Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith: 2025 Ffioedd Sylfaenol
Updated 30 June 2025
Maer ddogfen yma yn darparu ffioedd sylfaenol blwyddyn 1 (2025 /2026) y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith. Maen ymwneud 但 ffioedd a fyddain cael eu codi ar gynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth gan PecynUK (Gweinyddwr y Cynllun). Bydd y ffioedd a delir gan y cynhyrchwyr yn talu costau PecynUK ac yn darparu incwm ychwanegol ir awdurdodau lleol i dalu am gost ailgylchu a gwaredu deunyddiau pecynwaith gwastraff.
Nid ywn cynnwys:
- ffioedd a thaliadau cofrestru syn cael eu talu i Gyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon
- costau syn gysylltiedig 但 bodloni targedau ailgylchu pecynwaith e.e. trwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Pecynwaith.
Maer ddogfen yma wedii chyhoeddi gan PecynUK yn rhinwedd ei swydd fel Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer y cynllun pedair gwlad.
1. 2025 Ffioedd sylfaenol
Tabl 1. Ffioedd sylfaenol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynwaith
Mae Arall yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru isod, er enghraifft, bamb典, cerameg, copr, corc, cywarch, rwber. Maer ffioedd wediu talgrynnu ir 贈1 agosaf. Sylwch y caiff yr anfonebau eu seilio ar ffioedd wediu talgrynnu i bedwar lle degol.
Deunydd | Cyfradd (贈/tunnell) |
---|---|
Alwminiwm | 266 |
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr | 461 |
Gwydr | 192 |
Papur a cherdyn | 196 |
Plastig | 423 |
Dur | 259 |
Pren | 280 |
Arall | 259 |
Maer ffioedd sylfaenol yn seiliedig ar y senario modelu arfaethedig terfynol y cytunwyd arno ar gyfer cyfanswm costau gwaredur awdurdodau lleol y dylid eu hadennill trwy EPR yn 2025/2026 a chostau perthnasol eraill y manylir arnyn nhw isod.
Maer ffioedd sylfaenol yn defnyddior data tunelledd pecynwaith diweddaraf a gyflwynwyd gan y cynhyrchwyr ar borth ar-lein Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ar gyfer cyfnod llawn 2024 fel yr oedd ar 9 Mehefin 2025, gydag addasiadau wediu cymhwyso (gweler isod i gael rhagor o fanylion).
2. Methodoleg
Cyfrifir ffioedd sylfaenol drwy rannu costau rheoli gwastraff pecynwaith (ar gyfer gwastraff pecynwaith cartrefi) a chostau perthnasol eraill 但 chyfanswm y pecynwaith cartrefi a roddwyd ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd ffi a fynegir mewn 贈 am bob tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori o becynwaith ar wah但n:
Rhifiadur: (1) Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff or categori pecynwaith hwnnw (gwastraff pecynwaith cartrefi yn unig) minws refeniw o werthu deunyddiau plws (2) cyfran y categori pecynwaith hwnnw or costau eraill, (costau PecynUK, costau cyfathrebu a chostaur ddarpariaeth ar gyfer dyledion).
Enwadwr: Cyfanswm pwysaur categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad (pecynwaith cartrefi yn unig). Maer tunelledd cartrefi sydd o fewn y rhychwant ar gyfer ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob categori deunydd wedii gyfrifo trwy adior tunelleddau y maer cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod amdanyn nhw fel pecynwaith cartrefi ac fel pecynwaith a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel. Maer tunelledd gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartrefi gan eu bod nhw o fewn rhychwant ffioedd cynhyrchwyr EPR, yn wahanol i gynwysyddion diodydd PET, alwminiwm a dur untro 150ml i 3l o faint, sydd o fewn y rhychwant y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon ar Alban a fydd yn lansio ym mis Hydref 2027. Wrth i fanylion y cynllun hwn a DRS Cymru gael eu cwblhau, byddwn yn gweithion agos gydar pedair gwlad ac unrhyw Sefydliadau Rheoli Ernes penodedig i sicrhau bod DRS ac EPR yn gweithion effeithiol.
Sylwch: ar gyfer blwyddyn gyntaf Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (2025 i 2026), ni fydd costau syn gysylltiedig 但 rheoli pecynwaith syn cael ei waredun gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Er hynny, fe fydd yr enwadur yn cynnwys pecynwaith y rhoddir gwybod amdano fel pecynwaith cartrefi a phecynwaith y rhoddir gwybod ei fod yn cael ei waredun gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel.
