Cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio
Diweddarwyd 19 Rhagfyr 2023
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelun bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 但 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
I weld hanes diweddariadaur cyfarwyddyd ymarfer hwn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: hanes diweddariadau.
1. Cyflwyniad
Gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf tir os collwyd neu os dinistriwyd gweithredoedd yr eiddo. Mae gan Gofrestrfa Tir EF ofynion a threfnau arbennig ar gyfer y ceisiadau hyn, syn cael eu dangos yn y cyfarwyddyd hwn. Ceir darpariaethau penodol o ran ceisiadau lle y mae gweithredoedd teitl wedi eu colli neu eu dinistrio yn rheol 27 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Os yw teitl meddiannol iw roi, rhaid cydymffurfio 但 gofynion adran 9(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Bydd angen i chi roi disgrifiad or digwyddiadau sydd wedi arwain at y colli neu ddinistrio, y byddwn yn ei ystyried ar ei deilyngdod ei hun. Fodd bynnag, yn 担l pob tebyg byddwn yn rhoi teitl meddiannol yn unig lle nad ywr dystiolaeth a ddarparwyd yn cadarnhaur digwyddiadau hynny a hanes y teitl tu hwnt i amheuaeth. Yn aml maen bwysicach profi pwy oedd yn dal y gweithredoedd cyn eu colli neu eu dinistrio na phenderfynu beth oedd ynddynt.
Weithiau pan fydd gweithredoedd yr eiddo wedi eu colli neu eu dinistrio byddwn yn gofyn i arolygwr tir or Arolwg Ordnans archwilior tir cyn i ni gwblhaur cofrestriad. Efallai bydd ffi yn daladwy os oes angen archwiliad.
Mae llawer or ceisiadau hyn yn gysylltiedig 但 sefyllfaoedd lle cafodd y gweithredoedd (neu rai ohonynt) eu colli neu eu dinistrio tra yng ngafael trawsgludwr, banc neu gymdeithas adeiladu (neu ar eu ffordd yn 担l yn y post). Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau lle digwyddodd y colli neu ddinistrio o dan amgylchiadau eraill. Gall y rhain gynnwys lladrad gweithredoedd, neu eu dinistrio mewn trychineb naturiol neu o ganlyniad i ymosodiad gelyn.
2. Gwneud cais
Dylech wneud cais am gofrestriad cyntaf gan ddefnyddio ffurflen FR1 a ffurflen DL a sicrhau bod y t但l priodol wedi ei gyflwyno. Os ydych yn ansicr o sut i wneud cais am gofrestriad cyntaf cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.
Yn lle cyflwynor teitl dogfennol arferol bydd angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi disgrifiad or digwyddiadau sydd wedi arwain at y colli neu ddinistrio
- ailffurfior teitl hyd y gallwch
- rhoi tystiolaeth o bwy ywr ceisydd
Argymhellwn eich bod yn anfon ffurflen ST3: Datganiad o wirionedd i gefnogi cais i gofrestru tir ar sail gweithredoedd a gollwyd neu a ddinistriwyd gyda ffurflen FR1 a ffurflen DL. Maer ffurflen hon yn gosod y fframwaith ar gyfer y wybodaeth ar dystiolaeth y bydd yn rhaid i chi eu darparu.
Yn unol 但n Cyfarwyddyd: Dogfennau iw hanfon gyda chais am gofrestriad cyntaf Gweithredoedd coll a meddiant gwrthgefn, dim ond cop誰au ardystiedig o ffurflen ST3, datganiadau statudol a thystiolaeth arall, megis ffurflen 1D1 a ffurflen ID2, y dylid eu cyflwyno. Unwaith y byddwn wedi sganior dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol ar cop誰au ardystiedig.
Os nad ydych yn cadwr gwreiddiol neu eich cop誰au eich hunan, a bod eich cais yn cael ei wrthod neu ei ddileu, gallwch gael cop誰au or dogfennau sydd wedi eu sganio au dinistrio (ac eithrio tystiolaeth hunaniaeth unrhyw berson). Lle bo modd, dylid gwneud pob cais am gop誰au swyddogol yn electronig. Mae cyfarwyddyd ymarfer 11: Atodiad: dulliau cyflenwi yn cynnwys manylion y dull cyflwyno ar gyfer ceisiadau am gop誰au swyddogol.
Nid oes yn rhaid defnyddio ffurflen ST3, ac nid yw ei defnyddion gwarantu y bydd eich cais yn llwyddiannus, ond bydd yn eich cynorthwyo i wneud yn siwr nad ydych wedi hepgor unrhyw ofynion a nodir yn fanwl isod.
