Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth

Diweddarwyd 9 Mehefin 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: hanes diweddariadau.

1. Cyflwyniad

Er mwyn lleihaur perygl o dwyll cofrestru, mae Cofrestrfa Tir EF yn dibynnu ar y camau mae trawsgludwyr yn eu cymryd, pan fon briodol, i gadarnhau hunaniaeth eu cleientiaid.

O dan rai amgylchiadau, mae angen cais ar Gofrestrfa Tir EF i gynnwys cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa wiriadau, os o gwbl, y gall fod angen i ni eu gwneud cyn cwblhau cofrestriad.

Maer cyfarwyddyd hwn yn egluro pryd y mae angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 hwnnw a sut y dylid ei ddarparu.

Maer wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol dim ond ir cadarnhad y maen rhaid ei ddarparu i Gofrestrfa Tir EF. Nid ywn berthnasol i wiriadau hunaniaeth y mae cyrff rheoleiddiol neu gynrychioladol yn gofyn amdanynt, neu syn ofynnol yn 担l y gyfraith, er enghraifft o dan ddeddfwriaeth gwyngalchu arian.

Wrth gyflwyno cais, os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neun gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neun gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neur risg o golled i rywun arall, gallwch fod yn cyflawnir trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, ar uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neur ddau.

Nid bwriad ein gofynion yw gosod unrhyw rwymedigaethau newydd ar drawsgludwyr. Mae hawl atebolrwydd statudol gan Gofrestrfa Tir EF i adennill symiau a dalwyd ar gyfer indemniad o dan baragraff 10 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ond nid ywr hawl yn cael ei defnyddion awtomatig neun rheolaidd. Ni ddefnyddir yr hawl atebolrwydd lle nad y trawsgludwr wedi bod yn dwyllodrus neun esgeulus.

Sylwer y caiff eich cais, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ei ddileu os na ddarperir tystiolaeth hunaniaeth pan ofynnir am hyn.

2. Cadarnhau hunaniaeth neu hunaniaeth rheol 17

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF wneud hyn er mwyn osgoi twyll cofrestru.

Fel rheol, tir ac adeiladau ywr asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir eu gwerthu au morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr. Mae gan Gofrestrfa Tir EF ac eraill syn gysylltiedig 但 thrafodion yn ymwneud ag eiddo drefniadau mewn grym i ddiogelu yn erbyn twyll ac maer angen i gadarnhau hunaniaeth ar gyfer mathau arbennig o drafodion a cheisiadau yn ein cynorthwyo i wneud hyn.

Yn y rhan fwyf o achosion o dwyll, y gwaredwr honedig, yn hytrach nar ceisydd, syn ymddwyn yn dwyllodrus. Er mwyn ymdrin 但 thwyll yn effeithiol, rydym or farn ei bod yn hanfodol bod hunaniaeth y gwaredwr (ac eraill) yn cael eu cadarnhau cyn ir trafodion ddigwydd, ac felly, y dylair trawsgludwyr syn cyflwynor ceisiadau iw cofrestru ddarparu tystiolaeth o hyn.

Felly, fel trawsgludwr, o ran y rhan fwyaf o drafodion, maen bosibl y bydd ein gofynion hunaniaeth yn effeithio arnoch mewn 2 ffordd.

  • fel y trawsgludwr syn anfon cais i Gofrestrfa Tir EF ar ran cleient
  • fel trawsgludwr yn darparu tystiolaeth hunaniaeth am unigolyn nad yw wedi ei gynrychioli syn ymwneud 但 thrafodiad, gan ddefnyddio ffurflen ID1, ffurflen ID2 neu ffurflen ID5

Bydd angen i rywun nad ywn drawsgludwr syn darparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer person heb gynrychiolaeth yn ymwneud 但 thrafodiad lenwi ffurflen ID3.

Tynnwyd Ffurflen ID4 (ar gyfer cyrff corfforaethol) yn 担l ar 5 Chwefror 2024.

Ni dderbynnir ffurflen ID4 ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar 担l 6 Mai 2024.

3. Diffiniadau

3.1 Trawsgludwr

Pan fyddwn yn cyfeirio at drawsgludwr, rydym yn golygu unigolyn awdurdodedig o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 sydd 但r hawl i ddarparur gwasanaethau trawsgludo y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5(1)(a) a (b) Atodlen 2 ir Ddeddf honno, neu unigolyn syn cyflawnir gweithgareddau yn rhinwedd eu dyletswyddau fel swyddog cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys unigolyn neu gorff syn cyflogi, neu sydd ag unigolyn awdurdodedig or fath ymhlith eu rheolwyr, a fydd yn cyflawni neun goruchwylior gweithgareddau trawsgludo hyn (rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003). Sylwer, er mwyn dod o fewn diffiniad trawsgludwr yn rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid i unigolyn gael ei awdurdodi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i ddarparu gwasanaethau trawsgludo; i bob pwrpas, rhaid iddo gael tystysgrif ymarfer.

Byddwn yn derbyn cadarnhad o hunaniaeth ar ffurflenni ID1 ac ID2 gan gyfreithiwr Albanaidd.

Nid yw paragyfreithiwr yn drawsgludwr. Rhywun syn cynorthwyo cwmn誰au cyfreithiol yw paragyfreithiwr gall hefyd arwyddo ffurflenni cais ar ran cwmni trawsgludo awdurdodedig os oes ganddo awdurdod i wneud hynny gan y cwmni. Ni all gadarnhau hunaniaeth fodd bynnag.

Nid yw pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn drawsgludwr, dim ond y rheiny a awdurdodwyd gan Reoliad CILEx i ymgymryd 但 gweithgareddau offeryn neilltuedig. Rydym wedi cytuno 但 Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx) a Rheoliad CILEx fodd bynnag y gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth er na fydd pob un o bosibl yn drawsgludwr.

Er gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth, dim ond Ymarferyddion Trawsgludo CILEX all ddarparu tystysgrifau i gydymffurfio 但 chyfyngiadau Ffurf LL. Sylwer nad ywn ddigon ir person syn rhoir dystysgrif ddisgrifioi hunan fel Ymarferydd CILEX; rhaid nodi Ymarferydd Trawsgludo CILEX bob tro.

Rydym wedi cytuno 但 Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC), y gall ymarferyddion profiant trwyddedig a reoleiddir gan CLC gadarnhau hunaniaeth er nad ydynt efallain drawsgludwyr neun gyfreithwyr.

3.2 Rhywun nad ywn drawsgludwr

Mae ein harfer presennol yn caniat叩u i rywun nad ywn drawsgludwr gadarnhau hunaniaeth ar ffurflen ID3 (gweler hefyd Rhywun nad ywn drawsgludwr yn cadarnhau). At y diben hwn, mae rhywun nad ywn drawsgludwr yn unigolyn o un or proffesiynau canlynol yn unig.

  • Meddyg
  • Deintydd
  • Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
  • Cynghorydd ariannol rheoledig
  • Aelod Seneddol
  • Aelod or Senedd

Byddwn yn parhau i adolygur rhestr hon a gallwn ychwanegu neu ddileu rhai proffesiynau os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny.

Gweler Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID3 am ragor o wybodaeth am broffesiynau sydd wedi eu dileu.

3.3 Cadarnhad o hunaniaeth

Lle bor cais yn cael ei anfon i Gofrestrfa Tir EF gan drawsgludwr, mae cadarnhad o hunaniaeth yn golygur trawsgludwr yn darparu manylion trawsgludwr (weithiau eu hunain) a fun cynrychiolir unigolyn o ran pa gadarnhad hunaniaeth syn ofynnol.

