Papur polisi

Proses Holi ac Ateb y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru

Diweddarwyd 28 Hydref 2022

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Yn berthnasol i Gymru

Maer broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn amlinellu sut y gall porthladdoedd ymgeisio am statws Porthladd Rhydd yng Nghymru, yn ogystal 但 manylion pellach ar gyfer y polisi. Drwy gyhoeddir prosbectws, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi lansior proses ymgeisio er mwyn dynodi safle Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Yn y prosbectws, gwahoddwyd rhanddeilliaid i gyflwyno unrhyw gwestiynau am y rhaglen POrthladd Rhydd ar prosoes ymgeisio drwy e-bost. Pwrpas y ddogfen hon yw i darparu atebion Ir cwesitynau allweddol a gyflwynwyd I ni. Hyd at 13 Hydref 2022, gall unrhyw ymgeiswyr arfaethedig gysylltu gyda Freeports@llyw.Cymru I ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd or cynnwys yn y prosbectws ymgeisio. Bydd crynodeb or atebion yn cael eu cyhoeddi ar-lein cyn 27 Hydref 2022.

Bydd y lleoliad llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yng Ngwanwyn 2023 yn dilyn proses ddethol teg, agored a thryolyw.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau at 24 Tachwedd 2022. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr drwyr ffurflen gais ar lein erbyn 6yh ddydd Iau 24 Tachwedd 2022.

Q: Yn y prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr ar Alban mae yna amod am barthau cynllunio syml a Gorchmynion Datblygu Lleol. A allech gadarnhau os yw Gorchymyn Datblygu Lleol (LDO) yn amod angenrheidiol yn y prosbectws Porthladd Rhydd yng Nghymru?

A: Fel sydd wedi ei nodi yn adran 3.8.2 or prosbectws, Yn ogystal 但r cyd-destun cynllunio cenedlaethol, dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio offer lleol seiliedig ar leoedd, fel Parthau Cynllunio Syml (SPZ) neu Orchmynion Datblygu Lleol. Gall Parthau Cynllunio Syml a Gorchmynion Datblygu Lleol roi mwy o sicrwydd i fusnes trwy ddileur angen i wneud cais am ganiat但d cynllunio ar gyfer datblygiadau y maer gorchymyn yn ymdrin 但 nhw.

Er nad oes amod angenrheidiol i gynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol neu Barth Cynllunio Syml fel rhan or cais, rydym yn annog awdurdodau cynllunio i greu amgylchedd cynllunio hyrwyddol. Cyfrifoldeb y cynghrair ymgeisio yw dadansoddi ac ystyried cyngor cyfreithiol i gadarnhau os bydd cynnwys Gorchymyn Datblygu Lleol fel rhan or cais yn gwrthdaro gyda dynodiad safle SPA/SAC.

Eglurhadau 1 4 a ddarparwyd fel rhan or digwyddiad rhanddeiliaid

1. Faint o hyblygrwydd sydd i Borthladd Rhydd ymestyn y tu hwnt ir ffin 45 cilometr?

Maer model Porthladd Rhydd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd, a dylai ymgeiswyr ystyried beth ywr ffordd orau oi gymhwyso iw safleoedd au daearyddiaethau penodol.

Ni ddylai ffiniau allanol y Porthladd Rhydd fod yn fwy na chylch 45 cilometr, heb unrhyw safleoedd Porthladd Rhydd yn fwy na 45 cilometr ar wah但n.

Rhagwelwn y bydd yr holl safleoedd tollau ar safleoedd trethi syn gysylltiedig 但r Porthladd Rhydd wediu cynnwys o fewn y Ffin Allanol.

Fodd bynnag, bydd y ddwy lywodraeth yn ystyried cynigion syn cynnig safleoedd tollau a safleoedd trethi y tu allan ir Ffin Allanol, lle gellir cefnogi hyn gan sail resymegol economaidd glir. Dylai hyn gynnwys cyfiawnhad clir ou perthnasedd ir ardal o fewn y Ffin Allanol, ynghyd a pherthynas sylweddol rhwng y gweithgarwch yn y safle trethi neu dollau o fewn y Ffin Allanol, ar ardal o fewn y ffin allanol.

Bydd ceisiadau y bernir eu bod wediu dylunio dim ond i wneud y defnydd gorau or ardal o fewn y Ffin Allanol heb sail resymegol economaidd glir yn methur broses ymgeisio ar y cam llwyddo/methu.

Roedd yr hyblygrwydd hwn yn gymwys ir broses ymgeisio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr hefyd. Mae Porthladd Rhydd Humber yn enghraifft o hyn, ac mae ganddo un safle y tu allan ir ffin 45 cilometr. Yn achos Porthladd Rhydd Humber, darparwyd sail resymegol economaidd glir i gefnogir hyblygrwydd hwn yn y ffin 45 cilometr.

