Datganiad cadarnhau (CS01c)
Defnyddiwch y ffurflen hon i gadarnhau bod manylion y cwmni’n gyfoes.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r ffurflen hon yn cadarnhau bod manylion eich cwmni yn gyfredol ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Y gost yw £62 i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar bapur.
Dim ond os yw’ch dyddiad cadarnhau (dyddiad diwallu) rhwng 30 Mehefin 2016 a 4 Mawrth 2024 y gallwch ffeilio’r ffurflen hon, neu os ydych yn gwmni anghofrestredig.
Os yw eich dyddiad cadarnhau ar 5 Mawrth 2024 neu’n hwyrach, bydd angen i chi ddefnyddio’r fersiwn newydd o’r ffurflen CS01c.
Mae’n gyflymach ac yn haws i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar-lein.
Newidiadau i wybodaeth eich cwmni
Defnyddiwch rannau 1 i 4 i wneud y newidiadau yma i’r cwmni:
- prif weithgareddau busnes neu ddosbarthiad diwydiannol safonol (SIC)
- datganiad o gyfalaf
- statws masnachu cyfranddaliadau ac eithriad rhag cadw cofrestr o bobl a rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
- gwybodaeth cyfranddaliwr
Defnyddiwch y rhestr gryno o godau SIC os oes angen ichi ddiweddaru natur eich gweithgarwch busnes ar eich datganiad cadarnhau.