ac wedi wynebu didyniadau o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu. Peidiwch â chynnwys unrhyw ddidyniadau o daliadau a wnaed i isgontractwyr sydd wedi gwneud gwaith i’ch cwmni.
  7. Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’ ddiwygiedig. Bydd y cysylltiad ‘Cyflwyniadau heb eu gwneud’ ar y ddewislen yn dangos rhif wedi’i ddiweddaru i ddangos bod Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr wedi cael ei greu.

Cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF

  1. Ar y dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’, dewiswch Cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF o’r ddewislen.
  2. Dewiswch Cyfrifo ar gyfer y cyfnod treth perthnasol o’r tabl ar y dudalen.
  3. Nodwch unrhyw ddidyniadau o isgontractwyr yn y diwydiant adeiladu. Os nad oes unrhyw ddidyniadau, gadewch y meysydd yn wag.
  4. Dewiswch Nesaf i fwrw golwg dros yr holl symiau sydd wedi cael eu cyfrifo, neu sydd wedi cael eu nodi ar gyfer y mis treth hwnnw.
  5. Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF’ ddiwygiedig, a fydd yn dangos y cyfanswm sy’n daladwy i CThEF ar gyfer y mis treth hwnnw.

Anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr

Os gwnaethoch greu Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, bydd angen i chi ei anfon er mwyn hawlio unrhyw ryddhad ar gyfer symiau adenilladwy.

  1. Ar y dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’, dewiswch Cyflwyniadau heb eu gwneud o’r ddewislen. Os bydd angen i chi anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr, bydd rhif mewn cromfachau i’w weld ar ôl y cysylltiad.
  2. Dewiswch Anfon yr holl gyflwyniadau heb eu gwneud o’r ddewislen.
  3. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Dilysu cyflwyniad’.
  4. Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a gawsoch gan CThEF wrth i chi gofrestru ar gyfer TWE Ar-lein.
  5. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Dilysu cyflwyniad’, ac yna ymlaen i’r dudalen ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’ i gwblhau’r broses.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr erbyn y 19eg o’r mis. Os na fyddwch yn gwneud hynny, ni fydd yn cael ei ystyried am y cyfnod hwnnw, a bydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn sy’n ddyledus o’ch Cyflwyniad Taliadau Llawn. Os bydd eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn dod i law ar ôl y 19eg, bydd yn cael ei ystyried yn erbyn y cyfnod nesaf.

Newid y swm adenilladwy

Os byddwch yn nodi’r swm adenilladwy anghywir mewn unrhyw fis treth, gallwch newid y swm.

  1. Ar y dudalen hafan, dewiswch gyflogwr o’r rhestr i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy o’r ddewislen.
  3. Dewiswch Newid ar gyfer y cyfnod treth perthnasol o’r tabl ar y dudalen.
  4. Newidiwch y symiau, a dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’ ddiwygiedig.
  5. Dewiswch Cyflwyniadau heb eu gwneud o’r ddewislen fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion cyflwyniadau heb eu gwneud’.
  6. Dewiswch Anfon yr holl gyflwyniadau heb eu gwneud o’r ddewislen.
  7. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Dilysu cyflwyniad’.
  8. Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a gawsoch gan CThEF wrth i chi gofrestru ar gyfer TWE Ar-lein.
  9. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Statws y cyflwyniad’, ac yna ymlaen i’r dudalen ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’.

Bydd y Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig.

Talu CThEF

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gyflogwyr dalu CThEF bob mis treth, sef y chweched o un mis hyd at y pumed o’r mis canlynol.

Bob mis mae’n rhaid i chi dalu swm llawn y didyniadau (treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig) sydd arnoch i CThEF, fel y nodir ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn yn y mis treth blaenorol, llai unrhyw ostyngiadau ar bob Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a anfonwyd gennych cyn y 19eg o’r mis.

Nodwch y flwyddyn a’r mis pan fyddwch yn gwneud eich taliadau, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu dyrannu’n gywir.

Gwirio swm y taliad

Gallwch wirio’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu i CThEF ar ôl i chi anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn ac unrhyw Grynodebau o Daliadau’r Cyflogwr.

