Cymorth Uwch i Gwsmeriaid: Gan ddarparu cymorth a thrawsnewid i helpu cwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd ag anghenion cymorth ychwanegol
Cyhoeddwyd 24 Ebrill 2025
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
1. Rhagair
Croeso ir cyhoeddiad cyntaf Cymorth Uwch i Gwsmeriaid (ACS) cyntaf. Nod y cyhoeddiad blynyddol hwn yw egluro sut maer Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), trwy ei Thimau Profiad Cwsmeriaid ACS, yn helpu cwsmeriaid y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, sut maen dysgu o brofiadau cwsmeriaid ac ynan archwilio ffyrdd o wella ei gwasanaethau i bawb.油
Byddwn yn gwneud hyn trwy rannu rhai or pethau yr ydym eisoes wediu cyflenwi yn y flwyddyn weithredol 2023 i 2024, pethau rydym yn eu gwneud yn awr, a phethau yr ydym yn anelu at eu gwneud yn y dyfodol yn y pedwar maes hyn:油
- Darparu cymorth i gwsmeriaid油
- Nodi pan fod angen cymorth ychwanegol ar unigolyn油
- Cryfhau gallu ein pobl油
- Bod yn sefydliad syn dysgu油
1.1 Darparu cymorth i gwsmeriaid油
Rydym yn darparu haen ychwanegol o gymorth i gwsmeriaid agored i niwed, gan gyflenwi help arbenigol a gweithio ar y cyd gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
1.2 Nodi pan fod angen cymorth ychwanegol ar unigolyn油
Nid yw ein cwsmeriaid bob amser yn dweud wrthym, neu efallai nad ydynt yn ymwybodol, bod angen cymorth ychwanegol arnynt, syn golygu bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o nodi cwsmeriaid fel y gallant gael yr help sydd ei angen arnynt.油油
1.3 Cryfhau gallu ein pobl油
Rydym yn buddsoddi yn y dysgu a datblygu y mae ein cydweithwyr yn eu cael, er mwyn rhoir sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu cymorth effeithiol in cwsmeriaid油 agored i niwed.油
1.4 Bod yn sefydliad syn dysgu油
Rydym am ddysgu o bethau nad ydynt wedi mynd cystal ag y dylent, a bydd gwella ein gwasanaethau an cymorth yn barhaus yn allweddol i wella pethau in cwsmeriaid油 agored i niwed.
Rwyf yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu magu dealltwriaeth ac yn darparu tryloywder ynghylch y gwaith y mae ACS yn ymdrechu iw gyflenwi i wella bywydau ein cwsmeriaid agored i niwed.油
Robert Currens油
Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth Uwch i Gwsmeriaid
2. Beth yw Cymorth Uwch i Gwsmeriaid油
Gan fod DWP yn deall ac yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar gwsmeriaid agored i niwed ar wahanol adegau yn eu bywydau, gwnaethom greur t樽m Cymorth Uwch i Gwsmeriaid (ACS) o fewn ein Cyfarwyddiaeth Profiad Cwsmer i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn helpu ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed, ar draws ein holl wasanaethau.油
Ers ei gyflwyno, mae ACS wedi esblygu yn unol ag anghenion cwsmeriaid a DWP gan ddefnyddior data, y dystiolaeth ar mewnwelediad oi weithgareddau i ddysgu a gweithredun effeithiol, i ddarparu gwell cymorth a chanlyniadau iw gwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Mae ACS yn cynnwys pedwar t樽m syn darparu cymorth mewn gwahanol ffyrdd:油
2.1 T樽m Uwch Arweinwyr Cymorth Uwch i Gwsmeriaid a Chyflenwi Gweithredol油
Mae gennym rwydwaith o Uwch Arweinwyr Cymorth Uwch i Gwsmeriaid (ACSSLs) ledled Prydain Fawr, syn hyfforddi ac yn mentora cydweithwyr DWP, ar draws ein gwasanaethau, i roi cymorth i gwsmeriaid syn wynebu, neu sydd mewn perygl o fod yn agored i niwed. Trwy gefnogi cydweithwyr i gymryd y camau cywir ar yr adeg iawn, maent yn helpu i atal achosion rhag cynyddu i bwynt risg. Mae ACSSLs hefyd yn gweithio gyda sefydliadau y tu allan i DWP (e.e. Awdurdodau Lleol) i alluogi dull amlasiantaeth pan fon briodol i gwsmeriaid.油
Mae ein T樽m Cyflenwi Gweithredol ACS canolog yn cefnogi ACSSLs trwy brysbennu atgyfeiriadau a wnaed gan gydweithwyr DWP, i sicrhau bod yr holl gymorth a phrosesau presennol wediu hystyried, gan uwchgyfeirior achosion cwsmeriaid hynny lle mae angen cefnogaeth ACSSL.油
2.2 T樽m Porth Ymweld ACS油
Maer t樽m yn cefnogir Gwasanaeth Ymweld DWP cenedlaethol i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i gwsmeriaid nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethaur adran mewn unrhyw ffordd arall. Efallai y bydd angen yr ymweliadau hyn oherwydd bod gan y cwsmer anghenion cymhleth, yn anabl, yn berson ifanc agored i niwed syn gwneud cais am y tro cyntaf, nad oes ganddynt unrhyw un arall iw gefnogi, neu na all wneud cais am fudd-daliadau mewn unrhyw ffordd arall.油
Gellir gwneud atgyfeiriadau ymweld gan gydweithwyr rheng flaen DWP a sefydliadau allanol, er enghraifft Cyngor ar Bopeth, Age Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae T樽m Porth Ymweld ACS yn derbyn ac yn brysbennu pob atgyfeiriad, gan sicrhau bod gan y Swyddog Ymweld yr holl wybodaeth angenrheidiol i ategu ymweliad effeithiol. Maer t樽m yn profi opsiynau i gefnogir Gwasanaeth Ymweld ymhellach hefyd, gan gynnwys bwrw ymlaen 但 mathau penodol o ymweliadau trwy alwadau ff担n, fel Gwiriadau Hawliau Budd-daliadau.
