Guidance

Cyfamod y Gymdeithas Sifil

Updated 21 July 2025

Crynodeb

Cyfamod parhaol rhwng y llywodraeth a phawb ar draws y gymdeithas sifil syn buddsoddi eu hamser au harian er mwyn gwasanaethu eraill.

Rydyn nin credu:

bod cymdeithas sifil Prydain, gan gynnwys gwirfoddolwyr, elusennau, sefydliadau ffydd, mentrau cydweithredol, undebau llafur, dyngarwyr, mentrau cymdeithasol, buddsoddwyr cymdeithasol a busnesau pwrpasol, yn rhan o wead ein gwlad.

bod eu gwasanaeth yn rhan falch on hunaniaeth genedlaethol. Maen fynegiant or cyfrifoldeb tuag at ein gilydd syn sail in contract cymdeithasol. Maen cryfhaur cysylltiadau syn dod 但n cymunedau at ei gilydd, yn cyfoethogin democratiaeth, ac yn gwella bywydau ledled y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

bod cymdeithas sifil gref ac annibynnol yn hanfodol er mwyn mynd ar drywydd adnewyddu cenedlaethol gydan gilydd. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn fodd inni adeiladu dyfodol gwell, tecach i bawb.

bod y gymdeithas sifil yn rym ar gyfer arloesi. Mae ganddir wybodaeth leol or hyn syn gweithio, mae wedii gwreiddio mewn profiad byw ac yn ennill ymddiriedaeth y rhai y maen eu gwasanaethu. Trwy gyd-fuddsoddin strategol gydar llywodraeth, gall cyllid cymdeithasol helpu i sbarduno arloesedd trwy brofi a thyfu syniadau newydd.

na ddylid disgwyl byth ir gymdeithas sifil gamu i mewn a disodlir llywodraeth. Yn hytrach, dylair llywodraeth fynnu gweithio mewn partneriaeth 但r gymdeithas sifil.

Fe fyddwn ni:

yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb syn rhoi eu hamser au harian er mwyn gwasanaethu eraill, yn parchun gwahanol rolau, ac yn adeiladu ymddiriedaeth ac amcanion cyffredin.

yn parchu annibyniaeth sefydliadaur gymdeithas sifil ac yn sicrhau eu bod yn gallu eiriol dros y rhai maen nhwn eu gwasanaethu a dal y llywodraeth i gyfrif heb ofni dial.

yn partneru ac yn cydweithio ar draws pob adran a phob cenhadaeth yn y llywodraeth, gan weithio ar lefel genedlaethol a lleol ledled y Deyrnas Unedig i gyflawnir Cynllun ar gyfer Newid.

yn dylunio, yn cyllido ac yn cyflawni polis誰au a gwasanaethau mewn partneriaeth wirioneddol; yn gweithio gyda meiri, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill ar bartneriaethau sydd wediu seilio ar le ac yn datblygu trefniadau comisiynu a chaffael cydweithredol.

yn hybu cyfranogiad a chynhwysiant trwy gynnwys pobl mewn penderfyniadau syn effeithio ar eu bywydau, yn sicrhau bod eu lleisiaun cael eu clywed ac yn dileu rhwystrau syn atal cyfranogiad democrataidd.

yn cryfhau ymddiriedaeth gan gyfathrebu a rhannu gwybodaeth, data ar arferion goraun agored, a thrwy sicrhau bod sefydliadaur gymdeithas sifil yn mynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhwn ei gael.

yn adrodd yn flynyddol ar gamau i anrhydeddur cyfamod yma ac effaith y bartneriaeth yma 但r gymdeithas sifil.

Y Cyfamod

Pwrpas: pam mae arnon ni angen Cyfamod

I fynd ir afael 但 heriau dwfn ein hoes, mae arnon ni angen model newydd o bartneriaeth rhwng y gymdeithas sifil ar llywodraeth. Bydd y Cyfamod yn creu amgylchedd lle maer gymdeithas sifil yn cael ei pharchu, ei chefnogi ai gwrando gan y llywodraeth, wrth weithio mewn partneriaeth 但r gymdeithas sifil ac yn annibynnol, pan fydd y gymdeithas sifil yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Maer Cyfamod yn drefniant cilyddol syn cydnabod bod gan y gymdeithas sifil ar llywodraeth rolau gwahanol a rolau cyffredin wrth wasanaethur cyhoedd. Maer Cyfamod yn adeiladu ar sylfaen y ddeddfwriaeth ar rheoliadau cyfredol syn llywodraethu gweithredoedd ac ymddygiad y llywodraeth, cyrff cyhoeddus ar gymdeithas sifil. Nid ywn dyblygur gofynion presennol hyn, ond maen ceisio atgyfnerthu safonau uchel o lywodraethu ac ymddygiad. Bydd y Cyfamod yn sbarduno cyd-ddeall a chyd-barch, ac yn galluogi cydweithio rhwng ystod ehangach o sefydliadau. Nod y Cyfamod yma yw ategur bartneriaeth yma er mwyn cyflawni:

  • cymdeithas deg a chyfiawn gyda gwelliannau ym mywydau pobl a diogelwch i hawliau dynol

