Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2023

Cyhoeddwyd 27 Mawrth 2024

1. Cyflwyniad

Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofyniad statudol i bob sefydliad gyda 250 o weithwyr neu fwy adrodd yn flynyddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn eu sefydliad. Daw adrannaur Llywodraeth o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017, a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2017.

Maer rheoliadau hyn yn ategu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac yn ei gwneud yn ofynnol ir sefydliadau perthnasol gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn, gan gynnwys bylchau cyflog cymedrig a chanolrifol rhwng y rhywiau; y bylchau bonws cymedrig a chanolrifol rhwng y rhywiau; cyfran y dynion ar menywod a gafodd fonysau; a chyfrannaur gweithwyr gwrywaidd a benywaidd ym mhob chwartel cyflog.

Dyma seithfed adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau ac maen cyflawni ein gofynion adrodd, yn dadansoddir ffiguraun fwy manwl ac yn nodir hyn rydym yn ei wneud i gaur bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Y cyfnod adrodd yw 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

2. Cyd-destun sefydliadol

Maer ASB yn adran anweinidogol y llywodraeth a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Mae wedi bod yn gweithredu ers mis Ebrill 2000. Mae r担l yr ASB wedii diffinio mewn cyfraith. Maer Ddeddf Safonau Bwyd yn datgan: The main objective of the Agency in carrying out its functions is to protect public health from risks which may arise in connection with the consumption of food (including risks caused by the way in which it is produced or supplied) and otherwise to protect the interests of consumers in relation to food.

Mae ein swyddfeydd wediu lleoli yng Nghaerdydd, Belfast, Birmingham, Llundain a Chaerefrog. Mae gennym hefyd nifer sylweddol o weithwyr ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn lladd-dai neu fel staff maes a staff syn gweithio gartref.

Maer ASB yn cefnogi trin a gwobrwyo pob aelod o staff yn deg. Rydym am sicrhau nad yw cefndir neu nodweddion gwarchodedig rhywun byth yn ffactor syn cyfyngu yn yr ASB, ond yn hytrach yn cael eu trin fel nodweddion y gellir eu defnyddio i wellar broses o lunio polis誰au a darparu gwasanaethau.

3. Strwythur sefydliadol

Maer ASB yn defnyddio graddaur Gwasanaeth Sifil syn amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch Was Sifil. Mae graddaun amrywio yn 担l lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn 担l gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth for rhyw.

Mae gan bob gradd, ac eithrior Uwch Wasanaeth Sifil (SCS), ystod gyflog Llundain ac ystod Genedlaethol.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd nifer y staff wedi cynyddu 110 ers y flwyddyn flaenorol, gyda 46% o weithlur ASB yn fenywod. Y ffigur yn 2022 oedd 44%.

Gradd Nifer y dynion (dynion fel % y gweithlu ar y radd hon) Nifer y menywod (menywod fel % y gweithlu ar y radd hon)
AO/EO 324 (74%) 114 (26%)
HEO 167 (45%) 203 (55%)
SEO 193 (44%) 242 (56%)
Gradd 7 109 (47%) 125 (53%)
Gradd 6 36 (54%) 31 (46%)
SCS 14 (50%) 14 (50%)
Cyfanswm 843 (54%) 729 (46%)

4. Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

4.1 T但l cyffredin

Maer bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos y gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog rhwng dynion a menywod mewn gweithlu. Os oes gan weithlu fwlch cyflog arbennig o uchel, gallai hyn awgrymu bod angen mynd ir afael 但 nifer o broblemau, a gall y cyfrifiadau unigol helpu i nodi beth ywr problemau hynny.

Maer bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn wahanol i gyflog cyfartal.Mae cyflog cyfartal yn ymwneud 但r gwahaniaethau cyflog rhwng dynion a menywod syn cyflawnir un swyddi, swyddi tebyg neu waith sydd o werth cyfartal. Maen anghyfreithlon talu pobl yn anghyfartal oherwydd eu bod yn ddyn neun fenyw.

Y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau ywr gwahaniaeth yn y t但l cyfartalog fesul awr ar gyfer menywod o gymharu 但 dynion. Mae rhif negyddol yn nodi bod menywod ar gyfartaledd yn ennill mwy na dynion. Maer ffigwr canolrifol yn cynrychioli pwynt canol y boblogaeth. Os ydych chin gosod ar wah但n pob gweithiwr benywaidd a phob gweithiwr gwrywaidd, y bwlch cyflog canolrifol ywr gwahaniaeth rhwng y gyfradd t但l fesul awr ar gyfer y fenyw ganol o gymharu 但r dyn canol.