2.3 T樽m Achosion Difrifol
Maer T樽m Achosion Difrifol yn helpu i leihaur risg ac atal achosion difrifol pellach trwy adolygu achosion mwyaf difrifol DWP trwy Adolygiadau Prosesau Mewnol (IPRs), syn adolygiadau mewnol manwl, syn edrych ar ble a pham mae profiad y cwsmer wedi methu 但r safonau disgwyliedig ac yn gosod camau gweithredu clir ar gyfer gwella.油
Maer t樽m hefyd yn cefnogi adolygiadau allanol a gynhelir trwy Fyrddau Diogelu Oedolion (Pwyllgorau Amddiffyn Oedolion yn yr Alban) ac Adolygiadau Marwolaethau syn Gysylltiedig 但 Cham-drin Domestig, gan ddarparur wybodaeth sydd ei hangen ar ein ACSSLs wrth gynrychioli DWP yn yr adolygiadau hyn. Maer t樽m hefyd yn gyfrifol am ddeall a nodi risgiau syn seiliedig ar dystiolaeth a rhannur mewnwelediad hwn gyda chydweithwyr ar draws DWP trwy gyfarfodydd rhanddeiliaid rheolaidd, gan gynnwys Panel Achosion Difrifol DWP, i sicrhau blaenoriaethu gweithgareddau i wella profiadau cwsmeriaid agored i niwed.
2.4 Trawsnewid ACS
Fel adran rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad syn dysgu, ac rydym wedi ymrwymo i wellar gwasanaeth ar gefnogaeth rydym yn ei ddarparu i gwsmeriaid. Cr谷wyd T樽m Trawsnewid ACS i ganolbwyntio ar y newidiadau syn ceisio gwella sut y gallwn nodi a chefnogi ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Maer t樽m yn gwneud hyn trwy gymryd yr holl bethau rydym wediu dysgu ar draws ACS ac yna gweithio gyda gwahanol dimau ar draws DWP i wneud gwelliannau ir hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud, ac mae enghreifftiau ohonynt wediu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn.
Maer t樽m hefyd yn gyfrifol am edrych ar sut rydym yn cynyddu tryloywder y gwaith a gymerir ymlaen ar draws y timau ACS, tran diogelu gwybodaeth bersonol, ac weithiau sensitif, y cwsmeriaid hynny yr ydym yn eu cefnogi ar achosion difrifol rydym yn dysgu ohonynt.
3. Darparu cymorth i gwsmeriaid a nodi cyfleoedd dysgu油油
3.1 Gwelliant parhaus syn seiliedig ar dystiolaeth
Maer data ar dystiolaeth rydym yn eu casglu yn bwysig ac yn ein helpu i ddeall ble y gallwn wneud gwelliannau i brofiad y cwsmer. Rydym yn defnyddior hyn rydym yn ei gasglu or gwaith y mae ACS yn ei wneud, i adrodd storir hyn rydym wedii ddysgu fel y gall timau a chydweithwyr DWP weithio gydai gilydd i wneud gwelliannau ac atal yr un pethau rhag digwydd eto.
Gallai hyn fod yn ganfyddiad allweddol a nodwyd o IPR, tystiolaeth o faterion neu amgylchiadau a nodwyd trwyr gefnogaeth y mae ein ACSSLs an swyddogion ymweld yn ei ddarparu, neu sefyllfaoedd a nodwyd trwy waith rhagweithiol i nodi a chefnogi cwsmeriaid油 agored i niwed.
Ar 担l i ni nodi maes posibl iw wella, maer t樽m yn edrych ar ba welliannau y gellid eu gwneud, a phwy y gallai weithio ar y cyd 但 nhw ar draws yr adran i wneud i hyn ddigwydd.油
Mae rhai or gwelliannau hyn yn cael eu cyfeirio at y Panel Achosion Difrifol (Y Panel) iw trafod ac am ei gefnogaeth i gyflenwi newid yn yr adran. Darllenwch ragor o wybodaeth am y Panel Achosion Difrifol.
Yn y tudalennau canlynol, rydym yn rhannu rhai enghreifftiau gyda chi, fel y gallwn ddangos sut rydym yn dysgu o brofiadau ac amgylchiadau cwsmeriaid, a sut rydym yn defnyddio hyn i wella ein gwasanaethau in cwsmeriaid.
4. Gweithio i gynyddu tryloywder Cymorth Uwch i Gwsmeriaid
Rydym yn gwybod bod deall y gefnogaeth y gallwn ei chynnig, ar hyn rydym yn ei wneud i wellar gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i bobl agored i niwed, yn bwysig. Mae cynyddu tryloywder o hyn yn rhywbeth y maer Panel Achosion Difrifol wedii gefnogin gryf. Am y rheswm hwn mae ACS wedi bod yn gweithion galed, mewn nifer o feysydd, i ddangos i chi yr hyn yr ydym wedii wneud ac y byddwn yn ei wneud, yn ogystal 但ch helpu i ddod o hyd i gefnogaeth pan fydd ei angen arnoch.
