Cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn
Diweddarwyd 11 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hanes diweddariadau.
1. Sut mae caffael hawddfreintiau trwy bresgripsiwn
Presgripsiwn yw caffael hawl trwy hir ddefnydd neu fwynhau; maer gyfraith yn tybio y rhoddwyd yr hawl yn gyfreithlon. Mae 3 dull o gaffael hawddfraint trwy bresgripsiwn:
- trwy gyfraith gwlad
- trwy grant cyfoes coll
- o dan Ddeddf 1832
Pa ddull bynnag y dibynnir arno, rhaid ir defnydd fod am o leiaf 20 mlynedd ac maer pwyntiau canlynol yn berthnasol.
1.1 Defnydd fel hawl
Rhaid ir defnydd fod heb rym, heb gyfrwystra, a heb ganiat但d (nec vi, nec clam, nec precario). Ni all defnydd fod yn ddefnydd fel hawl tra bor tir buddiol ar tir syn dwyn y baich yn yr un meddiant.
1.2 Defnydd gan neu ar ran perchennog rhydd-ddaliol yn erbyn perchennog rhydd-ddaliol arall
Ceir 2 fater yma.
Yn gyntaf, gall defnydd tenant sefydlu hawddfraint ond maen atafaelu ir ystad rydd-ddaliol. Mae hyn yn golygu na all tenant gaffael hawddfraint dros dir arall a berchnogir gan ei landlord, gan na all landlord gael hawliau yn ei erbyn ei hun, ac mae hyn yn gymwys pun ai oes gan y tir arall hwnnw denant ai peidio. Mae hefyd yn golygu na fydd unrhyw hawddfraint syn codi yn dod i ben gydar brydles.
Yn ail, lle y mae tenant yn meddiannur tir syn dwyn y baich, mae pun ai y mae hawddfraint ragnodol yn codi yn dibynnu ar a gytunodd perchennog rhydd-ddaliol y tir syn dwyn y baich 但r defnydd. Eglurir y sefyllfa yn Williams v Sandy Lane (Chester) Ref [2006] EWCA Civ 1738; gweler yn arbennig para.24. Yn fyr, mae hyn yn golygu:
- os dechreuodd y denantiaeth cyn y cyfnod defnyddio, caiff y cais ei ddileu oni bai y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd ac y gallai fod wedi cymryd camau i atal y defnydd yn ystod y denantiaeth
- os dechreuodd y denantiaeth ar 担l y cyfnod defnyddio, caiff y cais ei ddileu oni bai (i) y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd cyn iddo gael ei roi neu (ii) y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd dim ond ar 担l iddo gael ei roi ond y gallai fod wedi cymryd camau i atal y defnydd
1.3 Rhaid ir defnydd fod yn ddi-dor
Nid oes angen ir defnydd fod yn gyson ond bydd cyfnodau hir, diesboniad o ddiffyg defnydd yn atal hawddfraint rhag codi. Lle bor cais yn cael ei wneud o dan Ddeddf 1832, nid yw toriad yn cael ei drin fel toriad yn y defnydd nes bydd wedi ei oddef am flwyddyn.
1.4 Rhaid ir hawl syn cael ei hawlio fod yn un y gellid bod wedi ei rhoin gyfreithlon
Ystyriwyd y pwynt hwn yn Nh天r Arglwyddin ddiweddar yn achos Bakewell Management Ltd yn erbyn Brandwood ([2004] UKHL 14).
Os na ellid bod wedi rhoir hawl yn gyfreithlon trwy weithred, fel hawl i lygru afon yn groes i waharddiad statudol, nid oes modd ei chaffael trwy bresgripsiwn.
Mae adran 193(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn ei gwneud yn drosedd i yrru cerbyd dros gomin. Mae adran 34 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn ei gwneud yn drosedd i yrru cerbyd modur dros dir nad ywn ffordd, syn gilffordd gyfyngedig, neu dros dir y mae llwybr cyhoeddus neu Iwybr ceffylau yn rhedeg drosto. Fodd bynnag, ni chyflawnir y ddau drosedd ond wrth yrru dros y tir heb awdurdod cyfreithlon. Gan y gellid bod wedi rhoddin gyfreithlon yr hawl i yrru dros y tir dan sylw, mae modd ei chaffael trwy bresgripsiwn.
