Nodiadau canllaw ar gyfer cwblhau ffurflen VO 7012: cynnig i newid rhestr ardrethu 2017 (Cymraeg)
Updated 17 July 2023
Applies to Wales
1. Cyn i chi ddechrau
Gellir defnyddior ffurflen hon i apelio i newid prisiad eich eiddo yng Nghymru. Os yw eich eiddo yn Lloegr, mae angen i chi fynd i wasanaeth gwirio a herio y VOA.
Bydd angen manylion arnoch am werth ardrethol eich eiddo a gwybodaeth arall sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) am eich eiddo. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn neu ar eich bil ardrethi.
Os telir rhent neu ffi drwyddedu, bydd angen manylion y rhent cyfredol arnoch, gan gynnwys pryd yi talwyd gyntaf, ac enw a chyfeiriad perchennog yr eiddo. Maen bwysig eich bod yn nodi digon o wybodaeth am yr eiddo in galluogi iw adnabod yn gywir an helpu i fodloni gofynion cyfreithiol. Os nad ydych yn ateb bob adran yn llawn maen bosibl na fydd eich ffurflen yn cael ei debyn.
2. Pwy gaiff wneud ap棚l (a elwir hefyd yn gynnig)?
Y perchennog neur deiliad presennol (neu asiant syn ei gynrychioli), neu bobl 但 buddiannau cyfreithiol penodol yn yr eiddo ar y dyddiad y gwneir y cynnig.
Cyn-dalwyr ardrethir eiddo sydd am herio newid a wnaed ir rhestr ardrethu pan oeddent yn dalwr ardrethi.
Mewn rhai amgylchiadau, yr awdurdod bilio lle maer eiddo wedii leoli.
3. Rhesymau dros apelio
Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig newid (gwneud ap棚l) i werth ardrethol eiddo yng Nghymru sydd ar restr ardrethu 2017. Y rhesymau yw (y naill neur llall or canlynol):
- bod y gwerth ardrethol yn anghywir oherwydd newid a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- bod y prisiad yn anghywir oherwydd penderfyniad llys
Mae gwneud ap棚l yn enw arall ar gynnig gwneud newid.
4. Terfynau amser
Maen rhaid gwneud cynnig syn cyfeirio at benderfyniad Tribiwnlys Prisio, neu lys uwch, erbyn 30 Medi 2023 fan bellaf.
Ar 担l 31 Mawrth 2024, ni all Asiantaeth y Swyddfa Brisio newid prisiadau sydd 但 dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2023.
Os yw eich cynnig yn ymwneud 但 newid ir eiddo neu newidiadau yn yr ardal leol, maen bwysig dweud wrthym cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn oherwydd bod y dyddiad rydym yn cael y cynnig yn pennur dyddiad rydym yn ystyried y newidiadau hynny.
5. Gwybodaeth gyffredinol
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ardrethi busnes a dod o hyd ich gwerth ardrethol ar-lein.
Y Swyddog Prisio syn llunior rhestr ardrethu ac mae cynghorau lleol yn defnyddior wybodaeth ynddi er mwyn cyfrifo eich bil ardrethi. Maen cynnwys cyfeiriad yr eiddo, y gwerth ardrethol (gwerth yr eiddo), ar dyddiad y maer gwerth hwn yn weithredol ohono.
Sylwer bod gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar y rhent y gallair eiddo fod wedi cael ei osod amdano ar 1 Ebrill 2015. Ni fydd unrhyw newidiadau cyffredinol yn y farchnad rentu ers hynny, i fyny neu i lawr, wedi effeithio ar y gwerth ardrethol.
Yn dilyn ailbrisiad, bydd y gwerthoedd ardrethol yn gyffredinol yn aros heb eu newid tan yr ailbrisiad nesaf oni newidir yr eiddo neur ardal leol.