4.1 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol DWP (ARA)
Dechreuon ni rannu gwybodaeth ACS yn ARA 2022-2023, gan rannu data allweddol a oedd yn tynnu sylw at y gwaith gwerthfawr a wnaethom y flwyddyn honno. Adeiladwyd ar hyn yn ARA 2023-2024, a roddodd rywfaint o fewnwelediad i Wasanaeth Ymweld DWP am y tro cyntaf, ac rydym yn bwriadu parhau i gyhoeddi gwybodaeth bwysig yn adroddiadaur blynyddoedd i ddod.油
4.2 Y Cyhoeddiad ACS
Yn dilyn llwyddiant yr hyn yr ydym wedii rannu hyd yn hyn, rydym wedi ysgrifennur cyhoeddiad hwn i roi mwy o fanylion i chi am y gwaith a wnawn ar canlyniadau rydym wediu cyflenwi. Mae hyn i ddangos mwy na niferoedd yn unig i chi, rydym am i chi weld sut maer t樽m ymroddedig hwn yn cyflenwi newid i wneud pethaun well in cwsmeriaid mwyaf agored i niwed.
4.3 Cyhoeddi Gwybodaeth IPR
Rydym wedi dechrau gweithio ar ffyrdd y gallwn gyhoeddi rhywfaint o wybodaeth IPR i helpu i gynyddu tryloywder ar yr hyn rydym wedii ddysgu o adolygu ein ffyrdd o weithio, yn ogystal 但r camau rydym yn eu cymryd o ganlyniad i hyn. Ochr yn ochr 但 chyhoeddi gwybodaeth am IPRs mwy diweddar, rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth hanesyddol fel y gallwn ddangos yn agored, y gwelliannau rydym wediu gwneud in gwasanaethau yn dilyn yr hyn yr ydym wedii ddysgu on hachosion difrifol.油
4.4 Gwefan 51画鋼
Rydym eisoes wedi cyflwyno ein tudalen 51画鋼 Cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol i reoli eich budd-daliadau neu bensiwn, er mwyn helpu dinasyddion i lywio a deall y cymorth y gall DWP ei ddarparu. Bwriedir hefyd y bydd modd defnyddior tudalennau hyn i ddarparu mwy o wybodaeth a chefnogaeth yn y dyfodol fel y gall ein cwsmeriaid ddod o hyd ir wybodaeth ar help sydd eu hangen arnynt yn hawdd.油
5. Darparu cymorth i gwsmeriaid 油油油油油油油油油油油油油油油油油油油油油油油油 油
5.1 Profi Gwasanaeth Ymweld mwy hyblyg a hygyrch
Mae gennym rwydwaith o dros 600 o swyddogion ymweld ac mae ein Gwasanaeth Ymweld yn helpur rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau DWP mewn unrhyw ffordd arall, efallai oherwydd bod ganddynt anghenion cymhleth, neu o bosibl nad oes ganddynt unrhyw un iw cefnogi. Gallai hyn gynnwys eu helpu i wneud cais am fudd-dal neu helpu gyda chais syn parhau, neu gyflwyno llythyr penderfyniad a gwneud yn si典r eu bod yn deall y cynnwys yr hyn y mae hyn ei olygu iddynt.油
Yn flaenorol, roedd yr ymweliadau hyn yn digwydd yn bennaf yng nghartref yr unigolyn, ond rydym wedi dysgu efallai nad yw hyn yn addas i bawb, ac mae angen mwy o ddewis ar rai pobl gyda sut maent yn ymgysylltu 但 ni. Yr hyn syn bwysicaf i ni yw bod yna opsiynau, a bod pobl yn teimlo mor gyfforddus 但 phosibl pan fyddwn yn eu gweld.
Rydym yn profi gwahanol ffyrdd o gynnig Gwasanaeth Ymweld mwy hyblyg, syn diwallu anghenion pobl yn well. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth wyneb yn wyneb wedii leoli o fewn adeiladau partneriaid DWP.油
Bydd hyn yn golygu y gall y rhai sydd angen y gwasanaeth ymweld, neur rhai syn eu cefnogi, ein gweld mewn adeilad DWP neu efallai adeilad sefydliad arall, fel swyddfar Awdurdod Lleol, os ywn fwy cyfleus, lle gallant gael mynediad at sawl gwasanaeth o dan un to. Rydym hefyd yn edrych ar gynnig apwyntiadau ff担n neu apwyntiadau rhithwir trwy alwadau fideo ar-lein, diogel.
Bydd gwasanaeth ymweld mwy hyblyg, or math hwn, yn golygu y gallwn weld pobl yn gyflymach, rhoi iddynt y dewis sydd ei angen arnynt, y gefnogaeth maent ei heisiau, mewn ffordd syn addas iddynt.
Cydweithiwr syn ymweld:
Roedd y fantais o adeilad syn cael ei gydleoli 但r awdurdod lleol yn caniat叩u i gydweithwyr Ymweld gefnogi cwsmeriaid mewn ffordd fwy holistaidd.
