Canllawiau

Rhifyn mis Mehefin 2025 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 18 Mehefin 2025

Rhagarweiniad 油油油

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:油油油油

意安掘油油油油

Diweddariadau treth a newidiadau ir arweiniad油油

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt油油

珂温艶油egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt油yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn 担l eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.油油油油

意安掘油油油油

Cyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE 2024 i 2025

Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniat叩u i gyflogeion wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol syn ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion. Mae PSA yn aros yn ei le nes i chi ei newid neu ei ganslo, neu nes i ni ei wneud.

Rydym yn argymell bod cyfrifiadau PSA ar gyfer y flwyddyn dreth syn dod i ben ar 5 Ebrill 2025 yn cael eu hanfon atom erbyn 31 Gorffennaf 2025, hyd yn oed os ywn datganiad dim. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein, Rhoi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wediu cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE.

Pan fyddwn yn cael ac yn prosesuch cyfrifiad, byddwn yn anfon slip cyflog atoch yn cadarnhaur swm sydd arnoch. Pan fyddwch yn talu, nodwch y cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE ar y slip cyflog.油

Mae angen i chi dalur cyfanswm erbyn 19 Hydref 2025 neu erbyn 22 Hydref 2025 os ydych yn talun electronig. Os nad ydych wedi cael eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, gallwch ei gael drwy ffonior Ganolfan Cyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900.油

Bydd nodyn atgoffa i gyflwynoch cyfrifiad PSA ac i dalu yn cael ei anfon drwych Cyfrif Treth Busnes ym mis Gorffennaf. Ni allwch fwrw golwg dros eich rhwymedigaeth ach taliad PSA yn eich Cyfrif Treth Busnes.

Os na fyddwn yn cael eich cyfrifiad, maen bosibl y byddwn yn cyhoeddi penderfyniad. Dyma amcangyfrif o swm y dreth ar Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydym yn credu sydd arnoch, a allai fod yn uwch nach cyfrifiad.油

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am y canlynol:

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Mehefin 2025, maer dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Mehefin 2025. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedii glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Mehefin 2025, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddior gwasanaeth Taliadau Cyflymach.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadaun cael eu gwneud mewn pryd ac, os ywch taliad yn hwyr, maen bosibl y codir cosb arnoch.油油

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neuch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn si典r eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn talu TWE cyflogwr.油

Diddymu lwfans oes adrodd ar gyfandaliad

Cyfandaliad Cychwyn Pensiwn Sydd Dros Ben油

I roi gwybod am Gyfandaliadau Cychwyn Pensiwn Sydd Dros Ben (PCELS) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • adrodd PCELS drwy Wybodaeth Amser Real (RTI)
  • sefydlu cofnod cyflogres ar wah但n ar gyfer PCELS er mwyn osgoi problemau gydag adrodd incwm pensiwn rheolaidd a chofnodion treth
  • defnyddio amlder talu untro ar dyddiad talu fel y dyddiad gadael
  • darparu P45 ir cwsmer at ddibenion ad-hawlio treth
  • defnyddio maes data 219 ar gyfer PCELS a chynnwys y rhan drethadwy ym maes data 173 gellir dod o hyd i arweiniad manwl ym mharagraff 2.2.9 o CWG2 2025 i 2026: arweiniad pellach i gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg)

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dilynwch yr arweiniad yng nghylchlythyr lwfans oes mis Mawrth 2023 (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfandaliadau Annibynnol油

I roi gwybod am Gyfandaliadau Annibynnol (SALS) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am SALS drwy RTI dim ond os oes swm dros yr uchafswm a ganiateir
  • sefydlu cofnod cyflogres ar wah但n ar gyfer SALS trethadwy, defnyddio amlder talu untro, ar dyddiad talu fel y dyddiad gadael
  • darparu P45 ir cwsmer at ddibenion ad-hawlio treth
  • defnyddio maes data 220 ar gyfer SALS a chynnwys elfennau trethadwy ac anhrethadwy ym meysydd 173 a 174 yn y drefn honno gellir dod o hyd i arweiniad manwl ym mharagraff 2.2.10 o CWG2 2025 i 2026: arweiniad pellach i gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dilynwch yr arweiniad yng nghylchlythyr cynlluniau pensiwn 151 (yn agor tudalen Saesneg).油

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein herthygl diddymu Lwfans Oes (LTA) adrodd ar swm cyfan yn rhifyn 167 or Cylchlythyr Pensiynau (yn agor tudalen Saesneg)油 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.

Rydym yn ymwybodol nad yw pob cyfandaliad yn cael ei adrodd yn y ffordd hon ac wedi cael ei adrodd yn anghywir ar ffynhonnell pensiwn a delir yn rheolaidd. Mae cylchlythyr cynlluniau pensiwn 170 (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys erthygl i gwmpasu arweiniad ar y broses iw dilyn i gywiro cofnod treth unigolyn.

Pensiynau ar gyfer staff tymhorol dros dro

Os ydych yn gyflogwr syn cyflogi staff ychwanegol dros yr haf, maen rhaid i chi wirio a ywr gweithwyr hyn yn gymwys i gofrestru awtomatig i bensiwn gweithle.油油油油

Maen rhaid i gyflogwyr asesu unrhyw staff tymhorol neu dros dro yn unigol bob tro y byddant yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff ag oriau amrywiol a chyflogau, pun a ydynt yn cael eu cyflogi am ychydig ddyddiau neu fwy.油油

Gall cyflogwyr syn methu 但 chydymffurfio 但u dyletswyddau pensiwn gweithle gael rhybudd gyda dyddiad cau i gydymffurfio. Maer rhai syn parhau i fethu 但 mewn peryg o gael dirwy.油油油

Os oes gennych staff y gwyddoch y byddant yn gweithio i chi am lai na thri mis, gallwch ddefnyddio gohiriad i ohirio asesur cyflogeion hynny.油Mae hyn yn oedir ddyletswydd i asesur staff hynny tan ddiwedd y cyfnod gohirio o dri mis.油油油

Mae rhagor o wybodaeth am a ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Estyniad o ryddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogi cyn-filwyr

Maer llywodraeth wedi ymestyn y rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr syn cyflogi cyn-filwyr (yn agor tudalen Saesneg) am flwyddyn arall, o fis Ebrill 2025 hyd at fis Ebrill 2026. Ni fydd busnesau syn cyflogi cyn-filwyr cymwys yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr ar enillion hyd at 贈50,270 yn ystod 12 mis cyntaf y cyn-filwr mewn cyflogaeth sifil.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A油

Maen rhaid i daliad drwy ddull electronig, ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd wediu datgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025, glirio i mewn i gyfrif CThEF erbyn 22 Gorffennaf 2025.油油

Gwnewch yn si典r bod eich taliad yn cael ei ddyrannun gywir drwy roir cyfeirnod talu cywir.油

Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, syn 13 o gymeriadau, wedii ddilyn gan 2513.油 Ni ddylair cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.油

Maen bwysig ychwanegu 2513 oherwydd mae 25 yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar Dydd Sadwrn, 5 Ebrill 2025, ac mae 13 yn dangos bod y taliad ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.油油

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i daluch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, gan gynnwys y botwm gwyrdd Talu Nawr i ddewis un or dulliau talu diogel.

