Cyfarwyddyd ymarfer 6: disgyniad ar farwolaeth perchennog cofrestredig
Diweddarwyd 14 Hydref 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Maer cyfarwyddyd hwn yn nodir dystiolaeth syn ofynnol ar gyfer ceisiadaun ymwneud 但 marwolaeth perchennog ystad mewn tir.
Yn dilyn marwolaeth perchennog cofrestredig, rydym yn cynghori bod y gofrestr yn cael ei diweddaru fel mesur i atal twyll.
O dan adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, bydd angen ichi wneud cais am gofrestriad cyntaf ystad ddigofrestredig syn destun trosglwyddo neu gydsynio. I gael rhagor o fanylion, gweler.
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, bydd dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.
Os nad yw eich cais yn gofrestriad cyntaf, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir or gwreiddiol gan ddefnyddior datganiadau ardystio sydd ar gael wrth uwchlwytho gweithredoedd neu ddogfennau in gwasanaethau digidol.
Byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop誰au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant.
2. Effaith marwolaeth ar ystad mewn tir neu arwystl neu forgais
2.1 Yr unig berchennog cyfreithiol
Pan fo unig berchennog cyfreithiol yn marw, bydd breinio unrhyw ystad gyfreithiol, arwystl neu forgais oedd yn eiddo iddo yn dibynnu ar pun ai oedd gan yr ymadawedig ewyllys ddilys.
Lle bor ymadawedig wedi penodi ysgutor, ystyrir bod yr ysgutor yn cael y teitl ar farwolaeth y perchennog. Fodd bynnag, rhaid i ysgutor brofi ei hawl i ddelio 但r ystad gyfreithiol, arwystl neu forgais trwy gael profiant cyn bydd Cofrestrfa Tir EF naill ain ei gofrestrun berchennog neun derbyn trawsgludiad neu drosglwyddiad ganddo (Jennison v Jennison [2022] EWCA Civ 1682 at 18).
Fodd bynnag, pan for perchennog yn marw heb ewyllys, maer ystad gyfreithiol yn breinio yn yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus (adran 9 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925).
Er y gall ewyllys neu reolau diffyg ewyllys arwain at fudd ecwit誰ol, nid ywr ystad gyfreithiol yn breinio mewn buddiolwr hyd nes y ceir grant cynrychiolaeth a bod y tir yn cael ei drawsgludo ir buddiolwr.
Rhaid ystyried y gwahaniaeth rhwng ysgutor a gweinyddwr fel y nodir yn Woolley v Clark (1822) B ac Ald 744 at 745-746. Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn gwarediad gan weinyddwr syn rhagddyddior llythyrau gweinyddu.
2.2 Marwolaeth cydberchennog
Pan fo ystad gyfreithiol yn cael ei dal gan gydberchnogion, ar farwolaeth un perchennog, maer ystad gyfreithiol yn breinio yn y goroeswr(wyr). O ran yr ystad gyfreithiol, nid oes gwahaniaeth a oedd y perchnogion yn dal yr ystad fel cyd-denantiaid llesiannol neu denantiaid cydradd; mae ystad gyfreithiol yn anrhanadwy (adrannau 1(6) a 36(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Ni all ysgutor neu weinyddwr y perchennog ymadawedig drosglwyddo cyfran yn yr ystad gyfreithiol. Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr neu ysgutor cydberchennog ymadawedig ymuno mewn gwarediad.
Os bydd goroeswr olaf y cydberchnogion yn marw, rhaid iw cynrychiolwyr personol ymdrin 但r ystad gyfreithiol fel ar gyfer unig berchennog.
2.3 Grantiau profiant neu lythyrau gweinyddu
Er mwyn delio ag eiddo yng Nghymru a Lloegr, rhaid i lys yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon roi grant profiant neu lythyrau gweinyddu.
Nid yw penodi cynrychiolwyr personol a gafwyd y tu allan ir DU yn dystiolaeth dderbyniol oni bai ei fod wedi ei ail-selio gan lys profiant yn y DU (Jennison v Jennison [2022] EWCA Civ 1682 at 20).
Dim ond rhai grantiau tramor penodol gellir eu hail-selio o dan Ddeddf Profiannau Trefedigaethol 1892 a Deddf Profiannau Trefedigaethol (Gwladwriaethau Gwarchodedig a Thiriogaethau Gorfodol) 1927. Unwaith y bydd grant profiant tramor wedi ei ail-ddyroddi, dawn effeithiol i weinyddu unrhyw ystad yng Nghymru a Lloegr. Nid yw ail-selio yn cael effaith 担l-weithredol, felly rhaid i unrhyw warediad 担l-ddyddio dyddiad yr ail-selio.