Fodd bynnag, bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd syn cwrdd 但 gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn dderbyniol, fel y bydd datganiad statudol. Gweler Datganiad o wirionedd.
Fel gydag unrhyw gais am gofrestriad cyntaf maen ddyletswydd arnoch i ddadlennu rhai mathau o fuddion gor-redol os ydynt yn effeithio ar y tir. Mae dadlennun arbennig o ddefnyddiol lle mae gweithredoedd teitl wedi eu colli neu eu dinistrio, gan nad yw buddion fel hawddfreintiau, y g典yr perchennog yr ystad eu bod yn effeithio ar y tir, efallai yn ymddangos or teitl dogfennol a ailffurfiwyd. Mae cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol au dadlennu yn cynnwys gwybodaeth am ba fuddion y dylech eu dadlennu a sut iw dadlennu.
O dderbyn y cais maen bwysig iawn i Gofrestrfa Tir EF allu adnabod yr eiddo syn destun eich cais iw gofrestru ar fap yr Arolwg Ordnans (i gydymffurfio 但 rheol 24(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os na allwn wneud hyn byddwn yn gwrthod y cais. Gall y teitl a ailffurfiwyd gynnwys cynllun syn dangos y tir ar fap yr Arolwg Ordnans. Os nad yw, ac y credwch y gallwn ei chael yn anodd adnabod yr eiddo o ddisgrifiad llafar, rhaid i chi ddarparu cynllun a fydd yn caniat叩u i ni nodir tir ar fap yr Arolwg Ordnans. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ystyried disgrifiadau llafar yn addas heblaw:
- eu bod yn gysylltiedig 但 chyfeiriadau post (heblaw fflatiau neu adeiladau lle bydd seler yn estyn tu hwnt ir ffin ar y ddaear yn yr achosion hyn rhaid i chi ddarparu cynllun, rheol 26(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
- bod yr eiddo wedi ei ffension llawn ai bod yn amlwg bod yr holl gwrtil yn ffurfio rhan or eiddo
2.1 Disgrifiad or digwyddiadaun arwain at y colli neu ddinistrio
Mae angen disgrifiad llawn a ffeithiol or digwyddiadau yn arwain at golli neu ddinistrior gweithredoedd a materion eraill perthnasol ir teitl ar Gofrestrfa Tir EF. Rhaid ir sawl syn gwybod fwyaf am y materion arbennig a ddisgrifiwyd roir adroddiad.
Maen dilyn ei bod yn eithaf tebygol y bydd yr adroddiad a roddwch yn cynnwys nifer o ddatganiadau statudol, datganiadau o wirionedd neu dystysgrifau oddi wrth:
- y ceisydd
- un trawsgludwr neu fwy
- swyddog banc neu gymdeithas adeiladu
Er enghraifft, lle collwyd y gweithredoedd tra yng ngafael banc a bod trawsgludwr wedi archwilior teitl yn ddiweddar, dylair trawsgludwr roi tystysgrif neu ddatganiad ar y teitl a dylai un o swyddogion y banc roi cyfrif am y golled.
Bydd angen ich adroddiad brofir canlynol:
- gan bwy oedd y gweithredoedd ac ymhler oeddent yn cael eu dal pan gawsant eu colli neu eu dinistrio
- pam oedd y gweithredoedd yng ngafael y person, ee a oeddent yn cael eu dal iw cadwn ddiogel neu fel gwarant am arian dyledus neu o dan hawlrwym
- pryd, ymhle a sut y digwyddodd y golled neu ddinistr
- pa gamau a gymrwyd i adennill y gweithredoedd
- a oedd y perchennog ar adeg y golled wedi creu unrhyw forgais, arwystl neu hawlrwym ar yr eiddo neu wedi adneuor gweithredoedd gydag unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff fel gwarant am arian
- a ywr ceisydd yn meddiannu neun derbyn y rhent ar proffidiau; gweler Tystiolaeth o feddiant
- bod gan y ceisydd hawl i wneud cais am gofrestriad trwy fod yr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddynt (neu fod ganddynt hawl i fynnu cael yr ystad gyfreithiol wedi ei breinio ynddynt); gweler Ailffurfio teitl
Fel arfer dylair adroddiad fod ar ffurf datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd. Fodd bynnag, byddwn yn barod i dderbyn tystysgrif trawsgludwr neu swyddog awdurdodedig addas or banc neu gymdeithas adeiladu, yn disgrifio colli neu ddinistrio gweithredoedd oedd yn eu gafael. Rhaid ir trawsgludwr lofnodir dystysgrif yn bersonol, ac nid yn enw cwmni.
