Guidance

Gorchmynion Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

Updated 4 November 2021

Gallai Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM eich helpu os ydych yn pryderu oherwydd eich bod chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi bod trwy neu mewn perygl o fynd trwy FGM.

Beth yw FGM

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn golygu pob gweithred syn cynnwys cael gwared 但 rhan neur cyfan or organau cenhedlu benywaidd allanol neu anaf arall ir organau cenhedlu benywaidd am resymau anfeddygol. Nid oes unrhyw fanteision iechyd iddo ac maen niweidio merched a benywod mewn sawl ffordd. Maen golygu niweidio a chael gwared 但 meinwe organau cenhedlu benywaidd iach a normal, ac felly maen ymyrryd 但 gweithrediad naturiol cyrff merched a benywod. Maer arfer yn achosi poen difrifol ac mae nifer o ganlyniadau uniongyrchol a thymor hir iddo, gan gynnwys anawsterau wrth roi genedigaeth - sydd hefyd yn rhoir plentyn mewn perygl.

Ceir nifer o enwau am FGM, gan gynnwys torri organau cenhedlu benywod, enwaedu neu derbyn. Maer oed pan fydd FGM yn cael ei gyflawni ar ferched neu fenywod yn amrywion sylweddol yn 担l y gymuned a gallai ddigwydd yn y DU yn ogystal 但 thramor. Gallair weithred ddigwydd pan fo merch newydd gael ei geni, yn ystod plentyndod neu lasoed, ychydig cyn priodi neu yn ystod beichiogrwydd cyntaf. Fodd bynnag, credir bod y mwyafrif o achosion yn digwydd rhwng 5 ac 8 oed ac, felly, mae merched yn yr oedran hwnnw mewn mwy o berygl.

Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, maer arfer yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 ac yn Yr Alban maen anghyfreithlon o dan Ddeddf Gwahardd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Yr Alban) 2005. Dan Ddeddf 2003, mae unigolyn yn euog o drosedd os ywn anffurfio rhan neur cyfan o organau cenhedlu merch neu fenyw, gan gynnwys cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun neu gynorthwyo rhywun or tu allan ir DU i anffurfio organau cenhedlu merch dramor.

Sut y gall Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM eich helpu

Gall Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM helpu os ydych:

  • yn credu eich bod chi mewn perygl o orfod mynd trwy FGM
  • eisoes wedi bod trwy FGM; neu
  • yn adnabod rhywun sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM

Mae Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM yn unigryw i bob achos ac maent yn cynnwys amodau cyfreithiol rwymol a chyfarwyddiadau ich amddiffyn chi neur unigolyn sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM. Gall y llys wneud gorchymyn ar frys fel bod camau amddiffyn mewn lle ar unwaith.

Gall y llys wneud Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM:

  • ich amddiffyn chi neu unigolyn arall sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM; neu
  • ich amddiffyn chi neu unigolyn arall sydd wedi bod trwy FGM

Gellir gwneud ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag FGM ar yr un pryd ag ymchwiliad gan yr heddlu, achos troseddol arall neu achos yn y llys teulu. Gall rhywun syn anufuddhau i orchymyn llys gael ei anfon ir carchar am hyd at ddwy flynedd am ddirmyg llys, ond mae torri amodau Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM hefyd yn drosedd sydd 但 dedfryd fwyaf o bum mlynedd yn y carchar.

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM

Gellir gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM mewn Llys Teulu yng Nghymru a Lloegr.

.

Pwy all wneud cais

  • yr unigolyn sydd iw amddiffyn gan y gorchymyn
  • trydydd parti perthnasol
  • unrhyw unigolyn arall gyda chaniat但d y llys

Rhywun a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor i wneud ceisiadau ar ran pobl eraill yw Trydydd Parti Perthnasol.

Gall oedolion neu blant (sef rhai dan 18 oed) wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM. Gall plant gael cyfaill agosaf neu rywun iw cynorthwyo, ond nid oes rhaid iddynt, os oes ganddynt gynrychiolydd cyfreithiol neu os ywr llys yn cytuno.

Os ydych yn pryderu am ddod ir llys

Ysgrifennwch eich pryderon ar eich ffurflen gais neu gwnewch gais ysgrifenedig ir Rheolwr Cyflawni yn y Llys cyn gynted 但 phosib, neu efallai y bydd oedi cyn gwrandor cais.