  • cymdeithas sifil gref, gynaliadwy ac annibynnol syn cydweithio 但r llywodraeth er budd y cyhoedd ac yn cyflawni eu cenhadaeth
  • llywodraeth ymatebol syn cydweithio 但r gymdeithas sifil i gyflawni ei chenhadaeth er budd y cyhoedd
  • cymunedau gwydn, cysylltiedig a grymus gyda chyfleoedd cynhwysol i gyfranogi syn cryfhaun gwead cymdeithasol
  • prosesau penderfynu bywiog syn cofleidio dirnadaeth, arbenigedd a her adeiladol y gymdeithas sifil
  • prosesau datrys problemau hirdymor arloesol er budd pobl ym mhob rhan or wlad
  • democratiaeth gref lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pob llais yn cael ei glywed Rhychwant: Cyfamod i bwy yw hwn Maer Cyfamod wedii gyd-ddylunio rhwng cynrychiolwyr or llywodraeth ar gymdeithas sifil. Maen deillio o ymgysylltu eang 但 mwy na 1,200 o sefydliadau ar draws y gymdeithas sifil, ac 但r llywodraethau lleol, canolog a datganoledig trwy gydol ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2024.

Mae egwyddorion y Cyfamod yn nodi disgwyliadau craidd a ddylai fod yn gymwys ir berthynas rhwng y gymdeithas sifil ar llywodraeth. Y tu hwnt ir disgwyliadau craidd yma, bydd y Cyfamod yn ysgogi ac yn ysbrydoli rhagor o welliannau yn y berthynas. Yn ymarferol, bydd effeithiaur Cyfamod yn cael eu teimlo mewn ffyrdd amrywiol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol a lleol.

Maer gymdeithas sifil yn cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, undebau llafur, sefydliadau ffydd, grwpiau cymunedol anffurfiol, dyngarwyr a buddsoddwyr cymdeithasol. Maer Cyfamod yn cynnwys sefydliadau o bob diben, maint, lleoliad daearyddol, ar rhai syn cael eu harwain gan grwpiau sydd wediu tangynrychioli. Mae hefyd wedii fwriadu i fod yn berthnasol ir sefydliadau hynny yn y Deyrnas Unedig syn gweithio yn y Deyrnas Unedig a thros y m担r.

Maer egwyddorion yn y Cyfamod yma yn gymwys i gyrff y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys:

  • adrannau o lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys asiantaethau gweithredol a chyrff hyd braich

  • awdurdodau strategol ac awdurdodau lleol Lloegr

  • cyrff yn y sector cyhoeddus ehangach syn gweithio gydar gymdeithas sifil gan gynnwys sefydliadau a phartneriaethaur GIG, megis Systemau Gofal Integredig, ar system cyfiawnder troseddol

Ni ddylair Cyfamod dorri ar draws fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle maer rheinyn cyrraedd safon uwch neu safon gyfatebol, ond fe ddylair Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir.

Ni ddylair Cyfamod gyfaddawdu swyddogaethau rheoleiddio cyrff cyhoeddus mewn perthynas 但r gymdeithas sifil, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn peryglu ymreolaeth neu annibyniaeth y sefydliad oddi wrth y llywodraeth.

Maer Cyfamod hefyd yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig mewn meysydd polisi lle maer cyfrifoldebau wediu cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig a heb gael eu datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bwriad y Cyfamod yw ategu a pharchur trefniadau llywodraethu ar bartneriaeth bresennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan weithio ochr yn ochr 但r fframweithiau gwahanol ym mhob gwlad. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i weithio mewn partneriaeth 但 sefydliadaur gymdeithas sifil ym mhob un or pedair rhan or Deyrnas Unedig.

Gwerthoedd ac ymddygiadau: beth syn sail ir Cyfamod

Maer gwerthoedd ar ymddygiadau syn sail iddo yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y Cyfamod. Maer rhain yn cynnwys:

  • dealltwriaeth dangos dealltwriaeth or heriau ar pwysau syn wynebu pob parti, parchu rolau a chyfrifoldebau ei gilydd
  • hyblygrwydd dangos y gallu i addasu at amgylchiadau syn newid ac addasu ffyrdd o weithio er mwyn arloesi a chynnwys gwahanol fathau o sefydliadau
  • dysgu cydfuddiannol gweithio gydai gilydd i sicrhau bod pob parti yn gallu bod yn agored am yr hyn sydd wedi gweithion dda ar hyn sydd angen ei wella
  • ymddiriedaeth creu ymddiriedaeth gydfuddiannol trwy fuddsoddi mewn perthnasoedd syn cydnabod ewyllys da ac yn adeiladu pwrpas cyffredin, cyfathrebun rheolaidd, yn onest ac yn agored, gweithredu gydag uniondeb ac anrhydeddu ymrwymiadau
  • agored cynnal sianeli agored o gyfathrebu a pharch, cytuno i anghytuno lle bo angen a cheisio datrys tensiynau heb danseilio cydweithredu
  • amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant hybu hawliau a chyfrifoldebau yn y ffordd rydyn nin gweithio gydan gilydd a chyda chymunedau, gan sicrhau cydraddoldeb mynediad lle bynnag y bo modd.

Egwyddorion y Cyfamod

Cydnabyddiaeth a gwerth

Maer Cyfamod yn adeiladu perthnasoedd cadarn ac yn cryfhau annibyniaeth sectorau trwy hybu parch a gwerth i briod gryfderau, cyfrifoldebau, safbwyntiau a chyfyngiadaur llywodraeth ar gymdeithas sifil.

