Guidance

Framework Document for the Domestic Abuse Commissioner (Welsh) (accessible web version)

Updated 10 January 2022

1. Cyflwyniad

1.1 Cafodd y Ddogfen Fframwaith hon ei lunio gan y Swyddfa Gartref mewn ymgynghoriad 但r Comisiynydd Cam-Drin Domestig (y Comisiynydd). Maehr ddogfen hon yn amlinellur fframwaith eang lle bydd y Comisiynydd yn gweithredu o fewn iddi. Ymgynghorwyd 但r Gweinidogion Cymreig hefyd fel sydd yn ofynnol dan adran 11(7) o Ddeddf Cam-drin Domestig 021 (y Ddeddf). Ni fydd unrhyw beth o fewn y Ddogfen Fframwaith hon yn disodli neun amrywior dyletswyddau a/neu swyddogaethau sydd yn ymarferadwy gan yr Ysgrifennydd Cartref a/neur Comisiynydd a osodir yn y Ddeddf neu ddeddfiadau perthnasol eraill.

1.2 Fel sydd yn ofynnol gan adran 11(8)(c) ac 11(9) or Ddeddf, caiff copi or ddogfen ei osod o flaen Senedd y DU a Senedd Cymru. Bydd cop誰au ar gael i aelodaur cyhoedd ar wefan y Llywodraeth.

2. Diben

2.1 Diben y Ddogfen Fframwaith yma, a ddyroddir o dan adran 11 or Ddeddf, yw amlinellu sut fydd yr Ysgrifennydd Cartref ar Comisiynydd yn gweithio gydai gilydd. Maer Ddogfen Fframwaith yn ymwneud 但r materion canlynol yn arbennig:

  • 2.1.1 llywodraethiant, ariannu a staffio;

  • 2.1.2 ymarfer swyddogaethaur Comisiynydd;

  • 2.1.3 craffu gweithgareddaur Comisiynydd gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.

2.2 Maer ddogfen hon yn amlinellu ymhellach swyddogaethau a chyfrifoldebau priodol yr Ysgrifennydd Cartref ar Comisiynydd ar egwyddorion fydd yn llywodraethur berthynas rhyngddyn nhw. Maen amlinellu materion mewn perthynas ag atebolrwydd, rheolaeth a threfniadau gweithredol ac ariannol y Comisiynydd; mae hefyd yn egluro sut y bwriedir ir berthynas rhwng yr Ysgrifennydd Cartref ar Comisiynydd weithio fel perthynas waith agored ac uniongyrchol, lle mae cymorth a chraffu yn weithredol ir un maint.

2.3 Rhaid ir Comisiynydd ystyried y Ddogfen Fframwaith wrth weithredu ei swydddogaethau (adran 11(3) or Ddeddf). Rhaid ir Ysgrifennydd Cartref ystyried y Ddogfen Fframwaith wrth weithredu ei swyddogaethau mewn perthynas 但r Comisiynydd (adran 11(4) or Ddeddf).

3. Statws

3.1 Penodiad statudol yw swydd y Comisiynydd a wneir o dan adran 4 or Ddeddf.

3.2 Caiff y Comisiynydd ei benodi gan yr Ysgrifennydd Cartref fel deiliad swydd statudol, annibynnol fydd yn cadw a gadael ei swydd yn unol ag amodau ei benodiad. Er ei fod o dan nawdd y Swyddfa Gartref, maer Comisiynydd yn gweithredun annibynnol or Adran ar Llywodraeth ar y cyfan.

3.3 Amlinellir swyddogaethaur Comisiynydd yn adran 7 or Ddeddf. Cynnig arweinyddiaeth gyhoeddus ar fynd ir afael ar gam-drin domestig a goruchwylio a monitro darpariaeth gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig au plant yng Nghymru a Lloegr ywr r担l greiddiol. Bydd r担l y Comisiynydd yn hanfodol wrth sicrhau cysondeb a gyrrur ymateb i gam-drin domestig yn lleol a chenedlaethol.

4. Swyddogaethau a chyfrifoldebau: Y Swyddfa Gartref

4.1 Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn penodir Comisiynydd Cam-Drin Domestig; caiff y penodiad ei wneud yn ysbryd Cod Llywodraethu Swyddfar Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.

4.2 Y Gweinidog dros Ddiogelu fydd y Gweinidog 但 chyfrifoldeb cyffredinol dros y Comisiynydd ai swydd ar ran yr Ysgrifennydd Cartref. Wrth gynnal y swyddogaeth yma, bydd y Gweinidog yn cwrdd 但r Comisiynydd pryd bynnag fo angen (ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn) i drafod gwaith y Comisiynydd.

