Canllawiau

Deddf Cydraddoldeb canllaw i elusennau

Cyhoeddwyd 22 Chwefror 2013

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Maer canllawiau yma yn rhagflaenu dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y DU yn For Women Scotland Ltd (Apelydd) v Gweinidogion yr Alban (Ymatebydd), ynghylch y diffiniad o fenyw at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y Comisiwn yn diweddarur canllawiau hyn fel yr angen maes o law.

1. Am beth maer canllaw hwn?

Maer canllaw hwn yn esbonior rheol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 syn caniat叩u i elusen wahaniaethu drwy gyfyngu ar y gr典p o bobl y maen ei helpu.

Maer Comisiwn Elusennau yn galw hwn yr eithriad i elusennau.

Maer canllaw hwn hefyd yn crynhoi (yn adran 8) nifer o eithriadau eraill yn y Ddeddf syn caniat叩u i elusen gyfyngur gr典p o bobl y maen ei helpu neu dargedu buddion at grwpiau arbennig.

2. Sut maer canllaw hwn wedi newid?

Maer canllaw hwn yn fersiwn estynedig or crynodeb a gynhyrchodd y comisiwn ym Medi 2010.

Maen cynnwys:

  • rhagor o wybodaeth ynghylch sut y maer eithriad i elusennau yn gymwys mewn amgylchiadau gwahanol
  • enghreifftiau esboniadol
  • rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae eithriadau eraill y Ddeddf yn gymwys i rai elusennau

Maer comisiwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr eithriad i elusennau ar prif faterion syn codi ar gyfer elusennau oherwydd nid oes canllawiau manwl am yr eithriad i elusennau ar gael o ffynonellau eraill.

Maen bosib y bydd angen cyngor arbenigol ar elusennau sydd ag ymholiadau cymhleth ynghylch sut mae eithriadaur Ddeddf yn berthnasol iddyn nhw.

3. Am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf)

3.1 Beth yw effaith gyffredinol y Ddeddf?

Maer Ddeddf yn ei gwneud hin anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail nodwedd warchodedig mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Mae rhai eithriadau i hyn, gan gynnwys yr eithriad i elusennau.

3.2 Beth yw nodweddion gwarchodedig?

Maer canlynol yn nodweddion gwarchodedig:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhywedd
  • cyfeiriadedd rhywiol

Cewch ragor o wybodaeth am ystyr nodweddion gwarchodedig ar .

Yn y canllaw hwn, pan fydd y comisiwn yn cyfeirio at bobl syn rhannu nodwedd warchodedig, maen cynnwys grwpiau o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig.

3.3 Ydy pob rhan or Ddeddf wedi cael ei gweithredu?

Ydyn. Daeth y rhan fwyaf or Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010, gan gynnwys darpariaethau syn berthnasol i eithriad elusennau. Daeth amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i rym ym mis Hydref 2012.

3.4 Ble alla i gael canllawiau pellach?

Mae Swyddfa Cydraddoldebaur Llywodraeth (GEO) ar (EHRC) wedi cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau ymarferol ir Ddeddf. Mae dolenni ir canllawiau wediu rhestru yn adran 9.

4. Am yr eithriad i elusennau

4.1 Beth ywr eithriad i elusennau?

Maer eithriad i elusennau yn caniat叩u i elusen gyfyngu ei buddion i bobl sydd 但 nodwedd warchodedig. Er y gall hyn eithrio (ac felly gwahaniaethu yn erbyn) pobl 但 nodweddion gwarchodedig eraill, fei caniateir:

  • os yw dogfen lywodraethol yr elusen dim ond yn caniat叩u i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig i gael budd, ac
  • os oes modd cyfiawnhaur cyfyngiad drwy ddefnyddio un or profion a ddisgrifir isod

Y profion syn gymwys yw:

Prawf A Mynd ir afael ag anfantais. Maer prawf hwn wedii fodloni os mai nod elusen yw rhoi sylw i anfantais arbennig a wynebir gan bobl syn rhannu nodwedd warchodedig.

Prawf B Cyflawni nod cyfreithlon. Mae Prawf B yn gymwys pan nad yw elusen yn rhoi sylw i anfantais arbennig ond yn ceisio cyflawni rhyw nod cyfreithlon arall mewn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (cymesur).

Mae Adran 5 isod yn esbonio sut maer profion yn gymwys.

4.2 Pa elusennau syn cael eu heffeithio gan yr eithriad i elusennau?

Maer eithriad i elusennau yn effeithio ar sefydliadau syn gwneud cais i gofrestru fel elusennau yn ogystal ag elusennau syn bod fel a ganlyn:

  • Sefydliadau syn ceisio cofrestru fel elusennau sydd am gyfyngu buddion i bobl sydd 但 nodwedd warchodedig. Gall y comisiwn gofrestrur sefydliadau hyn fel elusennau dim ond os ywr cyfyngiad wedii awdurdodin benodol gan y ddogfen lywodraethol ac wedii gyfiawnhau gan un or profion a ddisgrifir uchod. Os nad ywr meini prawf hyn wediu bodloni maen bosib na fydd y comisiwn gofrestrur sefydliad oherwydd nid ywn debygol o allu dangos ei fod er budd y cyhoedd.
  • Bydd rhaid i elusennau syn bod gwirio unrhyw gyfyngiadau or fath hefyd yn eu dogfen lywodraethol. Bydd rhaid iddynt wirio a yw un or ddau brawf a ddisgrifir uchod yn gymwys. Os na, bydd rhaid ir ymddiriedolwyr newid dibenion yr elusen.

Er mwyn gwirio a ywr eithriad i elusennau yn gymwys, dilynwch y camau yn adran 6.

Mae eithriadau eraill yn y Ddeddf syn caniat叩u i elusen dargedu buddion neu wasanaethau at grwpiau arbennig. Mae Adran 8 yn crynhoir eithriadau allweddol eraill yn y Ddeddf syn berthnasol i elusennau.