Efallai y bydd llysoedd yn gallu cynnig:

  • mannau aros ar wah但n yn y llys;
  • drysau ar wah但n i fynd i mewn ac allan or llys
  • lle parcio ar dir y llys i hwyluso mynediad rhwydd i adeilad y llys ar gyfer tystion syn cael eu bygwth

Efallai y bydd cyfleusterau amddiffyn tystion ar gael mewn rhai llysoedd.

Os ydych yn pryderu am roi tystiolaeth yn yr ystafell llys

Dywedwch wrth y llys beth yw eich pryderon yn eich ffurflen gais. Bydd y llys yn penderfynu beth syn briodol a gall orchymyn:

  • bod sgriniaun cael eu gosod i sicrhau nad yw tystion yn gallu gweld yr atebwyr yn y llys (yn y math hwn o achos, yr atebydd/atebwyr ywr unigolyn/unigolion yr honnir eu bod yn trefnu gweithred FGM). Rhoddir y sgriniau o amgylch y blwch tystion yn y llys fel na all y tyst weld yr atebwyr, ac ni all yr atebwyr weld y tyst tra byddant yn rhoi tystiolaeth.
  • bod tystiolaeth yn cael ei recordio ar fideo. Mae hyn yn caniat叩u i gyfweliad gydar tyst, sydd wedi cael ei recordio cyn y gwrandawiad, gael ei ddangos fel prif dystiolaeth y tyst yn ystod y gwrandawiad, - nid oes rhaid ir tyst ailddweud beth mae wedii ddweud eisoes, ond maen rhaid iddynt fod ar gael i gael eu croesholi os bydd angen.
  • cyswllt teledu/fideo byw, syn caniat叩u ir tyst roi tystiolaeth or tu allan ir ystafell llys. Mae hyn yn caniat叩u i dyst roi tystiolaeth drwy gyswllt teledu o ystafell arall yn adeilad y llys neu o adeilad arall. Er nad ywr tyst yn dod i mewn ir ystafell llys, bydd y bobl syn bresennol yn y llys yn gweld y tyst yn rhoi tystiolaeth ar y monitor teledu.

Y llys sydd i benderfynu beth syn briodol, os oes unrhyw beth, ym mhob achos.

Os oes gennych anabledd ac mae angen cymorth neu gyfleusterau arbennig arnoch, cysylltwch 但r llys i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Os bydd angen cyfieithydd arnoch, bydd angen i chi roi gwybod ir llys fel y gellir trefnu bod un yn bresennol, gan nodir iaith ar dafodiaith.

Costau

Nid oes ffi llys yn daladwy am wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM ar gyfer chich hun neu ar ran rhywun arall. Yn yr un modd, nid oes ffi llys yn daladwy am unrhyw drefniadau llys ychwanegol syn gysylltiedig 但ch achos, megis:

  • ceisiadau i amrywio neu derfynu gorchymyn
  • ceisiadau ir Llys Teulu ystyried sut y dylid delio 但r unigolyn sydd wedi torri amodaur gorchymyn
  • cais i feili llys gyflwynor gorchymyn

Ceisio cymorth cyfreithiol

Mae cymorth cyfreithiol ar gael pan fyddwch yn cael eich cynrychioli mewn mater Amddiffyn rhag FGM, gan gynnwys traddodi am dorri amodau gorchymyn. Gall cyfreithiwr, neu aelod o un o Ganolfannaur Gyfraith neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich cynghori o ran a oes gennych achos rhesymol ai peidio.

Rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol

Neu ffoniwch 0845 345 4 345 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 6:30pm).

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM eich hun

Gallwch chi wneud hyn neu gallwch ofyn i gyfreithiwr wneud hyn ar eich rhan. Os ydych yn gwneud cais eich hun, maen rhaid i chi fod yn barod i lenwir ffurflenni ar datganiadau perthnasol, ac egluro eich achos ir llys.

Os bydd angen help arnoch i lenwir ffurflenni hyn, ac os nad ydych chin adnabod ffrind neu berthynas a allai helpu, dylech fynd i weld cyfreithiwr neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gall staff y llys helpu drwy egluro gweithdrefnaur llys, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol ar deilyngdod achosion unigol na rhoi cyngor am y canlyniad posibl.