Twyll llafur cyfundrefnol cyflenwi llafur drwy Gyfryngwyr Cyflogaeth

Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCGs) syn manteisio ar y cyflenwad o lafur ir defnyddwyr terfynol, syn lleihau taliadau treth i CThEF yn sylweddol, gan gynnwys TWE, Yswiriant Gwladol a TAW.油

Dylai pob busnes syn gosod neun defnyddio llafur dros dro fod yn ymwybodol or peryglon posibl a achosir iw busnes gan dwyll llafur cyfundrefnol yn eu cadwyn gyflenwi. Nid yn unig y gall cadwyn gyflenwi dwyllodrus arwain at niwed i enw da a difrod ariannol ich busnes neu sefydliad, ond maen bosibl na fydd eich gweithwyr yn cael yr holl bethau y mae ganddynt hawl iddynt, fel t但l gwyliau, t但l salwch a buddion yn y dyfodol.油

Er mwyn lleihaur risg y bydd eich busnes, sefydliad neu weithwyr yn ddioddefwyr y math hwn o dwyll, gwnewch yn si典r bod gennych ddiogelwch cadarn ar waith a chynhaliwch wiriadau diwydrwydd dyladwy priodol yn rheolaidd ar eich cadwyni cyflenwi. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa wasanaeth rydych yn ei gael a chan bwy. Os ydych yn defnyddio busnes arall i roir sicrwydd hwn i chi, dylech sicrhau bod y gwiriadau hyn yn cael eu cynnal yn iawn ac ystyried cynnal rhai gwiriadau diwydrwydd dyladwy eich hun.

Fel defnyddiwr terfynol neu ddarparwr llafur dros dro, eich cyfrifoldeb chi hefyd yw bod yn glir ynghylch pwy syn talur gweithwyr yn y pen draw a sut maent yn cael eu talu. Dymar unig ffordd i amddiffyn eich busnes neu sefydliad rhag bod yn rhan o dwyll cadwyn gyflenwi llafur.油

Rydym yn gwybod bod slipiau cyflog a Ffurflenni TWE Gwybodaeth Amser Real ffug yn cael eu rhoi gan rai cyfryngwyr i eraill mewn cadwyni cyflenwi llafur i guddior ffaith bod taliadau gros yn cael eu gwneud yn anghywir ir gweithiwr. Gwneir hyn i guddio natur dwyllodrus y cyflenwad ac rydym yn argymell eich bod yn cynnal gwiriadau annibynnol or slip cyflog yn uniongyrchol gydar gweithiwr.油油

Gwiriadau diwydrwydd dyladwy i helpu i leihau risgiau mewn cadwyni cyflenwi

Nid ywr gwiriadau diwydrwydd dyladwy canlynol yn rhestr derfynol ond maent yn enghreifftiau o arfer da or hyn y gallwch ei wneud i leihau risgiau mewn cadwyni cyflenwi.油

Gwnewch yn si典r eich bod yn gwybod am y cyflenwyr llafur ar Cwmn誰au Ambar辿l a ddefnyddir trwy ddeall y canlynol:油

  • pwy ydynt
  • sut maent yn contractior gweithwyr maent yn eu cyflenwi i chi, neur defnyddiwr terfynol
  • sut maent yn talu ac yn gweithredu TWE ar gyfer gweithwyr a gyflenwir

Cael proses glir ar gyfer nodi pa weithwyr syn gweithio trwy eu Cwmn誰au Gwasanaeth Personol eu hunain neu gan gyfryngwr, hyd yn oed lle nad ydych yn cyflenwir gweithwyr yn uniongyrchol.油

Dysgwch a ywr cyflenwr llafur uniongyrchol os ydych yn defnyddio cwmn誰au neu asiantaethau recriwtio eraill, yn allanolir ddau or canlynol:

  • gweithwyr
  • cyfrifoldeb dros dalur gweithwyr hynny os ydyn nhwn gwneud hynny, mae angen i chi wybod i ba fusnes maen nhwn allanoli, ar canlynol:
    • pam maer busnes hwnnwn gysylltiedig
    • os ydynt yn talur trethi syn ddyledus ar enillion y gweithwyr ai peidio
    • os ydynt yn cyflwyno Adroddiadau Cyfryngwr Cyflogaeth chwarterol i CThEF ac yn gofyn am weld yr adroddiadau hyn i wirio a ywr wybodaeth y maent wedii darparu i CThEF yn cytuno 但ch dealltwriaeth or cyflenwadau a wnaed
    • cadarnhau bod yr asiantaeth recriwtio wedi rhoi gwybodaeth allweddol ir gweithwyr

Dogfennau a chynnal gwiriadau sampl gydar gweithwyr i wneud yn si典r eu bod wediu cael au deall.

Gwiriwch y slipiau cyflog ar wybodaeth Amser Real TWE a ddarperir i chi yn ofalus. Rydym yn ymwybodol o slipiau cyflog ffug yn cael eu rhoi i drydydd part誰on i geisio dangos cydymffurfiaeth 但u rhwymedigaethau treth.油

Dylech ofyn am weld slipiau cyflog yn uniongyrchol gan weithwyr, nid derbyn ar yr olwg gyntaf yr hyn y gallai cyfryngwr ei roi i chi.

Gwiriwch ac adnewyddwch eich prosesau diwydrwydd dyladwy yn rheolaidd. Hefyd gwiriwch pa mor aml maech cyflenwyr yn gwneud hyn ar gyfer eu cyflenwyr.

Gwiriwch enwau unrhyw gyfryngwyr a ddefnyddir, a gwybodaeth arall am y cwmni, yn Nh天r Cwmn誰au yn ofalus. Gwnewch yn si典r eich bod yn fodlon mair wybodaeth hon ywr hyn a ddywedwyd wrthych ar hyn y byddech yn disgwyl gweld lle mae cyfryngwyr yn rhan or gadwyn gyflenwi.油

Rydym yn gwybod fod troseddwyr cyfundrefnol yn mabwysiadu neun cofrestru cwmn誰au ag enwau tebyg i guddio eu bod wedi cymryd drosodd y cyfrifoldebau cyflogres a gall newidiadau bach i enwau cwmn誰au fynd heb i neb sylwi arnynt yn aml.