4.3 Pa elusennau sydd heb eu heffeithio gan yr eithriad i elusennau?

Nid yw elusennau wediu heffeithio gan yr eithriad i elusennau yn yr amgylchiadau canlynol.

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all gael budd

Enghraifft: dim cyfyngiad ar bwy all gael budd

Nid oes unrhyw gyfyngiad gan elusen tai yn ei dogfen lywodraethol ar bwy y gall ei helpu. Nid yw wedii heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd maer eithriad yn gymwys dim ond os yw buddion wediu cyfyngu.

Mae cyfyngiad ar bwy all gael budd, ond nid ywn ymwneud 但 nodwedd warchodedig.

Enghraifft: cyfyngiad heb ei seilio ar nodwedd warchodedig

Mae elusen tai yn darparu gwasanaethau i bobl syn byw mewn tref arbennig. Dim ond trigolion lleol all ddefnyddio gwasanaethaur elusen. Nid ywr elusen wedii heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd nid yw lle preswylio yn nodwedd warchodedig.

Os oes cyfyngiad ar y sawl a all gael budd nad ywn ymwneud 但 nodwedd warchodedig, gallai hyn arwain at yr hyn a elwir yn wahaniaethu anuniongyrchol. Mae Adran 7.5 yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut i osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol yn yr amgylchiadau hyn.

Gall cyfyngiad gael ei gyfiawnhau drwy ddefnyddio darpariaethau eraill yn y Ddeddf.

Mae darpariaethau eraill yn y Ddeddf syn caniat叩u i sefydliadau, gan gynnwys elusennau, gyfyngu neu dargedu darparu eu gwasanaethau neu fuddion heb ddibynnu ar yr eithriad i elusennau.

Enghraifft: darpariaethau gweithredu cadarnhaol

Nid oes gan elusen rhoi grantiau unrhyw gyfyngiad ar bwy y gall ei helpu. Gofynnir ir ymddiriedolwyr roi grant i sefydliad syn cefnogi menywod digartref ag anghenion cymhleth. Ni fyddent yn gallu dibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhau rhoi grant i fenywod yn unig. Mae hyn oherwydd bod yr eithriad i elusennau yn gymwys dim ond os oes cyfyngiad yn y ddogfen lywodraethol ac nid yw dogfen lywodraethol yr elusen hon yn cyfyngu ar bwy all gael budd. Ond maen bosib y gall yr ymddiriedolwyr ddibynnu ar y darpariaethau gweithredu cadarnhaol (gweler Adran 8).

Mae Adran 8 yn crynhoir darpariaethau gweithredu cadarnhaol ar eithriadau allweddol eraill syn berthnasol i elusennau.

Maer elusen er budd pobl anabl yn gyffredinol

Enghreifftiau: elusennau gyda chyfyngiadau syn ymwneud ag anabledd

Enghraifft 1: Buddion wediu cyfyngu i bobl anabl yn gyffredinol

Mae elusen wedii sefydlu i ddarparu gwasanaeth cynghori i bobl anabl. Ni fyddain rhaid ir ymddiriedolwyr ddibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhaur cyfyngiad ir gr典p hwn. Mae hyn oherwydd ei bod hin gyfreithiol i drin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl nad ydynt yn anabl. Nid yw hyn wedi newid o dan y Ddeddf.

Enghraifft 2: Buddion wediu cyfyngu i bobl sydd 但r un anabledd

Mewn cyferbyniad, mae elusen wedii sefydlu i ddarparu gwasanaeth cynghori i bobl 但 nam ar y clyw. Mae dogfen lywodraethol yr elusen yn cyfyngu buddion i bobl sydd 但r anabledd arbennig hwn. Maer eithriad i elusennau yn gymwys oherwydd maer gwasanaethau wediu cyfyngu i bobl sydd ag anabledd arbennig (nam ar y clyw) ac nid yw pobl anabl eraill yn gallu cael budd. Ni fyddain rhaid ir ymddiriedolwyr gyfiawnhaur cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf A neu Brawf B.

4.4 Sut mae hyn yn wahanol ir hyn a aeth or blaen?

Y prif wahaniaeth yw bod y Ddeddf newydd yn ei gwneud hin ofynnol i elusennau gyfiawnhaun benodol unrhyw gyfyngiad, yn seiliedig ar nodwedd warchodedig, ynghylch pwy all gael budd or elusen. Maen rhaid ir cyfyngiad gael ei gyfiawnhau drwy ddefnyddio un or ddau brawf uchod, neu eithriad arall wedii ganiat叩u gan y Ddeddf.

4.5 Maer eithriad i elusennau yn cyfeirio at offeryn elusennol. Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae hyn yn golygu dogfen gyfreithiol syn amlinellu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, cynllun y comisiwn neun ddogfen ffurfiol arall syn pennur dibenion y maen rhaid defnyddior arian ar eu cyfer. Maer canllaw hwn yn cyfeirio at y ddogfen hon fel y ddogfen lywodraethol.

5. Sut maer eithriad i elusennau yn gweithio

Ar gyfer elusen (neu elusen arfaethedig) gyda dogfen lywodraethol syn cyfyngu ei buddion i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig, mae dau brawf posibl y gellir eu defnyddio i ddangos bod hyn wedii ganiat叩u gan yr eithriad i elusennau. Dim ond un or profion hyn syn rhaid bod yn gymwys. Maer comisiwn yn disgrifio isod sut y gallai pob un fod yn gymwys.

5.1 Prawf A - Mynd ir afael ag anfantais

Gall Prawf A gael ei fodloni:

  • os ywr ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig; ac
  • os ywr buddion wediu darparu er mwyn mynd ir afael ag anfantais neu angen arbennig sydd wedii gysylltu 但r nodwedd warchodedig honno.

