Canllawiau

Datganiad o Egwyddorion Ystadegau a Cod Ymarfer ar newidiadau i systemau data

Diweddarwyd 12 Chwefror 2020

Rhan 1: Datganiad o Egwyddorion a Gweithdrefnau

Yngl天n 但r Datganiad

1.1 Mae Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (y Ddeddf) yn diwygio Deddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007[troednodyn 1] (Deddf 2007) er mwyn sicrhau bod Awdurdod Ystadegaur DU ai swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG; cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel yr Awdurdod, ac mae cyfeiriadau at ni ac ein yn y ddogfen hon yn gyfeiriadau at yr Awdurdod)[troednodyn 2], yn gallu cael mynediad haws at ystod o ffynonellau data a ddelir yn y sector cyhoeddus ar sector preifat. Maer darpariaethau hyn yn sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol syn rheolir broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol yn y DU yn cyd-fynd 但 fframwaith cyfreithiol partneriaid rhyngwladol y DU, gan gefnogi gwelliannau parhaus i ansawdd, perthnasedd ac amseroldeb ystadegau swyddogol mewn byd newidiol.

1.2 Er mwyn darparu eglurder a thryloywder ynghylch y ffordd y bydd pwerau syn galluogir mynediad hwn yn gweithredu, mae Deddf 2007 hefyd, yn adran 45E o Ddeddf 2007,[troednodyn 3] yn ei gwneud yn ofynnol ir Awdurdod baratoi ac ymgynghori ar Ddatganiad o Egwyddorion a Gweithdrefnau (y Datganiad o hyn ymlaen) syn rheolir ffordd y ceir mynediad at ddata o dan y pwerau newydd, ai gyhoeddi. Maer Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol ir Awdurdod ymgynghori cyn cyhoeddi neu ailgyhoeddir Datganiad, a chyflwynor Datganiad i Senedd y DU ar deddfwrfeydd datganoledig.

1.3 Maer ddogfen hon yn cynrychiolir Datganiad syn ofynnol o dan adran 45E o Ddeddf 2007. Wrth baratoir Datganiad hwn, rydym ni, yr Awdurdod, wedi ystyried ymhlith pethau eraill:

  • Y Comisiynydd Gwybodaeth - Anonymisation: Managing Data Protection Risk Code of Practice (2012)
  • Y Comisiynydd Gwybodaeth - Data Sharing Code of Practice (2011)[troednodyn 4]
  • Y Comisiynydd Gwybodaeth - Conducting Privacy Impact Assessments Code of Practice (2014)
  • Y Comisiynydd Gwybodaeth - Privacy Notices, Transparency and Control Code of Practice (2016)
  • Deddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007
  • Y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol
  • Y ddeddfwriaeth diogelu data[troednodyn 5]
  • Siarter Ymatebwyr SYG ar gyfer Arolygon Busnes
  • Fframwaith Polisi Diogelwch y Llywodraeth
  • Egwyddorion Moesegol Pwyllgor Cynghorir Ystadegydd Gwladol ar Foeseg Data
  • Y Concordat ar Ystadegau rhwng Llywodraeth y DU (gan gynnwys Awdurdod Ystadegaur DU ar Swyddfa Ystadegau Gwladol) ar Gweinyddiaethau Datganoledig

1.4 Maer Datganiad hwn yn ategu ac yn gyson 但r egwyddorion ar disgwyliadau a nodir yn y dogfennau hynny. Maer egwyddorion ar gweithdrefnau a amlinellir yn y ddogfen hon yn gymwys i bob un or ffyrdd rydym yn rhannu ac yn cael mynediad at ddata, gan gynnwys gwybodaeth gan y gweinyddiaethau datganoledig a ddatgelir o hynny ymlaen ir swyddfeydd ystadegol.

Deall y p典er

2.1 Mae ystadegau yn fudd hanfodol ir cyhoedd ar gyfer yr oes wybodaeth mae ansawdd ac ystod ystadegau swyddogol yn rhoi gwybodaeth hollbwysig i wneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y Llywodraeth, busnes a thu hwnt am gymdeithas ac economir DU. Mae ystadegau swyddogol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi democratiaeth iach drwy alluogi unigolion i ddwyn eu cynrychiolwyr etholedig i gyfrif. Er mwyn cynhyrchu ystadegau swyddogol o ansawdd uchel mae angen methodoleg soffistigedig, gadarn a gweithlu ystadegol 但r sgiliau priodol. Ond mae hefyd yn gofyn am fframwaith cyfreithiol syn galluogi cynhyrchwyr ystadegau i gasglu a phrosesur data y mae ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol yn seiliedig arnynt. Mae angen ir cyfryw fframwaith gydnabod:

