Canllawiau

Tollau a masnach ryngwladol — CC/FS1g

Diweddarwyd 17 Mehefin 2025

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio ar gyfer materion tollau a masnach ryngwladol

Mae’r daflen wybodaeth hon yn eich hysbysu am wiriadau cydymffurfio ar gyfer materion tollau a masnach ryngwladol.

Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio bod yr holl faterion sy’n ymwneud â thollau a masnach ryngwladol yn gywir. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Os ydych wedi talu gormod o dreth, byddwn yn eich helpu i gael ad-daliad. Os nad ydych wedi talu digon o dreth, byddwn yn eich helpu i unioni hyn.

Rydym yn cynnal rhai mathau o wiriadau dros y ffôn. Pe bai’n well gennych ein bod yn ysgrifennu atoch yn lle, gallwch ofyn i ni wneud hynny os byddwn yn eich ffonio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Ynglŷn â gwiriad cyn-clirio tollau

Rydym yn cynnal gwiriadau cyn-clirio er mwyn sicrhau bod yr holl faterion sy’n ymwneud â’ch datganiadau tollau yn gywir cyn i ni glirio’r nwyddau i’w rhyddhau.

Gall y gwiriadau hyn gynnwys y canlynol:

  • archwilio’ch datganiad a dogfennau atodol
  • archwilio’r nwyddau
  • profi’r nwyddau

Os bydd angen i ni wneud unrhyw wiriadau ar ôl clirio’r gwiriadau hyn, mae’n bosibl y byddwn yn ymweld â’ch busnes neu safle.

Yn ystod gwiriad cyn-clirio, mae’n bosibl y byddwn yn:

  • gofyn cwestiynau am y math o gynrychiolaeth sy’n cael ei defnyddio
  • gofyn cwestiynau am elfennau amrywiol y datganiad neu’r nwyddau
  • archwilio unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â’r datganiad
  • cymryd manylion o’r datganiad a’r dogfennau
  • cymryd samplau er mwyn helpu i ddosbarthu ac adnabod y nwyddau
  • rhoi nodyn ar nwyddau, dogfennau neu eitemau er mwyn dangos ein bod wedi’u harchwilio
  • gofyn am eich help wrth gynnal archwiliad ar y safle
  • cadw neu atafaelu nwyddau y pennir eu bod yn groes i’r gyfraith tollau

Gall adrannau eraill y llywodraeth wirio’r nwyddau hefyd.

Os ydym yn ystyried bod gwarant ariannol yn ddyledus mewn perthynas â’ch datganiad, bydd angen i chi dalu hyn cyn y gellir rhyddhau’r nwyddau.

Yn ystod y gwiriad cydymffurfio ar ôl clirio tollau

Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad ar ôl clirio tollau, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.

Gall hyn gynnwys ymweld â’ch safle busnes i wneud y canlynol:

  • archwilio nwyddau a dogfennau sy’n ymwneud â thollau a masnach ryngwladol
  • gofyn am wybodaeth am nwyddau neu wasanaethau yn y gadwyn gyflenwi ryngwladol yr ydych yn eu darparu, neu y byddwch yn eu darparu
  • gwirio eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sydd gennych sy’n ymwneud â thollau, neu yr ydych wedi gwneud cais amdanynt — weithiau rydym yn cynnal yr ymweliadau hyn ar ran un o adrannau eraill y llywodraeth, os yw’r drwydded yn ymwneud â mewnforio neu allforio nwyddau

Gallwn hefyd ofyn am ragor o wybodaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • cyfrifon
  • cofnodion banc
  • gwaith papur sy’n ymwneud â mewnforio ac allforio
  • contractau
  • manylion nwyddau
  • dogfennau busnes eraill

Os byddwn yn ymweld â chi

Mae’n rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’ch safle busnes. Fel arfer, byddwn ond yn ymweld â chi yn eich cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno, neu os oes nwyddau’n cael eu storio yno. Fel arfer, byddwn yn gwneud apwyntiad sy’n gyfleus i chi ac i ni. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ni roi gwybod i chi am ymweliad ymlaen llaw.

Yn ystod ymweliad, gallwn wneud y canlynol:

  • dechrau drwy drafod y gwahanol agweddau ar y busnes
  • archwilio’ch cofnodion busnes
  • cymryd manylion cyflenwadau a wnaed i chi, neu gennych chi, er mwyn gwirio’r ymdriniaeth gywir o ran tollau yng nghofnodion eich cyflenwyr neu’ch cwsmeriaid
  • gwirio rhannau penodol o’r safle, neu fannau yn y busnes lle y gwneir gwaith gweinyddol, pan fo’r rhain yn berthnasol i gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sydd gennych neu yr ydych wedi gwneud cais amdanynt
  • archwilio’r safle yn ogystal ag unrhyw nwyddau ar y safle
  • cymryd samplau er mwyn helpu i ddosbarthu ac adnabod y nwyddau
  • rhoi nodyn ar nwyddau, dogfennau neu eitemau er mwyn dangos ein bod wedi’u harchwilio
  • gofyn am eich help wrth gynnal archwiliad ar y safle
  • cadw neu atafaelu nwyddau y pennir eu bod yn groes i’r gyfraith tollau

Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
  • nid ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
  • rydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
  • mae gennych unrhyw gwestiynau eraill ar unrhyw adeg o’r gwiriad

Gwybodaeth a dogfennau y gallwn ofyn amdanynt

Gallwn archwilio unrhyw ddogfennau busnes. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio data.

