Research and analysis

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu: Ffioedd Sylfaenol Enghreifftiol (August 2024)

Published 15 August 2024

Cyflwyniad

Mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu (pEPR) yn gonglfaen ar gyfer mynd ir afael 但 gwastraff yn y DU. Maer ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer blwyddyn 1 pEPR. Maen ymwneud 但 ffioedd a fyddain cael eu codi ar gynhyrchwyr deunydd pecynnu dan rwymedigaeth gan Weinyddwr y Cynllun (SA). Nid ywn cwmpasu:

  • telir ffioedd a thaliadau i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, Asiantaeth Amddiffyn Amgylchedd yr Alban, ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
  • costau syn gysylltiedig 但 chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pecynnu ee drwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunydd Pecynnu (PRNs)

Maer ddogfen hon yn cael ei chyhoeddi ar ran Llywodraeth y DU, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth Cymru. Maer term Llywodraeth yma yn cyfeirio at bob un or pedair gweinyddiaeth.

Cefndir

Codir ffioedd o 1 Ebrill bob blwyddyn, yn seiliedig ar ddeunydd pecynnu a ddarparwyd gan gynhyrchwyr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol. Y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddata ar RPD yw 1 Ebrill. O ganlyniad, ni fydd cyfraddau ffioedd ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26) yn hysbys tan ar 担l 1 Ebrill 2025. Gan ganiat叩u i wiriadau perthnasol gael eu cynnal a chael cymeradwyaeth bilio, disgwylir y bydd yr SA yn cyhoeddi anfonebau yn gynnar yn yr haf bob blwyddyn. Gall anfonebu ym mlwyddyn gyntaf pEPR weithredu i amserlen wahanol oherwydd efallai bydd yr SA yn dal i gael ei sefydlun ffurfiol.

Bydd ffioedd pob cynhyrchydd dan rwymedigaeth yn cael eu cyfrifo gan yr SA gan ddefnyddior fformiwla ffioedd sydd wedii chynnwys yn y Gyfrifiannell Ffioedd a Thaliadau (FPC). Maer darpariaethau cyfreithiol ar gyfer y fformiwla ffioedd wediu nodi yn y

Cyn i ddata deunydd pecynnu 2024 gael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr, ac mewn ymateb i alwadau gan y diwydiant am fwy o eglurder ynghylch y costau y maent yn debygol ou hysgwyddo, mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26 wediu cyfrifo ar gyfer pob un or wyth categori deunydd pecynnu. Maer ffioedd enghreifftiol wediu cyfrifo gan ddefnyddio setiau data gwahanol ir rhai y bydd yr SA yn eu defnyddio i gyfrifor ffioedd gwirioneddol. Maent yn cael eu rhannu i ddarparu cymaint o wybodaeth 但 phosibl cyn gynted 但 phosibl, er mwyn cefnogi cynhyrchwyr yn y ffordd orau.

Maer ffi sylfaenol enghreifftiol wedii chyfrifo gan ddefnyddio pwysaur deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022, a gymerwyd o adroddiadau PackFlow Refresh 2023.[footnote 1] Maer data hyn yn cynrychioli amcangyfrifon o ddeunydd pecynnu yn y gorffennol, gan gynrychioli dirprwy ar gyfer deunydd pecynnu yn y dyfodol. Gwnaethpwyd gwaith i ddosbarthur deunydd pecynnu mor agos 但 phosibl ir rhwymedigaethau adrodd pEPR newydd, fodd bynnag ni fydd y rhain yn cyfateb yn union.油 Nid ywr data a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr yn y porth ar-lein Adrodd am Ddeunydd Pecynnu (RPD) wediu defnyddio oherwydd nodwyd anghysondebau y mae angen eu cywiro. Maer ffioedd yn Nhabl 1 yn cynnwys amcangyfrifon o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu Awdurdodau Lleol (ALl) fesul WRAP. Mae ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cael eu darparu ar wah但n ar gyfer gwydr (Tabl 2) oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wah但n i ganfod costau ALl 油syn cael ei datblygu gan Defra, a fydd yn cael ei defnyddio i gyfrifo ffioedd sylfaenol pEPR terfynol. Ar hyn o bryd, maer fethodoleg hon yn dal i gael ei datblygu ac felly nid yw wedii chymhwyso ar draws yr holl ddeunyddiau, ond fei defnyddiwyd ar gyfer gwydr oherwydd ystyrir ei bod yn fwy cadarn ar gyfer y deunydd penodol hwn. Maer amcangyfrifon hyn wediu cynnwys er mwyn darparu cymaint o wybodaeth 但 phosibl i gynhyrchwyr, ac i fod yn sail ar gyfer ymgysylltu parhaus 但r diwydiant ar y rhagdybiaethau methodolegol sylfaenol cyn rhyddhaur ffioedd sylfaenol enghreifftiol nesaf.