Bydd unrhyw ddatganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd gwreiddiol yn cael eu sganio au dinistrio o dan ein polisi ar drin dogfennau.
2.2 Ailffurfio teitl
Er mwyn cefnogir disgrifiad o golli neu ddinistrior gweithredoedd rhaid i chi geisio ailffurfior teitl i ddangos sut mae wedi disgyn ir ceisydd. Bydd natur ac ansawdd y dystiolaeth eilaidd yn amrywio ond rhaid i chi gyflwynor dystiolaeth orau a allwch. Nid oes modd s担n am bob sefyllfa yn y cyfarwyddyd hwn ond gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu wrth baratoir math hwn o gais.
2.2.1 Cynnwys gweithredoedd a chyflawni
Y dystiolaeth eilaidd orau bosibl o deitl yw copi ardystiedig neu ddrafft wedi ei gwblhau or trawsgludiad, trosglwyddiad neu aseiniad ir ceisydd (ac unrhyw forgais syn bodoli) ynghyd 但 chop誰au ardystiedig, drafftiau wedi eu cwblhau neu grynodebau archwiliedig or gweithredoedd yn ffurfior teitl cynharach. Ble bynnag y bo modd, dylid ardystio cop誰au fel cop誰au cywir a dylid marcio crynodebau fel wedi eu harchwilio gan drawsgludwr.
Dylid cefnogir cop誰au or gweithredoedd gyda datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif, fel y crybwyllwyd yn Disgrifiad or digwyddiadaun arwain at y colli neu ddinistrio, yn profir canlynol hyd y bo modd:
- bod y teitl wedi cael ei ymchwilio yn y ffordd arferol
- o ba ffynhonnell y cafwyd y copi or gweithredoedd
- y cyflawnwyd y trawsgludiad, trosglwyddiad neu aseiniad ir ceisydd (ac unrhyw forgais) yn briodol ai stampion ddigonol
Os collwyd yr holl gop誰au, drafftiau a chrynodebau hefyd, o dan rai amgylchiadau, fel ller oedd yr eiddon ffurfio rhan o ystad fwy, efallai y gallwch gael rhai yn eu lle oddi wrth y trawsgludwr a weithredodd ar ran gwerthwr y ceisydd.
Mae modd dangos tystiolaeth o ansawdd sylweddol is o feddiant a theitl gydar canlynol:
- rhestr o weithredoedd gyda derbynneb (os yw ei ffynhonnell ai tharddle yn cael eu cadarnhau trwy ddatganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif)
- cop誰au o ddatganiadau treth ystadau neu dreth etifeddiant, derbynebau am ardrethi a threthi, polis誰au yswiriant t但n a derbynebau am bremiymau yswiriant
2.2.2 Eiddo 但 morgais arno
Os oedd morgeisai yn dal y gweithredoedd pan gawsant eu colli neu eu dinistrio, mae datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif y trawsgludwr a ymchwiliodd y teitl, cyn ir rhoddwr benthyg roi benthyg, yn ffurfio tystiolaeth ategol ddefnyddiol o deitl y ceisydd.
Lle cafodd y gweithredoedd eu colli neu eu dinistrio tra yng ngafael morgeisai, rhaid i ddisgrifiad y digwyddiadau naill ai brofi bod y morgais yn bodoli neu roi manylion oi ad-dalu.
2.2.3 Eiddo diforgais
Rhaid i ddisgrifiad y digwyddiadau wneud yn glir a oedd morgais ar yr eiddo pan gafodd y gweithredoedd eu colli neu eu dinistrio. Dylai un neu fwy or datganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd ategol syn ffurfior disgrifiad ddatgan yn bendant nad oedd y perchennog, ar adeg y colli neu ddinistrio, wedi creu unrhyw forgais, arwystl na hawlrwym ar yr eiddo nac wedi adneuo unrhyw un o weithredoedd yr eiddo gydag unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff fel gwarant am arian.
2.2.4 Eiddo prydlesol
Os cafodd prydles wreiddiol ei cholli neu ei dinistrio, fel arfer mae modd cael copi ardystiedig o wrthran y brydles.