Mewn unrhyw achos lle nad oedd yr unigolyn wedi ei gynrychioli gan drawsgludwr, rhaid ir trawsgludwr syn cyflwynor cais

  • cadarnhau ei fod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth yr unigolyn hwnnw, neu
  • uwchlwytho tystiolaeth hunaniaeth o ran y person hwnnw, neu
  • datgan yr eithriad rhag darparu tystiolaeth hunaniaeth syn cael ei hawlio o dan Eithriadau ac amg叩u unrhyw dystiolaeth ofynnol

3.4 Tystiolaeth hunaniaeth

Diffinnir tystiolaeth hunaniaeth (yn nheitl y cyfarwyddyd hwn a hyd at, ac yn cynnwys adran 1, mae tystiolaeth hunaniaeth yn cyfeirio at gadarnhau hunaniaeth a thystiolaeth hunaniaeth rheol 17) fel tystiolaeth a ddarperir yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyfredol a wneir gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddibenion cadarnhau hunaniaeth unigolyn.

Maer cyfarwyddyd presennol yn darparu ar gyfer naill ai ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 lle bor cadarnhau gan rywun nad ywn drawsgludwr, iw uwchlwytho gydar cais perthnasol, oni bai bod eithriad yn berthnasol gweler Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Yn ychwanegol, rhaid llenwi ffurflen ID5 lle mae trawsgludwr wedi cadarnhau hunaniaeth unigolyn trwy fideo-alwad ar-lein.

At ddiben y cyfarwyddyd ymarfer hwn, wrth gyfeirio at y ffurflenni a baratowyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 100(4), (ffurflenni ID1, ID2, ID3 ac ID5) byddwn yn defnyddio ffurflen(ni) ID.

3.5 Tystiolaeth hunaniaeth Rheol 17

Mae rheol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ein caniat叩u i ofyn am ragor o ddogfennau neu dystiolaeth in helpu i gwblhau cais. Efallai byddwn yn dileu cais os nad ydych yn darparur hyn sydd ei angen arnom. Yn y cyfarwyddyd hwn rydym yn defnyddior term tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 i gyfeirio at y dogfennau neur dystiolaeth ychwanegol y gallwn ofyn amdanynt.

Rydym yn nodi yn y cyfarwyddyd hwn ac mewn mannau eraill rai achosion lle rydym yn debygol o ofyn am gadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn gofyn ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn achosion eraill, weithiau hyd yn oed pan fo trawsgludwr eisoes wedi cadarnhau ei fod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth rhywun.

Efallai byddwch yn ei chael yn anodd yn ymarferol i gael tystiolaeth hunaniaeth gan werthwr neu waredwr arall ar 担l i warediad gael ei gwblhau. Gall hyn fod yn wir hyd yn oed pan for gwaredwr wedi gwarantu y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i basio teitl ir gwaredai (fel syn digwydd fel arfer lle rhoddwyd gwarant teitl llawn neu gyfyngedig). Felly ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol oni bai ein bod yn fodlon bod hyn yn angenrheidiol neun ddymunol.

Mewn nifer o achosion, gofynnwn am dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 oherwydd amgylchiadau cais yn hytrach nag oherwydd y wybodaeth benodol a gawsom. Yn aml, ni fyddwn yn esbonior union sail in pryder. Mae hyn yn helpu i warchod ein gweithdrefnau rhag twyllwyr. Rydym yn deall y gall hyn fod yn rhwystredig ac y bydd yn eich atal rhag rhoi esboniad llawn ich cleient.

4. Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17

Bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 lle nodir hynny yn y tabl canlynol. Disgrifir eithriadau A i E y cyfeirir atynt yn y tabl yn union ar 担l y nodyn ir tabl.

Lle byddwch chi neu drawsgludwr arall wedi cynrychioli unigolyn, nid ywr eithriadaun gymwys, a rhaid ichi, lle mae cadarnhad o hunaniaeth yn briodol, ddarparu enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr, neu lle mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol, ddarparur wybodaeth gyfatebol.

Cais Unigolyn o ran yr hwn y mae cadarnhad o dystiolaeth hunaniaeth neu reol 17 tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol Eithriadau posibl
1. Trosglwyddiad (i) ystad gofrestredig neu (ii) arwystl cofrestredig cais i gofrestrur trosglwyddain berchennog.

(Yn ymdrin 但 throsglwyddiadau boed am werth ai peidio, yn cynnwys y rheinyn ymwneud 但 phenodi ymddiriedolwyr a throsglwyddiadau o dan b典er gwerthiant. Gweler hefyd 2.) Hefyd yn ymdrin 但 chydsyniadau gan gynrychiolwyr personol .
- Trosglwyddwr a throsglwyddai

- Atwrnair naill neur llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad E
2. Ildiad prydles gofrestredig cais i gau teitl prydlesol cofrestredig.

Sylwer: Bydd yr ildiad yn drosglwyddiad datganedig neun drosglwyddiad trwy weithredur gyfraith ac felly o fewn 1 uchod.
- Landlord a thenant

- Atwrnair naill neur llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D
3. Prydles (boed am werth ai peidio) ystad gofrestredig cais i gofrestrur brydles. - Landlord a thenant

- Atwrnair naill neur llall

Sylwer: Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 os yw prydles yn cael ei nodin unig, neu os ywr cais dim ond i nodi hawddfreintiau mewn prydles na ellir ei chofrestru.
electronic discharge
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad E
4. Cofrestriad cyntaf tir rhydd-ddaliol neu brydlesol cais yn seiliedig ar gofrestriad cyntaf gorfodol ac maer digwyddiad syn ei beri ar neu ar 担l 10 Tachwedd 2008. - Trosglwyddwr a throsglwyddai neu landlord a thenant

- Atwrnair naill neur llall
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Lle bo eithriadau un or 3 dogfen teitl a gollwyd neu a ddinistriwyd a nodir yn 7 yn gymwys
5. Arwystl cofrestredig cais i gofrestru arwystl cofrestredig1ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig (isarwystl ohono) neu ar gofrestriad cyntaf y tir. - Cymerwr4a rhoddwr benthyg

- Atwrnair naill neur llall

Sylwer: Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 os yw arwystl yn cael ei nodin unig.
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Eithriad F
6. Rhyddhau neu ollwng arwystl cofrestredig ar ffurf papur (ffurflen DS1 neu DS3) cais iw beri2 - Rhoddwr benthyg

Sylwer: Ar gyfer ffurflenni papur DS1 neu DS3 a ddefnyddir i ryddhau arwystl cofrestredig, neu ar gyfer gweithred arwystl amnewidiol, mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer y rhoddwr benthyg ond nid ar gyfer atwrnair rhoddwr benthyg neu asiant arall.
- Eithriad A

- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D
7. Cais gwirfoddol am gofrestriad cyntaf lle maer dogfennau teitl wedi eu colli neu eu dinistrio. - Ceisydd am gofrestriad cyntaf fel perchennog y tir

- Atwrnair ceisydd
- Eithriad B

- Eithriad C

- Eithriad D

- Collwyd neu dinistriwyd y dogfennau teitl tra roeddynt ym meddiant y trawsgludwr a oedd yn anfon y cais.

- Collwyd y dogfennau teitl tra roeddynt ym meddiant prif roddwr benthyg syn gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod y dogfennau teitl yn cael eu cadw fel sicrwydd ar gyfer morgais y rhoddwr benthyg3.