5.2 Mae ACS yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid allanol, gan helpu cwsmeriaid DWP y mae angen cymorth ychwanegol arnynt油
Mae datblygu perthnasoedd 但 phartneriaid allanol yn rhan allweddol arall o r担l ACSSL. Maer partneriaid hyn yn y rhai syn gweithio gydan cyd-gwsmeriaid, a pob un ohonynt yn darparu help a chymorth arbenigol lle bo angen.油
Maer perthnasoedd hyn yn gyswllt hanfodol i DWP, gan eu bod yn gwellar ffordd rydym yn gweithio gydan gilydd i gefnogi cwsmeriaid. Maent yn brosesau ddwyffordd, a bydd ein partneriaid allanol yn dod 但 ni i mewn pan fyddant yn meddwl bod angen ein help i gefnogi cwsmer maent yn gweithio gyda nhw.油
Isod mae ychydig o enghreifftiau o sut mae ACSSLs wedi ymuno ag asiantaethau allanol i gael ein cwsmeriaid油 agored i niwed yr help ar cymorth sydd eu hangen arnynt. Maent yn dangos presenoldeb ACS yn y fan ar awr, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cwsmeriaid.
5.3 Cwsmer 1
Roedd cwsmer DWP a oedd yn dioddef gydau hiechyd meddwl, ac a oedd mewn perygl o gam-drin domestig a digartrefedd, ac roedd ad-daliad sylweddol o fudd-daliadau yn ddyledus iddo. Oherwydd eu sefyllfa gymhleth, gweithiodd ACSSL gyda chydweithwyr a gwasanaethau cymdeithasol i rannur taliad yn symiau llai dros gyfnod o 18 mis.油 Trwy dderbyn taliadau llai dros amser, gwnaethom leihaur risg y byddair cwsmer yn cael ei anfanteisio gan bobl eraill a gwnaethom helpu i sicrhau eu diogelwch au sefydlogrwydd.
5.4 Cwsmer 2
Gofynnodd cwsmer am daleb bwyd yn eu canolfan gwaith, gan ddweud bod eu teulu yn cadw eu taliadau budd-daliadau oddi wrthynt, nad oeddent yn eu bwydon iawn, ac roeddent yn cael eu cloi yn eu fflat. Roeddent yn ofni eu teulu ac nid oeddent yn gwybod beth iw wneud. Gwnaeth y t樽m atgyfeiriad diogelu, a chynhaliwyd cyfarfod amlasiantaeth brys. Cafodd y cwsmer le i aros brys a gweithiwr cymdeithasol. Gyda chymorth gan y GIG ar cyngor, canfuwyd bod ganddynt broblemau iechyd ac anabledd dysgu. Cawsant gymorth ariannol, a gwnaethant symud i d天 cymdeithasol, a dysgon nhw sut i gyllidebu. Maer gefnogaeth amlasiantaeth wedi eu helpu i ddianc ou sefyllfa a chael y cymorth yr oedd ei angen arnynt.
5.5 Cwsmer 3
Roedd cwsmer a oedd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol, heb ID na chyfrif banc, a oedd yn byw mewn llety gwarchod ac roedd taliad mawr yn ddyledus iddo. Gweithiodd t樽m ACS gydau gweithiwr cymdeithasol a chanfu y gallair cwsmer fod yn gymwys i gael mwy o fudd-daliadau. Gwnaethom drefnu i swyddog ymweld gwrdd 但r cwsmer, helpu gyda chais am Daliad Annibyniaeth Personol, a sefydlu penodai corfforaethol i gynorthwyo gyda budd-daliadau. Trwy weithio gyda sefydliadau eraill, gwnaethom ganolbwyntio ar y cyd ar gefnogi anghenion y cwsmer a sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt.
5.6 Cwsmer 4
Ffoniodd cwsmer oedrannus y Gwasanaethau Ymddeol i ddarganfod pryd y byddant yn cael eu talu nesaf. Nid oedd ganddynt arian ar 担l ac roeddent yn cael eu bygwth gan gang lleol, a oedd yn gwneud iddynt deimlo fel cymryd eu bywyd eu hunain. Ar 担l cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod y cwsmer yn ddiogel, daethpwyd 但r ACSSL lleol i mewn am gefnogaeth a darganfuwyd bod y cwsmer hwn wedi bod yn ddioddef cogio, sef cuckooing. Dyma lle mae t天 rhywun yn cael ei gymryd drosodd ai ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer gweithgarwch troseddol. Ar 担l sicrhau bod taliadau budd-daliadaur cwsmer yn ddiogel, gweithiodd yr ACSSL gyda Th樽m Tai yr Awdurdod Lleol i wneud eu cartref yn ddiogel, gan ganiat叩u ir cwsmer fyw bywyd normal eto.
6. Nodi pryd y bydd angen cymorth ychwanegol ar rywun
6.1 Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i nodi a chefnogi cwsmeriaid bregus
Gwnaethom ddysgu on hadolygiadau mewnol ei fod yn bwysig, lle mae cwsmeriaid yn ysgrifennu llythyr atom, ein bod yn gallu nodin gyflym a oes angen help brys arnynt. Roedd hwn yn fater a gyflwynwyd ym Mhanel Achosion Difrifol DWP, a derbyniodd gefnogaeth y Panel i waith gael ei symud ymlaen i ddod o hyd i ateb syn caniat叩u nodir cwsmeriaid hyn yn gynnar.油
Mae system wedii datblygu syn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) in galluogi i nodin ddigidol a oes angen cymorth brys ar gwsmer. Maer AI yn darllen y testun o ddelweddau wediu sganio ou llythyrau[footnote 1] (a elwir yn Whitemail), sydd wedi tynnur holl wybodaeth bersonol, ac yn gallu deall yr hyn y maer llythyr yn ei ddweud, i nodi a allair cwsmer fod yn agored i niwed neun mewn perygl - i gyd ar y diwrnod y derbynnir y post.
