Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 81: annog y defnydd o dechnoleg ddigidol wrth gadarnhau hunaniaeth

Diweddarwyd 9 Mehefin 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 81: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Mae galw eang ar draws y farchnad drawsgludo am ddatrysiadau cadarnhau hunaniaeth fwy cydnerth, syml a chyfleus.

Credwn fod lle i gael gwiriad hunaniaeth amgen o safon uwch un syn defnyddio technoleg fiometrig a chryptograffig, sydd wedi ei ddiffinio ac yn rhoi eglurder a sicrwydd ir trawsgludwr ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd o ran cadarnhau hunaniaeth mewn perthynas 但 cheisiadau cofrestru tir.

Maer cyfarwyddyd isod yn amlinellur safon amgen honno ar gyfer gwirio hunaniaeth a gellir ei defnyddio ar unwaith.

Maer cyfarwyddyd hwn ar wah但n in gofynion ynghylch sut y caiff cadarnhad neu dystiolaeth hunaniaeth ei ddarparu fel rhan o gais i gofrestru. I gael gwybodaeth am y gofynion hyn gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

Yn ogystal, nid ywr cyfarwyddyd yn delio 但r gwiriadau hunaniaeth y mae cyrff rheoleiddiol neu gynrychioliadol yn gofyn amdanynt, neu syn ofynnol yn 担l y gyfraith, er enghraifft o dan ddeddfwriaeth gwyngalchu arian.

2. Y safon hunaniaeth ddigidol

Diffinnir y lefel fanylach o wiriad trwy gyfeirio at gyfres o ofynion, a elwir ar y cyd yn safon hunaniaeth ddigidol Cofrestrfa Tir EF. Seilir y safon ar yr egwyddorion o fewn Cyfarwyddyd Ymarfer Da y Llywodraeth GPG45. Maer gofynion yn cynnwys gwirio biometrig a chryptograffig o hunaniaeth a chadarnhau mair unigolyn neur unigolion syn llofnodi ar ran corfforaethau yw perchennog yr eiddo neu fel arall yn barti gwirioneddol i drafodiad cofrestradwy.

Lle maer safon wedi ei dilyn, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried bod y ddyletswydd i gadarnhau hunaniaeth parti i drafodiad cofrestradwy wedi ei chyflawni.

Bydd trawsgludwr syn mabwysiadur dull hwn wedi cyflawni ei rwymedigaeth i gymryd camau rhesymol mewn perthynas 但r gofyniad i gadarnhau hunaniaeth ei gleient a bydd yn cyrraedd y Lloches Ddiogel. Mae hyn yn golygu os yw trawsgludwr yn cwblhaur camau a ddisgrifir yn y safon, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud unrhyw gais digolledu yn erbyn y trawsgludwr syn deillio o gofrestru trafodiad twyllodrus ar y sail bod y gwiriadau hunaniaeth yn annigonol.

Amlinellir isod yr amodau ar gyfer bodlonir safon.

Rhaid i ofynion 1 i 3 gael eu cwblhau gan bob trawsgludwr syn gweithredu ar ran parti ir trafodiad. Mae gofyniad 4 yn wiriad ychwanegol sydd iw gwblhau gan y trawsgludwr syn cynrychioli trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr yn y trafodiad.

3. Gofynion y safon

3.1 Gofyniad 1: ceisio tystiolaeth

Er mwyn bodlonir gofyniad hwn, rhaid bod gan y person y math o dystiolaeth y gellir ei gwirio trwy gwestiynu nodweddion diogelwch cryptograffig o fewn y dystiolaeth honno. Rhaid ir nodweddion diogelwch gynnwys llun a gedwir yn electronig or hunaniaeth y gellir cynnal gwiriadau adnabod wyneb biometrig yn ei erbyn.

Y mathau derbyniol o dystiolaeth syn bodlonir gofynion hyn yw:

  • pasbortau biometrig syn bodloni manylebaur Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAC) ar gyfer e-basbortau
  • cardiau adnabod o wlad yr Undeb Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewropeaidd syn dilyn safonau Rheoliad (CE) Rhif 2252/2004 y Cyngor ac yn cynnwys gwybodaeth fiometrig
  • cerdyn preswylio biometrig y DU

3.2 Gofyniad 2: gwirior dystiolaeth

Rhaid ichi wirio bod y dystiolaeth syn bodlonir gofyniad cyntaf yn ddilys er mwyn sicrhau nad yw wedi cael ei ffugio ac yn parhaun gyfredol.