Eleni, maer cyflog cymedrig ar gyfartaledd ar gyfer menywod 8.7% yn uwch nar cyflog cymedrig ar gyfer dynion. Maer t但l canolrifol ar gyfer menywod ar draws y sefydliad 16.2% yn uwch nar t但l canolrifol ar gyfer dynion. Yn nhermau ariannol, y gwahaniaeth cymedrig fesul awr mewn t但l arferol yw 贈1.75 o gymharu 但 贈1.49 yn 2022, ar gwahaniaeth canolrifol fesul awr yw 贈2.75 o gymharu 但 贈3.38 yn 2022. Maer tabl canlynol yn dangos y bwlch cyflog cymedrig a chanolrifol rhwng y rhywiau ers 2017.

Bwlch cyflog cymedrig a chanolrifol

Blwyddyn Cymedrig Canolrifol
2017 -9.4% -16.7%
2018 -9.3% -17.5%
2019 -8.0% -14.7%
2020 -9.6% -21.6%
2021 -9.5% -23.1%
2022 -7.8% -21.2%
2023 -8.7% -16.2%

Maer bwlch cyflog negyddol rhwng y rhywiau yn bennaf oherwydd strwythur ein gweithlu.

Mae gweithlur ASB yn parhau i fod 但 chyfran uwch o ddynion (54%) na menywod (46%), er bod hyn wedi lleihau o 14 pwynt canran ers 2017. Mae staff gwrywaidd yn cyfrif am 74% or gweithwyr ar y ddwy radd isaf. Ar raddau uwch (HEO-SCS), mae 54% or gweithwyr yn fenywod. Mae ychydig yn llai na 40% or gweithwyr gwrywaidd yn gweithio ar y ddwy radd isaf (yn bennaf fel Arolygwyr Hylendid Cig ar radd EO), tra bod y rhan fwyaf o staff benywaidd (84%) mewn rolau HEO ac uwch.

At hyn, maer rhan fwyaf o Arolygwyr Hylendid Cig ar fandiau t但l cenedlaethol, syn
is nag ystod Llundain, i adlewyrchur gwahaniaeth mewn costau byw. Mae cydbwysedd rhwng y rhywiau ar gyfer rolau yn Llundain yn 53% i 47% o blaid menywod. Ond y tu allan i Lundain, maen 55% i 45% o blaid dynion.

Mae ein set ddata wedi newid yn sylweddol or hyn y seiliwyd y dadansoddiad blaenorol arni. Ers 31 Mawrth 2022, mae 260 o weithwyr newydd wediu cynnwys, ac mae 150 a gafodd eu cynnwys yn adroddiad y llynedd, wedi gadael ers hynny. Erbyn hyn, mae mwy o fenywod mewn rolau G7 a na dynion, ac adlewyrchir hyn yn y ffigurau chwartel isod.

4.2 T但l bonws

Maer ASB yn cynnig cynllun gwobrwyo a chydnabod yn ystod y flwyddyn ar gyfer graddau dirprwyedig (AO i Radd 6), wedii ariannu o gronfa perfformiad anghyfunol o 0.5% or bil cyflog dirprwyedig.

Gall unigolion neu dimau gael eu gwobrwyo am gyflawniadau eithriadol syn ymwneud 但 thasgau neu weithgareddau penodol, a/neu am fod yn berson rhagorol wrth arddangos Gwerthoedd yr ASB. Mae gwobrau wediu cyfyngu i werthoedd penodol (贈50, 贈100, 贈250, 贈500 neu 贈1,000). Nid oes cyfyngiad ar nifer y gwobrwyon y gall unigolyn eu cael, ond maer cyfanswm wedii gapio ar 贈2,500.

Maer t樽m Pobl a Newid Sefydliadol yn dadansoddir cynllun yn 担l gradd a nodweddion gwarchodedig, nid rhywedd yn unig, ac yn adrodd yn chwarterol i uwch reolwyr, er mwyn iddynt allu gweld dadansoddiad llawn o ddyfarniadau perfformiad o safbwynt cydraddoldeb yn eu meysydd eu hunain ac ar draws yr ASB.

Maer Uwch Wasanaeth Sifil yn cael gwobrau ar sail perfformiad ddiwedd y flwyddyn a bonysau yn ystod y flwyddyn. Maer rheolau ar cyllid ar gyfer cynlluniaur Uwch Wasanaeth Sifil yn dilyn canllawiau Swyddfar Cabinet, ac maent yn wahanol ir rhai ar gyfer y cynllun dirprwyedig. Wediu hariannu o gronfa perfformiad o 3.3% yn unol 但 rheolau Swyddfar Cabinet, eleni, roedd bonysaur Uwch Wasanaeth Sifil ar sail perfformiad yn amrywio rhwng 贈3,000 a 贈7,000 yn dibynnu a oeddent er mwyn cydnabod perfformiad yn ystod y flwyddyn neu ar ddiwedd y flwyddyn.

