Guidance

Deaths in police custody: leaflet for families - Welsh (accessible version)

Updated 20 September 2019

Ni allaf bwysleisio ddigon pa mor hanfodol bwysig yw hi i deuluoedd gael gwybod ar unwaith am eu hawliau cyfreithiol ar ymchwiliad sydd i ddod, yn dilyn marwolaeth eu hanwylyd yn nalfar wladwriaeth. Maer daflen yn rhoi arweiniad cynnar critigol ar sut i gael mynediad at y gefnogaeth honno a chyngor arbenigol.

Marcia Rigg, chwaer Sean Rigg, a fu farw yn nalfar heddlu, 2008

Maer daflen hon ar gyfer teulu rhywun sydd wedi marw yn nalfar heddlu neu ar 担l bod yno. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fe allai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer y rheini y mae aelod ou teulu wedi marw ar 担l cyswllt arall gydar heddlu.

Maen amlinellur wybodaeth gychwynnol y mae ei hangen arnoch chi am eich hawliau a beth syn digwydd nesaf. Maer cynnwys wedii lunio gan brofiadau teuluoedd eraill mewn profedigaeth.

1. Beth syn digwydd nesaf?

Dywed y gyfraith y dylid cynnal ymchwiliad trylwyr, annibynnol pa bryd bynnag y bydd marwolaeth yn digwydd yn nalfar heddlu.

Dylair heddlu fod wedi bod mewn cysylltiad 但 chi neu aelod arall or teulu yn barod ich hysbysu chi or farwolaeth ac o bosibl i ofyn am gymorth gydag adnabod eich aelod or teulu.

Rydym ni, teulu Seni Lewis, yn gwybod bod gwybodaeth ddi-oed ar eich hawliau i sicrhau cymorth cyfreithiol ac yn ymwneud 但 phost-mortem yn allweddol i ddeall y rhesymau y tu 担l i farwolaeth. Mae hon yn daflen bwysig i unrhyw deulu sydd wedii effeithio gan farwolaeth cysylltiedig 但r heddlu.

Ajibola Lewis, mam Seni Lewis a fu farw ar 担l cyswllt 但r heddlu, 2010

Rhaid ir heddlu gyfeirior farwolaeth heb oedi i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Maer IOPC yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Maen ymchwilio ir materion mwyaf difrifol ac maen annibynnol ar yr heddlu. Bydd yr IOPC yn gyfrifol am ymchwilio bob achos fwy neu lai. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar beth ddigwyddodd ich aelod or teulu a r担l a gweithredoedd yr heddlu. Byddwch chin cael cyswllt penodol o fewn yr IOPC a fydd yn eich helpu i ddeall pob agwedd ar ymchwiliad a phenderfyniadaur IOPC.

Bydd y crwner syn gyfrifol am yr ardal lle bu farwch aelod or teulu wedii hysbysu hefyd. Mae crwner yn ddeiliad swydd barnwrol annibynnol (barnwr) ac yn annibynnol ar yr heddlu ar IOPC. Ar wah但n ir IPOC, maer crwner yn gyfrifol am gynnal ymchwiliad i ddod o hyd ir ffeithiau i bennu pryd, ble a sut y bu farwch aelod or teulu. Mae ymchwiliad y crwner yn dechraun fuan ar 担l marwolaeth eich aelod or teulu a bydd yn dod i ben ychydig ar 担l hynny gyda gwrandawiad llys or enw cwest. Maer cwest yn debyg o gael ei gynnal o flaen rheithgor ac, yn dibynnu ar gymhlethdod y materion, gall bara nifer o ddyddiau neu wythnosau.

Maen bwysig nodi nad yw cwestau yn achosion troseddol. Diben cwest yw sefydlu amgylchiadau marwolaeth person. Diben achos troseddol, ar y llaw arall, yw pennu a yw person yn euog neun ddieuog ar 担l iddo gael ei gyhuddo o drosedd.

2. Eich hawliau a chorff yr aelod och teulu

Fel rhan or ymchwiliad, maer crwner yn derbyn rheolaeth gyfreithiol dros dro o gorff eich aelod or teulu. Mae hwn yn amddiffyniad, i ddiogelu annibyniaeth yr ymchwiliad.