1.5 Tir rheilffordd a chamlas
Ers derbyn Deddf Comisiwn Cludiant Prydeinig 1949, ni fu modd caffael hawl tramwy trwy bresgripsiwn dros dir ym meddiant y comisiwn ac yn ffurfio mynediad neu fynedfa i, ymysg pethau eraill, unrhyw orsaf, depo, doc neu harbwr yn perthyn ir comisiwn (adran 57 o Ddeddf Comisiwn Cludiant Prydeinig 1949). Erbyn hyn rhaid cymryd bod y cyfeiriadau at y comisiwn yn cynnwys awdurdodau rheilffyrdd olynol ar Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
2. Gweithredur hawddfreintiau pan nad oes cofnodion yn y gofrestr
Nid oes unrhyw ofyniad i wneud cofnodion yn y gofrestr o ran hawddfreintiau trwy bresgripsiwn.
Mae mantais holl fuddion syn bodoli er lles ystad yn breinio yn y perchennog cofrestredig ar gofrestriad cyntaf (adrannau 11(3), 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac yna bydd yn mynd ymlaen ar drosglwyddor ystad gofrestredig.
Buddion cyfreithiol fydd hawddfreintiau syn codi trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad neu athrawiaeth grant cyfoes coll. Mae prynwr tir digofrestredig syn dwyn baich yn rhwym dan fuddion cyfreithiol. Yn dilyn cofrestriad cyntaf y tir syn dwyn y baich, buddion gor-redol ywr rhan fwyaf o hawddfreintiau cyfreithiol (adran 29 ac Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac fellyn gallu cyfrwymo perchnogion cofrestredig olynol y tir syn dwyn y baich.
Mae modd i hawddfraint golli ei grym ar warediad cofrestredig os nad oedd y trosglwyddai yn ymwybodol ohoni mewn gwirionedd, nad oedd yn amlwg ar archwiliad rhesymol ofalus or tir, ac na chafodd ei harfer o fewn blwyddyn ir trosglwyddiad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i hawddfreintiau oedd yn fuddion gor-redol o ran ystad gofrestredig ar ddyfodiad Deddf Cofrestru Tir 2002 i rym ar 13 Hydref 2003.
Ni fydd y rhan fwyaf o hawddfreintiau trwy bresgripsiwn yng nghategori hawddfreintiau syn colli eu grym gan y byddant yn cael eu defnyddion rheolaidd. Fodd bynnag, ni ddylid anwybyddu posibilrwydd colli hawddfraint fel hyn. Bydd cofnodi rhybudd o hawddfraint yng nghofrestr y teitl syn dwyn y baich yn sicrhau nad ywn colli ei grym ar warediad pellach y tir syn dwyn y baich.
3. Y cofnodion y mae modd eu gwneud yn y gofrestr o ran yr hawddfreintiau
Yn fras, maer cofnodion a wnawn yn y gofrestr yn dibynnu ar y canlynol:
- a ywr tir buddiol ar tir syn dwyn baich wedi eu cofrestru neu ai dim ond un ohonynt sydd wedi ei gofrestru
- lle bor tir syn dwyn y baich yn ddigofrestredig, a gyflwynwyd tystiolaeth foddhaol o deitl
3.1 Mae budd yr hawliwr yn y tir buddiol ar ystad rydd-ddaliol yn y tir syn dwyn y baich yn gofrestredig: cofrestrur budd a nodir baich
Gall perchennog cofrestredig wneud cais i gael ei gofrestrun berchennog hawddfraint gyfreithiol yn berthynol ir ystad gofrestredig; mewn geiriau eraill, gall wneud cais i gofrestru budd yr hawddfraint. Os ywr cais mewn trefn, ac os or dystiolaeth rydym wedi ei gweld, ein bod yn credu ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod hawl gan yr hawliwr i gael ei gofrestru felly, byddwn yn anfon rhybudd or cais at berchennog cofrestredig y tir syn dwyn y baich ac at bobl eraill, megis arwystleion cofrestredig, sydd, yn 担l y gofrestr, 但 budd yn y tir.
Ar yr amod nad ydym yn derbyn gwrthwynebiad ir rhybudd neu rybuddion, gwnawn gofnod yng nghofrestr eiddor tir buddiol ir perwyl bod gan y tir hwn fudd yr hawddfraint. Os mai dim ond rhan or tir yn y teitl ywr tir buddiol, bydd y cofnod yn nodi rhan y teitl cofrestredig sydd 但 budd yr hawddfraint. Mae cofnod or fath yn gwarantu bodolaeth yr hawl at ddiben darpariaethau indemniad Deddf Cofrestru Tir 2002.