Chwiliwch am newidiadau mewn cyfarwyddwyr, yn enwedig cyfarwyddwyr tramor a newidiadau i ddisgrifiad gweithgareddau busnes, a allai fod yn arwydd bod angen diwydrwydd dyladwy pellach arnoch i sicrhau uniondeb y gadwyn gyflenwi.油油

Rhoi gwybod am bryderon

Os oes gennych bryderon ynghylch cyflenwr, neu Dreth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu TAW heb eu talu, gallwch wneud y canlynol:

Ad-daliadau a thandaliadau treth

Bydd CThEF yn anfon llawer o lythyrau ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, gan gynnwys:

  • llythyrau cyfrifiad treth ir rhai sydd wedi talu gormod neu o dreth neu heb dalu digon
  • llythyrau Asesiad Syml ar gyfer y rhai sydd wedi talu gormod o dreth ac sydd 但 sefyllfa dreth syml, er enghraifft, llog banc yn ddyledus neun cael rhyddhad treth anghywir

Os ywch cyflogeion yn cael un or llythyrau hyn, rhowch wybod iddynt mair ffordd hawsaf o hawlio ad-daliad neu dalur dreth sydd arnynt yw drwy ap CThEF.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i hawlio ad-daliad, talu treth ac Asesiad Syml.

TWE y Cyflogwr a thaliadau y mae anghydfod yn eu cylch

Mae CThEF yn datblygu gwelliannau i gefnogi taliadau y mae anghydfod yn eu cylch yn TWE i gyflogwyr.油

Ar hyn o bryd, gallwch gyflwyno taliadau y mae anghydfod yn eu cylch drwy ffonio ein Llinell Gymorth i Gyflogwyr ar 0300 200 3200 neu drwy ysgrifennu atom yn:

Gweithrediadau Treth Bersonol油
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
堰珂檎遺油
BX9 1ST油
Y Deyrnas Unedig

Mae CThEF yn gwneud gwelliannau a bydd yn cyflwyno ffurflen ar-lein a fydd yn eich galluogi i roi gwybod am anghydfodau ynghylch eich rhwymedigaethau TWE.油

Byddwn yn darparu diweddariadau pellach pan fydd y gwelliannau hyn wediu cyflwyno.

Cynlluniau gwobrwyo trethadwy油油

Efallai y caiff cwmn誰au trydydd parti eu defnyddio er mwyn rhoi gwobrau cymhelliant nad ydynt ar ffurf arian parod, megis buddiannau neu dalebau nad ydynt ar ffurf arian parod i gyflogeion ar ran eu cyflogwr.油油

Mae treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar unrhyw wobrau or fath. Os ydych yn darparu gwobrau or fath, dylech ddefnyddio cynllun gwobrwyo trethadwy er mwyn gwneud taliad i CThEF syn cwmpasur rhwymedigaeth treth syn ddyledus ar wobrau a wnewch.油油

Maen rhaid i gyflogeion roi gwybod am y wobr ar eu Ffurflen Dreth. Maen rhaid iddynt fod yn ymwybodol or gwerth sydd wedii grosio i fyny, ar dreth a dalwyd ar werth y wobr, er mwyn iddynt allu gwneud hyn. Maen annhebygol y bydd yn rhaid iddynt dalu treth bellach os yw cynllun gwobrwyo trethadwyn cwmpasu eu gwobr, oni bai eu bod yn agored i dalu treth ar gyfradd uwch a bod y cynllun gwobrwyo trethadwyn cwmpasur gyfradd sylfaenol yn unig.油油

Maer Uned Gwobrau Cymhelliant yn delio 但 phob agwedd ar gynllun gwobrwyo trethadwy, gan gynnwys prisio gwobrau ar math o drefniant contractiol.油Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynghylch sut i gysylltu 但r Uned Gwobrau Cymhelliant yma (yn Saesneg)油.油油

Ar gyfer gwobrau a roddir yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, maen rhaid cytuno ar gynllun gwobrwyo trethadwy erbyn 6 Gorffennaf 2025.

Benthyciadau buddiannol cyfarwyddwyr a chyflogeion Ffurflenni Treth yn ddyledus drwy P11D a P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf bob blwyddyn ariannol

Gall benthyciadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr a chyflogeion o fwy na 贈10,000 yr un, creu buddiant trethadwy.油Maer buddiant hwn yn codi pan fydd benthyciad rhad, trethadwy, syn gysylltiedig 但 chyflogaeth wedii gymryd.油油

Benthyciad rhad trethadwy o dan Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, a elwir hefyd yn ITEPA, yw benthyciad syn gysylltiedig 但 chyflogaeth:

  • yn ddyledus am y flwyddyn gyfan neu ran ohoni y maer cyfarwyddwyr ar cyflogeion yn cael eu cyflogi ynddi

  • heb unrhyw log wedii dalu, neu maer llog a delir yn llai nar gyfradd llog swyddogol 2.25% o 6 Ebrill 2023

  • lle nad oes unrhyw eithriadau yn adrannau 176-179 mae ITEPA yn berthnasol油油

Dylid rhoi gwybod am fenthyciadau ar Ffurflenni P11D a P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf bob blwyddyn ariannol.油

Os ydych wedi darparu benthyciadau, ac nad ydynt yn cael eu trin yn gywir ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol, maen bosibl nad ydych yn bodlonich ymrwymiadau.油油

Mae rhai eithriadau ir buddiant trethadwy.油

O dan ITEPA, byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os caiff rhywfaint neur cyfan o fenthyciad ei ad-dalu cyn pen 9 mis i ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu, y gall fod t但l benthyciad budiannol incwm cyflogaeth o hyd.
Mae rhagor o wybodaeth am fenthyciadau a ddarperir i gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.油

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu油油油油

Y dyddiad cau i roi gwybod i CThEF am unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth syn dod i ben ar 5 Ebrill 2025 yw 6 Gorffennaf 2025. Gwnewch yn si典r bod pob cyflwyniad yn cael ei wneud erbyn y dyddiad hwn gan y gallai cyflwyniadau hwyr a methu 但 chyflwyno o gwbl arwain at gosb.油油油

Maen rhaid ir taliad ein cyrraedd erbyn 19 Gorffennaf 2025 os ydych yn talu drwy siec, neu 22 Gorffennaf 2025 os ydych yn talun electronig.油