  1. Dewiswch Cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch Bwrw golwg dros Gofnod o Daliadau’r Cyflogwr o’r ddewislen. Dangosir y swm y mae angen i chi ei dalu yn y golofn olaf.

Mae’r dudalen ‘Cyfrifo’r swm sy’n ddyledus i CThEF’ hefyd yn cynnwys botwm ‘Talu nawr’ a fydd yn eich cyfeirio at dudalen sy’n dangos eich holl opsiynau talu, a’r dyddiadau cau ar gyfer talu.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu erbyn:

  • yr 22ain o’r mis treth nesaf, os ydych yn talu ar-lein — er enghraifft, ar gyfer y mis treth 6 Ebrill i 5 Mai, mae’n rhaid i chi dalu erbyn 22 Mai
  • y 19eg o’r mis treth nesaf, os nad ydych yn talu ar-lein — er enghraifft, ar gyfer y mis treth 6 Ebrill i 5 Mai, mae’n rhaid i chi dalu erbyn 19 Mai

Mae rhai cyflogwyr yn gymwys i dalu CThEF yn chwarterol. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r cyflogwyr cymwys hyn dalu swm llawn y didyniadau i CThEF, fel y nodir ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn ar gyfer misoedd 1, 2 a 3, erbyn y 19eg diwrnod calendr o fis 4 (neu’r 22ain os gwneir y taliad drwy ddull electronig).

Efallai y gallwch dalu’n chwarterol os ydych fel arfer yn talu llai na £1,500 y mis. I drefnu taliadau chwarterol, ac i gael gwybod beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer talu, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu er mwyn i’ch taliad gyrraedd CThEF yn dibynnu ar eich dull o dalu:

  • Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) neu CHAPS (System Glirio Talu Awtomataidd) — yr un diwrnod neu’r diwrnod canlynol
  • taliadau drwy gerdyn debyd neu gredyd corfforaethol, Bacs (System Glirio Awtomataidd y Banciau), arian parod neu siec yn eich banc neu gymdeithas adeiladu, Debyd Uniongyrchol (os ydych wediʼi sefydlu eisoes) neu siec drwy’r post — 3 diwrnod gwaith
  • Debyd Uniongyrchol, os nad ydych wedi’i sefydlu eisoes — 5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Os na wnaethoch dalu unrhyw gyflogeion yn ystod mis treth

Mae’n rhaid i chi anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn bob tro y byddwch yn talu eich cyflogeion.

Os nad ydych yn talu unrhyw gyflogeion yn ystod mis treth cyfan (y 6ed o un mis i’r 5ed o’r mis canlynol), mae’n rhaid i chi greu ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr i CThEF yn lle Cyflwyniad Taliadau Llawn.

Mae’n rhaid i chi anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr i CThEF erbyn y 19eg o’r mis nesaf.

Os na fyddwch yn anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn lle Cyflwyniad Taliadau Llawn, efallai y bydd gorchymyn am ‘swm penodedig’ yn cael ei anfon atoch, a hynny oherwydd y gall CThEF amcangyfrif yr hyn sydd arnoch yn seiliedig ar daliadau neu Ffurflenni Treth blaenorol.

Adroddiadau a thasgau blynyddol

Anfon eich adroddiad cyflogres terfynol

Mae angen i chi anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn terfynol ar neu cyn dyddiad cyflog olaf eich cyflogeion ar gyfer y flwyddyn dreth (sy’n dod i ben ar 5 Ebrill).

Mae angen i chi gadarnhau mai hwn yw eich adroddiad cyflogres terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth.

  1. Dewiswch Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch Cwblhau’r cyflwyniad ar gyfer y flwyddyn dreth.
  3. Ticiwch y blwch gwirio.
  4. Dilynwch y camau i gwblhau’ch cyflwyniad terfynol.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddiwygio’r gwall a chyflwyno Cyflwyniad Taliadau Llawn wedi’i gywiro.

Anfonwch Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr os ydych yn ceisio anfon eich adroddiad cyflogres terfynol ar ôl 19 Ebrill, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • gwnaethoch anghofio dewis Iawn yn y maes ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn’ yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn terfynol
  • ni wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod cyfnod cyflog terfynol y flwyddyn dreth

Taliadau ʽwythnos 53ʼ

Os ydych yn talu’ch cyflogeion bob wythnos, bob pythefnos neu bob 4 wythnos, efallai y bydd angen i chi wneud taliad ‘wythnos 53’ yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn terfynol y flwyddyn.