Mae pob llythyr y maer AI yn ei nodi wedyn yn cael ei asesu gan un on cydweithwyr profiadol, a all benderfynu ar y cymorth sydd ei angen ar y cwsmer hwnnw iw cadwn ddiogel a sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn rhywbeth a allai gymryd llawer mwy o amser iw wneud yn flaenorol oherwydd maint y post rydym yn ei dderbyn, ond maer defnydd o AI yn caniat叩u i ni nodir cwsmeriaid hyn yn llawer cyflymach.
Dyma enghraifft o sut y gall technoleg ategu ein prosesau an ffyrdd o weithio presennol, i helpu i nodi pobl a allai fod mewn perygl neu sydd angen cymorth ychwanegol i gael mynediad at wasanaethau DWP. Roedd y T樽m Trawsnewid ACS yn allweddol i gyflwynor prawf cysyniad, profir AI a sicrhau ei fod yn codir achosion cywir ac i weithio gydar gwahanol gwasanaethau DWP ar wah但n i sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion a darparu cefnogaeth i gydweithwyr syn adolygur llythyrau a nodwyd gan yr AI.油
Maer adran yn edrych ar sut y gellir addasur dechnoleg hon ai defnyddio ar draws meysydd eraill, i gefnogir cwsmeriaid hynny sydd ei hangen ymhellach.
Cydweithiwr syn sganio ESA:
Maen system dda rhwyd ddiogelwch ar waith ir rhai a fyddai fel arall wedi cael eu colli.
6.2 Defnyddio technoleg i ddileu rhwystrau a gwella cymorth i gwsmeriaid
Rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn cael trafferth ymgysylltu 但 ni ac efallai na fyddant yn teimlon gyfforddus yn dweud wrthym y problemau maent yn eu hwynebu. Mae hyn yn creu rhwystr ir cymorth y gallwn ei gynnig, ac rydym yn archwilio sut y gall technoleg ein helpu i ddileur rhwystr hwn iw gwneud yn haws i nodi cwsmeriaid sydd angen help ac i ddarparu cyfleoedd i gwsmeriaid eu hunain ddweud wrthym beth sydd ei angen arnynt.
Gwnaethom brofi system syn trosi galwadau ff担n [footnote 2] i destun ac yn nodi sgyrsiau syn dangos y gallair cwsmer fod mewn perygl, sydd wedyn yn cael eu hadolygu gan d樽m ymroddedig o fewn ACS i sicrhau bod y cwsmer yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Maer Panel Achosion Difrifol wedi penderfynu y dylid cynnwys y swyddogaeth hwn o fewn y gofynion ar gyfer platfform teleffoni DWP yn y dyfodol. Hyd nes y bydd y system teleffoni newydd ar waith, rydym yn parhau i redeg y system brawf syn ein galluogi i fonitro tua 40% or galwadau y mae DWP yn eu cael.油
Mae ein T樽m Trawsnewid ACS yn gweithio gydan timau Digidol i weld sut y gellid defnyddior wybodaeth sydd gennym eisoes ar ein systemau in helpu i ragweld a allai fod angen help ychwanegol ar gwsmeriaid. Trwy ddeall yr hyn rydym yn ei wybod am yr achosion cwsmeriaid hynny y mae ein ACSSLs wediu helpu, efallai y byddwn yn gallu gweld tebygrwydd ag achosion eraill a allai ganiat叩u i ni nodin rhagweithiol anghenion cymorth i gwsmeriaid yn gynharach. Maer gwaith hwn mewn cyfnod cynnar iawn oi ddatblygiad, ond rydym yn gweithion galed i ddysgu yr hyn syn gweithio (ac yr hyn nad yw) yn gweithio, fel y gallwn ei brofi ymhellach a deall pa mor llwyddiannus fyddai hyn.
Maes gwaith arall rydym yn edrych arno yw lleihau nifer o weithiau y mae angen in cwsmeriaid ddweud wrthym pa gymorth sydd ei angen arnynt, er enghraifft, lle tawel ar gyfer sgwrs. Mae gorfod ailadrodd eu hunain nid yn unig yn rhwystredig ir cwsmer ond gallai hefyd achosi trallod sylweddol iddynt. Rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn ddarparu un system DWP ar gyfer cofnodir anghenion cymorth hyn mewn ffordd gyson a hygyrch, ar draws holl wasanaethau DWP. Ein huchelgais yw y byddai cwsmeriaid hefyd yn gallu hunangofnodi eu hanghenion o fewn y system hon, lle maent yn gallu gwneud hynny, gan ei gwneud mor syml 但 phosibl i ddweud wrthym yr hyn maent am i ni ei wybod.
