Sut i lenwi dalen flaen arddangosyn ar gyfer gweithred newid enw i oedolion
Diweddarwyd 20 Awst 2025
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Cyn i chi ddechrau
Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen yprif gyfarwyddyd ar newid eich enw trwy weithred newid enw. Maen cynnwys gwybodaeth am:
- pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw
- sut i wneud gweithred newid enw eich hun
- y dogfennau y maen rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
- y ffi i gofrestru gweithred newid enw
- ble i anfon eich ffurflenni ar 担l eu llenwi os ydych yn gwneud cais drwyr post
- sut y gallwch wneud cais ar-lein os byddain well gennych wneud hynny
- sut i newid enw plentyn trwy weithred newid enw
Os cawsoch eich geni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau ar cyfarwyddyd ar gyfer .
Rhaid i chi hefyd lenwi a chynnwys:
- ffurflen gweithred newid enw i oedolionos ydych yn gwneud cais drwyr post (nid oes ei hangen ar gyfer ceisiadau ar-lein)
- datganiad statudol gweithred newid enw ar gyfer oedolyn
- llungop誰au o ddogfennau penodol - dyma fydd eich arddangosion. Gweler y prif gyfarwyddyd i gael gwybodaeth am y dogfennau y maen rhaid i chi gynnwys
Os ydych chin penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lawrlwythor ddalen flaen. Bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost iw hargraffu ai llofnodi ar 担l i chi wneud cais.
Llenwch ddalen flaen ar gyfer pob arddangosyn
Mae arddangosyn yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Maer llys angen arddangosion fel prawf o bwy maech cais yn dweud yr ydych chi.
Yn y datganiad statudol, cyfeirir at yr arddangosion ar ffurf llythrennau:
- Arddangosyn A - copi och ffurflen gweithred newid enw (LOC020) iw llenwi os ydych yn gwneud cais drwyr post yn unig
- Arddangosyn B - llungopi och tystiolaeth eich bod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu diriogaethau dibynnol Prydain
- Arddangosyn C llungopi och tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil (os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
Dylech gynnwys dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn gydar geiriad perthnasol. Dylai pob dalen flaen gael ei llofnodi gan yr un cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys a oedd yn dyst ir datganydd yn tyngu llw neu gadarnhad.
Rhaid ir taflenni arddangos gynnwys y geiriad canlynol:
Dymar arddangosyn sydd wedii farcio gyda A/B/C y cyfeirir ato yn natganiad [rhowch enwr datganydd statudol (y sawl sydd wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy)] a ddatganwyd ger fy mron i [rhowch enwr tyst awdurdodedig] ar y [rhif] diwrnod hwn o [mis] yn y flwyddyn [rhif].
Gallwch argraffu a defnyddior templed dalen flaen. Fel arall, gallwch ddefnyddio darn gwag o bapur os ywn cynnwys y geiriad gofynnol ac wedii lofnodi gan y cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys.
Cael help gyda gweithred newid enw
Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid eich enw, cysylltwch 但r T樽m Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.
T樽m Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Rhif ff担n: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
掘-恢看壊岳:kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Maer cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwynor ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost.
Gallwch hefyd gysylltu 但r T樽m Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol syn 5 oed neu lai.
Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw syn h天n na 5 oed, .