Dylech gyfeirio at y datganiad cyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol i gael rhagor o fanylion ar egwyddorion cyfrifor ffioedd sylfaenol.
Maer model dadansoddol a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfanswm pwysaur pecynwaith sydd o fewn y rhychwant ac i gyfrifor ffioedd sylfaenol wedi mynd drwy waith Sicrhau Ansawdd allanol gan Adran Actiwarir Llywodraeth. Maer fethodoleg ar gyfer addasu at ddata pecynwaith yr RPD er mwyn rhoir disgrifiad gorau or cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto wedi cael ei hadolygu gan Uwch Ddadansoddwyr o bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
3. Sut maer datganiad yma yn wahanol ir datganiad blaenorol
3.1 Gwahaniaethau yn y ffioedd enghreifftiol
Maer ffioedd sylfaenol a gyhoeddir yn y ddogfen yma i gyd o fewn yr amrediadau o ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd or blaen. Ou cymharu 但r ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, maer gwahaniaethau yn deillio or canlynol:
- newidiadau yn nhunelledd y pecynwaith y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr yn RPD. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr ar gyfer blwyddyn galendr lawn 2024, yn hytrach na hanner cyntaf 2024 fel a wnaed ar gyfer cyhoeddiad mis Rhagfyr.
- newidiadau yn y ffordd rydyn nin amcangyfrif tunelledd coll (gweler Adran 3.3 isod),
- newidiadau ym modelau costaur awdurdodau lleol, gan gynnwys o ganlyniad i adborth y diwydiant ar awdurdodau lleol.
- gostyngiad yn y ffi darpariaeth dyled ddrwg a gymhwysir at gyfanswm y costau, o 6% i 4%.
Yn gyffredinol, mae cyfraddaur ffioedd sylfaenol wedi gostwng ers mis Rhagfyr 2024 (o 8% yn llai yn achos pecynwaith arall i 39% yn llai yn achos Alwminiwm). Yr eithriad yw ffioedd cyfansoddion syn seiliedig ar ffibr, sydd wedi cynyddu 1%.
3.2 Gwiriadaur rheoleiddwyr ar ddatar RPD
Mae cyfansymiaur tunelledd pecynwaith a gynhwysir yn y cyfrifiadau ffioedd sylfaenol yn cynrychiolir tunelledd pecynwaith mwyaf rhesymol o gywir, o fewn y rhychwant, sydd wedii gyflenwi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Maer rheoleiddwyr o dan ddyletswydd i fonitro cywirdeb y data EPR a gyflwynir ir porth RPD ar-lein. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu 但 chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i nodi a chywiro gwallau data posibl. Maer rheoleiddwyr wedi bod yn cysylltu hefyd 但 chynhyrchwyr a allai fod 但 rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau ond sydd wedi methu rhoi gwybod am ddata pecynwaith. Maer gweithgareddau hyn yn parhau.
3.3 Addasiadau yn nata RPD 2024
O ganlyniad i wiriadau data gan y rheoleiddwyr, rydyn ni wedi gwneud yr addasiadau canlynol yn natar RPD er mwyn creur disgrifiad gorau or cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto:
- Pan nad ywr cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod eto yn 2024 ond eu bod wedi cydymffurfion llawn yn 2023, mae datar RPD wedii addasu i fyny i gymryd i ystyriaeth y cynnydd disgwyliedig yn y tunelledd wrth i fwy o gynhyrchwyr gyflwyno data ir RPD, yn seiliedig ar gymharu cyfanswm y tunelledd y rhoddwyd gwybod amdano yn 2023 a 2024.
- Pan for rheoleiddwyr wedi darparu nifer y cynhyrchwyr yr amheuir eu bod yn gynffonwyr (yn osgoi talu ffioedd ond yn manteisio drwyr ffioedd mae pawb arall yn eu talu), maer addasiadau canlynol wediu defnyddio:
- Yn achos cynffonwyr yn Lloegr, lluoswyd yr amcangyfrif o nifer y cynffonwyr 但r tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn nin ei ostwng er mwyn cyfrif am y ffaith bod y rhai syn rhoi gwybod yn hwyr fel arfer yn cyflwyno tunelledd is (yn seiliedig ar gyfartaledd y rhai syn rhoi gwybod yn hwyr yn y Deyrnas Unedig).
