Canllawiau

Pam mae gordaliadau Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith yn digwydd

Diweddarwyd 6 Ebrill 2025

Mae’r arweiniad hwn yn rhoi gwybod i chi am rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin pam y gallech fod wedi cael gormod o gredydau treth (gordaliad).

Daeth credydau treth i ben ar 5 Ebrill 2025. Mae hyn yn golygu na fyddwn bellach yn gwneud unrhyw daliadau credydau treth ar ôl y dyddiad hwn. Mae credydau treth wedi cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, neu Gredyd Pensiwn os ydych yn gwsmer oedran pensiwn nad yw’n gweithio ond yn gyfrifol am blant.

Gwnaeth eich incwm newid

Roedd credydau treth yn seiliedig ar eich incwm a’ch amgylchiadau teuluol.

Pan wnaethom gyfrifo beth i’ch talu yn wreiddiol, gwnaethom edrych ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf – mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn hyd at 5 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Os nad oedd gennym yr wybodaeth hon, mae’n bosibl y byddwn wedi defnyddio’ch incwm o’r flwyddyn cyn y flwyddyn dreth ddiwethaf.

Gwnaeth eich incwm ostwng

Os oedd eich incwm blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol yn is na’r flwyddyn flaenorol, mae’n bosibl eich bod wedi cael credydau treth ychwanegol ar gyfer y flwyddyn bresennol. Po isaf yw’ch incwm, y mwyaf o gredydau treth y gallech fod wedi’u cael. Ond pan ostyngodd eich incwm, efallai na fyddai wedi cael effaith ar eich taliadau tan y flwyddyn ganlynol. Dylech fod wedi rhoi gwybod i ni os gwnaeth eich incwm ostwng, er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o gredydau treth.

Os gwnaeth eich incwm ostwng gan £2,500 neu lai, a bod eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath, ni fyddai’ch taliadau wedi cael eu heffeithio tan y flwyddyn ganlynol. Byddem wedi defnyddio’r ffigur newydd hwn i gyfrifo faint o arian y byddai angen ei dalu i chi ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Os gwnaeth eich incwm ostwng mwy na £2,500, byddem wedi adolygu’ch credydau treth ond wedi anwybyddu £2,500 cyntaf y gostyngiad.

Gwnaeth eich incwm gynyddu

Mae hefyd yn bwysig eich bod wedi rhoi gwybod i ni os gwnaeth eich incwm gynyddu.

Mae’n bosibl na fydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth i’r arian a gawsoch yn y flwyddyn dreth honno, oherwydd ein bod yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o unrhyw gynnydd. Ond, os na wnaethoch roi gwybod i ni yn syth pan oeddech yn gwybod y byddai’ch incwm yn uwch, mae’n bosibl eich bod wedi cael eich talu gormod pan wnaethom gyfrifo beth i’ch talu yn y flwyddyn dreth nesaf.

Er mwyn lleihau unrhyw ordaliad, dylech fod wedi rhoi gwybod i ni am unrhyw gynnydd mewn incwm ar unwaith.

Enghraifft

Incwm Karl ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf oedd £22,000. Rhoddodd alwad i ni ar 6 Awst i roi gwybod ei fod wedi dechrau swydd newydd.

Amcangyfrifodd y byddai ei incwm ar gyfer y flwyddyn dreth hon yn £18,500. Gan fod ei incwm wedi gostwng £3,500, gwnaethom anwybyddu’r £2,500 cyntaf a defnyddio’r incwm o £21,000 i gyfrifo’i daliadau credydau treth newydd. Yna, dechreuodd weithio goramser ac ni ddywedodd wrthym y byddai ei incwm amcangyfrifedig yn uwch na’r hyn a ddywedodd wrthym yn wreiddiol ym mis Awst.

Arhosodd tan iddo gael ei becyn adnewyddu yn ystod y mis Mai canlynol, ac yna rhoddodd wybod i ni mai ei incwm ar gyfer y flwyddyn oedd £20,000. Gan fod ei incwm gwirioneddol wedi gostwng llai na £2,500, roedd ei hawl derfynol i gredydau treth wedi’i seilio ar incwm y flwyddyn flaenorol, sef £22,000.