2. A allwch chi amlinellu r担l awdurdodau lleol yn y broses ymgeisio?

Disgwyliwn ir awdurdodau lleol perthnasol:

  • fod yn rhan o gynghrair y cais am statws Porthladd Rhydd. Dylai cynghreiriau gynnwys porthladdoedd, busnesau lleol, busnesau rhyngwladol, sefydliadau academaidd ac awdurdodau lleol; a
  • bod wedi trafod y cydweddiad 但 chynlluniau a pholis誰au datblygu perthnasol (ar defnydd posibl o ddulliau cynllunio seiliedig ar leoedd y cyfeiriwyd atynt uchod) wrth lunior cais

Bydd cydweithrediad or fath yn helpu i sicrhau bod cynigion datblygun gallu symud ymlaen yn ddidrafferth trwyr system gynllunio. Dylai ceisiadau ddangos cefnogaeth awdurdod lleol i ddatblygu eiddo masnachol o fewn safleoedd trethi a thollau, i gefnogi eu twf. Bydd datblygiad arfaethedig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gynllunio leol pan fydd angen.Lle ceir mwy nag un awdurdod lleol ar y corff llywodraethu, bydd angen nodi awdurdod lleol arweiniol.

Pan gaiff ei ryddhau, bydd y cyllid sbardunon cael ei roi ir awdurdod lleol arweiniol o fewn corff llywodraethur Porthladd Rhydd.

Bydd yr awdurdod lleol yn atebol i Lywodraeth Cymru am wariant a rheolaeth cyllid cyfalaf sbardunor Porthladd Rhydd.

Cynhwysir rhagor o wybodaeth yn y prosbectws.

3. Sut gall y Porthladd Rhydd ddangos ei ymrwymiad i Waith Teg?

Mae Llywodraeth Cymru or farn bod bargen well i weithwyr yn hanfodol i sicrhau Cymru decach a mwy cyfartal. Maen hanfodol i Lywodraeth Cymru fod ein hymyriadau polisi cyhoeddus yn cyfrannu at Waith Teg ac at ein dull gweithio fel partneriaeth gymdeithasol. Dyna pam maer prosbectws yn pwysleisior pwys a roddir ar yr egwyddorion hyn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ymgysylltiad undebau llafur mewn Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr, a fydd yn ffurfio rhan o lywodraethiant lleol Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Dylair ymgeisydd penodedig ymgysylltu 但 Llywodraeth Cymru hefyd i ddatblygu Contract Economaidd yn unol 但 pholisi presennol Llywodraeth Cymru. Gall ymgeiswyr, a dylai ymgeiswyr, weithredu fel enghreifftiau i eraill a dangos sut mae eu harferion busnes yn hyrwyddo egwyddorion Gwaith Teg a chynaliadwyedd.

Gall ymgeiswyr ddangos hefyd sut maen nhwn cydymffurfio ag arfer da wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru, fel y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

4. Beth syn digwydd os yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno yngl天n 但r cais gorau ar gyfer porthladd rhydd?

Maer Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac maer ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gydai gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.

Yn yr un modd 但 Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr ar Alban, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn pennu ble ddylair polisi gael ei weithredu yng Nghymru. Bydd y ddwy lywodraeth yn cyd-ddylunior broses ar gyfer dethol. Bydd swyddogion or ddwy lywodraeth yn asesu cynigion ar y cyd, a bydd yr un llais gan y ddwy lywodraeth yn yr holl benderfyniadau gweithredu, gan gynnwys y penderfyniad terfynol ar y safle(oedd) llwyddiannus.

Mae Cwestiynau 5 7 yn ymwneud ag eglurhad a chanllawiau yngl天n 但 r担l darparwyr trafnidiaeth a logisteg

5. A yw ystod eang o gwmn誰au, yn gwmn誰au mawr ac yn fusnesau bach a chanolig, yn cael eu hystyried yn rhan annatod o unrhyw gynnig, hyd yn oed os nad yw cwmn誰au unigol yn aelodau or consortiwm ymgeisio o angenrheidrwydd?

Fel y datganwyd yn y prosbectws, maer ddwy lywodraeth eisiau i ymgeiswyr Porthladd Rhydd ffurfio cynghreiriau cryf a fydd yn datblygu cynigion uchelgeisiol y gellir eu cyflawni. Maen rhaid ir cynghreiriau hyn gynnwys: porthladd (m担r, awyr, neu reilffyrdd) ar awdurdod/awdurdodau lleol lle maer Porthladd Rhydd wedii leoli.