Mae’n rhaid i chi roi i ni unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gofynnwn amdanynt sy’n ymwneud â’r busnes. Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth neu’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt, gallwn godi cosb arnoch.

Mae gennym yr hawl i fynd ag unrhyw gofnodion ymaith. Os byddwn yn mynd ag unrhyw gofnodion gwreiddiol ymaith, byddwn yn rhoi derbynneb i chi. Byddwn yn cadw’r cofnodion yn ddiogel ac yn eu dychwelyd i chi cyn gynted â phosibl. Os bydd angen i chi eu cael yn ôl yn gynt, gwnawn gopïau a rhoi’r rhain i chi.

Os oes rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i unioni pethau. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • esbonio a thrafod unrhyw faterion sy’n peri pryder, ac yn cytuno ar unrhyw gamau pellach
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw symiau a ordalwyd neu a dandalwyd, ac yn esbonio sut y gellir gwneud y taliad neu’r hawliad
  • anfon gorchymyn os oes taliad i’w wneud
  • anfon llythyr i gadarnhau’r hyn rydym wedi’i ganfod, yn ogystal â chamau gweithredu neu argymhellion y cytunwyd arnynt pe bai angen

Yn ystod gwiriad, ni fydd amser gan y swyddog fel arfer i edrych ar bob un o’ch cofnodion, ac mae’n bosibl na fydd yn sylwi ar bob camgymeriad sydd yn eich cyfrifon. Ni ddylech gymryd hyn i olygu, ar ddiwedd unrhyw wiriad, eich bod yn cyfrifo’r holl drethi a’r tollau’n gywir.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses gwiriad cydymffurfio, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘HMRC compliance checks help and support’.

Pryd y gallwn ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol

Efallai y byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol er mwyn cael yr hyn sydd angen arnom os na allwn ddod i gytundeb â chi am y canlynol:

  • anfon gwybodaeth neu ddogfennau i ni
  • ymweld â’ch safle busnes

Ni allwch ddewis anwybyddu hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad os rhoddwn un i chi. Fodd bynnag, mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.

Os oes angen rhagor o amser arnoch

Os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen rhagor o amser arnoch, dylech roi gwybod i ni. Efallai y byddwn yn caniatáu rhagor o amser os oes rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Ymholiadau trydydd parti

Weithiau, efallai y bydd yn rhaid i ni gasglu gwybodaeth gan bobl eraill sy’n berthnasol i’ch nwyddau neu’ch gwasanaethau.
Os gwnawn hyn, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth amdanoch yn ychwanegol i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Ynglŷn â’r cosbau y gallwn eu codi

Os canfyddwn eich bod wedi torri cyfraith tollau’r Undeb Ewropeaidd neu’r DU, efallai y byddwn yn codi cosb am fewnforio, allforio a dal neu brosesu nwyddau sydd o dan oruchwyliaeth tollau. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • torri rheoliadau tollau
  • methiant i gydymffurfio ag unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sy’n ymwneud â thollau
  • camddatganiadau
  • methiant i gydymffurfio â gweithdrefn tollau
  • methiant i roi gwybodaeth
  • methiant i gadw cofnodion
  • Ffurflenni Treth neu ddogfennau gwallus
  • symud nwyddau o oruchwyliaeth tollau heb awdurdod

I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘Notice 300: customs civil investigation of suspected evasion’ a ‘Notice 301: civil penalties for contraventions of customs law’.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Cyn cyhoeddi penderfyniad, byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch gan esbonio ein penderfyniad arfaethedig a’r rhesymau drosto. Mae gennych 30 diwrnod i ymateb os anghytunwch. Pan fyddwn wedi cael eich ateb, neu ar ôl 30 diwrnod (p’un bynnag sydd gynharaf), byddwn yn gwneud ein penderfyniad, gan ystyried unrhyw wybodaeth bellach a roddir neu unrhyw faterion a godir.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau apelio, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘disagree with a tax decision or penalty’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os yw’r penderfyniad yn ymwneud â dychwelyd nwyddau a atafaelwyd oddi wrthych, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘customs-seizures’.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn, os byddwch yn:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych yr hawl i gael eich cynrychioli yn ystod y gwiriad. Gallwch awdurdodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan.  Mae gennych ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn. Os oes gennych ymgynghorydd, mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion a anfonir atom ar eich rhan yn gywir.

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘Siarter CThEF’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddant yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallant. I gael rhagor o fanylion, ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Defnydd o ddeunydd cod agored

Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd (sydd ar gael i bawb), yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hyn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:

  • Toll Wrth-ddympio
  • Ardoll Amaethyddol
  • Taliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
  • Cludo yn y Gymuned
  • Toll Wrthbwyso
  • Llog Digolledu
  • Toll Dramor
  • Trwyddedau Mewnforio ac Allforio
  • TAW Mewnforio
  • Cytundebau Masnach Ffafriol
  • Nwyddau wedi’u Gwahardd a Nwyddau o dan Gyfyngiadau

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i 51²è¹Ý a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.