Bydd arnoch angen gwneud Cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) (Ffurflen FGM001).

Os oes arnoch angen caniat但d y llys i wneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen i chi lenwi Ffurflen FGM006 Cais am ganiat但d i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Maer holl ffurflenni hyn ar gael iw lawrlwytho yn rhad ac am ddim o 51画鋼 neu gallwch eu cael o unrhyw un or .

Bydd angen i chi wneud datganiad, os ydych yn gofyn am ir cais gael ei wrando heb roi rhybudd ir atebwyr mewn sefyllfa frys neu mewn argyfwng.

Dylair cais gynnwys manylion ynghylch sut rydych eisiau ir llys eich amddiffyn chi neur unigolyn sydd mewn perygl o fynd trwy FGM, e.e. i atal rhywun rhag mynd 但 chi neur unigolyn sydd mewn perygl dramor er mwyn cyflawni FGM.

Dylair cais gynnwys manylion unrhyw drafodaethau sydd wedi achosi i chi gredu y gallech fod mewn perygl o orfod mynd trwy FGM.

Os nad ydych yn dymuno datgelu eich cyfeiriad neu gyfeiriad unrhyw un a nodwyd yn y ffurflen gais ir atebwyr, dylech lenwi Ffurflen C8 Cyfeiriad Cyfrinachol.

Gallwch lawrlwythor ffurflenni oddi ar 51画鋼 neu gallwch ddod o hyd iddynt mewn unrhyw .

Cael gorchymyn ar frys

Cewch ofyn ir llys ystyried eich cais ar unwaith a gwneud gorchymyn heb gyflwyno unrhyw ddogfennau ir atebwyr. Gelwir hyn yn orchymyn ex-parte neu orchymyn heb rybudd.

Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn heb rybudd, fe gewch apwyntiad arall i ddod ir llys. Bydd gan yr atebwyr hawl i fod yn bresennol yn yr apwyntiad hwn er mwyn ir barnwr wrando ar bawb cyn penderfynu a ddylai wneud gorchymyn arall ai peidio.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn heb rybudd, maen rhaid i chi wneud datganiad tyst, gan gynnwys datganiad gwirionedd. Os ydych yn cynrychioli eich hun, maen rhaid i chi wneud datganiad ysgrifenedig, yn nodi pam bod angen eich amddiffyn, a mynd ag ef ir llys gydach ffurflen gais FGM001. Dylai datganiad gwirionedd ddweud y canlynol:

Datganiad Gwirionedd

Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un syn gwneud datganiad anwir, neu syn achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredun onest ei fod yn wir. Rwyn credu bod y ffeithiau a nodir yn y ffurflen hon, ac ar unrhyw ddalennau parhau, yn wir.

Cyflwynor ffurflenni

Dylech gyflwynor ffurflenni wediu llenwi drwyr post neun bersonol, a darparu cop誰au ir llys. Gallwch anfon eich cais drwy e-bost hefyd.

Cyflwynor ffurflenni ir llys.

Rhaid cyflwynor ffurflen gais (FGM001 neu FGM006 os ywn berthnasol) ar ffurflen Rhybudd o Wrandawiad (FGM002) ir atebwyr ar unigolion eraill. Os yw cyfreithiwr yn eich helpu, anfonir y ffurflenni atynt hwy iw cyflwyno.

Mae er eich budd chi i fod yn bresennol ar y dyddiad a nodir ar y ffurflen. Dylech fod yn barod i roi unrhyw dystiolaeth yr ydych yn meddwl y bydd yn eich helpu i gyflwyno eich ochr chi or achos.

Gallwch ofyn ir llys gyflwynor dogfennau ar eich rhan. Bydd y llys yn gofyn i chi lenwi ffurflen D89 - Cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys. Yna, bydd y llys yn trefnu ir beili gyflwyno copi och cais a dogfennaeth arall.

Ceisiadau electronig

Os ydych yn bwriadu cyflwynoch cais drwy e-bost, dim ond un copi or cais wedii gwblhau y bydd angen i chi ei anfon ir cyfeiriad e-bost perthnasol sydd yn y gwybodaeth am lysoedd ar ddiwedd y cyfarwyddyd hwn.