Ar yr un pryd, gwnawn gofnod yn y gofrestr arwystlon ar gyfer y tir syn dwyn y baich. Os mai dim ond rhan or tir yn y teitl ywr tir syn dwyn y baich, bydd y cofnod yn nodi rhan y teitl cofrestredig syn ddarostyngedig ir hawddfraint.
Efallai nad yr un geiriad fydd ir cofnod 但r hawl syn cael ei hawlio gan y ceisydd yn ei gais. Mae hyn oherwydd bod natur yr hawl trwy bresgripsiwn yn cael ei phennu gan y defnydd y cododd ohono.
Bydd y cofnod yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir buddiol ar rhybudd yn y gofrestr arwystlon ar gyfer y tir syn dwyn y baich yn datgan ir hawl gael ei chaffael trwy ddefnydd hir a bydd yn cyfeirio at y datganiad(-au) o wirionedd neu ddatganiad(-au) statudol a gyflwynwyd i gefnogir cais, a fydd yn agored iw harchwilio.
Gallai cofnodion nodweddiadol ar gyfer y budd ar baich fod yn debyg i hyn:
(Budd)
Mae gan y tir [a arlliwir yn binc ar y cynllun teitl] fudd hawl tramwy gyda neu heb gerbydau dros yr heol yn y cefn syn arwain at Smith Street. Maen bosibl y bydd cwmpas yr hawl hon, a gafwyd trwy bresgripsiwn, wedi ei gyfyngu gan natur y defnydd y cododd ohono.
Nodyn 1: Cyflwynwyd datganiad o wirionedd dyddiedig 2 Ionawr 2014 a wnaed gan Maria Garcia i gefnogir hawliad i fudd yr hawl.
Nodyn 2: Copi or datganiad o wirionedd yn y ffeil.
(Baich)
Maer tir [a arlliwir yn las ar y cynllun teitl] yn ddarostyngedig i hawl tramwy gyda neu heb gerbydau o blaid 33 Smith Street. Maen bosibl y bydd cwmpas yr hawl hon, a gafwyd trwy bresgripsiwn, wedi ei gyfyngu gan natur y defnydd y cododd ohono.
NODYN: Copi or datganiad o wirionedd a wnaed ar 2 Ionawr 2014 gan Maria Garcia wedi ei ffeilio o dan CS259591.
Bydd yr hawliadau a wnaed i gefnogir cais yn amlwg or datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd cefnogol.
(Gallai hawliwr y mae ei fudd yn y tir buddiol yn gofrestredig wneud cais hefyd i nodir baich, ac nid i gofrestrur budd. Ni fyddain rhaid diddwythor teitl ir tir buddiol).
3.2 Dim ond budd yr hawliwr yn y tir buddiol syn gofrestredig: cofrestrur budd
Fel yr eglurwyd yn adran 3.1, gall perchennog cofrestredig wneud cais i gael ei gofrestrun berchennog hawddfraint gyfreithiol yn berthynol iw ystad gofrestredig. Yn ychwanegol at y dystiolaeth o ddefnydd parhaus fel hawl, gan neu ar ran ac yn erbyn y perchnogion rhydd-ddaliol, am gyfnod o leiaf 20 mlynedd, bydd yn rhaid ir hawliwr ddiddwythor teitl ir tir syn dwyn y baich a chyflwyno cyfeiriad y perchennog rhydd-ddaliol i ni. Gall yr hawliwr ddiddwythor teitl trwyr talfyriad neu grynodeb archwiliedig neu ardystiedig a fyddain cael eu cyflwyno ar werthiant yr ystad rydd-ddaliol yn y tir caeth. Os ywr cais mewn trefn, ac os or dystiolaeth rydym wedi ei gweld, ein bod yn credu ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod hawl gan yr hawliwr i gael ei gofrestru felly, byddwn yn anfon rhybudd or cais at berchennog rhydd-ddaliol y tir syn dwyn y baich yn ogystal ag unrhyw un arall a all fod 但 budd yn y tir.
Os na dderbyniwn wrthwynebiad ir rhybuddion a gyflwynwyd ac nad oes rheswm dros gredu bod unrhyw rybudd heb ei dderbyn, gallwn gofrestru budd yr hawddfraint yn yr un modd 但 phe bair tir syn dwyn y baich wedi ei gofrestru.