Os na ellir ail-selior grant tramor, bydd grant cynrychiolaeth llawn a roddwyd yn y DU yn ofynnol. Sylwer na ellir ail-selio grantiau profiant a gafwyd mewn Dibynwledydd y Goron (Beil誰aeth Jersey, Beil誰aeth Guernsey ac Ynys Manaw) ac nid ydynt yn dderbyniol fel tystiolaeth i ddelio ag eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Pan for unig ysgutor, neur ysgutor olaf sydd wedi goroesi, yn marw, daw ei ysgutor yn ysgutor yr ewyllysiwr gwreiddiol.
Gelwir hyn yn gadwyn cynrychiolaeth a gall barhau am gyfnod amhenodol cyn belled 但 bod pob ysgutor yn penodi ei ysgutor ei hun syn cael profiant.
Maer gadwyn cynrychiolaeth yn cael ei thorri gan naill ai:
- diffyg ewyllys
- methiant ewyllysiwr i benodi ysgutor
- methiant i gael profiant ewyllys
Yn achos grant i atwrnai ysgutor, er bod ewyllys wedi ei gwneud, rhoddir llythyrau gweinyddu ac felly maer gadwyn yn cael ei thorri, oni bai bod yr ysgutor yn cael profiant yn ddiweddarach.
Gall goroeswr cyd-weinyddwyr ddelio ag ystad yr ymadawedig. Fodd bynnag, pan fydd y gweinyddwr olaf sydd ar 担l yn marw, ni ellir cael cadwyn, a bydd llythyrau de bonis non administrati yn ofynnol. Gan mai math o lythyrau gweinyddu ywr rhain, sylwer nad ydynt yn gymwys yn 担l-weithredol.
Rhaid ir holl brofiannau yn y gadwyn gael eu rhoi yng Nghymru neu Loegr. Ni all cadarnhad Albanaidd neu brofiant a roddir yng Ngogledd Iwerddon, er eu bod yn dderbyniol i ddelio 但 thir yng Nghymru a Lloegr, fod yn rhan o gadwyn cynrychiolaeth (adran 1(3) o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1971).
Mae cyfeiriadau at grant profiant neu lythyrau gweinyddu yng ngweddill y cyfarwyddyd hwn at y rhai a roddir yn y DU neu a ail-seliwyd gan lys yng Nghymru neu Loegr yn unig.
3. Marwolaeth unig berchennog (neu unig berchennog i oroesi) ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais
3.1 Nodir farwolaeth
Ar 担l cyflwyno tystiolaeth o farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr yn adlewyrchur hysbysiad o farwolaeth. Dylid gwneud y cais trwy gynnwys trafodiad marwolaeth unig berchennog yn eich cais. Nid oes dim iw dalu.
Lle rhoddwyd Tystysgrif Marwolaeth Dybiedig o dan Ddeddf Rhagdybiaeth Marwolaeth 2013, byddwn yn yr un modd yn gwneud cofnod yn y gofrestr yn adlewyrchur hysbysiad or farwolaeth dybiedig. Sylwer nad yw datganiad yr Uchel Lys yn unig yn dystiolaeth ddigonol.
3.2 Cofrestrur cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol
Gall cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol unig berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais wneud cais i gael ei gofrestrun berchennog (perchnogion) yr ystad, arwystl neu forgais yn ei rinwedd fel cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yn ller perchennog ymadawedig. I wneud cais i gofrestru yn y ffordd hon bydd yn rhaid ichi gynnwys y trafodiad trosglwyddiad trwy weithredur gyfraith ar farwolaeth yn eich cais ac:
-
uwchlwytho copi ardystiedig neu gopi swyddfa or grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodir ceisydd (ceiswyr) yn gynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu ar ran y ceisydd (ceiswyr) tystysgrif gan drawsgludwr yn datgan ei fod yn dal y profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys gwreiddiol neu gopi swyddfa ohonynt. Rhaid ir dystysgrif gynnwys cadarnhad o roir grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig. Rhaid ir dystysgrif gadarnhau hefyd nad ywr grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn gyfyngedig. Os na all y trawsgludwr gadarnhau nad ywr grant yn gyfyngedig, bydd copi ardystiedig or grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn ofynnol, ac os na ddarperir hyn gydar cais, anfonir ymholiad i ofyn amdano.