7. Cryfhau gallu ein pobl 油油油油油油油油油油 油
7.1 Cefnogi cwsmeriaid sydd mewn perygl o niwed: Y Cynllun Chwe Phwynt
Ar draws gwasanaethau DWP rydym yn aml yn cefnogi cwsmeriaid syn wynebu heriau syn gysylltiedig 但u hiechyd meddwl. Rydym wedi sefydlu prosesau a chanllawiau i gydweithwyr DWP eu dilyn pan fyddant yn nodi cwsmer a allai fod mewn perygl o niweidio eu hunain, boed hynnyn wyneb yn wyneb (e.e. mewn Canolfan Gwaith) neu yn ystod galwad ff担n.油
Y Cynllun Chwe Phwynt (y cyfeirir ato yn aml fel y 6PP) yw ymateb DWP i achosion lle mae cwsmeriaid naill ain datgan bwriad i gymryd eu bywyd eu hunain neu niweidio eu hunain. Chwe rhan y cynllun yw:
-
Cymerwch y datganiad o ddifrif油
-
Galw cydweithiwr (partner cymorth)
-
Casglu gwybodaeth
-
Darparu cyngor atgyfeirio
-
Galw am gymorth brys os bydd angen
-
Adolygur Digwyddiad油
Maer Cynllun Chwe Phwynt yn ffurfio rhan or pecyn cymorth a ddatblygwyd i roir hyn sydd ei angen ar ein cydweithwyr i helpu sicrhau bod y cwsmer yn cael y cymorth priodol, gan gynnwys cyfeirio at sefydliadau eraill, ond gall hefyd gynnwys roi gwybod ir gwasanaethau brys rhag ofn eu bod mewn perygl uniongyrchol. Maen cael ei adolygun barhaus i sicrhau ein bod yn darparur cymorth gorau ir cwsmeriaid hynny sydd fwyaf mewn perygl. Mae gwelliannau diweddar wedi cynnwys:
-
gwell llywio a hygyrchedd y wybodaeth sydd ar gael, iw gwneud hin gyflymach i gydweithwyr ddod o hyd ir cymorth cywir i gwsmeriaid a chael mynediad ato
-
datblygu dau becyn hyfforddi newydd ar gyfer cydweithwyr a allai weithredu fel partner cymorth
-
creu pecyn rhyngweithiol, gan gynnwys fideo pwrpasol, ar gyfer Arweinwyr T樽m i helpu i ddarparur hyfforddiant iw timau
-
gwella cynnwys elfen Cynllun Chwe Phwynt yn y cwrs hyfforddi iechyd meddwl deuddydd syn orfodol i bob cydweithiwr syn ymwneud 但 chwsmeriaid.
Adborth cydweithwyr:
Ffordd wych o gadwr 6PP ar broses gyfan yn ffres ym meddyliau pobl a rhoi hwb iw hyder au allu iw ddefnyddio.
7.2 Gwella gallur gweithlu trwy well hyfforddiant a chefnogaeth
Un o asedau gorau unrhyw sefydliad yw ei bobl, felly maen hanfodol ein bod yn rhoir dull sydd ei angen ar ein cydweithwyr i allu gwneud eu gwaith yn effeithiol. Rydym yn deall y gall fod yn heriol in cydweithwyr ddelio 但 materion a sefyllfaoedd y gallair cwsmer fod yn eu hwynebu, fel y gallant ddarparu cymorth yn effeithiol, a chyda hyder.油
Er mwyn sicrhau bod ganddynt y canllaw ar hyfforddiant cywir ar gael, rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant an timau mewnol ein hunain (gan gynnwys ein T樽m Seicoleg Galwedigaethol an T樽m Polisi Clinigol) i ddatblygu pecyn dysgu effeithiol, syn defnyddior meddylfryd diweddaraf ac yn dangos in cydweithwyr sut i ddarparur cymoth gorau in cwsmeriaid油 agored i niwed.油
Bydd hyn yn symleiddior dysgu ar draws DWP, gan ei gwneud yn haws iw ddilyn a bydd yn darparu dull cyson at anghenion cymorth ychwanegol ar draws yr adran. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael cymorth cyson waeth pa ran o DWP maent yn rhyngweithio 但 hi neu ym mha ran or wlad maent yn byw.
Bydd y rhaglen hyfforddi newydd, ar 担l ei chwblhau, yn defnyddio dulliau a chynhyrchion dysgu amrywiol sydd wediu cynllunio i ddarparur profiad dysgu gorau posibl. Bydd yn cael ei gwblhau gan yr holl gydweithwyr newydd syn ymuno 但r DWP a bydd ar gael fel hyfforddiant gloywi i staff presennol gan sicrhau bod gan holl gydweithwyr DWP fynediad at wybodaeth syn eu helpu i gefnogi a deall ein cwsmeriaid.
7.3 Grymuso trwy ddysgu a hyfforddi: Effaith yr ACSSLs
Mae gennym 37 o Uwch Arweinwyr Cymorth Uwch i Gwsmeriaid (ACSSLs) wediu lleoli ledled Prydain Fawr, gyda chefnogaeth T樽m Cyflenwi ACS arbenigol. Rhan allweddol ou r担l yw darparu dysgu a hyfforddi i gynyddu gallu ar draws y timau syn gweithio gydan cwsmeriaid, a fydd yn eu helpu i gefnogi yn y ffordd orau y rhai mwyaf agored i niwed ar rhai sydd mewn perygl.油
Weithiau maer dysgu hwn yn ymwneud 但 materion cenedlaethol fel cam-drin domestig a digartrefedd, ond gan fod ein ACSSLs wediu hymgorffori yn eu hardaloedd lleol maent hefyd yn deall anghenion eu cymunedau lleol a pha gymorth sydd ar gael i gwsmeriaid a chydweithwyr DWP yn yr ardaloedd hynny.油
Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cyflwynodd ACSSLs au timau cyflenwi dros 400 o sesiynau dysgu syn effeithio ar oddeutu 34,000 o bobl i gefnogi cydweithwyr rheng flaen ar faterion gan gynnwys:
-
Mynychodd 800 o gydweithwyr sesiynau dysgu yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Ymosodiadau Rhywiol, i ddarparu gwybodaeth am yr effaith ar ddioddefwyr au teuluoedd.油
-
Mynychodd 652 o gydweithwyr ledled Llundain ac Essex sesiwn holi ac ateb i gynyddu gallu o amgylch prosesau penodai corfforaethol.