Yn gyffredinol, lle nad ywr hawliwr yn diddwytho teitl ir tir syn dwyn y baich a darparu cyfeiriad y perchennog rhydd-ddaliol, nid ydym yn cyflwyno unrhyw rybuddion. Byddwn yn gwneud cofnod fel a ganlyn yng nghofrestr eiddor tir buddiol:
[Dyddiad] Maer perchennog cofrestredig yn hawlio bod gan y tir fudd hawl [teleraur hawl fel yr hawliwyd gan yr hawliwr]. Nid ywr hawl syn cael ei hawlio wedi ei chynnwys yn y cofrestriad hwn. Maer hawliad yn cael ei chefnogi gan [dyddiadau a manylion y datganiad(-au) o wirionedd neu ddatganiad(-au) statudol a phwy sydd wediu gwneud].
NODYN: Copi/cop誰au yn y ffeil.
Byddwn yn gwneud cofnod tebyg mewn achosion lle bo gennym sail i gredu ei bod yn bosibl na dderbyniwyd rhybuddion a gyflwynwyd gennym.
Fel y mae ffurf y cofnod yn mynegi, byddwn yn ffeilio cop誰au or datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol a gyflwynwyd i gefnogir cais ac mae modd eu harchwilio a chael cop誰au swyddogol yn yr un modd 但 mwyafrif categor誰au eraill y dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr. Lle nodwyd hawl i hawddfraint gennym yng nghofrestr eiddor tir buddiol cyn 25 Mawrth 2002 (o dan reol 254 o Reolau Cofrestru Tir 1925), nid ywr cofnod yn cyfeirio at y datganiadau statudol a gyflwynwyd i gefnogir cais. Fodd bynnag, gall y perchennog cofrestredig wneud cais ysgrifenedig i addasur cofnod fel ag i gyfeirio at y datganiadau statudol perthnasol (nid oedd datganiadau o wirionedd yn cael eu defnyddio ar y pryd).
3.3 Dim ond yr ystad rydd-ddaliol yn y tir syn dwyn y baich syn gofrestredig: nodir baich
Os ywr hawliwr yn hawlio ei fod wedi caffael hawddfraint dros dir cofrestredig, gallwn gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr hawddfraint a gaiff ei hawlio yng nghofrestr arwystlon y tir syn dwyn y baich.
Os ywr hawliwr yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd heb i berchennog cofrestredig y tir caeth roi ei gydsyniad ir cofnod, dylai ddarparu dalfyriad neu grynodeb archwiliedig neu ardystiedig diweddar oi deitl ir tir buddiol, yn ogystal 但r datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol angenrheidiol. Rhaid ir cofrestrydd fod yn fodlon o ran dilysrwydd hawl y ceisydd i gofnodi rhybudd unochrog heb ganiat但d y perchennog cofrestredig.
I weld y gwahaniaeth rhwng rhybudd a gytunwyd a rhybudd unochrog, ynghyd ag enghreifftiau o gofnodion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.
Os ywr cais am rybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd, byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig y tir syn dwyn y baich. Gallwn hefyd gyflwyno rhybudd i bobl eraill syn ymddangos fod ganddynt fudd yn y tir.
Os cofnodir rhybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd yng nghofrestr y tir syn dwyn y baich, bydd unrhyw warediad dilynol or tir syn dwyn y baich yn dod i rym yn ddarostyngedig ir hawddfraint, ond dim ond os ywr budd yn ddilys (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
3.4 Maer tir syn dwyn y baich yn ddigofrestredig
Gellir gwneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf os ywr tir syn dwyn y baich yn ddigofrestredig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf am wybodaeth am sut i gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf.
4. Gwneud cais i gael cofnodion yn y gofrestr
Fel rheol, dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf mae angen dogfennau gwreiddiol. I gael gwybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr derbyn cop誰au ardystiedig o weithredoedd.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop誰au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio or dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop誰au ardystiedig.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop誰au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
4.1 Ffurflenni penodedig
Rhaid gwneud cais i gofrestru budd hawddfraint trwy bresgripsiwn naill ai ar ffurflen FR1 (ar adeg cofrestrur tir buddiol am y tro cyntaf) neu ffurflen AP1 (ar unrhyw adeg ar 担l hynny).