  • y bydd y ffordd y caiff data eu cynhyrchu yn parhau i newid yn y dyfodol;
  • bod data syn ddefnyddiol ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ar gyfer ymchwil ystadegol yn cael eu dal gan nifer gynyddol o gyrff cyhoeddus a phreifat, ac y bydd y twf mewn ffynonellau data defnyddiol yn parhau yn y dyfodol;
  • yr angen i gynhyrchwyr ystadegau ddeall y data a ddefnyddir ganddynt er mwyn sicrhau y gallant fanteisio ar y nifer gynyddol o ffyrdd y gellir defnyddior data hyn;
  • bod y twf mewn data a deiliaid data yn golygu bod mwy o amrywiad mewn ansawdd data, ac felly bod angen i gynhyrchwyr ystadegau feddu ar yr adnoddau iw helpu i ddeall ansawdd y data hynny a phenderfynu pa mor ymarferol yw defnyddior data hynny wrth gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol;
  • bod sicrhau nad ywr ffaith bod mwy o ddata ar gael i ymchwilwyr yn cael effaith negyddol ar breifatrwydd dinasyddion yn golygu gorfodir sawl syn casglu ac yn trin data i roi mesurau gwella preifatrwydd cadarn ar waith.

2.2 Mae Deddf 2007, fel yi diwygiwyd, yn creu fframwaith cyfreithiol syn rhoi mynediad ir Awdurdod at ddata a ddelir gan gyrff y Goron, awdurdodau cyhoeddus eraill ac ymgymeriadau (gan gynnwys elusennau) er mwyn cefnogi swyddogaethau ystadegol yr Awdurdod. Mae Deddf 2007, fel yi diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol ir cyflenwyr data hyn ymgynghori 但r Awdurdod cyn bod newidiadau yn cael eu gwneud i systemau data er mwyn diogelur cyflenwad data, yn ogystal 但 chywirdeb a dibynadwyeddd ystadegau ac ymchwil ystadegol syn deillio or ffynonellau data hyn. Er mwyn cefnogir broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol datganoledig, mae Deddf 2007 yn caniat叩u i ddata gael eu datgelu mewn ffordd reoledig i swyddfeydd ystadegol y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda chaniat但d cyflenwr y data. Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2007, maer Awdurdod yn parchur safonau uchaf o ran diogelu data, cyfrinachedd a thryloywder. Maer Ddeddf hefyd yn nodi cosbau llym ar gyfer y sawl syn camddefnyddio data a gesglir at ddibenion ystadegol ac yn ei gwneud yn ofynnol ir Awdurdod ofyn am ganiat但d darparwyr data i ddefnyddior wybodaeth a dderbynnir o dan y pwerau hyn ar gyfer ei swyddogaethau mewn perthynas 但 gwasanaethau ystadegol (h.y. o dan adran 22 o Ddeddf 2007) neu cyn datgelu gwybodaeth i Ymchwilydd Cymeradwy o dan adran 39 o Ddeddf 2007.

Egwyddorion a Gweithdrefnau

3.1 Mae adran 45E(5) o Ddeddf 2007 yn ei gwneud yn ofynnol ir Awdurdod baratoi a chyhoeddi Datganiad o Egwyddorion a ystyrir ganddo wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 45B, 45C a 45D or Ddeddf, ar gweithdrefnau a fabwysiedir ganddo wrth gyflawnir swyddogaethau hynny. Mae gennym ni, yr Awdurdod, egwyddorion a gweithdrefnau sefydledig, a gyhoeddir yn y Datganiad hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol:

  • cyflawni ein cyfrifoldebau statudol mewn ffordd deg, gymesur ac atebol, gan roi ystyriaeth ddyladwy i egwyddorion preifatrwydd a lefel briodol o waith craffu mewnol ac allanol;
  • gweithio mewn ffordd gydweithredol, dryloyw a theg gyda chyflenwyr data, cymdeithas sifil ar cyhoedd, gan ymateb i unrhyw bryderon neu gyfleoedd wrth iddynt godi;
  • atgyfnerthu ein hatebolrwydd llawn i Senedd y DU ar deddfwrfeydd datganoledig wrth gyflawni ein cyfrifoldebau statudol.

3.2 Dim ond er mwyn cyflawni un neu fwy on swyddogaethau statudol y byddwn yn gofyn am fynediad i ddata, fel y nodir yn Neddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan gynnwys cynhyrchu ystadegau swyddogol ac ymgymryd ag ymchwil ystadegol syn diwallu anghenion defnyddwyr adnabyddadwy er budd y cyhoedd.[troednodyn 6] Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio 但 deddfwriaeth diogelu data. Wrth gyflawni ein swyddogaethau statudol, byddwn yn cadw at y chwe egwyddor ganlynol y bwriedir iddynt, gydai gilydd, sicrhau bod y safonau moesegol a chyfreithiol uchaf yn gymwys ir cylch bywyd ystadegol llawn, a rhoi sicrwydd a hyder ir cyhoedd ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth ein hystadegau an hymchwil ystadegol. Amlinellir yr egwyddorion hyn isod.

Egwyddor 1: Cyfrinachedd

4.1 Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu cyfrinachedd data a phwysigrwydd cydymffurfio 但 deddfwriaeth diogelu data. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawnir rhwymedigaethau cyfreithiol hynny, byddwn yn cynnal rheolaethau diogelu priodol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu ai bod yn ddiogel bob amser. Byddwn yn asesu ein seilwaith an gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd er mwyn sicrhau uniondeb y mesurau hyn ar hyder ynddynt.