Gan ein bod wedi cyfrifo credydau treth Karl yn seiliedig ar ei incwm o £21,000, yn hytrach na £22,000, achosodd hyn ordaliad. Pe bai Karl wedi rhoi gwybod i ni yn ystod y flwyddyn fod ei amcangyfrif gwreiddiol yn mynd i gynyddu oherwydd ei waith goramser, mae’n bosibl na fyddai wedi cael y gordaliad hwn.

Mae eich perthynas gyda’ch partner wedi dod i ben, neu rydych wedi dechrau byw gyda phartner

Os ydych yn bâr, mae’n rhaid eich bod yn rhan o hawliad ar y cyd, a hynny’n seiliedig ar eich amgylchiadau ar y cyd. Os ydych yn sengl, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud hawliad sengl, a hynny’n seiliedig ar eich amgylchiadau unigol. Os gadawodd eich partner neu os symudodd partner newydd i mewn ac na wnaethoch roi gwybod i ni yn syth, mae’n bosibl eich bod wedi cael eich gordalu.

Enghraifft

Mae perthynas Robyn â John yn dod i ben ar 13 Ionawr. Arhosodd y plant gyda Robyn ar ôl i John adael. Nid yw Robyn na John yn rhoi gwybod i ni am y newid. Mae hawl Robyn a John i gredydau treth fel pâr yn dod i ben ar 13 Ionawr.

Pan mae Robyn yn cyflwyno eu datganiad blynyddol ar 27 Gorffennaf, mae’n rhoi gwybod i ni am y newid. Gan fod eu hawliad ar y cyd wedi dod i ben ar 13 Ionawr, mae gordaliad o:

  • 14 Ionawr i 5 Ebrill (diwedd y flwyddyn dreth ddiwethaf)

  • 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth hon) i 27 Gorffennaf

Pe bai Robyn neu John wedi cysylltu â ni ar yr adeg y gwnaeth John adael, byddai’r gordaliad ar eu hawliad ar y cyd wedi bod yn llai.

Ni wnaethoch adnewyddu eich credydau treth mewn pryd

Cyn i gredydau treth ddod i ben, fe wnaethom ofyn i chi adnewyddu’ch hawliad am gredydau treth bob blwyddyn. Fe wnaethom anfon pecyn adnewyddu atoch, a oedd yn cynnwys eich datganiad blynyddol. Gwnaeth y pecyn roi gwybod i chi beth oedd angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd. Os gofynnon ni i chi ymateb, ac na wnaethoch hynny mewn pryd, mae’n bosibl eich bod wedi cael gordaliad.

Enghraifft

Mae Abdul yn cael ei becyn adnewyddu ar 3 Mai. Mae’r pecyn yn rhoi gwybod iddo fod ganddo hyd at 31 Gorffennaf i adnewyddu ei hawliad. Mae’n rhoi’r pecyn i’r naill ochr gyda’r bwriad o’i lenwi’n hwyrach. Fodd bynnag, mae’n anghofio gwneud hynny. Gan nad yw Abdul wedi adnewyddu ei hawliad, mae ei daliadau yn dod i ben ar 6 Awst. Gofynnwn iddo ad-dalu’r arian y mae wedi’i gael ers 6 Ebrill. Pe bai Abdul wedi ymateb mewn pryd, byddai unrhyw ad-daliad oedd ganddo wedi bod yn llai, neu efallai na fyddai wedi cael gordaliad o gwbl.

Newid yn eich costau gofal plant

Mae’n bosibl eich bod wedi cael gormod o gredydau treth os na wnaethoch roi gwybod i ni pan wnaethoch roi’r gorau i dalu am ofal plant, neu os gwnaeth y swm ostwng gan £10 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd. Er enghraifft, os dechreuoch gael:

  • talebau gofal plant oddi wrth eich cyflogwr
  • cymorth dysgu cynnar neu addysg feithrin (er enghraifft, pan fo’ch awdurdod lleol yn Lloegr yn talu am 15 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar am ddim i blant rhwng 3 a 4 ac i rai plant 2 oed, neu 30 awr yr wythnos o ofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed)
  • help gyda’ch costau o unrhyw le arall

Hefyd, roedd yn rhaid i chi roi gwybod i ni os gwnaeth eich darparwr gofal plant beidio â bod yn gymeradwy neu’n gofrestredig, neu os gwnaethoch newid i ddarparwr gofal plant cymeradwy neu gofrestredig gwahanol, a gwnaeth y swm ostwng gan £10 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd.