Pan for cais yn cael ei wneud ar ffurflen FR1 dylid gosod y cais yn gryno ym mhanel 5, er enghraifft:
Cofrestru budd hawddfraint, sef hawl tramwy gyda neu heb gerbydau er budd tir y ceisydd, dros y dramwyfa wedi ei lliwion frown ar y cynllun atodol.
Os ywr tir syn dwyn y baich yn gofrestredig, rhaid rhoi rhif teitl y tir syn dwyn y baich ym mhanel 2. Efallai y bydd angen ymestyn dyfnder y panel mewn ffurflen a gynhyrchwyd trwy ddull electronig neu ddefnyddio dalen barhau ffurflen CS.
Wrth wneud y cais ar ffurflen AP1, dylid ei osod ym mhanel 4, er enghraifft:
Cofrestru budd a nodi baich hawddfraint, sef hawl tramwy ar ddeudroed yn unig er lles teitl cofrestredig y ceisydd rhif AB123456 dros y dramwyfa yn rhedeg or cefn dros deitl cofrestredig rhif AB654321 hyd Rodfa Acasia.
Os ywr tir syn dwyn y baich wedi ei gofrestru rhaid rhoi rhif teitl y tir syn dwyn y baich (fel yn yr enghraifft hon). Os oes angen, naill ai dylid ymestyn y panel ar fersiwn electronig or ffurflen neu dylid defnyddio dalen barhau ffurflen CS.
Lle bor cais i nodi baich hawddfraint yn unig, dylid gosod natur yr hawl syn cael ei hawlio ar ffurflen AN1 (panel 8) neu ffurflen UN1 (panel 11 neu 12) fel y bon briodol.
Lle bo disgrifiad geiriol yn gadael unrhyw amheuaeth o ran lleoliad neu faint yr hawddfraint, rhaid darparu cynllun ar sail map yr Arolwg Ordnans ar y raddfa fwyaf ar gyfer y cylch dan sylw. Dylai disgrifiad yr hawl syn cael ei hawlio gyfeirio at gynllun, wedi nodin eglur ac yn ofalus.
Fel yr eglurwyd, efallai y byddwn yn gorfod newid rhywfaint ar y geiriad a ddefnyddiwyd yn y ffurflen gais wrth wneud y cofnodion yn y gofrestr.
Pan fo eisiau cofnodion o ran hawddfreintiau trwy bresgripsiwn ar gofrestriad cyntaf neu gofrestru gwarediad, ond nad ywn amlwg or ffurflen FR1, ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 neu fel arall bod cofnodion or fath yn cael eu ceisio, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud. Ni fydd cynnwys datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn y dogfennau cysylltiedig 但r cais, heb esboniad yn y ffurflen gais neu mewn llythyr eglurhaol pam y cafodd ei gynnwys, yn cael ei gymryd fel cais i wneud cofnodion yn y gofrestr. Bydd ceisiadau or fath yn aml yn mynd ag amser ac yn gofyn cyflwyno rhybuddion i berchnogion tir eraill mewn llawer achos. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unig lle bor ceisydd wedi gwneud yn glir ei fod yn ceisio cofrestru budd hawl trwy bresgripsiwn.
Os ywr tir buddiol yn cael ei berchnogi y cyd, rhaid i unrhyw gais gael ei wneud gan neu ar ran yr holl berchnogion.
4.2 Datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol
Cyn i ni gofrestrur hawddfraint, neu gofnodi rhybudd a gytunwyd pan nad y perchennog cofrestredig ywr hawliwr ac nad yw wedi cydsynio ir cofnod, rhaid inni fod yn fodlon bod yr hawddfraint wedi ei chaffael.
Ir diben hwn, rhaid ir hawliwr gyflwyno tystiolaeth, mewn datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol, o ddefnydd di-dor fel hawl, gan neu ar ran ac yn erbyn y perchnogion rhydd-ddaliol, am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf. Rhaid ir datganiad o wirionedd neur datganiad statudol osod yn fanwl y defnydd ar mwynhad y dibynnir arno i gadarnhaur hawl. Rhaid ir hawl syn cael ei hawlio fod yn un y gellid bod wedi ei rhoin gyfreithlon. Ni fydd y cais yn mynd ymhellach a bydd yn cael ei ddileu os nad ywr dystiolaeth yn ateb y gofynion hyn.