4.2 Mae hyn yn gyson 但r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, syn nodi bod angen i wybodaeth breifat am unigolion a sefydliadau a gesglir wrth gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol gael ei thrin yn gyfrinachol ai defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil ystadegol yn unig.

Egwyddor 2: Tryloywder

5.1 Fel rhan on rhwymedigaethau adrodd statudol, rydym yn ymrwymedig i gyhoeddi gwybodaeth am y ffordd rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau an rhwymedigaethau statudol o ran cael mynediad at ffynonellau data at ddibenion ystadegol ac ymchwil ystadegol. Gan adeiladu ar y wybodaeth a ddarperir gennym ar hyn o bryd drwy ein Datganiad o Ffynonellau Gweinyddol, rydym yn ymrwymo i gyhoeddi adroddiadau rheolaidd syn nodi manylion y data a dderbynnir gennym o dan y pwerau hyn, am ba hyd y cyflenwir y data, ar modd y caiff y data eu defnyddio. Bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys dolenni i allbynnau ystadegol ac ymchwil cyhoeddedig.

5.2 Rydym yn awyddus i sicrhau lefelau uchel o ymddiriedaeth a hyder ymhlith y cyhoedd o ran uniondeb a gwerth ein hystadegau ar ffordd rydym yn cyflawni ein swyddogaethau statudol er mwyn sicrhau bod y sawl syn defnyddio ein hystadegau yn deall y budd y mae ein gwaith yn ei roi ir cyhoedd ar penderfyniadau y gallant eu gwneud gan ddefnyddio ein hystadegau an dadansoddiadau. Ir perwyl hwn, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ac yn parhau i ymgysylltu 但 defnyddwyr er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd iddynt gael gwybodaeth am ffynonellaur data a ddefnyddir gennym, ar data rydym yn bwriadu eu defnyddio, er mwyn cyflawni ein swyddogaethau ystadegol ac ymchwil ystadegol.[troednodyn 7] Fel rhan on swyddogaeth adrodd ac er mwyn helpu cyflenwyr data a gwrthrychau data i ddeall y ffyrdd y caiff eu data eu defnyddio ar mesurau preifatrwydd a diogelwch sydd ynghlwm wrth y modd y defnyddir y data hyn, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod manylion ceisiadau am fynediad at ddata ar ymatebion iddynt yn cael eu cyhoeddin ddiofyn.

5.3 Mewn rhai achosion eithriadol, gall y lefel hon o dryloywder fod yn amhriodol.[troednodyn 8] Mewn achosion lle rydym yn ymwybodol y gallai fod rhesymau dros beidio 但 datgelur wybodaeth hon, rydym yn ymrwymo i ofyn am gyngor cyflenwr y data ac ystyried y cyngor hwnnw cyn penderfynu a ddylem gyhoeddi manylion ceisiadau am fynediad at ddata ar ymatebion iddynt (neur graddau y byddwn yn cyhoeddir manylion ar ymatebion hynny). Maer ymrwymiad hwn yr un mor berthnasol i unrhyw fanylion a gyhoeddir gennym mewn dogfennau y maen ofynnol i ni eu cyflwyno ir Senedd neur deddfwrfeydd datganoledig neu unrhyw ddogfennau y dewiswn eu cyflwyno iddynt.

Egwyddor 3: Moeseg ar gyfraith

6.1 Bydd trefniadau ar gyfer cael mynediad at ddata yn bodlonir holl rwymedigaethau cyfreithiol syn deillio or ddeddfwriaeth diogelu data a deddfwriaeth eraill, fel y bon briodol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod trefniadau ar gyfer cael mynediad at ddata yn parchu safonau moesegol perthnasol, er enghraifft Egwyddorion Moesegol Pwyllgor Cynghorir Ystadegydd Cenedlaethol ar Foeseg Data, gan sicrhau bod y trefniadau hyn yn ein helpu bob amser i gyflawni ein swyddogaethau statudol, gan gynnwys darparu ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol sydd o fudd amlwg ir cyhoedd. Byddwn yn sicrhau bod trefniadau ar gyfer cael mynediad at ddata yn parchu safonau cydnabyddedig o uniondeb ac ansawdd methodolegol, yn mynd ir afael 但 materion yn ymwneud 但 phreifatrwydd a thryloywder, yn rhoi ystyriaeth briodol ir risgiau ar cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth dechnolegau a dulliau casglu data newydd, ac yn destun gwaith craffu, goruchwylio a monitro priodol. Gwneir gwaith monitro a sicrhau ansawdd at ddibenion ystadegol ac ymchwil ystadegol hefyd, gan gynnwys yn unol ag arferion y cytunir arnynt yn rhyngwladol.