Bydd disgwyl i gynghreiriau gynnwys: busnesau lleol; busnesau rhyngwladol; sefydliadau academaidd; Partneriaethau Economaidd Rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Er nad ywn ofynnol ir sefydliadau hyn fod yn rhan o gynghrair ymgeisio, gall cynghreiriau ymgeisio ddymuno gwahodd partneriaid ehangach i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer cynnig. Bydd hyn yn cynorthwyo cynigion i ddangos sut byddant yn cynhyrchu buddsoddiad ychwanegol

Wedi i safle gael ei ddewis, man lleiaf, maen rhaid i unrhyw gorff llywodraethu Porthladd Rhydd gynnwys y porthladd(oedd) dan sylw - i sicrhau ffocws economaidd ar ranbarthau porthladd - ar awdurdod lleol lle maer Porthladd Rhydd wedii leoli - er mwyn derbyn a bod yn atebol am unrhyw gyllid adfywio a chyflawni mesurau allweddol.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, felly, yn annog cynigion ymgeiswyr i gynnwys cynrychiolaeth o blith y pum gr典p rhanddeiliaid canlynol os oes modd a lle bo modd:

  • unrhyw dirfeddianwyr syn berchen ar dir y mae safleoedd trethi a thollau wediu dynodi arnynt
  • unrhyw weithredwyr safleoedd tollau
  • cwmn誰au syn gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
  • buddsoddwyr syn gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi
  • cyrff sector cyhoeddus syn gweithredu neu a fydd yn gweithredu o fewn safleoedd tollau a threthi

6. A oes darpariaethau buddiol ar gyfer y cwmn誰au hyn o fewn ardal Porthladd Rhydd e.e. drwyr gyfundrefn drethu a/neu argaeledd grantiau?

Mae Adran 3 y Prosbectws yn rhoi manylion dyluniad penodol Porthladd Rhydd, gan gynnwys daearyddiaeth ac ysgogiadau economaidd a gynigir i ymgeiswyr fel y byddent yn gymwys yng Nghymru.

Maer cynnig Porthladd Rhydd ar gyfer busnesau yng Nghymru yn gyson 但r model y mae Llywodraeth y DU wedii ddefnyddio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr ac a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban.

7. A fydd cyllid ar gael ar gyfer gwelliannau ir rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd syn angenrheidiol i ymdopi 但r lefelau traffig cynyddol syn deillio or gweithgarwch economaidd newydd?

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at adran 2.1.14 - 2.1.16 wrth ystyried buddsoddiad mewn trafnidiaeth, i sicrhau cysondeb 但 pholis誰au trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Fel yr amlinellwyd yn y Prosbectws, bydd cyfle ir ymgeisydd llwyddiannus gael cyllid cyfalaf sbarduno o hyd at 贈25 miliwn.

Bydd swm y cyllid sbarduno a geir yn dibynnu ar gyflwyno achos busnes amlinellol (OBC) ac achos busnes llawn (FBC), ansawdd yr achosion busnes hynny a sut maer cynigion yn cyd-fynd 但r polisi yn strategol. Bydd achosion busnes yn cael eu cymeradwyo gan fwrdd y Rhaglen Porthladd Rhydd gyda chynrychiolaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Disgwyliwn y bydd unrhyw gyllid a ddarperir yn cael ei gyfateb neu ei gyfateb yn rhannol gan fuddsoddiad sector preifat, benthyciadau awdurdod lleol a chyd-ariannu gan gyrff cyhoeddus eraill, lle y bon berthnasol. Pan fydd y cyllid yn cael ei ryddhau, caiff ei roi ir awdurdod lleol arweiniol yng nghorff llywodraethur Porthladd Rhydd.

Mae gan bob safle Porthladd Rhydd nodweddion ac anghenion unigryw. Dylair cynghrair ymgeisio amlinellun glir fuddsoddiadau cyfalaf syn ofynnol ar y safle a chytuno hyn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o broses dynodir safle. Disgwyliwn i gynigion ganolbwyntion bennaf ar gydosod tir, adfer safle, a seilwaith trafnidiaeth mewnol ar raddfa fach i gysylltu safleoedd o fewn y Porthladd Rhydd 但i gilydd, yr ardal uniongyrchol ou hamgylch neu asedau economaidd eraill o fewn y Ffin Allanol. Dylair rhain ymgorffori strategaethau trafnidiaeth, trafnidiaeth gynaliadwy a hierarchaethau buddsoddi. Bydd cynigion ar gyfer gwario cyfalaf sbarduno ar sgiliau, technoleg ddigidol a/neu seilwaith arall yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Ni cheir gwario cyfalaf sbarduno ar seilwaith diogelwch ar gyfer safleoedd tollau.

Cwestiynau 8 11; Maent yn ymwneud 但 chwestiynau a gyflwynwyd ar Arweiniad Ardaloedd Buddsoddi

8. Nifer y Ardaloedd Buddsoddi Faint ydych chin eu rhagweld yng Nghymru a beth fydd y lledaeniad daearyddol?

9. Sut bydd Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol a Chynllun Cenedlaethol Cymru yn cael eu hymgorffori yn y broses benderfynu yngl天n ag ystwytho cynllunio ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi Cymru?

10. Gwneud penderfyniadau yng Nghymru ar gyfer Ardaloedd Buddsoddi a fydd hon yn broses ar y cyd rhwng LlC/Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) ar raniad 50/50 fel gyda Phorthladd Rhydd? Os yw penderfyniad yn rhanedig, pwy fydd 但r gair olaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar 23 Medi 2022 ei fwriad i lansio Ardaloedd Buddsoddi. Er y disgwyliwn ir cynnig hwn fod yn un ledled y DU, maer modd y gall Ardaloedd Buddsoddi weithredu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn destun gweithio gyda llywodraethau datganoledig.