Dylech wneud hyn trwy ddefnyddio darparwr gwirio hunaniaeth i gadarnhau ar eich rhan bod nodweddion diogelwch dogfennol a chryptograffig y dystiolaeth yn ddilys.

Rhaid i system y darparwr gwirio hunaniaeth ddarllen y sglodyn o fewn y dystiolaeth gan ddefnyddio Near Field Communiciation trwy ddarparu unrhyw allweddi cryptograffig gofynnol ac yna:

  • gwirio bod y llofnod digidol yn gywir ar gyfer y sefydliad a gyhoeddodd y dystiolaeth

  • gwirio bod yr allwedd lofnodi yn perthyn ir sefydliad heb ei dirymu, a

  • casglur wybodaeth fiometrig sydd ei hangen ar gyfer gofyniad 3

Nid yw gwirio bod y dystiolaeth yn ddilys dim ond trwy ddefnyddio llun or ddogfen neur Machine Readable Zone yn bodlonir gofyniad.

3.3 Gofyniad 3: cyfateb y dystiolaeth 但r hunaniaeth

Rhaid ichi wirio bod y person syn cyflwynor wybodaeth yn cyfateb 但r llun yn y dystiolaeth a ddarperir. Rhaid ichi wneud hyn trwy ddefnyddio darparwr gwirio hunaniaeth i sicrhau bod y wybodaeth fiometrig a gesglir gan wiriad person byw (esbonnir hyn isod) yn cyfateb 但r wybodaeth fiometrig yn y sglodyn o fewn y dystiolaeth ddilys a gawsoch.

Er mwyn bodlonir gofyniad hwn rhaid ir darparwr gwirio hunaniaeth:

  • defnyddio lluniau neu fideo (a dynnir yn fyw fel rhan or broses wirio) or person syn cyflwynor wybodaeth yn perfformio tasgau i gadarnhau bod y person syn cyflwynor wybodaeth yn berson go iawn (a elwir yn brawf person byw manylach)

  • gallu nodi pan fydd rhywun yn ceisio defnyddio ymosodiad cyflwyniad (a elwir yn wiriad gwrth-ffugio). Rhaid ichi allu adnabod arteffactau syml a chymhleth sydd wedi cymryd amrywiaeth o amser, arian ac ymdrech iw creu; gallai hyn olygu gwneud yn siwr nad ywr person yn dangos rhithffurf wedi ei animeiddio 3D ar gyfrifiadur neu ddyfais sydd wedi ei herwgipio

  • sicrhau bod gwybodaeth fiometrig y person yn cael ei chasglu o dan amodau rheoledig nad ywn lleihau cywirdeb y math o wiriad biometrig a ddefnyddir (mae golau, s典n a lleithder yn effeithio ar y cyfraddau llwyddiant ar gyfer biometreg wyneb a dylid ei addasu os oes angen)

  • defnyddio algorithm biometrig sydd wedi profin effeithiol yn erbyn meincnod cydnabyddedig, er enghraifft canllawiau prawf gwerthwr adnabod wyneb Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST)

  • cael cyfatebiaeth ffug (lle maer system wedi adnabod yr unigolyn yn anghywir) gydag uchafswm cyfradd o 0.01%, a

  • cael uchafswm cyfradd dim cyfatebiaeth ffug (lle maer system wedi gwrthod yr unigolyn yn anghywir) o 1%

3.4 Gofyniad 4: cael tystiolaeth i sicrhau mair trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr ywr un unigolyn neu endid 但r perchennog

Rhaid ir trawsgludwr syn cynrychioli trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr fodlonir gofyniad hwn.

Gwiriad ar gyfer unigolion

Rhaid ichi gysylltur unigolyn 但r eiddo trwy gael dwy enghraifft or rhestr ganlynol o fathau o dystiolaeth a gwirio bod enw a chyfeiriad yr unigolyn syn hawlior hunaniaeth yn cyfateb 但r rhai ar y dystiolaeth a ddarperir.