Wrth gyflwynoch ffurflen P11D a P11D(b), gwnewch yn si典r bod enwr busnes wedii nodi yn union fel yi cofrestrwyd, heb unrhyw dalfyriadau, atalnodi na newidiadau.油油

Os gwnewch gamgymeriad, mae angen i chi lenwi ffurflen ddiwygio treuliau a buddiannau P11D neu /P11D(b) ar-lein (yn agor tudalen Saesneg). Mae hwn yn ofyniad ar gyfer pob diwygiad i gyflwyniadau anghywir.油油

Mae nifer o webinarau byw ar gael syn cwmpasur broses ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg).油Mae arweiniad pellach ar gael.油油油油油

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein

Gallwch gyflwyno gan ddefnyddior naill neur llall or canlynol:

Maen rhaid i chi gyflwynoch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gydai gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.油油油 油油

Yr hyn iw gyflwyno油油油油油油

Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) os gwnaethoch dau unrhyw fuddiannau a/neu dreuliau heb eu heithrio, neu os gwnaethoch dalu unrhyw fuddiannau drwyr gyflogres, yn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025. Dylech gynnwys cyfanswm y buddiannau syn agored i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt neu bob un drwy gyflogauch cyflogeion.油油油油油

Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai syn cael buddiannau a/neu dreuliau heb eu heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru i dalu buddiannau a threuliauch cwmni gyda ni ar-lein cyn 6 Ebrill 2024.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i daluch buddiannau cwmni drwyr gyflogres, maen bosibl yr hoffech wneud hynny cyn blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi anfon ffurflenni P11Ds mwyach ar gyfer blynyddoedd treth yn y dyfodol. Yr unig fuddiannau na allwch eu talu drwy gyflogres ar hyn o bryd yw benthyciadau a llety.

Nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwyr gyflogres yn anffurfiol.油油油

Rhoi gwybod i CThEF os nad ydych wedi talu unrhyw dreuliau a buddiannau油油

Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch roi gwybod i ni drwy lenwi ffurflen nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.油

Awgrymiadau defnyddiol wrth gwblhau P11D a P11d(b)


Maen rhaid cwblhauch holl ffurflenni P11D ar-lein au cyflwyno ar yr un pryd 但ch cyflwyniad P11D(b). Nid ywn bosibl cyflwyno ffurflenni P11D ar wah但n dros sawl diwrnod. Cyn i chi gyflwyno, gwiriwch fod yr holl ffurflenni wediu cwblhaun gywir. Os na wnewch hynny ac os ydych wedi gwneud camgymeriad, bydd angen i chi gyflwyno sawl ffurflen ddiwygio a bydd hyn yn arafur broses yn sylweddol.油油

Anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig ar gyfer pob cynllun, gan ddangos y cyfanswm syn ddyledus. Peidiwch ag anfon un ar wah但n ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr. Rydym yn trin pob P11D(b) ar wah但n fel diwygiad i unrhyw rai sydd eisoes wedi dod i law.油油

Defnyddiwch y dyddiadau dechrau a dod i ben cywir ar gyfer eich buddiannau car cwmni油 hyd yn oed os ywr rhain y tu allan ir flwyddyn dreth berthnasol. Peidiwch 但 rhoi 6 Ebrill 2024 fel y dyddiad dechrau na 5 Ebrill 2025 fel y dyddiad dod i ben ar gyfer ceir eich cwmni, oni bai mair rhain ywr dyddiadau gwirioneddol daeth y car cwmni i law neu y dychwelodd eich cyflogai gar cwmni.油油油

Wrth roi gwybod am gar syn gwbl drydanol, gwnewch yn si典r eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy.油油油

Wrth roi gwybod am gar hybrid gyda ffigur allyriadau CO2 cymeradwy sydd rhwng 1-50, gwnewch yn si典r eich bod wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy.油油

Diweddariadau treth a newidiadau ir arweiniad油油油油

Mandadu adrodd ar fuddiannau a threuliau drwy feddalwedd gyflogres 油

Ar 28 Ebrill 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddair adrodd gorfodol a thalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (BiKs) yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2027 ymlaen yn lle mis Ebrill 2026. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i gyflogwyr, gweithwyr proffesiynol y gyflogres, darparwyr meddalwedd, asiantau treth a rhanddeiliaid eraill baratoi ar gyfer y newid.

Mae CThEF wedi cyhoeddi nodyn technegol wedii ddiweddaru syn darparu mwy o wybodaeth weithredol ar sut y gall busnesau addasu ir newidiadau hyn mewn pryd ar gyfer mis Ebrill 2027 (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn barod ar gyfer talu drwyr gyflogres

Maen bosibl y byddain werth cofrestru i dalu buddiannau trwyr gyflogres yn wirfoddol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Bydd hyn yn eich helpu i ymgyfarwyddo 但r broses o adrodd buddiannau trwy feddalwedd cyflogres er mwyn paratoi ar gyfer talu trwyr gyflogres yn orfodol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i brofi sut mae prosesau a systemau cyflogres eich sefydliad yn gweithio au haddasu ar gyfer adrodd mewn amser real os oes angen.油油

Os ydych chi am wneud hyn, maen rhaid i chi gofrestru ar gyfer cyflogres wirfoddol erbyn mis Ebrill 2026 er mwyn gallu talu buddiannau drwyr gyflogres yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027. Dim ond o ddechraur flwyddyn dreth newydd y gallwch ddechrau talu buddiannau a threuliau.

Ni ellir adrodd am bob buddiant drwyr system gyflogres wirfoddol bresennol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd angen rhoi gwybod o hyd am lety byw syn gysylltiedig 但 chyflogaeth, benthyciadau di-log a benthyciadau buddiannol llog isel ar ffurflen P11D ar gyfer Treth Incwm. Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, bydd angen i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer pob buddiant o hyd drwy gyflwyno ffurflen P11D(b) ar-lein. Maen rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflenni P11D o hyd ar gyfer unrhyw fuddiannau a threuliau nad ydynt wediu talu trwyr gyflogres.

Gwnewch yn si典r eich bod yn rhoi gwybod ich cyflogeion am symud o P11D a P11D(b) i adrodd amser real.油

Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am dreuliau a buddiannau rydych chin eu rhoi i gyflogeion neu gyfarwyddwyr drwyr system gyflogres gwirfoddol ar gael.

Byddwn yn parhau i ymgysylltu 但 rhanddeiliaid i wneud yn si典r bod yr adroddiadau gorfodol ar fuddiannau a threuliau trethadwy drwy feddalwedd gyflogres yn gweithio i CThEF a chwsmeriaid.