Maer rhan fwyaf o brydlesin cynnwys darpariaethau syn mynnu cofrestru aseiniadau gyda thrawsgludwr y prydleswr a/neu yn mynnu rhoi trwydded i neilltuor brydles. Os felly y mae, efallai y gall trawsgludwr y prydleswr roi manylion o gofnod y dogfennau a gyflwynwyd gan aseineion olynol a/neu drwyddedau i neilltuo a roddwyd. Sut bynnag, bydd y rifersiynydd presennol (neu ei asiant) yn gwybod pwy sydd wedi talur rhent yn ystod y cyfnod perchnogaeth cyfredol.
2.2.5 Chwiliadau pridiannau tir
Dylid cyflwyno chwiliadau pridiannau tir ar geisiadau sydd ar goll neu wedi eu dinistrio yn yr un modd ag unrhyw gais cofrestriad cyntaf arall. Sylweddolwn, fodd bynnag, na fydd yn bosibl efallai, i nodi perchnogion ystad y mae angen gwneud chwiliadau pridiannau tir yn eu herbyn am fod y gweithredoedd syn ymwneud 但r teitl digofrestredig ar goll neu wedi eu dinistrio, ond dylech gyflwynor chwiliadau canlynol o leiaf gydar cais, wedi eu gwneud yn enw llawn yr unigolyn neu gwmni y gwneir chwiliad yn eu herbyn a chan ddefnyddior sir gywir ac unrhyw siroedd blaenorol ar gyfer yr eiddo (mae angen chwiliad llawn ar dystysgrif K17 neu K18 arnom (hynny yw nid wedi ei gyfyngu i Methdaliad yn Unig)).
- Y ceisydd o ddyddiad y caffael i ddyddiad y cofrestru
- Prynwr uniongyrchol y ceisydd, lle maen wybyddus
- Yr ymadawedig ar cynrychiolydd(cynrychiolwyr) personol lle mair olaf ywr prynwr ir ceisydd neur ceisydd
- Y landlord lle y maer tenant gwreiddiol yn gwneud cais am roi teitl llwyr
- Y cymerwr benthyg lle y maer ceisydd yn caffael gan forgeisiai syn gweithredu o dan b典er gwerthu, o ddyddiad y caffael gan y cymerwr benthyg i ddyddiad y gwerthiant gan y morgeisiai
- Daliwr arall yr ystad gyfreithiol, os ywn wybyddus
- Gall y cofrestrydd gyfarwyddor cais i wneud chwiliadau os nad ydynt wedi eu cyflwyno (rheol 30 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
Os nad oes modd i drawsgludwr ardystio nad yw cofnod yn berthnasol, dylech allu gael copi swyddfa or cofnod or Adran Pridiannau Tir a chyflwyno hwnnw, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bellach or budd a warchodwyd (er enghraifft copi or ddogfen a greodd y budd).
Os ywn ymddangos bod y cofnod yn berthnasol ir eiddo, byddwn yn cofnodir cofnod yn y gofrestr.
2.2.6 Cofrestrfeydd gweithredoedd Middlesex a Swydd Efrog gynt
Os ywr tir yn yr ardal oedd gynt o dan un or cofrestrfeydd gweithredoedd hyn, gall datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu dystysgrif trawsgludwr sydd wedi archwilio cofysgrifau gweithredoedd brofi, neu gynorthwyo profi, cadwyn deitl.
Caeodd y cofrestrfeydd gweithredoedd erbyn hyn. Gallwch ddod o hyd i sut i gysylltu 但r cyrff syn dal y cofnodion hyn yn Manylion cysylltu cofrestrfeydd gweithredoedd sirol blaenorol.
Sylwer: Nid oedd Caer Efrog o fewn ardaloedd cofrestrfeydd gweithredoedd Swydd Efrog gynt.
2.2.7 Tystiolaeth o feddiant
Fel arfer dylai disgrifiad y digwyddiadau brofi bod y ceisydd naill ai mewn union feddiant or holl dir neun derbyn y rhent ar proffidiau ohono heb i unrhyw hawliad gwrthwynebus fod wedi cael ei wneud. Maer wybodaeth hon yn hanfodol lle bo teitl meddiannol yn cael ei roi (adran 9(5)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn achosion eraill bydd o gymorth in bodloni bod gan y ceisydd hawl i wneud cais am gofrestriad.
Cofiwch gynnwys tystiolaeth o feddiant gydach cais. Ar gyfer eiddo, gall hyn gynnwys bil cyfleustod neu fil cyngor neu os ywr ceisydd yn derbyn y rhent ar proffidiau, cop誰au or llyfr(au) rhent neu dderbynebau. Ar gyfer darn o dir nad ywn cynnwys eiddo a lle nad ywr rhent ar proffidiau gan y perchennog, dylai datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd fanylu sut y maer tir ym meddiant y ceisydd.