4.3 Yn unol 但r hyn a amlinellwyd yn adran 5 or Ddeddf, maer Swyddfa Gartref yn gyfrifol am ddyrannu cyllideb ar gyfer gwaith y Comisiynydd er mwyn cefnogir swydd a galluogi i swyddogaethaur Comisiynydd i gael eu cyflawni. Cyn pennu cyllideb y Comisiynydd ar gyfer pob blwyddyn, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgynghori 但r Comisiynydd ac yn ystyried cynllun strategol y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod perthnasol (gweler paragraff 5.18 isod).

4.4 Yn unol 但r hyn a amlinellwyd yn adran 6 or Ddeddf ac yn ddarostyngedig ir broses recriwtio a amlinellir ym mharagraff 4.5, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgynghori 但r Comisiynydd ac yn rhoi staff iddyn nhw iw cefnogi au galluogi i gyflawni eu swyddogaethau. Y Swyddfa Gartref fydd yn darparu staff y Comisiynydd, ond fe fyddan nhw o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Comisiynydd wrth iddyn nhw gefnogi ei waith.

4.5 Bydd y Comisiynydd, neu ei Bennaeth Staff, yn gweithio gydar Swyddfa Gartef er mwyn cynnal cystadlaethau recriwtio. Bydd y Swyddfa Gartref yn cael cymeradwyaeth y Comisiynydd o benodiad unrhyw staff a bydd Swyddfar Comisiynydd Cam-Drin Domestig yn rhoi proses ar waith i gefnogi hyn. Caiff unrhyw benodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored er mwy i benodiadau fod yn gyfreithlon ac ar sail Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer recriwtio allanol. Tra nad yw recriwtio mewnol yn ddarostyngedig i Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, dylai unrhyw benodiad mewnol adlewyrchu gofynion teilyngdod a thegwch hefyd.

4.6 Fel yr amlinellir ymhellach yn adran 6 or Ddeddf, bydd y Swyddfa Gartref, yn dilyn ymgynghoriad gydar Comisiynydd, yn rhoi lle, offer a chyfleusterau eraill ir Comisiynydd, fel yr ystyrir sydd eu hangen gan yr Ysgrifennydd Gwladol iw galluogi nhw i gynnal eu swyddogaethau. Rhaid i le or fath fod ar wahan i bencadlys y Swyddfa Gartref sydd ar hyn o bryd yn 2 Marsham Street (Llundain).

4.7 Bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydar Comisiynydd er mwyn trafod perfformiad yn erbyn amcanion a blaenoriaethaur Comisiynydd fel yr amlinellir yn ei gynllun strategol ar alldro ariannol. Bydd y Cyfarwyddwr perthnasol yn y Swyddfa Gartref yn cynnal gwerthusiad blynyddol or Comisiynydd.

4.8 O dan adrannau 8(4) a 14(4) or Ddeddf, fe all yr Ysgrifennydd Cartref gyfarwyddo bod peth deunydd yn cael ei adael allan o adroddiad neu adroddiad blynyddol gan y Comisiynydd, cyn ir naill neur llall gael eu cyflwyno i Senedd y DU gan y Comisiynydd ond, cyn gwneud cyfarwyddyd or fath, rhaid ir Ysgrifennydd Cartref ymgynghori 但r Comisiynydd (adrannau 8(5) a 14(5)).Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref hefyd y p典er o dan adran 9(6), yn ddarostyngedig i ymgynghoriad blaenorol gydar Comisiynydd o dan adran 9(7), i wneud y fath gyfarwyddyd mewn perthynas 但 chyngor a roddir gan y Comisiynydd i unrhyw berson o dan o dan adran 9(2).Rhaid anfon unrhyw gyngor mewn ffurf drafft ir Ysgrifennydd Cartref o dan adran 9(5) cyn cael ei gyhoeddi gan y Comisiynydd o dan adran 9(4).O ran arfer, bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dirprwyor pwerau hyn o dan y Ddeddf ir Gweinidog Dros Ddiogelu a dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Cartref yn y paragraff yma 4.8, a pharagraffau 4.9 i 4.10, isod yn unol 但 hynny.