Nid yw dyfarniadau ar sail perfformiad ar ddiwedd blwyddyn a dyfarniadau yn ystod y flwyddyn yn yr ASB ar sail pro rata ar gyfer staff rhan-amser (felly maer staff hyn yn cael gwerth llawn y bonws). O ganlyniad, nid yw nifer y staff rhan-amser yn y naill ryw nar llall yn effeithio ar y bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau.

Maer gwahaniaeth mewn cynlluniau yn golygu mewn un cynllun y gallai gweithiwr gael bonws o 贈50 (cynllun gwobrwyo a chydnabod yr ASB) ac mewn cynllun arall gallai gweithiwr gael bonws o 贈7,000 (diwedd blwyddyn yr Uwch Wasanaeth Sifil). O ganlyniad, gall y bwlch cyflog bonws newid yn eithaf sylweddol o un flwyddyn ir llall. Maer tabl canlynol yn dangos y bylchau bonws cymedrig a chanolrifol ers 2017.

Bwlch cyflog bonws cymedrig a chanolrifol

Blwyddyn Cymedrig Canolrifol
2017 4.7% 5.5%
2018 0.9% 0.0%
2019 11.8% 0.0%
2020 -16.3% 0.0%
2021 -25.3% -40.0%
2022 -7.8% 0.0%
2023 -28.6% -14.3%

Yn 2023, roedd gwerth y bonws canolrifol ar gyfer pob dyn (贈175) 贈25 yn is nar gwerth y bonws canolrifol ar gyfer pob menyw. Y gwerth bonws cymedrig i fenywod oedd 贈329, a oedd 贈73 yn uwch nar cyfartaledd i ddynion. Roedd gwerthoedd cymedrig a chanolrifol wedi lleihau ers y flwyddyn flaenorol, oherwydd cynnydd yn nifer y taliadau bonws a wnaed.

Y bwlch bonws cymedrig ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil oedd -8.9% gyda gwerth y bonws cyfartalog a dalwyd i fenywod 贈400 yn fwy nar cyfartaledd i ddynion. Maer tueddiad wedi gwrthdroi felly ers y flwyddyn flaenorol, pan oedd y bwlch yn 8% ac roedd gwerth y bonws cyfartalog a roddwyd i ddynion 贈400 yn uwch nar bonws cyfartalog a roddwyd i fenywod.

Y bonws cyfartalog a dalwyd i swyddogion yr Uwch wasanaeth Sifil oedd 贈4,750, o gymharu 但 贈124 a dalwyd ir graddau is. Y bonws canolrifol oedd 贈4,500 ar lefel yr Uwch Wasanaeth Sifil a 贈100 ar gyfer y graddau is. Felly, maen debygol bod taliadau bonws ar lefel yr Uwch Wasanaeth Sifil wedi cael mwy o effaith ar y bwlch bonws nag amrywiadau ymhlith y graddau is.

Cyfran y dynion ar menywod syn cael bonws

Maer tabl canlynol yn dangos cyfran y dynion ar menywod sydd wedi cael bonws ers 2017. Bu cynnydd mawr yn nosbarthiad y taliadau bonws ar draws y sefydliad y llynedd. Effaith hyn oedd fod maint maint taliadau bonws wedi lleihau.

Blwyddyn Dynion Menywod
2017 33% 38%
2018 28% 32%
2019 60% 60%
2020 62.9% 62.8%
2021 60.6% 65.3%
2022 73.5% 58.3%
2023 92.9% 91.8%

Dosbarthiad dynion a menywod ym mhob chwartel t但l

Maer chwarteli t但l fesul awr yn dangos cyfran y dynion ar menywod ym mhob chwartel t但l, ar 担l trefnu staff yn 担l cyfradd t但l fesul awr.

Oherwydd strwythur ein gweithlu, maer chwartel isaf yn parhau i fod 但 chyfran uwch o staff gwrywaidd.

Chwartel Dynion Menywod
Ch1 is 74.4% 25.6%
Ch2 canol is 47.1% 52.9%
Ch3 canol uchaf 46.8% 53.2%
Ch4 uchaf 46.5% 53.5%

5. Gweithredu

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyflog teg, beth bynnag fo rhywedd gweithwyr yn ogystal 但 chael gwared ar ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Byddwn yn parhau i hyrwyddo polis誰au a mentrau i gefnogi cyfleoedd cyfartal ar gyfer ein gweithlu cyfan.