Defnyddio grwpio TAW o fewn y diwydiant gofal

Mae Revenue and Customs Brief 2 (2025): the use of VAT grouping within the care industry (yn agor tudalen Saesneg) wedii gyhoeddin ddiweddar gan CThEF. Maer briff yn egluro bod strwythur grwpio TAW a ddefnyddir gan rai darparwyr gofal a reoleiddir gan y wladwriaeth i adennill TAW ar gostau syn ymwneud 但 chyflenwadau gwasanaethau lles a fyddai fel arall wediu hesemptio rhag TAW, yn cael ei ystyried yn fath o arbed treth.

Mae hefyd yn egluror camau y bydd CThEF yn eu cymryd ar grwpiau TAW newydd a rhai syn bodoli eisoes.

Ceisiadau gr典p TAW newydd

Bydd CThEF yn gwneud defnydd llawn oi bwerau i ddiogelu refeniw TAW. Lle bo angen, bydd yn gwrthod ceisiadau cofrestru gr典p TAW newydd sydd wediu cynllunio i weithredu a hwylusor strwythurau grwpio TAW hyn.油

Grwpiau TAW presennol

Mae CThEF yn lansio rhaglen ar unwaith i adolygu ac ymchwilio i bob achos lle maen hysbys neu lle amheuir bod cynllun arbed treth ar waith o fewn trefniant gr典p TAW. Maer crynodeb yn amlinellur pwerau a fydd yn cael eu defnyddio i herio trefniadau or fath ac yn awgrymu y gallai sefydliadau syn defnyddior trefniadau hyn ar hyn o bryd fod eisiau adolygu eu harferion cyfrifyddu TAW presennol yn annibynnol a cheisio cyngor proffesiynol. Maer briff hefyd yn egluro mai dim ond ar 担l ir ymchwiliad gael ei gwblhau y bydd unrhyw bwerau a ddefnyddir yn dod i rym. Mae hwyrach bod CThEF yn ceisio hawlio treth yn 担l o unrhyw gyfnod cynharach, lle maer trefniant penodol hwn ar waith. Os canfyddir anghywirdebau mewn meysydd eraill yn ystod yr ymchwiliad, gellir adennill treth mewn perthynas 但r anghywirdebau hynny.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut maer trefniadaun honni eu bod yn gweithio ar gael mewn erthygl Spotlight (yn agor tudalen Saesneg).油

Lle rydych or farn bod trefniadauch busnes yn dod o fewn y disgrifiad a roddir yn y crynodeb ar erthygl Spotlight, dylech anfon e-bost at CAGetHelpOutOfTaxAvoidance@hmrc.gov.uk a chynnwys y geiriau VAT grouping ym mhwnc eich e-bost.

Ymagwedd ehangach CThEF ar arbed treth

Os ydych yn rhan o gynllun arbed treth, bydd CThEF yn ymchwilion llawn ich materion treth ac maen bosibl y bydd yn eich trin fel trethdalwr risg uchel. Mae hyn yn golygu y bydd CThEF yn archwilioch holl faterion treth yn y dyfodol, nid dim ond eich defnydd or cynllun arbed treth.

Rhoi gwybod am gynllun油

Gallwch roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, cynlluniau ar person syn eu cynnig i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.

Gallwch gyflwynor ffurflen hon yn ddienw ac nid oes rhaid i chi roich enw, cyfeiriad nach e-bost.油

Gallwch gysylltu 但 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ddefnyddior gwasanaeth ar-lein.

Ff担n: 0800 788 887 (Saesneg yn unig)
Y tu allan ir DU: +44 203 080 0871油
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 09.00 i 17.00 (heblaw am wyliau cyhoeddus)油
Dysgwch am gostau galwadau

Offer TWE Sylfaenol wedii ddiweddaru

Rhyddhawyd diweddariad cynnal a chadw pwysig ir Offer TWE Sylfaenol (BPT) ar ddechrau mis Ebrill 2025, yn dilyn y prif ryddhad tua diwedd mis Mawrth 2025, ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026. Maen bwysig eich bod yn diweddaru ac yn defnyddior datganiad diweddaraf o BPT, sef fersiwn 25.1.油

I ddiweddaru neu wirio am ddiweddariadau, dylech wneud y canlynol:

  • dewis Gwirio nawr yn adran ddiweddarur gosodiadau, iw weld yng nghornel dde uchaf yr offeryn
  • dewis Iawn ar gyfer diweddarun awtomatig

Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio油BPT油i redeg eich cyflogres, maen rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol 但r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd.

Mae arweiniad pellach ar argaeledd gwasanaeth a phroblemau (yn agor tudalen Saesneg) a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael.油

Spotlight 68油 defnyddio cardiau debyd rhagdaledig i dynnu elw i leihau elw a chuddio incwm

Mae Spotlight 68 (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu gwybodaeth am gynllun arbed treth syn cael ei farchnata i gwmn誰au syn anelu at leihau rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth a TAW tra hefyd yn honni ei fod yn darparu incwm nad ywn drethadwy i gyfarwyddwyr, eu partneriaid neur ddau.油油

Honnir bod hyn yn gweithio fel a ganlyn:

  1. Mae cwmnin prynu hysbysebu or cynllun. Maer gwariant hwn wedii gynnwys yng nghyfrif elw a cholled y defnyddiwr. Honnir bod hyn yn ddidynadwy o dreth.
  2. Yna caiff swm sydd yn aml yn hafal i o leiaf 80% or swm a werir ar farchnata ei ddychwelyd i gyfarwyddwyr neu gyflogeion ar ffurf pwyntiau teyrngarwch syn cael eu trosin symiau ariannol ac yn cael eu codi ar gardiau rhagdaledig.
  3. Yna mae derbynwyr y cardiau hyn yn gwarior symiau ar y cardiau hyn fel y dymunant. Honnir nad ywr pwyntiau teyrngarwch yn incwm trethadwy.

Dylech fod yn effro ir manylion sydd wediu cynnwys yn Spotlight 68 gan mai barn CThEF yw nad ywr cynllun hwn yn gweithio, a byddwn yn herio unrhyw un syn hyrwyddo trefniadau or fath. Maen bosibl y bydd yn rhaid i bobl syn defnyddior trefniadau hyn dalu mwy nar dreth y ceision nhw ei harbed yn ogystal 但 thalu llog, cosbau a ffioedd uchel am ddefnyddio cynlluniau or fath.

