Guidance letter for the certificate of appointment (Welsh accessible version)
Updated 19 May 2021
Applies to England and Wales
Tystysgrif Penodi Person Awdurdodediggan Ymddiriedolwr neu Gorff Llywodraethu Adeilad Cofrestredig - Canllawiau ar gyfer yr Ymgeisydd
(Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwir ffurflen AP1 )
Beth yw Person Awdurdodedig?
Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth i briodasau rhwng dyn a menyw gael eu gweinyddu mewn adeilad sydd wedii gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Yn lle hynny, gall ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad cofrestredig awdurdodi person i fynychu priodasau a llofnodir amserlen briodasau ar gyfer priodasau a fyddain cael eu gweinyddu yn yr adeilad hwnnw. Bydd enw a chyfeiriad y person awdurdodedig yn cael eu hardystio ir Cofrestrydd Cyffredinol a chofrestrydd arolygu yr ardal gofrestru y lleolir yr adeilad ynddo. Rhaid bod yr adeilad wedii gofrestru am o leiaf 12 mis cyn y gellir penodi person awdurdodedig.
Mae gan Ddeddf Priodasau 1949 ddarpariaeth hefyd i briodas cyplau or un rhyw gael ei gweinyddu mewn adeilad sydd wedii gofrestru ar gyfer y diben hwnnw heb fod angen i gofrestrydd fod yn bresennol. Erbyn hyn, gall ymddiriedolwyr neur corff llywodraethu benodi personau awdurdodedig i fynyhcu priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau or un rhyw yn unig, neur ddau.
Beth yw cyfrifoldebau Person Awdurdodedig?
Mae cyfrifoldebau person awdurdodedig yn cynnwys:
- sicrhau bod rhagarweiniadau cyfreithiol unrhyw briodasau iw gweinyddu yn yr adeilad wediu cwblhau gan y cwpl cyn ir briodas ddigwydd
- sicrhau bod pob priodas yn cael ei gweinyddu yn unol 但 deddfwriaeth a bod y manylion yn cael eu cofnodi yn gywir ar yr amserlen briodasau
- dychwelyd yr amserlen briodasau wedii llofnodi ir cofrestrydd arolygu o fewn yr amserlen gyfreithiol h.y. o fewn 21 diwrnod ar 担l y briodas.
Dylech fod yn ymwybodol y gallai methu 但 chydymffurfio 但r gofynion cyfreithiol hyn arwain at amheuon ynghylch dilysrwydd y briodas a pheri gofid mawr ir rhai dan sylw. Ceir manylion llawn am gyfrifoldebau a dyletswyddau person awdurdodedig yn y llyfryn Canllaw i Bersonau Awdurdodedig.
Fel arall, gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost at GRO yn: GROCasework@gro.gov.uk. Dylai fod copi or canllaw eisoes ar gael yn yr adeilad cofrestredig os yw person awdurdodedig wedii benodi ir adeilad or blaen. Rhaid ir person awdurdodedig fod yn gyfarwydd 但r canllaw er mwyn i holl ddarpariaethau deddfwriaeth priodas gael eu gwneud yn iawn ac yn gywir.
Sut ydw in dod yn Berson Awdurdodedig?
Bydd person awdurdodedig ond yn cael ei benodi gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethu adeilad sydd wedii gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau yn unol 但 darpariaethau Deddf Priodasau 1949. Rhaid iddynt gwblhau tystysgrif penodi (Ffurflen AP1).
Cwblhau Tystysgrif Benodi
Dylair dystysgrif benodi gael ei chwblhau gan ymddiriedolwyr neu aelodau corff llywodraethur adeilad. Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i bob penodiad person awdurdodedig gael ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Felly, ni ddylai unrhyw berson weithredu fel person awdurdodedig nes bod penodiad wedii ardystio ir Cofrestrydd Cyffredinol ai fod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) fod manylion y penodiad wediu cofnodi.
Rhaid i bersonau awdurdodedig a benodir ar hyn o bryd i fynychu priodasau rhwng dyn a menyw beidio 但 mynychu na llofnodi amserlen briodas ar gyfer priodas unrhyw gwpl or un rhyw hyd nes y bydd yr adeilad wedii gofrestru ar gyfer y diben hwnnw au bod hefyd wediu penodi gan yr ymddiriedolwyr i wneud hynny.
Dylid anfon y dystysgrif wedii chwblhau at GRO drwy anfon e-bost:
neu drwyr post:
Swyddfa Gofrestru Gyffredinol,
Blwch Post 476,
Southport,
Glannau Mersi
PR8 2WJ.
Rhowch 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais yn GRO ir broses gofnodi penodiad ddigwydd. Unwaith y bydd y penodiad wedii gofnodi, bydd y person awdurdoedig yn cael gwybod yn ysgrifenedig a bydd y dystysgrif benodi yn cael ei hanfon at gofrestrydd arolygu yr ardal lle maer adeilad wedii leoli. O.N. Lle bon berthnasol, ni fydd y person syn gadael y swydd bellach yn gallu cyflawni dyletswyddau person awdurdoedig heb gael ei ailbenodi.