-
gynnwys y ffi syn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol gweler cyfredol
Unwaith iddynt gael eu cofrestrun berchnogion, gall y cynrychiolwyr personol wedyn drosglwyddo neu gydsynior ystad, neur arwystl neu forgais. Gweler Cofrestru gwarediad gan y cynrychiolwyr personol.
Pan fydd grant cynrychiolaeth cyfyngedig wedi ei gyhoeddi, a bod y grant樽 wedi ei gofrestrun berchennog, gallwn ychwanegu nodyn at gofnody perchennogi adlewyrchu cyfyngiadaur grant ac y gall unrhyw b典er i waredur ystad neur arwystl cofrestredig ddod i ben.
Pan fydd y person sydd 但 hawl lwyr yn blentyn o dan oed, byddwn yn cofnodi cyfyngiad dim ond os gwneir cais am un ar ffurflen RX1.
Pan fydd grant yn cael ei roi i berson yn ystod gweddwdod, neu pan fydd yr ewyllys ar goll, wedi ei dinistrio neu ei difrodi, ni fydd angen cyfyngiad gan y bydd ffurf cofnod y perchennog yn gwneud y sefyllfan glir.
Os ywr grant i atwrnai ysgutor neu berson sydd 但 hawl i gael llythyrau gweinyddu, bydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad oi wirfodd ei hun (yn absenoldeb cais am un) a fydd yn gofyn am ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y grant樽 iw gyflwyno i gefnogi gwarediad dilynol yr ystad neur arwystl cofrestredig.
3.3 Cofrestru gwarediad gan y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol
Gall cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol unig berchennog ymadawedig yr ystad gofrestredig, neu arwystl neu forgais, ddelio 但r cyfryw ystad gofrestredig neu arwystl heb fod eu hunain yn gofrestredig felly yn gyntaf. Gallant wneud hyn trwy drosglwyddo, neu drosglwyddo trwy gydsynio neu berchnogi gan ddefnyddior ffurflen briodol yn y naill achos neur llall. I wneud cais i gofrestru gwarediad or fath bydd yn rhaid ichi gynnwys y trosglwyddiad neu drafodiad cydsynio priodol yn eich cais (neu lenwi ffurflen FR1 os ywr trosglwyddiad neu gydsyniad yn peri cofrestriad cyntaf):
- uwchlwytho naill ai
- ffurflen drosglwyddo TR1 (os ydych yn gwerthur ystad gofrestredig gyfan)
- ffurflen drosglwyddo TP1 (os ydych yn gwerthu dim ond rhan or ystad gofrestredig)
- ffurflen gydsynio AS1 (os ywr holl ystad gofrestredig yn destun y cydsynio)
- ffurflen gydsynio AS3 (os mai dim ond rhan or ystad gofrestredig syn destun y cydsynio)
- uwchlwytho naill ai ffurflen drosglwyddo TR4 (os oedd yr ymadawedig yn berchennog arwystl neu forgais), neu ffurflen gydsynio AS2
- uwchlwytho copi ardystiedig neu gopi swyddfa or grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu orchymyn llys yn penodir trosglwyddwr yn gynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu ar ran y ceisydd) tystysgrif gan drawsgludwr yn datgan ei fod yn dal y profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys gwreiddiol neu gopi ardystiedig neu gopi swyddfa ohonynt. Gellir ychwanegur dystysgrif, lle bon briodol, ym mhanel 11 ffurflen TR1, ffurflen AS1 a ffurflen AS2, ym mhanel 9 ffurflen TR4 ac ym mhanel 12 ffurflen TP1 a ffurflen AS3. Rhaid ir dystysgrif gynnwys cadarnhad o grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig. Ni fydd angen y dystiolaeth hon arnom os ywr cynrychiolydd personol eisoes yn gofrestredig felly
- uwchlwytho tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os nad yw wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr neu nid yw trawsgludwr wedi ardystio ei fod yn fodlon bod camau digonol wedi cael eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth (am ragor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth)
- gynnwys yr hyn sydd iw dalu yn 担l yGorchymyn FfiCofrestru Tir gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru.
Sylwer: Ar gyfer breinio ystadau cofrestredig mewn tenant newydd am oes lle mae setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925, defnyddiwch ffurflen AS1 neu ffurflen AS3 fel y bon briodol. Ychwanegwch y darpariaethau canlynol, gydag unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau angenrheidiol, at y panel darpariaethau ychwanegol.