Cafeatau pwysig

Y ffioedd enghreifftiol hyn yw ein hamcangyfrif cyntaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael hyd yma. Nid y rhain ywr ffioedd terfynol. Maer Llywodraeth yn cydnabod y gallai cynhyrchwyr dan rwymedigaeth ddymuno defnyddior amcangyfrifon uwch neu is i asesur senarios gwaethaf a gorau. Nid yw hyn yn cael ei argymell. Er y gall y ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn helpur diwydiant gyda pharodrwydd cynnar, maer ffigurau hyn yn dal i fod yn destun ansicrwydd sylweddol a byddant yn newid yn y dyfodol.[footnote 2](#_ftn1) O ystyried y cyfyngiadau data sylweddol, maer Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ffigurau wediu mireinio ar gyfer y ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024, unwaith y bydd y data a dderbyniwyd drwy borth ar-lein RPD y Llywodraeth wediu hadolygu au gwerthuso ymhellach.油Maer ffioedd enghreifftiol hefyd yn rhan o adolygiad gwariant 2024. 油油

Ffioedd wediu modiwleiddio iw cyflwyno o 2026

O flwyddyn 2 yr EPR, bydd ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau mai deunyddiau pecynnu syn cael effaith amgylcheddol is fydd y rhai lleiaf costus i gynhyrchwyr eu defnyddio. Trwy gyflwyno strwythur ffioedd wedii fodiwleiddio ir farchnad, bydd y defnydd o ddeunyddiau pecynnu anghynaliadwy yn lleihau, gan leihaur gwastraff syn mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau allyriadau CO2.

Bydd y mathau o ddeunydd pecynnu a fydd yn destun ffioedd uwch neu is (wediu modiwleiddio) o Flwyddyn 2, ar is-gategor誰au o ddeunydd pecynnu canlyniadol y byddai angen adrodd arnynt yn 2025 yn cael eu rhyddhau yn hydref 2024.

Ffioedd sylfaenol enghreifftiol ar gyfer 2025/26

Tabl 1. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynnu ac eithrio deunydd pecynnu Gwydr

Deunydd Is (mewn 贈/tunnell) Canolradd (mewn 贈/tunnell) Uwch
(mewn 贈/tunnell)
Alwminiwm 贈245 贈495 贈655
Cyfansoddion syn seiliedig ar ffibr 贈410 贈525 贈655
Papur neu fwrdd 贈185 贈260 贈350
Plastig 贈355 贈515 贈610
Dur 贈170 贈295 贈420
Pren 贈225 贈265 贈330
Arall 贈225 贈265 贈330

Tabl 2. Cyfraddau ffioedd sylfaenol pEPR enghreifftiol ar gyfer 2025/26 ar gyfer deunydd pecynnu Gwydr.

Deunydd Is (mewn 贈/tunnell) Canolradd (mewn 贈/tunnell) Uwch (mewn 贈/tunnell)
Gwydr 贈130 贈260 贈330

Darperir ffioedd gwydr ar wah但n oherwydd amcangyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio methodoleg ar wah但n i ganfod costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl syn cael ei ddatblygu gan Defra, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ffioedd pEPR terfynol.油

Eglurhad or gwahaniaeth rhwng cyfraddau ffioedd deunyddiau

Mae tri phrif reswm dros wahaniaethau mewn ffioedd sylfaenol enghreifftiol rhwng deunyddiau, a fydd yn parhau yn y ffioedd gwirioneddol ar gyfer 2025/26:

1.油油油 Mae gwahaniaethau yng ngwerthoedd ailwerthur gwahanol gategor誰au o ddeunydd pecynnu. Tynnir y gwerth hwn (wedii netio i ffwrdd) or costau gwaredu. Er enghraifft, mae gan ddeunyddiau cyfansawdd ffibr ffi uwch oherwydd gwerth ailwerthu cymharol isel y deunydd hwn.

2.油油油 Mae gwahaniaethau yng nghyfran pob categori deunydd pecynnu syn cael ei ailgylchu ai waredu fel gwastraff gweddilliol. Mae costau gwahanol yn gysylltiedig 但r gwahanol ffyrdd hyn o reoli gwastraff deunydd pecynnu, gan arwain at ffioedd gwahanol. Er enghraifft, mae ffioedd gwydr yn seiliedig yn bennaf ar gostau ailgylchu oherwydd y lefelau uchel o ailgylchu gwydr, tra bydd ffioedd alwminiwm yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar gostau gwaredu gwastraff gweddilliol oherwydd cyfraddau ailgylchu isel ar gyfer ffoil alwminiwm a chynwysyddion heblaw am rai diodydd.