Mae strwythur ein gweithlu yn wahanol i lawer o sefydliadau, gyda mwy o ddynion na menywod yn gweithio swyddi syn talu isaf. Er ein bod wedi llwyddo i gynyddu nifer y menywod syn gweithio yn y rolau hyn, mae hyd gwasanaeth staff presennol, yn enwedig ymhlith arolygwyr cig, yn golygu bod y trosiant a lefelau recriwtio yn isel. Maer ddemograffeg ar y graddau hyn yn annhebygol o newid yn sylweddol am gryn amser.

Er bod ein strwythur yn cael effaith sylweddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn perthynas 但 th但l cyffredin, rydym yn cydnabod pwysigrwydd mentrau presennol ac yn ceisio gwella amrywiaeth ein gweithlu yn barhaus.

Gwnaethom gomisiynu adolygiad recriwtio cynhwysol, gyda chwmni ymgynghori seicoleg-busnes annibynnol, fel rhan on hymrwymiad i adolygu a gwella cynwysoldeb ein prosesau an polis誰au yn barhaus. Yn benodol, ystyriodd yr adolygiad a oedd rhagfarn bosib yn ein prosesau recriwtio gan archwilio disgrifiadau swyddi a meini prawf, deunydd asesu sifftio a chyfweld, cyfweliadau 但 rhanddeiliaid allweddol ac adolygiadau rhagfarn byw a gynhaliwyd mewn perthynas 但 chyfweliadau. Roedd yr adroddiad yn canmol ein prosesau recriwtio presennol.

Rydym yn cefnogi pob aelod o staff syn dymuno gweithion fwy hyblyg, er enghraifft drwy ddulliau fel rhannu swyddi, gweithio llai o oriau a gweithio oriau cywasgedig. Rydym wedi datblygu arferion gweithio modern syn cynnig mwy o hyblygrwydd i staff, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, a rolau heb leoliad pendant lle bo modd. Gall ein gweithwyr ddewis gweithio yn y swyddfa, gweithio gartref neu rannu eu hamser rhwng y swyddfa a lleoliad arall.

Rydym yn parhau i gynnig polis誰au syn ystyriol o rieni a theuluoedd mewn cysylltiad 但 beichiogrwydd, mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir a mabwysiadu, syn ein galluogi i gadw gweithwyr a sgiliau. Rydym yn cynnig hyd at 5 diwrnod o wyliau arbennig 但 th但l bob blwyddyn i ofalwyr er mwyn eu cefnogi i reoli eu cyfrifoldebau gofalu, gan barhau i ymgysylltu 但u gwaith.

Rydym yn cefnogi datblygiad gyrfa trwy gyfleoedd dysgu, gan gynnwys mentora a chynlluniau talent i ddileu rhwystrau i gynnydd.

Mae gennym ystod o rwydweithiau a grwpiau cymunedol a arweinir gan weithwyr, syn cynnig fforymau trafod ir rheiny sydd 但 diddordeb cyffredin, yn ogystal 但r cyfle i gefnogi ei gilydd.

6. Cynllun pobl yr ASB

Yn 2023 lansiwyd ein cynllun pobl tair blynedd. Mae ein cynllun pobl yn nodi sut y byddwn yn gwella fel cyflogwr ar manteision a ddaw yn sgil hyn i ni, y busnesau rydym yn eu rheoleiddio ac iechyd y cyhoedd rydym yn ei ddiogelu. Un o amcanion blwyddyn un y cynllun pobl yw cynnal momentwm ar gynhwysiant. Bydd hyn yn cynnwys:

  • creu grwpiau gweithredu a gadeirir gan hyrwyddwyr cynhwysiant i ddatblygu prosesau llywodraethu cynhwysiant a chefnogi cyflawni strategol a chorfforaethol.
  • cwblhau gweithgareddau syn gysylltiedig 但 fframwaith sicrwydd, achredu ac archwilio i greu sylfaen dystiolaeth i lywio camau gweithredu cynhwysiant ar gyfer y 3 blynedd nesaf
  • darparu hyfforddiant lefel uwch i gyfwelwyr ar gyfer pobl syn eistedd ar baneli recriwtio, gan eu grymuso i annog a chefnogi ymgeiswyr i ddarparu eu tystiolaeth orau
  • parhau i gynnig amrywiaeth o sianeli ymgysylltu a chyfleoedd i rwydweithio in cydweithwyr ar y rheng flaen, iw helpu i deimlo eu bod wediu cynnwys yn fwy, gyda chymorth ychwanegol i grwpiau sydd wediu tangynrychioli mewn Gweithrediadau Maes.

7. Datganiad

Rydym yn cadarnhau bod ein data wedii gyfrifo yn 担l gofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017.