Cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau
Diweddarwyd 28 Mai 2024
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 62: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
Maer cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru hawddfreintiau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol ir gyfraith ar hawddfreintiau.
Mae gofynion ychwanegol gennym os yw hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn. Amlinellir y rhain yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop誰au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio or dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop誰au ardystiedig.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop誰au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
2. Hawddfreintiau a chofrestru: pwyntiau cyffredinol
2.1 Hawddfreintiau fel gwarediadau cofrestradwy
Rhaid cwblhau rhoi neu neilltuo penodol hawddfraint am fudd cyfatebol i ystad mewn ffi syml absoliwt mewn meddiant neu dymor o flynyddoedd absoliwt dros dir cofrestredig trwy gofrestriad (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn geiriau eraill, gwarediad cofrestradwy yw. Nid ywn llai o warediad cofrestradwy os digwydd iddo gael ei chynnwys mewn prydles, hyd yn oed os na ellir cofrestru neu nodir brydles. Oherwydd ei fod yn warediad cofrestradwy, nid fydd rhoi neu neilltuor hawddfraint yn weithredol yn y gyfraith nes y bodlonir y gofynion cofrestru (adran 27(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Amlinellir y gofynion cofrestru ym mharagraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhaid cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac, os ywr tir trech yn gofrestredig hefyd, rhaid cofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.
Rhaid ichi gyflwyno cais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 lle y maer tir buddiol ar tir caeth yn gofrestredig. Lle bor tir buddiol yn ddigofrestredig gallwch wneud cais i gofrestrur hawddfraint gan ddefnyddio naill ai ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 i fodlonir gofynion (rheol 90 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Lle bor tir buddiol ar tir caeth yn gofrestredig, os ydych yn defnyddio ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 i wneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, ac os ydym yn cwblhaur cais, ni fydd hyn yn bodlonir gofynion cofrestru. Os ydych wedyn yn gwneud cais i gofrestrur hawddfraint ar ffurflen AP1, byddwn yn cofnodi rhybudd ychwanegol gyda blaenoriaeth y cais diweddarach. Gan fod y rhybudd unochrog neur rhybudd a gytunwyd yn gwarchod i ryw raddau a gall cwestiynau ynghylch blaenoriaeth godi, ni ddil谷ir y cofnod syn bodoli heb gais penodol i wneud hyn ar ffurflen UN2, ffurflen UN4 neu ffurflen CN1 fel y bon briodol.
Lle bodlonwyd y gofynion cofrestru a lle bor hawddfraint am gydnabyddiaeth 但 gwerth, effaith adran 29(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yw bod gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros unrhyw fuddion a gr谷wyd cyn ei rhoi nad ydynt yn cael eu gwarchod ar adeg cofrestrur hawddfraint. Ni warchodir budd oni bai ei fod yn arwystl cofrestredig, yn destun rhybudd neu fudd gor-redol neu, yn achos gwarediad ystad brydlesol, os yw baich y budd yn nodwedd yr ystad.
Er enghraifft, mae perchennog cofrestredig yn rhoi arwystl cyfreithiol ac, ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, maen rhoi hawddfraint am gydnabyddiaeth 但 gwerth. Os nad oedd yr arwystl yn cael ei warchod ar adeg cofrestrur hawddfraint (ac nid oedd ganddo fudd cyfnod o flaenoriaeth o dan chwiliad), yna byddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl. Ir gwrthwyneb, pe na fodlonwyd gofynion cofrestrur hawddfraint (er enghraifft rhybudd a gytunwyd yn unig a gofnodwyd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth), ni fyddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl (byddai adran 28 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol, hynny yw byddai blaenoriaeth gan yr un cynharaf).
2.2 Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad
Os oes angen cadarnhau a yw hawddfraint wedi cael ei gwblhau trwy gofrestriad, rydym yn awgrymu eich bod yn bwrw ymlaen fel a ganlyn.
Yn gyntaf, edrychwch ar y rhybudd a gofnodwyd o ran baich yr hawddfraint. Os mair unig gofnod sydd wedi ei wneud yw rhybudd unochrog, nid ywr rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.
Os nad ywn rhybudd unochrog, edrychwch ar y gofrestr ar gyfer y tir trech os ywn gofrestredig. Bydd hyn yn nodi a ywr hawddfraint yn cael ei gynnwys yn y teitl cofrestredig. Os nad yw, nid ywr rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.
Os nad ywr rhybudd yn rhybudd unochrog ond maer tir trech yn ddigofrestredig (a fydd yn wir lle y mae gan brydles fudd hawddfraint ond ei bod yn brydles na ellir ei chofrestru), ar 6 Ebrill 2018 ac ar 担l hynny bydd yr hawddfraint wedi bodlonir gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 os cofnodwyd rhybudd mewn perthynas 但 hi yng nghofrestr y teitl caeth. Cyn 6 Ebrill 2018, byddair hawddfraint wedi bodlonir gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar yr amod bod y cais wedi ei wneud ar Ffurflen AP1. Gallwch wneud cais am gopi or ffurflen gais a arweiniodd at y cofnod. Gellir gwneud cais ar ffurflen OC2. Pe bair cais a arweiniodd at y cofnod ar ffurflen AN1, maer rhybudd yn rhybudd a gytunwyd ac nid ywr rhoi neur neilltuad wedi ei gwblhau trwy gofrestru.
2.3 Ein harfer flaenorol
Ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Ebrill 2005 ac 1 Medi, 2015, ein harfer ar gofnodi rhybudd a gytunwyd mewn perthynas 但 hawddfraint ller oedd y rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy oedd ychwanegu nodyn ar y ffurf ganlynol at y cofnod:
NODYN: Ni chwblhawyd rhoi neu neilltuo hawliau trwy gofrestriad yn unol ag adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac felly nid ywn weithredol yn y gyfraith.
Nid ywr nodyn hwn yn cael ei ychwanegu mwyach. Maen ddiangen gan fod modd cadarnhau a ywr hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad heb nodyn or fath gweler Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad. Gallai fod yn gamarweiniol hefyd oherwydd gellid ystyried (a hynnyn anghywir) bod absenoldeb nodyn yn warant o ran yr hawddfraint. Mae adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ei gwneud yn glir na all rhybudd fyth weithredu yn y modd hwn gan nad yw o reidrwydd yn golygu bod y budd yn ddilys.