4.9 Gellir defnyddior p典er i orchymyn y dylid hepgor peth deunydd yn unig pan fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn credu y gallai cyhoeddir wybodaeth hynny:

  • Beryglu diogelwch unrhyw berson, neu
  • rhagfarnu ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

4.10 Fel rhan or gofyniad ir Ysgrifennydd Cartref ymgynghori 但r Comisiynydd cyn dyrannu unrhyw gyfarwyddyd or fath, caiff y rhesymau dros gynnig y cyfarwyddyd hwnnw eu hamlinellu a rhaid ir Ysgrifennydd Cartref ystyried rhesymaur Comisiynydd dros gynnwys yr wybodaeth yn y lle cyntaf yn yr adroddiad neu gyngor perthnasol.Os ywr Ysgrifennydd Cartref yn ystyried cyfarwyddo hepgor deunydd penodol, rhaid i ystyriaeth or adroddiad ac ymgynghoriad gydar Comisiynydd gan yr Ysgrifennydd Cartref, gan gynnwys unrhyw ymgysylltiad ag asiantaethau eraill, fel yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron, ddigwydd o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad.

4.11 Er nad yw hyn wedi cael ei bennu gan y Ddeddf, os nad ywr Comisiynydd yn cytuno gyda chyfarwyddyd arfaethedig yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd, bydd y broses fel a ganlyn:

  • Gall y Comisiynydd gyflwyno ei achos ir Cyfarwyddwr perthnasol yn y Swyddfa Gartref. Dylai hyn amlinellu pam nad ywr Comisiynydd yn cytuno gyda chyfarwyddyd arfaethedig yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd or adroddiad.[footnote 1] Rhaid i ymateb gan y Cyfarwyddwr perthnasol yngl天n 但i adolygiad o gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd gael ei roi o fewn 10 diwrnod gwaith
  • Os ywr Cyfarwyddwr yn cytuno gyda chyfeiriad yr Ysgrifennydd Cartref i hepgor deunydd penodo, gall y Comisiynydd gyflwyno ei achos ir Ysgrifennydd Cartref. Rhaid i ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref ir achos a gyflwynwyd, gael ei roi ir Comisiynydd o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Os na ddoir i gytundeb gydar Ysgrifennydd Cartref, a bod yr Ysgrifennydd Cartref yn cyfarwyddo ir deunydd gael ei hepgor, gall y Comisiynydd gynnwys nodyn yn ei adroddiad (neu gyngor o dan adran 8(2)) yn datgan bodpeth gwybodaeth wedi cael ei adael allan ar gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Cartref, ond nad oedd y Comisiynydd yn cytuno fod angen gwneud hyn er mwyn amddiffyn diogelwch unigolyn neu gefnogi ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

4.12 Bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi llythyrau rhwng Gweinidogion y Swyddfa Gartref, uwch swyddogion ar Comisiynydd ar wefan y Swyddfa Gartref fel mater o drefn oni bai byddai gwneud hynnyn torri cyfreithiau diogelu data neun datgelu gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol.

5. Swyddogaethau a chyfrifoldebau: Y Comisiynydd Cam-Drin Domestig

5.1 Bydd y Comisiynydd yn atebol ir Ysgrifennydd Cartref, a drwyr Ysgrifennydd Cartef, i Senedd y DU. Bydd y comisiynydd yn ymddwyn yn unol 但 Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan). Swyddogaeth greiddiol y Comisiynydd fydd i ddarparu arweinyddiaeth gyhoeddus yngl天n 但 materion yn ymwneud 但 cham-drin domestig ac i oruchwylio a monitro darpariaeth y gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig au plant yng Nghymru a Lloegr.

5.2 Er bod gan y Comisiynydd gylch gwaith cyfyng yng Nghymru, bydd yn parchur setliad datganoli, gan gydnabod bod cyfrifoldeb dros faterion sydd yn cynnwys llywodraeth leol, iechyd ac addysg yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, maer Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gymwys a bydd Ymgynghorwyr Cenedlaethol yn cael eu penodi o dan y Ddeddf hon.

5.3 O ran ariannu, mae rheolaeth cyllideb y Comisiynydd o ddydd i ddydd, mewn cydymffurfiad gyda phrosesau a rheolau perthnasol y Swyddfa Gartref, yn gorwedd gyda Phennaeth Staff y Comisiynydd, a bydd ganddo awdurdod rheoli cyllideb ar gyfer cyllideb y Comisiynydd. Bydd y Comisiynydd ai Bennaeth Staff yn sicrhau bod cyllidebau yn cael eu rheoli yn unol 但 Rheoli Arian Cyhoeddus. Bydd y Comisiynydd ai Bennaeth Staff yn sicrhau ymhellach bod gwariant o gyllideb y Comisiynydd yn ymochri gydachynllun strategol y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod perthnasol (gweler paragraff 5.18 isod).

