Newyddion y Comisiwn Elusennau: Gorffennaf 2025
Diweddarwyd 22 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mewnwelediadau newydd i gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr
Mae ymchwil newydd gan y Comisiwn Elusennau a Pro Bono Economics yn dangos bod y mwyafrif helaeth o ymddiriedolwyr yn gadarnhaol iawn am eu profiad, gydag 8 o bob 10 ymddiriedolwr yn debygol o argymell y r担l i eraill.
Dywedodd dros hanner yr ymddiriedolwyr ifanc fod ymddiriedolaeth yn cefnogi datblygiad eu gyrfa, tra bod ymddiriedolwyr h天n yn dweud ei fod yn rhoir cyfle iddynt roi rhywbeth yn 担l. Maer ymchwil yn awgrymu symudiad tuag at gydraddoldeb rhywedd ar fyrddau ymddiriedolwyr, gyda 43% o ymddiriedolwyr bellach yn fenywod oi gymharu 但 36% yn 2017.
Mae canfyddiadaun awgrymu y gallai rhai byrddau elwa o fwy o bobl 但 sgiliau penodol gan gynnwys sgiliau cyfreithiol, cyllid, mesurau gwrth-dwyll a marchnata.
Dymar arolwg mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed o gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr. Mae creu darlun gwell o brofiad ymddiriedolwyr yn helpur Comisiwn, llunwyr polisi ar sector i ddeall sgiliau, cymhellion a chefndiroedd ymddiriedolwyr presennol yn well, ac ymgysylltu 但r gronfa ehangaf bosibl o dalent ymddiriedolwyr.
Darllenwch y canfyddiadau llawn yma
Canllawiau wediu diweddaru ich helpu i ddod o hyd i ymddiriedolwyr newydd
Oeddech chin gwybod mai dim ond 6% o ymddiriedolwyr a ddaeth o hyd iw r担l drwy hysbyseb?
Rydym wedi adnewyddu ein canllawiau yn dilyn yr ymchwil ymddiriedolwyr uchod a ddangosodd fod y rhan fwyaf o elusennau yn dibynnu ar rwydweithiau personol eu hymddiriedolwyr wrth lenwi swyddi gwag ar fyrddau.
Archwiliwch ein canllawiau wediu diweddaru am gyngor ymarferol ar gael mynediad at gronfa ehangach o ymgeiswyr, gan gynnwys strategaethau a thechnegau hysbysebu effeithiol i annog ymgeiswyr posibl, ehangu eich cyrhaeddiad ach helpu i sicrhau talent newydd gwerthfawr ar gyfer eich bwrdd.
Dod o hyd i ymddiriedolwyr newydd au penodi (CC30)
Fframwaith cyfrifyddu elusen newydd y camau nesaf
Maer ymgynghoriad ar ddatblygu Datganiad a Argymhellir ar gyfer Arfer Elusennau (SORP) newydd wedi cau erbyn hyn.
Hoffair corff syn llunior SORP syn cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennaur Alban a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon ddiolch i bawb a ymatebodd.
Rydym wedi derbyn dros 140 o ymatebion gan randdeiliaid. Maer rhain bellach yn cael eu dadansoddi i lywior fersiwn derfynol or SORP newydd, yr ydym yn anelu at ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
Bydd y SORP newydd yn dechrau, ir elusennau hynny syn ei gymhwyso, mewn blynyddoedd ariannol syn dechrau ar neu ar 担l 1 Ionawr 2026.
Yn y cyfamser, rydym yn annog yr elusennau hynny i baratoi ar gyfer y newidiadau a gyflwynwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol mewn perthynas 但 chyfrifyddu prydlesi a chydnabod refeniw.
Am fwy o fanylion ar sut i baratoi, cyfeiriwch at
Ffeithiau newydd wediu datgelu am y sector ac ymddiriedaeth y cyhoedd
Rhyddhaodd y Comisiwn Elusennau ddau adroddiad newydd yr wythnos ddiwethaf, gan gynnig cipolwg ar y sector ar dirwedd newidiol y maen ei hwynebu.
-
Dangosodd ein hymchwil cyhoeddus blynyddol, yn erbyn cefndir heriol, fod hyder y cyhoedd mewn gwariant elusennol wedi cynyddu a bod ymddiriedaeth mewn elusennau yn parhaun uchel. Dywedodd bron i 60% o bobl fod ganddynt ymddiriedaeth uchel gan osod elusennau yn ail yn unig i feddygon. Maer ymchwil hefyd yn cynnig cipolwg ar y ffactorau syn sail i ymddiriedaeth y cyhoedd, ar lefelau galwr cyhoedd am wasanaethau elusennol, ac ar arferion rhoi elusennol dros amser.
-
Mae mewnwelediadau newydd o ffurflenni blynyddol, a anfonir at y Comisiwn gan y rhan fwyaf o elusennau, yn awgrymu bod elusennau wedi gallu cyfeirio adnoddau ychwanegol at gyflawni eu hamcanion, yng nghanol pwysau ariannol tynnach. Mae ein dadansoddiad or ffurflenni blynyddol diweddaraf yn ffurfior set ddata fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ar y sector, gan ein galluogi i nodi risgiau a thueddiadaur sector a chaniat叩u i lunwyr polisi, grwpiau sector ar cyhoedd gael dealltwriaeth gyfoethocach or sector elusennol yng Nghymru a Lloegr.
Ceisio eich barn ar bartneriaethau mewn ymateb i argyfyngau
Maer Llywodraeth yn ceisio barn pob elusen syn darparu cefnogaeth, cydlynu a gofal ir rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau. Maer ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddyletswyddau newydd posibl ar gyfer ymatebwyr Categori 1 (megis y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol) i ymgynghori 但 sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd ar gynllunio argyfyngau lleol. Fei lansiwyd yn dilyn ymchwiliad ir drychineb yn Nh典r Grenfell a bydd yn helpu i gryfhau parodrwydd ac ymateb i argyfyngau yn y dyfodol. Y dyddiad cau i rannuch barn yw dydd Mawrth 16 Medi.
Darllenwch ac ymatebwch ir Ymgynghoriad Cryfhau Partneriaethau
Nodwch y dyddiad: Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych ymddiriedolwyr ac i roi cyfleoedd i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Eleni, bydd yn digwydd o 3 7 Tachwedd.
Drwy gydol yr wythnos bydd cyfle i chi gysylltu ag ymddiriedolwyr eraill i rannuch profiadau. Gallwch hefyd ddatblyguch sgiliau drwy ystod eang o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac arweiniad.
Bydd manylion amserlen y digwyddiad a sut i gofrestru yn cael eu rhannun agosach at y dyddiad.