Os ydych or farn eich bod eisoes yn rhan or trefniant hwn ac eisiau gadael, gall CThEF helpu. Mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o gymorth ich cael chin 担l ar y trywydd cywir neu i osgoi cael eich dal allan yn y lle cyntaf. Cysylltwch 但 CThEF am help i gael allan o gynllun arbed (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych unrhyw bryderon.油

Gallwch roi gwybod am dwyll treth a threfniadau arbed treth, cynlluniau ar person syn eu cynnig i chi i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.

Newidiadau i nodynnau atgoffa, datganiadau a derbynebau Treth Gorfforaeth

Fel rhan o ymdrechion parhaus CThEF i wella ei wasanaethau i anfon a chael gwybodaeth trethdalwyr yn ddigidol, nid yw CThEF bellach yn anfon cop誰au papur o rai llythyrau Treth Gorfforaeth (CT) lle gall cwsmeriaid ac asiantau gael mynediad at yr un wybodaeth trwy wasanaethau ar-lein pan fydd ei hangen arnynt.油油

O fis Mehefin ymlaen, ni fyddwn yn anfon y llythyrau Treth Gorfforaeth anstatudol canlynol yn awtomatig:油

  • CT205/Nodynnau atgoffa i gwmn誰au ac asiantau gyflwyno Ffurflenni Treth油
  • CT207 datganiad llog油
  • CT209 derbynneb o daliad油
  • CT603A rhestr asiant o hysbysiadau a gyhoeddir i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni油油
  • CT608 nodyn atgoffa taliad rhandaliadau油

Byddwn hefyd yn rhoi cynnig ar roir gorau i anfon llythyrau atgoffa Treth Gorfforaeth CT208 cyn i ni roir gorau iw hanfon yn barhaol. Bydd y treial yn rhoir gorau i anfon nodynnau atgoffa at boblogaeth fach o gwsmeriaid sydd ag asiantau i ddechrau ac, os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn cynyddu hyn ac yn y pen draw yn cynnwys y nodynnau atgoffa CT208 i gwsmeriaid. Byddwn yn monitror effaith ac yn atal y treial os gwelwn effaith negyddol ar ein cwsmeriaid neun proses.油

Nid oes unrhyw newidiadau ir broses Treth Gorfforaeth ei hun. Gall cwmn誰au gael mynediad at eu cyfrifon ar-lein CThEF a gall asiantau gael mynediad at wasanaeth ar-lein Treth Gorfforaeth i Asiantau CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i fwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau. Mae gwybodaeth am Ffurflenni Treth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) ar gael gan gynnwys arweiniad ar gyfnodau cyfrifyddu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Peidiwch 但 gadael ich contractwyr gael eu dal wrthi gan arbed treth

Mae ymgyrch CThEF yn helpu pobl syn gweithio fel contractwyr i osgoi cyngor treth gwael drwy adnabod arwyddion amlwg arbed treth.油

Gall unrhyw un syn gweithio i chi fel contractwr ddysgu mwy am arbed treth gan ddefnyddior ffynonellau canlynol:

  • arweiniad ar-lein, gan gynnwys canllawiau a byr i adnabod arwyddion arbed treth a deall sut mae cwmn誰au ambar辿l yn gweithio
  • offer rhyngweithiol i weld a yw eu contractaun cynnwys arbed treth neu wirio eu pecynnau cyflog i wneud yn si典r eu bod yn talur swm cywir o dreth
  • straeon personol gan bobl sydd wediu dal mewn cynlluniau arbed treth sydd eisiau rhannu eu profiadau fel rhybudd i eraill.

Gall contractwyr sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth hefyd ddod o hyd ir cymorth sydd ei hangen arnynt i adael a rhoi gwybod i CThEF amdano drwy ymweld 但 thudalen yr ymgyrch .油

Cyhoeddir manylion cynlluniau arbed treth au hyrwyddwyr yr ydym wediu henwi hefyd. Nid ywr rhestr hon yn gynhwysfawr. Ni waeth yr hyn y bydd hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn ei honni, nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau or fath.油

Rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o bobl syn dod yn rhan o gynllun arbed treth yn difaru gwneud hynny, ac am wneud pethaun iawn. Rydym am eu helpu drwy gynnig y cymorth sydd ei hangen arnynt, heb unrhyw farn, i fynd allan a setlo eu materion treth mewn ffordd fforddiadwy ac amserol.油

Rydym yn eich annog i rannu ein hadnoddau cefnogol ein hymgyrch ar draws eich cylchlythyrau ach gwefannau. Gan gynnwys rhannu a hoffi ein negeseuon ar sianeli cyfryngau cymdeithasol fel , , .

Absenoldeb a Th但l Gofal Newydd-enedigol Statudol

Ar 6 Ebrill, cyflwynodd y llywodraeth hawl statudol newydd i Absenoldeb a Th但l Gofal Newyddenedigol. Mae hyn yn rhoi hawl cyflogaeth diwrnod cyntaf i rieni cyflogedig y mae eu babanod yn mynd i ofal newydd-anedig gymryd hyd at 12 wythnos i ffwrdd or gwaith, yn dibynnu ar faint o amser y mae eu babi mewn gofal newydd-enedigol. Mae gan rieni cymwys hawl hefyd i hyd at 12 wythnos o d但l statudol.

Cafodd a eu cymeradwyo gan D天r Senedd ar ddydd Llun 17 Mawrth 2025. Maer Rheoliadau hyn yn nodi prif ddarpariaethaur hawl newydd, gan gynnwys:

  • diffiniad eang o riant syn cwmpasu ystod o berthnasoedd rhiant a phersonol gan gynnwys rhieni mabwysiadol, rhieni syn maethu i fabwysiadu ar darpar rieni mewn trefniadau mam fenthyg
  • y gallu i gymryd yr absenoldeb yn hyblyg, mewn blociau o leiaf un wythnos, pan fydd y plentyn yn dal i gael gofal newyddenedigol, gan gynnwys wythnos wedyn, ar gofyniad i gymryd yr absenoldeb mewn un bloc parhaus ar unrhyw gyfnod arall o fewn 68 wythnos i enedigaeth y plentyn
  • gofynion rhybudd er mwyn cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
  • gofynion rhybudd a gwybodaeth i gymryd T但l Gofal Newyddenedigol Statudol

Maer llywodraeth hefyd wedi gwneud Rheoliadau i wneud diwygiadau i ddeddfwriaeth eilaidd arall er mwyn adlewyrchu cyflwyno Absenoldeb a Th但l Gofal Newyddenedigol Statudol, yn ogystal ag ymdrin 但 gweinyddur taliad statudol newydd, a hawl rhai pobl dramor a morwyr ir taliad hwn. Gydai gilydd, maer Rheoliadau hyn yn sicrhau cysondeb rhwng Absenoldeb Gofal Newyddenedigol a Th但l Gofal Newyddenedigol Statudol a hawliau absenoldeb a th但l eraill syn gysylltiedig 但r teulu syn bodoli eisoes.油

Mae arweiniad pellach ar D但l ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) a Th但l ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol i gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.油

Gwarantau ar sail cyflogaeth dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion

Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmn誰au, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddion aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymelliadau i gyflogeion.油油

Os ydych yn gweithredu cynllun ERS, maen rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn, gan gynnwys datganiadau dim (lle nad oes gennych unrhyw beth iw ddatgan). Maen rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob cynllun sydd wedii gofrestru ar wasanaeth ERS ar-lein yn erbyn eich cynllun TWE.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn ar neu cyn 6 Gorffennaf 2025.