Parch at annibyniaeth a dilysrwydd

  • Maer Llywodraeth yn parchu annibyniaeth a dilysrwydd sefydliadaur gymdeithas sifil i eiriol ac ymgyrchu, gan gynnwys amddiffyn yr hawl i gymryd rhan mewn protest heddychlon, ac i ddal y llywodraeth i gyfrif er mwyn gwneud gwell deddfau, rheoliadau a phenderfyniadau.
  • Maer gymdeithas sifil yn parchu dilysrwydd y llywodraeth i wneud penderfyniadau, arfer ei phwerau uchelfreiniol, ai hatebolrwydd ir Senedd.
  • Nid ywr llywodraeth yn trin sefydliadaur gymdeithas sifil sydd wedi mynegi anghytundeb 但 pholis誰aur llywodraeth yn llai ffafriol trwy eu hepgor o drafodaethau polisi neu gyfleoedd ariannu.

Cydnabod gwerth, r担l a gwahanol safbwyntiau

  • Maer Llywodraeth yn cydnabod gwerth cyfraniadau economaidd a chymdeithasol y gymdeithas sifil, gan gynnwys y gwerth cymdeithasol cynhenid y mae sefydliadaur gymdeithas sifil yn ei roi, au gallu i adeiladu cymunedau cydlynol, cynhwysol.
  • Maer gymdeithas sifil yn cydnabod bod Ysgrifenyddion Gwladol a Gweinidogion yn cael eu hethol yn ddemocrataidd au bod yn atebol yn ffurfiol ir Senedd ac ir cyhoedd fel arweinwyr, ac am ddatblygu, pennu a gweithredu polis誰aur llywodraeth trwy adrannau au cyrff hyd braich (ALBs).
  • Maer Llywodraeth yn gwrando ar y gymdeithas sifil ac yn parchu arbenigedd amrywiol y gymdeithas sifil wrth ddylunio polis誰au a gwasanaethau, gan gynnwys perthnasoedd dibynadwy, gwybodaeth ddofn am yr hyn syn gweithio, arwain ac adeiladu cymunedau, busnes cymdeithasol, a darparu gwasanaethau.

Deall cyfrifoldebau a chyfyngiadau

  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn deall cyfrifoldebau a pharamedrau gweithredol ei gilydd o dan ofynion y gyfraith, rheoliadau perthnasol a safonau moesegol.
  • Maer Llywodraeth yn cydnabod cyfrifoldeb y gymdeithas sifil i siarad allan a dal y llywodraeth i gyfrif lle mae hynnyn helpu un o sefydliadaur gymdeithas sifil i gyflawni eu cenhadaeth.
  • Maer gymdeithas sifil ar llywodraeth yn deall na fyddan nhw bob amser yn cytuno, ac y gall fod rhaid ir llywodraeth gydbwyso ffactorau a blaenoriaethau cyferbyniol yn ei phenderfyniadau.

Astudiaethau achos: Cytundeb VCFSE (Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM)

Cafodd ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus ar gymdeithas sifil.

Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda gr典p o arweinwyr y gymdeithas sifil wediu lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddain cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd ir afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.

Maer Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadaur gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth ar arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth syn deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill ar gymdeithas sifil. Maer GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Maer dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadaur gymdeithas sifil wrth weithion agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau au cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau syn anelu at ymgysylltu 但 phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae mentraur VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, syn darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% or bobl ifanc yn gwybod beth iw wneud os byddai rhywun yn gwaedu neun anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.

Mae Adroddiad Interim ar Gynnydd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadaur sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.

Astudiaethau achos: Calderdale cydnabod gwerth y VCSE ar gyfer dyfodol ffyniannus

Mae strategaeth VCSE Cyngor Calderdale 2024 i 2029 yn cydnabod r担l hanfodol y sector Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol (VCSE) yn Calderdale. Maen gwerthfawrogir VCSE fel partner allweddol wrth gyflawnir weledigaeth leol o fod yn lle mentrus, llawn cyfleoedd, lle gall pawb ffynnu yn eu cymuned.

Adeg ei chreu, roedd grwpiaur VCSE yn wynebu llai o gyllid or sector cyhoeddus, costau cynyddol, a galw cynyddol am eu gwasanaethau. Roedd prinder staff, cyflog is, a llai o wirfoddolwyr yn ychwanegu at y pwysau. Un peth syn ganolog iw datblygiad ai gweithredu oedd cydnabyddiaeth Cyngor Calderdale o werth ac arbenigedd cynhenid y sector VCSE.