Maer Cynrychiolydd Personol ar Derbynnydd yn datgan:
- bod yr Eiddo wedi ei freinio yn y Derbynnydd ar yr ymddiriedau a ddatganwyd yn ewyllys (enwr ymadawedig) a brofwyd ar (dyddiad);
- ymddiriedolwyr y setliad yw (enwaur ymddiriedolwyr);
- breiniwyd p典er penodi ymddiriedolwyr newydd yn (enw);
- cyflwynwyd y pwerau canlynol yn ymwneud ag ystadau cofrestredig yn benodol gan yr ewyllys yn ogystal 但r rhai a gyflwynwyd gan Ddeddf Tir Setledig 1925: (nodwch y pwerau ychwanegol).
Dylech hefyd wneud cais am y cyfyngiad priodol gan ddefnyddio ffurflen RX1. Rhaid cyflwynor grant arbennig i ategu hyn.
3.3.1 Atwrnai cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol
Ar 担l i grant cynrychiolaeth gael ei roi, gall cynrychiolydd personol ddirprwyo ei swyddogaeth fel ysgutor neu weinyddwr i atwrnai ond rhaid gwneud hyn trwy b典er a wnaed o dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 (fel yi diwygiwyd gan adran 5 or Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999) a all bara 12 mis yn unig ac felly rhaid ei adnewyddu os ywr dirprwyo i fod am gyfnod hwy.
3.3.2 Atwrnai ysgutor neu berson sydd 但 hawl i roir llythyrau gweinyddu
Lle bor gwarediad gan atwrnai ysgutor neu berson sydd 但 hawl i roi llythyrau gweinyddu, bydd angen datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan yr atwrnai arnom yn cadarnhau nad oedd, ar ddyddiad y gwarediad, wedi cael hysbysiad o farwolaeth yr ysgutor neur person 但 hawl i roi llythyrau gweinyddu, neu gais gan y person hwnnw am grant cynrychiolaeth.
Mae trosglwyddo neu gydsynio gan atwrnai yn gofyn am gofrestriad tybiannol yr atwrnain berchennog yr ystad gofrestredig (neur arwystl), a fyddai, pe bair cofrestriad wedi digwydd ar wah但n, wedi arwain at gofnodi cyfyngiad i sicrhau nad yw unrhyw b典er i waredur ystad gofrestredig (neur arwystl) cofrestredig wedi dod i ben.
3.3.3 Grant cynrychiolaeth cyfyngedig
Gellir rhoi grant cynrychiolaeth cyfyngedig mewn nifer o sefyllfaoedd. Mae hyn yn cynnwys pan for unigolyn a enwir yn ysgutor yn blentyn o dan oed neu pan fydd yr ewyllys wreiddiol wedi ei cholli neu wedi ei dinistrio. O dan amgylchiadau eraill, maen bosibl mai dim ond hyd nes y gofynnir am gynrychiolaeth bellach, neu yn ystod ei weddwdod, y bydd gan grant樽 yr hawl i weithredu.
Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd angen tystysgrif arnom gan y trawsgludwr syn gweithredu ar ran y cynrychiolydd personol yn cadarnhau na cheisiwyd ac na roddwyd cynrychiolaeth bellach, ac (os ywn berthnasol) bod y person a gafodd y grant ar gyfer ei ddefnydd ai fudd yn dal yn fyw.
禽霞鉛温庄r trawsgludwr hefyd ardystio bod y cyfyngiad penodol a gofnodwyd yn y grant yn parhau i fod yn berthnasol ar ddyddiad y gwarediad er enghraifft, nad oedd plentyn o dan oed a gafodd y grant ar gyfer ei ddefnydd ai fudd wedi cyrraedd 18 oed.
Lle collwyd neu lle dinistriwyd yr ewyllys wreiddiol a bod y cynrychiolydd personol wedi ei gofrestru ar sail grant cyfyngedig, bydd angen tystysgrif gan y trawsgludwr syn gweithredu ar ran y cynrychiolydd personol arnom yn nodi nad oedd, ar ddyddiad y gwarediad, yr ewyllys wreiddiol, na chopi mwy cyflawn na dilys ohoni, wedi ei phrofi ar 担l hynny.