- Maer trawsgludwr syn anfon y cais yn gweithredu ar ran awdurdod lleol, adran y llywodraeth neu gorff cenedlaethol adnabyddus syn gwneud cais am gofrestriad oherwydd collwyd dogfennau teitl yn ymwneud 但u tir neu i dir lle mae morgais ganddynt arno, tra roeddynt yn eu meddiant.
8. Cais i newid y gofrestr yn dilyn unigolyn yn newid ei enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd. - Yr unigolyn sydd wedi newid ei enw (yn ei enw newydd). - Lle bor cais wedi ei gyfuno ag unrhyw gais arall. Ond os ywr cais yn un o fewn 1 i 7 uchod, maen bosibl y bydd tystiolaeth o newid enw yn ofynnol fel rhan or gofynion ar gyfer y ceisiadau hynny.

1 1 Maer tabl hwn yn gosod y gofynion lle mae trawsgludwr yn cyflwynor cais gyda Chofrestrfa Tir EF. Ceir eithriad i 5 ond maen gymwys pan for Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn gwneud y cais yn ei enw ei hunan i gwblhau trwy gofrestriad arwystl cofrestredig.

2 Maer tabl hwn yn gosod y gofynion lle mae trawsgludwr yn cyflwynor cais gyda Chofrestrfa Tir EF. Ceir 2 eithriad i 6 ond maent yn gymwys lle:

  • 馨温庄r
    • ceisydd ywr rhoddwr benthyg, ac maen gwneud y cais yn ei enw ei hunan; a
    • banc wedi ei ymgorffori, neu gymdeithas adeiladu a ffurfiwyd yn y Deyrnas Gyfunol ywr rhoddwr benthyg, neu
  • 馨温庄r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ywr ceisydd ac yn gwneud y cais yn ei enw ei hunan:
    • i ryddhau arwystl cofrestredig
    • i ollwng arwystl cofrestredig yn ffurflen DS3

3Mae hawl gan geisydd i gymryd bod rhoddwr benthyg yn brif roddwr benthyg os ywr rhoddwr benthyg yn aelod o Gyllid y DU neu Sefydliad y Cymdeithasau Adeiladu.

4Nid yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer cymerwyr benthyg neu warantwyr nad ydynt yn berchennog cofrestredig neu nad ydynt yn dod yn berchennog cofrestredig.

Sylwer: O ran unrhyw gais arall, gall y ceisydd mewn achos arbennig ofyn am dystiolaeth hunaniaeth, o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gallwn hefyd estyn y gofynion i fathau eraill o geisiadau ar fyr rybudd.

4.1 Eithriadau

Ym mhob achos isod, rhaid i geiswyr gyfrif am y parti a eithrir o hyd.

Gellir gwneud hyn trwy ddewis yr opsiwn yn ein gwasanaethau digidol syn cadarnhau nad oes angen tystiolaeth hunaniaeth ac uwchlwythor dystiolaeth berthnasol yn unol 但r eithriad, fel yr amlinellir isod.

Ar geisiadau cofrestriad cyntaf, dylid cynnwys y parti eithriedig ym mhanel 15(1) ffurflen FR1 o hyd.

Ym mhob achos isod, rhaid i geiswyr gwblhau panel 13(1) ffurflen AP1 ar gyfer y parti a eithrir o hyd.

Maer eithriadaun ymwneud 但r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen fel rheol pan nad yw partin cael ei gynrychioli gan drawsgludwr.

A. Yr eithriad gwerth-isel

Nid oes angen ffurflen ID mewn perthynas 但 pharti heb gynrychiolaeth lle mae gwir werth y tir syn destun y gwarediad, arwystl neu ryddhad yn 贈6,000 neu lai. Yn yr achosion hyn, rhaid ir trawsgludwr uwchlwytho tystysgrif gan rywun syn gymwys i roi prisiadau eiddo yn cadarnhau gwerth y tir; megis asiant gwerthu tai, syrf谷wr, prisiwr tir ac eiddo neu ocsiwn誰er syn meddu ar gymhwyster gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig neu rywun arall sydd 但 chymhwyster tebyg.

Gallwch ddarparu tystiolaeth hunaniaeth o hyd os ywn well gennych ac mae Cofrestrfa Tir EF yn cadwr hawl i ofyn am dystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 mewn unrhyw achos penodol.

B. Yr eithriad swyddog ansolfedd, ac ati

Nid oes angen ffurflen ID1 ac ID3 mewn perthynas 但 rhywun syn gweithredu yn un or swyddogaethau canlynol:

  • fel ymddiriedolwr mewn methdaliad, datodwr, goruchwyliwr, gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol a benodwyd o dan Ddeddf Ansolfedd 1986
  • fel derbynnydd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925
  • fel dirprwy a benodwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • fel gwarcheidwad a benodwyd o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017

Sylwer bod yn rhaid uwchlwytho tystiolaeth ou penodiad o hyd gydag unrhyw gais.

C. Yr eithriad nad ywn ymarferol

Gall sefyllfaoedd godi lle nad ywn ymarferol i ddarparu ffurflen ID, megis lle y cyfnewidiwyd contractau gan y part誰on cyn 10 Tachwedd 2008 (y diwrnod y cyflwynwyd y gofyniad i gadarnhau hunaniaeth) heb ddarparur ffurflenni hyn, neu lle bo tenant wedi cerdded ymaith o brydles a gwneir cais nawr i gaur teitl prydlesol ar 担l ildiad trwy weithredur gyfraith. Yn y sefyllfaoedd hyn ac eraill, dylair trawsgludwr syn uwchlwythor cais uwchlwytho llythyr eglurhaol gydar cais yn esbonio pam na ellir darparu ffurflen ID.

Efallai na fydd yn bosibl hefyd i ddarparu ffurflen ID1 neu ID3 ar gyfer unigolyn nad oes ganddo alluedd meddyliol. Fodd bynnag, lle y maer unigolyn hwnnw wedi gwneud naill ai atwrneiaeth arhosol (neu atwrneiaeth barhaus nad yw wedi ei chofrestru gyda Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus) ond maen ymddangos nad oes gan yr unigolyn alluedd meddyliol, byddai angen tystiolaeth fel llythyr neu adroddiad gan feddyg ar Gofrestrfa Tir EF yn nodi nad oes galluedd meddyliol gan y rhoddwr. (Lle gwnaed atwrneiaeth barhaus a gofrestrwyd gyda Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus, ni fydd angen y dystiolaeth feddygol). Ym mhob achos, byddai tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer yr atwrnai yn ofynnol o hyd.

Yn yr un modd, pan fydd person ar goll, ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth oi hunaniaeth lle mae gwarcheidwad a benodwyd yn unol 但 Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 yn gwneud cais am ei eiddo.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn ystyried anghyfleustra yn rheswm digonol dros beidio 但 darparu ffurflen ID. Er enghraifft, nid ywr ffaith bod person yn byw tramor yn rheswm derbyniol ynddoi hun. Gweler Cadarnhau hunaniaeth person syn byw tramor i gael rhagor o wybodaeth lle bo unigolyn yn byw tramor.

Sylwer hefyd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn disgwyl, lle y bon briodol, bod darpariaeth wedi ei wneud ar gyfer cadarnhau hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 lle y cyfnewidiwyd contractau cyn neu ar 担l 10 Tachwedd 2008.

