Canllawiau

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: canllawiau ar y meini prawf asesu

Diweddarwyd 14 Rhagfyr 2021

This canllawiau was withdrawn on

This guidance is no longer current see Community Ownership Fund round 2 for latest guidance.

Maer canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y meini prawf asesu a ddefnyddir. Maent yn amlinellu sut i ddefnyddior meini prawf asesu yn eich cais.

Dylech hefyd ddarllen:

Fframwaith asesu

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu cynigion o bob cwr or DU yn erbyn fframwaith asesu cyffredin. Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn defnyddior fframwaith hwn, a bydd penderfyniadau terfynol ynghylch cyllid yn cael eu gwneud gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).

Cylch ymgeisio 1

Ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yng Nghylch Ymgeisio 1 yw buddsoddi mewn prosiectau hyfyw ac o ansawdd da, syn barod i gymryd perchnogaeth a rheolaeth o ased cymunedol ai redeg fel busnes cymunedol cynaliadwy.

Meini prawf asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail y 4 maen prawf canlynol:

1. Achos strategol: dylai ymgeiswyr ddangos y byddair ased, heb ymyrraeth, yn cael ei golli ir gymuned, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar gefnogaeth sydd ganddynt gan y gymuned a phartneriaid eraill. 2. Achos rheoli: dylai ymgeiswyr ddangos amcanion ac ymarferoldeb y prosiect a sut y bydd yr ased neu amwynder yn cael ei redeg yn gynaliadwy. 3. Potensial i ddarparu budd ir gymuned: gan ddefnyddior fframwaith canlyniadau, dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd yr ased yn darparu buddion ir gymuned o dan berchnogaeth gymunedol. 4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol: gan ddefnyddio gwybodaeth a data lleol ynghylch angen cymunedol, dylai ymgeiswyr allu dangos gwerth ychwanegol yr ased neu amwynder cymunedol ir gymuned.

1. Achos strategol

Bydd hyn yn cyfrif am 30% or asesiad.

Yr achos dros ymyrraeth gan y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylai eich achos dros ymyrraeth gan y gymuned gynnwys:

  • y risg syn wynebur ased ar hyn o bryd
  • pam y byddair ased, heb ymyrraeth gan y gymuned, yn cael ei golli
  • y r担l y maer ased cymunedol yn ei chwarae yn eich lle lleol (megis pa wasanaethau ac amwynderau y maen eu darparu)
  • yr effaith y byddai collir ased yn ei chael ar y gymuned

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cefnogaeth y gymuned

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o gefnogaeth sydd gennych ich cynlluniau i achub yr ased neu amwynder cymunedol. Gallai hyn gynnwys:

  • gweithgareddau ymgysylltu 但r gymuned rydych wediu cynnal - a sut maer rhain wedi siapio eich cynlluniau
  • unrhyw godi arian cymunedol rydych wedii wneud
  • sut ydych wedi cynnwys pobl leol yn eich cynigion hyd yn hyn ac ystyried safbwyntiau cymunedol ynghylch nodau ac amcanion eich cynllun?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Partneriaethau lleol a chysylltiadau 但 chynlluniau lleol eraill

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu dangos eich bod wedi adeiladu partneriaethau lleol o amgylch eich cynlluniau, ar r担l y gallai eich cynigion ei chwarae o fewn cynlluniau lleol eraill. Dylech gynnwys:

  • natur a graddfar gefnogaeth a chyfranogiad gan y cyngor lleol neu gyrff cyhoeddus eraill yn lleol
  • pa gefnogaeth sydd gennych gan sefydliadau neu fusnesau lleol eraill neu bartneriaid y sector cyhoeddus
  • sut mae eich cynlluniau yn ymwneud 但 nodau unrhyw gynlluniau lleol eraill (megis cynllun cymdogaeth, strategaeth economaidd leol, strategaethau iechyd a llesiant)?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Asesu a chanllawiau

Rydym yn croesawu prosiectau a all gefnogir daith at sero-net ac yn ymgorffori dulliau di-garbon neu garbon isel.

Rydym hefyd yn croesawu prosiectau syn ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn lliniaru hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 3.

Cyfanswm y Sg担r

Cyfanswm y sg担r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 18.

2. Achos rheoli

Bydd hyn yn cyfrif am 30% or asesiad.

Hyfywedd ariannol y model busnes

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi gynnwys trosolwg och model busnes, i ddangos eich bod wedi ystyried yr holl risgiau a thargedau cyflawnadwy syn gysylltiedig 但ch prosiect. Bydd angen i chi hefyd atodi eich cynllun busnes llawn.

Byddwn yn asesu eich cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor yr ased cymunedol o dan berchnogaeth gymunedol drwy eich model busnes arfaethedig.

Amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer cynhyrchu incwm a sut ydych yn bwriadu sicrhau adnoddau ar gyfer cynnal a chadw a rheolir ased, law yn llaw 但r gweithgareddau a gwasanaethau y byddwch yn eu darparu. Rhowch fanylion unrhyw arian dros ben disgwyliedig, a sut y bydd yn cael ei ailfuddsoddi yn eich gweithgareddau.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Cyllid cyfatebol a chostau llawn y prosiect

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu:

  • faint o gyllid ydych yn ymgeisio amdano gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • eich costau prosiect llawn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wediu derbyn i ddatblygu eich prosiect hyd yn hyn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wediu sicrhau ar gyfer costau cyfalaf
  • ffynonellau o gyllid ydych chin bwriadu eu sicrhau ar gyfer eich prosiect

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at uchafswm o 50% or costau cyfalaf i brynu (ac adnewyddu ac atgyweirio) yr ased cymunedol. Dylech arddangos ffynonellau eraill o gyllid rydych wediu sicrhau neu a fyddwch yn eu sicrhau ar gyfer costau cyfalaf eich prosiect.

Gellir ymrwymo cyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol mewn egwyddor, cyn i chi sicrhau grantiau neu fenthyciadau eraill. Fodd bynnag, ar gyfer y cylch cyllido hwn, bydd angen tystiolaeth arnom y byddwch yn gallu sicrhaur holl gyllid cyfatebol ar gyfer eich ased cymunedol ac yn defnyddio cyfalaf o fewn 6 mis ich cais.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Sgiliau ac adnoddau syn ofynnol i reolir prosiect

Asesu a chanllawiau

Byddwn yn asesu sut ydych wedi ystyried gofynion rheoli eich prosiect, ar camau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu ac adnoddau iawn i redeg yr ased yn gynaliadwy. Arddangoswch eich bod wedi ystyried cynllunio olyniaeth ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr eich sefydliad.

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff i reoli a rhedeg yr ased ai wasanaethau, rhowch drosolwg or cynlluniau hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Rheolaeth, atebolrwydd, cynhwysiant ac integreiddiad y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylech arddangos eich bod yn atebol ir gymuned a gynrychiolwch. Gallwch wneud hyn drwy ddangos:

  • pwy sydd ar eich bwrdd
  • eich strwythurau llywodraethu
  • ffyrdd y byddwch yn cynnwys y gymuned yn y gwaith o redeg yr ased
  • strwythur aelodaeth eich sefydliad
  • a fydd unrhyw rwystrau o ran pwy all ymuno

Arddangoswch sut ydych wedi ystyried cynhwysoldeb a materion integreiddio fel rhan och cynigion. Gan gynnwys sut y bydd yr ased cymunedol yn hygyrch a chynhwysol i holl aelodaur gymuned, yn cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg担r

Cyfanswm y sg担r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 25.

3. Potensial i ddarparu buddion ir gymuned

Bydd hyn yn cyfrif am 30% or asesiad.

Buddion cymunedol a ddarperir

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos buddion cymunedol yr ased, a sut y bydd y rhain yn cael eu cynnal a gwella drwy berchnogaeth gymunedol.

Dylair buddion hyn ymwneud ag un neu fwy or canlyniadau a amlinellir yn y prosbectws, sydd fel a ganlyn:

  • balchder cymunedol a chanfyddiadau or ardal leol fel lle i fyw
  • ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn
  • cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon
  • canlyniadau economaidd lleol - yn cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, a chyflogadwyedd a sgiliau
  • canlyniadau llesiant a chymdeithasol eraill - megis cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Ceir rhagor o ganllawiau yn adran 5.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Buddiolwyr cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos pa grwpiau yn y gymuned syn defnyddior ased neu amwynder ar hyn o bryd, a sut y byddent yn elwa ar amddiffyn yr ased.

Byddwch yn dangos sut y bydd yr ased yn gynhwysol ac yn darparu buddion i aelodaur gymuned ehangach o dan berchnogaeth gymunedol. Efallai fod un prif gr典p o fuddiolwyr o fewn y gymuned syn elwan bennaf ar yr ased, ond bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos bod yr ased yn gwasanaethur lle daearyddol ehangach ac nid cymuned o ddiddordeb yn unig.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg担r

Cyfanswm y sg担r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 15.

4. Gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol

Bydd hyn yn cyfrif am 10% or asesiad.

Arddangos anghenion cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu asesiad o angen cymunedol gan ddefnyddio ystadegau cymdogaeth lleol.

Dylech gynnwys data lleol perthnasol syn helpu i arddangos pam maer ased yn bwysig ich cymuned.

Er enghraifft, gallai ceisiadau ddefnyddio pyrth IMD unigol i werthuso eu hangen perthynol a dangos sut y gallair ased a phrosiect fynd ir afael 但 her benodol ar gyfer eu lle - er enghraifft, iechyd neu gyflogaeth.