Yn Lloegr, bydd Ardaloedd Buddsoddin elwa o gymhellion treth ac ystwytho cynllunio er mwyn cyflymu datblygiad a chymorth ehangach ir economi leol.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau rhagarweiniol i ddeall cynigion y Ardaloedd Buddsoddi, y cynnig a goblygiadau posibl i Gymru yn fanylach. Byddai angen i unrhyw fenter a ddaw gerbron ar gyfer Cymru fod yn gyson 但n polis誰au ni ar waith teg ar amgylchedd, a chynhyrchu buddsoddiad ychwanegol.

11. Pryder ynghylch dadleoli economaidd yn deillio o agosrwydd Ardaloedd Buddsoddi mewn awdurdodau cyfagos yn Lloegr e.e. Swydd Gaerloyw ac Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr. Rydym yn pryderu nad oes digon o amser i ystyried y berthynas ddatblygol hon ar effaith yn briodol ir bodlonrwydd a fynnir gan y broses ymgeisio porthladd rhydd. A roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn cyfnod cyflwyno ceisiadau Porthladd Rhydd i alluogi gwell coreograffi rhwng pa geisiadau iw modelu a lliniaru unrhyw effeithiau economaidd negyddol a gwneud addasiadau?

Nid oes unrhyw gynllun ar hyn o bryd i ymestyn y terfyn amser ymgeisio ar gyfer y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Maer cyfnod ymgeisior Rhaglen Porthladd Rhydd ar gyfer Cymru yn cau ar 24 Tachwedd 2022 am 6pm, ac edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion gan bart誰on 但 buddiant drwyr porth ar-lein.

Maen ofynnol i ddarpar ymgeiswyr egluro sut bydd eu dewis o leoliadau safleoedd trethi yn cynhyrchu twf ychwanegol ac yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd.

Er bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi manylion llawn pecyn trethi Ardaloedd Buddsoddi Lloegr maes o law, o ystyried y graddfeydd amser, na fydd cynigion Porthladd Rhydd yng Nghymru yn ystyried effeithiau Parth Buddsoddi posibl ar hyn o bryd.

12. Mae briff diweddar Porthladd Rhydd Cymru a DLUHC yn dynodi bod sgyrsiau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru, a allwch chi roi diweddariad?

Maer Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru yn dangos buddion cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb, ac maer ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio gydai gilydd i gytuno ar y cyd ar y cynnig llwyddiannus.

13. A allwch chi gael mwy na thri safle trethi os gallwch wneud achos economaidd dros hynny? Os ywr prif safle tollau yn safle trethi, a allwch chi gael tri safle trethi ychwanegol?

Dylai cynigion Porthladd Rhydd gynnwys o leiaf un porthladd, ond gal gynnwys sawl porthladd

Nid oes rhaid ir porthladdoedd gael eu dynodi fel mannau trethi neu dollau.

Dylai ceisiadau gynnwys o leiaf un safle tollau, ond nid ywr nifer o safleoedd wedi eu cyfyngu i nifer penodol.

Dylai cynigwyr amcanu at un safle trethi cyffiniol o hyd at 600 hectar i elwa or cynnig treth. Fodd bynnag, gallant ddiffinio hyd at dair ardal gyffiniol, unigol rhwng 20 a 200 hectar.

Lle mae safle tollau yn safle trethi yn ogystal, byd y safle tollau hwn yn cael ei gynnwys o fewn y cyfanswm o dri safle trethi, felly dau safle trethi pellach yn unig y caniateir iw cynnwys yn y cais.

14. Paragraff 3.1.19 (c) Byddwn yn ystyried cyflwyniadau syn gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan ir canllaw 20-200 hectar. Beth ywr elfennau a fyddain ofynnol i gyfiawnhau safle syn fwy na 200ha?

Maer prosbectws yn dweud yn glir y dylai cynigwyr amcanu i gael un safle treth i elwa or cynnig treth. Fodd bynnag, lle ceir sail resymegol economaidd glir dros wneud hynny, gall y cynigydd Porthladd Rhydd ddiffinio hyd at dair ardal unigol, sengl fel lleoliad y safleoedd trethi.

Byddwn yn ystyried cyflwyniadau syn gwneud achos economaidd dros safle unigol sydd y tu allan ir canllaw 20-200 o hectarau.

Nid ydym yn disgwyl unrhyw fethodoleg benodol ond byddem yn disgwyl i achos gael ei wneud o ran cyflawni amcanion y polisi ac yn gyson 但 gofynion safleoedd treth a amlinellwyd yn y prosbectws.

Rhaid i gyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol o fewn y Porthladd Rhydd beidio 但 bod yn fwy na 600 o hectarau. Bydd y rhai hynny syn fwy na 600 o hectarau yn methur broses ymgeisio Porthladd Rhydd yn awtomatig ar y cam llwyddo/methu

15. A allwch chi gael rhan o safle tollau a threthi lle maer elfen trethi yn fwy nar safle tollau (h.y. dim ond rhan or safle trethi yw safle tollau)?