Maer strategaeth, sydd wedii chydgynhyrchu gyda chynrychiolwyr y VCSE, yn cydnabod natur amrywiol a chymhleth y sector VCSE ai heffaith arwyddocaol ar drigolion a chymunedau Calderdale. Maen cydnabod cyfraniad y sector ir gymdeithas yn ogystal 但r economi lleol. Nododd ymchwil iechyd a lles lleol yn 2023 fod cyfanswm gwerth y VCSE yn Calderdale oddeutu 贈549.5 miliwn. Maer ffigur yma yn cynnwys gwariant y sector, y gwerth a gynhyrchir gan wirfoddolwyr cyson, a gwerth a gr谷wyd i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae Cyngor Calderdale wedi ymgorffori cydnabyddiaeth o r担l y VCSE mewn sawl strategaeth arall yn y fwrdeistref. Un enghraifft allweddol yw Strategaeth yr Economi Cynhwysol, syn gweld sector VCSE ffyniannus yn sylfaenol i gyflawni economi cynhwysol. Yn Calderdale, maer VCSE yn rhan allweddol or economi lleol, gan gyflogi dros 5,000 o bobl, a chefnogi 13,000 fel gwirfoddolwyr. Fel rhan o Strategaeth yr Economi Cynhwysol, bydd Calderdale yn ceisio archwilio mwy o lwybrau gyrfa i bobl ifanc yn y sector VCSE lleol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc aros yn Calderdale, gyda mynediad at waith o ansawdd da.

Partneriaeth a chydweithredu

Maer Cyfamod yn hybu gwaith cydweithredol pwrpasol o ansawdd uchel rhwng y llywodraeth ar gymdeithas sifil i lywior broses o wneud penderfyniadau a dylunio gwasanaethau, gan ddarparu atebion gwell i bawb.

Ymgysylltu cynnar, cyson a pharhaus

  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn cydweithio fel partneriaid strategol i nodi a datblygu blaenoriaethau er mwyn cyflawni nodau cyffredin.
  • Maer llywodraeth yn cyfathrebun strategol ac yn effeithiol 但r gymdeithas sifil trwy sianeli syn hygyrch, yn agored ac yn gynhwysol ar gyfer sgyrsiau dwyffordd dilys.
  • Maer Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu cynnar i alluogir gymdeithas sifil i gyfrannu dirnadaeth ac arbenigedd i ddiffinior broblem, creu pwrpas cyffredin a chytuno ar ganlyniadau er mwyn llywio datblygiadau polisi a dylunio gwasanaethau.

  • Maer gymdeithas sifil yn tynnu ar ei chryfderau, gan gynnwys ei harbenigedd mewn cynrychioli buddiannaur bobl neur achosion y mae wedii sefydlu iw cefnogi, gan weithredun strategol trwy ymgysylltun gynnar, rhannu tystiolaeth, dirnadaeth ac arbenigedd lle bynnag y bor adnoddau yn caniat叩u, trwyr cylch polisi i gyd.

Creur amodau ar gyfer cydweithredu ac arloesi

  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn hybu diwylliant ac amgylchedd syn ffafriol i arloesi, gan greu cyfleoedd i brofi syniadau newydd, cymryd risgiau, canolbwyntio ar effaith a gwersi, ac adeiladu ar yr hyn syn gweithio.
  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn cydweithio i flaenoriaethu ymyriadau ataliol a chymryd golwg hirdymor i fynd ir afael 但 heriau a gwireddu cyfleoedd.

Mynd ir afael 但 rhwystrau syn atal cyflawni mewn partneriaeth

  • Maer Llywodraeth yn cefnogi modelau comisiynu a chaffael cydweithredol, gan gydnabod y gwerth cymdeithasol cynhenid y maer gymdeithas sifil yn ei gynnig, gan gynnig hyblygrwydd i gyflawni canlyniadau, sicrhau monitro cymesur a darparu cyllid digonol i gyflawnir canlyniadau gofynnol.
  • Maer Llywodraeth yn adeiladu ac yn hybu partneriaethau ar sail trefniadau cyllido hirdymor lle bon bosibl, gan gydnabod bod gweithio mewn partneriaeth gynaliadwy yn hanfodol er mwyn cydweithio ar faterion hirdymor.
  • Mae sefydliadaur gymdeithas sifil yn gweithio mewn partneriaeth 但 sefydliadau eraill yn y gymdeithas sifil a sectorau eraill, gan geisio dileu rhwystrau syn atal partneriaid llai.
  • Maer llywodraeth yn gweithio gydar gymdeithas sifil i leihau rhwystrau syn atal gwaith partneriaeth ac i greu cyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth.

Astudiaethau achos: Trawsnewid y GIG cydweithredu yn llunio iechyd pobl ar gyfer y dyfodol

Trwy ddeialog agored a phartneriaethau 但r gymdeithas sifil, mae Cenhadaeth Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthin adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr syn addas at y dyfodol.

Gosododd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr ar waith i lywio datblygiad y Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, syn troir miloedd o fewnwelediadau a gasglwyd yn gynllun gweithredu clir. Gall y gymdeithas sifil chwarae rhan hanfodol wrth ategur tair sifft sylfaenol: or ysbyty ir gymuned, o analog i ddigidol ac o driniaeth i atal.

Maer Cynllun Iechyd 10 Mlynedd yn cynnwys nod penodol o sicrhau mair GIG ywr partner gorau posibl ar darparwr gofal iechyd cyhoeddus mwyaf cydweithredol yn y byd. Drwy arloesi or gwaelod i fyny ac ar lawr gwlad y byddwn nin gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Ochr yn ochr 但 gosod strategaeth, bydd gan y Cynllun nod penodol o harneisio partneriaethau 但 buddsoddwyr, diwydiant, llywodraeth leol, cyflogwyr, busnesau bach a chanolig, mudiadau gwirfoddol ac undebau llafur. Bydd dyfnhaur berthynas 但 phartneriaid yn y gymdeithas sifil yn helpu i gyflawni nodaur Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, gan gynnwys trwy feithrin model Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth.