Enghraifft 1: mynd ir afael ag anfantais

Mae elusen a sefydlwyd i bobl 但 nam ar y golwg yn darparu meddalwedd wedii addasu i anghenion y gr典p hwn. Byddai hyn o fewn yr eithriad i elusennau oherwydd mae dogfen lywodraethol yr elusen yn cyfyngu buddion i bobl 但r un anabledd. Maer meddalwedd yn gwneud iawn am unrhyw anfanteision y gall pobl 但 nam ar y golwg ei gael wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.

Enghraifft 2: mynd ir afael ag anfantais

Mae elusen wedii sefydlu i helpu pobl ddi-waith o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Maer nodwedd warchodedig o hil yn cynnwys gr典p o bobl wedii ddiffinio gan cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) tras ethnig neu genedlaethol). Gall yr elusen ddilyn y cyfyngiad i bobl o dras genedlaethol neu ethnig arbennig dim ond os yw diweithdra yn arbennig o uchel ar gyfer y gr典p hwn. Er mwyn bodloni elfen anfantais yr eithriad i elusennau, maen rhaid ir ymddiriedolwyr fodloni eu hunain fod y diweithdra yn uwch ar gyfer y gr典p y maen gweithio ag ef nag ir boblogaeth gyffredinol.

5.2 All y prawf anfantais (A) gael ei ddefnyddio gan elusennau sydd 但 dibenion cyffredinol?

Na all. Ym marn y comisiwn ni ellid bodloni prawf A

  • os oes rhyddid gan yr elusen i ddewis unrhyw ddiben elusennol; ac
  • os ywr elusen yn cyfyngu ei buddion i gr典p o bobl syn rhannu nodwedd warchodedig.

Mae hyn oherwydd ei fod yn annhebygol o fod yn glir pa fantais arbennig syn cael sylw.

Enghraifft: cyfyngiad amhriodol

Ni fyddai modd ffurfio sefydliad sydd 但 dibenion elusennol cyffredinol er budd menywod neu bobl 但 nam ar y golwg yn unig. Byddain anodd defnyddio Prawf A i gyfiawnhau sefydlu elusen sydd 但r dibenion hyn oherwydd nid yw menywod neu bobl 但 nam ar y golwg yn debygol o wynebu mwy o anfantais mewn perthynas 但 phob diben elusennol posibl.

Er y bydd elusen 但 dibenion elusennol cyffredinol yn ei chael hin anodd i ddefnyddio Prawf A i gyfiawnhaur math hwn o gyfyngiad yn ei dogfen lywodraethol, gall fod yn fater o bolisi i dargedu rhai oi buddion neu ei gwasanaethau at gr典p o bobl syn rhannu nodwedd warchodedig os yw hynny o fewn yr eithriad gweithredu cadarnhaol neu eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf.

5.3 Prawf B - Cyflawni nod cyfreithlon

Os na ellir defnyddio Prawf A, mae Prawf B yn darparu cyfiawnhad arall i elusen wahaniaethu. Gall Prawf B gael ei fodloni:

  • os ywr ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig; ac
  • os ywr cyfyngiad yn gallu cael ei gyfiawnhau fel ffordd deg, gytbwys a rhesymol o gyflawni nod cyfreithlon, gan gofior gwahaniaethu sydd dan sylw.

Maer comisiwn yn esbonio isod sut y gellid defnyddior prawf hwn.

5.4 Beth yw ystyr nod cyfreithlon?

Nod cyfreithlon yw un syn debygol o gynnwys y nodweddion canlynol:

  • Mae ganddo amcan polisi cymdeithasol rhesymol - mae enghreifftiaun cynnwys gwella iechyd neu ddiogelu plant.
  • Maen cyfateb 但 chyflawnin gyfreithlon ddiben datganedig yr elusen er budd y cyhoedd. Nid oes rhaid i hyn fod yn union yr un fath 但r diben elusennol. Er enghraifft, gall fod diben o leddfu tlodi a salwch gan elusen. Gallai hyn fod yn nod cyfreithlon. Os oedd nod atodol gan yr elusen o helpu plant i drechu tlodi gallai hyn fod yn nod gyfreithlon hefyd.
  • Nid ywn wahaniaethol ynddoi hun.

5.5 Pryd mae hin gyfreithlon i wahaniaethu er mwyn cyflawni nod cyfreithlon?

Mae cyfyngur buddion ir rhai syn rhannu nodwedd warchodedig yn gyfreithlon o dan Brawf B dim ond os oes cyfiawnhad cryf syn dangos bod y cyfyngiad yn briodol ac yn angenrheidiol i gyflawnir nod. I gyfiawnhau gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B, maen rhaid ir ymddiriedolwyr allu dangos bod cymhwysor cyfyngiad:

  • Wedii gyfiawnhau er ei fod yn eithrio pobl syn rhannu nodweddion gwarchodedig eraill. Os ywr elusen yn cyfyngu ei buddion i gr典p syn rhannu nodwedd warchodedig megis hil, cyfeiriadedd rhywiol neu ryw, ac nid ywr cyfyngiad wedii gyfiawnhau ar sail anfantais neu angen (gweler Prawf A), gellir cyfiawnhau hyn dim ond drwy resymau darbwyllol a grymus. Mewn rhai amgylchiadau gall ystyriaethau cyllido fod yn berthnasol. Bydd rhaid i elusennau syn ceisio defnyddio Prawf B geisio cyngor ynghylch y gwahaniaethu a gynigir ac yw hynny yn y categori syn gofyn am gyfiawnhad darbwyllol a grymus.

  • Dymar unig ffordd effeithiol o gyflawnir nod. Rhaid ir ymddiriedolwyr allu dangos eu bod nhw wedi ystyried a oes modd cyflawnir nod trwy ddulliau llai gwahaniaethol ac, os felly, pam na ellir dilyn y rhain yn lle hynny.