D. Yr eithriad llythyr cyfleuster Cofrestrfa Tir EF

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyflwyno llythyrau cyfleuster mewn perthynas 但 hunaniaeth nifer gyfyngedig o bobl syn delion rheolaidd 但 Chofrestrfa Tir EF. Gellir uwchlwytho copi or llythyr cyfleuster gydag unrhyw gais yn lle ffurflen ID mewn perthynas 但 pherson or fath.

Cyflwynir llythyrau cyfleuster i unigolion preifat a chyrff corfforaethol syn delion rheolaidd 但 thrafodion tir gwerth isel (o dan 贈100,000), megis gwerthu rhent tir a thir cofrodd. Maer terfyn 贈100,000 yn ymwneud 但 gwerth y tir syn gysylltiedig 但r trafodiad.

Ar hyn o bryd, mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn ceisiadau am lythyrau cyfleuster a fydd yn ddilys am gyfnod o 12 mis. Os caiff llythyr cyfleuster ei adnewyddu ar 担l y 12 mis, bydd darparu ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 pellach yn ofynnol.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd Prif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn anfon llythyr cyfleuster i gadarnhau manylion y trefniant. Dylech gyflwyno copi or llythyr cyfleuster gyda cheisiadau i gofrestru.

Os ydych or farn y gallai eich cleient elwa o drefniant, cysylltwch 但r Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF am gyngor pellach fel a ganlyn:

HM Land Registry Croydon Office
Commercial Arrangements Section
PO Box 2079
Croydon CR90 9NU

neu

HM Land Registry Croydon Office
Commercial Arrangements Section
DX 8888
Croydon 3

Neu gallwch anfon ebost at CommerialArrangements@landregistry.gov.uk

E. Yr eithriad tystiolaeth hunaniaeth a gedwir (ar 担l cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF o drosglwyddiad neu brydles o ran drafft)

Mae Cofrestrfa Tir EF yn darparu gwasanaeth cymeradwyo ffurflenni drafft trosglwyddiadau neu brydlesi o ran ar gyfer datblygiadau penodol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 3: ystadau syn datblygu: gwasanaethau cofrestru cymeradwyo trosglwyddiadau a phrydlesi drafft. Nid oes rhaid uwchlwytho tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 ar gyfer unrhyw atwrnai syn gweithredu ar ran y trosglwyddai neur landlord gyda phob trosglwyddiad neu brydles unigol lle cyflwynwyd y dystiolaeth gydar drafft, fel rhan or gwasanaeth hwn, iw gymeradwyo ac wedi ei gadw gan Gofrestrfa Tir EF.

F. Arwystl cyfreithiol hyd at 贈10,000 i awdurdod lleol o ran benthyciad ff誰oedd gwasanaeth

Nid yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer unrhyw barti, gan gynnwys y ceisydd, lle gwneir cais:

  • i gofrestru arwystl cyfreithiol i awdurdod lleol
  • mae gwerth yr arwystl a nodir yn y cais neu ar y arwystl hyd at 贈10,000
  • maer arwystl o ran benthyciad ff誰oedd gwasanaeth ac mae hyn wedi ei nodin gliro fewn y cais neur weithred arwystl

Efallai y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol o dan y deddfau tai neu ddeddfwriaeth arall gynnal a chadw ac atgyweirio adeiladwaith, gan gynnwys y rheiny lle y mae tenant wedi caffael y brydles o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu. Mae rhwymau statudol ar yr awdurdod i sicrhau cost y gwaith hwn trwy arwystl.

5. Cadarnhau hunaniaeth

5.1 Sut i ddarparu cadarnhad o hunaniaeth

Wrth wneud cais gan ddefnyddion gwasanaethau digidol, gofynnir ichi, pan fo angen, fewnbynnu tystiolaeth o gadarnhad o hunaniaeth a fydd yn llenwir ddogfen crynodeb or cais.

Os ydych yn cyflwyno cofrestriad cyntaf, dylid darparur wybodaeth hon trwy lenwir blwch cyntaf ym mhanel 15(2) ffurflen FR1. Gweler yr Atodiad: enghreifftiau o baneli hunaniaeth wedi eu cwblhau.

Os nad oes digon o le yn y panel, defnyddiwch ffurflen CS neu gallwch gynnwys y wybodaeth mewn llythyr eglurhaol.

5.2 Rhyddhau ar ffurflen DS1 ar bapur neu ollwng ar ffurflen DS3

Nid oes angen cadarnhad o hunaniaeth arnom lle yr anfonir y rhyddhad at Gofrestrfa Tir EF yn electronig, hynny yw trwy EDs neu e-DS1.

Dim ond ar gyfer rhyddhau ar ffurflen bapur DS1 neu DS3 mae cadarnhad o hunaniaeth y rhoddwr benthyg yn ofynnol.

Mae trawsgludwyr wedi nodi nad ydynt yn gweithredu fel rheol ar gyfer rhoddwr benthyg syn rhyddhau, er enghraifft pan fyddant yn gweithredu ar ran trosglwyddai wrth werthu. Ond barn Cofrestrfa Tir EF yw gan eu bod yn adbrynu morgais y trosglwyddai, mewn cysylltiad 但r rhoddwr benthyg ac yn barod i drosglwyddo symiau arian yr adbryniad iddynt, rhaid eu bod yn fodlon eu bod yn delio 但r person cywir a dylent allu cadarnhau i Gofrestrfa Tir EF neu i drawsgludwr y prynwr eu bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth y rhoddwr benthyg. Os nad ydynt yn fodlon gwneud hyn, bydd angen ffurflen ID arnom mewn perthynas 但r rhoddwr benthyg hwnnw.

6. Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17

6.1 Atwrneiod

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol fel rheol ar gyfer unrhyw atwrnai a nodir yn y tabl yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17, ac eithrio pan fo un or eithriadu y cyfeirir atynt yn adran 4 yn berthnasol.

Gallwch wneud hyn mewn un or ffyrdd hyn:

Awgrymir y geiriad canlynol ar gyfer y dystysgrif:

Rwyn cadarnhau fy mod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth .., atwrnai ...

Gallech ddiwygior dystysgrif yn ail ran panel 15 ffurflen FR1. Er nad yw Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer newid y geiriad mewn ffurflenni penodedig, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod neun cwestiynu unrhyw ffurflen FR1 a newidiwyd yn y modd hwn.

Sylwer bod rhoddwr p典er ai atwrnai yn unigolion ar wah但n at ddibenion ein gofynion hunaniaeth a rhaid darparu cadarnhad o hunaniaeth mewn perthynas 但r rhoddwr a, fel rheol, tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn perthynas 但r atwrnai, ac eithrio lle bor cyfarwyddyd hwn yn nodi nad oes ei angen.

Bydd angen tystiolaeth hunaniaeth (neu dystiolaeth gyfatebol lle bo rheol 17 yn berthnasol) ar gyfer y naill neur llall os na ch但nt eu cynrychioli. Pan fydd atwrneiaeth wedi ei gwneud ai chyflawni gan atwrnai, bydd yn ofynnol ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 ar gyfer pob atwrnai yn y gadwyn.