Yr uchelgais yw defnyddio nifer o ddarparwyr yn y GIG, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a mentrau cymdeithasol. Lle mae arloesedd mor gyflym yn digwydd heddiw o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, maer llywodraeth am ehangu eco-system y darparwyr. Er enghraifft, mae yna botensial enfawr i ystod eang o ddarparwyr gynnig gwerth gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth. Y nod sydd gennym yw sefydlu Canolfan Iechyd Cymdogaeth ym mhob cymuned, sef siop un stop ar gyfer gofal i gleifion ar man y bydd timau aml-ddisgyblaeth yn gweithredu ohono. Bydd Canolfannau Iechyd Cymdogaeth yn cydleoli gwasanaethaur GIG, yr awdurdodau lleol ar sector gwirfoddol i helpu i greu arlwy syn ateb anghenion y boblogaeth yn holistig.

Astudiaethau achos: Clymblaid Troseddau Cyllyll y Swyddfa Gartref dull wedii seilio ar bartneriaeth o leihau troseddau cyllyll

Maer Glymblaid i Fynd ir Afael 但 Throseddau Cyllyll, a lansiwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2024, yn bartneriaeth o unigolion sydd 但 phrofiad byw, y gymdeithas sifil, a grwpiau ymgyrchu. Mae wedi mabwysiadu dull partneriaeth gydar llywodraeth er mwyn haneru troseddau cyllyll o fewn degawd.

Maer cydweithrediad yn dod 但 dealltwriaeth ddofn o ymyriadau a all helpu i atal troseddau cyllyll, gan ddod 但r safbwyntiau hyn i mewn ir gwaith o greu polis誰au a rhaglenni i fynd ir afael 但r mater.

Maer Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gyda phartneriaid y Glymblaid i roi llwyfan i lais ieuenctid au safbwyntiau ar y materion craidd yngl天n 但 throseddau cyllyll, gan gynyddu diogelwch y cyhoedd a chefnogir rhai sydd ei angen fwyaf, gan sicrhau bod profiadau byw pobl ifanc yn cyfrannu at lunio polisir Llywodraeth.

Un enghraifft allweddol lle maer Glymblaid yn gweithio mewn partneriaeth 但r llywodraeth ywr cyfraniad gwerthfawr a wnaeth er mwyn llywior broses o ddatblygu polisi a dylunior trefniadau ildio estynedig ar gyfer cleddyfau ninja ac arfau eraill.

Gydag aelod or Glymblaid Fazamnesty a Words4Weapons, bydd y llywodraeth yn cyflwyno rhaglenni ildio arfau estynedig. Bydd Fazamnesty yn gweithredu faniau ildio symudol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Manceinion Fwyaf, tra bydd Words4Weapons yn defnyddio biniau ildio dienw yn yr ardaloedd hynny ar gyfer cyllyll ac arfau eraill, gan gynnwys cleddyfau ninja.

Maer mentrau hyn yn darparu opsiynau diogel i bobl ifanc ildio arfau peryglus, gan wneud ein strydoedd yn fwy diogel a thynnu mwy o arfau o gymunedau.

Cyfranogi a Chynhwysiant

Maer Cyfamod yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl fod yn rhan o benderfyniadau a gweithgareddau syn effeithio ar eu bywydau, lle maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn galluogi mwy o gyfranogiad a chynrychiolaeth.

Galluogi amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant

  • Mae sefydliadaur gymdeithas sifil yn hybu amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant mewn ffyrdd syn berthnasol iw cenhadaeth, ac yn cynrychioli buddiannaur bobl neur achosion maen nhw wediu sefydlu iw cefnogi.

  • Maer llywodraeth yn gweithio gydar gymdeithas sifil i sicrhau bod yr holl grwpiau perthnasol yn cael eu cynrychioli wrth lunio polis誰au, trwy ba ddull bynnag syn fwyaf priodol, yn enwedig y rhai a allai brofi rhwystrau neu allg叩u, ac maen gwrando ar y rhai y mae penderfyniadaun effeithio arnyn nhw.

  • Maer llywodraeth yn dilyn gofynion yngl天n 但r arferion gorau mewn hygyrchedd, cyfathrebu, y Gymraeg ac asesur effaith ar gydraddoldeb.

Ymgysylltu 但 dinasyddion a chymunedau wrth wneud a chyflawni penderfyniadau

  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn cydweithio ar yr uchelgais i gydgynhyrchu atebion gydar cymunedau ar dinasyddion hynny syn cael eu heffeithio fwyaf.
  • Mae sefydliadaur gymdeithas sifil yn cynnwys eu buddiolwyr yn eu gwaith, gan gynnwys y rhai sydd 但 phrofiad byw, lle maen berthnasol iw cenhadaeth. Dileu rhwystrau syn atal cyfranogiad gweithredol at adeiladu democratiaeth iach a gwydnwch cymunedol

  • Mae llywodraeth ar gymdeithas sifil yn cydweithio i hwyluso a chreur amodau ar gyfer cyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas, megis gwirfoddoli neu weithredu cymdeithasol, i adeiladu capasiti cymunedol, cydlyniant a gwydnwch cymdeithasol.