Gall safle trethi gynnwys y cyfan, neu ran, or prif safle tollau a/neu unrhyw is-barthau tollau ychwanegol. Bydd rhyddhadau treth yn berthnasol ir safle trethi cyfan, gan gynnwys unrhyw ran sydd hefyd yn rhan or safle tollau.

Bydd cynnig tollaur Porthladd Rhydd, syn cynnwys symleiddiadau a buddion atal tollau, ond yn berthnasol yn y safleoedd tollau Porthladd Rhydd dynodedig ac a gymeradwywyd gan CThEF.

Ni fydd safleoedd treth Porthladd Rhydd yn derbyn unrhyw ryddhad yn awtomatig felly o dollau tramor oni bai eu bod hefyd wediu dynodi au cymeradwyo fel safle tollau.

Caniateir i safleoedd trethi a safleoedd tollau orgyffwrdd yn gyfan gwbl neun rhannol. Yn y cyfryw amgylchiadau, bydd unrhyw ran or safle trethi sydd hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau, yn ogystal 但r rhyddhadau trethi eraill syn gymwys ar y safle trethi. Ni fydd unrhyw ran or safle trethi nad yw hefyd o fewn y safle tollau yn gymwys ar gyfer gohirio, gwrthdroi ac eithrio tollau; dim ond ar gyfer y rhyddhadau treth eraill syn gymwys ar safleoedd trethi Porthladd Rhydd.

Pe bai cynigydd eisiau i fuddion tollau fod yn gymwys ar safle trethi cyfan neu ran ohoni, bydd angen ir ardal honno gael ei diogelu ai hawdurdodi fel safle tollau yn ogystal.

16. Mae paragraff 3.1.19 (e) yn datgan y gall Safleoedd trethi fod yn un safle unigol syn cynnwys nifer o leiniau o dir wediu rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle unigol oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. maen debygol y gellid teithio rhyngddynt)

a. Os yw dau safle yn gyffiniol ond bod y pwyntiau mynediad yn golygu y byddai angen teithio pellter byr ar y ffordd, a yw hynnyn ryng-gysylltiad rhesymol?

b. A yw twnnel syn cysylltur porthladd 但 llain o dir sydd oddeutu 1.5 cilometr ar wah但n yn cyfrif fel rhyng-gysylltiad economaidd rhesymol?

Rydym yn agored i un safle syn cynnwys nifer o leiniau o dir wediu rhannu gan ffordd, ardal a warchodir neu nodwedd ddaearyddol (fel afon) ar yr amod y gellir ystyried yn rhesymol bod y lleiniau o fewn y tir yn un safle oherwydd gellir dangos rhyng-gysylltiad daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (e.e. maen debygol y gellid teithio rhyngddynt).

I ddangos cysylltiad economaidd rhesymol, byddem yn disgwyl y byddai teithio mynych rhesymol rhwng y safleoedd - er enghraifft, ar y ffordd fawr, dros bont neu ar fferi. Maen rhaid dangos rhyng-gysylltiad economaidd clir rhwng amryfal blotiau yr honnir mai un safle unigol ydynt. Er enghraifft, dylai dau safle naill ochr o afon heb unrhyw berthynas economaidd neu deithio rhyngthynt gael eu hystyried yn fel dau fan ar wah但n. Ni allwn, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei ddarparu, gadarnhau os byddai twnnel syn cysylltu porthladd gyda thir yn gysylltiad economaidd rhydd, gan mai cyfrifoldeb ymgeiswyr yw arddangos y perthynas economaidd clir hwn.

Dylai cynigwyr sicrhau bod y sail resymegol a mapiau cysylltiedig a gyflwynir gydar cynnig Porthladd Rhydd yn darparu achos cadarn i gefnogi datganiadaun ymwneud 但 rhyng-gysylltiad economaidd

17. Dylai safleoedd trethi fod yn dir heb ei ddatblygu ac yn 20 hectar o leiaf. Os oes ardaloedd bach o safleoedd syn cynnwys adeiladau a ddylair rhain gael eu cynnwys neuu hepgor o ardal y safle?

Gall cynigwyr lunio siapiau sengl, unigol syn torri tir allan neun mynd heibio tir nad ywn briodol iddo fod mewn safle trethi er mwyn cynyddu cwmpas tir annatblygedig priodol ir eithaf. Nid ydym yn disgwyl gweld eiddo preswyl na thir diwydiannol datblygedig iawn syn cynnwys gweithgarwch busnes sylweddol presennol a gwmpesir gan safleoedd trethi annatblygedig.

Enghreifftiau o safleoedd trethi

Maer canlynol yn enghreifftiau damcaniaethol o gynigion safleoedd trethi y gellid eu derbyn drwyr broses. Gallai fod enghreifftiau eraill nad ydynt wediu nodi isod a allai fod yn llwyddiannus o hyd.