2.4 Hawddfreintiau fel buddion gor-redol
Bydd hawddfraint gyfreithiol yn gweithredu fel budd gor-redol:
- ar gofrestriad cyntaf: paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
- ar gofrestriad gwarediad cofrestredig os naill ai (i) y byddai wedi bod yn amlwg ar archwiliad rhesymol ofalus or tir neu pe bain hysbys ir person y gwnaed y gwarediad iddo, neu (ii) ei fod wedi ei arfer o fewn y flwyddyn cyn y gwarediad: paragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. (Fodd bynnag, bydd hawddfraint a oedd yn fudd gor-redol mewn perthynas ag ystad gofrestredig ar 12 Hydref 2003 yn parhau i weithredu fel budd gor-redol; nid oes yn rhaid iddo fodloni un or gofynion hyn: paragraff 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.)
Maer gofyniad ir hawddfraint fod yn hawddfraint gyfreithiol yn golygu na all hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd yn benodol ar neu ar 担l 13 Hydref 2003 dros dir cofrestredig fod yn fuddion gor-redol. Hyd nes ir rhoi neu neilltuo gael ei gwblhau trwy gofrestriad, ecwit誰ol yn unig ywr hawddfraint; unwaith y bydd y rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad, maer hawddfraint yn gyfreithiol ond yna nid ywn gymwys i fod yn fudd gor-redol am nad yw bellach yn fudd digofrestredig.
Cyflwynodd Deddf Cofrestru Tir 2002 ddyletswydd i ddadlennu buddion gor-redol penodol y maer ceisydd yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys hawddfreintiau. Mae rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol au dadlennu ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol au dadlennu.
2.5 Ffurf y cofnod a wneir ar gofrestriad perchennog hawddfraint gyfreithiol
Mae Adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn datgan bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer, ymhlith pethau eraill, cofrestriad cyntaf teitl i hawddfreintiau cyfreithiol, a rhoi neu neilltuo o dir cofrestredig hawddfreintiau syn gallu bodoli yn 担l y gyfraith. Mae manylion hawddfreintiau or fath yn cael eu cofnodi yng nghofrestr eiddor ystad gofrestredig sydd 但 budd: rheol 5 (b) (ii) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Fel arfer, maer cofnod yn cyfeirio at y teitl yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddir gan weithred benodol. Gynt, efallai y byddair cofnod wedi cyfeirio at yr hawliau yn hytrach nag at unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol. Fodd bynnag, nid ywr newid hwn yn ffurf arferol y cofnod wedi ei fwriadu i newid yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y cofrestriad, ac nid ywn gwneud hynny. Hyd yn oed lle y maer cofnod yn cyfeirio at yr hawliau, ni fydd y cofrestriad yn cynnwys unrhyw rai syn gallu bod yn hawddfreintiau ecwit誰ol yn unig (efallai oherwydd eu hyd neu ddull eu creu) neu nad ydynt fel arall yn hawliau perchnogol syn gallu bodoli yn 担l y gyfraith (megis trwydded neu hawl i olygfa). Rydym yn cyfeirio at unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol yn hytrach na yr hawddfreintiau cyfreithiol oherwydd efallai gallair olaf awgrymu bod yr holl hawliau a roddir gan y trosglwyddiad ac syn effeithio ar y tir a gedwir neu ar dir arall yn hawddfreintiau cyfreithiol; gallai hyn fod yn wir, ond nid o reidrwydd felly. Gweler hefyd Budd hawddfreintiau ecwit誰ol.
2.6 Gofynion ar gyfer cyflwyno cynlluniau
Fel arfer, bydd angen i weithredoedd gynnwys cynllun syn dangos y tir trech ar tir caeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 2: paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.
Rhaid ir grantwr lofnodi pob cynllun yn unol 但 rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
3. Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant
Maer adran hon yn canolbwyntio ar ddwy fath o sefyllfa. Yn gyntaf, lle bo perchennog tir (a allai fod yn gofrestredig neun ddigofrestredig) yn trosglwyddo rhan or tir ar trosglwyddiad yn cynnwys hawddfraint syn effeithio ar y tir a gedwir neu syn fuddiol iddo. Yn ail, lle bo gweithred grant annibynnol.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
3.1 Maer tir trech ar tir caeth yn gofrestredig
Mae rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestrur hawddfraint ar ffurflen AP1. Rhaid nodi rhifau teitl yr holl deitlau cofrestredig o dan sylw (caeth a threch) ym mhanel 2. Dylair cais gynnwys:
- copi ardystiedig or weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os ywn briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- unrhyw gydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau ar y teitl caeth cofrestredig gweler Profi p典er y grantwr i wneud y grant
Byddwn yn cofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodlonir gofynion cofrestru.
Lle bor hawddfraint wedi ei chynnwys mewn trosglwyddiad o ran teitl cofrestredig, dim ond cais i gofrestrur trosglwyddiad syn ofynnol; nid oes angen cais penodol o ran yr hawddfreintiau. Byddwn yn gwneud y cofnodion angenrheidiol yn awtomatig, rheol 72(4) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, rhaid cofnodir rhifau teitl ym mhanel 2 ffurflen AP1 o hyd.
3.2 Maer tir trech yn ddigofrestredig ar tir caeth yn gofrestredig
Maer rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestrur rhoi neu neilltuo gan ddefnyddio ffurflen AP1 neu ffurflen AN1. Rhaid nodi rhifau teitl y teitlau cofrestredig caeth ym mhanel 2 yn y naill ffurflen neur llall. Dylair cais gynnwys:
- copi ardystiedig or weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os ywn briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- unrhyw gydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau yn y teitl caeth cofrestredig gweler Profi p典er y grantwr i wneud y grant.
Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodlonir gofynion cofrestru.
3.3 Maer tir trech yn gofrestredig ar tir caeth yn ddigofrestredig
Nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy, felly maen effeithiol yn y gyfraith ar adeg ei wneud.
Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr dilynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Gellir gwneud cais i gofrestrur hawddfraint fel ei bod yn perthyn ir ystad gofrestredig yn y tir trech o dan reol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen AP1. Nodwch rifau teitl y teitlau trech cofrestredig ym mhanel 2.
Dylair cais gynnwys:
- copi ardystiedig or weithred
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os ywn briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- cop誰au ardystiedig o ddogfennau teitl ir tir caeth yn dangos p典er y grantwr i wneud y grant gweler Profi p典er y grantwr i wneud y grant
4. Hawddfreintiau mewn prydlesi
Maer adran hon yn trafod yn bennaf sefyllfaoedd syn debyg ir un gyntaf a grybwyllwyd yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant, syn golygu pan fydd y teitlau ir tir caeth ar tir trech yn gofrestredig neun cael eu cofrestru, y gwahaniaeth yw yn lle trosglwyddo rhan ou tir, maer perchennog yn rhoi prydles o ran ohono ac maer brydles yn cynnwys hawddfraint syn effeithio ar neun fuddiol i dir arall syn perthyn iddynt.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
4.1 Hawddfreintiau mewn prydlesi cofrestredig
Ystyr prydlesi cofrestredig yw:
-
prydlesi tir cofrestredig lle bo rhoir brydles yn warediad cofrestradwy ac sydd wedi cael ei chwblhau trwy gofrestriad (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir digofrestredig lle bo rhoi neu aseinior brydles wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol a lle cofrestrwyd y teitl (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir cofrestredig lle nad oedd rhoir brydles yn warediad cofrestradwy ond lle bo ei haseinio wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol ar teitl wedi ei gofrestru (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
-
prydlesi tir digofrestredig sydd wedi bod yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol (adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Rhaid gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy (1 uchod) ar ffurflen AP1 a rhaid iddo gynnwys:
- copi ardystiedig or brydles wreiddiol, y maen rhaid iddi, os cafodd ei rhoi ar neu ar 担l 19 Mehefin 2006, fod yn brydles cymalau penodedig oni bai ei bod yn un or eithriadau yn rheol 58(A)(c) neu (d) o Reolau Cofrestru Tir 2003
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os ywn briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- cydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau yn nheitl cofrestredig y grantwr
Rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i brydles (2, 3 a 4 uchod) ar ffurflen FR1 a rhaid iddo gynnwys:
- copi ardystiedig or brydles
- ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os ywn briodol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
- teitl ir tir caeth syn dangos p典er y grantwr i wneud y grant
4.1.1 Hawddfreintiau a roddir
Ar adeg cofrestru prydles cymalau penodedig, byddwn dim ond yn ystyried unrhyw hawddfreintiau a roddwyd y cyfeirir atynt yng nghymal LR11.1 a gwneud cofnod priodol.
Os na fydd LR11.1 wedi ei llenwin gywir, ni wneir cofnod yn y gofrestr brydlesol o ran budd unrhyw hawddfreintiau a roddir gan y brydles. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir y brydles neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles iw chofrestru.
Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am fanylion pellach ar sut i lenwir cymalau penodedig.
Os nad ywr brydles yn brydles cymalau penodedig, byddwn yn ystyried yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles ac yn gwneud y cofnod priodol yn y gofrestr.
4.1.1.1 Maer tir caeth yn gofrestredig
Lle bor hawddfraint yn cael ei rhoi dros dir yn nheitl y landlord or hyn y maer brydles yn cael ei rhoi, caiff rhybudd or hawddfreintiau ei chofnodi yn y gofrestr trwy gofnod safonol a wneir yn nheitl y landlord wrth gofrestrur brydles:
Maer rhannau or tir yr effeithir arnynt trwy hyn yn ddarostyngedig ir prydlesi a nodir yn yr atodlen prydlesi at hyn. Maer prydlesin rhoi ac yn neilltuo hawddfreintiau fel y cyfeirir atynt ynddi.
Os rhoddir yr hawddfraint dros dir a gynhwysir o fewn teitlau cofrestredig eraill, rhaid nodi rhifaur teitl yng:
- nghymal LR2.2 yn achos prydles cymalau penodedig, neu
- panel 2 ffurflen AP1 yn achos pob prydles arall
Bydd y cofnod a wnawn wedyn yng nghofrestr y tir caeth yn gymwys i brydlesi cymalau penodedig a phrydlesi cymalau heb eu pennu, a bydd yn debyg i hyn:
Maer tir yn ddarostyngedig ir hawddfreintiau a roddwyd gan brydles a ddyddiwyd a wnaed rhwng am gyfnod o
Sylwer: Oni bai y gwneir cais yn erbyn pob teitl cofrestredig syn cynnwys y tir caeth, ni fydd y cais yn ateb gofynion cofrestru adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu cynnwys budd yr hawddfraint yn y teitl cofrestredig prydlesol.
4.1.1.2 Maer tir caeth yn ddigofrestredig
Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr olynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.1.2 Hawddfreintiau wedi eu cadw
Maer cofnodion y cyfeirir atynt yn Hawddfreintiau a roddir, a fydd yn ymddangos ym mhob cofrestr brydlesol, yn cyfeirio hefyd at hawddfreintiau a gedwir. Felly cofnodir rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth o ran unrhyw hawddfreintiau a gedwir yn y brydles gofrestredig. Os nad ywr brydles yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau llesiannol (neu os nad ydym yn eu cofnodi yn y gofrestr oherwydd bod cymal LR11.1 wedi ei lenwin anghywir) caiff cofnod ei wneud yn y gofrestr arwystlon o ran yr hawliau a gedwir gan y brydles.
Lle bor brydles yn brydles cymalau penodedig, dylid cyfeirio at unrhyw hawddfreintiau a gedwir (neu a roddir er budd tir a berchnogir gan drydydd parti) yn y brydles yng nghymal LR11.2. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am wybodaeth bellach am sut i gwblhaur cymalau penodedig.