Rydym yn derbyn:

  • bil cyfleustodau, cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu, wedi ei ddyddio o fewn y tri mis diwethaf
  • bil y dreth gyngor yr awdurdod lleol am y flwyddyn ariannol gyfredol
  • datganiad morgais gwreiddiol gan roddwr benthyg cydnabyddedig am y flwyddyn lawn ddiwethaf.
  • trwydded yrru gerdyn-llun gyfredol y DU neu Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • llythyron hunanasesu neu orchmynion treth Cyllid a Thollau EF wedi eu dyddio o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol
  • polisi yswiriant ar gyfer yr eiddo
  • tystysgrif arf tanio neu ddryll gyfredol
  • cerdyn credyd yn dangos logo Mastercard neu Visa, cerdyn American Express neu Diners Club, neu gerdyn debyd neu aml-swyddogaeth yn dangos logo Maestro neu Visa wedi ei gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig ai ategu gan gyfriflen cyfrif syn llai na thri mis oed
  • copi or cytundeb ar gyfer prynur eiddo
  • cytundeb asiant gosod eiddo ar bapur pennawd
  • cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu awdurdod lleol ar gyfer gwaith a wnaed ir eiddo sydd wedi ei chyfeirio at yr unigolyn
  • gorchmynion t但l gwasanaeth cwmni rheoli am yr eiddo wedi eu cyfeirio at yr unigolyn
  • cadarnhad o gofrestru cynllun blaendal tenantiaeth

Gall y datganiadau y cyfeirir atynt yn y rhestr uchod fod yn ddatganiadau post neun ddatganiadau ar-lein. Gellir dibynnu ar ddatganiad ar-lein ar yr amod ei bod yn amlwg y cafodd ei dderbyn neu ei lwytho i lawr gan yr unigolyn ai fod yn cyfeirio at yr eiddo dan sylw. Ni fydd sgrin luniau o ddatganiadau ar-lein yn bodlonir safon.

Gwiriadau ar gyfer cwmn誰au cofrestredig y DU

Cael tystiolaeth i sicrhau mair trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr ywr un endid cyfreithiol 但r perchennog

Rhaid ir trawsgludwr syn cynrychioli cwmni cofrestredig y DU, trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr fodlonir gofyniad hwn.

Er mwyn bodlonir gofyniad hwn rhaid ichi gael tystiolaeth i gadarnhau mair trosglwyddwr, cymerwr benthyg neu brydleswr arfaethedig ywr un endid cyfreithiol 但 pherchennog corfforaethol perthnasol y budd eiddo a gaiff ei drosglwyddo, ei arwystlo neu ei brydlesu a bod pob unigolyn a fydd yn llofnodir trafodiad ar ran yr endid cyfreithiol hwnnw wedi ei awdurdodi i wneud hynny. Caiff y gofyniad hwn ei fodloni trwy gwblhau pob un or camau canlynol:

  1. 1. Cael gwybodaeth am y cwmni, gan gynnwys yr enw, rhif cofrestru cwmni neu rif cofrestru arall, cyfeiriad swyddfa cofrestredig ac enwau llawn swyddogion y cwmni.
  2. 2. Cadarnhaur wybodaeth hon trwy un neu ragor or ffynonellau isod:
    1. a) tystysgrif ymgorffori
    2. b) manylion gan y gofrestrfa cwmni berthnasol yn cadarnhau manylion swyddogion y cwmni au cyfeiriad
    3. c) cyfrifon wedi eu harchwilio au ffeilio
  3. 3. Gwirior wybodaeth hunaniaeth gorfforaethol a gafwyd yn erbyn y wybodaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF [rhif cofrestru cwmni a dyddiad cofrestrur perchennog].
  4. 4. Cael tystiolaeth i wirio bod yr unigolyn(unigolion) syn llofnodi ar ran y cwmni yn y trafodiad wedi ei awdurdodi i wneud hynny, trwy un neu ragor or ffynonellau isod:
    1. a) gwirio eu manylion yn erbyn y wybodaeth yn y gofrestrfa cwmni berthnasol
    2. b) gwirio a yw unrhyw b典er atwrnai yn ddilys ac yn gyfredol
    3. c) cael copi o benderfyniad y cwmni i benodir llofnodwr awdurdodedig neu wirio yn erbyn rhestr gyfredol o lofnodwyr awdurdodedig
    4. d) edrych ar gyfansoddiad y cwmni neu statud llywodraethu perthnasol arall
  5. 5. Bodloni gofynion 1-3 i gadarnhau hunaniaethau llofnodwyr unigol.