Bydd yr Offer yn cyfrifo’r taliadau ʽwythnos 53ʼ ar eich rhan.

Bydd CThEF yn anfon ffurflen P800 at unrhyw gyflogai sydd wedi gordalu treth yn dilyn taliad ‘wythnos 53’ er mwyn iddo allu hawlio ad-daliad.

Actifadu’r flwyddyn dreth newydd

Ar ôl i chi ddechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol, mae angen i chi actifadu pob blwyddyn dreth newydd cyn i chi gyflawni tasgau ar gyfer y flwyddyn. Byddwch yn dal i allu bwrw golwg dros wybodaeth o flynyddoedd blaenorol.

Os ydych chi’n gwneud unrhyw newidiadau i’r blynyddoedd blaenorol ar ôl actifadu’r flwyddyn newydd, mae angen i chi ddiweddaru’r wybodaeth hon â llaw cyn nodi manylion y taliadau ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.

  1. Gwiriwch eich bod wedi gwneud diweddariadau i Offer TWE Sylfaenol ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.
  2. Ar y dudalen ‘Cwblhau’r cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth’, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ticio’r blwch.
  3. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Newid blwyddyn dreth’.
  4. Dewiswch Nesaf i actifadu’r flwyddyn dreth newydd.

Pan fyddwch yn actifadu’r flwyddyn dreth newydd, bydd Offer TWE Sylfaenol yn dangos pob cyflogai o’r flwyddyn dreth flaenorol, gan gynnwys cyflogeion sydd wedi gadael.

 Os oes angen i unrhyw un o’r sawl sydd wedi gadael fod ar gael yn y flwyddyn dreth newydd, gallwch eu dewis nawr ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.

Bydd yr holl gyflogeion presennol yn symud i’r flwyddyn dreth newydd yn awtomatig.

Os byddwch yn nodi cyflogai newydd ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol ar ôl actifadu’r flwyddyn dreth newydd, bydd tudalen ‘Symud cyflogeion’ yn ymddangos er mwyn i chi allu symud y cyflogai hwn i’r flwyddyn dreth newydd.

Newid cod treth cyflogai

Efallai y cewch wybod am newidiadau i godau treth drwy ffurflen P6 neu P9. Gallwch hefyd ddefnyddio canllawiau P9X i newid codau treth.

Bydd angen i chi ddiweddaru’r codau treth â llaw.

  1. Dewiswch Rheoli cyflogeion o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  2. Dewiswch gyflogai o’r rhestr i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Manylion y cyflogai’.
  3. Dewiswch Newid cod treth o’r ddewislen, a dilynwch y cyfarwyddiadau i ddiweddaru’r cod treth.

Mae’n rhaid i chi wneud y diweddariadau hyn cyn nodi manylion y taliadau ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.

Tystysgrif diwedd blwyddyn P60

Mae’n rhaid i chi roi ffurflen P60 i bob cyflogai ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol os cawsant eu cyflogi gennych yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol a’ch bod yn dal i’w cyflogi ar 5 Ebrill y flwyddyn dreth bresennol.

Gallwch dim ond cael mynediad at ffurflen P60 y flwyddyn dreth flaenorol ar neu ar ôl 6 Ebrill y flwyddyn dreth bresennol, ac mae’n rhaid i chi roi ffurflenni P60 i’ch cyflogeion erbyn 31 Mai y flwyddyn dreth bresennol.

  1. Cytunwch â phob cyflogai ynghylch sut y bydd y ffurflen P60 yn cael ei darparu — yn bersonol, drwy’r post neu drwy e-bost.
  2. Dewiswch y flwyddyn dreth flaenorol ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
  3. Dewiswch Ffurflenni P60 o’r ddewislen.
  4. Dewiswch Agor ar gyfer y cyflogai perthnasol o’r rhestr ar y dudalen i fwrw golwg dros y ffurflen P60.
  5. Cadwch y ffurflen P60 fel PDF ar eich cyfrifiadur.