Enghraifft

Mae 2 blentyn Marie yn mynychu meithrinfa 5 diwrnod yr wythnos ac mae hi’n talu costau gofal plant o £300 yr wythnos. Ym mis Medi mae ei phlentyn hynaf, Annie, yn dechrau mynychu’r ysgol ac felly nid yw hi bellach yn talu am le yn y feithrinfa ar ei chyfer. Mae ei chostau gofal plant yn gostwng i £150 yr wythnos. Nid yw Marie yn rhoi gwybod i ni am y newid hwn tan fis Rhagfyr.

Nid yw’r 4 wythnos gyntaf ar ôl i gostau gofal plant Marie newid yn cael effaith ar yr arian yr ydym yn ei dalu iddi, ond bydd yn rhaid iddi ad-dalu unrhyw ordaliad o’r 4 wythnos ar ôl i’w chostau gofal plant ostwng, hyd at fis Rhagfyr.

Gwnaeth eich plentyn adael addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy

Dylech fod wedi rhoi gwybod i ni yn syth os gwnaeth eich plentyn adael addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant hefyd. Os na wnaethoch hynny, mae’n bosibl eich bod wedi cael gormod o gredydau treth a Budd-dal Plant.

Enghraifft

Mae Victor, mab hynaf Olga, yn dechrau ei lefelau A yn y coleg ym mis Medi. Erbyn mis Hydref, mae’n penderfynu gadael y coleg ac yn cael swydd amser llawn yn lle. Nid yw Olga’n rhoi gwybod i ni am hyn tan y mis Mawrth olynol.

Mae’r holl gredydau treth a gafodd ar gyfer Victor o fis Hydref i fis Mawrth yn ordaliad.

Cynnwys plant ar eich hawliad

Os gwnaethoch gynnwys plentyn sydd ddim yn byw gyda chi ar eich hawliad, neu os gwnaethoch gael credydau treth am blentyn a bod y plentyn hwnnw yn mynd i fyw gyda rhywun arall, mae’n bosibl eich bod wedi cael gordaliad. Mae hyn yn wir ar gyfer Budd-dal Plant hefyd.

Enghraifft

Mae plant Raj yn byw gydag ef ac mae’n cael credydau treth ar eu cyfer. Yna, maent yn mynd i fyw gyda’u mam, Vimla, sydd yn dod yn brif ofalwr iddynt. Ni roddodd Raj wybod i ni nad oedd ei blant yn byw gydag ef mwyach. 

Nid oes ganddo hawl i’r arian a gafodd pan nad oedd y plant yn byw gydag ef. Nawr, bydd yn rhaid iddo ad-dalu’r swm a ordalwyd.

Rydych wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi lleihau’ch oriau

Os gwnaethoch roi’r gorau i weithio, neu os gwnaethoch leihau’ch oriau heb roi gwybod i ni, gallech fod wedi cael gordaliad.

Dysgwch ragor am newidiadau yn eich oriau gwaith.

Enghraifft

Mae Sandra’n hawlio Credyd Treth Gwaith yn unig, gan nad oes ganddi blant. Ar 3 Mai, mae’n lleihau ei horiau gwaith o 32 awr i 14 awr yr wythnos, ond nid yw’n rhoi gwybod i ni tan 12 Gorffennaf.

O dan yr amgylchiadau hyn, rydym yn parhau i drin person fel pe bai’n gweithio’i hen oriau am y 4 wythnos gyntaf, oni bai ei fod yn hawlio Credyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Sandra, felly, yn parhau i gael ei thrin fel pe bai’n gweithio 32 awr yr wythnos am y 4 wythnos gyntaf ar ôl iddi leihau ei horiau. Mae hyn yn golygu nad oes ganddi hawl i Gredyd Treth Gwaith o 31 Mai ymlaen. Gofynnwn iddi ad-dalu’r arian a gafodd o 31 Mai hyd at 12 Gorffennaf.