6. Os oes angen help arnoch wrth lenwir ffurflen hon
E-bostiwch - ratingwales@voa.gov.uk
7. Llenwir ffurflen
Gallwch ddweud wrthym am fwy nag un eiddo, er enghraifft yn achos rhannu neu gyfuno eiddo, drwy ddefnyddior ffurflen hon. Cofnodwch fanylion yr eiddo cyntaf ar y ffurflen a manylion unrhyw eiddo arall ar ddalen ar wah但n. Yna, dylid ei hatodi ir ffurflen.
Sylwer - os ydych yn cynnig newidiadau ar ddyddiadau gwahanol, maen rhaid i chi ddefnyddio ffurflen ar wah但n ar gyfer pob newid.
8. Rhan A: manylion am yr eiddo/asesiad ardrethi
Maer adran hon yn cyfeirio at y manylion sydd gan ASB. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn, ar eich bil ardrethi, neu ar Hysbysiad o Newid a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio.
1) Nodwch gyfeiriad llawn yr eiddo sydd gan ASB. Os ydych yn cynnig cofnod newydd (gweler blwch 12 G), nodwch y cyfeiriad yr ydych yn credu y dylid ei ddangos. Os ywr cyfeiriad presennol yn anghywir, dangoswch hefyd y cyfeiriad post llawn cywir. Defnyddiwch flwch 14 Rhan C y ffurflen os nad oes digon o le.
2) Nodwch ddisgrifiad or eiddo, e.e. Siop ac eiddo. Gallwch ddod o hyd i hyn gyda phrisiad eich eiddo ar-lein.
3) Nodwch enw deiliad presennol yr eiddo a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Os ywr eiddon wag, nodwch Gwag.
4) Dylid nodi cyfeiriad post llawn perchennog yr eiddo yma os ywn wahanol ir hyn a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Fel arall, nodwch fel 1.
5) Nodwch werth ardrethol yr eiddo a geir ar-lein.
6) Y dyddiad gweithredol ywr dyddiad y mae atebolrwydd newydd neu a newidiwyd i dalu ardrethi busnes yn dechrau. Os anghytunwch 但r dyddiad gweithredol, nodwch hyn yn Rhan B y ffurflen.
7) Os ywr perchennog yn meddiannur eiddo, ticiwch y blwch Perchennog / meddianedig. Os nad yw, nodwch enw perchennog yr eiddo yn y lle a ddarperir.
8) Dylid nodi cyfeiriad post llawn y perchennog dim ond os ywn wahanol ir hyn a ddangosir ar gyfer 1 a 4. Fel arall, nodwch fel 1 neu fel 4 fel y bon briodol.
9) Os nad ywr perchennog yn meddiannur eiddo, a thelir rhent neu ffi drwydded, maen rhaid i chi dicior blwch Ydy. Yna, nodwch y swm cyfredol sydd iw dalu bob blwyddyn (ac eithrio ardrethi, taliadau gwasanaeth a TAW, os ywn berthnasol). Cewch hefyd nodir dyddiad y daeth y rhent yn daladwy gyntaf. Fel arfer, y dyddiad hwn yw pan ddechreuodd y brydles neur cytundeb neu mewn adolygiad rhent dilynol. Nodwch y dyddiad nesaf yr adolygir y rhent os ydych yn ei wybod. Os ydych mewn cyfnod heb rent, nodwch hyn yn y blwch rhent blynyddol cyfredol. Gall y Swyddog Prisio anfon hysbysiad statudol atoch yn gofyn am fwy o fanylion am y rhent.
10) Nodwch enw llawn yr awdurdod bilio syn casglur ardrethi ar yr eiddo.
11) Nodwch gyfeirnod yr awdurdod bilio a geir gyda phrisiad yr eiddo ac ar eich bil ardrethi.
9. Rhan B: manylion y newidiadau arfaethedig
Dylid defnyddior rhan hon or ffurflen i gofnodi natur y newid rydych yn ei gynnig.