6.1.1 Pam fod tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol gan Gofrestrfa Tir EF ar gyfer atwrneiod?

Lle bo atwrnai yn gweithredu, mae angen bodloni Cofrestrfa Tir EF fod ganddo bwerau digonol i berir hyn maen yn honni iw wneud. Yn ogystal, mae angen ein bodloni bod y p典er maent yn gweithredu oddi tano yn ddilys ac 馨温庄r person y maen honni i fod ywr atwrnai. Rydym yn credu bod hyn yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn atal twyll cofrestru.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi gofyn am dystiolaeth o fodolaeth a chwmpas y p典er erioed, a byddwn yn derbyn naill air p典er neu dystysgrif ar Ffurflen 1 i Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Yn ogystal 但r uchod, mae angen tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 arnom mewn perthynas 但r atwrnai. Nid Cofrestrfa Tir EF syn delio 但r gwaredwr neu ei atwrnai, y trawsgludwr syn gweithredu ar ran y ceisydd syn gwneud hynny, ac felly mae mewn gwell sefyllfa i fodlonii hun ei fod yn delio 但r person cywir.

6.2 Ceisiadau gwirfoddol am gofrestriad cyntaf lle maer gweithredoedd teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 mewn perthynas 但r ceisydd ar gyfer cofrestriad yn ofynnol ar gyfer pob cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol lle maer dogfennau teitl wedi cael eu colli neu eu dinistrio, ac eithrio lle bo un or eithriadau y cyfeirir atynt neu a nodir yn 7 yn y tabl yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn gymwys. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed pan for ceisydd yn cael ei gynrychioli a bod trawsgludwr yn cyflwynor cais am gofrestriad.

Gan na fydd gwarediad wedi perir cofrestriad cyntaf, gellir newid y geiriad ym mhanel 15 ffurflen FR1 i gyfeirio at y ceisydd yn hytrach nar trosglwyddai, er enghraifft.

I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau am gofrestriad cyntaf lle maer dogfennau wedi cael eu colli neu eu dinistrio, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf teitl os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio.

6.3 Newid enw

Mae tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn ofynnol lle y gwneir cais i newid y gofrestr ar 担l newid enw trwy weithred newid enw, datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd ac nid ywr cais wedi ei gyfuno 但 cheisiadau eraill.

Rhaid i gais i newid enw arunig lle maer dystiolaeth gefnogol yn weithred newid enw, datganiad statudol neun ddatganiad o wirionedd gynnwys naill ai tystysgrif syn cadarnhau eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth y person neu dystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID3.

Awgrymir y geiriad canlynol ar gyfer y dystysgrif, syn gorfod nodi enw cyfredol yr unigolyn:

Rwyn cadarnhau fy mod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau hunaniaeth .. ac mae hwy ywr perchennog cofrestredig neur person a enwyd yng nghofnod [X] cofrestr teitl ..

Gellir rhoir dystysgrif mewn llythyr eglurhaol a dylid ei huwchlwytho ochr yn ochr 但r dystiolaeth briodol o newid enw.

Fel y nodwyd, os na ellir rhoi tystysgrif or fath, dylech uwchlwytho ffurflen ID1 neu ffurflen ID3 wedi ei llenwi yn yr enw newydd yn ogystal 但 chop誰au o ddogfennau swyddogol i sefydlu cysylltiad 但r person a enwir yn y gofrestr. Gall hyn fod yn basbort, trwydded yrru neu fil cyfleustod syn dangos yr enw blaenorol (gweler Llenwi ffurflen ID1 a ffurflen ID2 neu unigolyn nad ywn drawsgludwr yn cadarnhau i weld pa un) i weld pa un).

7. Cais yn cael ei ailgyflwyno gan drawsgludwr gwahanol ir un a gyflwynodd yn wreiddiol

Bydd achlysuron pan fydd cais sydd wedi ei dynnun 担l neu wedi ei ddileun cael ei ailgyflwyno iw gofrestru gan drawsgludwr gwahanol ir un a gyflwynodd yn wreiddiol. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, yn dilyn ymyriad yn ymarfer y trawsgludwr gwreiddiol, lle nad ywr trawsgludwr gwreiddiol yn masnachu bellach neu lle y mae parti i drafodiad wedi newid ei drawsgludwr.

Lle bu ymyriad yn y cwmni, maen dderbyniol ir asiant rhyngol ddangos ar y ffurflen gais (FR1, AP1 neu DS2) pwy weithredodd yn wreiddiol ar gyfer y parti nid oes yn rhaid iddo ddangos pwy syn gweithredu ar ei gyfer ar hyn o bryd a chynnwys y dystiolaeth ar datganiadau o ran hunaniaeth a ddarparwyd gan y trawsgludwr gwreiddiol. Dylair asiant rhyngol ddarparu cadarnhad wrth ailgyflwynor cais bod y trawsgludwr gwreiddiol wedi rhoir gorau i fasnachu.

Lle na fu ymyriad, dylair trawsgludwr syn cyflwynor cais bob amser lenwi ei ffurflen gais i ddangos pwy syn gweithredu ar gyfer part誰on ar hyn o bryd, nid pwy fun gweithredu ar eu cyfer yn flaenorol. Nid ywn briodol ir trawsgludwr syn cyflwyno ddweud bod partin cael ei gynrychioli gan y trawsgludwr blaenorol; rhaid iddo ddatgan pwy syn gweithredu dros y blaid honno ar hyn o bryd. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn, fodd bynnag, ffurflen hunaniaeth (ffurflen ID1 neu ID2) wedi ei chadarnhau gan y cyn-drawsgludwr neu gan drawsgludwr arall ar yr amod nad yw dros 6 mis oed ar adeg adnewyddur cais. Byddwn hefyd yn derbyn cadarnhad o hunaniaeth lle y maer trawsgludwr syn cyflwynon cadarnhau bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau hunaniaeth plaid. Os ywr trawsgludwr syn cyflwynon gwybod, dylai nodi hefyd a ywr trawsgludwr gwreiddiol wedi peidio 但 masnachu.

Os na allwch ddarparur wybodaeth uchod fel rhan or broses ymgeisio yn ein gwasanaethau digidol, mae uwchlwytho cadarnhad ysgrifenedig or uchod yn dderbyniol.

8. Llenwi ffurflen ID1 a ffurflen ID2

Gallwch gyflwyno naill air ffurflen wreiddiol neu gopi ardystiedig o fersiwn diweddaraf ein ffurflen(ni) ID. Rhaid i gop誰au o ffurflenni, sut bynnag y c但nt eu cyflwyno, gynnwys dwy ochr y llun wedi ei lofnodi ai ddyddio ar y cefn bob tro. Gall defnyddio hen fersiwn or ffurflen arwain at ymholiad yn cael ei anfon atoch.

8.1 Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID1 a ffurflen ID2

Os na allwch gadarnhau bod trawsgludwr wedi gweithredu ar eu rhan, neu eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i gadarnhau eu hunaniaeth, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth pob unigolyn nad yw wedi ei gynrychioli fel yr eglurwyd yn Cadarnhad o hunaniaeth a Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17 Dylair dystiolaeth fod ar ffurflen ID1 (ar gyfer unigolion preifat) neu ffurflen ID2 (ar gyfer corff corfforaethol).

Rhaid dyddio 2 ran y ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 wedi eu llenwi (a ffurflen 1D5 lle bon briodol) a gyflwynir i gefnogi cais au llofnodi dim mwy na 3 mis cyn cyflwynor cais. Ein harweiniad dros dro oedd derbyn ffurflenni ID1 ac ID2 a oedd yn ddyddiedig hyd at 6 mis cyn y cais. Byddwn yn parhau i dderbyn ffurflenni dyddiedig hyd at 6 mis ar gyfer ceisiadau a wneir tan 28 Chwefror 2023. Ar 担l y dyddiad hwn rhaid dyddio ffurflenni ID1 ac ID2 o fewn 3 mis ir cais.