6.2 Fel rhan or broses hon, byddwn yn ystyried arfer gorau o ran asesiadau or effaith ar breifatrwydd a hysbysiadau preifatrwydd wrth fynd ati i wneud trefniadau ar gyfer cael mynediad at ddata, fel yu cwmpesir gan ddogfennau Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) Conducting Privacy Impact Assessments Code of Practice a Privacy Notices Code of Practice (syn darparu canllawiau ar gynnwys yr hysbysiadau hyn, yn ogystal 但 ble a phryd iw cyhoeddi). Maer ddeddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i asesiadau or effaith ar ddiogelu data gael eu cynnal cyn ir data gael eu prosesu pan fydd y gwaith prosesun debygol o arwain at risg uchel i hawliau a rhyddid unigolion. Maer ddeddfwriaeth diogelu data hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau preifatrwydd gynnwys gwybodaeth fanylach a mwy penodol nag o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

6.3 Mae hyn yn gyson 但r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, syn nodi bod angen i ddulliau ystadegol gael eu dogfennun llawn a bod yn gyson 但 dulliau cadarn ac arferion gorau.

Egwyddor 4: Budd y cyhoedd

7.1 Byddwn yn cyflawni ein swyddogaethau an cyfrifoldebau statudol mewn ffyrdd syn rhydd o ddylanwad buddiannau sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gennym mewn perthynas 但r ffynonellau data yr hoffem gael mynediad iddynt yn seiliedig ar sail resymegol ystadegol gadarn a budd clir ir cyhoedd. Nodir swyddogaethau statudol yr Awdurdod yn Neddf 2007, gan gynnwys hyrwyddo a diogelur broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd o fudd ir cyhoedd. Mae budd ir cyhoedd yn cynnwys hysbysur cyhoedd am faterion cymdeithasol ac economaidd a helpu i ddatblygu a gwerthuso polis誰au cyhoeddus. Er mwyn gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, gallwn arfer y pwerau newydd hyn i gael mynediad at ddata. Dim ond pan fyddwn yn rhesymol fodlon bod ansawdd a chwmpas y data yn ddigonol in helpu i gyflawni ein swyddogaethau statudol, gan gynnwys cynhyrchu a chyhoeddi allbynnau ystadegol ac ymchwil o ansawdd uchel, y byddwn yn gofyn am fynediad i ddata. Cyn cael mynediad at ddata a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus neu ymgymeriadau (gan gynnwys elusennau) yn unig o dan y pwerau statudol a roddwyd i ni, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod wedi asesu opsiynau amgen hyfyw y gwyddys amdanynt, yn enwedig pan fyddai ffynonellau cyfatebol sydd ar gael ir cyhoedd yn addas.

7.2 Mae hyn yn gyson 但r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, syn nodi bod angen i ystadegau fod o fudd ir cyhoedd, a bod angen i gynhyrchwyr ystadegau sicrhau bod budd y cyhoedd yn drech na buddiannau sefydliadau, gwleidyddol neu bersonol ym mhob cam or broses o gynhyrchu, rheoli a lledaenu ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol.

Egwyddor 5: Cymesuredd

8.1 Rydym yn ymrwymedig i leihaur beichiau sydd ynghlwm wrth roi mynediad at ddata i ni er mwyn ein helpu i gyflawni ein swyddogaethau statudol (er enghraifft, wrth gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol). Byddwn yn ceisio sicrhau bob amser bod y costau syn gysylltiedig 但 rhoi mynediad at ddata i ni yn gymesur 但r buddiannau syn deillio o ddefnyddior ystadegau a gynhyrchir or data hyn. Bydd yr ymrwymiad hwn hefyd yn llywio pob penderfyniad a wneir gennym ynghylch y math o ddata neur swm o ddata y gwneir cais amdanynt. Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr data i nodi trefniadau mynediad at ddata syn lleihaur baich o ran costau ar posibilrwydd y bydd effeithiau anghymesur ar drethdalwyr a chyflenwyr data fel ei gilydd. Rydym yn ymrwymo i ofyn i ffynonellau cenedlaethol neu gyfunol am ddata cyn gosod beichiau ar ddarparwyr gwasanaethau lleol ac, os oes modd cael yr un data o sawl ffynhonnell, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw gostau cysylltiedig ar beichiau ar gyflenwyr data wrth fynd ati i benderfynu pa ffynhonnell/ffynonellau i gael mynediad ati/atynt.

8.2 Mae hyn yn gyson 但r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, syn nodi bod angen i gynhyrchwyr ystadegau asesur baich a roddir ar gyflenwyr data o gymharu 但r buddiannau syn deillio o ddefnyddior ystadegau, a sicrhau nad ywr beichiau hynny yn ormodol.

Egwyddor 6: Cydweithio

9.1 Byddwn yn ymgynghori 但 chyflenwyr data ac yn ystyried eu barn cyn cyhoeddi hysbysiad neu wneud cais am fynediad at ddata. Rydym yn ymrwymo i ystyried atebion cydweithredol a threfniadau data a negodwyd ar gyfer cael mynediad i ddata yn hytrach na chyhoeddi ceisiadau neu hysbysiadau. Bydd hyn yn ein galluogi i deilwra trefniadau mynediad at ddata i ddiwallu anghenion, adnoddau, buddiannau a diwylliannau penodol cyflenwyr data, yn ogystal 但r sensitifrwydd ar risgiau syn gysylltiedig 但 gwahanol ffynonellau a mathau o ddata. Bydd dull gweithredu cydweithredol hefyd yn ein galluogi i ddeall y ffordd y caiff y data eu strwythuro ac felly unrhyw gafeatau o ran eu hansawdd neur ffordd y c但nt eu dehongli neu eu defnyddio. Dim ond pan fyddwn wedi rhoi cynnig ar bob ffordd resymol arall o gael mynediad at y data (gan gynnwys trafodaethau lefel uwch rhwng yr Awdurdod a chyflenwr y data) y byddwn yn defnyddio ein pwerau statudol o ran cydymffurfiaeth a gorfodaeth.