3.油油油 O dan y setiau data cyfredol, mae anghysondebau rhwng amcangyfrifon o faint o bob categori deunydd pecynnu syn digwydd fel gwastraff ar swm yr amcangyfrifir ei fod wedii roi ar y farchnad gan gynhyrchwyr dan rwymedigaeth, er enghraifft ar gyfer deunyddiau pecynnu plastig ac alwminiwm. Gall hyn adlewyrchu newidiadau mwy diweddar yn y deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad nas cyfrifwyd amdano yn amcangyfrifon cyfansoddiad gwastraff 2017 a ddefnyddiwyd yng nghyfrifiadau costau ALl WRAP. Yn fwyaf arwyddocaol, maen debygol ei fod yn adlewyrchur gwahaniaeth rhwng deunydd pecynnu gwag sydd wedii gofrestru fel wedii roi ar y farchnad ar deunydd pecynnu sydd wedii lenwin rhannol ai halogi y maen rhaid i ALlau gael gwared arno. Maer effaith olaf hon iw gweld yn fwyaf amlwg ar gyfer deunyddiau ysgafnach.

Oherwydd diffyg data cadarn, maer ffioedd ar gyfer pren a deunydd pecynnu arall wedi cael yr un gyfradd ffi yn seiliedig ar y dybiaeth y c但nt eu gwaredu fel gwastraff gweddilliol.

Y camau nesaf

Roedd gan gynhyrchwyr rwymedigaeth i adrodd ar eu set lawn o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2023 erbyn 1 Ebrill 2024 a gallent wynebu camau gorfodi os oeddent yn methu 但 gwneud hynny erbyn 31 Mai 2024. Maer Llywodraeth yn bwriadu rhyddhaur set nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Medi 2024 unwaith y bydd mwy o ddata wediu油 hadrodd au gwirio wedyn gan reoleiddwyr. Bydd cadernid y data hyn a maint yr ystod yn dibynnu ar gyflwyno data cynhyrchwyr digonol o ansawdd uchel ar amser. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer adrodd 6 mis o ddata deunydd pecynnu cartrefi 2024 yw 1 Hydref 2024.

Dull cyfrifo

Crynodeb

Amcangyfrifir y ffi ganolradd enghreifftiol ar draws y ddau dabl drwy rannur costau amcangyfrifedig canolradd ar gyfer y deunydd hwnnw 但 phwysau amcangyfrifedig canolradd y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, wedii dalgrynnu ir 贈5 agosaf. Amcangyfrifir y ffi is enghreifftiol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar draws y ddau dabl drwy rannur costau amcangyfrifedig is ar gyfer y deunydd hwnnw 但 phwysau amcangyfrifedig uwch y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad, ac amcangyfrifir y ffi uwch enghreifftiol drwy rannur costau amcangyfrifedig uwch ar gyfer y deunydd hwnnw 但 phwysau amcangyfrifedig is y deunydd pecynnu hwnnw a roddir ar y farchnad. Mae amcangyfrifon ffioedd uwch, canolradd ac is yn ganlyniad ansicrwydd mewn costau gwaredu, prisiau refeniw deunyddiau a phwysau amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad o fewn categor誰au deunydd pecynnu unigol.油 Bydd yr ansicrwydd hwn yn lleihau yn yr iteriadau nesaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol pEPR wrth ir Llywodraeth drosglwyddo i ddefnyddio data deunydd pecynnu a adroddir RPD a model油 costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu ALl Defra, syn defnyddio mewnbynnau mwy diweddar.

Eglurhad manwl

Cyfrifir ffioedd sylfaenol enghreifftiol trwy rannu costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu yr ALl (ar gyfer gwastraff deunydd pecynnu cartrefi) 但 chyfanswm amcangyfrifedig y deunydd pecynnu cartrefi a roddir ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd a fynegir fel ffi fesul tunnell o ddeunydd pecynnu a roddir ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori deunydd pecynnu ar wah但n:

Rhifiadur (1) Costau yr eir iddynt gan ALlau syn rheoli gwastraff y categori deunydd pecynnu hwnnw (gwastraff deunydd pecynnu cartrefi yn unig) llai refeniw o werthiannau deunydd plws (2) Cyfran y categori o gostau eraill megis costau SA a chostau darparu dyledion (gweler isod)

Enwadur Cyfanswm pwysaur categori deunydd pecynnu hwnnw a roddwyd ar y farchnad (deunydd pecynnu cartrefi yn unig)

Er bod y wybodaeth orau sydd ar gael wedii defnyddio, mae ystod eang o ansicrwydd yn gysylltiedig 但r amcangyfrifon a nodir isod, ochr yn ochr 但r fethodoleg ar gyfer eu cyfrifo.