Mae grant ad colligenda bona yn ddigon i alluogi cofrestrur grant樽 (grant誰on) yn berchennog (perchnogion) yn ller ymadawedig. Lle byddwn yn cofrestrur cyfryw grant誰on, byddwn yn:
- gwneud cofnod yn y gofrestr perchenogaeth gan ddefnyddior geiriad canlynol:
Maer perchnogion wedi eu cofrestru yn grant誰on llythyrau gweinyddu ad colligenda bona dyddiedig [DYDDIAD] [ENWR PERCHENNOG YMADAWEDIG] syn gyfyngedig dim ond at ddiben [CYFYNGIAD OR GRANT] a nes y rhoddir cynrychiolaeth bellach.
- gwneud cyfyngiad yn y gofrestr gan ddefnyddior geiriad canlynol os nad ywr grant yn awdurdodi gwarediad yr eiddo yn benodol:
Ni chaiff unrhyw warediad gan berchnogion yr ystad gofrestredig ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif yn datgan bod y gwarediad yn angenrheidiol er mwyn diogelur ystad [ENWR PERCHENNOG YMADAWEDIG], ar adeg y gwarediad nad yw unrhyw gynrychiolaeth bellach wedi cael ei cheisio neu ei rhoi yn y mater, ac ar yr adeg honno nad oedd y grant誰on a enwir yn y llythyrau gweinyddu ad colligenda bona y cyfeirir atynt uchod yn ymadawedig neu wedi eu diddymu.
- gwneud cofnod yn y gofrestr gan ddefnyddior geiriad canlynol os ywr grant yn awdurdodi gwarediad yr eiddo yn benodol:
Ni chaiff unrhyw warediad gan berchnogion yr ystad gofrestredig ei gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif yn datgan ar adeg y gwarediad nad yw unrhyw gynrychiolaeth bellach wedi cael ei cheisio neu ei rhoi ar gyfer ystad [ENWR PERCHENNOG YMADAWEDIG] ac ar yr adeg honno nad oedd y grant誰on a enwir yn y llythyrau gweinyddu ad colligenda bona y cyfeirir atynt uchod yn ymadawedig neu wedi eu diddymu.
Rhaid i unrhyw warediad gan y grant樽 (grant誰on) o dan grant ad colligenda bona gael ei ategu gan y dystysgrif briodol.
3.4 Rhyddhau arwystl neu forgais lle mair ymadawedig oedd eu hunig berchennog
Gall cynrychiolwyr personol unig berchennog ymadawedig arwystl neu forgais, heb fod yn gofrestredig eu hunain felly yn gyntaf, wneud cais i ddileu cofrestriad yr arwystl neu forgais ar 担l ei ryddhau. I wneud cais, bydd yn rhaid ichi gynnwys y trafodiad rhyddhau pridiant yn eich cais ac uwchlwytho:
- ffurflen DS1 (lle caiff yr ystad gofrestredig gyfan ei rhyddhau or arwystl neu forgais)
- ffurflen DS3 (lle caiff yr arwystl neu forgais ei ryddhau ar ran yn unig or ystad gofrestredig)
- tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os nad yw wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr neu nid yw trawsgludwr wedi ardystio ei fod yn fodlon bod camau digonol wedi cael eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth (am fanylion pellach, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth)
- copi ardystiedig neu gopi swyddfa or grant profiant neu lythyrau gweinyddu, neu (lle mae trawsgludwr yn gweithredu o blaid yr arwystl) tystysgrif a roddir gan y trawsgludwr ei fod yn dal y grant profiant neu lythyrau gweinyddu gwreiddiol neu gopi swyddogol ohonynt. Rhaid ir dystysgrif gynnwys cadarnhad o grant profiant, llythyrau gweinyddu neu orchymyn llys yn y Deyrnas Unedig.
Nid oes dim iw dalu.
3.5 Breinio a/neu drosglwyddo eiddo fel bona vacantia ar ddiewyllysedd
Lle bo ystad weddilliol person diewyllys wedi breinio fel bona vacantia yng Nghyfreithiwr y Trysorlys (fel enwebair Goron) neu un or Dugiaethau Brenhinol, bydd copi ardystiedig neu gopi swyddogol or grant llythyrau gweinyddu ar gyfer yr ymadawedig yn ofynnol gydag unrhyw gais cysylltiedig a uwchlwythir.
4. Marwolaeth cydberchennog ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais
Mae ystad gyfreithiol mewn tir yn anwahanadwy (adran 1(6) a 34(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Ar farwolaeth cydberchennog, maer ystad gyfreithiol yn breinio yn y goroeswr(goroeswyr) trwy hawl i oroesi (jus accrescendi). Nid oes gan gynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol perchennog ymadawedig unrhyw b典er i ddelio 但r ystad gyfreithiol.