Enghraifft 1: Gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B

Mae elusen wedii sefydlu i ddarparu tai i ddynion sydd wedi gweithio yn yr heddlu ac sydd mewn angen ariannol. Drwy gyfyngur buddiolwyr i ddynion, maer elusen yn helpu pobl syn rhannu nodwedd warchodedig yn unig (rhyw) ac maen rhaid ir ymddiriedolwyr ystyried a yw eithriad i elusennau yn gymwys.

Nid yw Prawf A yn debygol o allu cael ei ddefnyddio i gyfiawnhaur cyfyngiad oni bai bod tystiolaeth, er enghraifft, ar gyfer dynion sydd wedi gweithio yn yr heddlu yn debygol o wynebu tlodi neu ddigartrefedd i unrhyw raddfa fwy na menywod sydd wedi gweithio yn yr heddlu. Er mwyn cyfiawnhaur cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf B, felly, byddain rhaid ir elusen adnabod y nod cyfreithlon y maent yn ceisio ei gyflawni a dangos bod rhoi budd i ddynion yn unig yn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (cymesur) oi gyflawni.

Enghraifft 2: Gwahaniaethu yn seiliedig ar Brawf B

Mae elusen newydd yn cael ei sefydlu i fynd ir afael 但 thlodi mewn rhan or byd a effeithir gan brinder bwyd a newyn. Maer ddogfen lywodraethol yn cyfyngu buddion i fenywod syn ffermio. Byddair elusen yn helpu pobl syn rhannu nodwedd warchodedig (rhyw) ac felly maen rhaid ir ymddiriedolwyr ystyried a ywr eithriad i elusennau yn gymwys. Gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio Prawf A i gyfiawnhaur cyfyngiad os oes tystiolaeth bod menywod yn y gymuned lle maer elusen yn gweithio yn fwy tebygol o wynebu tlodi neu newyn. Os nad oes tystiolaeth o fwy o anfantais, gallair ymddiriedolwyr ystyried cyfiawnhad prawf B. Maen bosib y bydd tystiolaeth i ddangos, er bod pobl or ddau ryw wediu heffeithio gan newyn, mae canolbwyntio buddion fel cyllid ar gyfer busnesau cychwynnol ar fenywod yn lleihau tlodi iw teuluoedd ar gymuned ehangach. Byddain rhaid ir ymddiriedolwyr adnabod y nod cyfreithlon roeddent yn ceisio ei gyflawni a dangos bod darparu cyllid i fenywod yn unig yn ffordd deg, gytbwys a rhesymol (cymesur) oi gyflawni.

6. Cydymffurfio 但r Ddeddf

6.1 Beth syn rhaid i elusennau presennol ei wneud i gydymffurfio 但r Ddeddf?

Mae dyletswydd gyfreithiol gan elusennau i gydymffurfio 但r Ddeddf. Maen debygol y bydd nifer o elusennau syn cyfyngu neun targedu eu buddion yn gallu dibynnu ar yr eithriad i elusennau, neu eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf. Maer comisiwn yn argymell bod pob elusen yn gwirio eu bod yn cydymffurfio 但r Ddeddf. Gellir gwneud hyn fel rhan o unrhyw adolygiad arferol o weithrediadaur elusen a byddair comisiwn yn argymell y dull gweithredu canlynol:

  • Adolygu dogfen lywodraethol yr elusen. Ydy hin cyfyngu ar bwy all gael budd ar sail nodwedd warchodedig?
  • Os mai ydy ywr ateb ir cwestiwn, dylid ystyried a oes modd cyfiawnhaur cyfyngiad drwy naill ai:

    • Prawf A neu Brawf B yn yr eithriad i elusennau, neu
    • eithriad arall a ganiateir gan y Ddeddf.

Os oes modd gwneud hynny, nid oes angen gweithredu ymhellach.

  • Os ywn anodd cymhwyso naill ai Prawf A neu Brawf B, ac nid yw unrhyw eithriad arall yn gymwys, maen bosib na fydd dibenion yr elusen yn gallu cael eu cyflawni mwyach er budd y cyhoedd. Yn yr amgylchiadau hyn, maen rhaid i elusen newid ei dibenion. Maer comisiwn yn esbonio pryd a sut y gellir gwneud hyn Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36)

6.2 Beth os yw amgylchiadaur elusen yn newid?

Weithiau maer cysylltiad rhwng nod elusen ar gr典p y mae wedii sefydlu iw helpu yn newid.

Enghraifft: amgylchiadau newydd

Mae dogfen lywodraethol elusen yn amlinellu nod i leddfu tlodi trwy wellar rhagolygon cyflogaeth i bobl o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Nodwedd warchodedig - hil). Gall yr ymddiriedolwyr barhau i gyfyngu eu gwaith ir gr典p hwn dim os yw diweithdra yn parhaun uwch ar gyfer y gr典p hwn, neu os ywr anfanteision yn ymwneud 但 diweithdra yn parhaun fwy difrifol ir gr典p hwnnw. Os yw amgylchiadaun newid ac nid ywr anfantais yn bodoli mwyach, maen rhaid ir ymddiriedolwyr ystyried newid dibenion yr elusen.

Byddain rhaid newid dibenion yr elusen os nad ywr eithriad i elusennau, neu eithriadau eraill y Ddeddf eraill, yn bodoli mwyach.

6.3 Beth os yw elusen yn gweithredu mewn ffordd a waherddir gan y Ddeddf?

Maer comisiwn yn disgwyl i ymddiriedolwyr redeg eu helusen yn unol 但r rhwymedigaethau cyfreithiol syn berthnasol yn eu hamgylchiadau nhw. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau uniongyrchol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon rhag parhau.

7. Cwestiynau eraill am yr eithriad i elusennau

7.1 All elusen gyfyngu ar y gr典p o bobl y maen ei helpu trwy gyfeirio at liw croen?

Na all. Os ywr ddogfen lywodraethol yn cynnwys cyfyngiad i bobl o liw croen arbennig fel croenddu neu croenwyn, caiff ei ddarllen fel pe na bair cyfyngiad hwnnw yn bodoli.