Dim ond os cyfeirir atynt yng nghymal LR11.2 y maen rhaid i Gofrestrfa Tir EF ystyried hawddfreintiau wedi eu cadw (neu wedi eu rhoi er budd tir a berchnogir gan drydydd parti). Os nad ywr cymal hwn yn cael ei gwblhaun gywir, nid oes rhwymau ar Gofrestrfa Tir EF i wneud cofnod o ran y budd yng nghofrestr y teitl(au) buddiol. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles iw chofrestru.
4.1.2.1 Maer tir trech yn gofrestredig
Os cedwir yr hawddfreintiau er budd tir arall yn y teitl cofrestredig y rhoddir y brydles ohono, cynhwysir yr hawddfraint yn nheitl cofrestredig y landlord trwy gyfrwng cofnod yn y gofrestr ar gyfer y teitl cofrestredig hwnnw y cyfeirir ato yn Maer tir caeth yn gofrestredig.
Os cedwir yr hawddfraint er budd tir mewn teitlau cofrestredig eraill, byddwn yn cofnodi budd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitlau hynny ar yr amod:
- yn achos prydles cymalau penodedig, eich bod yn cofnodi rhif teitl y teitlau buddiol yng nghymal LR2.2, neu
- lle na wneir cofnod pan nad ywr brydles yn brydles cymalau penodedig, eich bod yn gwneud cais ar ffurflen AP1 yn nodir rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.
Os na wneir cofnod pan for brydles yn gofrestredig, gellir gwneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint ar ddyddiad hwyrach ar ffurflen AP1 gan nodir rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.
4.1.2.1 Maer tir trech yn ddigofrestredig
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth. Ar gofrestriad cyntaf y tir trech, bydd yr ystad yn cael ei breinio yn y perchennog ynghyd 但r hawddfraint (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.2 Hawddfreintiau mewn prydlesi digofrestredig
Ystyr prydlesi digofrestredig yw prydlesi:
- nad yw eu rhoi yn warediad cofrestradwy
- nad yw eu rhoi neu eu haseinion peri cofrestriad cyntaf gorfodol
- nad ydynt yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol
4.2.1 Hawddfreintiau a roddir
4.2.1.1 Maer tir caeth yn gofrestredig
Rhaid gwneud cais i gofrestru rhoir hawddfraint ar ffurflen AP1 gan amg叩ur canlynol:
- copi ardystiedig or brydles
- ffurflen treth dir y dreth stamp, os ywn briodol
- unrhyw gydsyniadau angenrheidiol gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfyngiadau lle mae cydsyniad yn ofynnol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau caeth ym mhanel 2. Nodwch cofrestriad yr hawddfreintiau yn y brydles ym mhanel 4 ffurflen AP1, neu cofrestru hawddfreintiau yn y brydles ym mhanel 8 ffurflen AN1.
Gan fod rhoir fath hawddfreintiau yn warediad cofrestradwy maer ceisydd yn rhwymedig i ddyletswydd a osodir gan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i ddadlennu buddion gor-redol penodol syn effeithio ar yr ystad syn gysylltiedig 但r cais. Lle bor brydles yn un y gellir ei nodi, megis prydles a roddwyd am fwy na thair blynedd, gallai hyn gynnwys y brydles syn cynnwys rhoir hawddfraint. O dan yr amgylchiadau hyn dylech hefyd gyflwyno ffurflen DI wedii llenwi gyda manylion y brydles. Byddwn fel arfer yn nodir brydles.
4.2.1.2 Maer tir caeth yn ddigofrestredig
Gan fod y tir trech ar tir caeth hefyd yn ddigofrestredig, ni allwn wneud unrhyw beth. Gan fod yr hawddfraint yn gyfreithiol, bydd yn rhwymo unrhyw brynwr olynol y tir caeth a bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf y tir caeth (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
4.2.2 Hawddfreintiau a gedwir
4.2.2.1 Maer tir trech yn gofrestredig
Nid yw cadwr hawddfraint yn warediad cofrestradwy, ond mae hawddfraint gyfreithiol pan roddir y brydles yn neilltuor hawddfreintiau o blaid tir cofrestredig arall.
Gallwch wneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar ffurflen AP1 (rheol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylech amg叩u:
- copi ardystiedig or brydles wrthrannol
- y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Cofrestru)
Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau cofrestredig ym mhanel 2. Nodwch cofrestriad budd hawddfreintiau a gedwir yn [disgrifiwch lle y gellir gweld y ddarpariaeth er enghraifft, Rhan 2 Atodlen 2] y brydles ym mhanel 4.
4.3 Hawddfreintiau mewn prydlesi heblaw trwy weithred
Yn gyffredinol, maer cyfarwyddyd hwn yn cymryd yn ganiataol bod y brydles ar ffurf gweithred. Os ywr brydles yn ysgrifenedig yn unig, gall yr hawddfraint fod yn ecwit誰ol yn unig. Ystyr hyn yw:
- lle bor tir caeth yn gofrestredig, nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy
- lle bo hawddfraint wedii rhoi ar tir yn gofrestredig, ni allwn gofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer yr ystad brydlesol oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
- lle bo hawddfraint wedii chadw ar tir trech yn gofrestredig, ni allwn gofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
- lle bo hawddfraint wedii rhoi neu ei chadw ar tir caeth yn ddigofrestredig, bydd yn rhaid gwarchod yr hawddfraint honno trwy bridiant tir Dosbarth D(iii)
5. Hawddfreintiau ar gofrestriad cyntaf y tir trech neu gaeth
Maer adran hon yn trafod beth syn digwydd ynghylch yr hawddfreintiau pan fydd perchennog y tir a gedwir neur trosglwyddai yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant sydd 但 theitl digofrestredig, wedyn yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf (neu pan fydd olynydd mewn teitl yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf) y teitl hwnnw.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
5.1 Hawddfreintiau llesiannol
Ar 担l cwblhau cofrestriad cyntaf, maer tir yn cael ei freinio yn y perchennog cofrestredig ynghyd 但 budd yr holl fuddion syn bodoli er budd yr ystad gofrestredig (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae hyn yn wir pun ai a ddangosir hawddfraint yn y gofrestr ai peidio.