Llywodraethu

10.1 Byddwn yn monitror ffyrdd rydym yn defnyddior pwerau newydd a ddarparwyd yn Neddf 2007 (fel yi diwygiwyd) i gael mynediad at ddata drwy sefydlu swyddogaeth oruchwylio gynghorol ar fynediad at ddata fel rhan o strwythur llywodraethur Awdurdod, a defnyddio profiad ac arbenigedd annibynnol unigolion o ystod eang o sectorau a sefydliadau. Bydd y swyddogaeth hon yn gweithio mewn ffordd dryloyw i asesu cynigion am fynediad at ddata yn erbyn yr egwyddorion uchod, gan gynnwys ystyried sefyllfa cyflenwyr data, a bydd yn rhoi cyngor diduedd ac annibynnol ir Ystadegydd Gwladol iw helpu i gyflawni ei swyddogaethau. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau a phapurau eraill syn nodir cyngor hwn yn unol ag ymrwymiad cyffredinol yr Awdurdod i sicrhau tryloywder.

10.2 Byddwn yn gweithredu protocolau ynghylch sut y bydd yr Awdurdod yn gweithion effeithiol gyda swyddfeydd ystadegol y gweinyddiaethau datganoledig o dan y ddeddfwriaeth newydd. Caiff y gwaith hwn ei oruchwylio gan y fforwm rhyng-weinyddol lefel uwch mwyaf priodol a fydd yn rheolir rhyngweithio rhwng yr Awdurdod a swyddfeydd ystadegol y gweinyddiaethau datganoledig, ac yn hysbysur Awdurdod ar gweinyddiaethau datganoledig am anghenion a gofynion data priodol.

10.3 Byddwn yn cyhoeddi, yn cynnal ac yn ymgynghori ar ganllawiau ategol a dogfennau arfer gorau cyfredol ar y ffordd rydym yn arfer ein pwerau newydd o dan Ddeddf 2007. Bydd y dogfennau hyn, y gellir eu hailgyhoeddi o bryd iw gilydd er mwyn adlewyrchu arferion newydd a datblygiadau mewn arbenigedd proffesiynol, yn helpu cyflenwyr data i ddeall eu cyfrifoldebau yn well. Byddant yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ystadegau ar cyhoedd sydd eisiau deall y trefniadau gweithdrefnol syn rheolir ffordd y caiff data trydydd parti eu casglu, eu prosesu au diogelu er mwyn ein helpu i gyflawni ein swyddogaethau statudol, gan gynnwys:

  • Ceisiadau am ddata a hysbysiadau data: canllawiau ar y ffurf y byddwn yn gwneud cais am ddata neun cyhoeddi hysbysiadau o dan y ddeddfwriaeth hon;
  • Lleihau baich: y ffordd y byddwn yn asesur baich ar gyflenwyr data ar ffyrdd y byddwn yn mynd ati i leihaur beichiau hyn.
  • Cyflenwi a throsglwyddo data: canllawiau technegol ar y ffordd/ffyrdd y caiff data eu trosglwyddo a mesurau i sicrhau y caiff data eu trosglwyddon ddiogel;
  • Diogelwch a chyfrinachedd: gwybodaeth gryno am y ffyrdd rydym yn sicrhaur lefelau uchaf o ddiogelwch data ar modd y caiff y data a ddelir yn ein systemau eu storio, eu prosesu, eu defnyddio au lledaenun gyfrinachol;
  • Sylwadau a datrys anghydfodau: trefniadau lle y gall cyflenwyr data herio ceisiadau am ddata a wnaed gennym neu ofyn cwestiynau amdanynt, gan gynnwys gwneud sylwadau in swyddogaeth goruchwylio mynediad at ddata.

Rhan 2: Cod Ymarfer ar Newidiadau i Systemau Data

Yngl天n 但r Cod

11.1 O dan adran 45G o Ddeddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007 (Deddf 2007), maen ofynnol i Awdurdod Ystadegaur DU ai swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y cyfeirir atynt fel yr Awdurdod o hyn ymlaen) baratoi a chyhoeddi cod ymarfer ar newidiadau i systemau data ac ymgynghori arno. Maer ddogfen hon yn cynrychiolir Cod syn ofynnol o dan adran 45G.

11.2. Maer cod hwn yn cynnwys canllawiau ar y materion y mae angen i awdurdodau cyhoeddus eu hystyried wrth fynd ati i wneud newidiadau ir prosesau sydd ar waith ganddynt i gasglu, trefnu, storio neu adalw gwybodaeth, neu gyflenwi gwybodaeth ir Awdurdod. Maer cod hwn yn berthnasol pan fo awdurdodau cyhoeddus yn cyflenwi data ir Awdurdod iw alluogi i gyflawni un neu fwy oi swyddogaethau, gan gynnwys cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol.

