Regulated activity with adults in England and Wales (Welsh)
Updated 21 February 2025
Ymwadiad: Nid cyngor cyfreithiol yw hwn. Os oes angen help arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae’r daflen hon yn esbonio’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o weithgarwch rheoledig gydag oedolion, gan ddisgrifio’r gweithgareddau, sefydliadau a swyddi penodol sy’n gymwys i gael Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Oedolion yn y gweithlu oedolion. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol p’un a yw’r unigolion yn cael eu talu neu’n ddi-dâl.
Os yw eich sefydliad yn cyflogi pobl yn y rolau hyn nad ydynt yn bodloni’r holl amodau a amlinellir yn y daflen hon, efallai y byddant yn gymwys i gael gwiriad lefel wahanol. Bydd angen i chi gyfeirio at ein hadnodd a’n canllawiau ar-lein i wirio hyn. Os yw eich sefydliad yn cyflogi pobl mewn rolau gwahanol sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg i’r rhai yn y daflen hon, dylech gyfeirio at ein canllawiau ar-lein, oherwydd gallent fod yn gymwys i gael yr un lefel o wiriad.
Gall unrhyw newidiadau yn rôl neu’r gweithgareddau y mae person yn eu cyflawni effeithio ar lefel y gwiriad sy’n berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau cymhwysedd ar ein gwefan yn /government/collections/dbs-eligibility-guidance.
Mae’r arweiniad hwn yn gymwys i Wiriadau Cofnod Troseddol yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Mae gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yn yr Alban ar gael gan . Mae gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon ar gael gan .
2. Beth yw gweithgarwch rheoledig?
Mae gweithgarwch rheoledig yn waith na ddylai person sydd wedi’i wahardd ei wneud. Fe’i diffinnir yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (SVGA) 2006, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau (PoFA) 2012. Nid yw’n cynnwys unrhyw weithgarwch a wneir yn ystod perthnasoedd teuluol, a pherthnasoedd personol, anfasnachol.
Mae oedolyn yn unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn.
2.1 Dim ond unwaith y bydd angen i chi gynnal unrhyw un o’r gweithgareddau i fod mewn gweithgaredd rheoledig gydag oedolion.
Os ydych chi’n cyflogi rhywun i wneud gwaith sy’n weithgaredd rheoledig gydag oedolion, gallwch ofyn iddynt wneud cais am wiriad manwl DBS gyda gwiriad Rhestr Gwahardd Oedolion.
Pan fyddwch yn gofyn am wiriad DBS i asesu rhywun i gyflawni gweithgarwch rheoledig gydag oedolion, mae hyn yn golygu eich bod yn ddarparwr gweithgarwch rheoledig (RAP).
Fel RAP, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio unigolyn at DBS lle mae’r amodau perthnasol yn cael eu bodloni.
3. Am wybodaeth am atgyfeiriadau, gallwch:
-
darllen ein taflen wybodaeth atgyfeiriadau Atgyfeiriadau gwahardd: sut a phryd i wneud atgyfeiriad
-
ffonio ni ar 03000 200 190, neu
-
darllen y siart llif atgyfeirio yn
4. Gweithgarwch rheoledig gydag oedolion yw:
-
Darparu gofal iechyd drwy, neu o dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol rheoledig.
-
Gofal iechyd o dan oruchwyliaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yw lle mae’r unigolyn mewn cysylltiad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol pan fyddant yn darparu triniaeth i glaf.
-
Gofal iechyd o dan gyfarwyddyd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yw lle mae’r unigolyn wedi derbyn cyfarwyddiadau gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch pa driniaeth i’w darparu a sut i’w darparu i glaf.
-
-
Darparu gofal personol, sy’n cynnwys:
-
Cynorthwyo oedolyn yn gorfforol gyda bwyta, yfed, mynd i’r toiled, golchi neu ymolchi, gwisgo, cynnal gofal y geg neu’r croen, gwallt neu ewinedd pan na all yr oedolyn hwnnw wneud hyn eu hun oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd.
-
annog ac yna goruchwylio oedolyn i fwyta, yfed, mynd i’r toiled, golchi neu ymolchi, gwisgo a dadwisgo, cynnal gofal y geg neu’r croen, gwallt neu ewinedd pan na all yr oedolyn hwnnw benderfynu gwneud hyn eu hun oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd
-
hyfforddi, cyfarwyddo, darparu cyngor neu roi arweiniad i oedolyn ar sut i fwyta, yfed, mynd i’r toiled, golchi neu ymolchi, gwisgo a dadwisgo, gofal y geg neu’r croen, gwallt neu ewinedd pan na all yr oedolyn hwnnw wneud hyn oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd
-
-
Darparu gwaith cymdeithasol gan weithiwr gofal cymdeithasol i oedolyn sy’n gleient neu’n ddarpar gleient
-
Cynorthwyo oedolyn gyda gwaith ariannol rhedeg eu haelwyd o ddydd i ddydd yn ymwneud â:
-
rheoli arian parod yr oedolyn
-
talu biliau’r oedolyn
-
gwneud siopa’r oedolyn
-
pan na all yr oedolyn wneud hyn dros eu hun oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd
-
Cael eich penodi i ddarparu cymorth wrth gynnal materion oedolyn, lle:
-
mae atwrneiaeth arhosol yn cael ei greu
-
mae atwrneiaeth barhaus wedi’i gofrestru neu gwneir cais amdano
-
mae’r Llys Gwarchod wedi gwneud gorchymyn mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ar ran yr oedolyn
-
penodir eiriolwr iechyd meddwl neu eiriolwr gallu meddyliol annibynnol
-
darperir gwasanaethau eiriolaeth annibynnol
-
penodir cynrychiolydd i dderbyn taliadau budd-daliadau ar ran yr oedolyn
-
-
Cludo oedolyn i, o neu rhwng gwasanaethau gofal iechyd, gofal personol a/neu waith cymdeithasol na lle allant gludo eu hunain oherwydd eu hoedran, salwch neu anabledd
-
Yng Nghymru yn unig: Swyddogaethau arolygu lle mae’r arolygiad yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, gofal, triniaeth neu therapi i oedolyn ac yn rhoi cyfle i gysylltu â’r oedolyn hynny, ar gyfer y canlynol:
-
Mae’n ofynnol i asiantaethau yng Nghymru gael eu cofrestru o dan adran 11 Deddf Safonau Gofal 2000
-
Mae’n ofynnol i bobl yng Nghymru gael eu cofrestru o dan Ran 2 Deddf Safonau Gofal 2000
-
Cyrff GIG Cymru
-
Unrhyw un, ar wahân i awdurdod lleol, sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru
-
-
Yng Nghymru a Lloegr: Rheoli neu oruchwylio unrhyw un sy’n cyflawni’r gweithgareddau uchod o ddydd i ddydd
-
Yng Nghymru yn unig: Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru neu Ddirprwy Gomisiynydd Pobl HÅ·n Cymru