Fodd bynnag, lle bon bosibl, byddwn yn cofnodi yn y gofrestr manylion llawn hawddfreintiau perthynol syn:
- grantiau penodol yn y trawsgludiad ir ceisydd, neu
- syn grantiau penodol neu y cyfeirir atynt yn y weithred wreiddyn, neu syn grantiau penodol mewn gweithred olynol, ac ymddengys eu bod wediu trosglwyddo ir ceisydd
Cyn inni allu cofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr rhaid inni fod yn siwr ei bod yn bodoli fel budd cyfreithiol. Rhaid ichi, felly, gyflwyno tystiolaeth y bu gan y grantwr b典er i roir hawddfraint gweler Profi p典er y grantwr i roir grant. Os nad ywr dystiolaeth a gyflwynir yn dangos yn derfynol bod hawddfraint gyfreithiol yn bodoli gallwn naill ai adael yr hawl allan neu ychwanegu nodyn amodol at y cofnod.
Os ywr hawddfraint mewn termau penodol ac os yi rhoddwyd dros dir digofrestredig sydd wedi cael ei gofrestru ers hynny, gall fod angen cofnodi rhybudd o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd ag a gofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech. Fodd bynnag, nid oes angen ichi wneud cais i gofnodir rhybudd hwn; byddwn yn trefnu hyn fel rhan or cofrestriad cyntaf. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i berchnogion cofrestredig y tir caeth iw hysbysu bod y cofnod yn cael ei wneud yn eu teitl cofrestredig.
5.2 Hawddfreintiau darostyngedig
Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr or holl hawddfreintiau, pun ai a ydynt yn gyfreithiol neu ecwit誰ol:
- a gynhwysir yn y gweithredoedd a dogfennau a gyflwynwyd gydar cais
- a ddadlennir ar ffurflen DI
6. Hawddfreintiau ymhlyg a thrwy bresgripsiwn
Yn achos hawddfreintiau dros dir cofrestredig sydd o ganlyniad i grant ymhlyg neu bresgripsiwn, nid oes rhaid eu cwblhau trwy eu cofrestru er mwyn iddynt fod yn effeithiol yn y gyfraith. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr hawddfraint yn fudd gor-redol (paragraff 3 Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Gellir cofrestru hawddfraint ymhlyg neu trwy bresgripsiwn fel ei bod yn perthyn ir ystad gofrestredig yn y tir trech (rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Rhaid gwneud cais o dan reol 73(A) o ran hawddfraint ymhlyg ar ffurflen AP1. Dylai panel 5 y ffurflen:
- ddangos yn glir bod y cais i gofrestru hawddfraint ymhlyg o dan reol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003, a
- nodir weithred yr honnir bod yr hawddfraint yn ymhlyg ynddi
Dylid cyflwyno gydar cais dystiolaeth bod hawddfraint ymhlyg wedi codi, megis gorchymyn llys neu ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, ac unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o b典er y grantwr i wneud y grant gweler Profi p典er y grantwr i wneud y grant. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd ir perchennog caeth yn yr achosion hyn.
Os oes gan dir syn destun cais am gofrestriad cyntaf fudd hawddfraint ymhlyg, dylech gynnwys y dystiolaeth a grybwyllwyd uchod ac egluror amgylchiadau mewn llythyr gydar cais.
Lle y mae hawddfraint ymhlyg neu hawddfraint trwy bresgripsiwn yn cael ei gofrestrun berthynol i ystad gofrestredig ac maer tir caeth yn gofrestredig, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd.
Lle y maer hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
7. Profi p典er y grantwr i wneud y grant
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
7.1 Maer tir caeth yn gofrestredig
7.1.1 Arwystlon
Dylech gyflwyno cydsyniad unrhyw arwystlair tir caeth y mae gan ei arwystl flaenoriaeth dros roir hawddfraint ac nad yw wedi ymuno yn y weithred.
Os nad ywr arwystlai wedi cydsynio ir grant, maen debygol y caiff yr hawddfraint ei gor-redeg os ywr arwystlai yn arfer eu p典er gwerthu. Os na ellir cyflwyno cydsyniad arwystlai, os ywr tir trech yn gofrestredig, an bod yn bwrw ymlaen 但r cofrestriad, byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg ir canlynol at y gofrestr ar gyfer y tir trech:
NODYN: Ni chyflwynwyd cydsyniad perchennog yr arwystl dyddiedig o blaid syn effeithio ar deitl(-au) ar gofrestriad a gellir gor-redeg yr hawliau os arferir y p典er gwerthu.
Gellir dileur nodyn yn ddi-d但l os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amg叩ur cydsyniad.
7.1.2 Cyfyngiadau
Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad (gan gynnwys cyfyngiad o blaid arwystlai) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth. Os nad oedd rhoir hawddfraint yn warediad tir cofrestredig oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig ar adeg ei rhoi, yna ni fydd cyfyngiad yn erbyn cofrestru gwarediad, neu yn erbyn cofrestru neu nodi gwarediad, ynddoi hun yn ein rhwystro rhag cofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth, neu gofnodi wedyn rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Fodd bynnag, gall cyfyngiad or fath olygu cyfyngiad ar b典er y grantwr i roir hawddfraint syn weithredol ar adeg y grant, yn enwedig lle mai un person ywr grantwr ar perchennog cofrestredig. Gall fod yn bosibl inni barhau o hyd, efallai yn sgil cyflwyno rhybudd, lle bor cyfyngiad yn awgrymur cyfyngiad hwn ond rydym yn fodlon y bur p典er i roir hawddfraint gan y grantwr.
7.1.3 Rhybuddiadau a rhybuddion adneuo (bwriadedig)
Os oes rhybuddiad neu rybudd adneuo (bwriadedig) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac am na chyflwynwyd cydsyniad y rhybuddiwr i gofrestriad yr hawddfraint gydar cais, gallwn gyflwyno rhybudd ir rhybuddiwr neur adneuai.
7.2 Maer tir caeth yn ddigofrestredig
Rhaid cyflwyno gydar cais deitl llawn ir tir caeth gan ddechrau gyda gwreiddyn da syn fwy na 15 mlynedd oed ar ddyddiad y cais ac yn cynnwys canlyniadau chwiliadau Pridiannau Tir.