Rydych yn cael budd-daliadau ar sail cyfraniadau

Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau, a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau. Er enghraifft, yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch incwm ar gyfer credydau treth.

Dyfernir budd-daliadau ar sail cyfraniadau pan fyddwch wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2, neu wedi cael credyd amdanynt, yn y blynyddoedd treth perthnasol.

Mae’ch hysbysiad budd-daliadau yn nodi a ydych yn cael budd-daliadau ar sail cyfraniadau. Os na wnaethoch chi roi gwybod i ni eich bod yn cael hyn, mae’n bosibl eich bod wedi cael gormod o gredydau treth a bydd yn rhaid i chi eu had-dalu.

Rydych yn cael budd-daliadau ar sail incwm

Rhoddir Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm pan nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, nac wedi cael credyd amdanynt. Os oeddech yn cael y budd-daliadau hyn ar sail incwm, byddem yn talu’r swm uchaf y mae gennych hawl iddo yn awtomatig, a hynny ar gyfer unrhyw gredydau treth y gallwch eu hawlio.

Os gwnaethoch roi gwybod i ni eich bod yn cael budd-daliadau ar sail incwm, pan rydych yn cael budd-daliadau ar sail cyfraniadau, mae’n bosibl y talwyd gormod o gredydau treth i chi ac y bydd yn rhaid i chi eu had-dalu.

Enghraifft

Mae Ben a Claire yn cael credydau treth. Enillodd Claire £16,000 y llynedd, ac mae hi’n gweithio amser llawn. Enillodd Ben £10,000 y llynedd, ac mae’n gweithio rhan amser. Ym mis Mehefin, mae Ben yn colli ei swydd ac yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Gan ei fod wedi talu digon o gyfraniadau yn ystod y cyfnod perthnasol, mae’n gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau.

Mae Ben a Claire yn rhoi gwybod i ni’n anghywir bod Ben yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Oherwydd hyn, rydym yn talu uchafswm yr hawl iddynt. Ym mis Hydref, mae Ben yn ffonio er mwyn rhoi gwybod i ni ynghylch ei swydd a’i enillion newydd. Yn ogystal, mae’n rhoi gwybod i ni ei fod wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau, nid Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm.

Cafodd Ben a Claire uchafswm y credydau treth ar gyfer y cyfnod pan oeddem yn credu ei fod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm. Mae hyn yn golygu eu bod wedi cael gormod o arian, a nawr mae ganddynt ordaliad.

Roedd credydau treth yn aml yn cael eu talu ymlaen llaw

Roedd credydau treth yn aml yn cael eu talu ymlaen llaw, felly dylech wedi rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau ar unwaith er mwyn osgoi cronni gordaliad.

Enghraifft

Mae Melissa’n symud i mewn gyda Sam ar 15 Chwefror ac yn rhoi gwybod i ni ar yr un diwrnod. Dywedir wrthi y bydd ei hawliad fel person sengl yn dod i ben.

Cafodd Melissa daliad 4-wythnos ar 12 Chwefror, ond roedd hwn yn cwmpasu ei chredydau treth hyd at 28 Chwefror.

Gofynnir i Melissa ad-dalu’r arian a dalwyd o 15 Chwefror i 28 Chwefror gan y daeth ei hawliad sengl i ben ar 14 Chwefror.

Ni wnaethoch wirio eich hysbysiad o ddyfarniad na rhoi gwybod i ni ei fod yn anghywir

Weithiau rydym yn cael pethau’n anghywir. Dylech fod wedi gwirio’ch hysbysiad o ddyfarniad a rhoi gwybod i ni ar unwaith os oedd unrhyw beth yn anghywir, yn anghyflawn neu ar goll.

Os na wnaethoch hynny cyn pen 30 diwrnod, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliad.

