Canllawiau

Hawlwyr y Cynllun Diffygion Horizon a chymorth ar gyfer y postfeistri sydd wedi cael eu heffeithio

Diweddarwyd 17 Gorffennaf 2025

1. Cefndir y Cynllun Diffygion Horizon (HSS)

Rhoddwyd y Cynllun Diffygion Horizon (HSS) ar waith gan Swyddfa’r Post Cyf er mwyn rhoi iawndal i bostfeistri nad oeddynt yn euog, i’w helpu gyda cholled ariannol personol a fu yn sgil y system. Yn wreiddiol, nid oedd iawndaliadau’r HSS wedi’u hesemptio rhag Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gall y postfeistri a gafodd iawndal drwy’r Cynllun Diffygion Horizon fod yn agored i dalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, felly bydd angen iddynt gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

²Ñ²¹±ð’r taliadau atodol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u hesemptio rhag treth. Diben y taliadau ychwanegol yw digolledu postfeistri am unrhyw ostyngiadau diangen i’r iawndal yn sgil y ffordd y mae’r cynllun yn trin treth.

Mae CThEF yn darparu cymorth parhaus i gefnogi postfeistri wrth iddynt gyflwyno’u Ffurflen Dreth a thalu unrhyw Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus. I gael help, gall postfeistri sy’n rhan o’r HSS ddefnyddio’r wybodaeth ganlynol neu gysylltu â’n tîm cymorth penodedig.

Gallwch gysylltu â’n tîm cymorth penodedig ar 0300 322 1900, dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5pm

1.1 Cynlluniau iawndal Horizon eraill

Cafodd taliadau y Cynllun Iawndal Euogfarnau Horizon, Euogfarn a Wrthdrowyd (a elwir gynt yn Euogfarnau Hanesyddol a Wrthdrowyd) a chynlluniau Gorchymyn Ymgyfreitha Grŵp eu heithrio rhag Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac nid oes yn rhaid i’r sawl sy’n cael y taliadau hyn dalu unrhyw dreth arnynt na rhoi gwybod i CThEF amdanynt.

2. Arweiniad i bostfeistri sy’n rhan o’r Cynllun Diffygion Horizon (HSS)

Os ydych wedi cael iawndal drwy’r HSS rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023, neu 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024, mae angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae CThEF yn cydnabod nad yw pob postfeistr wedi cael y taliadau atodol hyd yma gan Swyddfa’r Post Cyf, ac felly nid oedd modd iddynt gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr.

Ni fydd angen i’r postfeistri na chafodd eu taliad atodol mewn pryd dalu unrhyw gosbau na llog am gyflwyno na thalu’n hwyr.

²Ñ²¹±ð’r llinell gymorth benodedig ar gael ar gyfer unrhyw bostfeistri sydd angen cymorth.

2.1 Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych wedi cael hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, y dyddiad cau i gyflwyno ac i dalu’ch bil treth yw 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) berthnasol.

Mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth a datgan eich incwm trethadwy, hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich taliad atodol gan Swyddfa’r Post Cyf. O ganlyniad, ni fyddwn yn codi unrhyw gosbau na llog am gyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr na thalu’ch treth hwyr. Os oes angen help arnoch i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, cysylltwch â’n tîm cymorth penodedig.

Os na ofynnwyd i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr, cysylltwch â’n tîm cymorth penodedig i gael cyngor a chymorth pellach.

3. Cael help

Mae CThEF wedi cymryd camau i nodi’r postfeistri a effeithiwyd arnynt ac am atal hysbysiadau cosb rhag cael eu hanfon neu log yn cael ei godi. Os byddwch yn cael hysbysiad o gosb neu os codir llog arnoch, cysylltwch â’n tîm ar 0300 200 1900 a byddwn yn tynnu’r cosbau a’r llog.

Bydd unrhyw bostfeistri sydd ddim yn gallu talu eu rhwymedigaeth treth yn llawn yn gallu trefnu cynllun talu i dalu taliadau misol fforddiadwy. Mae cynlluniau talu yn hyblyg ac yn seiliedig ar incwm a gwariant unigol. Dylai unrhyw un sy’n poeni am dalu ei rwymedigaethau treth, neu am ei gofnod credydau Yswiriant Gwladol, gysylltu â’n tîm cymorth i drafod yr opsiynau.

Mae Swyddfa’r Post Cyf yn darparu cyllid o hyd at £1,200 (gan gynnwys TAW) ar gyfer cyngor treth annibynnol. Mae hyn i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth ar gyfer y blynyddoedd treth y gwnaethoch gael eich taliad HSS.

3.1 Data Horizon a Hunanasesiad

Nid yw’r cwmni wedi cael data Horizon mewn swmp gan Swyddfa’r Post, na ddefnyddio’r data hyn i gyfrifo treth nac i ddewis Ffurflenni Treth ar gyfer gwiriadau pellach. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion lle rydym wedi dibynnu ar ddata Horizon.

Rydym yn cydnabod y mae’n bosibl bod postfeistri wedi defnyddio data Horizon yn eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Os ydych o’r farn eich bod wedi talu’r dreth anghywir oherwydd data Horizon, cysylltwch â’n tîm cymorth penodedig.

Os ydych yn bostfeistr sydd wedi eich effeithio gan sefyllfa Horizon, ac mae gennych gwestiynau ynghylch eich treth, cysylltwch â’n tîm cymorth penodedig. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau ynghylch methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, os yw hyn yn berthnasol i chi.

4. Cysylltu â’n tîm cymorth penodedig

Ffôn: 0300 200 1900

Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.