2.2.8 Ff誰oedd
Mae ffi o dan raddfa 1 y Gorchymyn Cofrestru Tir cyfredol yn daladwy ar werth yr ystad yn y tir a gynhwysir yn y cais (erthygl 2). Os gwneir cais gwirfoddol, caiff y ffi hon ei gostwng gan hyd at 25% (o dan erthygl 2(5). Nid ywr gostyngiad mewn ff誰oedd yn gymwys i geisiadau am gofrestriad cyntaf proffidiau a rhyddfreintiau neu am fwynfeydd a mwynau ar wah但n ir wyneb.
Maen bosibl y bydd ffi ychwanegol o 贈40 yn daladwy o dan erthygl 11 y os yw Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu bod archwiliad or tir sydd iw gofrestrun ofynnol. Byddwn yn cysylltu 但 chi am y ffi hon, os ywn ofynnol.
2.3 Tystiolaeth hunaniaeth
Gall Cofrestrfa Tir EF fynnu tystiolaeth o bwy ywr ceiswyr am gofrestriad cyntaf pan fyddant yn honni bod gweithredoedd yr eiddo wedi eu colli neu eu dinistrio. Bydd y dystiolaeth hon o gymorth i ddangos bod y ceisydd yn dal yr ystad gyfreithiol neu 但 hawl i wneud cais am gofrestriad. Mae hefyd yn amddiffyniad pwysig rhag twyll.
2.3.1 Pan nad yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol
Fel rheol, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am dystiolaeth hunaniaeth lle caiff y cais ei gyflwyno drwy un or canlynol:
- trawsgludwyr syn gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd yr eiddo wedi mynd ar goll tra yn eu gafael
- prif roddwyr benthyg morgeisi syn gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd yr eiddo yn cael eu dal fel gwarant ar gyfer morgais y rhoddwr benthyg ac wedi mynd ar goll tra yn eu gafael
- swyddog gydag awdurdod priodol ar ran awdurdod lleol, adran or llywodraeth neu gorff adnabyddus ledled y wlad syn gwneud cais am gofrestriad oherwydd bod gweithredoedd teitl yn ymwneud 但u tir, neu dir y mae ganddynt forgais arno, wedi mynd ar goll tra yn eu gafael
Fodd bynnag, ym mhob achos mae Cofrestrfa Tir EF yn cadwr hawl i wneud gwiriadau hunaniaeth a gweithredu trefnau cadarnhau ychwanegol o ran hunaniaeth.
Ni fydd angen tystiolaeth o bwy yw derbynnydd neu ddatodwr cwmni arnom. Rhaid i chi ddarparur canlynol, fodd bynnag.
- Tystiolaeth o benodir derbynnydd neu ddatodwr
- Lle caiff derbynnydd ei benodi o dan forgais neu arwystl, copi ardystiedig or morgais neu arwystl
Ymhob achos arall rhaid i ni gael tystiolaeth o bwy ywr ceisydd am gofrestriad cyntaf lle cafodd gweithredoedd yr eiddo eu colli neu eu dinistrio.
2.3.2 Pryd y mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol
Bydd tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ym mhob achos arall na cheir cyfeiriad atynt yn Pan nad yw tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol. Lle nad ywr ceiswyr yn cael eu cynrychioli gan drawsgludwr (er enghraifft cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig), bydd yn rhaid iddynt gyflwyno ffurflen tystiolaeth hunaniaeth ffurflen ID1 (unigolion) neu ffurflen ID2 (cwmn誰au a chorfforaethau). Am fanylion pellach gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.
2.4 Cyflwyno gweithredoedd a gollwyd o ddod o hyd iddynt
Rhaid i chi amg叩u ymrwymiad gydar cais y byddwch yn anfon unrhyw weithredoedd a gollwyd i Gofrestrfa Tir EF os ceir hyd iddynt wedi hynny. Os daw rhagor o dystiolaeth o deitl, boed yn ffafriol ir perchennog cofrestredig neu beidio, ir amlwg ar 担l cwblhaur cais, dylid gwneud cais arall os oes angen uwchraddior teitl. I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad Uwchraddio Dosbarth Teitl yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen UT1.
3. Cofnodion yn y gofrestr
Byddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol yn y gofrestr yn aml i warchod yn erbyn bodolaeth llyffetheiriau megis cyfamodau cyfyngu neu rent-daliadau a allai effeithio ar yr eiddo. Ni fydd cofnod amddiffynnol yn cyfeirio at hawddfreintiau cyfreithiol oherwydd bydd y rhain yn fuddion gor-redol ar gofrestriad cyntaf.