Un o ddyletswyddaur crwner yw pennu achos y farwolaeth ac i wneud hyn bydd yn rhoi cyfarwyddyd i batholegydd (meddyg syn arbenigo mewn deall sut y mae person wedi marw) i gynnal archwiliad meddygol or enw post-mortem. Maer patholegydd yn gweithio ar gyfarwyddyd y crwner a neb arall. Fel arfer bydd y patholegydd yn cynnal post-mortem o fewn 24 i 48 awr, er fe allai gymryd wythnosau neu fisoedd i gynhyrchur adroddiad terfynol. Nid oes yn rhaid ir crwner aros am adroddiad y patholegydd cyn rhyddhau corff yr aelod och teulu i chi a dylai wneud hynny cyn gynted 但 phosibl ar 担l y postmortem. Serch hynny, maen bosibl y bydd y corff yn cael ei gadw gan y crwner i ganiat叩u ar gyfer ymchwiliad pellach. Bydd y corff yn cael ei gadw yn y marwdy yn ystod yr amser hwn. Maen bosibl y bydd angen cadw samplau o gorff yr aelod och teulu, ond dywedir wrthoch chi os bydd hyn yn digwydd ar rhesymau dros hynny.

Fel aelod or teulu, mae gennych chi hawliau ar hyd pob cam. Dylech gael eich hysbysu a dylid esbonio unrhyw oedi wrthych chi. Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi at swyddfar crwner. Mae gwybodaeth am weld corff yr aelod och teulu ar gael yma: .

Dylair crwner ddweud wrthoch chi pryd a ble y maer post-mortem yn cael ei gynnal a phryd y bydd corff yr aelod och teulu yn cael ei ryddhau. Mae gennych yr hawl i gael eich cynrychioli gan ymarferwr meddygol yn y post-mortem. Os byddwch chi, aelod or teulu neuch cyfreithiwr yn dymuno bod yn bresennol, bydd angen i chi ofyn i swyddog y crwner. Mae arweiniad i grwneriaid am ail bost-mortem ar gael yma: .

Ni ellir cofrestru marwolaeth yr aelod och teulu nes ar 担l y cwest, ond fe all y crwner roi tystysgrif marwolaeth dros droi chi. Gallwch ei defnyddio i roi gwybod i sefydliadau am y farwolaeth a gwneud cais am brofiant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: When a death is reported to a coroner.

3. Cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol

Bydd gan yr heddlu a sefydliadau eraill o bosibl gyfreithwyr iw cynrychioli. Gallwch geisio cyngor cyfreithiol yn syth ar 担l marwolaeth yr aelod och teulu. Gall cyfreithiwr eich helpu chi i ddeall y prosesau yn y daflen hon ach cynrychioli chi yng ngwrandawiad y cwest. Fel arfer, mae arian y wlad, a elwir yn gymorth cyfreithiol, ar gael yn dilyn marwolaeth yn nalfar heddlu.

4. Cymorth a chyngor arbenigol

INQUEST maen elusen annibynnol syn darparu gwasanaeth cyfrinachol, am ddim i bobl mewn profedigaeth yn dilyn marwolaeth yn gysylltiedig 但r heddlu. Gall eu gweithwyr achos eich cynghori chi a gweithio gyda chi, gan eich helpu chi os dymunwch archwilio opsiynau yn ymwneud 但 chynrychiolaeth gyfreithiol. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad 但 theuluoedd eraill mewn profedigaeth sydd wedi bod trwy brofiad tebyg. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: neu 020 7263 1111.

Cruse Bereavement Care maen nhwn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim pan fydd rhywun yn marw. Mae Cruse yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb, ar y ff担n, trwy e-bost ac ar y wefan. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: neu 0808 808 1677.

Mae Gwasanaeth Cefnogi Llys y Crwner yn cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac am ddim a chymorth ymarferol i deuluoedd mewn profedigaeth, tystion ac eraill syn mynychu cwest yn Llys y Crwner. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: neu 0300 111 2141.

Maen bosibl y bydd sefydliadau eraill yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth i chi. Gall eich cyswllt yn yr IOPC eich cyfeirio chi atynt.

Pan gollom ein mab James yn nalfar heddlu, roeddem wedi ein parlysu gyda galar a doedd gennym ni ddim syniad beth oedd i ddod. Bydd y daflen hon yn helpu teuluoedd i ddeall y prosesau ymchwilio sydd i ddod yn syth ar 担l marwolaeth cysylltiedig 但r heddlu ac o bosibl bydd yn eich helpu i gael yr atebion y mae eu hangen arnoch chi ac yr ydych chin haeddu eu clywed.

Tony Herbert, tad i James Herbert a fu farw yn nalfar heddlu, 2010