7.2.1 Arwystlon
Dylid cyflwyno cydsyniad unrhyw forgeisiai cyfreithiol y tir caeth i roir hawddfraint oni bai eu bod wedi ymuno yn y grant. Os na chyflwynir y cydsyniad hwn, gallwn fynd ymlaen i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, ond byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg ir un yn Arwystlon. Unwaith eto, gellir dileur nodyn yn ddi-d但l os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amg叩ur cydsyniad.
8. Hawddfreintiau ecwit誰ol
Os rhoddir hawddfraint heblaw am gyfnod syn gyfatebol i ffi syml absoliwt 但 meddiant neu dymor blynyddoedd absoliwt (er enghraifft os yi rhoddwyd am oes), bydd yn ecwit誰ol. Enghraifft arall o hawddfraint ecwit誰ol yw hawddfraint a roddwyd dros dir cofrestredig lle nad ywr grant, syn warediad cofrestradwy, yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
8.1 Budd hawddfreintiau ecwit誰ol
Os ywn amlwg bod hawddfraint yn ecwit誰ol, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi ei budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ar gofrestriad cyntaf y tir trech na wedi hynny. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer cofrestru buddion cyfreithiol yn unig (adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly dim ond budd ystadau cyfreithiol perthynol y gellir ei gofnodi yn y gofrestr ar gofrestriad cyntaf (rheol 33(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003); a dim ond budd hawddfreintiau cyfreithiol y gellir ei gofrestru lle bor tir trech yn gofrestredig eisoes (paragraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, ar gofrestriad cyntaf ystad, bydd yr ystad honno yn breinio yn y perchennog cofrestredig ynghyd 但r holl fuddion syn bodoli er budd yr ystad, a allai gynnwys hawddfreintiau ecwit誰ol (adran 11(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Os oes unrhyw amheuaeth ar gofrestriad cyntaf y tir trech a yw hawddfraint yn gyfreithiol yn hytrach nag ecwit誰ol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir, gydag amod priodol (rheol 33(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn yr un modd, lle bo cais i gofnodi yng nghofrestr tir trech cofrestredig budd hawddfraint syn grant penodol neu sydd wedi ei chadw dros dir digofrestredig neu sydd wedi ei chael heblaw trwy grant penodol, a lle bo amheuaeth a ywr hawddfraint yn gyfreithiol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir gydag amod priodol (rheol 73(A)(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Sylwer: Gan fod y ddeddfwriaeth yn caniat叩u cynnwys budd hawddfreintiau cyfreithiol yn unig mewn teitl cofrestredig, ni fyddai budd unrhyw hawddfreintiau ecwit誰ol y digwyddodd bod cyfeiriad atynt yn y gofrestr ar gyfer y tir trech (efallai o ganlyniad ou drysu gyda hawddfreintiau cyfreithiol) yn cael eu cynnwys yn y teitl cofrestredig.
8.2 Baich hawddfreintiau ecwit誰ol
Os ywr tir caeth yn gofrestredig, dylid gwneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr hawddfraint ecwit誰ol. Am ragor o fanylion am sut i wneud cais i gofnodi rhybudd gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.
Lle rhoddir hawddfraint ecwit誰ol wrth drosglwyddo tir cofrestredig byddwn yn cofnodi rhybudd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn awtomatig, ar yr amod bod rhif y teitl yn cael ei nodi ym mhanel 2 ffurflen AP1. Nid oes angen cais ar wah但n ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1. Fel y nodwyd yn Budd hawddfreintiau ecwit誰ol ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwit誰ol yn y gofrestr.
Ar gofrestriad cyntaf y tir caeth, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr o ran hawddfreintiau ecwit誰ol gweler Hawddfreintiau darostyngedig. Unwaith eto, ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwit誰ol ar gofrestriad cyntaf y tir trech.
9. Is-brydlesi ac aseiniadau o ran
Os yw tenant sydd 但 budd hawddfraint a roddwyd yn y brydles yn is-brydlesu rhan or tir gyda budd yr hawddfraint, ymddengys mai un hawddfraint sydd o hyd. Gall yr is-denant wneud cais i gofnodi rhybudd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitl syn uwch nag un y tenant, oni bai bod rhybudd o ran yr hawddfraint (heblaw rhybudd unochrog) yn bodoli eisoes. Os cofnodir rhybudd unochrog a datgenir mair is-denant ywr buddiolwr, bydd yn gwarchod hawl yr is-denant i arfer yr hawddfraint yn unig a gellir ei ddileu ar gais yr is denant ar ffurflen UN2. Os cofnodir rhybudd a gytunwyd, maen annhebyg y caiff ei ddileu ar gais yr is-denant yn unig oherwydd bod rhaid bodlonir cofrestrydd bod y budd o dan sylw wedi terfynun gyfan gwbl (rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Ymddengys bod y sefyllfa yn debyg lle bor tenant yn aseinio rhan or tir gyda budd hawddfraint a roddwyd mewn prydles ddigofrestredig.
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
10. Darpariaethau syn atal creu neu basio hawddfreintiau
Ar drosglwyddiad neu brydles, gall y trosglwyddai neur tenant, heb grant datganedig, gaffael hawddfreintiau syn effeithio ar dir a gedwir gan y trosglwyddwr neur landlord. Gall hyn fod yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neur rheol yn Wheeldon v Burrows. Ac ar drosglwyddiad neu brydles, gall budd hawddfreintiau syn bodoli basion awtomatig gydar tir. Fodd bynnag, gellir atal creu a phasior hawddfreintiau trwy ddarpariaeth addas yn y trosglwyddiad neu brydles.
Maer adrannau canlynol yn awgrymu ffurfiau o eiriad iw defnyddio i eithrio gweithredu adran 62 neur rheol yn Wheeldon v Burrows, ac i atal budd hawddfreintiau syn bodoli rhag pasio. Nid yw defnyddior geiriad hwn yn orfodol, ond bydd yn sicrhau bod yr arfer a nodir isod yn cael ei dilyn.