Si但p ffin sengl cyffiniol syn torri allan tir amhriodol

Un safle unigol syn cynnwys nifer o leiniau o dir wediu rhannu gan ffordd

Un safle unigol yn cynnwys dau safle or un diwydiant gyda chysylltiad trafnidiaeth, wedii rannu gan afon

Dau safle unigol heb ryng-gysylltiad, wediu rhannu gan afon

18. Yn achos safle syn safle tollau ac yn safle trethi sut dylid ymdrin ag adeiladau syn rhan or tollau (yng nghyd-destun y tir annatblygedig ar gofyniad sylfaenol am 20 hectar).

Mae adeiladau syn gysylltiedig 但 safle tollau yn cael eu cyfrif tuag at y cysyniad o ddatblygiad. Fodd bynnag, os oes gan gynigydd Porthladd Rhydd gynnig cydlynus ac y gall ddangos bod y saflen annatblygedig hyd yn oed gydar adeiladau tollau arno, yna ni fyddain eithrior safle yn awtomatig (h.y., os ywn ofod mawr gwag gyda sied tollau arno, ni fyddai hynny wedii ddatblygun ormodol i fod yn safle trethi o angenrheidrwydd).

Gall cynigwyr Porthladd Rhydd ddewis eithrio adeiladau o hyd, a dewis codi adeilad(au) tollau o fewn safle trethi.

19. Maer prosbectws ymgeision awgrymu bod rhaid i safleoedd trethi fod ar gyfer ardaloedd o dir annatblygedig (neu ardaloedd gydag adeiladau y cynlluniwyd iddynt ddarfod yn gymharol fuan), ond mae safleoedd tollaun debygol o gael eu rhedeg gan weithredwyr porthladd mewn porthladdoedd. A allwch chi egluro mai canllawiau ywr rhain ac na fwriedir y byddair buddion economaidd sylweddol o gael buddion tollau a threthi yn gweithredu gydai gilydd yn cael eu colli drwy wahanur safleoedd hyn?

Maen rhaid i safleoedd trethi fod yn annatblygedig (fel y diffinir yn paragraph 3.1.25 or prosbectws), a gall safleoedd tollau gael eu rhedeg gan borthladdoedd (ond nid ywn ofyniad gan safle tollau). Nid ywr cyfuniad hwn o ofynion yn atal safleoedd trethi a thollau rhag cael eu cyd-leoli, ar yr amod y bodlonir y ddau.

20. Yn gysylltiedig 但 C1.4 yn y cais (Cynhwyswch unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyor ddwy lywodraeth i amcangyfrif gofyniad eich cynnig ar gyfer rhyddhad treth). Pa wybodaeth a ddisgwylir/ a ragwelir?

Gall gwybodaeth gefnogol gynnwys:

  • Rhestr o eiddo, gwerthoedd ardrethol, ac atebolrwydd presennol o fewn yr ardal rhyddhad trethi
  • Y talwyr ardrethi presennol ar gyfer pob eiddo
  • Rhagolwg or eiddo ychwannegol sydd wedi eu cynllunio o fewn yr ardal

Ar gyfer rhagoloygon, gofynnwn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth in cefnogi i gyfrifo faint o weithgarwch y bydd yn berthnasol ir rhyddhad treth perthnasol

21. Yn gysylltiedig 但 C1.7 a ellir cynnwys safleoedd lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno ac maent yn destun Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) os felly, pa dystiolaeth ddylid ei darparu?

Lle nad yw tirfeddianwyr wedi cytuno ir safle trethi neu maer awdurdod lleol yn cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol, bydd angen sicrwyddau ychwanegol gan y ddwy lywodraeth ar 担l y cam cyflwyno cynnig ond cyn ir safle trethi hwnnw gael ei gymeradwyo/ei ddynodi.

Ymdrinnir 但 hyn ar sail achos wrth achos ond maen debygol o gynnwys:

  • Cyngor cyfreithiol a thechnegol llawn ar y cynnig Gorchymyn Prynu Gorfodol
  • Strategaeth yn amlinellu sut yr amcanwch i sicrhaur tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol lle bon angenrheidiol, a mesurau lliniaru os na chyflawnir hynny. Dylai hyn gynnwys, ond nid ywn gyfyngedig i:
  • Ymrwymiad gan ALlau i neilltuo adnoddau priodol ir broses a fydd yn galluogi swyddogion i fwrw ymlaen yn gyflym
  • Tystiolaeth i ddarparu sicrwydd y bydd penderfyniad ar ddatrysiad ar gyfer Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cael ei wneud yn unol 但 cherrig milltir a gytunwyd
  • Tystiolaeth i ddangos dealltwriaeth glir or broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, gan gynnwys person辿l allweddol, amserlenni a cherrig milltir hanfodol
  • Tystiolaeth i ddangos bod cynllun clir ar waith pe bair Gorchymyn Prynu Gorfodol yn aflwyddiannus (h.y. defnyddio offer/ pwerau cynllunio)
  • Statws yr holl ddogfennau syn ofynnol i gychwyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol, a lle bon ymarferol, dylid rhannur dogfennau hun ar ffurf drafft neu ffurf derfynol
  • Tystiolaeth i ddangos bod aelodaur ALl wediu cynnwys yn y mater au bod yn cefnogir cynnig Porthladd Rhydd cyffredinol ar weledigaeth ar gyfer safle trethi arfaethedig
  • Cynllun cyflawni clir a chredadwy ar gyfer y safle trethi, gan ystyried graddfeydd amser posibl sicrhaur tir gan ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol. Hefyd, nodwch statws caniat但d cynllunio presennol y tir ach cynllun os na chafwyd hynnyn barod, ar gyfer cyflawni caniat但d cynllunio llawn.