7.2 Su maer eithriad i elusennau yn cyd-fynd 但r gofynion budd cyhoeddus?

Maen rhaid i bob elusen gael nod er budd y cyhoedd (y gofyniad budd cyhoeddus).

Mae ein canllaw budd cyhoeddus yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.

Sefydliad sydd:

  • yn cyfyngu ei fuddiolwyr i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig, ond
  • ni all gyfiawnhaur cyfyngiad o dan yr un or ddau brawf yn yr eithriad i elusennau

ni fydd yn gallu dangos ei fod er budd y cyhoedd ac felly ni all fod yn elusen.

7.3 Sut maer eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig?

Maer eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig yn yr un ffordd ag y maen gymwys i elusennau eraill.

Mae cronfeydd cyfyngedig yn gronfeydd a reolir gan elusennau sydd wedi cael neu wedi codi arian ar gyfer dibenion penodol.

Fel arfer maer cronfeydd hyn yn cael eu rheoli gan ymddiriedolwyr y brif elusen ac mae eu dogfen lywodraethol eu hunain ganddynt yn aml.

Enghraifft: beth yw cronfa gyfyngedig?

Mae arian yn cael ei roi i elusen brifysgol neu ysgol. Maer arian yn cael ei roi gan y rhoddwr i sefydlu ysgoloriaeth ar gyfer dibenion penodol. Gall yr ymddiriedolwyr warior arian yn y ffordd a nodir yn unig. Cronfa gyfyngedig yw hon. Yn yr un modd, mae arian a godir gan elusen ryngwladol iw ddefnyddio mewn rhan arbennig or byd yn unig yn gronfa gyfyngedig.

Gall ymddiriedolwyr ddefnyddior eithriad i elusennau i ddilyn gofynion y rhoddwyr bod buddion yn cael eu cyfyngu i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig:

  • os ywr cyfyngiad wedii gynnwys yn y ddogfen lywodraethol; ac
  • os oes modd cyfiawnhau cymhwysor cyfyngiad drwy ddefnyddio Prawf A neu Brawf B.

Enghraifft: sut maer eithriad i elusennau yn gymwys i gronfeydd cyfyngedig

Mae dogfen lywodraethol gan elusen ysgoloriaeth syn cyfyngu buddion i fyfyrwyr-beirianwyr o dras genedlaethol neu ethnig arbennig, neu ar gyfer myfyrwyr peirianneg yn gyffredinol ond yn ffafrio peirianwyr o dras genedlaethol neu ethnig arbennig. (Nodwedd warchodedig - hil). Er mwyn gallu cymhwysor cyfyngiad, maen rhaid ir ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod naill ai Prawf A neu Brawf B yn yr eithriad i elusennau yn gymwys.

7.4 A yw rhoi grantiau yn wasanaeth o fewn ystyr y Ddeddf?

Ydy. Barn y comisiwn yw bod rhoi grantiau i hyrwyddo nod elusen yn fath o ddarparu gwasanaeth.

7.5 Sut mae elusennau gyda chyfyngiad preswylio neu ddaearyddol yn osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol?

Gall gwahaniaethu anuniongyrchol godi os oes cyfyngiad ar y sawl a all gael budd nad ywn ymwneud 但 nodwedd warchodedig, ac effaith y cyfyngiad yw:

  • mae pobl syn rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais gan y cyfyngiad oi gymharu ag eraill nad ydynt yn rhannur nodwedd; ac
  • nid ywr cyfyngiad yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon

Er enghraifft, bydd nifer o elusennau yn cyfyngu eu grwpiau buddiolwyr i drigolion lleol ardal arbennig. Mae darparu buddion elusennol yn debygol o fod yn nod gyfreithlon a gall gwneud hynny mewn ardal arbennig fod yn ffordd gymesur oi gyflawni.

Enghraifft: osgoi gwahaniaethu anuniongyrchol

Mae elusen wedii sefydlu i fynd ir afael 但 thlodi ymysg trigolion bwrdeistref. Maer bwrdeistref yn digwydd bod yn un lle mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig heb eu cynrychiolin llawn. Dim ond trigolion lleol all ddefnyddio gwasanaethaur elusen. Nid ywr elusen wedii heffeithio gan yr eithriad i elusennau oherwydd nid yw lle preswylio yn nodwedd warchodedig. Nid yw gwahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn debygol o godi os ywr elusen yn gallu dangos bod:

  • cysylltiad rhesymol rhwng y diben o fynd ir afael 但 thlodi ar cyfyngiad i drigolion yr ardal hon; a
  • gall trigolion o unrhyw gefndir ethnig, neu gydag unrhyw nodwedd warchodedig arall, gael budd o wasanaethaur elusen.

8. Eithriadau eraill syn berthnasol i elusennau

Maer Ddeddf yn cynnwys rhai eithriadau eraill oi gwaharddiadau ar wahaniaethu. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain iw gweld yn y canllawiau a ddarparwyd gan Swyddog Cydraddoldebaur Llywodraeth ar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Maer comisiwn yn argymell y dylai elusennau a effeithir gan yr eithriadau eraill hyn ddarllen y canllawiau hyn. Maer rhestr ganlynol yn disgrifion fyr y prif eithriadau a all fod yn gymwys i elusennau.

8.1 Aelodaeth o sefydliadau

Cyfyngu aelodaeth o sefydliadau

Mae sefydliad yn unrhyw gr典p:

  • gyda 25 neu ragor o aelodau
  • sydd 但 rheolau i reoli sut mae rhywun yn dod yn aelod

Gall cymdeithasau, gan gynnwys cymdeithasau elusennol, gyfyngu aelodaeth a buddion i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig ar yr amod nad yw aelodaeth yn seiliedig ar liw croen rhywun.