Adran 1 Manylion Adeilad Cofrestredig
1.1 Rhif priodas Maer rhif wedii gofnodi ar y Tystysgrif Gofrestru.
1.2 Enwr adeilad Rhowch enwr adeilad fel y maen ymddangos ar y Dystysgrif Gofrestru. Os bydd yr wybodaeth a roddir yn eich cais yn wahanol ir cofnodion a gedwir yma yn GRO, efallai y bydd yn rhaid i ni ymchwilio ir newid cyn y gallwn ddechrau cofnodi eich apwyntiad.
1.3 Ardal gofrestru Unwaith y byddwn wedi cofnodir penodiad, anfonir y dystysgrif at Gofrestrydd Arolygu yr ardal gofrestru lle maer adeilad wedii leoli.
Adran 2 Ymddiriedolwyr/Aelodaur Corff Llywodraethu
Nodwch a ydych yn dymuno penodir person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau or un rhyw yn unig, neur ddau. Rhaid i chi dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG.
2.1 Y person awdurdodedig syn gyfrifol am gadw cofrestrau priodasau wediu cwblhau yn ddiogel ac unrhyw ddogfennau eraill syn gysylltiedig 但 phriodasau.
2.2 Dyddiad penodi Rhaid i berson awdurdodedig beidio 但 gweithredu hyd nes y bydd wedii ardystion briodol ac wedii awdurdodi ar gyfer y diben hwnnw gan yr ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethur adeilad a dylai aros am gadarnhad gan GRO cyn ymgymryd 但i ddyletswyddau.
2.3 Dyddiad unrhyw briodas ar ddod Rhowch wybod i ni am ddyddiad unrhyw briodas iw gweinyddu yn yr adeilad lle mae angen ir person awdurdoedig wedii enwi fod yn bresennol. Ni ddylent, o dan unrhyw amgylchiadau, fynychu a llofnodi amserlen briodas ar gyfer unrhyw briodas nes cael cadarnhad gan GRO bod eu penodiad wedii gofnodi.
Manylion a llofnodion ymddiriedolwyr Mae Deddf Priodasau 1949 yn ei gwneud yn ofynnol i ddau ymddiriedolwr neu aelod o gorff llywodraethur adeilad lofnodi tystysgrif benodi. Os bydd y penodiad mewn adeilad Catholig, yna rhaid i un llofnodwr fod yn Esgob neu Ficer Cyffredinol yr Esgobaeth lle maer adeilad wedii leoli.
Adran 3 Manylion Personau Awdurdodedig
3.1 Gellir ond yn cael un Person Awdurdodedig Cyfrifol yn yr adeilad cofrestredig ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, efallai y bydd mwy nag un person awdurdodedig. Y Person Awdurdodedig Cyfrifol fydd pwynt cyswllt cyntaf y GRO.
Os bydd person awdurdodedig yn gadael ei swydd, maen ofyniad cyfreithiol ir ymddiriedolwyr roi gwybod ir GRO. Os mair person hwn ywr person awdurdoedig cyfrifol, rhaid ir ymddiriedolwyr benodi olynydd drwy gwblhau tystysgrif benodi newydd. Gall yr olynydd fod yn berson awdurdoedig presennol neu gall fod yn benodiad newydd. Nid oes angen ir person awdurdoedig cyfrifol fod yn weinidog nac yn offeiriad a gall fod yn unrhywun syn gysylltiedig 但r adeilad cofrestredig.
Dylech nodi o leiaf un rhif ff担n ar gyfer y person awdurdodedig rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu 但 nhw.
3.2 Cyfeiriad e-bost Dylech nodi cyfeiriad e-bost dilys (os yn berthnasol). Byddwn ni ond yn defnyddio y cyfeiriad hwn at ddibenion syn ymwneud 但 dyletswyddau person awdurdodedig ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw sefydliad arall. Os bydd y person awdurdodedig yn newid ei gyfeiriad e-bost neu unrhyw fanylion cyswllt eraill, rhowch wybod i GRO drwy lenwir ffurflen Newid Manylion Cyswllt (Ffurflen AP2).
Adran 4 iw llenwi gan y Person Awdurdodedig
Nid yw Deddf Priodas (Cyplau or Un Rhyw) 2013 yn caniat叩u i berson gael ei orfodi i gael ei awdurdodi i fod yn bresennol mewn priodasau cyplau or un rhyw os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Felly, dylair person awdurdodedig nodi a ywn cytuno i gyflawni dyletswyddau person awdurdodedig ar gyfer priodasau rhwng dyn a menyw yn unig, priodasau cyplau or un rhyw yn unig, neur ddau. Rhaid iddynt dicio un blwch (a, b neu c) YN UNIG ac yna llofnodi a dyddior dystysgrif.
Adran 5 Datganiad Person Awdurdodedig
Dylair person awdurdodedig ddarllen y canllawiau hyn cyn llofnodi a dyddior dystysgrif i gadarnhau ei fod yn fodlon i GRO gysylltu ag ef ynghylch dibenion eu penodiad.