Pan fydd trawsgludwr yn cadarnhau hunaniaeth trwy fideo-alwad, rhaid iddo lenwi ffurflen ID5 yn lle adran B neu C ffurflenni ID1 neu ID2. Rhaid cadwr ffurflen ID5 gydar ffurflenni ID1 neu ID2 ai chyflwyno gydar ffurflenni hynny.

Wrth lenwi adran B, rhaid ir llun a atodir ir ffurflen fod o faint pasbort, ar bapur ffotograffig ac mewn lliw. Rhaid ir trawsgludwr neu weithiwr proffesiynol sydd wedi cadarnhaur hunaniaeth lofnodi a dyddior llun ar y cefn. Bydd angen i geisiadau a gyflwynir yn electronig uwchlwytho sgan o flaen a chefn y llun mewn lliw. Nid ywn ofynnol gennym ir ddelwedd fod or un safon syn ofynnol gan Swyddfa Pasbort EF er enghraifft. Rhaid bod modd gweld wyneb y person yn glir ac ni ddylair llun fod yn h天n na 3 neu 6 mis, yn dibynnu a gafodd y cais ei gyflwyno cyn neu ar 担l 28 Chwefror 2023, fel uchod. Gellir gwrthod ffurflenni ID oni wneir hyn. Os gwnaed y cadarnhau trwy fideo-alwad a bod ffurflen ID5 yn cael ei llenwi, gweler Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein.

Gellir defnyddio Ffurflen ID1 pan fydd hunaniaeth yn cael ei chadarnhaun ddigidol, gan fodloni safon hunaniaeth ddigidol Cofrestrfa Tir EF. Pan fydd trawsgludwr yn cadarnhau hunaniaeth yn ddigidol, rhaid cwblhau adran C, gan gadarnhau bod hunaniaeth yn cael ei chadarnhau o dan safon hunaniaeth ddigidol Cofrestrfa Tir EF gweler cyfarwyddyd ymarfer 81: annog y defnydd o dechnoleg ddigidol wrth gadarnhau hunaniaeth.

Wrth gwblhau adran C, dylech gadarnhau pa dystiolaeth hunaniaeth a ddefnyddiwyd i gadarnhaur hunaniaeth a chynnwys rhif y ddogfen hunaniaeth briodol fel rhan or cais.

Nid yw ffurflenni ID1, ID2 ac ID5 wedi eu llenwi ar gael ir cyhoedd eu harchwilio ac fel rheol, ni ellir gwneud cais am gopi swyddogol ohonynt (rheolau 133 a 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003, yn ddarostyngedig i reol 140 ceisiadau mewn perthynas ag achos llys, ansolfedd a rhwymedigaeth treth).

8.2 Trawsgludwr yn cadarnhau hunaniaeth

Rhaid i hunaniaeth rhywun y cyflwynir ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 ar ei gyfer gael ei chadarnhau gan unigolyn syn drawsgludwr, syn gorfod llenwi adran B neu C y ffurflen. Gall hwn fod yn unrhyw drawsgludwr. Nid oes rhaid iddo fod y trawsgludwr syn gweithredu ar gyfer unrhyw unigolyn syn berthnasol ir trafodiad. Er enghraifft, os nad ywr trosglwyddwr yn cael ei gynrychioli ac maen rhaid iddo ddarparu ffurflen ID1, nid ywn ofynnol mai trawsgludwr y trosglwyddai syn cadarnhau hunaniaeth y trosglwyddwr. Gall y trosglwyddwr fynd at unrhyw drawsgludwr ir perwyl hwnnw. Ni ddylai unigolyn syn gweithredu fel cyflogai trawsgludwr lenwi adran B neu C ffurflen ID oni bai bod yr unigolyn hwnnwn drawsgludwr yn ei rinwedd ei hun.

Pan fydd hunaniaeth unigolyn yn cael ei chadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein, gweler Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cysylltu 但 thrawsgludwyr a chadarnhawyr eraill i wneud yn siwr bod ffurflen a lenwir yn eu henwau yn ddilys. Maen bwysig felly eu bod yn cadw cofnod o unrhyw un y maent wedi cadarnhau eu hunaniaeth ac, os ywn gymwys, gwneud ail gopi or ffotograff a ardystiwyd ganddynt. Os na all cadarnh辰wr gadarnhau hyn, efallai bydd angen ffurflen ID newydd. Os gwnaed y cadarnhau trwy fideo-alwad, rhaid ir un syn cadarnhau dynnu sgrinlun or person y cadarnhawyd ei hunaniaeth yn ystod yr alwad hefyd. Rhaid ir sgrinlun gael ei gynnwys gydar ffurflen ID5 a ddylai gael ei chynnwys gydar ffurflen ID1 neu ID2. Dylair trawsgludwr gadw copi gydai gofnodion hefyd.

8.3 Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig yn cadarnhau hunaniaeth

Rydym wedi cytuno gyda CILEx a Rheoliad CILEx y gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth er na fydd pob un o bosibl yn drawsgludwr.

8.4 Ymarferyddion Profiant Trwyddedig a Reoleiddir gan CLC yn cadarnhau hunaniaeth

Rydym wedi cytuno 但 Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC), y gall ymarferyddion profiant trwyddedig a reoleiddir gan CLC gadarnhau hunaniaeth er nad ydynt efallain drawsgludwyr neun gyfreithwyr.

8.5 Swyddog o luoedd arfog y DU syn gwasanaethu dramor yn cadarnhau hunaniaeth

Lle y mae aelod o luoedd arfog y DU yn gwasanaethu dramor, gall swyddog syn gwasanaethu gydag ef dramor ei chadarnhau. Yn y sefyllfa hon, rhaid ir cadarnh辰wr ddangos ei rif pasbort.

8.6 Cadarnhau hunaniaeth unigolion syn byw tramor

Lle bo unigolyn yn byw tramor ac nid ywn bosibl iw hunaniaeth gael ei chadarnhau gan drawsgludwr yn y DU, dylid llenwi adran B ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 yna ei llofnodi gan gyfreithiwr neu notari cyhoeddus syn gymwys i ymarfer yng ngwlad breswyl y person. Rhaid anfon tystiolaeth ysgrifenedig o awdurdod y cyfreithiwr neur notari i ymarfer yn ei awdurdodaeth gydar ffurflen. Os nad ywr dystiolaeth yn Gymraeg neu Saesneg, rhaid iddi gynnwys cyfieithiad ardystiedig ir Gymraeg neu Saesneg.

Bydd angen ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 bob amser.

8.7 Cymorth pellach yn ofynnol

Os oes angen cymorth pellach arnoch oherwydd eich cyflwr neu amgylchiadau, cysylltwch 但 ni.

8.8 Cyrff corfforaethol

Gellir dwyn hunaniaeth cyrff corfforaethol yn yr un modd 但 dwyn hunaniaeth unigolion preifat, felly maen gofynion o ran cadarnhau hunaniaeth yr un mor gymwys iddynt. Os ydych yn cadarnhau hunaniaeth rhywun at ddiben ffurflen ID2, dylech bob amser fynnu eu bod yn darparu tystiolaeth ddigonol:

  • 馨温庄r un ywr corff corfforaethol syn cael ei gynrychioli gan yr unigolyn 但r perchennog cofrestredig neur person sydd 但 hawl iw gofrestru fel perchennog
  • bod y corff corfforaethol yn dal i fodoli
  • bod gan yr unigolyn syn eu cynrychiolir awdurdod i weithredu

8.7.1 Air un ywr cyrff corfforaethol?

Wrth gadarnhau hunaniaeth corff corfforaethol, dylech fod yn ofalus i sicrhau 馨温庄r un sefydliad a enwir yn y gofrestr ywr parti i drafodiad mewn gwirionedd. Er enghraifft, oes gan y parti ir trafodiad yr un rhif cofrestru cwmni, neu rif cofrestru arall priodol ar gyfer y math hwnnw o sefydliad 但r perchennog cofrestredig a enwir yn y gofrestr? Os ywr enwaun wahanol allech chi esbonior newid enw?