Lle mae trawsgludwr wedi cwblhaur gwiriadau uchod a bodlonir gofynion o ran unigolyn syn llofnodi mewn trafodion lluosog, gall y trawsgludwr ddibynnu ar ganlyniadaur gwiriadau hynny am gyfnod o hyd at chwe mis. Os ywr llofnodi yn digwydd mwy na chwe mis ar 担l ir gwiriadau gwreiddiol gael eu cwblhau, bydd yn rhaid cynnal y gwiriadau eto.

4. Cyrraedd safon hunaniaeth ddigidol Cofrestrfa Tir EF

Mae Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (y Ddeddf) yn darparu ar gyfer talu iawndal i rywun a all ddangos ei fod wedi dioddef colled o ganlyniad i gamgymeriad yn y gofrestr ar sail indemniad. Mae hyn yn cynnwys lle mae trafodiad twyllodrus wedi ei gofrestru.

O dan baragraff 10 o Atodlen 8 ir Ddeddf, mae hawl statudol gan Gofrestrfa Tir EF i adennill o drawsgludwyr yr iawndal a dalwyd ganddi mewn rhai amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae iawndal wedi cael ei dalu o ganlyniad i dwyll.

Dylai trawsgludwr syn dilyn y gofynion a nodwyd uchod i fodlonir safon barhaun wyliadwrus yn ystod gweddill y trafodiad.

Os oes gan y trawsgludwr, ar unrhyw adeg cyn cwblhaur trafodiad, (1) amheuaeth resymol ynghylch y gwiriadau a gwblhawyd, neu (2) rheswm dros gredu bod nodweddion y trafodiad ei hun yn awgrymu nad ywr part誰on a gynrychiolant yn rhai dilys o bosib, dylent wneud ymholiadau pellach a cheisio tystiolaeth bellach, fel y bon briodol, i sicrhau bod yr amheuon hynny yn cael eu datrys. Rhaid iddynt gadw cofnod o ganlyniadaur gwiriadau ac ymholiadau pellach hynny. Os oes amheuaeth resymol ac nid yw wedi ei datrys yn gadarnhaol, ni chaiff y safon ei bodloni.

Cydnabyddir na fydd bob amser yn bosibl i gwblhau pob un or camau a nodwyd yn y safon ym mhob trafodiad. Lle nad ywn ymarferol i gwblhaur gwiriadau manylach hyn, neu ddatrys unrhyw amheuon ynghylch y gwiriadau, ni fydd y trawsgludwr yn bodlonir safon. O dan yr amgylchiadau hyn, gall fod rhywfaint o berygl ir trawsgludwr o hyd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ceisio digolledu os dangosir bod y trafodiad yn dwyllodrus ac maer trawsgludwr naill ai wedi bod yn esgeulus neun dwyllodrus o ran gwirio hunaniaeth.

Rhoddodd Cofrestrfa Tir EF sicrwydd ir Senedd yn 2001 na fyddain defnyddior hawl digolledu yn erbyn y rheini nad ydynt yn dwyllodrus nac yn esgeulus. Rhaid i Gofrestrfa Tir EF fodloni ei hunan bod twyll neu esgeulustod wedi digwydd cyn ceisio digolledu yn erbyn trawsgludwr.

5. Defnyddio cadarnhau hunaniaeth ddigidol mewn cais

Lle mae trosglwyddwr yn bodloni safon hunaniaeth ddigidol Cofrestrfa Tir EF, maen bosibl cadarnhau hunaniaeth person gan ddefnyddio hunaniaeth ddigidol ar unrhyw gais lle mae angen tystiolaeth hunaniaeth. Am wybodaeth am y gofynion hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

Wrth wneud cais, maen ofynnol i drosglwyddwr gadarnhau bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau hunaniaeth parti, gan gynnwys pan fydd yr hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan ddefnyddio cadarnhau hunaniaeth ddigidol. Pan gaiff ei gwblhau fel hyn, bydd y trosglwyddwr yn cadarnhaur wybodaeth berthnasol fel arfer, trwy ddarparu cadarnhad yn ein gwasanaethau cofrestru digidol neu trwy gwblhau panel 15 ffurflen FR1.

Pan na all trosglwyddwr gadarnhau bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau hunaniaeth parti, rhaid ichi uwchlwytho ffurflen hunaniaeth wedi ei llenwi. Mae adran C ffurflenni ID1 ac ID2 yn caniat叩u i drosglwyddwr gadarnhau hunaniaeth person yn ddigidol o dan ein safon hunaniaeth ddigidol. Am wybodaeth ar lenwi ffurflen ID1 neu ID2, gweler adran 8 cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

6. Pethau iw cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.