Maent yn ymwneud 但 chwestiynau a gyflwynwyd ar liniaru a dadleoli

22. Yn gysylltiedig 但 C1.14 beth mae lliniarun ei olygu yn y cyd-destun hwn? A ywr cwestiwn yngl天n ag osgoi effeithiau neu eu lliniaru os ydynt yn digwydd?

23. Yn gysylltiedig 但 C3.10 pa allanoldebau eraill (heblaw am ddadleoli economaidd) ddylid eu hystyried?

Lle gall neu lle bydd dadleolin digwydd, dylai cynigwyr gyflwyno cynigion pragmatig ar gyfer sut byddant yn lleihaur effeithiau. Pun a yw hynnyn osgoi effeithiau syn atal dadleoli neun eu lliniaru lle maen codi, a lliniaru ei effeithiau lle maen digwydd.

Bydd yr ymagwedd fwyaf priodol at wneud hynny yn unigryw ir cyd-destun safle penodol ar gyfer pob cynnig, a chynigwyr sydd yn y lle gorau i benderfynu sut i wneud eu hachos drwy ystyried ffactorau fel graddfa a thebygolrwydd y dadleoli a ragwelir.

Maen ofynnol i gynigwyr, felly, esbonio sut maer lleoliadau a ddewiswyd ganddynt ar gyfer safleoedd trethi yn lleihau dadleoli gweithgarwch economaidd oddi wrth ardaloedd difreintiedig cyfagos ir eithaf, ac maer asesiad ohonynt yn ffurfio rhan o Faen Prawf Ch (Y gallu i gyflawnir cynnig yn effeithiol yn gyflym).

Bydd y cynigion cryfaf yn dangos ymagwedd bragmatig at gynyddu ychwanegedd ir eithaf, er enghraifft trwy gael strategaeth gryf ar gyfer, a ffocws clir ar, ddenu buddsoddiad newydd, ymrwymiadau tirfeddianwyr yn ymwneud ag osgoi dadleoli, a/neu ddefnyddio cyfran or ardrethi a gedwir yn 担l i liniaru effeithiau dadleoli lle maent yn digwydd.

Bydd yr allanoldebau negyddol, y tu hwnt i ddadleoli, y dylai cynigwyr eu hystyried yn dibynnu ar gymeriad(au) penodol eu safleoedd au cynlluniau datblygu; fodd bynnag, gallair rhain gynnwys - er enghraifft - effeithiau amgylcheddol neu effeithiau ar seilwaith trafnidiaeth leol.

24. Yn gysylltiedig 但 C3.11 (Eglurwch sut bydd eich cynigion yn: cyflawni datgarboneiddio a diogelur amgylchedd, sicrhau cydymffurfiaeth 但r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol; ac, os ywn berthnasol, pa safonau amgylcheddol ychwanegol byddwch chin eu pennu, a sut bydd y rhain yn cael eu bodloni). Pa safonau y maen nhwn eu rhagweld?

Yn unol 但r prosbectws; man lleiaf

Maen rhaid i geisiadau Porthladd Rhydd amlinellu sut bydd eu cynigion yn cydymffurfio 但r holl reoliadau a safonau amgylcheddol perthnasol, fel ansawdd aer a d典r, Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau), rheoli gwastraff, trin a thrafod cemegion; ac unrhyw asesiad ychwanegol o effeithiau ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys mesurau lliniaru.

Maen rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynllun datgarboneiddio amlinellol ar gyfer y Porthladd Rhydd, gan gynnwys sut y bydd statws Porthladd Rhydd yn datgloi cyfleoedd datgarboneiddio ar gyfer busnesau presennol, ac yn cyfrannu at gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050, gan gynnwys sut gallant hwyluso datgarboneiddio Porthladd Rhydd yn dilyn dynodiad.

25. Lle maer nodyn ar ddiwedd 4. Maen Prawf D o Adran 5 Cais yn darllen Dylai ymgeiswyr nodi y bydd cwestiwn 3.9 yn werth 40% o Faen Prawf D a ddylai hwn ddarllen Cwestiwn 3.8?

Dylai, camgymeriad yw hwn a dylai ddarllen;

  • Dylai ymgeiswyr nodi y bydd 4.3 yn cael ei asesu gan ddefnyddior wybodaeth gefnogol a ddarperir yng nghwestiwn 3.8.