Yn achos cwmni, a fu unrhyw newid o ran cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu swyddogion y cwmni yn ddiweddar? Os oes newidiadau, oes modd eu hesbonio?

Oes unrhyw wybodaeth yn y chwiliad cwmni, fel dyddiad cofrestrur cwmni, a allai awgrymu nad y perchennog cofrestredig ywr parti ir trafodiad?

8.7.2 Ydyr corff corfforaethol yn dal i fodoli?

Oes unrhyw arwydd bod y corff corfforaethol wedi cael ei ddiddymu? Yn achos cwmn誰au, rhaid gwneud chwiliad cwmni bob amser i sicrhau bod y cwmni yn dal i fodoli.

8.7.3 Beth yw perthynas yr unigolyn 但r corff corfforaethol?

Wrth gadarnhau hunaniaeth bydd yn rhaid i chi hefyd sefydlu swyddogaeth yr unigolyn yn y sefydliad neu eu perthynas 但r sefydliad. Ai cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni ywr unigolyn neu oes ganddynt berthynas asiant gydar sefydliad, er enghraifft fel atwrnai? Pa dystiolaeth a gyflwynwyd i gadarnhau hyn?

Os nad ywn gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni ydyr unigolyn wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau ei awdurdod i weithredu?

Sylwer nad oes angen cadarnhad o hunaniaeth ar gyfer ymddiriedolwyr mewn methdaliad, derbynyddion, datodwyr neu weinyddwyr, oherwydd bydd yn rhaid uwchlwytho tystiolaeth arall ou hawdurdod i weithredu gyda cheisiadau lle maent yn gweithredu.

8.7.4 Corfforaethau tramor

Os oes unrhyw arwydd yn y gofrestr bod y perchennog yn gorfforaeth dramor, ydych chin fodlon 馨温庄r un ywr parti ir trafodiad 但r sefydliad? Bydd chwiliad cwmni yn dangos a yw cwmni yn y DU wedi ei sefydlu gydar un enw.

Wrth ymwneud 但 chorff corfforaethol tramor heb gynrychiolaeth gyfreithiol, dylech ddisgwyl gweld, er enghraifft, llythyr gan gyfreithiwr wedi ei awdurdodi i ymarfer yn y wlad lle cafodd y corff ei gorffori, yn cadarnhau ei fod yn dal i fodoli a bod y cynrychiolydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar eu rhan.

9. Rhywun nad ywn drawsgludwr yn cadarnhau

Gallwch gyflwyno naill air gwreiddiol neu gop誰au ardystiedig o ffurflen ID3. Ni ddylid newid cop誰au o ffurflenni, a sut bynnag y c但nt eu cyflwyno, rhaid iddynt bob amser gynnwys cop誰au or dudalen manylion personol o basbortaur ddau berson.

Tynnwyd Ffurflen ID4 (ar gyfer cyrff corfforaethol) yn 担l ar 5 Chwefror 2024 ac ni chaiff ei derbyn ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar 担l 6 Mai 2024.

9.1 Tystiolaeth hunaniaeth ar ffurflen ID3

Os nad ydych yn gallu cadarnhau bod trawsgludwr wedi gweithredu ar ei ran nach bod yn fodlon bod camau digonol wedi eu cymryd i gadarnhau ei hunaniaeth, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer pob person heb gynrychiolaeth fel yr eglurir yn Cadarnhad o hunaniaeth a Sut i ddarparu tystiolaeth hunaniaeth rheol 17.

Yn unol 但r cyfarwyddyd a wnaed gan y Prif Gofrestrydd Tir o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 at ddiben cadarnhau hunaniaeth person, rhaid llenwir ffurflenni canlynol bob amser pan for hunaniaeth wedi ei chadarnhau gan rywun syn gweithio yn un or proffesiynau awdurdodedig isod.

  • Meddyg
  • Deintydd
  • Cyfrifydd siartredig neu ardystiedig
  • Cynghorydd ariannol rheoledig
  • Aelod Seneddol
  • Aelod or Senedd

Ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar 担l 6 Mai 2024, byddwn yn derbyn fersiwn newydd ffurflen ID3 a gadarnhawyd gan un or gweithwyr proffesiynol awdurdodedig uchod yn unig.

Rhaid ir person syn cadarnhaur hunaniaeth ar person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau beidio 但 bod yn perthyn mewn unrhyw ffordd. Rhaid iddynt hefyd beidio 但 bod yn rhan or un trafodiad, er enghraifft, ni all person syn gwerthu neun cydsynio eiddo ac sydd hefyd yn un or personau awdurdodedig syn gallu cadarnhau hunaniaeth gadarnhau hunaniaeth y person syn caffael yr eiddo.

9.2 Rhywun nad ywn drawsgludwr yn cadarnhau

Ni all y ffurflen ID3 fod yn h天n na 3 mis pan gaiff ei chyflwyno gyda chais i gofrestru.

Rhaid bodloni pob un or amodau canlynol.

  • Rhaid ir person y mae ei hunaniaeth iw chadarnhau ar cadarnh辰wr feddu ar basbort llawn cyfredol dilys y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
  • Rhaid eu bod wedi adnabod ei gilydd ers o leiaf blwyddyn.
  • Rhaid iddynt beidio 但 bod yn perthyn iw gilydd mewn unrhyw ffordd.
  • Rhaid iddynt beidio 但 bod yn rhan or un trafodiad.

Yn ogystal:

  • Rhaid ir ddau ohonynt ddarparu copi o dudalen manylion personol eu pasbort i Gofrestrfa Tir EF. Sylwer, lle maer cadarnh辰wr yn cadarnhau hunaniaeth mwy nag un person, rhaid iddo ddarparu nifer cyfatebol o gop誰au ou tudalen manylion personol ir nifer o bobl y mae wedi cadarnhau eu hunaniaeth. Nid yw un copi i bawb yn dderbyniol.

10. Cadarnhau trwy fideo-alwad ar-lein

Maen bosibl i drawsgludwyr gadarnhau hunaniaeth gan ddefnyddio fideo-alwad ar-lein.

Tynnwyd y gallu i bobl nad ydynt yn drawsgludwyr gadarnhau hunaniaeth trwy alwad fideo ar-lein yn 担l ar 5 Chwefror 2024. Byddwn yn parhau i dderbyn hen fersiynau ffurflen ID3 a chadarnhau hunaniaeth am gyfnod trosiannol o dri mis. Ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar neu ar 担l 6 Mai 2024, byddwn yn derbyn fersiwn newydd ffurflen ID3 a chadarnhau sydd wedi digwydd yn bersonol yn unig.

10.1 Y fideo-alwad

Nid ydym yn rhagnodi unrhyw wasanaeth, darparwr neu ddyfais benodol ond dylid cymryd gofal i ddefnyddio un syn ddiogel.