3.1 Cyfamodau cyfyngu heb eu dadlennu
Os na fu modd i chi ailffurfior teitl yn gyfan gwbl, gall gweithredoedd a gollwyd gynnwys neu gyfeirio at gyfamodau cyfyngu, all beidio bod yn amlwg or cais fel arall. Er enghraifft, maen arbennig o anodd darganfod bodolaeth cyfamodau yr aeth gwerthwr iddynt, fel cyfamodau bragdy. Lle bor teitl a ailffurfiwyd yn anghyflawn byddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol yn y Gofrestr Arwystlon. Bydd y cofnod yn datgan bod y fath gyfamodau cyfyngu ar y tir ag a osodwyd arno cyn dyddiad y cofrestriad cyntaf, ir graddau bod cyfamodau or fath yn bodoli a bod modd eu gorfodi.
Byddwn yn gwneud y cofnod hwn oherwydd y gall y sawl sydd 但 hawl i fudd y cyfamodau ddal iw gorfodi. Pe digwyddai hyn neu pe cywirwyd y gofrestr rywbryd wedyn i gynnwys y cyfamodau, ar yr olwg gyntaf byddai gan y perchennog cofrestredig hawl i indemniad. Ar y llaw arall, gall y sawl sydd 但 hawl i fudd y cyfamodau fod 但 hawl i indemniad os gwrthodwn gywiror gofrestr.
Os bu modd i chi ailffurfior teitl yn gyfan gwbl a darparu cop誰au derbyniol or holl weithredoedd, byddwn yn archwilior teitl yn y ffordd arferol ac yn gwneud unrhyw gofnodion priodol ar gyfer cyfamodau cyfyngu. Yn yr achosion hyn ni fyddwn yn gwneud cofnod amddiffynnol oni bai fod rhyw reswm arall dros wneud hynny, er enghraifft, lle bor gwreiddyn teitl yn forgais neu offeryn penodol syn annhebygol o gyfeirio at gyfamodau cyfyngu.
3.2 Cop誰au heb eu gwirio o gyfamodau cyfyngu
Efallai y bydd yn bosibl i chi gyflwyno dim ond cop誰au heb eu gwirio o gyfamodau cyfyngu. Yn 担l darpariaethau paragraff 1 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gall unrhyw un syn dioddef colled o ganlyniad i gywiror gofrestr, neu gamgymeriad y byddai ei gywiro yn golygu cywiror gofrestr, hawlio indemniad. Os byddwn yn gorfod cywiror gofrestr oherwydd bod manylion cyfamodau cyfyngu a gynhwyswyd gennym yn y gofrestr yn anghywir neun anghyflawn gallai arwain at hawliad or fath.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn aml yn derbyn ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn cynnwys manylion cyfamodau cyfyngu heb eu harchwilio. Os caiff y cyfamodau hyn eu cynnwys yn y gofrestr, rydym i bob diben yn gwarantu eu cywirdeb. Byddwn yn gwneud hyn dim ond lle bo perygl bod y crynodeb neu gopi yn ddiffygiol mor fychan fel bod modd eu trin yn ddiogel fel tystiolaeth gadarn o deleraur weithred.
Byddwn yn trin pob achos yn 担l ei deilyngdod. Fodd bynnag, yn gyffredinol:
- fel arfer caiff crynodebau argraffedig eu hystyried yn foddhaol
- mae modd derbyn crynodeb a deipiwyd os ywn ymddangos ei fod yn gyflawn ac wedi ei baratoin ofalus, yn arbennig pan for llain o dir syn teimlo effaith y cyfamodau yn un sylweddol (fel bod gwybodaeth helaeth am y cyfamodau).
Byddwn yn ystyried y canlynol hefyd.
- Lle bor cyfamodau yn cael eu dangos mewn copi o weithred ddiweddarach, a ywr copi hwnnw wedi ei nodi fel archwiliwyd neu beidio
- Natur y cyfamodau eu hunain
- Gwerth a sefyllfar tir
Yn achos hen weithredoedd Middlesex neu Swydd Efrog, efallai y bydd modd cael tystiolaeth ategol o gofnodion yr hen gofrestrfeydd gweithredoedd. (Gweler Cofrestrfeydd gweithredoedd Middlesex a Swydd Efrog gynt)
Os na allwn warantu cywirdeb manylion cyfamodau cyfyngu heb eu gwirio, byddwn yn gwneud cofnod ir perwyl bod y weithred berthnasol yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ond na chyflwynwyd naill air offeryn gwreiddiol na chopi ardystiedig na chrynodeb archwiliedig ohono ar gofrestriad cyntaf.