11.3. Mae Deddf 2007 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi ystyriaeth ir cod hwn wrth fynd ati i ystyried neu wneud newidiadau iw systemau data. Felly, prif nod y cod yw rhoi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus syn cyflenwi data ir Awdurdod, ond bydd yn ymarferol berthnasol i bob sefydliad syn cyflenwi data at ddibenion ystadegol neu ymchwil ystadegol (neur rhai sydd wedi cael gwybod y gall fod angen iddynt ddarparu data yn y dyfodol), ni waeth beth fo statws y sefydliad, pa mor aml y caiff data eu cyflenwi nar ffordd yu cyflenwir. Mewn achosion or fath, dylai sefydliadau gael eu hannog i ystyried y cod hwn yn enghraifft o arfer da, ac i ystyried yr argymhellion a wneir ynddo yn unol 但 hynny.

Deall y p典er

12.1 Mae Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (y Ddeddf) yn gwneud nifer o newidiadau ir gyfraith syn rheolir ffordd y caiff data eu defnyddio i gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol yn y DU. Maer Ddeddf yn diwygio Deddf 2007 drwy roi mynediad ir Awdurdod at ddata a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus ac ymgymeriadau ac ehangur ystod o ffynonellau data y bydd yr Awdurdod yn gallu eu defnyddio i gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol, ymhlith pethau eraill. Gall hyn gynnwys gwahanol fathau o ddata, o gofnodion neu newidynnau unigol mewn set ddata fwy o faint i gronfeydd data cyfan a metadata.

12.2 Caiff union natur y data a ddylai fod ar gael ir Awdurdod, y ffordd y dylair data hwnnw gael eu darparu a pha mor aml y dylai fod ar gael eu nodi fel rhan o gytundeb mynediad at ddata. Mewn rhai achosion, mae Deddf 2007 hefyd yn caniat叩u ir Awdurdod nodi rhwymedigaethau fel rhan o gytundeb ffurfiol i ddarparu mynediad at ddata syn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr data ymgynghori 但r Awdurdod cyn gwneud newidiadau ir data a gesglir ganddynt, y ffordd y maent yn casglu neun prosesur data hyn, a/neu drefniadau i roi mynediad ir Awdurdod at y data hyn a threfniadau i fonitro cydymffurfiaeth. Mewn achosion or fath, bydd y cytundeb mynediad yn nodi manylion y rhwymedigaeth hon gan gynnwys y newidiadau syn ddigon i sbardunor rhwymedigaeth ar cyfnod rhybudd y maen rhaid i gyflenwr y data ei roi wrth wneud newid or fath.

12.3 Pan for Awdurdod wedi rhannu data ag unrhyw un or gweinyddiaethau datganoledig at ddibenion ystadegol, o dan y p典er a roddir yn adran 53A o Ddeddf 2007, bydd yr Awdurdod yn rhannur wybodaeth berthnasol am newidiadau i systemau data gydag ystadegwyr yn y weinyddiaeth/gweinyddiaethau datganoledig perthnasol.

12.4 Gofynnir i gyflenwyr data ymgynghori 但r Awdurdod yngl天n 但 newidiadau i systemau data er mwyn helpu i ddiogelur cyflenwad data, neu helpu i reoli bylchau yn y cyflenwad, a thrwy hynny sicrhau uniondeb, cywirdeb a dibynadwyedd ystadegau ac ymchwil ystadegol syn deillio or data hyn. Mae hwn yn fesur diogelu hanfodol os ydym am sicrhau bod system ystadegol y DU yn parhaun gadarn ac yn dibynnu llai ar ffynonellau traddodiadol yn seiliedig ar arolygon a mwy ar fynediad uniongyrchol at ffynonellau data a fydd yn cefnogi gwaith dadansoddi gwell a mwy perthnasol.

12.5 Os na chaiff rhwymedigaeth or fath ei nodi yn y cytundeb mynediad at ddata, maer Awdurdod serch hynny yn argymell y dylai cyflenwyr data ystyried yr effaith y gallair newidiadau y maent yn ystyried eu gwneud i systemau data ei chael ar unrhyw agwedd ar y data y maent yn eu cyflenwi (neu y gallent eu cyflenwi) ir Awdurdod. Bydd y canllawiau isod yn helpu cyflenwyr data i nodi rhai or effeithiau posibl y gallair newidiadau hyn eu cael, ac yn helpur Awdurdod i leihaur posibilrwydd y gallai newidiadau or fath darfu ar y broses gynhyrchu a chyhoeddi neu danseilio cywirdeb ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol.

Pwysigrwydd ymgynghori

13.1 Mae nifer o resymau pam y gall cyflenwr data geisio newid y ffordd y maen casglu ac yn prosesu data gan gynnwys er mwyn ateb heriau diogelwch strategol, ariannol neu wybodaeth neu o ganlyniad i ddatblygiad anghenion gweithredol neu drafodaethol neu drawsnewidiadau sefydliadol a newidiadau mewn strwythurau staffio. Ni fydd unrhyw ganllawiau a ddarperir yma neu unrhyw rwymedigaethau statudol a nodir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan yr Awdurdod[troednodyn 9] yn newid hawl cyflenwr data i wneud newidiadau or fath. Yn hytrach, bwriedir iddynt helpu i sicrhau bod yr Awdurdod yn ymwybodol or newidiadau hyn ir graddau y gallant effeithio ar natur y data, neur broses o ddarparur data y maer Awdurdod yn eu derbyn ac yn dibynnu arnynt iw alluogi i gyflawni un neu fwy oi swyddogaethau, gan gynnwys cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol.