Yn wahanol i gynrychiolydd/cynrychiolwyr personol unig berchennog (syn goroesi), nid oes gan gynrychiolwyr personol cydberchennog ymadawedig hawl i gael eu cofrestrun berchnogion ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais ochr yn ochr 但 pherchennog/perchnogion syn goroesi.
Os bydd angen ichi wneud cais i dynnu enw cydberchennog ymadawedig yr ystad gofrestredig lle maer ystad gyfreithiol yn breinio yn yr un/y rhai syn goroesi neu arwystl neu forgais or gofrestr, bydd yn rhaid ichi gynnwys trafodiad marwolaeth cydberchennog ac uwchlwytho:
- ffurflen DJP
- tystiolaeth o farwolaeth, naill ai:
- tystysgrif marwolaeth, neu dystysgrif rhagdybio marwolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig gan drawsgludwr o ffaith y farwolaeth, a ddylai gynnwys enw llawn yr ymadawedig, dyddiad y bu farw a naill ai ddyddiad geni neu oed yr ymadawedig pan fu farw, neu
- grant profiant neu lythyrau gweinyddu gwreiddiol, neu gall trawsgludwr lenwir dystysgrif yn rhan C panel 4 ffurflen DJP i ardystio ei fod yn dal y gwreiddiol neu gopi swyddogol y cyfryw grant profiant neu lythyrau gweinyddu
Nid oes dim iw dalu.
5. Atebolrwydd o ran tollau marwolaeth
Lle bu perchennog ystad gofrestredig farw cyn 13 Mawrth 1975 ai bod yn ymddangos y byddai tollau marwolaeth iw talu ar yr ystad gofrestredig, roeddem yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr yn 担l yr arfer.
Nes cofrestru gwarediad o blaid prynwr am arian neu werth arian, maer tir yn agored ir fath dollau marwolaeth all fod yn daladwy neu a all godi oherwydd marwolaeth A.B. o [cyfeiriad] a fu farw ar [dyddiad].
Byddwn yn dileur cofnod hwn yn awtomatig ar adeg cofrestru trosglwyddiad yr ystad gofrestredig trwy werthu neu warediad arall am werth. Fodd bynnag, gallwch wneud cais iw ddileu ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF.
6. Atebolrwydd o ran treth etifeddiant (treth trosglwyddo cyfalaf yn flaenorol)
Cyflwynwyd treth trosglwyddo cyfalaf gan Ddeddf Cyllid 1975. Ar 25 Gorffennaf 1986, sef dyddiad gweithredu Deddf Cyllid 1986, ailenwyd y dreth yn dreth etifeddiant.
Pan fydd treth etifeddiant yn ddyledus i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF, bydd arwystl statudol ou plaid yn cael ei osod ar yr ystad gofrestredig syn destun y rhodd. Os ydynt yn dymuno hynny, gall y Comisiynwyr wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AN1 i ddiogelur arwystl hwn trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr o dan reolau 80 ac 81 o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel a ganlyn.
Rhybudd o arwystl Cyllid a Thollau EF (Cyfeir-rif ) o ran y fath dreth a all godi.
Pan fon briodol, gallwn hefyd wneud cofnod or fath ar adeg cofrestriad cyntaf yr ystad.
Pan fo cofnod or fath yn ymddangos yn y gofrestr ni fyddwn yn ei ddileu oni bai ein bod yn cael ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF. Os ywr Comisiynwyr wedi ardystio ar y ffurflen CN1 bod y cais i ddileu i ddod i rym dim ond ar adeg cofrestru gwarediad i brynwr, byddwn yn tynnur cofnod or gofrestr dim ond pan ddawr ffurflen CN1 gyda chais priodol i gofrestrur trosglwyddiad, neu warediad penodol arall, o blaid y prynwr. Bydd y cofnod yn aros yn y gofrestr hyd yn oed ar adeg cofrestru trosglwyddiad trwy werthu nes inni dderbyn ffurflen CN1 wedi ei llenwi gan y Comisiynwyr.
Yn achos cais am gofrestriad cyntaf nad ywn seiliedig ar warediad am werth a lle bo rhodd wedi ei gwneud o fewn 8 mlynedd o ddyddiad y cais, lle na ddatgelir unrhyw arwystl ac nad oes pridiant tir dosbarth D(i) yn cael ei gofrestru, byddwn yn ystyried a oes unrhyw atebolrwydd o ran treth trosglwyddo cyfalaf neu dreth etifeddiant wedi codi.