Enghraifft: cyfyngu aelodaeth o gymdeithas

Mae cymdeithas wedii sefydlu i helpu menywod 但 chanser y fron. Mae aelodaeth yn agored i fenywod yn unig. Mae 30 o aelodau gan y gymdeithas. Rhaid i aelodau newydd gael eu cymeradwyo gan y pwyllgor. Mae hon yn gymdeithas a gwmpesir gan y Ddeddf. Maer Ddeddf yn caniat叩u i gymdeithasau gyfyngu eu haelodaeth i bobl syn rhannu nodwedd warchodedig. Maer gymdeithas hon wedii chaniat叩u i gyfyngu ei haelodaeth i fenywod.

Cyfyngu pwy all gael budd gan gymdeithasau

Er bod y Ddeddf yn caniat叩u i gymdeithasau gyfyngu aelodaeth a buddion yn y ffordd a amlinellir uchod, maen rhaid i gymdeithasau elusennol fodlonir prawf budd cyhoeddus hefyd. Mae hyn yn golygu er y gall yr aelodaeth gael ei chyfyngu yn y ffordd a ddisgrifir uchod, rhaid i unrhyw gyfyngiad ar bwy all gael budd or elusen fod er budd y cyhoedd. Rhaid cael cysylltiad rhesymol rhwng pwy all gael budd ar diben elusennol.

Enghraifft: Cymdeithasau elusennol

Mae cymdeithas wedii sefydlu i ddarparu lle addoli mewn ardal arbennig. Maer aelodaeth wedii chyfyngu i gr典p ethnig arbennig gan ddibynnu ar yr eithriad i gymdeithasau. Maer gymdeithas hefyd am gyfyngur defnydd or lle addoli ar yr un sail. Er nad yw hyn yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf, ni all y gymdeithas fod yn elusen. Mae hyn oherwydd bod y comisiwn or farn nad yw cyfyngiad or fath er budd y cyhoedd a dylair lle addoli fod ar gael ir aelodau hynny or gymuned leol sydd am addoli yno.

8.2 Codi arian i ddynion neu fenywod yn unig

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau i gefnogi neu hyrwyddo elusennau gael ei gyfyngu i un rhyw yn unig. Er enghraifft, mae Race for Life yn ddigwyddiad i fenywod yn unig syn codi arian ar gyfer Cancer Research UK.

8.3 Aelodaeth yn seiliedig ar gred grefyddol

Mae gan rai elusennau, sydd heb ei sefydlu at ddibenion crefyddol, ofynion aelodaeth syn seiliedig ar gred grefyddol.

Maer Ddeddf yn caniat叩u ir elusennau hyn barhau i fynnu bod aelodau neu ddarpar aelodau yn gwneud datganiad syn haeru neun awgrymu aelodaeth o grefydd neu gred, neu ei derbyn.

Mae hyn wedii ganiat叩u dim ond os ywr math hwn o ofyniad aelodaeth wedi bod yn ei le yn barhaus o ddyddiad cyn 18 Mai 2005.

Gall elusennau gyfyngu mynediad i fuddion ir aelodau hynny syn gwneud datganiad or fath.

8.4 Gweithredu cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaeth

Beth yw gweithredu cadarnhaol?

Mae gweithredu cadarnhaol yn ddull y gall darparwyr gwasanaeth ei ddefnyddio i helpu pobl sydd o dan anfantais neu heb gynrychiolaeth ddigonol i gael yr un cyfleoedd 但 phawb arall. Rhaid ir gweithredu cadarnhaol fod yn gymesur.

Gall gweithredu cadarnhaol gynnwys darparu gwasanaethau ychwanegol neu bwrpasol, cyfleusterau ar wah但n, mynediad cyflym at wasanaethau, targedu adnoddau neu ymsefydlu neu gyfleoedd hyfforddi i roi budd i gr典p difreintiedig arbennig.

Pryd all gweithredu cadarnhaol gael ei ddefnyddio?

Gall darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys elusennau, gymryd camau cadarnhaol pan fydd pob un or amodau canlynol 1-3 wediu bodloni:

Amod 1. Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth lunio barn resymol bod gr典p o bobl syn rhannu nodwedd warchodedig ac syn defnyddio, neu y gallent fod yn defnyddior gwasanaeth:

  • yn dioddef anfantais syn gysylltiedig 但r nodwedd honno; neu
  • 但 lefel anghymesur o isel o gyfranogiad yn y math hwn o wasanaeth neu weithgareddau; neu
  • angen pethau gwahanol or gwasanaeth hwn ou cymharu 但 grwpiau eraill

Sylwer: Mae barn resymol yn golygu y gall y darparwr weld yr anfantais, lefel isel o gyfranogiad neu anghenion gwahanol, ond nid oes rhaid ir darparwr ddangos unrhyw dystiolaeth ystadegol fanwl neu dystiolaeth arall. Er mwyn sefydlu a oes anfantais arbennig gall elusen gyfeirio at y boblogaeth y maen gweithio 但 hi fel arfer.

Amod 2. Maer camau y maer darparwr yn eu cymryd yn bwriadu:

  • galluogi neu annog y gr典p i oresgyn yr anfantais neu gadwr anfantais ir lleiaf posibl; neu
  • alluogi neu annog y gr典p i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwnnw; neu
  • ateb anghenion gwahanol y gr典p.

Amod 3. Maer camau y maer darparwr yn eu cymryd yn ffordd gymesur o gynyddu cyfranogiad, ateb anghenion gwahanol neu oresgyn anfantais. Mae hyn yn golygu bod y gweithredu yn briodol ir nod hwnnw ac y byddair gweithredu arall yn llai effeithiol o ran cyflawnir nod hwn neun debygol o achosi mwy o anfantais i grwpiau eraill.