Fodd bynnag, rydym wedi cytuno 但 Chymdeithas y Cyfreithwyr i wneud cofnod heb warant fel a ganlyn pan fo cyfreithiwr yn gofyn yn benodol amdano:
Mae [trawsgludiad] y tir yn y teitl hwn [a thir arall] dyddiedig a wnaed rhwng yn cynnwys cyfamodau cyfyngu ond ni chyflwynwyd manylion ohonynt wedi eu gwirio ar gofrestriad cyntaf. Darparwyd y manylion or hyn syn honni i fod y cyfryw gyfamodau yn yr atodlen o gyfamodau cyfyngu i hyn gan , yn gweithredu ar ran gwerthwr yn [rhowch y flwyddyn].
Maer cytundeb gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr yn cwmpasu ceisiadau a gyflwynwyd gan gyfreithwyr yn unig. Os ydych am i ni wneud y cofnod hwn bydd angen i chi ddweud wrthym mewn llythyr eglurhaol.
3.3 Rhent-daliadau heb eu dadlennu
Gallwn wneud cofnod amddiffynnol yn y gofrestr pan for tir mewn ardal lle mae rhent-daliadaun gyffredin. Caiff y cofnod ei wneud o dan amgylchiadau tebyg ir rhai ar gyfer y cofnod amddiffynnol o ran cyfamodau cyfyngu, a gaiff ei grybwyll yn Cyfamodau cyfyngu heb eu dadlennu.
3.4 Hawddfreintiau
Os byddwch chi neur ceiswyr yn ymwybodol bod hawddfraint gyfreithiol ar y tir rydych yn ceisioi gofrestru na chaiff ei chrybwyll yn y teitl a ailffurfiwyd gennych, rhaid i chi ei dadlennu fel budd gor-redol ar ffurflen gysylltiedig DI (rheol 28 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Byddwn yn gwneud cofnod ar gyfer unrhyw hawddfreintiau syn effeithio er gwaeth ar y naill ai:
- a ymddangosodd yn y teitl a ailffurfiwyd
- a ddadlennwyd fel buddion gor-redol yn y cais
Maer cofnod yn y gofrestr am faich hawddfraint a ddatgelir fel budd gor-redol ar gofrestriad cyntaf yn sicrhau y bydd prynwr diweddarach yn cymryd yr hawddfraint yn ddarostyngedig iddi ac yn achos hawddfraint gyfreithiol yn osgoir posibilrwydd or eithriad ym mharagraff 3(1) Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 rhag bod yn gymwys.
Byddwn yn cofnodi budd hawddfreintiau cyfreithiol yn unig os ydych wedi dangos tystiolaeth foddhaol o deitl iddynt (rheol 33 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
4. Manylion cysylltu cofrestrfeydd gweithredoedd sirol blaenorol
4.1 Sir Middlesex
Ar waethaf cau Cofrestrfa Gweithredoedd Middlesex, cewch archwilio cofrestrir cop誰au o gofysgrifau 1709 i 1938 gyda mynegeion iddynt yn:
London Metropolitan Archives
40 Northampton Road
London EC1R 0HB
Ff担n 020 7332 3820
4.2 Traean Dwyrain Swydd Efrog
Erbyn hyn, mae cofnodion hen Gofrestrfa Weithredoedd Traean y Dwyrain, gan gynnwys cofysgrifau a mynegeion yn cwmpasur cyfnod 1708 i 1974, yng ngafael:
East Riding of Yorkshire Archives Service
County Hall, Champney Road
Beverley
East Yorkshire HU17 9BA
Ff担n 01482 392790
Cewch archwilior archif o wneud cais ymlaen llaw i Archifydd y Sir. Cofiwch ddweud eich bod am archwilio gweithredoedd wrth wneud trefniant.