  • Maer llywodraeth ar gymdeithas sifil yn cydweithio i adeiladu democratiaeth iach ac i hybu cyfranogiad democrataidd.

Astudiaethau achos: Y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol gosod pobl ifanc wrth wraidd datblygu polisi

Pobl ifanc sydd wedi bod wrth y llyw o ran cydgynhyrchu Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol newydd ers iddi gael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd Gwladol y DCMS fel rhan o genhadaeth y llywodraeth i wella cyfleoedd.

Fel cam cyntaf, i sicrhau y byddai lleisiau ieuenctid wrth wraidd y broses, penododd y llywodraeth 13 o bobl ifanc amrywiol i ffurfio Gr典p Cynghori Ieuenctid (YAG) a dod 但 phrofiad byw ar draws meysydd allweddol gan gynnwys eiriolaeth, atal trais, symudedd cymdeithasol ac iechyd meddwl. Eisteddodd Gr典p Cynghori Arbenigol o 14 o arbenigwyr o amrywiaeth o sectorau ochr yn ochr 但r YAG i ddod ag arbenigedd o sectorau perthnasol, gan roi mewnbwn a herio syniadau.

Ffurfiodd y DCMS bartneriaethau 但 chonsortiwm arbenigol ymgynghoriaeth ymchwil farchnad Savanta, My Life My Say ar Mudiad #iwill gyda gwaith cydlynu gan Volunteering Matters a UK Youth i sefydlu ymgyrch ymgysylltu dan arweiniad ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan or wlad yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Gweithiodd y consortiwm gyda deg Cydweithiwr Ieuenctid i sicrhau bod yr holl weithgareddau ymgyrchu yn cael eu dylunio au harwain gan bobl ifanc mewn gwirionedd. Defnyddiodd yr ymgyrch Deliver You ystod o ddulliau arloesol wediu targedu er mwyn sicrhau bod grwpiau sydd wediu tangynrychioli yn gallu lleisiou barn. Sicrhaodd yr ymgyrch fewnwelediadau gan fwy nag 20,000 o bobl ifanc.

Mae ein hymagwedd wedi grymuso pobl ifanc i arwain newid wrth galon y broses o lunio polis誰au ac yn eu bywydau eu hunain. Bydd eu profiadau byw, gan gynnwys eu pryderon au gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn sail i uchelgais newydd i bobl ifanc yn y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol.

Astudiaethau achos: Cymunedau Cryfach Barnsley gwella ardaloedd lleol trwy gydgynhyrchu gyda chymunedau

Yn 2013, symudodd Rhaglen Cymunedau Cryfach Cyngor Barnsley o ddarparu gwasanaethau traddodiadol i fodel partneriaeth gymunedol. Maen mynd ati i gynnwys cymunedau a sefydliadaur gymdeithas sifil wrth ddylunio, darparu ac adolygu gwasanaethau trwy wneud penderfyniadau datganoledig.

Er mwyn targedu adnoddau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol i ateb anghenion lleol, cynyddodd y cyngor gyfranogiad cymunedol, gan symud o wneud pethau ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i weithio gyda nhw.

Sefydlodd Cyngor Barnsley gynghreiriau ward, bob un gydag aelodau etholedig a chynrychiolwyr cymunedol, cyllideb ddatganoledig, a phwerau penderfynu. Roedd y cynghreiriau ward yn cynnwys trigolion a grwpiau lleol i lywio blaenoriaethau cyffredin lleol a dyraniad cyllidebau. Maer strategaethau maen nhw wediu cydgynllunio ar draws Barnsley wedi cynyddur ymrwymiad ar cyfranogiad lleol. Cynhyrchwyd cynllun sbwriel a throseddau amgylcheddol ar gyfer 2024 i 2030 ar y cyd ag aelodau or gymuned a gwirfoddolwyr y mae eu profiadau wedi llywior strategaeth, gan feithrin perchnogaeth gyffredin.

Maer newid yma i weithio gydar gymuned leol yn golygu bod mwy o gymunedau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, bod yna gynnydd yn yr oriau gwirfoddoli ac yn nifer y grwpiau lleol syn weithredol yn yr ardal. Maer pwerau i ddyrannu cyllidebau o fewn cynghreiriau ward wedi cefnogi ystod o brosiectau lleol, ac wedi grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd, a theimlon unedig mewn ymdeimlad o falchder yn eu hardal.

Maer effaith gymunedol yma wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth genedlaethol i Gyngor Barnsley, gan ennill teitl Cyngor y Flwyddyn gan y Local Government Chronicle a gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn gan y Municipal Journal yn 2023, yr unig gyngor i ennill y ddwy wobr yn yr un flwyddyn.

Tryloywder a data

Maer Cyfamod yn hybu rhannu gwybodaeth a datan fwy agored trwy well argaeledd, dealltwriaeth o angen ac atebion syn seiliedig ar dystiolaeth.