Gweithgareddau a ganiateir heb eu dosbarthu fel gweithredu cadarnhaol

Gall darparwr gwasanaeth weithredu i roi budd ir rhai o un gr典p gwarchodedig arbennig nad ywn cynnwys triniaeth lai ffafriol or rhai o gr典p gwarchodedig arall. Er na fyddai hyn wedii ddosbarthu fel gweithredu cadarnhaol, byddain cael ei ganiat叩u.

Enghraifft: gweithgareddau a ganiateir heb eu dosbarthu fel gweithredu cadarnhaol

Mae elusen canolfan ieuenctid, wedii gyfyngu i weithio mewn ardal lle mae poblogaeth sylweddol o Dsieineaid, yn darganfod nad yw llawer o Dsieineaid yn defnyddio ei gwasanaethau. Gallair ymddiriedolwyr gymryd camau penodol i dargedu ei hysbysiadau ac esboniadau oi gwasanaeth i Dsieineaid syn byw yn yr ardal. Gallair ymddiriedolwyr roi rhagor o wybodaeth ir gr典p hwn am y gwasanaeth. Gan na fyddair ymagwedd hon yn golygu rhoi triniaeth lai ffafriol i eraill, ni fyddain cael ei ystyried yn weithredu cadarnhaol.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol a ganiateir

Yn yr enghraifft uchod, gallair ganolfan ieuenctid ystyried ildio neu leihau ei ffi am gyfnod byr i bobl Deuseiniaid fel ffordd o gynyddu eu cyfranogiad. Maer gweithredu yn cynnwys rhywfaint o driniaeth llai ffafriol o bobl eraill o wahanol gefndiroedd cenedlaethol neu ethnig. Mae modd cyfiawnhaur driniaeth llai ffafriol hon oherwydd byddain driniaeth fyrdymor ac nid ywn debygol o effeithio ar y defnydd or gwasanaeth gan bobl o gefndiroedd eraill. Byddair budd o gael aelodaeth ehangach yn fwy nar driniaeth llai ffafriol hon. Byddair ymagwedd hon o fewn y darpariaethau gweithredu cadarnhaol.

Enghraifft: ymagwedd anghymesur - heb ei ganiat叩u o fewn darpariaethau gweithredu cadarnhaol

Yn yr enghraifft uchod, maen bosibl na fydd penderfyniad i ildio ffi flynyddol ar gyfer y gr典p o Dsieineaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn weithredu cadarnhaol cyfreithlon. Byddai gweithredu or fath yn golygu triniaeth llai ffafriol yn y tymor hwy o ddefnyddwyr eraill sydd efallai am ymuno 但r clwb ond syn rhaid talu ffioedd. Mae hyn yn golygu na fydd yn ffordd gymesur efallai o roi sylw ir cyfranogiad is ac felly gallai fod yn anghyfreithlon.

Maen anghyfreithlon i drin aelodau o gr典p difreintiedig neu gr典p heb gynrychiolaeth ddigonol yn fwy ffafriol na grwpiau eraill os nad ywr tri amod uchod yn gymwys neu heb eu bodloni.

Anabledd - nid yw cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol yn ofynnol bob amser

Yn yr un modd 但 mathau eraill o wahaniaethu a gwmpesir gan y Ddeddf, maen bwysig nodi ei bod hin gyfreithlon i drin rhywun anabl yn fwy ffafriol na rhywun nad ywn anabl.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol i bobl anabl yn gyffredinol

Yn yr enghraifft uchod, maer ganolfan ieuenctid yn darparu mynediad 但 disgownt i bobl anabl. Mae hyn wedii ganiat叩u oherwydd ei bod hin gyfreithiol i drin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl nad ydynt yn anabl. Nid oes rhaid cael cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol ar gyfer yr ymagwedd hon.

Enghraifft: gweithredu cadarnhaol i bobl sydd 但r un anabledd

Mewn cyferbyniad, os ywr ganolfan ieuenctid am gymryd camau tebyg i gynyddu cyfranogiad pobl ag anabledd arbennig, fel anabledd dysgu, byddai cyfiawnhad gweithredu cadarnhaol yn ofynnol. Mae hyn oherwydd bod y budd o gael mynediad 但 disgownt iw dargedu at bobl sydd ag anabledd arbennig ac ni fydd pobl anabl eraill yn cael budd or targedu hwnnw.

8.5 Sefydliadau crefyddol neu gred

Pa gyfyngiadau all sefydliadau crefyddol neu gred eu gosod?

Mewn rhai amgylchiadau gall sefydliadau crefyddol neu gred, gan gynnwys elusennau sydd wediu cynnwys yn y categori hwn, gyfyngu, oherwydd crefydd neu gred rhywun neu ei gyfeiriadedd rhywiol:

  • aelodaeth
  • cyfranogiad yn eu gweithgareddau
  • y gwasanaethau a ddarparant
  • y defnydd ou heiddo

Enghraifft: cyfyngiad oherwydd crefydd neu gred rhywun

Gall sefydliad crefyddol neu gred, fel y diffinnir yn isod gyfyngu aelodaeth i bobl syn dilyn ei gredoau.

Yn wahanol i fathau eraill o elusen, nid oes rhaid i elusennau crefyddol a chred gael cyfyngiad yn eu dogfen lywodraethol er mwyn gallu gwneud hyn.

Nid oes rhaid i sefydliadau syn bodloni meini prawf yr eithriad crefydd a chred gyfiawnhau cyfyngu buddion trwy gyfeirio at y meini prawf yn yr eithriad i elusennau.

Pa amodau syn rhaid eu bodloni cyn bod y cyfyngiad yn cael ei osod?

A. Cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred

Gall cyfyngiad gael ei wneud ar sail crefydd neu gred dim ond:

  • oherwydd diben y sefydliad; neu
  • i osgoi achosi tramgwydd i ddilynwyr y grefydd neur gred y maer sefydliad wedii seilio arni

B. Cyfyngiadau ar sail cyfeiriadedd rhywiol

Gall sefydliadau crefyddol a chred wneud cyfyngiadau oherwydd cyfeiriadedd rhywun dim ond os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn:

  • cydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad
  • osgoi gwrthdaro ag argyhoeddiadau crefyddol neu seiliedig ar gred nifer o ddilynwyr y grefydd neur gred y maer sefydliad wedii seilio arni.