12) Maer gyfres o flychau ticio A i E yn nodi llawer or newidiadau mwyaf cyffredin. Dylid defnyddio blwch G os am gynnwys cofnod newydd (hynny yw, un na ddangosir mewn rhestr ardrethu ar hyn o bryd). Er mwyn sicrhau y gallwn dderbyn yr ap棚l, maen rhaid i chi hefyd lenwi pob blwch ychwanegol yn yr un rhes. Os nad ywr newid rydych am ei wneud yn cael ei ddisgrifio yn 12A-E neu G, defnyddiwch y blwch newidiadau eraill yn 12F, gan nodin union pa newid rydych yn ei gynnig. Hefyd, nodwch o ba ddyddiad yr ydych yn credu y dylair newid arfaethedig fod yn weithredol.
Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau ich helpu i lenwir rhan hon or ffurflen.
9.1 Enghraifft 1
Os ydych yn credu bod y prisiad ar 1 Ebrill 2017 yn anghywir, dylech dicio blwch A, cynnwys y gwerth rydych yn credu ei fod yn gywir yn y blwch nesaf, a nodi 01-04-2017 yn y blwch olaf yn y rhes.
9.2 Enghraifft 2
Os ydych yn apelio oherwydd newid ir eiddo neu yn yr ardal leol, bydd angen i chi dicio blwch A a nodi ei effaith ar y gwerth. Yn y blwch yn weithredol o, dylid nodir dyddiad rydych yn credu ir newid ddigwydd, e.e. 10 Mai 2017, fel 10-05-2017.
9.3 Enghraifft 3
Os ydych yn credu na ddylid cynnwys yr eiddo mwyach yn y rhestr ardrethu, e.e. nid yw siop yn masnachu mwyach ac mae wedii throin ddefnydd cwbl ddomestig, ticiwch flwch B a dangoswch yn y blwch ar y rhes hon y dyddiad rydych yn credu ir newid ddigwydd.
9.4 Enghraifft 4
Os ydych yn credu y dylid dangos dau neu fwy o gofnodion ar y rhestr fel un neu fwy o gofnodion gwahanol, ticiwch flwch D. Yna, nodwch nifer y cofnodion presennol a nifer y cofnodion newydd rydych yn credo y dylid eu cynnwys. Maen rhaid i chi hefyd gynnwys y dyddiad ir newid ddigwydd. Gall yr opsiwn hwn fod yn berthnasol dim ond pan fo un eiddo bellach wedii feddiannu mewn eiddo gwahanol, h.y. cyfunwyd yr eiddo.
10. Rhan C: seiliau dros eich ap棚l
10.1 Ateb Cwestiwn 13 - opsiynau ticio blychau
Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig y newid (gwneud ap棚l) ir gwerth ardrethol yr ydych wedii ddangos yn Rhan B.
Blwch 13/02: os ydych yn credu bod y gwerth ardrethol yn anghywir yn dilyn newid a wnaed gan y Swyddog Prisio. Nodwch hefyd y dyddiad ir newid gael ei wneud. Dangosir y dyddiad newid rhestr hwn ar-lein neu ar eich bil ardrethi ac yn yr Hysbysiad o Newid a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio. Os ydych hefyd yn anghytuno 但 dyddiad gweithredol y newid, ticiwch flwch 13/03 a nodwch y dyddiad rydych yn credu ei fod yn briodol.
Blwch 13/11: os ydych yn credu bod y cofnod a ddangosir mewn rhestr ardrethun anghywir ar 担l penderfyniad Tribiwnlys neu Lys syn ymwneud ag eiddo arall. Maen rhaid i chi nodi dyddiad y penderfyniad, enwr Tribiwnlys/Llys a chyfeiriad yr eiddo y maer penderfyniad yn ymwneud ag ef. Maen rhaid i chi hefyd roi eich rhesymau dros gredu bod y penderfyniad yn berthnasol ir eiddo a nodwyd yn Rhan A. Maen rhaid i chi hefyd nodi pam, ar 担l y penderfyniad, eich bod yn credu bod y cofnod ar y rhestr yn anghywir. Os na rowch yr holl wybodaeth hon, ni ellir derbyn y cynnig o bosibl.