Enghraifft

Anfonir hysbysiad o ddyfarniad at Michael ar 10 Mehefin sy’n nodi ar gam ei fod yn anabl. Nid yw’n gwirio’i hysbysiad o ddyfarniad yn gywir gan ddefnyddio’r rhestr wirio. Felly nid yw’n gweld y camgymeriad hwn tan iddo gael pecyn adnewyddu y mis Ebrill olynol. Wrth ffonio i adnewyddu ei hawliad, mae’n rhoi gwybod i ni fod ei hysbysiad o ddyfarniad yn anghywir.

Mae’r holl arian ychwanegol y mae Michael wedi’i gael ar gyfer anabledd yn ordaliad. Er mai ni wnaeth y camgymeriad yn y lle cyntaf, gan nad oedd Michael wedi rhoi gwybod i ni am y camgymeriad mewn pryd, bydd yn rhaid iddo ad-dalu’r gordaliad.

Gwnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn rhoi cymorth i bobl sydd ar incwm isel, neu sydd allan o waith, ac yn disodli’r ystod o fudd-daliadau presennol, gan gynnwys credydau treth. Mae’ch cymhwystra i hawlio Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Does dim modd i chi gael credydau treth a thaliadau Credyd Cynhwysol ar yr un pryd.

Os gwnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol, daeth eich dyfarniad credydau treth i ben ar y diwrnod cyn i’ch hawliad am Gredyd Cynhwysol ddechrau, hyd yn oed os nad oeddech yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu y gallech fod wedi cael rhywfaint o daliadau credydau treth ar gyfer cyfnod yr ydych wedi hawlio Credyd Cynhwysol ar ei gyfer, a bydd yn rhaid i chi eu had-dalu.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cael yr arian iawn ar gyfer cyfnod eich dyfarniad, gofynnon i chi gadarnhau’ch dyfarniad credydau treth yn derfynol ac anfonom Adolygiad o Ddyfarniad atoch.

Enghraifft

Mae Angela yn hawlio Credyd Treth Gwaith yn unig, gan nad oes ganddi blant. Dyfernir £1,800 iddi, ar sail ei hincwm o £12,000. O 6 Ebrill ymlaen, mae enillion Angela yn cynyddu i £20,000. Pe bai hi wedi rhoi gwybod am y cynnydd, byddai hyn wedi gostwng ei dyfarniad credydau treth i £1,000.

Ar 6 Hydref, mae’n gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol, sy’n dod â’i hawl i gredydau treth i ben o’r diwrnod blaenorol.

Mae CThEF yn cadarnhau ei dyfarniad yn derfynol ar gyfer rhan o’r flwyddyn (yr enw ar hyn yw ‘cadarnhau yn ystod y flwyddyn’) ac yn cyfrifo’i hawl i gredydau treth ar gyfer 6 Ebrill i 5 Hydref fel £500.

Talwyd £900 iddi hyd at 5 Hydref, sy’n golygu ei bod hi wedi cael gordaliad o £400 ar gyfer cyfnod ei dyfarniad, am iddi fethu â rhoi gwybod i CThEF am y newid yn ei hincwm.

Gwnaethoch hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Ni allwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar yr un pryd ag yr ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Credyd Cynhwysol neu dalebau gofal plant.

Bydd eich credydau treth wedi dod i ben yn syth os gwnaethoch gais llwyddiannus am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os cawsoch gredydau treth yn ystod y cyfnod pan oeddech yn hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r taliadau credydau treth.

Os gwnaethom gamgymeriad

I’n cynorthwyo i gael eich dyfarniad yn gywir, ac i osgoi cronni gordaliad, mae’n bwysig ein bod ni’n bodloni ein cyfrifoldebau a’ch bod chi’n bodloni eich rhai chi.

Os gwnaethom fethu â bodloni ein cyfrifoldebau, ond gwnaethoch chi fodloni’ch rhai chi i gyd, ni fyddwn yn gofyn i chi ad-dalu’r gordaliad cyfan.