10.1 Atal creu hawddfreintiau
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad syn dweud:
Nid oes hawddfreintiaun ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]
neu eiriad tebyg, gwneir cofnod yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir a drosglwyddir syn nodi teleraur cymal neu syn datgan bod y trosglwyddiad:
yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud 但 chreu neu basio hawddfreintiau
Ni wneir y cofnod hwn yn y gofrestr pan for cymal mewn prydles.
10.2 Atal pasio budd hawddfreintiau
Ymddengys nad yw pasio budd hawddfreintiau syn bodoli yn awtomatig, yn absenoldeb geiriau syn atal hyn yn y trosglwyddiad neur brydles, yn dibynnu ar weithredu adran 62.
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad syn dweud:
Maer eiddon cael ei drosglwyddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau syn bodoli
neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas 但 hawddfreintiau syn bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai yn datgan bod y trosglwyddiad:
yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud 但 chreu neu basio hawddfreintiau
Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad syn dweud:
Trosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau syn bodoli heblawr rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn
neu eiriad tebyg, y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yr unig rai i gael eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai syn datgan bod y trosglwyddiad:
yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud 但 chreu neu basio hawddfreintiau
Pan nad yw cofnodion yn cael eu cario ymlaen oherwydd cymal syn atal pasio budd hawddfreintiau, ni fyddwn yn dileu unrhyw rybudd mewn perthynas 但 baich yr hawddfreintiau yn y teitl ir tir caeth yn awtomatig. Gellir gwneud cais i ddileu ar ffurflen CN1.
Os nad ywr cymal yn y trosglwyddiad yn defnyddio un or ffurfiau o eiriad a nodir uchod ac:
- nad ywn glir ai effaith y cymal yw atal pasio budd hawddfraint syn bodoli, ai
- fod yn ymddangos y byddai teitl y trosglwyddai yn cael rhywfaint o fudd or hawddfraint
bydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen i deitl y trosglwyddai, ond bydd y nodyn canlynol, neu rywbeth tebyg, yn cael ei ychwanegu:
NODYN: Maer hawddfreintiau cyfreithiol wedi eu cynnwys yn y cofrestriad hwn dim ond ir graddau nad ydynt wedi eu heithrio gan effaith y trosglwyddiad dyddiedig y cyfeirir ato
Lle ceir cymal mewn prydles (yn achos prydles cymalau penodedig, dylid cynnwys y cymal neu gyfeirio ato yn ddelfrydol ym mhanel LR4 ond gall fod yn lle hynny yn LR11) yn nodi bod yr eiddon cael ei osod neu ei brydlesu heb fudd unrhyw hawddfreintiau syn bodoli, ni fydd unrhyw gofnodion mewn perthynas 但 budd hawddfreintiau syn bodoli yn nheitl y landlord yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Pan for cymal yn nodi bod yr eiddon cael ei osod neu ei brydlesu gyda budd yr hawddfreintiau syn bodoli y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles yn unig, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Lle nad ywn glir ai effaith y cymal yw atal budd syn bodoli rhag pasio, ni fydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen.
10.3 Atal creu a throsglwyddo hawddfreintiau
Yn aml, y bwriad yw atal (i) creu hawddfreintiau newydd a (ii) pasio budd hawddfreintiau syn bodoli neu o leiaf y rhai heblawr hawddfreintiau syn bodoli y cyfeirir atynt yn y trosglwyddiad. Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad syn dweud:
Nid oes hawddfreintiaun ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]. Trosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau syn bodoli (heblawr rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn]
neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas 但 hawddfreintiau syn bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo y tir a drosglwyddir, yn nodi teleraur cymal neun datgan bod y trosglwyddiad:
yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud 但 chreu neu basio hawddfreintiau
Ni wneir y cofnod hwn os ywr cymal mewn prydles (ym mhanel LR4 neu LR11 yn achos prydles cymalau penodedig).
Os cynhwysir y geiriad mewn cromfachau sgw但r (heblawr rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn), dim ond y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yn cael eu trosglwyddo i deitl y trosglwyddai. Os oes cymal tebyg mewn prydles, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant.
Maer pwyntiau a wnaed yn nau baragraff olaf Atal pasio hawddfreintiau, ynghylch cymalau mewn trosglwyddiadau a phrydlesi sydd ar ffurf arall ac or hon nid ywn glir air effaith yw atal budd hawddfraint syn bodoli rhag pasio, yr un mor gymwys 但i gilydd yma.
11. Tynnu cofnodion or gofrestr pan fo hawddfraint yn cael ei gor-redeg
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
11.1 Maer tir trech ar tir caeth yn gofrestredig
Ar 担l cael cais i gofrestru trosglwyddiad wrth i arwystlai arfer p典er gwerthu tir caeth lle bo rhybudd o hawddfraint a gofnodwyd ar 担l cofrestrur arwystl, byddwn yn archwilio a gofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech gydar nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon. Os felly, byddwn fel arfer am gyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig y tir trech. Mae hyn er mwyn ystyried y posibilrwydd y rhoddwyd cydsyniad mewn gwirionedd gan yr arwystlai ond na chafodd ei gyflwyno. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag gallu dileur cofnodion o ran yr hawddfraint yn y cofrestri ar gyfer y tir trech ar tir caeth.
11.2 Maer tir caeth yn ddigofrestredig
Lle cofnodwyd budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, mae morgeisair tir caeth yn arfer ei b典er gwerthu ac maer hawddfraint yn cael ei gor-redeg, gellir gwneud cais yn ddi-d但l ar ffurflen AP1 i ddileu cofnod yr hawddfraint ar nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon.
Maer nodyn a gofnodwn yn adlewyrchur ffaith na chyflwynwyd cydsyniad yr arwystlai ar gofrestriad. Maen bosibl, fodd bynnag, bod yr arwystlai wedi rhoi cydsyniad, ac felly ni chaiff yr hawddfraint ei gor-redeg. O ganlyniad, cyflwynir rhybudd or cais i berchennog cofrestredig y tir trech. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag dileur cofnod o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.
12. Tynnu cofnodion or gofrestr ar ddilead
Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.
12.1 Y cais
Pan fo hawddfraint wedi cael ei dileu a chyfeirir ati yn y gofrestr teitl, dylid gwneud cais i dynnur cofnod neu gofnodion ymaith.
- Os cofnodwyd rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth a chofnodwyd y budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, bydd yn rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i dynnur ddau gofnod ymaith, gan nodir rhifau teitl ym mhanel 2 a chyflwyno tystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os gwarchodwyd yr hawddfraint naill ai gan rybudd a gytunwyd neu rybudd cofrestrydd (megis rhybudd a gofnodwyd mewn ymateb i gais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 neu ffurflen AN1, neu ar gofrestriad cyntaf y tir caeth), gellir gwneud cais iw dileu ar ffurflen CN1 gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os nad oes unrhyw rybudd (efallai oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig), ond os cofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, yna dylid gwneud cais i dynnur cofnod ymaith ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
- Os gwarchodwyd yr hawddfraint gan rybudd unochrog, gall y buddiolwr wneud cais iw tynnu ymaith ar ffurflen UN2. Fel arall, gall y perchennog cofrestredig, neu rywun 但 hawl iw gofrestru fel y perchennog, wneud cais iw dileu ar ffurflen UN4.
Sylwer, os yw rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn cyfeirio at hawliau eraill nad ydynt wedi cael eu dileu, ni fyddain briodol i dynnur cofnod or gofrestr. Yn y sefyllfa hon yn hytrach nai dynnu ymaith, byddwn yn gwneud cofnod yn debyg ir canlynol:
Trwy weithred ddyddiedig a wnaed rhwng maer [disgrifiad or hawl] y cyfeirir ato uchod wedi cael ei ddileu. NODYN: Copi yn y ffeil
12.2 Y dystiolaeth gefnogol
Lle bor cais ar ffurflen AP1 neu ffurflen CN1, rhaid ystyried y pwyntiau canlynol:
12.2.1 Gweithred gollwng
Rhaid ir holl bart誰on sydd 但 budd fod yn bart誰on ir weithred neu gydsynio i ollwng. Rhaid profir teitl ir tir trech. Bydd hyn yn cynnwys:
- perchennog cofrestredig y tir trech
- unrhyw arwystlai/morgeisai y tir trech
- unrhyw barti arall y nodwyd ei fudd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ac y byddai gollwng yn effeithion andwyol arno. Er enghraifft, os cofnodwyd contract i werthu yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, byddai rhaid ir person 但 budd y contract fod yn barti neu gydsynio.
Lle bor tir trech yn cynnwys teitlau prydlesol a rhydd-ddaliol er enghraifft, os rhoddir hawddfraint er budd teitl rhydd-ddaliol a bod prydles yn cael ei rhoi wedi hynny or teitl hwnnw gyda budd yr hawddfraint bydd part誰on sydd 但 budd yn cynnwys y rhai sydd 但 budd yn y teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
Os ywr tir trech yn ddigofrestredig, dylair ceisydd gyflwyno tystiolaeth o deitl ir tir yn yr un modd 但 phe bair tir yn cael ei drawsgludo.
Os nad ywn glir bod yr hawddfraint wedi ei dileun briodol oherwydd, er enghraifft, nad oedd arwystlai teitl trech yn barti ir weithred ac nid yw ei gydsyniad wedi ei gyflwyno, gallwn wneud cofnod yn debyg ir canlynol:
Trwy weithred ddyddiedig a wnaed rhwng mynegwyd y [disgrifiad or hawl ar weithred syn ei chynnwys] iw ollwng ond ni phenderfynwyd ar ddilysrwydd ei ollwng.
NODYN Copi yn y ffeil
Bydd yn rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig or weithred ollwng.
12.2.2 Terfynu prydles y maer hawddfraint yn perthyn iddi
Bydd hawddfreintiau a roddwyd mewn prydlesi fel arfer yn dod i ben gydar brydles. Lle bo prydles gofrestredig wedi terfynu a gwneir cais ar ffurflen AP1 i gaur teitl, maen amlwg y bydd cwblhaur cais yn golygu tynnu unrhyw gofnod o ran hawddfraint berthynol ymaith.
12.2.3 Gadael
Nid yn unig mae rhaid bod y person sydd 但 hawl ir hawddfraint wedi peidio 但i harfer ond rhaid ei fod hefyd wedi dangos bwriad penodol i beidio byth 但 mynnur hawl ei hun nai throsglwyddo i rywun arall ar unrhyw amser wedi hynny (Tehidy Minerals v Norman [1971] 2 QB 528, per Buckley LJ). Rhaid gosod yr amgylchiadau yr honnir iddynt gyfrif fel gadael mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd.
Dim ond os bydd perchennog y tir trech yn gwneud rhyw weithred syn nodin glir fwriad pendant na fydd y perchennog nai olynwyr yn gwneud defnydd or hawddfraint yn y dyfodol y gall hawliad am adawiad fod yn llwyddiannus felly (Williams v Usherwood (1983) 45) P&CR 235 a Gotobed v Pridmoore [1971] EG 759).
Rhaid edrych ar ddiffyg defnydd yng nghyd-destun yr holl amgylchiadau ac os gellir esbonio diffyg defnydd gan ffactor arall (a fyddain cynnwys nad oedd angen hawddfraint) ni fydd unrhyw gasgliad o adawiad.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.
12.2.4 Undod perchnogaeth a meddiant
Sylwch fod rhaid cael undod perchnogaeth a meddiant.
Statud
Ller honnir i hawddfraint gael ei dileu trwy statud, bydd angen copi ardystiedig or statud o dan sylw arnom, oni bai ei fod yn Ddeddf Gyhoeddus Gyffredinol.
13. Gwrthwynebiadau
Os cyflwynwn rybudd, gall y derbynnydd wrthwynebur cais. Os derbynnir gwrthwynebiad, ni allwn gwblhaur cais a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth na chofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech nes y tynnir y gwrthwynebiad yn 担l neu ei ddatrys mewn rhyw ffordd arall (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
14. Pethau iw cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.