5.4 Mae swyddogaethaur Comisiynydd, a amlinellir yn adran 7 or Ddeddf, yn cynnwys, annog ymarfer da wrth:

  • atal cam-drin domestig;
  • atal, canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau yn ymwneud 但 cham-drin domestig;
  • adnabod pobl sydd yn cyflawni cam-drin domestig, dioddefwyr cam- drin domestig a phlant sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig; a
  • chynnig diogelwch a chymorth i bobl sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.

5.5 Yn unol 但r swyddogaethau statudol hyn, gall y Comisiynydd:

  • asesu, monitro a chyhoeddi gwybodaeth am ddarpariaeth gwasanaethau i bobl a effeithir gan gam-drin domestig;
  • gwneud argymhellion i unrhyw awdurdod cyhoeddus yngl天n ag arfer ei swyddogaethau;
  • ymgymryd 但 neu gefnogi cynnal ymchwil, yn ariannol neu fel arall,
  • darparu gwybodaeth, addysg neu hyfforddiant;
  • cymryd camau eraill i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o gam-drin domestig;
  • ymgynghori ag awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill; a
  • cydweithio gyda, neu weithio ar y cyd gyda, awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill, pun a ydynt yng Nghymru a Lloegr neu du allan ir DU.

5.6 Wrth gyflawni swyddogaeth y Comisiynydd, rhaid ir Comisiynydd beidio 但 pheryglu diogelwch unrhyw berson neu ragfarnu ymchwiliad neu erlyniad trosedd.

5.7 Yn unol 但r hyn a osodir yn adran 7(2) or Ddeddf, yn unol 但i swyddogaethau ai ddyletswyddau cyffredinol, fe all y comisiynydd gydweithio gydag awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol neu bobl eraill yng Nghymru a Lloegr a thu allan ir DU. Mae gan waith y Comisiynydd gysylltiadau clir gyda Chomisiynwyr ac Ymgynghorwyr eraill, yn enwedig Ymgynghorwyr Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar Sail Rhywedd, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn ogystal 但 Chomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr a Chomisiynydd Plant Lloegr.

5.8 Bydd y cysylltiadau hyn yn hanfodol er mwyn uchafu effaith r担l y Comisiynydd ac i gysylltu rhaglenni gwaith gwahanol er mwyn gwellar ymateb ehangach i gam-drin domestig. Rhagwelir bydd y Comisiynydd yn datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydar Comisiynwyr ar Ymgynghorwyr eraill er mwyn nodi sut y byddan nhwn gweithio gydai gilydd mewn mwy o fanylder, gan gynnwys drwy gytundebau rhannu data.

5.9 Mae Adran 7(3) or Ddeddf yn cyfyngu ar waith y Comisiynydd yng Nghymru i faterion a gedwir yn 担l ond mae adran 7(4) yn datgan yn glir nad yw hyn yn atal y Comisiynydd rhag ymgynghori neu gydweithio gyda neu ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau Cymreig neu fel arall mewn perthynas 但 materion sydd wediu datganoli i Gymru. Disgwylir felly ir Comisiynydd weithion agos gydar Ymgynghorwyr Cenedlaethol yng Nghymru, ar Comisiynydd ar Ymgynghorwyr Cenedlaethol fydd yn penderfynu a ddylid, a sut ddylid cychwyn ar unrhyw waith ar y cyd yn unol ag unrhyw Femoranda Cyd- ddealltwriaeth a ddatblygwyd rhyngddyn nhw.

5.10 Er bod y Comisiynydd yn bennaf atebol ir Ysgrifennydd Cartref, bydd y Comisiynydd hefyd yn ddarostyngedig i graffu gan Senedd y DU a hefyd gan Senedd Cymru, mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau wrth gyd-weithio, ymgynghori, a datgelu gwybodaeth i awdurdodau Cymreig mewn perthynas 但 materion a ddatganolwyd i Gymru. Mae disgwyl ir Comisiynydd gydweithion llawn gyda Senedd y DU a lle ywn briodol, Senedd Cymru, gan gynnwys drwy roi tystiolaeth a chynnig gwybodaeth i bwyllgorau dethol.