Fel arfer mae’n rhaid i chi ddadlau yn erbyn adennill gordaliad cyn pen 3 mis i ddyddiad:

  • eich hysbysiad o benderfyniad terfynol
  • y penderfyniad ar eich Hysbysiad Adolygiad Blynyddol neu Hysbysiad Terfynol
  • eich Datganiad o Gyfrif
  • y penderfyniad ar eich Hysbysiad Adolygiad o Ddyfarniad (os daeth eich dyfarniad i ben yn awtomatig o ganlyniad i hawliad am Gredyd Cynhwysol)
  • y llythyr sy’n rhoi ein penderfyniad ynghylch eich ailystyriaeth orfodol
  • y llythyr oddi wrth y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd neu’r Gwasanaeth Apeliadau sy’n rhoi ei benderfyniad ynghylch eich apêl

Gallwch ond dadlau yn erbyn ad-dalu gordaliad sydd wedi digwydd yn y flwyddyn dreth y mae’r hysbysiad neu’r llythyr yn ymwneud â hi. Fel arfer, ni allwch anghytuno â gordaliadau a ddigwyddodd yn ystod blynyddoedd treth cynharach. Byddwn dim ond yn derbyn anghydfod hwyr mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, oes oeddech yn yr ysbyty am y cyfnod hwnnw o 3 mis ac nid oedd unrhyw un arall yn gallu delio â’ch materion.

Os byddwch yn anfon anghydfod atom, byddwn yn parhau i adennill y gordaliad wrth ystyried eich anghydfod.

Dysgwch ragor am yr hyn sy’n digwydd os ydym wedi talu gormod o gredydau treth i chi.

Enghraifft

Mae gan Barbara 2 blentyn, ac mae’n cael credydau treth. Ym mis Tachwedd, mae ei phlentyn hynaf, Julie, yn gadael yr ysgol ac yn dechrau gweithio. Mae Barbara yn cysylltu â ni ar unwaith i roi gwybod am y newid. Nid ydym yn nodi’r newid tan fis Ionawr, ac rydym yn dangos dyddiad gadael Julie fel mis Ionawr.

Mae Barbara yn ffonio i roi gwybod i ni am y camgymeriad cyn gynted â’i bod yn cael ei hysbysiad o ddyfarniad diwygiedig, ond nid ydym yn ei gywiro tan fis Mawrth. Byddem yn cywiro’r penderfyniad er mwyn tynnu Julie o’r dyfarniad o fis Tachwedd ymlaen. Gan fod Barbara wedi bodloni ei chyfrifoldebau hi, ond na wnaethom fodloni ein rhai ni, nid ydym yn gofyn i Barbara ad-dalu’r holl ordaliad a gafodd rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn rhoi gwybod i chi pa newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i ni amdanynt yn y rhestr wirio TC602(SN), ‘Gwirio eich hysbysiad o ddyfarniad credydau treth’. Rydym yn ei hanfon atoch gyda phob hysbysiad o ddyfarniad. Os nad yw’r daflen hon yn ateb eich holl gwestiynau, ac os ydych yn dal i fod yn ansicr ynghylch pam mae gennych ordaliad, cysylltwch â ni.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rhowch wybod i ni beth yw’ch:

  • enw llawn
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn yn ystod y dydd

Ar ôl i chi gael esboniad, os ydych yn dal i fod o’r farn na ddylem ofyn i chi ad-dalu gordaliad, gallwch ofyn i ni edrych ar hyn eto. Dadlau yn erbyn gordaliad yw’r enw a roddwn ar hyn. Er mwyn gwneud hyn, llenwch y ffurflen ‘Gordaliadau credydau treth (TC846)’, a’i hanfon atom.

Gallwch ysgrifennu atom yn lle hynny, ond mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi’r manylion llawn i ni, gan gynnwys:

  • y flwyddyn dreth ar gyfer y gordaliad yr ydych yn anghytuno ag ef
  • p’un a wnaethoch gysylltu â ni, a phryd y gwnaethoch hynny
  • pam rydych yn credu bod y gordaliad wedi digwydd
  • pam rydych yn credu na ddylech orfod ad-dalu’r gordaliad

Eich hawliau a’ch ymrwymiadau

Darllenwch siarter CThEF i ddysgu beth y gallwch ei ddisgwyl gan Gyllid a Thollau EF, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi.