Hysbysiad preifatrwydd 51画鋼 One Login
Diweddarwyd 10 Mehefin 2025
1. Am 51画鋼 One Login
Mae 51画鋼 One Login yn darparu un ffordd i fewngofnodi a phrofi eich hunaniaeth wrth gyrchu gwasanaethaur llywodraeth ar-lein.
Mae 51画鋼 One Login yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan or Adran Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT).
Mae s担n am ni yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cyfeirio at GDS.
Yr Adran Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT), fel rhiant-sefydliad GDS, yw rheolydd datar data personol rydych chin ei ddarparu pan fyddwch chin defnyddio 51画鋼 One Login. Mae hyn yn golygu bod DSIT yn y pen draw yn gyfrifol am y data personol rydym yn ei gasglu ai brosesu ar 51画鋼 One Login. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar bethau fel pa ddata personol y dylid eu casglu, gan bwy, a beth y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.
Mae adrannau eraill y llywodraeth yn gyfrifol am unrhyw ddata personol rydych yn ei ddarparu pan fyddwch yn defnyddio eu gwasanaethau ar-lein. Er enghraifft, efallai y byddant yn casglu data gennych naill ai cyn iddynt eich ailgyfeirio at 51画鋼 One Login neu ar 担l i 51画鋼 One Login eich dychwelyd iw gwasanaeth, ar 担l i chi gwblhau eich gwiriadau dilysu neu hunaniaeth. Mae hyn yn golygu eu bod yn rheolwyr data ar gyfer y wybodaeth honno a byddant yn penderfynu pa ddata iw gasglu gennych, pam mae angen y data hwnnw arnynt a pha mor hir maent yn cadwr data hwnnw. Bydd manylion am hyn yn eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain.
2. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio at 51画鋼 One Login gan wasanaeth llywodraeth ar-lein i fewngofnodi neu i brofi eich hunaniaeth byddwn yn gwybod pa wasanaeth rydych wedi dod ohono.
Bydd y wybodaeth rydym wedyn yn ei gasglu gennych yn dibynnu ar:
-
pun a yw gwasanaeth ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 51画鋼 One Login yn unig ich mewngofnodi iw system neu i brofi eich hunaniaeth hefyd
-
y dystiolaeth ar dogfennau sydd gennych ar gael i brofi eich hunaniaeth
-
y math o ddyfais rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft gliniadur, tabled neu ff担n clyfar
Ym mhob achos, byddwn yn creu 51画鋼 One Login gan ddefnyddioch cyfeiriad e-bost. Pan fyddwch yn dewis derbyn codau dilysu gan ddefnyddio neges destun, byddwn hefyd yn casglu eich rhif ff担n.
Os mai dim ond ich mewngofnodi iw gwasanaeth y mae gwasanaeth ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 51画鋼 One Login, ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bellach gennych chi.
Pan fydd gwasanaethau ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 51画鋼 One Login i brofi eich hunaniaeth, mae angen i ni gynnal gwiriadau adnabod ac felly prosesu data personol ychwanegol. Maer broses yn cynnwys gwiriad twyll gydag Experian i sicrhau bod y data fyddwch yn ei roi i ni yn gywir ac i wirio nad oes unrhyw arwyddion bod eich hunaniaeth wedi cael ei dwyn neu ei gamddefnyddio.
Mae 3 prif ffordd o brofi eich hunaniaeth. Maer pethau rydyn nin eu gwirio yn dibynnu ar ba ffordd rydych chin profi eich hunaniaeth.
2.1 Defnyddior ap 51画鋼 ID Check neur ap 51画鋼 One Login i brofi eich hunaniaeth
Maer llwybr hwn yn defnyddior ap 51画鋼 ID Check neur ap 51画鋼 One Login sydd ar gael i ddefnyddwyr ffonau clyfar trwy siopiau ap ac . Maen cynnwys dilyniant o wiriadau syn cael eu cynnal gan ddarparwyr gwasanaethau gwirio hunaniaeth arbenigol ar ein rhan, yn ogystal 但r gwiriadau twyll a ddisgrifir isod.
Mae angen i ni wirio:
-
bod eich dogfennau yn rhai go iawn
-
rydych yn berson go iawn (a elwir hefyd yn wiriad bywiogrwydd)
-
chi ywr un person ag sydd yn y lluniau dogfen (a elwir hefyd yn wiriad tebygrwydd)
Rydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth gwirio hunaniaeth or enw Iproov au his-gontractwyr Veriff ac Inverid i gynnal y gwiriadau hyn. Mae Iproov yn gweithredu fel prosesydd data gyda Veriff ac Inverid fel is-broseswyr, syn golygu y gallant ond prosesu eich data personol at bwrpas cyflawni ein cyfarwyddiadau.
Gwybodaeth y gallwn ei chasglu i wirio bod eich dogfennau yn rhai go iawn
Mae angen i ni wirio nodweddion diogelwch eich dogfennau hunaniaeth i brofi eu bod yn ddogfennau dilys.
Ar gyfer trwyddedau gyrru, bydd angen i chi dynnu llun o flaen a chefn eich trwydded gyda chamera eich ff担n. Bydd angen caniat但d ar yr ap i gael mynediad at eich camera ach lluniau ar gyfer hyn.
Ar gyfer e-basbortau, trwyddedau a chardiau preswylio biometrig, a thrwyddedau gweithwyr ffiniau bydd yr ap yn darllen eich gwybodaeth pasbort o sglodyn cyfathrebu agosfaes (NFC).
Efallai y byddwn yn casglur wybodaeth ganlynol:
-
enw
-
dyddiad geni
-
cyfeiriad
-
cod post
-
rhif y ddogfen
-
dyddiad dod i ben
-
gwlad cyhoeddi
-
cenedligrwydd
-
delwedd llun
-
cyfeiriad e-bost
Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad a gwybodaeth eich dogfen hunaiaeth atom.
Os ydych chin defnyddio trwydded yrru, byddwch yn gallu gwirio bod yr ap wedi casglur manylion yn gywir.
Bydd angen i chi gytuno i ni rannu eich manylion gyda:油
-
yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os cyhoeddwyd eich trwydded ym Mhrydain Fawr
-
yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) os cyhoeddwyd eich trwydded yng Ngogledd Iwerddon
Byddant yn gwirio bod y wybodaeth rydych chi wedii darparu yn cyd-fynd 但r hyn sydd yn eu cofnodion.
Defnyddio fideo hunlun i wirio eich bod yn berson go iawn
Rydym hefyd yn gwneud gwiriad bywiogrwydd i brofi a ydych chin berson go iawn ac nid unrhyw beth a allai ddynwared unigolyn fel mannequin, ffigur cwyr, mwgwd 3D, llun neu ffugiad dwfn.
Bydd angen i chi gymryd fideo hunlun gan ddefnyddio camera eich ff担n. Bydd angen caniat但d ar yr ap i gael mynediad ich camera ach fideos ar gyfer hyn. Maer gwiriad hwn yn cael ei gynnal mewn amser real syn golygu nad ydym ni nac Iproov yn cadwr fideo.
Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad atom.
Sut rydym yn gwirio mai chi ywr person yn eich llun
Rydym yn gwneud gwiriad tebygrwydd i brofi eich bod yr un person ag yn eich llun dogfen hunaniaeth.
Maer gwiriad hwn yn defnyddio delwedd llonydd a gynhyrchir och fideo hunlun ach llun dogfen hunaniaeth i fesur patrymau unigryw eich wyneb. Gelwir hyn yn ddata biometrig wyneb. Maer data biometrig or ddwy ddelwedd yn cael ei gymharu i benderfynu ai chi yw perchennog gwirioneddol y ddogfen hunaniaeth.
Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad atom.
Nodweddion diogelwch ychwanegol yn yr ap 51画鋼 One Login
Pan fyddwch yn mewngofnodi, maer ap yn gwirio eich bod chin rhoir un manylion mewngofnodi a roddwyd y tro diwethaf ir ap gael ei gyrchu ar y ddyfais rydych yn ei defnyddio.
Mae gan yr ap hefyd ddolen syn mynd 但 chi i sut i newid eich manylion mewngofnodi mewn porwr gwe.
2.2 Defnyddio eich porwr gwe i brofi eich hunaniaeth
Maer gwiriadau rydym yn eu cynnal yn dibynnu a oes gennych chi ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru a pha wasanaeth y llywodraeth rydych chin ei ddefnyddio. Rydym hefyd yn cynnal y gwiriad twyll a ddisgrifir isod.
Sut rydym yn gwirioch ID gyda llun
Os oes gennych chi ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru, byddwn yn gwirio bod y manylion yn ddilys gan ddefnyddior setiau data awdurdodol a ddelir, yn y drefn honno, drwy:
-
Swyddfa Basport EF (HMPO)
-
DVLA neu DVA, yn dibynnu a gafodd eich trwydded yrru ei chyhoeddi ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon
Bydd angen i chi ddarparu manylion eich trwydded yrru neu basbort y byddwn wedyn yn eu hanfon at HMPO, DVLA neu DVA iw dilysu yn erbyn eu cofnodion.
Pan fydd HMPO, DVLA neu DVA wedi cwblhau eu gwiriadau, maent yn dweud wrthym a ywr datan cyfateb ai peidio ac os na, y rheswm pam na wnaeth gyfateb.
Mae HMPO, DVLA a DVA yn gwneud hynny fel rheolyddion data annibynnol yn unol 但u hysbysiadau preifatrwydd.
Sut rydym yn gwirio eich manylion banc
Os ydych chin profi eich hunaniaeth heb ID gyda llun, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich enw a rhif cyfrif a chod didoli cyfrif banc cyfredol yn eich enw chi.油
Yna byddwn yn gwirio manylion eich cyfrif cyfredol yn y DU yn erbyn y manylion sydd gan fanciau ledled y DU, gan ddefnyddio gwasanaeth gwirio a ddarperir gan Experian.
Pan fydd Experian wedi cwblhaur gwiriad, maent yn dweud wrthym:油
-
os ywr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cyfateb ai peidio油
-
lle maer enw a ddarparwyd gennych yn cyfateb yn rhannol i gofnodion bancio, yr enw swyddogol ar gofnod
Sut rydym yn gwirio eich cofnod CThEF油
Os ydych yn profi eich hunaniaeth heb ID gyda llun, efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol. Rydym yn rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol, enw, cod post a dyddiad geni gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF), syn gwirio a oes ganddynt gofnod ohonoch a bod y wybodaeth yn cyfateb ir hyn a ddywedoch wrthym.油
Pan fydd CThEF wedi cwblhaur gwiriad, maent yn cadarnhau i ni a ywr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cyd-fynd 但u cofnodion ai peidio.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu pan fyddwch chin ateb cwestiynau diogelwch
Rydym yn gofyn cwestiynau diogelwch i chi, a elwir hefyd yn wiriad dilysu yn seiliedig ar wybodaeth (KBV), gan ddefnyddio cwestiynau am eich credyd neu hanes ariannol lle dim ond chi ddylai wybod yr ateb iddo. Maer gwiriad hwn yn cael ei gynnal gan Experian fel rheolydd data annibynnol yn unol 但u .
Ar gyfer y gwiriad hwn rydym yn defnyddio eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad i adfer cwestiynau perthnasol gan Experian. Rydym yn casglu eich atebion ac yn eu hanfon at Experian i wirio eu bod yn cyfateb ir wybodaeth sydd ganddynt eisoes amdanoch chi.
Pan fydd Experian wedi cwblhaur gwiriad maent yn ymateb i ni gyda chanlyniad Pas / Methu.
Nid yw GDS yn cadw nan storio eich cwestiynau nach atebion.
2.3 Profi eich hunaniaeth mewn Swyddfar Post
Mae 51画鋼 One Login yn rhoir dewis i chi brofi eich hunaniaeth mewn Swyddfar Post. Maer broses hon yn cynnwys cyfres o wiriadau a gynhelir gan wasanaethau gwirio hunaniaeth arbenigol ar ein rhan, yn ogystal 但r gwiriad twyll a ddisgrifir isod.
Rydym angen gwirio:
-
bod eich dogfennau hunaniaeth yn rhai gwirioneddol
-
mae chi ywr un person ag yn y lluniau dogfen hunaniaeth (a elwir hefyd yn wiriad tebygrwydd)
Maer gwiriadau hyn yn cael eu cynnal gan Swyddfar Post au his-gontractwr Yoti ar ein rhan. Mae Swyddfar Post yn gweithredu fel prosesydd data gyda Yoti fel is-brosesydd, syn golygu mai dim ond at yr unig bwrpas o gyflawni ein cyfarwyddiadau y gallant brosesuch data personol.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu cyn i chi fynd i Swyddfar Post
Rydym yn gofyn i chi pa ddogfen hunaniaeth yr hoffech ei defnyddio i brofi eich hunaniaeth. Gallwch ddefnyddio unrhyw un or dogfennau adnabod canlynol:
-
pasbort y DU
-
pasbort or tu allan ir DU
-
trwydded yrru cerdyn gyda llun y DU
-
trwydded yrru cerdyn gyda llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
-
Cerdyn adnabod cenedlaethol or UE, Norwy, Gwlad yr I但 neu Liechtenstein
Rydym yn gofyn i chi:
-
am ddyddiad dod i ben eich dogfen hunaniaeth a gwlad gyhoeddi
-
i gadarnhau bod y cyfeiriad a ddarparwyd gennych yn flaenorol yn cyfateb ir cyfeiriad a ddangosir ar eich dogfen hunaniaeth, ar gyfer dogfennau sydd 但 chyfeiriad arnynt.
-
dewis pa gangen Swyddfar Post hoffech chi fynychu
Rydym yn anfon y wybodaeth hon ynghyd 但ch enw, cyfeiriad a dyddiad geni i Swyddfar Post cyn i chi fynd i gangen. Rydym hefyd yn anfon e-bost atoch gyda dolen i lawrlwytho llythyr Dilysu Cwsmer yng nghangen Swyddfar Post. Bydd hyn yn cynnwys cod QR a chyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y bydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd angen i chi agor y ddolen, nodich cyfeiriad e-bost, a lawrlwytho ac argraffur llythyr a mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn mynd i Swyddfar Post, neu ei ddangos ar eich dyfais.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu yn Swyddfar Post
Pan fyddwch yn mynd i Swyddfar Post, bydd aelod o staff yn sganior cod QR ar eich llythyr ac yn gwirior ddogfen hunaniaeth sydd gennych yn erbyn y manylion a ddarparwyd gennych.
Yna bydd Swyddfar Post ac Yoti yn gwirio nodweddion diogelwch eich dogfen hunaniaeth i sicrhau ei bod yn ddogfen ddilys.
-
Ar gyfer pob dogfen hunaniaeth, bydd Swyddfar Post yn tynnu llun o flaen a chefn y ddogfen i wirio nodweddion diogelwch y ddogfen, fel hologramau, ac i ddarllen gwybodaeth y ddogfen.
-
Ar gyfer e-basbortau yn y DU, bydd Swyddfar Post hefyd yn defnyddio tabled i wirio nodweddion diogelwch eich dogfen ac i ddarllen gwybodaeth eich dogfen or sglodyn NFC.
Bydd Swyddfar Post hefyd yn tynnu llun och wyneb, a byddant yn mesur patrymau unigryw eich wyneb ohono. Gelwir hyn yn ddata biometrig y wyneb. Bydd y data biometrig och llun yn cael ei gymharu yn erbyn y data biometrig or llun ar eich dogfen hunaniaeth i wirio ai chi yw perchennog gwirioneddol y ddogfen hunaniaeth.
Beth syn digwydd ar 担l eich ymweliad 但 Swyddfar Post
Pan fydd Swyddfar Post a Yoti wedi cwblhaur gwiriadau, maent yn anfon canlyniad y gwiriad ach gwybodaeth am eich dogfen hunaniaeth atom.
Yna rydym yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i ddweud wrthych fod canlyniadau eich gwiriad ar gael. I weld eich canlyniad ai rannu gydar gwasanaeth oedd yn gofyn i chi brofi eich hunaniaeth, bydd angen i chi fewngofnodi i 51画鋼 One Login a chael eich ailgyfeirio at wasanaeth y llywodraeth yr oeddech chin ei ddefnyddio.
3. Os ydych yn gadael i rywun fenthyg eich ff担n i brofi eu hunaniaeth
Bydd gwybodaeth dechnegol am y ddyfais syn cael ei defnyddio yn cael ei chasglu gan 51画鋼 One Login fel y nodir isod.
4. Sut rydym yn trin eich gwybodaeth i wirio yn erbyn twyll
Sut bynnag rydych chin profi eich hunaniaeth, byddwn yn cynnal gwiriad twyll ar-lein gan ddefnyddio darparwr gwasanaeth gwirio hunaniaeth or enw Experian i:
-
chwilio am unrhyw arwyddion bod eich hunaniaeth wedi cael ei ddwyn neu ei gamddefnyddio
-
gwirio a oes cofnod ohonoch yn bodoli dros amser
Maent yn gwneud hyn fel rheolydd data annibynnol yn unol 但 .
Rydym yn casglu eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad ac yn eu hanfon i Experian fel y gallant gynnal y gwiriad.
Pan fydd Experian wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon sg担r twyll atom, yn seiliedig ar unrhyw weithgaredd twyllodrus posibl neu gysylltiedig. Os oes gennych bryderon syn ymwneud 但 thwyll posibl och data adnabod, dylech gysylltu ag Experian yn uniongyrchol, fel rheolydd annibynnol y data chwilio hwn.
Ni fydd y gwiriad twyll hwn yn effeithio ar eich sg担r credyd, gan ei fod yn chwiliad meddal. Bydd cofnod amdano yn cael ei ychwanegu at eich cofnod credyd, ond dim ond i chi y bydd yn weladwy. Ni fydd sefydliadau eraill syn defnyddio Experian i gynnal eu gwiriadau credyd eu hunain yn gallu ei weld.
5. Gwybodaeth dechnegol
Rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol fel rhan annatod o ddarparu 51画鋼 One Login i chi. Mae hyn yn cynnwys:
-
dynodwyr ar-lein, fel eich cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP)
-
gwybodaeth technegol am y dyfais rydych yn ei ddefnyddio, fel model, system gweithredu porwr gwe ac ID unigryw dyfais
Maer data hwn yn cael ei storio mewn logiau archwiliad system a diogelwch at ddibenion monitro system a diogelwch a datrys problemau technegol.
6. Pan fyddwch yn cysylltu 但 ni am help neun rhoi adborth
Mae nifer o ffyrdd i gysylltu 但 ni os ydych angen help gyda 51画鋼 One Login. Maent ar y dudalen page.
Os ydych yn cysylltu 但 ni am help, byddwn yn casglu:
-
gwybodaeth amdanoch fel eich enw, rhif ff担n a chyfeiriad e-bost, a byddwn yn defnyddior wybodaeth hon i gysylltu 但 chi am eich ymholiad ac i adnabod eich 51画鋼 One Login os oes angen
-
manylion eich cais am help
-
eich dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) fel y gallwn gysylltu 但 chi yn yr iaith honno
Pan fyddwch yn cysylltu 但 ni, peidiwch 但 chynnwys unrhyw wybodaeth sensitif neu ariannol amdanoch chi eich hun. Os byddwch yn dewis rhannu manylion amdanoch chi eich hun i roi cyd-destun ychwanegol ich ymholiad, byddwn yn storior wybodaeth honno yn ein systemau.
Rydym yn storio recordiadau or holl sgyrsiau ff担n. Rydym yn defnyddior rhain ar gyfer monitro a chanfod twyll, datrys cwynion, monitro safon a hyfforddiant a gwella ein gwasanaeth.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni drwy ein ffurflen we, rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol am eich dyfais fel yr amlinellir yn adran Gwybodaeth dechnegol or hysbysiad hwn.
Os ydych yn cytuno i gymryd rhan yn ein harolwg am yr help a gawsoch, rydym yn casglu eich atebion ir cwestiynau. Maer rhain yn cael eu cysylltu 但r cofnod or adeg y gwnaethoch gysylltu 但 ni, syn cynnwys gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriad e-bost neu rif ff担n.
7. Os ydych yn cytuno i ddadansoddi gwe neu ap (cwcis)
Rydym yn defnyddio Google Analytics a Dynatrace i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio 51画鋼 One Login. Gwneir hyn drwy ddefnyddio cwcis. Mae cwcis yn ffeiliau bach syn cael eu cadw ar eich ff担n, tabled neu gyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld 但 gwefan. Mae ein hysbysiad preifatrwydd cwcis an proses gydsynio wedii nodi ym .
Mae rhai cwcis yn gwbl angenrheidiol ar gyfer 51画鋼 One Login i gefnogi dilysu a diogelwch.
Mae cwcis pellach yn cefnogi ein dadansoddiad or platfform ac yn caniat叩u i 51画鋼 One Login wella profiad dinasyddion. Bydd angen eich caniat但d ar y cwcis hyn.
Rydym yn defnyddio cwcis i adolygu:
-
gwybodaeth am y tudalennau rydych yn eu defnyddio
-
pa mor hir rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
-
sut gyrhaeddoch chi 51画鋼 One Login
-
beth rydych yn clicio arno trach bod yn defnyddior gwasanaeth
-
arwydd och lleoliad (fel eich dinas ach gwlad) gan ddefnyddioch cyfeiriad IP dienw
-
pa mor gyflym maer tudalennaun llwytho
-
os ydych yn gweld unrhyw negeseuon gwall
-
gwybodaeth dechnegol gan gynnwys cyfeiriadau IP, y math o ddyfais a phorwr gwe rydych yn ei ddefnyddio
Maer wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried yn ddata personol oherwydd bod Google Analytics a Dynatrace yn neilltuo dynodwr unigryw i bob ymwelydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein galluogi ni na Google i adnabod eich hunaniaeth yn y byd go iawn. Ni fyddwn hefyd yn cyfuno gwybodaeth dadansoddi 但r data a ddarperir gennych wrth ddilysu eich 51画鋼 One Login neu brofi eich hunaniaeth neu unrhyw ddata arall y gallwn ei ddal er mwyn adnabod eich hunaniaeth yn y byd go iawn.
Rydym hefyd yn defnyddio Firebase Crashlytics i gasglu gwybodaeth am broblemau y gallech eu profi pan fyddwch yn defnyddior ap 51画鋼 ID Check, fel yr ap yn chwalu.
Ym mhob achos, mae Google, Dynatrace a Firebase Crashlytics yn gweithredu fel ein prosesydd data ac nid ydym yn caniat叩u iddynt ddefnyddio na rhannur data hwn at eu dibenion eu hunain.
8. Pam rydym angen eich gwybodaeth
Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol ar 51画鋼 One Login er mwyn:
-
eich darparu gyda 51画鋼 One Login i gael mynediad i wasanaethau ar-lein y llywodraeth
-
profi eich hunaniaeth
Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i:
-
gadw eich 51画鋼 One Login yn ddiogel (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, rhif ff担n, cyfrinair a logiau system)
-
storioch gwybodaeth hunaniaeth profedig o fewn 51画鋼 One Login ich galluogi iw ailddefnyddio
-
monitro, canfod ac ymchwilio i dwyll
-
darparu gwasanaeth(au) y llywodraeth rydych yn cael mynediad iddynt drwy 51画鋼 One Login gyda gwybodaeth am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth
-
eich darparu gyda chofnod o sut mae eich 51画鋼 One Login wedi cael ei ddefnyddio, er enghraifft, pryd gafodd ei fewngofnodi iddo ddiwethaf a pha wasanaethau mae wedi cael ei ddefnyddio gyda
-
cysylltu 但 chi am unrhyw ymyrraeth arfaethedig, problemau neu newidiadau a allai effeithio ar eich 51画鋼 One Login (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost)
-
gwellar gwasanaeth drwy ddeall sut rydych yn ei ddefnyddio ac unrhyw broblemau rydych yn eu profi, er enghraifft defnyddio Google Analytics, Firebase Crashlytics, Dynatrace, ac arolwg adborth y ganolfan gyswllt
-
monitro cyfraddau cyflwyno gwiriadau hunaniaeth lwyddiannus ac aflwyddiannus a chynhyrchu adroddiadau dienw am 51画鋼 One Login in helpu i ddeall ble gallwn ni wneud gwelliannau
-
helpu i ddarganfod a thrwsio materion technegol neu ddadfygio
-
cynorthwyo mewn bilio a chysoni ar gyfer y gwasanaethau gwirio hunaniaeth trydydd parti rydym yn eu defnyddio
-
monitror system ar gyfer bygythiadau diogelwch a materion system, er enghraifft toriad ir gwasanaeth.
9. Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth
Buddiant dilys (Erthygl (6)(1)(f) GDPR DU)
Pan fyddwn yn prosesuch data personol at ddibenion monitro diogelwch, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arno yw bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer diddordebau cyfreithlon GDS. Mae diddordebau GDS yn yr achos hwn yn amddiffyn 51画鋼 One Login ai ddefnyddwyr yn erbyn bygythiadau diogelwch.
Cysyniad (Erthygl (6)(1)(a) GDPR DU)
Rydym yn cael eich caniat但d i brosesu eich data personol ar gyfer y dibenion canlynol:
-
casglu a dadansoddi gwybodaeth am sut rydych yn defnyddioch 51画鋼 One Login gan ddefnyddio cwcis Google Analytics a Dynatrace
-
casglu a phrosesu eich ymatebion in harolwg am yr help a gawsoch
Lle byddwn yn dibynnu ar g caniat但d byddwn yn esbonio mor glir a chryno 但 phosibl sut bydd eich datan cael ei brosesu fel eich bod yn deall beth rydych yn cydsynio iddo. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch dynnu eich caniat但d yn 担l ar unrhyw adeg. Bydd sut gallwch wneud hyn yn dibynnu ar beth rdym yn prosesu eich data ar ei gyfer. Er enghraifft, gallwch:
-
dynnu eich caniat但d yn 担l on defnydd o gwcis drwy ddefnyddio 51画鋼 Login
-
clicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar e-byst a dderbyniwch gennym, neu gallwch gysylltu 但 gds-data-protection@digital.cabinet-office.gov.uk
Tasg gyhoeddus (Erthygl (6)(1)(e) GDPR DU)
At bob diben arall gan gynnwys gweinyddu eich 51画鋼 One Login, profi eich hunaniaeth ach galluogi i ailddefnyddior hunaniaeth brofedig honno, a monitro twyll, y sail gyfreithiol yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu arfer ein swyddogaethau fel adran or llywodraeth.
Data categori arbennig
Os ydych yn profi eich hunaniaeth gan ddefnyddior ap 51画鋼 ID Check, byddwch yn gwneud gwiriad tebygrwydd a fydd yn cynnwys prosesu data biometreg eich gwyneb. O dan Gyfraith y DU, mae data biometrig yn cael ei ystyried yn ddata categori arbennig ac maen ofynnol i DSIT gael sail gyfreithiol ychwanegol iw brosesu. Mae DSIT yn prosesu data biometrig ar y sail gyfreithiol bod y prosesu yn angenrheidiol am resymau o fudd sylweddol ir cyhoedd. Mae Cyfraith y DU hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i DSIT fodloni cyflwr budd cyhoeddus sylweddol penodol o Ddeddf Diogelu Datar DU 2018. Mae DSIT yn dibynnu ar y 2 amod canlynol:
-
dibenion statudol a llywodraethol ar gyfer gwirio hunaniaeth (paragraff 6, atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2018)
-
atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon ar gyfer canfod ac atal twyll (paragraff 10, atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2018)
Gofynnwn i chi beidio 但 rhannu unrhyw wybodaeth sensitif amdanoch chi eich hun pan fyddwch yn cysylltu 但 ni am help neu i roi adborth. Os byddwch yn dewis darparu gwybodaeth or fath, rydym yn ei phrosesu ar y sail gyfreithiol bod y prosesun angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol ir cyhoedd. Yn ogystal, rydym yn dibynnu ar yr amod dibenion statudol a dibenion y llywodraeth yn Neddf Diogelu Data 2018.
10. Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth
Rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau ar-lein y llywodraeth ar adrannau syn eu cynnal
Pan fyddwch yn mewngofnodi neun profi eich hunaniaeth gyda 51画鋼 One Login, rydym yn anfon y wybodaeth ganlynol i wasanaeth ar-lein y llywodraeth rydych yn ceisio cael mynediad iddo:
-
canlyniad eich gwiriad hunaniaeth
-
rhesymau dros fethu, os yn berthnasol
-
gwybodaeth syn galluogi gwasanaeth arall y llywodraeth ich paru yn erbyn eu cofnodion, sydd fel arfer yn cynnwys eich enw, eich dyddiad geni ach cyfeiriad
Mae gwasanaethau eraill y llywodraeth yn prosesur data rydym yn ei rannu gyda nhw fel rheolwyr data annibynnol o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sydd gennym gyda nhw. Bydd gan bob gwasanaeth ar-lein y llywodraeth ei delerau ac amodau ai hysbysiad preifatrwydd ei hun. Dylech ddarllen y rhain yn ogystal 但 thelerau ac amodau 51画鋼 One Login ar hysbysiad preifatrwydd hwn, fel eich bod yn deall sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rheoli.
Porth y Llywodraeth
Porth y Llywodraeth yw gwasanaeth dilysu a gwirio hunaniaeth CThEF syn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at wasanaethau treth a gwasanaethau eraill. Maer ap 51画鋼 ID Check wedii integreiddio i wasanaeth Porth y Llywodraeth, yn ogystal ag i 51画鋼 One Login, ac felly maer prosesu data personol a amlinellir yn adrannau perthnasol yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddefnyddwyr Porth y Llywodraeth or ap.
Yn ogystal, mae CThEF yn cynnal eu gwiriadau dogfennau hunaniaeth eu hunain yn erbyn ffynonellau data awdurdodol y llywodraeth. Rydym felly yn rhannu eich gwybodaeth trwydded yrru a phasbort gyda CThEF iw galluogi i gynnal y gwiriadau hyn.
Rydym yn rhannur wybodaeth ganlynol och trwydded yrru gyda Phorth y Llywodraeth:
-
enw cyntaf
-
enw olaf
-
dyddiad geni
-
rhif trwydded yrru
-
cyhoeddwyd gan (awdurdod cyhoeddi)
-
rhif cyhoeddi
-
dyddiad cyhoeddi
-
dyddiad dod i ben
Rydym yn rhannur wybodaeth ganlynol och pasbort gyda Phorth y Llywodraeth:
-
enw cyntaf
-
enw olaf
-
dyddiad geni
-
rhif dogfen
-
dyddiad dod i ben
-
Cod y cyhoeddwr International Civil Aviation Organisation (ICAO)
Mae CThEF yn prosesur data hwn fel rheolwr data annibynnol o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sydd gennym gyda nhw o dan ac yn unol 但u polis誰au preifatrwydd eu hunain.
Rhannu eich gwybodaeth i brofi eich hunaniaeth
Rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaethau hunaniaeth trydydd parti arbenigol i gynnal gwiriadau hunaniaeth unigol ar ein rhan. Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydar darparwyr gwasanaeth hyn iw galluogi i gynnal y gwiriadau.
Y darparwyr gwasanaeth hyn yw:
-
Swyddfa Pasbort Ei Fawrhydi (HMPO), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen pasbort gwirioneddol; darllenwch Hysbysiad preifatrwydd HMPO
-
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen trywdded yrru Prydain Fawr gwirioneddol; darllenwch Hybysiad preifatrwydd DVLA
-
Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau Gogledd Iwerddon (DVA NI), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen trywdded yrru Gogledd Iwerddon gwirioneddol; gweler
-
Experian, fel rheolwr data annibynnol yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer Dilysu Ar Sail Gwybodaeth (KBV) a gwiriadau twyll; darllenwch
-
iProov, fel prosesydd data gyda Veriff ac Inverid fel ei is-broseswyr, yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer gwiriadau tebygrwydd biometreg, gwiriadau dogfennau gwirioneddol a gwiriadau bywiogrwydd
-
Swyddfar Post, fel prosesydd data gyda Yoti fel ei is-brosesydd, yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer gwiriadau hunaniaeth bersonol
-
CThEF fel rheolydd data annibynnol o dan Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ar gyfer gwiriadau cyfrifon banc;油 darllenwch fwy yn Hysbysiad preifatrwydd CThEF
Ym mhob achos rydym ond yn darparur isafswm o wybodaeth sydd ei angen i gyflawnir gwiriadau.
Rhannu eich gwybodaeth er mwyn diogelu rhag twyll
Er mwyn amddiffyn rhag trosedd a thwyll, weithiau mae angen i ni rannu gwybodaeth gyda:
-
adrannaur llywodraeth syn rhedeg y gwasanaethau rydych yn cael mynediad iddynt drwy eich 51画鋼 One Login
-
sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, fel y Swyddfa Gartref
-
asiantaethau gorfodir gyfraith
-
Experian (asiantaeth gwirio credyd)
-
proseswyr data syn darparu gwasanaethau monitro perthnasol
Maer wybodaeth efallai y byddwn yn ei rannau yn cynnwys:
-
rhifau ff担n
-
cyfeiriadau e-bost
-
cyfeiriadau IP
-
lleoliad, syn deillio or cyfeiriad IP ac wedii fynegi fel gwlad, er enghraifft GB
-
dynodwyr cyfrif unigryw
-
gwybodaeth am y dyfeisiau syn cael eu defnyddio, gan gynnwys ID dyfais
-
manylion dogfen hunaniaeth, gan gynnwys enw a dyddiad geni
-
hanes cyfeiriad
Lle mae gennym bryder am weithgaredd twyllodrus, efallai y byddwn hefyd yn rhannu manylion o:
-
basbortau
-
trwyddedau gyrru
-
trwyddedau preswylio biometrig
-
cardiau adnabod
Efallai y bydd y wybodaeth hon rydym yn ei rhannu wedi cael ei darparu gennych i 51画鋼 One Login yn uniongyrchol. Neu efallai ei fod wedi cael ei rannu 但 ni gan wasanaethaur llywodraeth syn rhedeg y gwasanaethau rydych chi wediu cyrchu trwy 51画鋼 One Login, neu drydydd part誰on fel asiantaethau cyfeirio credyd fel Experian.
Rhannu eich gwybodaeth gydan cyflenwyr
Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr technoleg, er enghraifft rydym yn defnyddio darparwr cynnal allanol a darparwr canolfan gyswllt. Rydym ond yn rhoi mynediad in cyflenwyr ich gwybodaeth os ydynt ei hangen i ddarparu eu gwasanaeth. Mae ein cyflenwyr yn gweithredu fel proseswyr data ac maent yn ddarostyngedig i gontractau gyda ni syn eu cyfyngu i brosesu eich data personol ond at ddiben darparu eu gwasanaethau yn unol 但n cyfarwyddiadau.
11. Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth
Rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol am ddim mwy o amser nag syn rhesymol angenrheidiol ac yn gyfreithiol gyfiawn.
Byddwn yn cadw eich 51画鋼 One Login cyhyd ag y dymunwch ei ddefnyddio er y byddwn yn ei ddileu os na fyddwch yn ei ddefnyddio am 5 mlynedd.
Os ydych yn dewis dileu eich 51画鋼 One Login, byddwn yn dileu eich cyfrif ach gwybodaeth adnabod profedig.
Rydym yn dileu eich llun llonydd a gynhyrchir och fideo hunlun, delweddau trwydded yrru a data biometrig y wyneb o systemau Iproov ar 担l 30 diwrnod.
Maer gwiriad hunaniaeth bersonol yn storio eich data am 11 diwrnod i roi digon o amser i chi fynd i Swyddfar Post i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth.
Byddwn yn storior wybodaeth rydym yn ei chasglu pan fyddwch yn cysylltu 但 ni am help am flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys recordiadau galwadau.
Byddwn yn cadw eich data adborth am 2 flynedd.
Byddwn yn storio gwybodaeth am y camau rydych yn eu cymryd pan fyddwch yn defnyddio eich 51画鋼 One Login mewn logiau system am 1 flwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal llwybr archwilio diogel o holl ddigwyddiadau a gweithgareddau archwilio 51画鋼 One Login ac rydym yn ei gadw am 7 mlynedd at ddibenion monitro twyll.
Nid yw GDS yn storio nac yn cadwr:
-
cwestiynau KBV rydym yn yn eu cyrchu gan asiantaethau gwirio credyd neu eich atebion ir cwestiynau hynny
-
fideo hunlun rydych yn ei gymryd fel rhan o brofi eich hunaniaeth drwy ddefnyddior ap 51画鋼 ID Check
Os gwnaethoch roi caniat但d i ddadansoddi, bydd Dynatrace yn storio gwybodaeth am sut y gwnaethoch ddefnyddio 51画鋼 One Login am 35 diwrnod.
12. Diogelu preifatrwydd plant
Nid yw 51画鋼 One Login wedii gynllunio ar gyfer, neu wedii dargedun fwriadol at, blant 13 oed neu iau. Nid ydym yn casglu na chynnal gwybodaeth yn fwriadol am unrhyw un dan 13 oed.
13. Lle mae eich gwybodaeth yn cael ei brosesu ai storio
Maer holl ddata personol syn cael ei brosesun uniongyrchol ar gyfer gweinydduch 51画鋼 One Login ac ar gyfer gwirio hunaniaeth yn cael ei storio yn y DU neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Maer AEE wedi cael ei asesu gan Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth fel un sydd ag amddiffyniadau cyfreithiol digonol ar gyfer preifatrwydd data yn unol 但r rhai yn y DU.
Gellir trosglwyddo data a gesglir gan Google Analytics neu Dynatrace y tu allan ir Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) iw brosesu a gall rhai on cyflenwyr ddarparu cymorth technegol or tu allan ir AEE. Yn y ddau achos, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu yr un mor dda, er enghraifft trwy gynnwys cymalau ychwanegol yn ein contractau gyda chyflenwyr. Mae Google hefyd yn cael ei gefnogi gan Fframwaith Preifatrwydd Data yr Unol Daleithiau, syn ymestyn i ddiogelu data a diogelwch prosesu yn y DU.
Pan fo lleoliadau proseswyr neu is-broseswyr y tu allan ir DU, rydym yn dibynnu ar gymalau contract enghreifftiol y cytunwyd arnynt a nodir gan GDPR ar gyfer sicrwydd a diogelu data.
14. Sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth bersonol ai gadwn ddiogel
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad heb awdurdod neu ddatgelu eich gwybodaeth - er enghraifft, rydym yn defnyddio lefelau amrywiol o amgryptio. Rydym hefyd yn gwneud yn siwr bod unrhyw drydydd part誰on rydym yn delio 但 nhw yn cadwr holl wybodaeth bersonol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.
Fel perchennog och 51画鋼 One Login, mae gennych chi hefyd rywfaint o gyfrifoldeb am ei ddiogelwch. Er enghraifft, dylech:
-
ddewis cyfrinair cryf ar gyfer eich 51画鋼 One Login a sicrhau eich bod yn ei gadwn ddiogel - mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC) yn darparu
15. Gwneud penderfyniadau awtomataidd
Mae proses gwirio hunaniaeth 51画鋼 wedii awtomeiddion llawn ac felly maer mwyafrif o benderfyniadau gwirio hunaniaeth yn seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig.
Mae 51画鋼 One Login yn penderfynu pa wiriadau hunaniaeth sydd angen eu cynnal i brofi eich hunaniaeth drwy gymryd i ystyriaeth y:
-
lefel o hyder mae gwasanaethau ei angen yn eich hunaniaeth
-
tystiolaeth a dogfennau sydd gennych i brofi eich hunaniaeth
-
math o ddyfais rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft gliniadur, tabled neu ff担n clyfar
Yna mae 51画鋼 One Login yn cyfarwyddo darparwyr gwasanaeth hunaniaeth trydydd parti arbenigol i gynnal y gwiriad hunaniaeth angenrheidiol. Maer rhan fwyaf or gwiriadau hyn wediu awtomeiddion llawn heb unrhyw gysylltiad dynol. Ar gyfer y gwiriad trwydded yrru a gynhaliwyd drwy ddefnyddior ap 51画鋼 ID Check, os na ellir gwneud penderfyniad awtomataidd yn llwyddiannus, yna defnyddir proses gwirio 但 llaw.
Mae 51画鋼 One Login yn derbyn ymateb gan bob darparwr gwasanaeth hunaniaeth syn cynnwys canlyniadau eu gwiriadau hunaniaeth ac yn penderfynu a yw canlyniadaur gwiriadau yn darparur lefel ofynnol o hyder yn eich hunaniaeth.
Maer broses hon wedii awtomeiddion llawn a gall olygu na fydd defnyddwyr yn cael eu hunaniaeth wedii brofi ir lefel syn ofynnol gan wasanaeth ar-lein y llywodraeth rydych yn ceisio cael mynediad ato. Os na allwn gadarnhau eich hunaniaeth, byddwn yn dangos sgrin syn eich hysbysu o hyn, yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar beth y gallwch ei wneud nesaf ac yn rhoi ffordd i chi gysylltu 但 ni.
Gall unigolion neu wasanaethau ofyn i ni brofi bod y penderfyniad awtomataidd wedii wneud yn gywir a byddwn yn gyffredinol yn profi bod 51画鋼 One Login yn gweithio fel y rhagwelir heb gamgymeriad na rhagfarn. Efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth lawn am ymdrechion gwirio hunaniaeth unigol yn enwedig lle byddai darparu gwybodaeth yn amharu ar atal neu ganfod twyll neu droseddau eraill.
16. Eich hawliau
Mae Cyfraith Diogelu Datar DU yn rhoi nifer o hawliau i chi y gallwch eu harfer drwy gysylltu 但 gds-data-protection@digital.cabinet-office.gov.uk.
Mae gennych yr hawl i:
-
ofyn am gopi och gwybodaeth bersonol rydym yn ei ddal
-
gofyn i ni newid eich gwybodaeth os ywn anghywir
-
gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er efallai na fyddwn yn gallu dileu eich gwybodaeth os oes rheswm cyfreithiol i ni ei gadw
-
gofyn am gyfyngiad ar ein defnydd och gwybodaeth. Er enghraifft lle maen anghywir a buasech yn hoffi iddo gael ei newid cyn cael ei ddefnyddio eto
-
gwrthwynebu sut rydym yn prosesu eich data personol lle rydym yn ei brosesu o dan y dasg gyhoeddus neu seiliau buddiannau cyfreithlon
-
tynnuch caniat但d yn 担l lle rydym yn prosesu eich data personol gydach caniat但d
17. Cysylltu 但 ni neu wneud cwyn
Cysylltwch 但 gds-data-protection@digital.cabinet-office.gov.uk os:
-
oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
-
rydych yn credu bod eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei chamddefnyddio
-
rydych eisiau gwneud cais mynediad pwnc i gael gwybod mwy am sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu ai defnyddio
Gallwch hefyd gysylltu 但n Swyddog Diogelu Data (DPO) syn darparu cyngor a monitro annibynnol on defnydd o wybodaeth bersonol:
Swyddog Diogelu Data yn Swyddfa Breifatrwydd GDS\
Gallwch hefyd wneud cwyn ir Comisiynydd Gwybodaeth, syn rheoleiddiwr annibynnol.
Comisiynydd Gwybodaeth
icocasework@ico.org.uk
Ff担n: 0303 123 1113
Ff担n testun: 01625 545860
Dydd Llun i油ddydd Gwener, 9am i 4.30pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ni fydd gwneud cwyn ir Comisiynydd Gwybodaeth yn effeithio ar eich hawliau.
18. Newidiadau ir hysbysiad hwn
Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Yn yr achos hynny, bydd dyddiad diweddarwyd diwethaf y ddogfen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau ir hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi ach gwybodaeth ar unwaith.
Os ywr newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, bydd GDS yn rhoi gwybod i chi.