Mae hwn wedii gywiro yn y prosbectws erbyn hyn.

26. Beth yw lefel uchelgais Llywodraeth Ei Mawrhydi mewn perthynas 但 rhwyddhad tollau a masnach yn y porthladd rhydd?

Bydd angen i gynigwyr llwyddiannus weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi a CThEF i adolygu a chadarnhau ffiniau eu safleoedd trethi arfaethedig, cyn cymeradwyo a chychwyn mesurau treth.

Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ganiat叩u i leoliad safleoedd trethi a thollau i newid ar 担l iddynt gael eu cymeradwyo.

Gall y Porthladd Rhydd gynnwys sawl porthladd, sawl safle tollau, a hyd at dri safle trethi o faint cyfyngedig, fel rhan o gynnig Porthladd Rhydd unigol.

Gall safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd gael eu lleoli o fewn ffiniau porthladd presennol ond rhaid iddi fod yn ardal ar wah但n wedii ffensio, ac ni all orgyffwrdd 但r ardal or porthladd a gymeradwywyd ar gyfer Storio Dros Dro.

Bydd angen yr awdurdodiadau angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ymgeiswyr llwyddiannus cyn y caniateir iddynt weithredu.

Mae gweithredwr safle tollau Porthladd Rhydd yn gyfrifol am reoli symud nwyddau a mynediad pobl i mewn ac allan or safle tollau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau y gall nwyddau ond adael y safle tollau Porthladd Rhydd pan ganiateir hynny gan Lywodraeth Ei Mawrhydi.

Dylai cynigwyr fynd ati i ddangos yn glir fod y gallu gan weithredwyr y safleoedd arfaethedig i roi mesurau ar waith i sicrhau y gallant gyflawnir cyfrifoldeb hwnnw

Defnyddiwch y ddolen ganlynol syn rhoi arweiniad ar weithredu Safle Tollau Porthladd Rhydd

27. A allwn ni gyfarfod 但 Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i drafod ein cynigion?

Gwahoddwyd cynigwyr i ddau ddigwyddiad rhanddeiliaid ar y cyd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 1 Gorffennaf a 5 Hydref 2022, ller oedd cyfleoedd i godi cwestiynau mewn fforwm agored. Hyd at 13 Hydref, gwahoddwyd cynigwyr i godi eglurhadau penodol hefyd drwy fewnflwch canolog Porthladdoedd Rhydd.

Er mwyn sicrhau bod gan ddarpar gynigwyr fynediad cyfartal at wybodaeth ac arweiniad cyson, nid ydym yn cynnig cyfarfodydd i drafod cynigion unigol.

28. A all partneriaid rhanbarthol syn gysylltiedig 但 swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru, fel Parthau Menter a Bargeinion Dinesig a Thwf, gefnogi cynnig?

Nid oes unrhyw beth i atal partneriaid rhanbarthol fel Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter rhag bod yn rhan or ymgysylltiad ehangach 但 rhanddeiliaid wrth ddatblygu unrhyw gynnig Porthladd Rhydd a darparu tystiolaeth ou cefnogaeth.

Ni ddylai Cadeiryddion Bwrdd neu aelodau Bargeinion Dinesig a Thwf a Pharthau Menter gynghori swyddogion neu Weinidogion, neu ofyn am gyngor gan swyddogion neu Weinidogion, ar unrhyw gynnig Porthladd Rhydd penodol mewn unrhyw gyswllt y gallent fod ei gael, er mwyn osgoi unrhyw duedd neu fuddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig, ac i sicrhau fod ymgeiswyr yn cael triniaeth deg.

29. A ywr codau SIC yn rhan or terfyn o 500 gair yng nghwestiwn 4.1?

Ni fydd codau SIC yn cyfrif at y terfyn geiriau yng nghwestiwn 4.1. Rydych yn cael eu cyflwyno fel geiriau ychwanegol yn yr ateb hwn, heb fod yn gofnod ar wah但n.

30. A gaiff unrhyw awdurdod lleol gyflwyno cynnig neu ai dim ond y corff atebol rydych chin ei gynnig syn cael gwneud?

Mae unrhyw rai or awdurdodau lleol sydd wediu cynnwys yn y cais yn cael cyflwynor cais, nid dim ond y corff atebol.

31. A gawn ni gynnwys asedau syn eiddo i Lywodraeth Cymru, fel tir, yn ein cais?

Mae Llywodraeth Cymrun cytuno mewn egwyddor bod modd cynnwys tir/asedau syn eiddo iddi yng nghynigion y cais. Mae hyn hefyd yn berthnasol i endidau sydd o dan berchnogaeth neu reolaeth Llywodraeth Cymru. Ond ni fydd hynnyn effeithio mewn unrhyw ffordd ar hawl Gweinidogion Cymru fel perchennog i benderfynu os neu sut y caiff y tir/ased mewn cais llwyddiannus ei ddefnyddio.