5.11 O dan adran 8 or Ddeddf, gall y Comisiynydd adrodd ar unrhyw fater mewn perthynas 但 cham-drin domestig, a rhaid iddo gyhoeddi unrhyw adroddiadau a wnaed o dan yr adran hon, a threfnu ir adroddiadau hyn i gael eu gosod o flaen Senedd y DU.

5.12 O dan adran 9(3) or Ddeddf, pan fydd person (nad ywn Ysgrifennydd Cartref) yn gofyn am gyngor neu gymorth, gall y Comisiynydd godi t但l arnyn nhw am roir cyngor neu gymorth hwnnw. Bydd hyn yn golygu na fydd y Comisiynydd yn cael ei gyfyngu gan y nifer o staff sydd ganddo o ran y cyngor y gall ef ei roi i sefydliadau syn ei geisio. Bydd hefyd yn galluogi swyddfar Comisiynydd i ehangu er mwyn ateb unrhyw alw ychwanegol heb gyfaddawdu ar ei r担l genedlaethol.

5.13 Ni fydd y Comisiynydd yn gallu codi mwy nar gost a gafwyd yn unol 但r rheolau a osodir o fewn Rheoli Arian Cyhoeddus yngl天n 但 chodi ar gyrff cyhoeddus.

5.14 Yn unol 但r hyn a osodir yn adran 12 or Ddeddf, rhaid ir Comisiynydd sefydlu Bwrdd Ymgynghorol er mwyn ei gynghori yngl天n ag arfer ei swyddogaethau.

5.15 Rhaid bod gan y Bwrdd ddim llai na chwe aelod a dim mwy na deg, a gaiff eu penodi gan y Comisiynydd. Pennir isafswm y gofynion ar gyfer y Bwrdd Ymgynghorol yn adran 12(4) or Ddeddf. Dylid cael aelodau or gwasanaethau, sefydliadau, sectorau a disgyblaethau a restrir yn yr isadran honno.

5.16 Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am benodi pob aelod or Bwrdd Ymgynghorol. Rhaid i unrhyw d但l neu lwfansau a roddir i aelodaur Bwrdd Ymgynghorol fod yn unol 但 gweithdrefnau ariannol y Swyddfa Gartref. Bydd y Comisiynydd yn hysbysur Swyddfa Gartref cyn penodi unrhyw aelod or Bwrdd Ymgynghorol ond does dim gofyn iddo ymgynghori ar Swyddfa Gartref na chael cytundeb y Swyddfa Gartref ar gyfer penodiad unrhyw Aelod or Bwrdd Ymgynghorol.

5.17 Mae Telerau Penodiad y Comisiynydd yn gofyn iddo sefydlu Gr典p Dioddefwyr a Goroeswyr ar wah但n. Y Comisiynydd fydd yn penderfynu ar ac yn penodi aelodaur gr典p, ac mewn ymgynghoriad 但r gr典p, yn penderfynu ar ei swyddogaeth. Rhaid i unrhyw lwfansau a roddir i aelodaur Gr典p Dioddefwyr a Goroeswyr fod yn unol 但 gweithdrefnau ariannol y Swyddfa Gartref.

5.18 O dan adran 13 or Ddeddf, rhaid ir Comisiynydd, cyn gynted 但i fod yn ymarferol i wneud hynny yn dilyn ei benodiad, baratoi a chyhoeddi cynllun strategol, fydd yn amlinellu sut maer Comisiynydd yn cynnig i arfer ei swyddogaethau am y cyfnod maer cynllun yn perthyn iddo (sydd yn gorfod bod yn ddim llai na blwyddyn a dim mwy na thair blynedd).

5.19 Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun strategol, rhaid ir Comisiynydd ymgynghori 但r Ysgrifennydd Cartref, y Bwrdd Ymgynghorol (a sefydlir o dan adran 12 or Ddeddf), ac unrhyw bersonau eraill eu bod yn ystyried yn briodol. Er nad yw wedii bennu gan y Ddeddf, bydd y Swyddfa Gartef yn rhoi ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd ar y cynllun strategol o fewn 28 diwrnod calendr oi dderbyn.

5.20 Yn dilyn ymgynghoriad, rhaid ir Comisiynydd gyhoeddir cynllun strategol ac unrhyw ddiwygiad iddo a threfnu i hwnnw ynghyd ac unrhyw ddiwygiad, gael ei osod o flaen Senedd y DU.