(Wrth gwrs, hyd yn oed os ywr hawliwr yn cyflwynor dystiolaeth hon, nid ywn golygu bod hawddfraint wedi ei chaffael o angenrheidrwydd. Lle seiliwyd y cais ar bresgripsiwn cyfraith gwlad, efallai y gall perchennog y tir syn dwyn y baich brofi na allair hawl fod wedi cael ei harfer o 1189 ymlaen. Lle seiliwyd y cais ar grant cyfoes coll, efallai y gall y perchennog brofi na allai neb fod wedi rhoir hawddfraint yn gyfreithlon. Yn yr achosion hyn, nid oes unrhyw hawddfraint).
Mewn rhai achosion gall fod angen 2 neu fwy o ddatganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol (er enghraifft gan berchnogion ystad olynol lle bo angen tystiolaeth o ddefnydd yn ystod eu cyfnodau perchnogaeth priodol i ffurfior cyfnod o 20 mlynedd neu fwy sydd ei angen).
Dylai pob datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol a luniwyd at ddibenion cais am hawddfraint trwy bresgripsiwn naill ai:
- gynnwys datganiad, hyd eithaf gwybodaeth a chred y datganwr neur sawl syn gwneud y datganiad, yr arferwyd yr hawl erioed heb rym, cyfrwystra na chaniat但d
- roi manylion or ffeithiau syn atal yr hawliwr rhag gallu gwneud y datganiad hwn
Datganiad o wirionedd yw ffurflen ST4, wedii dylunio i ddarparu fframwaith ar gyfer y wybodaeth y maen rhaid ei chynnwys mewn cais syn ymwneud 但 hawddfraint trwy bresgripsiwn. Nid ywn orfodol ei defnyddio, ac ni fydd yn gwarantu llwyddiant y cais cysylltiedig, ond bydd yn gymorth i sicrhau nad ydych wedi anghofio unrhyw beth.
Fodd bynnag, bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd syn bodloni gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Datganiad o wirionedd) yn dderbyniol, yr un fath 但 datganiad statudol.
Dylid sylweddoli nad oes modd caffael hawl tramwy trwy bresgripsiwn ond ir un graddau 但r defnydd y maen dibynnu arno. Felly, os ywr datganiad statudol yn dangos y cyfyngwyd y defnydd i fod ar ddeudroed yn unig, neu at ryw ddiben arbennig (er enghraifft i gyrraedd a gadael modurdy ar y tir buddiol), bydd y cofnodion yn y gofrestr yn adlewyrchur cyfyngiad hwnnw.
Os ywr datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn cael ei wneud gan un or cydberchnogion, dylid ei wneud yn glir ei fod yn cael ei wneud ar ran yr holl berchnogion, os yw hynnyn wir.
4.3 酷韓誰看艶糸糸
Er mwyn gweld pa ff誰oedd syn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: 酷韓誰看艶糸糸 Gwasanaethau Cofrestru.
Gall fod t但l archwilio yn daladwy yn ogystal 但r taliad am wneud cais os penderfynwn fod angen archwiliad. Os felly, byddwn yn gofyn amdano unwaith y gwnaed y penderfyniad hwnnw ac ni fydd y cais yn gallu mynd rhagddo nes y caiff y t但l archwilio ei dderbyn.
5. Effaith gwrthwynebiad i gais
Os derbyniwn wrthwynebiad oddi wrth unrhyw un y cyflwynwyd rhybudd o gais iddo i gofrestru budd hawddfraint, ac nid ywr gwrthwynebiad yn ddi-sail, ni allwn fwrw ymlaen gydar cais nes bydd y gwrthwynebiad yn cael ei benderfynu o blaid yr hawliwr. Caiff yr hawliwr hysbysiad or gwrthwynebiad ar sail iddo. Yna gall yr hawliwr ddewis un or 3 dewis a restrir isod.
Yn yr un modd, os cofnodir rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, a bod unrhyw un y cyflwynwyd rhybudd am y cofnod (neu unrhyw berson arall) yn gwneud cais i ddileur rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, a bod yr hawliwr yn gwrthwynebur dileu, ni allwn barhau 但 chais i ddileu ac mae gan y ceisydd yr un 3 dewis.
5.1 Tynnur cais yn 担l yn gyfan gwbl
Yn yr achos hwn, byddwn yn dileur cais, yn dychwelyd cop誰au a sganiwyd or papurau a gyflwynwyd ac yn hysbysur gwrthwynebydd or dilead.
