Ffurflen

Sut i lenwi dalen flaen arddangosyn ar gyfer gweithred newid enw plentyn

Diweddarwyd 20 Awst 2025

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw chi neu enw plentyn trwy weithred newid enw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am: 

  • pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw 
  • sut i wneud gweithred newid enw eich hun 
  • y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
  • y ffi i gofrestru gweithred newid enw 
  • ble i anfon eich ffurflenni ar ôl eu llenwi os ydych yn gwneud cais drwy’r post 
  • sut y gallwch wneud cais ar-lein os byddai’n well gennych wneud hynny 

Os cafodd y plentyn ei eni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer .

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi: 

Os ydych chi’n penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lawrlwytho’r ddalen flaen. Bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost i’w hargraffu a’i llofnodi ar ôl i chi wneud cais.

Llenwi dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn

Mae ‘arddangosyn’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel prawf o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi. 

Yn y datganiad statudol, cyfeirir at yr arddangosion ar ffurf llythrennau: 

  • Arddangosyn A – copi o’r ffurflen gweithred newid enw (LOC022) – i’w llenwi os ydych yn gwneud cais drwy’r post yn unig.
  • Arddangosyn B – llungopi o dystysgrif geni llawn y plentyn fel tystiolaeth ei fod/bod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu diriogaethau dibynnol Prydain 

Dylech gynnwys dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn gyda’r geiriad perthnasol. Dylai pob dalen flaen gael ei llofnodi gan yr un cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys a oedd yn dyst i’r datganydd yn tyngu llw neu gadarnhad.

Rhaid i’r taflenni arddangos gynnwys y geiriad canlynol: 

“Dyma’r arddangosyn sydd wedi’i farcio gyda ‘A’/B’/’C’ y cyfeirir ato yn natganiad [rhowch enw’r datganydd statudol (y sawl sydd wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy)] a ddatganwyd ger fy mron i [rhowch enw’r tyst awdurdodedig] ar y [rhif] diwrnod hwn o [mis] yn y flwyddyn [rhif]. 

Gallwch argraffu a defnyddio’r templed dalen flaen. Fel arall, gallwch ddefnyddio darn gwag o bapur os yw’n cynnwys y geiriad gofynnol ac wedi’i lofnodi gan y cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys. 

Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid enw’r plentyn, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin. 

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL 

Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

·¡-²ú´Ç²õ³Ù: kbdeedspoll@justice.gov.uk 
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. 

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost. 

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol sy’n 5 oed neu lai. 

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 oed, .