Noder, ar gyfer blwyddyn gyntaf pEPR (2025/26), na fydd costau syn gysylltiedig 但 rheoli gwastraff biniau cyhoeddus a sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Fodd bynnag, bydd yr enwadur yn cynnwys deunydd pecynnu cartrefi a deunydd pecynnu a adroddir fel eitemau syn cael eu binion gyffredin neu syn cael eu taflu fel sbwriel.

Y rhifiadur: costau

Costau ALl

Yn Nhabl 1, maer cyfrifiad ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn cymryd amcangyfrif o gostau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefir ALl, yn net or refeniw o werthu deunyddiau (yn seiliedig ar gyfartaleddau prisiau ar draws adroddiadau Prisio Deunyddiau WRAP),[footnote 3] ac yn ychwanegu costau amcangyfrifedig syn gysylltiedig 但 gwasanaeth gwybodaeth yr SA a ffi weinyddur SA; dymar rhifiadur (brig y ffracsiwn).油 Ar gyfer Tabl 1, maer amcangyfrif diweddaraf (2019) or costau yr eir iddynt ar gyfer rheoli gwastraff deunydd pecynnu a gesglir o ymyl y ffordd wedii amcangyfrif gan WRAP yn seiliedig ar amlder casglu gwastraff gweddilliol ALl, systemau casglu ailgylchu a lefelau gwledigrwydd ac amddifadedd (heb ei gyhoeddi). Maer amcangyfrifon hyn wediu haddasu gan ddefnyddior Mynegai Prisiau Manwerthu o Ragolygon Economaidd a Chyllidol Tachwedd 2024 y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol[footnote 4] i adlewyrchur prisiau a ragwelwyd yn 2025/26 au haddasu ar gyfer data cyfansoddiad (gweler isod). Mae cost rheoli gwastraff deunydd pecynnu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRCs) wedii chymryd o Asesiad Effaith pEPR 2022,[footnote 5] a amcangyfrifwyd yn wreiddiol gan WRAP yn 2019 ac a chwyddwyd i brisiau 2025/26.

Yn Nhabl 1, mae pwysau sgil-gynhyrchion gwastraff deunydd pecynnu a ddefnyddir i gyfrifo costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar ddata cyfansoddiad gwastraff cyn y pandemig yn seiliedig ar astudiaethau maes ar lefel ALl wediu cyfosod i gynhyrchu amcangyfrifon cenedlaethol o gyfansoddiad gwastraff.[footnote 6] Gan ei bod yn bosibl nad ywr data hwn yn adlewyrchur tueddiadau diweddaraf mewn deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad, mae addasiadau wediu gwneud i alinior data. Noder, i gyfrifo arffin isaf y sgil-gynhyrchion gwastraff, defnyddiwyd yr isaf o:

  • y cyfwng hyder is o 99% ar gyfer data cyfansoddiad gwastraff rhagamcanol 2017 ac
  • amcangyfrif o bwysaur deunydd pecynnu a roddwyd ar y farchnad gan gynhyrchwyr yn 2022 o adroddiadau PackFlow Refresh 2023

油ar gyfer tunelledd deunydd pecynnu. Mae hyn oherwydd bod yr ansicrwydd yn yr amcanestyniad o ddata cyn y pandemig ar posibilrwydd y bydd data cyfansoddiad gwastraff yn systematig uwch nar hyn a roddwyd ar y farchnad oherwydd halogiad, ee gweddillion bwyd, yn golygu y gallair naill neur llall gynrychiolir tunelledd isaf posibl.

Yn Nhabl 2, mae costau rheoli gwastraff deunydd pecynnu cartrefi ALl yn seiliedig ar amcangyfrifon cychwynnol or model Cost a Pherfformiad Deunydd Pecynnu Awdurdodau Lleol (LAPCAP) syn dal i gael ei ddatblygu ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr SA i gyfrifo costau ALl ar gyfer 2025/26. Mae hwn yn defnyddio prisiau deunyddiau wediu diweddaru, amcangyfrifon costau awdurdodau lleol a thunelleddau syn deillio o wastraff. Maer model hwn yn dal i gael ei ddatblygu ac felly nid yw wedii ddefnyddio ar gyfer pob amcangyfrif.