Cymryd rhan mewn cyfathrebu agored, gonest a thryloyw

  • Maer gymdeithas sifil ar llywodraeth yn cydweithio i greur amodau angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu agored, gan gymhwyso trefniadau cyfrinachedd syn gymesur ac sydd wediu hesbonio yn unig, gan fodloni safonau uchel ac ategu trafodaeth a her adeiladol.
  • Maer llywodraeth yn anelu at gynnig adborth ar 担l ymgysylltu 但 phenderfyniadau polisi a chyllid er mwyn sbarduno dysgu a gwelliannau.
  • Maer llywodraeth yn ymateb yn brydlon ac yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac yn dilyn yr arferion gorau o ran cyhoeddi asesiadau effaith ac ymatebion i ymgyngoriadau.

Trefnu bod tystiolaeth a data ar gael ir cyhoedd

  • Maer llywodraeth yn gweithio tuag at sicrhau bod y data ar wybodaeth sylfaenol y maen ei chasglu yn fwy hygyrch.
  • Maer gymdeithas sifil yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy fynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhwn ei gael.
  • Mae sefydliadaur gymdeithas sifil yn rhannur ymchwil ar dadansoddiadau y maen nhwn eu gwneud cyn belled ag y bon rhesymol bosibl, gan gydymffurfio 但r rheoliadau diogelu data hefyd

Gwella datblygiad data

  • Maer gymdeithas sifil ar llywodraeth yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o fesur gwerth ac iechyd y gymdeithas sifil, a nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth.
  • Maer gymdeithas sifil ar llywodraeth yn cydweithio i gydnabod gwerth gwahanol ffynonellau tystiolaeth, gan gynnwys profiad byw.
  • Maer gymdeithas sifil ar llywodraeth yn cydweithio i wellar gwaith casglu data ar draws y gymdeithas sifil ar llywodraeth, gan gydnabod yr heriau o ran data a thystiolaeth y gall sefydliadaur gymdeithas sifil eu hwynebu a chael eu llywio gan ystod o wahanol ffynonellau tystiolaeth a dirnadaeth.

Astudiaethau achos: Rhaglen Bregusrwydd Cynllun Preswylion Sefydlog yr UE (EUSS) trosoli data a thryloywder i bontio rhaniadau digidol dinasyddion bregus

Gan fod Cynllun Preswylion Sefydlog yr UE wedii ddylunio ar sail digidol yn gyntaf, roedd yn creu heriau i ddinasyddion or UE syn agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai syn wynebu rhwystrau iaith, allg叩u digidol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd. Roedd y materion hyn yn rhwystro pobl rhag gwneud cais am statws sefydlog a sicrhau statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Er bod llawer o sefydliadaur gymdeithas sifil (CSOs) mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogir unigolion hyn, doedd ganddyn nhw mor data cywir i weithio arno.

Mewn ymateb, lansiodd y llywodraeth raglen grant ar gyfer CSOs i wellar broses o gasglu, a rhannu data ac i wellai dryloywder. Roedd hyn yn caniat叩u gwell dulliau rhannu data rhwng y llywodraeth a derbynwyr y grantiau ar gyfer asesiadau uniongyrchol, gan sefydlu safonau tryloywder, a chynnig cefnogaeth i sefydliadau llai ym maes cydymffurfio 但 rheolaeth data. Roedd y data a gasglwyd oddi wrth y gymdeithas sifil yn llywio newidiadau mewn polisi ac allgymorth, gan wellar ddealltwriaeth o anghenion a chaniat叩u atebion cydweithredol, wediu seilio ar dystiolaeth.

Dyrannwyd dros 贈32.5 miliwn yn llwyddiannus i fwy na 70 o sefydliadaur gymdeithas sifil, gan eu galluogi i roi cymorth hanfodol i fwy na 500,000 o ddinasyddion bregus na fydden nhw wedi gwneud cais ir cynllun fel arall. Helpodd y fenter hanfodol yma unigolion i ddeall y cynllun, llenwi ceisiadau, a chael mynediad at wasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau cyfieithu.

Helpodd y grantiau hefyd bedwar sefydliad cenedlaethol (un yr un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) a nifer o sefydliadau rhanbarthol, gan sicrhau mynediad at wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig. Un enghraifft yw Citizens Advice Scotland, gyda 1,000 o gynghorwyr mewn 200 o leoliadau allgymorth yn rhoi cyngor ar Gynllun Preswylion Sefydlog yr UE (EUSS), gan gynnwys budd-daliadau, tai, a chymorth yngl天n 但 dyledion, gan wella lles cymunedol.

Maer camau nesaf yn cynnwys cymhwysor model yma at gynlluniau yn y dyfodol ac olrhain effeithiau hirdymor ar wydnwch cymunedol.

Astudiaethau achos: Evaluation Support Scotland (ESS) gwella gwasanaethau trwy fesur effaith

Mae Evaluation Support Scotland (ESS) yn elusen yn yr Alban syn helpu sefydliadaur gymdeithas sifil, ymddiriedolwyr a chyllidwyr, i fesur a dangos eu heffaith trwy werthuso. Y nod yw defnyddio data a thystiolaeth yngl天n ag effaith i lywio datblygiad polis誰au yn y dyfodol; cafodd ei greu ar 担l i ymchwil ganfod nad oedd gan lawer o sefydliadau a chyllidwyr y trydydd sector (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) mor sgiliau ar adnoddau i wneud gwerthusiadau ac i ddefnyddior ddirnadaeth i lywio penderfyniadau.