Mae’n rhaid i’ch cyflogai gytuno i gael ei ffurflen P60 drwy e-bost cyn i chi fynd ati i’w hanfon.

Gallwch anfon y PDF fel atodiad e-bost, neu ei argraffu o’r lleoliad y mae wedi’i gadw ar eich cyfrifiadur.

Cadw copi wrth gefn o’ch data

Eich cyfrifioldeb chi yw diogelwch y data a gedwir yn yr Offer TWE Sylfaenol. Nid yw CThEF yn cadw copi o’ch data, ac ni fydd yn gallu eich helpu os bydd yr wybodaeth hon yn cael ei cholli neu ei dinistrio.

Er mwyn cadw’ch data’n ddiogel, dylech wneud y canlynol:

  • dim ond lawrlwytho gwybodaeth i gyfrifiaduron sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair y mae angen caniatâd y cyflogwr i gael mynediad
  • cadw copi wrth gefn o’r data ar gyfryngau storio symudol, fel cof bach USB, ar ôl pob cyfnod talu, a’i storio ar wahân i’r cyfrifiadur mewn lleoliad diogel

Gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i wneud copi wrth gefn o’ch data.

  1. Ar dudalen hafan Offer TWE Sylfaenol, dewiswch Gwneud copi wrth gefn o’ch data o’r ddewislen i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Gwneud copi wrth gefn o Gronfa Ddata y Cyflogwr’.
  2. Dewiswch Cadw copi wrth gefn.
  3. Dewiswch y lleoliad storio sydd orau gennych a chadw’r copi wrth gefn. Mae’r copi wrth gefn wedi’i gadw ar ffurf ffeil .bak. Os ydych yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol yn y modd cynorthwyol, mae’r copi wrth gefn wedi’i gadw yn eich ffolder ‘Downloads’.
  4. Dewiswch Nesaf i fynd ymlaen i’r dudalen ‘Wedi cwblhau cadw’r copi wrth gefn’.
  5. Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen hafan.

Bydd y ffeil data yn cael ei chywasgu i leihau maint y ffeil.

Adfer eich data

Gallwch adfer eich data i’r Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio ffeil wrth gefn.

  1. Ar dudalen hafan Offer TWE Sylfaenol, dewiswch Adfer eich data o’r ddewislen a dilynwch y cyfarwyddiadau.
  2. Arhoswch ar y dudalen hon hyd nes bod eich data wedi’u hadfer.
  3. Ar ôl i’ch data gael eu hadfer, byddwch yn mynd yn ôl i’r dudalen hafan yn awtomatig.

Cadw cofnodion cyflogres

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion cyflogres cywir fel y gall CThEF sicrhau’r canlynol:

  • eich bod yn didynnu ac yn talu’r symiau cywir
  • bod eich cyflogeion yn cael unrhyw dâl statudol y mae ganddynt hawl iddo
  • eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth, fel deddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld tystiolaeth o sut yr ydych wedi gwneud eich cyfrifiadau.

Bydd angen i chi hefyd gadw’r canlynol:

  • unrhyw hysbysiadau P6 ynghylch codau treth y byddwn yn eu hanfon atoch ar bapur
  • Tystysgrifau Cydnabod Rhyw, os bydd unrhyw gyflogai’n newid ei ryw/ei rhyw

Mae angen i chi gadw cofnodion cywir at ddibenion archwilio ac er mwyn osgoi cosbau ariannol. Dysgwch ragor am gadw cofnodion.

Pa mor hir y bydd angen i chi gadw eich cofnodion

Bydd angen i chi gadw:

  • cofnodion cyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 3 blynedd dreth flaenorol
  • cofnodion yn profi eich bod yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 6 blynedd

Mae’n rhaid i’ch cofnodion gynnwys y canlynol:

  • cyfanswm y cyflog
  • yr holl ddidyniadau
  • cyfanswm yr oriau a weithiwyd
  • dogfennau sy’n dangos pam nad oes gan gyflogai hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gallwch wirio cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Dysgwch ragor drwy’r fideos a gweminarau ar gyfer cyflogi pobl, a’r diweddariadau a anfonwyd gan CThEF drwy e-bost (yn agor tudalen Saesneg).