Canllawiau

Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: cyflwyniad

Diweddarwyd 24 Gorffennaf 2025

息 Hawlfraint y Goron 2025

Maer cyhoeddiad hwn wedii drwyddedu o dan deleraur Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i neu ysgrifennwch at y T樽m Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniat但d gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Maer cyhoeddiad hwn ar gael yn /government/collections/foreign-influence-registration-scheme.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk

Yngl天n 但r Canllawiau hyn

Maer canllawiau hyn yn rhoi cyflwyniad ir Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor. Fei bwriedir ar gyfer y rhai syn ceisio deall a ydynt yn cael eu heffeithio gan y gofynion.

Mae canllawiau mwy manwl ar gael ar yr haen dylanwad gwleidyddol 温r haen uwch.

Crynodeb

1. Maer Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn gynllun dwy haen syn galluogi tryloywder dylanwad tramor yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gweithgareddaur pwerau tramor syn perir risg fwyaf ir DU. Mae wedii gynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

2. Maer cynllun yn cynnwys haen dylanwad gwleidyddol a haen uwch. Maer cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion a sefydliadau gofrestru eu trefniadau gyda phwerau tramor ac endidau penodol a reolir gan bwerau tramor lle c但nt eu cyfarwyddo i gynnal gweithgareddau penodol yn y DU. Darperir rhagor o fanylion am ofynion pob haen or cynllun isod.

3. Gellir cwblhau cofrestru ar wasanaeth cofrestru ar-lein FIRS.

Gofynion yr haen dylanwad gwleidyddol

4. Maer haen dylanwad gwleidyddol yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion neu sefydliadau gofrestru lle c但nt eu cyfarwyddo gan unrhyw b典er tramor (ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon) i gynnal, neu drefnu i rywun arall gynnal, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.

5. Mae p典er tramor yn cynnwys:

  • pennaeth sofran neu bennaeth arall Gwladwriaeth dramor,
  • llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, gweinidogaeth neu adran llywodraeth dramor);
  • asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, heddlu neu fyddin llywodraeth dramor),
  • awdurdod syn gyfrifol am weinyddu materion ardal o fewn gwlad neu diriogaeth dramor (er enghraifft, awdurdod llywodraeth leol mewn gwlad dramor);
  • plaid wleidyddol syn blaid wleidyddol lywodraethol llywodraeth dramor.

6. Gellir rhoi cyfarwyddyd gan b典er tramor yn ffurfiol (megis drwy gontract) neun anffurfiol (megis drwy drefniant quid-pro-quo).

7. Mae gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cynnwys cyfathrebiadau a wneir i uwch swyddogion cyhoeddus neu wleidyddion (er enghraifft, e-byst neu gyfarfodydd), cyfathrebiadau cyhoeddus (er enghraifft, cyhoeddi erthygl) neu daliadau (er enghraifft, darparu nwyddau neu wasanaethau) sydd 但r bwriad o ddylanwadu ar un or canlynol:

  • Etholiad neu refferendwm yn y DU;
  • Penderfyniad Gweinidog neu adran or Llywodraeth (gan gynnwys Gweinidog neu adran or Llywodraeth yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon);
  • Trafodion plaid wleidyddol gofrestredig yn y DU (megis eu hymrwymiadau maniffesto);
  • Aelod o D天r Cyffredin, T天r Arglwyddi, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban neu Senedd Cymru.

8. Mae esemptiadau rhag cofrestru o dan yr haen hon yn berthnasol i:

  • Pwerau tramor yn gweithredun agored (er enghraifft, diplomyddion yn gweithredu yn rhinwedd eu swydd);
  • Aelodau o deulu diplomyddion yn cefnogi gwaith diplomydd;
  • Cyfreithwyr syn cyflawni gweithgareddau cyfreithiol;
  • Cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig;
  • Cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus syn cyflawni gweithgareddau dylanwad gwleidyddol syn gysylltiedig 但u buddsoddiadau;
  • Y rhai mewn trefniant y maer DU yn rhan ohono.

9. Mae angen cofrestru o fewn 28 diwrnod calendr ir cyfarwyddyd gael ei roi gan y p典er tramor.

10. Maen drosedd cynnal gweithgareddau yn y DU y tu allan ir cyfnod 28 diwrnod hwnnw, oni bai bod y trefniant wedii gofrestru. Dylai isgontractwyr, cyflogeion ac eraill sydd 但r dasg o gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol o dan drefniant cofrestradwy wirio bod y trefniant wedii gofrestru.

11. Bydd gwybodaeth benodol a gofrestrir o dan yr haen hon yn cael ei chynnwys ar gofrestr gyhoeddus. Fodd bynnag, bydd eithriadau i gyhoeddi yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle byddai cyhoeddi yn cynnwys datgelu gwybodaeth sensitif yn fasnachol neun cyflwyno risg ddifrifol i ddiogelwch unigolyn).

12. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen dylanwad gwleidyddol yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a gellir dod o hyd i fanylion y gofrestr gyhoeddus yn y canllawiau ar y wybodaeth syn ofynnol wrth gofrestru 温r gofrestr gyhoeddus.

Enghraifft o drefniant cofrestradwy o dan yr haen dylanwad gwleidyddol

Mae cwmni lob誰o yn gwneud trefniant gyda llywodraeth dramor. Maer llywodraeth dramor yn cyfarwyddor cwmni i lob誰o seneddwyr y DU iw perswadio i bleidleisio o blaid buddiannaur llywodraeth dramor. Maen ofynnol ir cwmni lob誰o gofrestru.