Os byddwch yn methur dyddiad cau, bydd cosb am gyflwynon hwyr o 贈100 yn cael ei hanfon i gyfeiriad y cyfrif TWE cysylltiedig.

Bydd cosbau awtomatig ychwanegol o 贈300 yn cael eu codi os nad ydych wedi cyflwynor datganiad cyn pen tri mis ar 担l y dyddiad cau gwreiddiol, sef 6 Gorffennaf 2025. Bydd cosb arall o 贈300 yn cael ei chodi os ywn dal yn ddyledus chwe mis ar 担l y dyddiad hwn.

Bydd disgrifiad or t但l ar gyfer cosbau syn ymwneud 但 chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion yn cyfeirio at Warantau ar Sail Cyflogaeth.

Os ydych yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno datganiad ERS yn hwyr, maen rhaid i chi sicrhau eich bod chi wedi cyflwynoch Ffurflenni Treth diwedd blwyddyn syn weddill. Maen rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth diwedd blwyddyn i atal cosbau pellach.油

I gofrestru ar gyfer y cynllun ERS, mae angen cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Er mwyn cyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn (yn agor tudalen Saesneg), maen rhaid eich bod eisoes wedi cofrestruch cynllun ar y gwasanaeth ar-lein.

Os yw cynllun wedii gofrestru ar gam, neu os nad ywn gweithredu mwyach, bydd rhaid dod 但r cynllun i ben ar-lein. Ni all asiant wneud hyn, dim ond y cyflogwr all ddod 但r cynllun i ben ar-lein.

Mae angen i gynllun ERS fod yn gysylltiedig 但 chynllun TWE y Cyflogwr byw. Os ydych yn cauch cynllun TWE, dylech ystyried a oes angen i chi hefyd roir gorau ich cynllun ERS (yn agor tudalen Saesneg).

Unwaith y bydd cynllun ERS wedi dod i ben, bydd rhaid cyflwyno datganiad blynyddol neu ddatganiad dim o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad olaf yn syrthio ynddi.

Diwedd y Cynllun Stampiaur Doll Alcohol

Daeth y Cynllun Stampiaur Doll Alcohol i ben ar 1 Mai 2025.油油油

Roedd y cynllun hwn yn berthnasol i gynwysyddion manwerthu mwy o gynhyrchion cryfder alcoholaidd uwch y rhai 但 chyfaint o 35cl neu fwy, a chryfder o leiaf 30% abv.油油油

Nid oes angen stamp Doll wedii Thalu yn y DU mwyach ar gynhyrchion a oedd gynt o fewn y cynllun, sef gwirodydd cryfder uwch fel arfer.油

Dylai cynhyrchwyr a mewnforwyr nawr roir gorau i stampio cynwysyddion manwerthu gydar dyluniad tollau stamp. Dylen nhw ddiweddaru eu dyluniadau labeli poteli ar gyfer stoc newydd.油 Bydd stoc stampiedig presennol yn parhau i fod yn gyfreithlon iw werthu ai gyflenwi, tra bod stoc stampiedig etifeddol yn cael ei ddefnyddio.油油

Dylai masnachwyr atgoffa eu hunain or risgiau sydd fel arfer yn gysylltiedig 但 chynhyrchion alcohol anghyfreithlon. Lle bon berthnasol, maen rhaid i gyfanwerthwyr a manwerthwyr hefyd ddilyn gofynion y Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae arweiniad ymarferol ynghylch diwedd y cynllun ar gael yn y Briff Cyllid a Thollau: Diwedd y Cynllun Stampiaur Doll Alcohol (yn agor tudalen Saesneg).

Arweiniad ac offer newydd ar gyfer cwmn誰au ambar辿l

Am y tro cyntaf, mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer cwmn誰au ambar辿l syn gweithredu yn y farchnad lafur dros dro. Nod y datblygiad pwysig hwn yw gosod disgwyliadau clir a chodi safonau ar draws y sector.

Arweiniad cwmni ambar辿l newydd油油

Maerarweiniad yn amlinellu enghreifftiau o arfer da ar gyfer cwmn誰au ambar辿l yn y farchnad lafur dros dro (yn agor tudalen Saesneg) syn gwneu y canlynol:

  • anelu at wella sut maer farchnad yn gweithredu
  • nodi camau gweithredu syn cefnogi cydymffurfiaeth
  • annog chwarae teg ar draws y farchnad lafur dros dro

Maer arweiniad hwn yn gam tuag at godi safonau tra bod y llywodraeth yn cynllunio goruchwyliaeth ffurfiol ar gwmn誰au ambar辿l rheoleiddiol. Maen helpu i greu marchnad decach ac yn galluogi gweithwyr, busnesau a rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi i ddeall sut olwg sydd ar weithrediad cwmni ambar辿l cyfrifol.

Offeryn cyfrifo cyflog o gwmni ambar辿l wedii ddiweddaru油油油

Gall busnesau cyflogaeth syn defnyddio cwmn誰au ambar辿l au gweithwyr nawr gael mynediad at offeryn cyfrifo cyflog o gwmni ambar辿l wedii ddiweddaru gan CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Maer offeryn hwn yn gwneud y canlynol:

  • cynhyrchu cyfrifiadau darluniadol cyflog a didyniadau cynhwysfawr yn seiliedig ar gyfraddau aseiniad
  • helpu i wirio a yw cyflog a didyniadau yn gyfreithlon ac wediu cyfrifon gywir
  • ymgorffori cyfraddau a throthwyon blwyddyn ariannol 2025 i 2026
  • yn gwbl ddienw heb gasglu manylion adnabod

Maer adnodd hwn yn cefnogi busnesau cyflogaeth i gyflawni rhwymedigaethau cydymffurfio wrth sicrhau bod gweithwyr yn cael gwybod yn well am eu hawliau cyflog ac yn cael eu hamddiffyn rhag cynlluniau arbed treth.