4.3 Traean Gogledd Swydd Efrog
Erbyn hyn, mae Cofrestrfa Gweithredoedd Traean y Gogledd, syn cynnwys cop誰au a chofysgrifau o weithredoedd a wnaed rhwng 1736 a 1970, yng ngafael Archifdy Sirol Gogledd Swydd Efrog. Mae modd ei harchwilio ar adegau a drefnwyd ymlaen llaw yn ystod oriau swyddfa arferol, o wneud cais ymlaen llaw i Archifydd y Sir, yn y cyfeiriad canlynol ar gyfer gohebiaeth:
County Hall
Northallerton
North Yorkshire
DL7 8AF
Ff担n 01609 777585
4.4 Traean Gorllewin Swydd Efrog
Erbyn hyn, mae Cofrestrfa Gweithredoedd Traean y Gorllewin, syn cynnwys cop誰au a chofysgrifau o weithredoedd a wnaed rhwng 1704 a 1970, yng ngafael Gwasanaeth Archifau Gorllewin Swydd Efrog. Argymhellir eich bod yn gwneud trefniant ymlaen llaw i weld gweithredoedd oherwydd gall yr ystafelloedd ymchwil fod yn brysur iawn. Dylech gysylltu 但:
West Yorkshire Archive Service
West Yorkshire Joint Services
Nepshaw Lane South
Morley
LS27 7JQ
Ebost wakefield@wyjs.org.uk
5. Ffurflenni sydd ar gael
Gallwch lawrlwytho ffurflenni ST3, ID1 ac ID2 o wefan 51画鋼.
6. Datganiad o wirionedd
Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ei fabwysiadu yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil trwy dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.
6.1 Gofynion
At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn.
- Maen cael ei wneud yn ysgrifenedig gan unigolyn
- Rhaid iddo gael ei lofnodi gan y sawl syn ei wneud (oni bai nad ydynt yn gallu ei lofnodi gweler Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi)
- Nid oes rhaid iddo gael ei dyngu neu ei dystio
- Rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: Credaf fod y ffeithiau a materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir.
- Os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu yn ei lofnodi ar ran rhywun, rhaid ir trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a datgan ym mha rinwedd maen llofnodi gweler Llofnod gan drawsgludwr
6.2 Datganiad o wirionedd a lofnodir gan unigolyn nad ywn gallu darllen
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei lofnodi gan unigolyn nad ywn gallu darllen, rhaid ir datganiad:
- gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr, a
- chynnwys tystysgrif wedi ei llunio ai llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol.
Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir ir sawl syn gwneud y datganiad hwn sydd wedi ei lofnodi neu wedi gwneud [ei farc][ei marc] yn fy mhresenoldeb ar 担l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.
6.3 Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan unigolyn nad ywn gallu ei lofnodi, rhaid ir datganiad:
- nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
- gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn 担l cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw, a
- chynnwys tystysgrif wedi ei llunio ai llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:
Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [y sawl syn gwneud y datganiad o wirionedd hwn wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, wedi cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac wedi fy nghyfarwyddo iw lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] neu [fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir ir sawl syn gwneud y datganiad hwn sydd wedi fy nghyfarwyddo iw lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] ar 担l iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.
6.4 Llofnod gan drawsgludwr
Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan drawsgludwr, neu os yw trawsgludwr yn gwneud a llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad ywn gallu ei ddarllen neu ei lofnodi:
- rhaid ir trawsgludwr lofnodi yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu ei gyflogwr, a
- rhaid ir trawsgludwr ddatgan ym mha rinwedd maen llofnodi a, lle bon briodol, enw ei gwmni neu ei gyflogwr
7. Rhestr wirio ar gyfer cofrestriad cyntaf teitl os ywr gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio
Cyn cyflwyno eich cais, gwnewch yn siwr:
- y gallwn ni adnabod y tir ar fap yr Arolwg Ordnans
- bod y disgrifiad y digwyddiadau yn y datganiadau statudol, ffurflen ST3 neu dystysgrifau yn rhoi cyfrif digonol am golli neu ddinistrior gweithredoedd
- bod teitl y ceisydd ir tir wedi cael ei brofi
- eich bod wedi cynnwys tystiolaeth o feddiant
- eich bod wedi cynnwys yr holl chwiliadau pridiannau tir priodol
- bod y teitl wedi cael ei ailffurfio hyd y bo modd
- bod unrhyw fuddion gor-redol dadlenadwy y gwyddoch chi neu eich cleient amdanynt ac nad ydynt yn amlwg or teitl a ailffurfiwyd eu dadlennu gan ddefnyddio ffurflen DI
- eich bod wedi cynnwys ymrwymiad i anfon unrhyw weithredoedd a gollwyd i Gofrestrfa Tir EF os ceir hyd iddynt wedi hynny
- eich bod wedi llenwi ffurflen ID1 (neu ffurflen ID2) yn briodol ar gyfer pob ceisydd
- eich bod wedi talur ffi gywir
- eich bod wedi llofnodi ffurflen FR1
- eich bod wedi gwirior manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig ir holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn part誰on, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred.
8. Pethau iw cofio
Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau syn anghyflawn neun ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.