5.21 O dan adran 14 or Ddeddf, rhaid ir Comisiynydd gyflwyno copi oi adroddiad blynyddol ir Ysgrifennydd Cartref cyn ir Comisiynydd drefnu i gopi gael ei osod o flaen Senedd y DU.

5.22 Rhaid ir Comisiynydd roi gwybodaeth ddigonol ir Swyddfa Gartref er mwyn rhoi golwg o allur Comisiynydd i gyflawni ei swyddogaethaun effeithiol a rheoli arian cyhoeddus yn briodol. Lle bo angen, dylair Comisiynydd integreiddio hwn i systemau perfformiad corfforaethol y Swyddfa Gartref, er mwyn galluogi adrodd effeithlon ac effeithiol.

5.23 Bydd y comisiynydd yn sicrhau bod peryglon a risg yn cael eu trin mewn dull addas. Bydd y Comisiynydd yn rhybuddior Swyddfa Gartref yngl天n 但 pheryglon ar y cyfle cynharaf ac yn codi lefel y risg ir Adran fel bo angen.Gall fod yna risg neu faterion wedi eu rhannu, a adnabyddir gan naill air Swyddfa Gartref neur Comisiynydd, lle bydd angen ymgysylltu 但 phob parti er mwyn cefnogi lliniaru risg.

5.24 Gall y Comisiynydd geisio cyrchu data gan y Swyddfa Gartef er mwyn helpu diweddaru ei waith; bydd data or fath yn destun protocol rhannu gwybodaeth rhwng y Swyddfa Gartref /Comisiynydd ar wah但n. Does dim gofynion yn y Ddeddf ar y Comisiynydd i rannu data neu wybodaeth gydar Swyddfa Gartref, ond mae adran 18(1) or Ddeddf yn rhoir p典er ir Comisiynydd ddatgelu gwybodaeth i unrhyw berson mewn cyswllt 但i swyddogaethau cyhyd 但 bod y datgeliad yn wedii wneud at ddiben syn gysylltiedig 但i swyddogaethau ac yn ddarostyngedig ir cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth a osodir yn adran 18(4) a (5).

5.25 Dylair Comisiynydd ai staff drin unrhyw ddata a gafwyd gan y Swyddfa Gartref gydar sensitifrwydd a amodir gan y Swyddfa Gartref. e.e. pun a ywr wybodaeth yn wybodaeth gyhoeddus neu beidio, ac yn unol 但r gofynion cyfreithiol cymwys (gan gynnwys adran 18 or Ddeddf a deddfwriaeth data yn unol 但r diffiniad a geir yn adran 18(6) or Ddeddf).

6. Proses ar gyfer diwygior Ddogfen Fframwaith

6.1 Caiff y Ddogfen Fframwaith ai weithrediad ei adolygu gan y Swyddfa Gartref mewn ymgynghoriad gyda a drwy gytundeb 但r Comisiynydd ar ysbeidiau o ddim mwy na tair blynedd (er nad ywr cyfnod wedi ei bennu gan y Ddeddf). Gall yr Ysgrifennydd Cartref ddyrannu Dogfen Fframwaith ddiwygiedig ar 担l adolygiadau or fath (yn dilyn ymgynghoriad gydar Comisiynydd a dim ond os byddan nhwn cytuno i unrhyw ddiwygiadau). Bydd yr Ysgrifennydd Cartref hefyd yn ymgynghori 但 Gweinidogion Cymreig cyn dyrannu unrhyw Ddogfen Fframwaith maer Ysgrifennydd Cartref yn ystyried i fod yn sylweddol wahanol or ddogfen Fframwaith maen ei ddisodli. Caiff y Ddogfen Fframwaith ei adolygu yn dilyn penodiad Comisiynydd newydd.

6.2 Gall y Comisiynydd gynnig diwygiadau ir Ddogfen Fframwaith hon ar unrhyw adeg.Bydd unrhyw newidiadau yn ddarostyngedig i gytundeb rhwng y Comisiynydd ar Ysgrifennydd Cartref.

Llofnodwyd gan:

Nicole Jacobs
Comisiynydd Cam-Drin Domestig

Rachel Maclean
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Swyddfa Gartref), Gweinidog dros Ddiogelu, ar ran yr Ysgrifennydd Cartref

  1. Wrth ystyried cais a ddaw ger bron y Comisiynydd i adolygur penderfyniad, bydd y Cyfarwyddwr yn parhau i lynu at God y Gwasanaeth Sifil ai werthoedd craidd o onestrwydd, unplygrwydd, gwrthrychedd ac amhleidioldeb.