13.2 Mae nifer o newidiadau a all effeithio ar y broses o gyflenwi data, gan gynnwys y canlynol:

  • y math o ddata a gesglir, neur ffordd y caiff y data eu casglu: gallai newidiadau i natur y data a gesglir syn cael eu trosglwyddo neu a all gael eu trosglwyddo ir Awdurdod effeithio ar ystadegau syn dibynnu ar y data hyn. Os bydd sefydliad syn cyflenwi data yn penderfynu rhoir gorau i gasglu data y maen eu darparu ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol, er enghraifft, bydd angen ymgynghori 但r Awdurdod cyn gynted 但 phosibl er mwyn iddo ymchwilio i ffynonellau eraill a chanfod ffynonellau eraill ac osgoi amharu ar allbynnau ystadegol pwysig syn dibynnu ar y data hyn. Yn yr un modd, gall newidiadau ir ffordd y caiff data eu casglu effeithio ar ansawdd, dibynadwyedd neu ddefnyddioldeb y data ac felly gywirdeb yr allbynnau ystadegol
  • y ffordd y caiff data eu trefnu, eu storio au hadalw: yn y mwyafrif o achosion, ni fydd newidiadau or fath yn cael unrhyw effaith ar y data a ddarperir ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol neu ymchwil ystadegol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall newidiadau ir seilwaith data effeithio ar rai agweddau ar y ddarpariaeth hon. Gallai newidiadau ir ffordd y caiff data eu storio au hadalw, er enghraifft, newid pa mor aml y gellir darparu data ac amharu ar y cyflenwad data, a gallai newidiadau i hen weithdrefnau effeithio ar ba mor hawdd ydyw i gael mynediad at ddata hanesyddol;
  • y ffordd y caiff data eu cyflenwi: gall newidiadau ir ffordd y caiff data eu cyflenwi ir Awdurdod effeithio ar ddiogelwch a dibynadwyedd y data hyn. Maer Awdurdod yn cyhoeddi canllawiau technegol ar y ffurfiau gofynnol ar gyfer data a drosglwyddir a bydd yn gweithio gyda chyflenwyr data i nodi trefniadau mynediad at ddata a/neu drosglwyddo data syn lleihaur baich i gyflenwyr data ar costau y gallant fynd iddynt.

13.3 Drwy fod yn ymwybodol o newidiadau or fath, bydd yr Awdurdod yn gallu addasu ei arferion ac ymgysylltu 但 chyflenwyr data er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gael mynediad at y data a ddelir gan gyflenwyr data yn y ffordd fwyaf diogel, effeithlon a hawdd 但 phosibl.

13.4 Ni fydd newid ir ffordd y caiff data eu casglu au prosesu yn effeithio ar ddata a ddarperir ir Awdurdod er mwyn iddo gyflawni un neu fwy oi swyddogaethau statudol. Fodd bynnag, er mwyn nodi a yw hyn yn wir ai peidio, bydd angen i gyflenwyr data fod yn ymwybodol or holl ddata syn cael eu cyflenwi neu eu rhannu, hyd y cytundeb, ar ffordd y maer data yn cael eu rhannu neu eu trosglwyddo. Fel y trafodwyd uchod, bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod yr holl fanylion hyn yn cael eu nodi o fewn fframwaith trefniant mynediad at ddata, a bod unrhyw newidiadau i oblygiadau cyflenwr data neu drefniadau ar gyfer cael mynediad at ddata yn cael eu cofnodi mewn diwygiad. Dylai cyflenwyr data sicrhau bod staff syn gyfrifol am ystyried newidiadau i systemau data au rhoi ar waith wedi ymgyfarwyddon briodol 但r cytundebau hyn.

13.5 Yn yr un modd, ni fydd pob newid yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd a pharhad data y dibynnir arnynt ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol. Yn ystod trafodaethau cychwynnol yngl天n 但 chael mynediad at ddata, bydd yr Awdurdod yn ymgysylltu 但 chyflenwyr data er mwyn sicrhau eu bod yn deall y rhan y bydd y data a gyflenwir yn ei chwarae yn y broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau, a helpur cyflenwr data i ragweld effaith y newidiadau y maen ystyried eu gwneud ir ffordd y maen casglu neun prosesur data hyn neu ddata cysylltiedig.