Newidiadau yn y dyfodol i D但l Salwch Statudol

Fel rhan or Cynllun Gwneud i Waith Dalu, maer Llywodraeth yn gwneud newidiadau i D但l Salwch Statudol (SSP).油Drwyr Bil Hawliau Cyflogaeth, rydym yn cryfhaur SSP i wneud yn si典r bod gan bob cyflogai fynediad at SSP or diwrnod cyntaf y mae angen iddynt gymryd amser i ffwrdd or gwaith oherwydd salwch, waeth beth fou henillion.油油

Newidiadau allweddol i SSP

Bydd SSP ar gael or diwrnod cyntaf. Rydym yn dileur cyfnod aros syn golygu bod cyflogeion bellach yn gymwys i gael SSP or diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch yn hytrach nar bedwerydd diwrnod syn wir ar hyn o bryd. 油

Rydym hefyd yn dileur Terfyn Enillion Isaf fel meini prawf cymhwystra ar gyfer SSP, syn golygu y bydd gan bob cyflogai cymwys, waeth beth fou henillion, fynediad i SSP pan fyddant i ffwrdd yn s但l. Bydd gan gyflogeion hawl i 80% ou henillion wythnosol arferol, neur gyfradd wastad, sydd ar hyn o bryd yn 贈118.75, pa un bynnag sydd isaf.

Maer Adran Busnes a Masnachun arwain gwaith i greu Asiantaeth Gwaith Teg, asiantaeth weithredol newydd a fydd yn dwyn ynghyd swyddogaethau gorfodi presennol mewn un lle, fel bod hawliau cyflogaeth yn cael eu gorfodin fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd hefyd yn gorfodi hawliau ychwanegol, gan gynnwys yr hawl i SSP.

Camau nesaf

Wrth i ni symud ymlaen 但n hymrwymiad i gryfhau SSP, rydym am barhau i wrando a dysgu gan gyflogwyr, cyflogeion a rhanddeiliaid i gefnogi cyflwynor mesurau hyn. Byddem yn awyddus i ymgysylltu 但 chyflogwyr a darparwyr cyflogres, o ystyried eich arbenigedd sylweddol, i drafod sut y gellir gweithredur newidiadau hyn yn llwyddiannus. Hoffem hefyd ddeall pa gefnogaeth sydd ei hangen i gyflwynor newidiadau sylweddol hyn, gan gynnwys gwybodaeth ac arweiniad a allai fod yn ofynnol.

Dim ond cam cyntaf cyflawnir Cynllun Gwneud i Waith Dalu ywr Bil Hawliau Cyflogaeth. Ochr yn ochr 但 Strategaeth Ddiwydiannol newydd y llywodraeth, bydd y Bil yn cefnogi cenhadaeth y llywodraeth i gynyddu cynhyrchiant a chreur amodau cywir ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, cynhwysol a diogel yn yr hirdymor. Ochr yn ochr 但 hyn, gofynnwyd i Syr Charlie Mayfield arwain yr adolygiad Cadwch Brydain yn Gweithio (yn agor tudalen Saesneg), a fydd yn ystyried argymhellion ir llywodraeth weithion agos gyda busnesau, ac i adeiladu partneriaeth i wella ansawdd a chynhwysiant gwaith.油

Os hoffech gysylltu 但 ni yngl天n 但r newidiadau syn cael eu gwneud i SSP, neu os hoffech rannuch barn ach arbenigedd, anfonwch e-bost at D樽m Polisi SSP yn SSP.Team@DWP.gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am D但l Salwch Statudol Strwythur Dileu Terfyn Enillion Isad ar gael yn Bil Hawliau Cyflogaeth: taflenni gwybodaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Atgoffir rhieni pobl ifanc i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant

Os oes gennych gyflogeion sydd 但 phlant, rhwng 16 a 19 oed, mae gwybodaeth bwysig y mae angen iddynt ei gwybod fel nad ydynt yn colli hyd at 贈1,354 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant.油

Rydym yn ysgrifennu at rieni i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt gadarnhau a yw eu plant yn aros mewn addysg amser llawn, neu hyfforddiant, cyn y dyddiad cau sef 31 Awst 2025.

Gallwch helpuch cyflogeion i gael y taliadau y maen nhwn gymwys iw cael drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF.

Maer llythyr y byddant yn ei gael yn cynnwys cod QR defnyddiol syn mynd 但 nhwn syth ir gwasanaeth digidol o fewn arweiniad Budd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn troin 16 oed (yn agor tudalen Saesneg). Yn yr arweiniad gallant hefyd wirio cymhwystra, neu gallant chwilio am ymestyn Budd-dal Plant a mewngofnodi iw cyfrif ar-lein.

Os na fydd rhienin rhoi gwybod i ni erbyn 31 Awst 2025, bydd eu Budd-dal Plant yn dod i ben.

Os yw eich cyflogeion neu eu partneriaid wedi dewis peidio 但 chael taliadau Budd-dal Plant oherwydd eu hincwm, mae angen iddynt ymestyn eu hawliad o hyd. Maer swm y gall rhieni ei ennill cyn bod angen iddynt dalur T但l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bellach wedi cynyddu i rhwng 贈60,000 ac 贈80,000.

Dylech annog eich cyflogeion i ddefnyddior ar-lein cyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei gael, a beth allair t但l fod.

Maen bosibl y bydd hin werth iddynt nawr ddewis ailymuno 但 thaliadau neu wneud hawliad os nad ydynt wedi gwneud hynny or blaen. Maen gyflym ac yn hawdd iw wneud drwy ap CThEF neu ar-lein.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr油油油油

Ers mis Medi 2020, maen rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar 51画鋼 neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl 但 phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd 但:油油油油

  • nam ar eu golwg油油油油

  • anawsterau echddygol油油油油

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu油油油油

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw油油油油

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwyr dudalen yn llwyr. Maer erthyglau wediu rhoi mewn categor誰au o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd ir diweddariadau ar wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.油油油油

Maer fformat HTML yn caniat叩u i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):油油油油

  • argraffur ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm Argraffur dudalen hon o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffur ddogfen ar eich argraffydd lleol油油油油
  • i gadwr ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm Argraffur dudalen hon a, chan ddefnyddior gwymplen ar yr argraffydd, dewis Argraffu i PDF syn caniat叩u i chi gadwr ddogfen fel PDF ai ffeilio ar ffurf electronig油油油油

    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF油油油油

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth油油油油

Gwnewch yn si典r eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy .油油油油

Gallwch hefyd ein .油油油油

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio油GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.油油油油