Lle maen ymddangos or cais bod gwerth net ystad yr ymadawedig yn uwch nar trothwy treth perthnasol ar ddyddiad y farwolaeth, a bod angen inni anfon ymholiadau ar bwyntiau eraill, byddwn yn eich hysbysu ein bod yn bwriadu gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr.
Rhybudd or posibilrwydd o arwystl Cyllid y Wlad mewn perthynas 但r cyfryw dreth etifeddiant a all godi o ganlyniad i farwolaeth 束ENW損 a fu farw ar 束DYDDIAD損.
Os na fydd unrhyw ymholiadau eraill yn codi, byddwn yn gwneud y cofnod hwn yn y gofrestr ac yn cynnwys llythyr ar 担l cwblhaur cais yn cadarnhau bod y cofnod wedi ei wneud.
Fodd bynnag os ydych yn darparu nodyn ysgrifenedig o amgylchiadaur achos gan gadarnhau naill ai nad oedd unrhyw dreth etifeddiant iw thalu erioed, neu ei bod wedi ei thalun llawn, ni fyddwn yn gwneud y cofnod. Fel arall, gallwch ddarparu tystysgrif rhyddhau o Swyddfa Cyllid a Thollau EF, neu lythyr oddi wrthynt, wedi ei gyfeirio at y cofrestrydd yn cadarnhau hyn.
Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn copi or grant profiant ei hunan fel tystiolaeth ddigonol bod treth etifeddiant wedi ei thalu. Mae hyn oherwydd ei bod yn bosibl talu treth etifeddiant mewn rhandaliadau blynyddol o dan rai amgylchiadau.
7. Ymddiriedau
Lle mae tir yn cael ei ddal ar ymddiried, efallai y bydd cyfyngiad ar Ffurf A safonol neu un cyfwerth cynharach wedi cael ei gofnodi yn y gofrestr. I gael rhagor o wybodaeth ar ymddiriedau tir a chyfyngiadau ar Ffurf A safonol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat. Geiriad cyfyngiad Ffurf A yw:
Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi iw gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y Llys.
Bydd cais i gofrestru gwarediad o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi a wneir gan unig berchennog syn goroesi yn cael ei ddal gan gyfyngiad Ffurf A syn bodoli. Gan mai dim ond y budd llesiannol syn symud ar farwolaeth cydberchennog iw gynrychiolwyr personol, dyma fydd y sefyllfa hyd yn oed os ywr cynrychiolwyr personol yn gweithredu gydar perchennog syn goroesi. Lle maer tir yn parhau i gael ei ddal ar ymddiried, dylid penodi ail ymddiriedolwr (a all fod yn gynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol yr ymadawedig ond nid oes yn rhaid iddo fod yn un) i weithredu gydar perchennog syn goroesi. Gweler adan 7.2 cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat. Mae hyn iw gyferbynnu 但 gwarediad gan gynrychiolwyr personol unig berchennog syn goroesi. Yma, maer ystad gyfreithiol yn breinio yn y cynrychiolwyr personol ar farwolaeth yr unig berchennog (adran1(1) o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925). Ar yr amod bod o leiaf 2 gynrychiolydd personol, ni chaiff gwarediad ei ddal gan y cyfyngiad.
Yn dilyn marwolaeth cydberchennog, os yw unig berchennog syn goroesi wedi dod yn unig berchennog llesiannol, dylid ystyried gwneud cais i ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A syn bodoli gweler Tynnu cyfyngiad Ffurf A or gofrestr. Maer un peth yn wir lle maer perchnogion cofrestredig syn parhau, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, wedi cael hawl fel cyd-denantiaid llesiannol.
Caiff cyfyngiad Ffurf A ei ddileun awtomatig dim ond pan gaiff trosglwyddiad syn gorgyrraedd unrhyw fuddion o dan ymddiried ei gofrestru. Lle na chafwyd trosglwyddiad or fath ond bod unrhyw ymddiriedau ar yr hyn y daliwyd y tir wedi dod i ben, efallai y bydd gwneud cais i ddileur cyfyngiad ar y cyfle cyntaf yn osgoi problemaun codi ar warediad yn y dyfodol pan nad ywr dystiolaeth angenrheidiol bellach ar gael yn hawdd.