Costau eraill

Maer amcangyfrif presennol o gostau tebygol gwasanaethau gweinyddol a gwybodaeth SA wedii gynnwys, gyda ffioedd gweinyddu SA wediu dosrannu yn gymesur 但 chyfran deunydd o gostau gwaredur ALl a ffioedd gwasanaeth gwybodaeth yr SA yn gymesur 但 chyfran deunydd o bwysau deunydd pecynnu. Ychwanegwyd 6% enghreifftiol fel darpariaeth drwgddyledion. Maer ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion yn unol 但r gofynion ar holl gyrff y Llywodraeth (ac fel rhan o reolaeth ariannol dda) i wneud darpariaeth ar gyfer anfonebau efallai na all yr SA eu casglu, er gwaethaf pob ymdrech resymol[footnote 7] (ee, os yw cynhyrchwyr yn mynd yn fethdalwyr).

Yr enwadur: pwysaur deunydd pecynnu a roddir ar y farchnad

Cymerwyd pwysau deunydd pecynnu cartrefi a roddwyd ar y farchnad yn 2022 o adroddiadau PackFlow Refresh 2023.[footnote 8]

Defnyddiwyd y diffiniad newydd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn Rheoliad 7 or offeryn statudol diwygio Rheoliadau Gwastraff Deunydd Pecynnu (Adroddiadau Data) (Lloegr) (Diwygio) 2024[footnote 9] cyn belled ag yr oedd yn ymarferol ar y pryd. Bydd iteriadaur dyfodol or ffioedd sylfaenol enghreifftiol yn llwyr ymgorfforir diffiniad wedii ddiweddaru o ddeunydd pecynnu cartrefi.

Cyfrifwyd amcangyfrifon uwch ac is i gyfrif am amrywiadau yn y modd y gellir dosbarthu deunydd pecynnu fel deunydd pecynnu cartrefi. Roedd yr amcangyfrif canolradd o ddeunydd pecynnu cartrefi yn seiliedig ar adio pwysau deunydd pecynnu defnyddwyr a phwysau deunydd pecynnu cludfwyd y sector lletygarwch a adroddwyd yn PackFlow. Cynhyrchwyd amcangyfrif uwch trwy gymryd amcangyfrif PackFlow o gyfanswm pwysau deunydd pecynnur sector defnyddwyr a lletygarwch i efelychu gwallau posibl yn deillio o ddosbarthu holl ddeunydd pecynnur sector lletygarwch fel deunydd pecynnu cartrefi. Cyfrifwyd amcangyfrif is trwy dynnur gwall canrannol dangosol syn gysylltiedig 但 phwysau deunydd pecynnu defnyddwyr a amcangyfrifwyd ar gyfer pob categori.

Er mwyn cefnogi buddsoddiad yn Sefydliad(au) Rheoli Ernes y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS), mae cynwysyddion alwminiwm, dur a diodydd plastig PET o fewn cwmpas DRS wediu heithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Bydd cynwysyddion diodydd gwydr yn cael eu cwmpasu gan pEPR. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnwys gwydr yng nghwmpas y DRS ac yn y pen draw bydd yn cael ei eithrio o ffioedd costau gwaredu pEPR. Os na fydd DRS wedii sefydlu erbyn 1 Ionawr 2028, bydd cynhyrchwyr cynwysyddion diodydd syn bodlonir diffiniad o ddeunydd pecynnu DRS yn ddarostyngedig ir ystod lawn o rwymedigaethau pEPR, hyd nes y bydd DRS yn weithredol.

Troednodiadau

  1. Valpak and WRAP (2024) 油

  2. Ni fwriedir ir ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gynhwysir yn y ddogfen hon fod yn gyfystyr 但 chyngor neu wybodaeth y dylai Cynhyrchwyr ddibynnu arni (gan gynnwys at ddibenion cynllunio busnes). Ni fydd y Llywodraeth yn atebol am unrhyw golled ariannol os bydd cynhyrchwyr yn defnyddior ffioedd sylfaenol enghreifftiol hyn yn y ddogfen hon at ddibenion cynllunio neu at ddibenion eraill.油

  3. WRAP (2017) 油油

  4. Office for Budget Responsibility (2024) 油油油

  5. 油油

  6. WRAP (2017) 油油油

  7. 油HM Treasury (2023) 油油油

  8. Valpak and WRAP (2024) 油