-
Rhoddwyd sesiwn uwchsgilio i 152 o gydweithwyr UC yng Nghymru ar ba wybodaeth y gallant ei rhannu pan fo cwsmer mewn perygl.油
-
Mynychodd 730 o gydweithwyr sesiynau codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ar mecanweithiau cymorth sydd ar gael.
-
Cymerodd 400 o油 gydweithwyr Lwfans Gweini ran mewn sesiwn i fagu eu hyder wrth gefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol yn effeithiol.
-
Mynychodd 259 o gydweithwyr y Gyfarwyddiaeth Gwrth-dwyll a Chydymffurfiaeth (CFCD) sesiwn sut i nodi a chefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.
-
Mynychodd 98 o gydweithwyr o Dundee, Angus a Swydd Perth sesiwn uwchsgilio ar Gymorth Uwch i Gwsmeriaid a sut i helpu a chefnogir cwsmeriaid hynny sydd ei angen.
8. Bod yn sefydliad syn dysgu
8.1 Gwella llythyrau cwsmeriaid ar gyfer gwell cymorth i gwsmeriaid
Gwyddom y gall hyd yn oed newidiadau bach a wnawn rydym yn eu gwneud gael effaith fawr ar ein cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion ychwanegol syn ceisio llywio cymhlethdod ein systemau neu brosesau. Rydym wedi dysgu o sawl un on Hadolygiadau Prosesau Mewnol nad yw rhai on llythyrau a ddefnyddir lle gordalwyd cwsmeriaid yn hawdd iw deall ac o ganlyniad efallai na fydd cwsmeriaid yn gwbl ymwybodol ou holl opsiynau. Er mwyn datrys hyn, rydym wedi gweithio gyda thimau ar draws DWP iw gwella.
Nododd ACS llythyr Credyd Cynhwysol, nad oedd yn esbonion glir yr holl opsiynau sydd ar gael i ad-dalur arian neu lle gallai cwsmeriaid gael mynediad at gymorth. Cyhoeddwyd y llythyrau i gwsmeriaid heb unrhyw sgwrs flaenorol i drafod y gordaliad neu roi cyfle ir cwsmer ofyn cwestiynau. Gwnaethom gymryd camau i edrych ar yr iaith a ddefnyddir yn y llythyrau iw gwneud yn gliriach i gwsmeriaid eu deall ac iddynt nodir gwahanol opsiynau sydd gan gwsmeriaid, yn ogystal 但 gwybodaeth am ble y gallant gael mynediad at gymorth.
Roedd llythyr arall, a anfonwyd gan Lwfans Gweini, yn defnyddio hen dermau fel Yellow Pages nad oeddent bellach yn berthnasol yn y byd cyfoes. Maer llythyr油 hwn wedii ddiweddaru ac mae eglurder ychwanegol wedii gynnwys ar sut y gallai cwsmeriaid dalu ac ailadrodd y negeseuon am yr opsiynau sydd ar gael i gefnogi ad-dalu.
Yn ogystal 但 newid yr llythyrau油 eu hunain, rydym wedi edrych ar sut rydym yn eu dosbarthu ir cwsmeriaid y credwn y gallai fod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ga neu bod yn agored i niwed neu oherwydd swm y gordaliad. Rydym bellach wedi gosod y cam ychwanegol i gydweithwyr allu trefnu i un on swyddogion ymweld ymweld 但r cwsmer i roi esboniad wyneb yn wyneb a chynnig y gefnogaeth bellach honno, gan ein bod yn deall y bydd rhai cwsmeriaid yn bryderus iawn pan fydd arian yn ddyledus ganddynt ir adran.
8.2 Gwella polis誰au ac arferion i gefnogi pobl syn gadael y carchar
On gwaith yn ACS, ynghyd 但 gwaith ehangach a wnaed gydar Gyfarwyddiaeth Profiad Cwsmer ar fapio teithiau cwsmeriaid, rydym wedi nodi y gellid gwella rhai on prosesau i gefnogi gwahanol grwpiau o gwsmeriaid agored i niwed yn well. Un or meysydd rydym wedi bod yn gweithio arno yw gwella sut rydym yn gweithio gyda phobl syn gadael y carchar.
Gan weithion agos gydar Weinyddiaeth Gyfiawnder, gwelsom fod carcharorion yn wynebu nifer o anawsterau ar 担l iddynt gael eu rhyddhau or carchar, yn benodol o ran cysylltu 但 DWP. Ymhlith y rhesymau dros hyn yw sgiliau digidol isel, diffyg mynediad at ff担n, digartrefedd, problemau iechyd meddwl a phroblemau caethiwed.