8. Tynnu cyfyngiad Ffurf A or gofrestr
Dylid gwneud cais i ddileur cyfyngiad ar ffurflen RX3. I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad dileu cyfyngiad yn eich cais ac uwchlwytho tystiolaeth or teitl ecwit誰ol i ddangos bod yr unig oroeswr wedi dod yn unig berchennog llesiannol, neu os oes mwy nag un perchennog cofrestredig o hyd, sut y maent wedi dod yn gyd-denantiaid yn hytrach na thenantiaid cydradd.
Y dystiolaeth y byddwn yn ei derbyn fel rheol yw datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn ffurflen ST5 (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd gan yr unig berchennog (berchnogion) syn goroesi, syn dangos sut y daeth yn unig berchennog llesiannol trwy:
- egluror hyn a ddigwyddodd ir budd llesiannol a warchodir gan y cyfyngiad
- os yw wedi symud ir perchennog (perchnogion) syn goroesi, egluro sut y digwyddodd hyn
- (lle bo un perchennog cofrestredig yn parhau) cadarnhau, os ywn wir, nad oes gan unrhyw un heblawr perchennog cofrestredig syn parhau/goroesi fudd llesiannol yn yr eiddo erbyn hyn
- (lle bo 2 neu ragor o berchnogion cofrestredig yn parhau) cadarnhau, os ywn wir, eu bod yn dal yr eiddo ar ymddiried iw hunain (a neb arall) fel cyd-denantiaid llesiannol
- cadarnhau, os ywn wir, nad oes unrhyw fudd llesiannol yn yr eiddo wedi ei forgeisio neu wedi ei arwystlo ar wah但n, ac nad oes ac na fu unrhyw berchennog llesiannol yn ddarostyngedig i orchymyn arwystlo neu achosion methdaliad (nid yw morgais cofrestredig yn cyfrif)
Gellir defnyddio Ffurflen ST5 hefyd i wneud cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr pan, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, bod y perchnogion cofrestredig syn parhau yn cael yr hawl i ddod yn gyd-denantiaid llesiannol.
Yn lle datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, byddwn yn derbyn tystysgrif ir perwyl hwn oddi wrth ytrawsgludwrsyn gweithredu ar rany perchennog(perchnogion) syn goroesi os ywn gallu siarad o wybodaeth bersonol or ffeithiau. Fel arall, gellir uwchlwytho gorchymyn llys yn gofyn ir cofrestrydd ddileur cyfyngiad.
Nid oes dim iw dalu.
Os ywr holl berchnogion cofrestredig wedi marw, gall cynrychiolwyr personol y perchennog olaf syn goroesi wneud cais tebyg gan addasu teleraur datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif yn 担l gofynion yr achos.
9. Pethau iw cofio
Cyn anfon eich cais atom, gwnewch yn siwr eich bod wedi:
- cwblhaur ffurflenni cywir
- talur taliad cywir
- uwchlwytho tystiolaeth or grant cynrychiolaeth/marwolaeth
- llenwi ffurflen RX3 wrth wneud cais i symud cyfyngiad Ffurf A
- uwchlwytho tystiolaeth or teitl ecwit誰ol wrth wneud cais i symud cyfyngiad Ffurf A
- darparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y cynrychiolydd (cynrychiolwyr) personol os ywn ofynnol (gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth am ragor o fanylion)
- edrych ar fanylion clercior holl ffurflenni, fel disgrifiad yr eiddo, rhif teitl a dyddiadau. Yn arbennig, edrychwch ar enwau llawn y part誰on lle byddant yn ymddangos mewn mwy nag un lle megis enwaur cynrychiolwyr personol/buddiolwyr yn y grant cynrychiolaeth ar trosglwyddiad/cydsyniad
Gwnewch yn siwr bod manylion perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig neu arwystl neu forgais yn cael eu diweddaru bob amser. Gall cyfeiriad nad ywn gyfredol olygu nad ydynt yn cael rhybuddion pwysig gan Gofrestrfa Tir EF. O dan reol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid ir perchennog cofrestredig ddarparu cyfeiriad post, a all fod yn gyfeiriad yn y DU neun gyfeiriad tramor, bob amser. Gallant gael hyd at 2 gyfeiriad arall yn y gofrestr hefyd, a all gynnwys ebost, cyfeiriad DX yn y DU neu gyfeiriad post (naill ai yn y DU neu dramor).
Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau syn anghyflawn neun ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.