Peidiwch 但 dewis unrhyw un or blychau eraill. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brision gwrthod eich cynnig os gwnewch hynny.
Maer opsiynau hyn wediu crynhoi. Ceir yr union ddatganiadau yn y gyfraith yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) (Cymru) 2005.
11. Rhan C: rhesymau manwl
14) Maen rhaid i chi roi rhesymau manwl pam eich bod yn credu bod y cofnod yn y rhestr ardrethun anghywir.
Er enghraifft, o ystyried opsiwn 13/02, efallai y bydd y Swyddog Prisio wedi cynyddur prisiad er mwyn ystyried estyniad ir eiddo. Efallai y byddwch yn anghytuno 但 maint yr estyniad ym manylion yr eiddo ar dyddiad y daeth yr estyniad ar gael iw ddefnyddio. Dylech egluro hyn, gan ddarparu dimensiynau a dyddiad newydd.
12. Rhan D: manylion am y sawl syn llenwir ffurflen hon
Ychwanegwch y cyfeiriad lle gallwn gysylltu 但 chi ynghylch yr ap棚l hon. Nid oes angen iddo fod yn gyfeiriad yr eiddo lle rydych yn cynnig y newidiadau.
Bydd llenwir rhan hon or ffurflen yn helpu cyfathrebu rhyngom ni ac unrhyw bart誰on eraill a allai fod yn gysylltiedig 但ch ap棚l. Felly, rydym yn awgrymu y dylech lenwir rhan hon mor llawn ag y bo modd.
Os ydych chin asiant, bydd angen ich cleient roi yr awdurdod i chi gyflwyno apeliadau ar eu rhan.
15) Ticiwch y blwch syn nodi ym mha rinwedd y gwneir y cynnig, h.y. yr un syn disgrifio gywiraf eich cysylltiad. Ticiwch un blwch yn unig. Os dewiswch Rhinwedd Arall, esboniwch ym mha rinwedd rydych wedi llofnodir ffurflen.
16) Nodwch eich enw mewn priflythrennau.
17) Dylid nodi eich llofnod arferol oddi tano a dylid nodir dyddiad ar y ffurflen.
18) Nodwch god post llawn y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth iddo. Fodd bynnag, os ywr cyfeiriad hwn eisoes wedii nodin llawn yn Rhan A, nodwch fel ym mlwch 1 neu 4 neu 8, pa un bynnag syn briodol.
19) Nodwch eich rhif ff担n yn ystod y dydd (gydar cod STD llawn).
20) Nodwch eich rhif ff担n symudol os gwelwch yn dda (dewisol).
21) Os ydych am gael gohebiaeth drwy e-bost, nodwch eich cyfeiriad e-bost, gan sicrhau ei fod yn glir ac yn gyflawn.
22) Nodwch yn yr adran hon y cyfeirnod (os oes un) yr hoffech iddo gael ei ddyfynnu yn yr holl ohebiaeth yn y dyfodol.
13. Ble i anfon y ffurflen hon
Ar 担l ei llenwi, bydd angen i chi anfon y ffurflen drwy e-bost i wales2017appeals@voa.gov.uk.
14. Ein safonau
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brision ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon i bawb maen ymdrin ag ef. Nodir y safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl yn siarter yr Asiantaeth.
Sicrhewch fod yr holl adrannau priodol wediu llenwi cyn llofnodir ffurflen hon.
Sylwer bod cynnig yn ddogfen gyhoeddus a gall unrhyw un ei harchwilio. Hefyd, maen rhaid anfon copi och cynnig, gan y Swyddog Prisio, at unrhyw dalwr ardrethi arall yr eiddo y mae eich cynnig yn ymwneud ag ef.