Maen rhaid ir ffurflen electronig gynnwys llofnod neu enw wedii deipio yn y datganiad gwirionedd. Bydd angen i chi gadw eich dogfen wreiddiol wedii llofnodi a bydd angen ir llys weld y ddogfen honno.

Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy e-bost ar 担l 4pm yn cael eu prosesu tan y diwrnod gwaith dilynol.

Trefnu ir papurau gael eu cyflwyno

Os ydych yn geisydd unigol, rhaid i chi beidio 但 chyflwynor cais nar gorchymyn ar yr atebydd eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol gallwch wneud cais i swyddog y llys eu cyflwyno ar eich rhan am ddim. Llenwch ffurflen D89 - Cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys ai chynnwys gydach cais.

Ar 担l ir dogfennau gael eu cyflwyno, rhaid ir sawl syn cyflwynor papurau lenwi Datganiad Cyflwyno (Ffurflen FL415) ai ffeilio yn y llys. Mae Ffurflen FL415 yn nodi pwy y cyflwynwyd y dogfennau iddynt, sut ac ym mhle y rhoddwyd y dogfennau iddynt, ar ba ddiwrnod a faint or gloch.

赫温鉛鉛敬界鞄油lawrlwythor ffurflenni oddi ar 51画鋼neu gallwch ddod o hyd iddynt mewn unrhyw.

Os na allwch ddod o hyd i gyfeiriad y rheiny y mae angen cyflwyno iddynt neu os ywn ymddangos eu bod yn osgoir cyflwyno, cewch ofyn ir llys gyflwynor papurau mewn ffordd arall (er enghraifft, yn eu gweithle).

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Bydd gwrandawiad cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM yn cael ei wrando yn breifat (gelwir hyn fel arfer yn siambrau), oni bai fod y llys yn cyfarwyddo fel arall, a bydd y gwrandawiad yn cael ei gofnodi. Gall y llys ganiat叩u i bobl eraill fod yn bresennol yn y llys, er enghraifft, ffrind neu gynghorydd annibynnol, i roi cefnogaeth. Efallai y bydd gofyn i geiswyr roi tystiolaeth lafar yn y llys. Bydd hyd y gwrandawiad yn amrywio, yn ddibynnol ar gymhlethdod yr achos ac a ywr atebwyr yn gwrthwynebur honiadau ai peidio.

Pan fydd y llys yn deall safbwynt y ddau barti, gall benderfynu ar unrhyw rai or canlynol:

  • bod arno angen rhagor o wybodaeth amdanoch chi, ar holl atebwyr. Cewch wybod pa wybodaeth ychwanegol iw darparu;
  • bod arno angen rhagor o wybodaeth, ond ei fod yn barod i wneud gorchymyn dros dro (interim) nes bod yr holl wybodaeth ychwanegol wedii darparu. Byddwch yn cael apwyntiad newydd, gorchymyn dros dro, a dywedir wrthych pa wybodaeth ychwanegol iw darparu.
  • ei fod yn barod i wneud gorchymyn am gyfnod penodol, ac y bydd y llys yn ailystyried yr achos ar 担l hynny. Fe gewch ddyddiad apwyntiad newydd a chopi or gorchymyn llys.
  • ei fod yn barod i wneud gorchymyn - gall y llys wneud gorchymyn am gyfnod penodol neu gallair gorchymyn barhau am gyfnod amhenodol nes y caiff ei amrywio neu ei ryddhau gennych chi, yr atebwyr neur llys ei hun. Rhoddir copi or gorchymyn i chi.

Ar 担l y gwrandawiad

Os ywr llys wedi gwneud Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM, bydd y ceisydd yn cyflwyno copi or gorchymyn ac unrhyw ddogfennau llys eraill ir atebwyr, ir unigolyn syn destun yr achos (os nad ywn geisydd), ac unrhyw un arall a enwir yn y gorchymyn yn bersonol cyn gynted ag syn rhesymol bosibl. Gallwch ofyn ir llys gyflwynor dogfennau ar eich rhan.

Bydd y llys yn anfon copi or gorchymyn llys drwy e-bost at yr heddlu o fewn 24 awr iddo gael ei selio. Mewn llawer o achosion, bydd hyn cyn ir atebydd gael y gorchymyn neu ei hysbysu fel arall or gorchymyn.