5.2 Ceisio cyd-drafod datrys yr anghydfod yn uniongyrchol gydar gwrthwynebydd
Caiff pawb eu hannog i ddatrys anghydfodau heb yr angen am drefnau ffurfiol ble bynnag y bo modd. Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn darparu unrhyw gyfryngu ffurfiol ond bydd ymdrechion i nodi pynciau llosg unrhyw anghydfod a gweld a oes unrhyw dir cyffredin rhwng y ddwy ochr ac a oes modd cael cytundeb. Fodd bynnag, ni ellir caniat叩u i anghydfodau barhaun ddiderfyn ac, oni bai fod symud tuag at ddatrysiad, bydd yr anghydfod yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys.
5.3 Cyfeirior anghydfod at y tribiwnlys
O dan adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid cyfeirio unrhyw anghydfod nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb at y tribiwnlys. Oni bai fod pawb yn dod i gytundeb ymlaen llaw, bydd y tribiwnlys naill ai:
- yn cynnal gwrandawiad ffurfiol a rhoi dyfarniad ar yr anghydfod syn gyfrwymol ar bawb (yn amodol ar unrhyw ap棚l) yn yr un modd ag y byddai dyfarniad llys
- yn gorchymyn i un or part誰on ir anghydfod ddechrau achos llys i ddatrys yr anghydfod. Mae cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF a chyfarwyddyd ymarfer 38: costau mewn ceisiadau cynhennus yn cynnig mwy o wybodaeth am y pwnc hwn.
6. Hawliau tramwy a gaffaelwyd o dan Reoliadau Mynedfa i Gerbydau dros Dir Comin a Thir Arall (Lloegr) 2002 a Rheoliadau Mynedfa i Gerbydau dros Dir Comin a Thir Arall (Cymru) 2004
Roedd y rheoliadau hyn, a wnaed o dan adran 68 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn darparu ar gyfer creu hawddfraint gyfreithiol, yn rhoi hawl tramwy i gerbydau mewn achosion lle byddai eu defnyddio wedi arwain at hawddfraint trwy bresgripsiwn pe na bai wedi bod yn drosedd.
Diddymodd adran 51 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 adran 68 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gydar effaith yr aeth y rheoliadaun ddi-rym pan ddaeth adran 51 i rym ar 1 Hydref 2006.
7. Datganiad o wirionedd
Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ei fabwysiadu yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil trwy dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.
Gweler Gwneud cais i gael cofnodion yn y gofrestr o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
7.1 Gofynion
At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn (gweler rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003):
- maen cael ei wneud yn ysgrifenedig gan unigolyn
- rhaid iddo gael ei lofnodi gan y sawl syn ei wneud (oni bai nad ydynt yn gallu ei lofnodi gweler Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi)
- nid oes rhaid iddo gael ei dyngu neu ei dystio
- rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: credaf fod y ffeithiau a materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir
- os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu yn ei lofnodi ar ran rhywun, rhaid ir trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a datgan ym mha rinwedd maen llofnodi gweler Llofnod gan drawsgludwr
7.2 Datganiad o wirionedd a lofnodir gan unigolyn nad ywn gallu darllen
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei lofnodi gan unigolyn nad ywn gallu darllen, rhaid ir datganiad:
- gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr
- chynnwys tystysgrif wedii llunio ai llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:
Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir ir sawl syn gwneud y datganiad hwn sydd wedi ei lofnodi neu wedi gwneud [ei farc][ei marc] yn fy mhresenoldeb ar 担l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.
7.3 Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi, rhaid ir datganiad:
- nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
- gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn 担l cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw
- chynnwys tystysgrif wedii llunio ai llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:
Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [y sawl syn gwneud y datganiad o wirionedd hwn wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, wedi cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac wedi fy nghyfarwyddo iw lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] neu [fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir ir sawl syn gwneud y datganiad hwn sydd wedi fy nghyfarwyddo iw lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] ar 担l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.
7.4 Llofnod gan drawsgludwr
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan drawsgludwr, neu os yw trawsgludwr yn gwneud a llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad ywn gallu ei ddarllen neu ei lofnodi:
- rhaid ir trawsgludwr lofnodi yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu ei gyflogwr
- rhaid ir trawsgludwr ddatgan ym mha rinwedd maen llofnodi a, lle bon briodol, enw ei gwmni neu ei gyflogwr
8. Pethau iw cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.