Er mwyn gwellar sefyllfa hon, rydym wedi bod yn profi nifer o ffyrdd y gellir gwella ein gwasanaeth a sut y gellir rhoir systemau cymorth angenrheidiol ar waith iw helpu i drosglwyddo i gyflogaeth. Mae hyn wedi cynnwys adolygu polis誰au ar draws gwahanol fudd-daliadau i nodi a oes anghysondebau ac i werthuso r担l anogwr gwaith y carchar. Rydym hefyd yn profi rhoi anogwr gwaith mewn swyddfa prawf i weld a yw hynnyn helpu iw cadw i ymgysylltu a lleihaur risg y bydd pethau yn mynd oi le.油
Rydym hefyd wedi cymryd camau i ddatrys oedi wrth ailddechrau talu Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn gyflym lle mae carcharor yn dal i gael hawl iddo ar 担l eu rhyddhau. Trwy egluror canllaw y mae ein cydweithwyr yn ei ddilyn au hatgoffa or peth cywir iw wneud, maen golygu bod rhwystr posibl iddynt symud ymlaen, ar 担l eu rhyddhau, wedii ddileu.
9. Ymrwymiad ACS i ddarparu cymorth i gwsmeriaid油 agored i niwed油油
Dim ond rhywfaint油 or gwaith y mae ACS yn ei wneud i gefnogi ein cydweithwyr an cwsmeriaid agored i niwed ywr hyn yr ydych wedii ddarllen amdano yn y cyhoeddiad hwn, boed hynny trwy roi cyngor, cysylltu ag eraill sydd 但r arbenigedd i helpu i ddelio 但 rhai or heriau y mae cwsmeriaid yn eu hwynebu, neu drwy fynd allan i weld y rhai nad ydynt yn gallu dod in gweld.油
Trwy gydol y flwyddyn 2023 i 2024 cafodd:
-
126 o achosion cwsmeriaid eu huwchgyfeirio trwy Whitemail (o 6 Rhagfyr 2023)油
-
707 o achosion cwsmeriaid eu huwchgyfeirio trwy Gwrando ar Alwadau
-
155,000 o gwsmeriaid eu cefnogi drwy ymweliadau
-
3,260 o atgyfeiriadau Porth ACS eu derbyn lle rhoddodd cydweithwyr gymorth ar gamau iw cymryd i gefnogi cwsmeriaid
-
10,830 o gwsmeriaid eu helpu trwy atgyfeiriadau ACSSL
Mae hynnyn golygu ein bod wedi cyffwrdd 但 bywydau bron i 170,000 o油 gwsmeriaid pan oedd angen cymorth ychwanegol arnynt.
Nid dim ond y gefnogaeth uniongyrchol hon syn bwysig serch hynny. Rydym hefyd wedi dangos bod yr hyn rydym yn ei ddysgu gan y cwsmeriaid rydym yn eu cefnogi yr un mor bwysig. Mae gallu gweld lle nad yw pethau wedi mynd cystal ag y byddem ei eisiau ac i roi gwelliannau wrth wraidd yr holl waith rydym yn ei wneud. Rydym bob amser eisiau dysgu a gwella i helpur cwsmeriaid hynny rydym yma iw cefnogi.
Fodd bynnag, dim ond canran fach or rhai syn derbyn cymorth ac yn cael eu helpu bob dydd gan ein cydweithwyr ar draws DWP ywr cwsmeriaid rydym yn darparu cymorth ychwanegol iddynt. Boed hynny ar y ff担n, mewn swyddfa, neu weithio gyda sefydliadau partner, rydym i gyd yma i gefnogi ein cwsmeriaid pan fydd ei angen arnynt.
10. Sut i gael help os oes angen cymorth ychwanegol arnoch油
10.1 Cael help a chymorth ychwanegol i reoli eich budd-daliadau neu bensiwn
Rydyn nin gwybod bod gallu cael mynediad at gymorth pan fo ei angen yn bwysig iawn ac os ydych chi, neu rywun rydych chin ei helpu, yn cael trafferth i reoli cais am fudd-dal neu Bensiwn y Wladwriaeth, mae cymorth ychwanegol ar gael gan DWP.
Mae gwybodaeth am yr help ar cymorth y gallwn ni ei gynnig ar gael ar 51画鋼 a gallwch chi ddod o hyd iddo yn: Cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol i reoli eich budd-daliadau neu bensiwn - 51画鋼油
10.2 Sefydliadau 3ydd Parti syn cydweithio gyda DWP
Os nad oes gennych chi berthynas gydach ACSSL lleol yn barod, ac rydych chin meddwl y byddai hyn yn fuddiol, gallwch chi holi trwy ein timau partneriaeth genedlaethol. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu 但 nhw ar gael ar 51画鋼 a gallwch chi ddod o hyd iddo yn: National partnership team contacts for England, Scotland and Wales 51画鋼.
10.3 Cymorth ar y pynciau rydym ni wedi cynnwys yn y cyhoeddiad hwn
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un or pynciau rydym ni wedi cynnwys yn y cyhoeddiad hwn, mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar-lein:
-
Digartrefedd Cymorth os ydych chin ddigartref neu ar fin dod yn ddigartref油 - 51画鋼
-
Cam-drin Domestig Cam-drin Domestig: sut i gael help - 51画鋼
10.4 Iechyd Meddwl油
Cymru
Lloegr
Yr Alban
10.5 Teimladau Hunanladdol
Cymru
Lloegr
Yr Alban
Ymwadiad
Sylwch nad ywr ddogfen hon yn nodi cyfanrwydd y gwasanaethau ar cynhyrchion y mae DWP yn eu darparu, a gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon DWP. Oherwydd y gwahanol setliadau datganoli yng Nghymru ar Alban, efallai na fydd rhai gwasanaethau y cyfeirir atynt yn gweithredu ledled Prydain Fawr.