Dylai cyflogeion (ac unrhyw isgontractwyr) y cwmni lob誰o syn ymwneud 但 lob誰or seneddwyr fel rhan or trefniant hefyd wirio bod y cwmni wedi cofrestru o fewn y ffenestr gofrestru 28 diwrnod.

Gofynion yr haen uwch

13. Maer haen uwch yn ei gwneud yn ofynnol i:

  • a) Unigolion neu sefydliadau i gofrestru lle c但nt eu cyfarwyddo gan b典er tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan b典er tramor i gyflawni, neu drefnu i rywun arall gyflawni, gweithgareddau perthnasol yn y DU;
  • b) Endidau penodedig a reolir gan b典er tramor i gofrestru unrhyw gweithgareddau perthnasol y maent yn eu cyflawni eu hunain yn y DU.

14. Mae manylion y pwerau 温r endidau tramor sydd wediu pennu ar yr haen uwch ar gael yma.

15. Gellir rhoi cyfarwyddyd gan b典er tramor penodedig, neu endid penodedig a reolir gan b典er tramor yn ffurfiol (megis trwy gontract) neun anffurfiol (megis trwy drefniant quid-pro-quo).

16. Mae gweithgareddau perthnasol yn ddiofyn yn golygu pob gweithgaredd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithgareddau masnachol, darparu nwyddau a gwasanaethau, gweithgareddau ymchwil a mynychu digwyddiadau.

17. Mae esemptiadau rhag cofrestru o dan hyn yn berthnasol i:

  • Pwerau tramor yn gweithredun agored (er enghraifft, diplomyddion yn gweithredu yn eu swyddogaeth swyddogol);
  • Aelodau o deulu diplomyddol syn cefnogi gwaith diplomydd;
  • Y rhai syn darparu nwyddau a gwasanaethau syn angenrheidiol i gefnogi cenhadaeth ddiplomyddol (er enghraifft, gwasanaethau arlwyo neu gynnal a chadw i lysgenhadaeth dramor);
  • Cyfreithwyr syn cyflawni gweithgareddau cyfreithiol;
  • Y rhai syn cyflawni gweithgareddau syn gysylltiedig 但 threfniadau astudio a ariennir;
  • Gwasanaethau gweinyddol a thechnegol y llywodraeth;
  • Y rhai mewn trefniant y mae corff coron y DU neu gorff cyhoeddus y DU yn rhan ohono.

18. Mae angen cofrestru o fewn 10 diwrnod calendr ir cyfarwyddyd gael ei roi gan y p典er tramor penodedig neur endid a reolir gan b典er tramor a chyn ir gweithgareddau perthnasol ddechrau.

19. Maen drosedd cynnal gweithgareddau perthnasol yn y DU, oni bai bod y trefniant wedii gofrestru ymlaen llaw. Dylai isgontractwyr, cyflogeion ac eraill sydd 但r dasg o gynnal gweithgareddau o dan drefniant cofrestradwy wirio bod y trefniant wedii gofrestru cyn cynnal gweithgareddau.

20. Pan fo trefniant o fewn cwmpas y ddwy haen (er enghraifft, lle mae unigolyn yn cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar gyfer p典er tramor penodedig), dim ond unwaith y mae angen cofrestru hyn gyd温r haen uwch.

21. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen uwch yn y canllawiau ar yr haen uwch.

Enghraifft o drefniant cofrestradwy o dan yr haen uwch

Mae cwmni yn y DU syn gwerthu technoleg feddygol yn derbyn archeb gan b典er tramor penodedig o Wlad A i brynu awyryddion ar gyfer ysbytai a redir gan y wladwriaeth yng ngwlad A. Maen ofynnol ir cwmni gofrestru o fewn 10 diwrnod i dderbyn yr archeb, a chyn cludor awyryddion.

Dylai cyflogeion (ac unrhyw isgontractwyr) y cwmni syn ymwneud 但 phrosesur archeb hefyd wirio bod y cwmni wedi cofrestru cyn cyflawni unrhyw dasgau syn gysylltiedig 但r archeb.

Manylion pellach

Gofynion ychwanegol

22.Maen ofynnol i gofrestrwyr ddiweddaru eu cofrestriad o fewn 14 diwrnod lle mae newid sylweddol i unrhyw wybodaeth y maent wedii darparu. Er enghraifft, os cynhelir math newydd o weithgaredd o dan drefniant cofrestredig, maen ofynnol ir cofrestrydd ddiweddarur wybodaeth a ddarparwyd gyda manylion y gweithgaredd newydd.

23. Mae hefyd yn ofynnol i dderbynwyr hysbysiad gwybodaeth ymateb ir hysbysiad gwybodaeth erbyn y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad. Gellir cyhoeddir hysbysiadau hyn i unigolion neu sefydliadau sydd wedi cofrestru, neu ir rhai y credir eu bod mewn trefniadau cofrestru neun cynnal gweithgareddau o fewn cwmpas FIRS. Gweler y canllawiau ar hysbysiadau gwybodaeth am ragor o fanylion.

Gweinyddur cynllun

24. T樽m Rheoli Achosion FIRS yn y Swyddfa Gartref syn gyfrifol am weinyddur cynllun. Gweler y canllawiau ar weinyddur cynllun am ragor o fanylion.

25. Nid oes ffi i gofrestru gyd温r cynllun.

Troseddau

26. Maer cynllun yn cynnwys nifer o droseddau, gan gynnwys ar gyfer y rhai syn methu 但 chydymffurfio 但 gofynion cofrestru, neu syn methu ag ymateb i hysbysiadau gwybodaeth. Lle nad yw gofynion cofrestru wediu bodloni, mae troseddau hefyd ar gyfer y rhai syn cyflawni gweithgareddau yn unol 但 threfniant perthnasol.