Cyfyngiadau eraill ar ddefnyddior eithriad ar gyfer crefydd a chred

Hyd yn oed os ywr profion a ddisgrifir uchod wediu bodloni, mae cyfyngiadau pellach:

  • Nid ywr eithriad ar gyfer sefydliadau crefyddol a chred yn gymwys i sefydliadau syn fasnachol yn gyfan gwbl neun bennaf. Os gall elusennau ymgymryd 但 rhai mathau o fasnachu, nid ydynt yn fasnachol oherwydd ni allant gael y nod pennaf o wneud elw. Ni fyddair eithriad i sefydliadau crefyddol a chred yn gymwys i gwmn誰au y maer elusen yn berchen arnynt i ymgymryd 但 masnachu anelusennol.
  • Ni all sefydliadau crefyddol a chred wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol os ydynt yn darparu gwasanaeth ar ran awdurdod cyhoeddus o dan gontract gydar awdurdod cyhoeddus hwnnw.

Beth yw sefydliad crefyddol neu gred?

Maer Ddeddf yn diffinio sefydliad crefyddol neu gred fel un sydd 但r diben canlynol:

a) arfer, hyrwyddo neu addysgu crefydd neu gred; neu

b) galluogi pobl o grefydd neu gred i gael unrhyw fudd, neu gyflawni unrhyw weithgaredd, o fewn fframwaith y grefydd neur gred honno; neu

c) meithrin neu gynnal perthnasoedd da rhwng pobl o wahanol grefyddau neu gredoau

Nid ywr ffaith bod sefydliad yn bodlonir diffiniad uchod yn golygu o reidrwydd y gall gyfyngu ei fuddion i bobl or grefydd neur gred honno. Mae cyfyngiad syn ymwneud 但 chrefydd neu gred wedii ganiat叩u ar gyfer elusen dim ond:

  • os ywr amodau canlynol wedi cael eu bodloni:
    • cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred
    • cyfyngiadau eraill ar ddefnyddior eithriad ar gyfer crefydd a chred; ac
  • maer diben er budd y cyhoedd.

Rhaid cael cysylltiad rhesymol rhwng pwy all gael budd ar diben elusennol.

Enghraifft: cyfyngu buddion i bobl or un grefydd neu gred

Diben elusen yw darparu gofal cartref i bobl o grefydd arbennig, gan gynnwys darparu cyfleusterau mewn amgylchedd syn arddel yr athrawiaethau ar arferion crefyddol arbennig. Maer comisiwn wedi derbyn bod diben i ddarparu gwasanaethau or fath yn gallu bod er budd y cyhoedd. Maer cartref gofal yn gymwys fel sefydliad crefyddol pan fydd yn galluogi pobl o grefydd neu gred i gael unrhyw fudd, neu ymwneud ag unrhyw weithgaredd, o fewn fframwaith y grefydd neur gred honno, ac maer amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • cyfyngiadau ar sail crefydd neu gred
  • cyfyngiadau eraill ar ddefnyddior eithriad ar gyfer crefydd a chred

Gall ymddiriedolwyr gyfyngu eu gwasanaethau i bobl or grefydd honno. Oherwydd bod eu gweithgaredd o fewn amodaur eithriad hwn, nid oes rhaid ir ymddiriedolwyr ddibynnu ar yr eithriad i elusennau i gyfiawnhau cyfyngu eu gwasanaeth.

8.6 Mynediad i addysg

Sefydliadau un rhyw

Caniateir i ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch dderbyn myfyrwyr ar sail rhyw os ywn ysgol neun sefydliad un rhyw.

Sefydliadau o natur grefyddol

Gall ysgolion sydd o natur grefyddol gael meini prawf derbyn syn ffafrio aelodau o grefydd arbennig. Gall ysgol a gynhelir o natur grefyddol gymhwyso meini prawf or fath dim ond i benderfynu pwy syn cael ei dderbyn os oes mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.

Gall sefydliad addysg bellach neu uwch sydd wedii ddynodi fel un ag ethos crefyddol dderbyn myfyrwyr syn rhannu ei gred neu ei grefydd dros y rhai nad ydynt yn ei rhannu mewn rhai amgylchiadau.

8.7 Chwaraeon

Mewn rhai amgylchiadau maen gyfreithlon i sefydliadau chwaraeon (gan gynnwys elusennau) wahaniaethu ar sail rhyw neu ailbennu rhyw.

9. Gwybodaeth bellach

Mae Swyddfa Cydraddoldebaur Llywodraeth (GEO) wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau cyflym ac maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau llawnach y mae modd eu gweld ar . Maer rhain yn rhoi cyngor ar yr hyn y maen rhaid i sefydliadau ei wneud i fodloni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf. Maer rhain yn esbonior rhwymedigaethau hynny yn llawn a sut y maent yn effeithio ar wahanol fathau o sefydliadau a gweithgareddau. Maer canllawiau yn tynnu sylw at yr hyn sydd wedi cael ei newid gan y gyfraith newydd. Maer amrywiaeth o ganllawiau arbenigol yn cynnwys:

EHRC

Beth maer gyfraith cydraddoldeb yn ei olygu ar gyfer:

  • eich sefydliad, clwb neu gymdeithas
  • eich sefydliad sector gwirfoddol a chymunedol (gan gynnwys elusennau a sefydliadau crefyddol neu gred
  • chi fel darparwr addysg - addysg bellach ac uwch
  • chi fel darparwr addysg - ysgolion

9.1 GEO

Canllaw cyflym:

  • ar weithredu cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaeth i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
  • ar wahaniaethu crefyddol a chred wrth ddarparu gwasanaeth