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar-lein ar sut i dynnu sgrinlun ar gyfer y ddyfais syn cael ei defnyddio.

10.2 Trawsgludwr yn cadarnhau fideo-alwad ar-lein

Lle bo trawsgludwr yn cadarnhau at ddiben llenwi ffurflen ID1 neu ID2, rhaid tynnu sgrinlun or person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau tra bod y fideo-alwad yn cael ei chynnal. Rhaid uwchlwytho copi lliw printiedig or sgrinlun hwnnw ynghyd 但r ffurflen ID5 sydd iw chynnwys gydar ffurflen ID1 neu ID2.

Dylair sgrinlun fod or person y mae ei hunaniaeth yn cael ei chadarnhau yn unig.

11. Polisi dileu a gwrthod Cofrestrfa Tir EF

Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod ceisiadau lle y mae tystiolaeth neu gadarnhad o hunaniaeth ar goll yn llwyr nes y clywir yn wahanol. Fodd bynnag, rydym yn dal i ddisgwyl i gwsmeriaid gwblhau ceisiadau mor gywir ac mor llawn 但 phosibl. Byddwn yn anfon cais am wybodaeth (ymholiad) lle na ddarperir y dystiolaeth neur cadarnhad syn ofynnol ar ffurflen AP1, ffurflen FR1 neu ffurflen DS2.

Gellir dileu ceisiadau pan na ddarperir y dystiolaeth neu gadarnhad o hunaniaeth y gofynnwyd amdani.

12. Atodiad: enghreifftiau o baneli hunaniaeth wedi ei llenwi

Maer enghraifft hon yn cymryd bod y cais yn cael ei gyflwyno gan drawsgludwr. Dangosir cofnodion enghreifftiol mewn italig.

Panel 14

Cadarnhewch eich bod yn drawsgludwr.

Panel 15

Yn rhan gyntaf y panel hwn, nodwch enwau llawn yr holl bobl y mae angen cadarnhad hunaniaeth ar eu cyfer yn y golofn gyntaf. Peidiwch 但 defnyddio llythrennau blaen. Nodwch bob parti mewn blwch ar wah但n (er enghraifft trosglwyddwr, trosglwyddai, rhoddwr benthyg) gweler Enghraifft 1. Lle mae atwrnai yn gweithredu, er mwyn eglurder, rhaid rhestrur atwrnai ar rhoddwr hefyd mewn blychau ar wah但n ar y ffurflen FR1 gweler Enghraifft 2. Rhowch groes yn yr ail golofn gyferbyn ag enw unrhyw un or bobl hyn rydych yn eu cynrychioli. Yn y drydedd golofn, naill ai nodwch fanylion y trawsgludwr(wyr) syn gweithredu ar ran unrhyw un or bobl eraill, neu os oes unrhyw rai heb gynrychiolaeth, nodwch dim.

Bydd angen ichi gwblhau ail ran y panel hwn hefyd os ysgrifennwyd dim, i gadarnhau nad yw person wedi ei gynrychioli, oni bai bod un or eithriadau a nodir yn Pryd bydd angen cadarnhad o hunaniaeth neu dystiolaeth hunaniaeth rheol 17 yn gymwys, ac yn yr achos hwnnw, dylech gyfeirio at yr eithriad a darparur dystiolaeth berthnasol. Er enghraifft, os yw eithriad C (nid ywn ymarferol darparu tystiolaeth hunaniaeth) yn berthnasol, dylech gyfeirio ato a darparur llythyr eglurhaol angenrheidiol.

Lle nad yw eithriad yn gymwys, ar gyfer pob person heb gynrychiolaeth, rhaid ichi wneud un or canlynol:

Os ydych yn gallu rhoir cadarnhad ar gyfer rhai ond nid pob un or unigolion heb gynrychiolaeth, dylech nodi enwaur unigolion hynny rydych yn rhoi cadarnhad ar eu cyfer.

Os nad oes digon o le yn y panel, defnyddiwch ffurflen CS neu dylid cynnwys y wybodaeth mewn llythyr eglurhaol.

12.1 Sut i gwblhau panel 14

How to complete panel 14 of form FR1.

  1. Dylair trawsgludwr syn cyflwynor cais roi X yn y blwch hwn.

Rwyn drawsgludwr, ac rwyf wedi cwblhau panel 15.

12.2 Sut i gwblhau panel 15

Rhaid ir trawsgludwr syn cyflwynor cais restrur holl bart誰on ir trosglwyddiadau, prydlesi neu arwystlon yng ngholofn un y tabl ym mhanel 15. Lle nad yw parti yn cael ei gynrychioli gan drawsgludwr, dylid llenwi adran (2) Tystiolaeth hunaniaeth hefyd. Os nad ywr paneli perthnasol yn cael eu llenwi, caiff y cais ei wrthod.

Enghraifft 1 dim atwrnai/atwrneiod yn gweithredu

How to complete - panel 15 of form FR1 - no attorney(s) acting.

Dylai trawsgludwyr gwblhau fel a ganlyn:

  1. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwyddwr(wyr) gan gynnwys enwau canol (peidiwch 但 defnyddio blaenlythrennau). Os gweithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhaur panel canol trwy roi X yn y blwch.

  2. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwydde(ion) gan gynnwys enwau canol (peidiwch 但 defnyddio blaenlythrennau). Os gweithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhaur panel canol trwy roi X yn y blwch.

  3. Cwblhewch gydag enw llawn y rhoddwr benthyg ar gyfer y trosglwyddeion. Os gweithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhaur panel canol trwy roi X yn y blwch. Gall ddefnyddior panel hwn ar gyfer unrhyw atwrnai yn gweithredu ar ran unrhyw un or part誰on hefyd.

  4. Cwblhewch gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwyr a weithredodd ar ran y trosglwyddwyr. Os gweithredodd y trosglwyddwyr drostynt eu hunain, cwblhewch gyda Dim.

  5. Os na weithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ran y trosglwyddeion, rhaid llenwi hwn gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr a weithredodd, neu os gweithredodd y trosglwyddeion drostynt eu hunain, cwblhewch gyda Dim.

  6. Os na weithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ran rhoddwr benthyg y trosglwyddeion, rhaid llenwi hwn gydag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr a weithredodd.

Enghraifft 2 atwrnai/atwrneiod yn gweithredu

How to complete panel 15 of form FR1 - attorney(s) acting.

Dylai trawsgludwyr gwblhau fel a ganlyn:

  1. Cwblhewch gydag enw(au) llawn y trosglwyddwr(wyr). Os gweithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhaur panel canol trwy roi X yn y blwch.

  2. Cwblhewch gydag enw(au) llawn yr atwrnai/atwrneiod. Os gweithredodd y trawsgludwr syn cyflwynor cais ar ei ran, rhaid iddo gwblhaur panel canol trwy roi X yn y blwch.

  3. Os nad ywr trawsgludwr syn cyflwynor cais wedi nodi X yn y blwch canol, rhaid llenwi hwn ag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr syn gweithredu ar ran y trosglwyddwr neur landlord. Os na chafodd ei gynrychioli gan drawsgludwr, ysgrifennwch Dim.

  4. Os nad ywr trawsgludwr syn cyflwynor cais wedi nodi X yn y blwch canol, rhaid llenwi hwn ag enw, cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr syn gweithredu ar ran yr atwrnai/atwrneiod. Os na chafodd ei gynrychioli gan drawsgludwr, ysgrifennwch Dim.

13. Pethau iw cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.