Gallai hyn gynnwys gwerthusiad or canlynol:

  • argaeledd gwasanaethau tebyg eraill (h.y. maer ased rydych yn ceisio ei achub yn darparu gwasanaeth neu amwynder unigryw y byddain rhaid i bobl deithio i leoedd eraill amdano)
  • potensial i fynd ir afael 但 heriau lleol - er enghraifft, os ydych yn disgwyl ich prosiect gyflawni ymdeimlad cynyddol o falchder lle ir ardal, eglurwch yr effaith y byddai hyn yn ei chael mewn perthynas 但 sut mae pobl leol yn teimlo ar hyn o bryd am y lle lleol, neur angen am adfywiad

Efallai yr hoffech hefyd gynnwys trosolwg or cryfderau presennol o fewn eich cymuned y gall eich prosiect helpu iw harneisio a datblygu i fynd ir afael 但 heriau lleol a darparu buddion ir gymuned.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg担r

Cyfanswm y sg担r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 5.

Sgorio

Bydd y sgorau asesu yn cael eu pwysoli yn unol 但 phwysigrwydd y maen prawf hwnnw, a chyfanswm y sg担r yn cael ei roi fel canran.

Er enghraifft, byddair sg担r uchaf o 25 ar gyfer yr achos rheoli (sydd 但 phwysoliad o 30%) yn cyfrannu 30% at y sg担r derfynol. Byddair sg担r uchaf o 5 ar gyfer gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol (sydd 但 phwysoliad o 10%) yn cyfrannu 10% at y sg担r derfynol.

Dylai cynigion sgorio o leiaf 11 ar gyfer achos strategol, 15 ar gyfer achos rheoli, 9 ar gyfer budd cymunedol ac o leiaf 2 ar gyfer angen cymunedol i gael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Canllawiau eraill: sut mae dangos buddion a chanlyniadau cymunedol

Maer adran hon yn darparu manylion eraill ynghylch sut y gall ymgeiswyr fynd ir afael 但 maen prawf asesu 3: Potensial i ddarparu buddion ir gymuned.

Canlyniadau COF hanfodol:

Mae angen i chi arddangos y potensial i gyflawnir HOLL ganlyniadau canlynol yn eich cais.

Amddiffyn ased neu amwynder cymunedol sydd mewn perygl a gwarchod ei werth cymunedol

Rhaid i chi arddangos bod yr ased cymunedol rydych yn ceisio ei achub, mewn perygl o gael ei golli.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan or trosolwg och prosiect ac yn cael ei hasesu fel rhan och achos strategol.

Cyfeiriwch at yr adrannau hyn or templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawnir canlyniad hwn.

Datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol yr ased cymunedol yn yr hirdymor o dan berchnogaeth gymunedol

Rhaid i chi arddangos bod gan eich sefydliad y gallu rheolaethol ar potensial i gyflawni model gweithredu cynaliadwy ar gyfer yr ased cymunedol.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan och achos rheoli ac yn eich cynllun busnes. Cyfeiriwch at yr adrannau hyn or templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawnir canlyniad hwn.

Diogelu a gwellar defnydd o asedau ac amwynderau neu wasanaethau cymunedol lleol cysylltiedig

Rhaid i chi allu arddangos y bydd eich cynnig yn diogelu a gwellar defnydd or ased cymunedol a/neun cynyddu mynediad at y gwasanaethau neu amwynderau.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan och achos rheoli a chynllun busnes (yn nhermau ymarferoldeb) ac yn eich amlinelliad or buddion cymunedol y bydd eich ased yn eu darparu.

Canlyniadau COF eraill

Eglurwch sut y gallwch arddangos potensial i gyflawni un neu fwy or canlyniadau hyn yn eich cais.

Dylid arddangos y rhain drwyr adrannau potensial i ddarparu buddion ir gymuned or ffurflen gais.

Cynyddu ymdeimlad o falchder a gwella canfyddiadau or ardal leol fel lle i fyw

Pa fuddion ydych chin disgwyl eu cyflawni mewn perthynas 但 sut mae pobl yn teimlo am yr ardal fel lle i fyw? Gallwch arddangos hyn drwy:

  • ganlyniadau digwyddiadau ymgysylltu 但r gymuned neu arolygon a safbwyntiau gan y gymuned ynghylch y r担l y maer ased yn ei chwarae o ran sut maent yn teimlo am yr ardal leol neu sut y gallair gwelliannau rydych am eu gwneud ir ased newid y ffordd mae pobl yn teimlo am fyw yn y gymdogaeth honno
  • safbwyntiau gan randdeiliaid lleol eraill (megis busnesau lleol) ynghylch y r担l y gallair ased ei chwarae wrth gefnogi gwelliannau ehangach ir lle hwnnw

Er enghraifft, yn achos dod ag ased adfeiliedig ar y stryd fawr o dan berchnogaeth gymunedol, pa effeithiau allai hyn eu cael ar y busnesau cyfagos eraill?

Gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn

Ym mha ffyrdd y gallech ddisgwyl ich prosiect wella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn yn eich cymuned. Gallai hyn fod drwyr gwasanaethau a gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd yn y lle, neu drwy wasanaethau a gweithgareddau newydd.

Pa grwpiau lleol eraill ydych chin gweithio 但 nhw a sut maer ffordd rydych yn cydweithio yn dod ag aelodau gwahanol or gymuned ynghyd? Sut y gallai eich cynigion gryfhaur partneriaethau hyn?

Gallech ddangos sut y bydd yr ased cymunedol yn dod ag aelodau gwahanol or gymuned ynghyd na fyddain cymysgu fel arall, o bosibl, neun darparu cyfleoedd i wahanol bobl gydweithio ar brosiectau cymunedol.

Cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon

I arddangos effaith eich cynnig ar gyfranogiad ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon, dylech ddefnyddio gwybodaeth ynghylch defnydd presennol or ased neu amwynder cymunedol. Pwy syn defnyddior ased ar hyn o bryd a phwy ywr prif fuddiolwyr?

Gallech ddod o hyd ir wybodaeth hon gan y cyngor, y perchennog presennol, neu drwy eich arolygon a gweithgareddau ymgysylltu 但r gymuned eich hun. Yn ogystal 但 cheisio dangos sut y byddwch yn gwarchod cyfranogiad drwy ddiogelur ased, dylech hefyd ddangos beth ywr cyfleoedd ar gyfer cynyddu cyfranogiad. Gallai hyn fod drwy gyfleoedd gwirfoddoli, oriau agor newydd, neu weithgareddau newydd a ddarperir.

Gallech ddangos hefyd sut y byddwch yn cynnwys aelodaur gymuned yn y gwaith o redeg yr ased ac yn gwrando ar y gymuned ai grymuso drwy ymgysylltu 但r gymuned.

Creu canlyniadau economaidd lleol eraill

Mae hyn yn cynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau yn y gymuned leol.

Gallech ddisgwyl ich cynnig gyflawni canlyniadau economaidd lleol. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol ir economi leol, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y cyfleoedd gwirfoddoli rydych yn disgwyl eu darparu fel rhan och prosiect
  • y swyddi rydych yn disgwyl eu creu neu eu cefnogi fel rhan och prosiect
  • buddion eraill o ran cyflogadwyedd a sgiliau, drwyr gwasanaethau a gweithgareddau rydych yn disgwyl eu rhedeg or ased fel rhan och cynnig
  • cynlluniau i fynd ir afael 但 chynaliadwyedd amgylcheddol, lleihau carbon a chwtogi gwastraff neu gyfrannu at economi leol fwy gwyrdd drwy gadwraeth ac addysg
  • cyfleoedd ar gyfer menter gymunedol neu BBaChau drwy sefydliadau tenant
  • cynlluniau i gefnogir economi leol drwy ailfuddsoddi arian dros ben mewn cadwyni cyflenwi lleol
  • denu twristiaid neu ymwelwyr newydd ir economi leol
  • buddsoddi or newydd yn y lle lleol (yn cynnwys drwy gyfranddaliadau cymunedol neu gyllido torfol)

Creu canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill

Mae hyn yn cynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Gallech ddisgwyl ich cynnig gyflawni canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol i iechyd a llesiant, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y gwasanaethau y maer ased cymunedol yn eu darparu
  • pwy syn defnyddior lle ar effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd a llesiant
  • gwasanaethau a gweithgareddaur sefydliadau tenant syn gweithredu yn y lle
  • y cyfleoedd i fynd ir afael ag unigedd ac arwahanrwydd drwy ddod 但 phobl ynghyd

Angen cymunedol

Fel rhan o faen prawf asesu 4, maen ofynnol i chi hefyd arddangos y gwahaniaeth a wnar ased ir gymuned yn seiliedig ar angen.

Gallwch ddod o hyd i ystod o ffynonellau data lleol a gwybodaeth a defnyddior rhain i ddangos angen eich cymuned, ar r担l y bydd eich prosiect ac ased cymunedol yn ei chwarae wrth ddiwallur angen hwnnw.

Gall ffynonellau data perthnasol gynnwys y canlynol:

  • mynegai amddifadedd lluosog - gan ddefnyddior pyrth unigol sydd fwyaf perthnasol ich prosiect
  • tystiolaeth wedii darparu fel rhan o gynllun cymdogaeth
  • proffiliau cymdogaeth lleol a data gan eich cyngor lleol
  • data iechyd a llesiant lleol gan eich asiantaeth iechyd cyhoeddus leol neu Ymddiriedolaeth y GIG