13.6 Os bydd cyflenwr data or farn y gall newidiadau arfaethedig effeithio ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau syn defnyddior data, neu ar y trefniant cyflenwi y cytunwyd arno, dylai roi gwybod ir Awdurdod mewn modd amserol. Bydd newidiadau i systemau data yn digwydd yn llawer cyflymach weithiau, er enghraifft os oes gwendid diogelwch wedii ddarganfod neu os oes cyfle busnes wedi codi. Ym mhob achos or fath, dylai cyflenwyr data sicrhau eu bod yn cysylltu 但r Awdurdod cyn gynted 但 phosibl unwaith y byddant yn ymwybodol or angen i wneud newid. Os bydd cyflenwr data yn ansicr ynghylch effaith newidiadau iw systemau data ar ystadegau neu ymchwil ystadegol, maer Awdurdod yn argymell y dylai gysylltu 但r Awdurdod i drafod y mater. Bydd yr Awdurdod yn gweithio gydar cyflenwr data i ddeall natur y newidiadau ac unrhyw effeithiau, nodi camau i sicrhau parhad y cyflenwad, a sicrhau bod y data yn cael eu cyflenwi mewn ffordd syn lleihaur baich cymaint 但 phosibl.

13.7 Yn y mwyafrif helaeth o achosion, bydd y cyflenwr data ei hun yn gwneud newidiadau ir ffordd y caiff data eu casglu neu eu prosesu. Fodd bynnag, weithiau, gall cyflenwr data ddod yn ymwybodol o newid anfwriadol a allai effeithio ar allur Awdurdod i ddefnyddior data hyn i gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol neu ymchwil ystadegol, nawr neu yn y dyfodol. Mae newidiadau or fath yn cynnwys newid yn natur y data syn cael eu cyflenwi, y ffordd y maent yn cael eu prosesu, neur seilwaith y maent yn cael eu prosesu oddi mewn iddo. Er enghraifft, bydd gan dystiolaeth o dor diogelwch data, gwendidau o ran diogelwch neu gamddefnyddio data oblygiadau ir gweithdrefnau diogelwch syn ymwneud 但 throsglwyddo, storio a defnyddio data a nodwyd yn y trefniadau mynediad at ddata. Yn yr un modd, bydd gan dystiolaeth o wallau, anghysondebau neu hepgor data, neu ffaeledigrwydd o ran y ffordd y caiff y data eu casglu, oblygiadau i ansawdd y data ac fellyr sylwebaeth fethodolegol syn ategu allbynnau ystadegol. Gallai anghysondebau neu ddiffygion methodolegol mawr hyd yn oed daflu amheuaeth ar y graddau y gellir dibynnu ar y data i gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol ac ymchwil ystadegol. Pan fo materion or fath yn peri ir cyflenwr data newid y ffyrdd y maen casglu neun prosesu data, dylair cyflenwr data roi gwybod ir Awdurdod amdanynt cyn gynted 但 phosibl fel rhan oi ymgynghoriad ar y newidiadau syn cael eu gwneud.

  1. Mae cyfeiriadau at Ddeddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007 yn gyfeiriadau at y Ddeddf fel yi diwygiwyd gan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 sydd mewn grym.油

  2. Breinir y pwerau cyfreithiol ar dyletswyddau a bennwyd yn Neddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007 ym Mwrdd Awdurdod Ystadegaur DU (y Bwrdd Ystadegau). Maer Bwrdd yn cyfarwyddo ac yn goruchwylio gwaith Awdurdod Ystadegaur DU ai swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cynhyrchydd ystadegau mwyaf y DU a sefydliad ystadegau cenedlaethol y DU a gydnabyddir yn rhyngwladol. O fewn y ddogfen hon, defnyddir yr Awdurdod i adlewyrchur trefniant hwn.油

  3. Fel yi mewnosodwyd gan adran 80 or Ddeddf.油

  4. Fel yi haddasir neu yi disodlir o bryd iw gilydd.油

  5. Ystyr y ddeddfwriaeth diogelu data ywr fframwaith diogelu data llawn a chymwys a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn cwmpasu prosesu cyffredinol (gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ar GDPR cymhwysol), prosesu gan asiantaethau gorfodir gyfraith, a phrosesu gan wasanaethau cudd-wybodaeth. Mae cyfeiriadau at Ddeddf Diogelu Data 1998 yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017 wediu diwygio i y ddeddfwriaeth diogelu data gan Ddeddf Diogelu Data 2018.油

  6. Gweler hefyd Awdurdod Ystadegaur DU 油

  7. At hynny, dylai arferion rhannu data fod yn deg ac yn dryloyw yn wir, mae hyn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 5(2) or GDPR syn nodir egwyddor atebolrwydd, syn golygu bod rheolwyr data yn gyfrifol am ddangos eu bod wedi cydymffurfio 但r egwyddor cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder, ynghyd 但r egwyddorion eraill a nodir yn Erthygl 5(1).油

  8. Er enghraifft, pan allai cyhoeddir cyfryw fanylion fod yn niweidiol i fudd ehangach y cyhoedd neu fuddiannau masnachol, fel diogelwch cenedlaethol, y gwaith o atal neu ganfod troseddau neu pan fyddai cyhoeddir wybodaeth yn cael effaith niweidiol sylweddol ar safle cyflenwr data yn y farchnad.油

  9. Mae hyn yn golygu hysbysiad a roddir gan yr Awdurdod i gyflenwr data yn unol ag adran 45C(2) a (6) o Ddeddf Ystadegau ar Gwasanaeth Cofrestru 2007.油