Mae ESS yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth yr Alban i ddarparu gweithdai agored, cymorth wedii deilwra, modiwlau dysgu hunangyfeiriedig ar-lein am ddim, a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Maen nhw hefyd wedi datblygu nifer o ganllawiau i gyllidwyr a sefydliadau, gan gynnwys [5 egwyddor gwerthuso da ESS](https://evaluationsupportscotland.org.uk/ess-principles-for-good-evaluation/], syn galluogi sefydliadau i gael mewnwelediadau mewn amser real, addasu eu gwaith a pharhau i ymateb i adborth gan gymunedau a dinasyddion. Cafodd partneriaeth ei chreu hefyd 但 Llywodraeth yr Alban i ddatblygu Egwyddorion Partneriaeth Gadarnhaol, i wellar berthynas rhwng rheolwyr grantiau a deiliaid grantiau, gan ddarparu cyngor ymarferol i gryfhaur ddau barti.

Yn 2023, ariannwyd ESS gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), mewn ymateb i gynllun gweithredu digartrefedd Llywodraeth yr Alban, i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn Glasgow a Chaeredin. Gyda chefnogaeth ESS, gallai sefydliadau dynnu sylw at effaith eu gwaith yn well a helpodd hyn i lywior broses o dargedu gweithgareddau yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai syn wynebur risg o fod yn ddigartref:

  • yn gallu cael mynediad at wasanaethau syn ateb eu hanghenion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau allgymorth ieuenctid

  • yn cael mwy o fynediad at lety mwy addas iw hanghenion

  • yn cael mwy o ddylanwad ar y systemau syn effeithio arnyn nhw, trwy gynnwys profiadau byw o fewn polis誰au cymdeithasau tai

Mae gwaith ESS wedi helpur TNLCF i wneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau yn y dyfodol, ac wedi sicrhau bod ffrydiau cyllidor dyfodol yn cael eu hysbysu am gymorth ac ymyriadau effeithiol oedd yn cael effaith go iawn ar y bobl y cawson nhw eu cynllunio iw cefnogi.

Ymgorffori egwyddorion y Cyfamod

Uchelgais y Cyfamod yw ail-lunio perthnasoedd ac adeiladu partneriaethau parhaol rhwng y gymdeithas sifil a phob math o lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae hon yn her sylweddol, hirdymor a fydd yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac ymrwymiad gan ystod eang ac amrywiol o wahanol sefydliadau.

Er mwyn helpu i yrru momentwm a dangos arweinyddiaeth, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i sicrhau bod Adrannaur Llywodraeth yn cefnogir Cyfamod yn gyhoeddus ac yn gweithio tuag at ei roi ar waith er mwyn dod yn bartner gwell ir gymdeithas sifil. Maer camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd i weithredur Cyfamod yn cynnwys:

  • sefydlu Cyd-gyngor Cyfamod y Gymdeithas Sifil. Bydd y bwrdd traws-sector yma yn ganolog i gyflawni ac adolygur Cyfamod, gan osod y cyfeiriad a darparur oruchwyliaeth strategol ar gyfer ei weithredu

  • cyflwyno ystod o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar faterion polisi penodol syn effeithio ar y berthynas rhwng y gymdeithas sifil ar llywodraeth. Bydd dau gr典p cychwynnol yn canolbwyntio ar gomisiynu a phartneriaethau ar lefel leol

  • datblygu rhaglen i feithrin capasiti a dealltwriaeth ar draws y sectorau, gan gynnwys hybu mwy o secondiadau traws-sector

  • sefydlu hyb ar-lein ar gyfer canllawiau ac adnoddau ymarferol syn ymwneud 但 Chyfamod y Gymdeithas Sifil

Ar lefel leol y mae perthnasoedd allweddol llawer o sefydliadaur gymdeithas sifil 但r wladwriaeth yn gweithio. Nid ydym am dorri ar draws y fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle maer rhain yn bodloni safon uwch neu gyfwerth, ond fe ddylair Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir. Rydym yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol, meiri etholedig, iechyd lleol, a sefydliadaur gymdeithas sifil leol i hybu a chefnogi trefniadau partneriaeth sydd wedii seilio ar le, syn adeiladu ar gryfderau lleol ac yn ateb anghenion lleol.

Maer Cyfamod yn cydnabod bod sefydliadaur gymdeithas sifil yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweithio ar draws ystod eang o faterion polisi ac yn cael eu heffeithio ganddyn nhw, rai ohonyn nhw wediu datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a rhai wediu cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig. Maer Cyfamod hefyd yn cydnabod bod gan y Llywodraethau Datganoledig eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio mewn partneriaeth 但r gymdeithas sifil ym mhob gwlad. Nid ywr Cyfamod wedii fwriadu i danseilio nac amharu ar y trefniadau partneriaeth yma ac mae wedii gynllunio i sicrhau aliniad 但r cynlluniau ar dulliau presennol. Bydd y Cyfamod yn eistedd ochr yn ochr 但r trefniadau presennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn helpu i ategu perthynas adeiladol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gymdeithas sifil ar faterion sydd wediu cadw. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i weithio mewn partneriaeth 但 sefydliadaur gymdeithas sifil ym mhob un or pedair rhan or Deyrnas Unedig a chydar tair Llywodraeth Ddatganoledig i sicrhau cysondeb wrth ir Cyfamod ennill ei blwyf.