- Yn achos cynffonwyr yn y gwledydd eraill, lluoswyd yr amcangyfrif or niferoedd priodol o gynffonwyr 但r tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn nin ei ostwng er mwyn cyfrif am y tunelleddau cynhyrchwyr cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y wlad berthnasol.
- Yn achos y cynhyrchwyr hynny a gyflwynodd ddata am hanner y flwyddyn yn unig, cynyddwyd eu tunelledd nhw trwy gymharu cyfanswm y tunelledd ar draws dau hanner y flwyddyn.
- Cafodd cyflwyniadau datar RPD gan gofrestrwyr uniongyrchol sydd wediu gwrthod gan y rheoleiddwyr eu tynnu or set ddata, o gofior ansicrwydd ynghylch ailgyflwyniadau yn y dyfodol
- Mae datar RPD o gynlluniau cydymffurfio sydd wediu gwrthod gan y rheoleiddwyr wedii gadw i mewn, ar y rhagdybiaeth na fydd ailgyflwyniadaur dyfodol yn bur wahanol ir cyflwyniadau cychwynnol
3.4 Costaur awdurdodau lleol
Defnyddiwyd model Cost a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol Defra (y cyfeirir ato fel LAPCAP neu y model yn y ddogfen yma) i gyfrifor ffioedd sylfaenol. Mae LAPCAP yn defnyddio cyfuniad o ddata penodol yr awdurdodau lleol (e.e. tunelli y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn y Llif Data Gwastraff) a data cymharol (grwpiadau wediu seilio ar ddata costau a roddir gan sampl o awdurdodau lleol) er mwyn cyfrifo taliad i bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig.Cyfanswm y taliad i bob awdurdod lleol a gyfrifir gan LAPCAP ywr Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff a ddefnyddir wrth gyfrifor ffioedd sylfaenol enghreifftiol. Bydd nodyn esboniadol syn esbonior fethodoleg ar weithdrefn a ddefnyddir i bennu amcangyfrifon taliadau EPR blwyddyn 1 ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei gyhoeddi cyn hir pan fydd asesiadau or taliadau ar gyfer Blwyddyn 1 EPR yn cael eu rhannu gydar awdurdodau lleol.
4. Y camau nesaf
Bydd manylion am sut y bydd ffioedd yn cael eu defnyddio i anfonebu cynhyrchwyr ym mis Hydref yn cael eu rhannu yn fuan.
Maer cynhyrchwyr o dan rwymedigaeth i barhau i roi gwybod am eu data pecynwaith trwyr porth RPD ar-lein. Os ydych chin gynhyrchydd mawr, dylech roi gwybod am eich data ar gyfer 1 Ionawr i 31 Mehefin 2025 erbyn 1 Hydref 2025.
Bydd PecynUK yn defnyddior data yma ar costau a restrir uchod i gyfrifo a rhyddhau ffioedd sylfaenol ar gyfer 2026/27.
5. Cyflwyno ffioedd modiwlaidd o 2026 ymlaen
O flwyddyn 2 EPR (2026 i 2027) ymlaen, bydd y ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sbarduno symudiad at ddylunio pecynwaith syn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan ddefnyddio ailgylchadwyedd yn ddangosydd. Bydd y mathau o becynwaith a fydd yn talu ffioedd modiwlaidd uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol 但 Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM). Bydd sg担r Coch, Melyn neu Wyrdd yn cael ei rhoi i bob deunydd pecynwaith sydd o fewn y rhychwant o dan yr RAM: Coch ywr lleiaf ailgylchadwy a Gwyrdd ywr mwyaf ailgylchadwy
Ar gyfer tair blynedd cyntaf y polisi, bydd yr arian ychwanegol a godir trwy ddefnyddio ffactor modiwleiddio uwch ar gyfer deunydd pecynwaith Coch RAM yn ffurfio pot o arian iw ailddosbarthu. Bydd y pot ailddosbarthun cael ei ddefnyddio er mwyn codi ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartref is am ddeunydd pecynwaith Gwyrdd RAM. Ni fydd deunydd a sg担r melyn yn gweld unrhyw newid yn ei ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi yn sgil modiwleiddio, gan aros ar y gyfradd ffi sylfaenol.
Cyhoeddwyd fersiwn 1.1 o RAM ym mis Ebrill 2025 ar 51画鋼. Mae PecynUK yn bwriadu rhannu datganiad polisi modiwleiddio cyn hir ar 51画鋼.