Yn ogystal, pan fydd y gorchymyn yn cael ei gyflwyno ir atebydd neu pan hysbysir yr atebydd am deleraur gorchymyn, rhaid dweud wrth yr heddlu bod hyn wedi digwydd. Os ywr llys wedi cyflwynor gorchymyn, yna bydd y llys yn dweud wrth yr heddlu.

Os ydych chi neuch cyfreithiwr yn gyfrifol am gyflwynor gorchymyn, yna bydd angen i chi neuch cyfreithiwr anfon hysbysiad o wasanaeth at yr heddlu o fewn 2 ddiwrnod ar 担l ir gorchymyn gael ei gyflwyno neu ir atebydd gael ei hysbysu.

Bydd y llys yn rhoi templed i chi ei ddefnyddio at y diben hwn, e-bostiwch hwn i protectionorders@pds.police.uk.cjsm.net.

Gallwch dynnur cjsm.net or cyfeiriad os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer rhwydwaith diogel cjsm, ai anfon i protectionorders@pds.police.uk.

Peidiwch ag atodi unrhyw ddogfen arall

Pan fydd y gorchymyn wedii gyflwyno neu pan fydd yr atebydd wedi cael gwybod am y gorchymyn, bydd angen i chi neuch cyfreithiwr anfon datganiad o wasanaeth ir llys hefyd.

Amrywio, ymestyn neu derfynur gorchymyn

Gallwch wneud cais i amrywio, ymestyn neu ryddhau gorchymyn amddiffyn rhag FGM yn ddiweddarach. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen FGM003 - Cais i amrywio, ymestyn neu ryddhau Gorchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Os na fydd yr atebydd yn ufuddhau ir gorchymyn

Gellir delio ag achos o dorri amodau gorchymyn amddiffyn rhag FGM yn y Llys Teulu neu drwy erlyniad mewn llys troseddol.

Dan baragraff 7(1) Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003, gallwch wneud cais ir Llys Teulu i gael ymdrin 但r tor-amod fel dirmyg llys a gwneud cais ir Llys Teulu am warant arestio. Rhaid ir cais am warant arestio gael ei gefnogi gan ddatganiad yn nodi sut y torrwyd amodaur gorchymyn. Rhaid gwneud cais ar Ffurflen FGM005 Warant Arestio Gorchmynion Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Pan fydd llys teulun dyfarnu bod unigolyn wedi torri amodaur gorchymyn, bydd y llys yn delio gyda nhw dan ei bwerau dirmyg llys, a all gynnwys eu hanfon ir carchar am hyd at ddwy flynedd.

Fel arall, gellir rhoi gwybod yn uniongyrchol ir heddlu am achosion honedig o dorri amodau Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM, a gall yr heddlu arestior sawl sydd dan amheuaeth o dorri amodaur gorchymyn. Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu ir tor-amod, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag erlyniad drwy gymhwysor prawf cam 2 yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron: a oes digon o dystiolaeth i ddarparu posibilrwydd realistig o euogfarn ac, os felly, a yw erlyniad er budd y cyhoedd. Y gosb fwyaf am dorri amodau Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM yw pum mlynedd o garchar.

Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu peidio ag erlyn am ba bynnag reswm, mae caniat但d o hyd i chi wneud cais ir Llys Teulu am warant arestio am ddirmyg llys fel y nodir uchod.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn cael ei ddyfarnun euog or tor-amod mewn llys troseddol, ni ellir eu cosbi am ddirmyg llys nar ffordd arall.

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod: rhagor o gymorth a chyngor ar 51画鋼

neu:

Am ragor o wybodaeth a chyngor ar wasanaethau lleol, ffoniwch linell gymorth FGM yr NSPCC ar 0800 028 3550, 24 awr y dydd, neu anfonwch neges e-bost i fgmhelp@nspcc.org.uk.

Y Llys Teulu syn delio 但 cheisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag FGM. Dylid anfon cais ir llys teulu syn eistedd mewn canolfan llys syn delio 但 Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM. Maer canolfannau llysoedd hyn fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Mae gwasanaethau cownter ar gael o 10am tan 2pm, ond mewn rhai canolfannau, rhaid gwneud apwyntiad. Dywedwch wrth y Llys pan fyddwch yn cyrraedd fod eich mater yn un brys.

Lawrlwythwch y ffurflenni oddi ar 51画鋼 neu gallwch ddod o hyd iddynt mewn unrhyw .