Canllawiau

Protocol iawndal Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 21 Ebrill 2021

Protocol ar gyfer delio 但 cheisiadau am iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel yi diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015), i nodi pwy sydd 但r atebolrwydd ac a all unrhyw iawndal a dalwyd gael ei adennill gan Gofrestrfa Tir EF or awdurdod lleol perthnasol.

Cytunwyd rhwng Cofrestrfa Tir EF a Chymdeithas Llywodraeth Leol.

1. Cyflwyniad

Pan fydd prynwr yn gwneud chwiliad swyddogol neu bersonol perthnasol or Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir cyn prynu eiddo, yn gyffredinol, bydd hawl ganddo gael iawndal, o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, fel yi diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015, am y golled y mae wedi ei dioddef o ganlyniad i fethiant y chwiliad i ddatgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli ar yr adeg y cafodd y chwiliad ei wneud (ynghyd 但r costau cysylltiedig rhesymol a gafwyd).

Gyda throsglwyddor swyddogaeth statudol ar gyfer cadwr Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar gyfer ei ardal o awdurdod lleol i Gofrestrfa Tir Ei Fawrhydi, yn unol 但 Deddf Seilwaith 2015, bydd ceisiadau ar gyfer iawndal a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 mewn perthynas 但r ardal awdurdod lleol berthnasol yn cael eu gwneud ir Prif Gofrestrydd Tir, a all mewn amgylchiadau penodol, adennill unrhyw iawndal a dalwyd o dan adran 10 or Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 or awdurdod cychwynnol perthnasol (yn gyffredinol, ond nid bob amser, yr awdurdod lleol fydd yr awdurdod cychwynnol perthnasol). Ceir pedair sefyllfa lle y gall iawndal a dalwyd o dan adran 10 gael ei adennill:

1. Yn unol 但 pharagraff 43 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015, gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill iawndal gan awdurdod lleol y maer Prif Gofrestrydd Tir yn atebol iw dalu o dan adran 10 os yw hyn yn ganlyniad i fethiant ar ran yr awdurdod lleol i gofrestru pridiant, neu gofrestru pridiant yn gywir, yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yr oedd yr awdurdod lleol yn ei chynnal yn ffurfiol (neu o ganlyniad i fethu 但 rhoi unrhyw wybodaeth am bridiant or fath ir Prif Gofrestrydd Tir).

2. Gall y Prif Gofrestrydd Tir hefyd adennill iawndal o dan baragraff 43 o Atodlen 5 y maer Prif Gofrestrydd Tir yn atebol iw dalu o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 lle mae hyn o ganlyniad i fethiant yr awdurdod lleol i fodloni hawl i chwilio yn ei gofrestr Pridiannau Tir Lleol ei hun a roddir gan adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, neu o ganlyniad i hepgor pridiant lleol o dystysgrif chwiliad swyddogol a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol, ar adeg pan oedd yr awdurdod lleol yn parhau i fod yr awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol berthnasol.

3. Yn unol ag adran 10(5) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel yi diwygiwyd), gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill iawndal a dalwyd o dan adran 10 lle maer atebolrwydd yn ganlyniad ir awdurdod cychwynnol perthnasol yn methu 但 gwneud cais i gofrestrur pridiant mewn pryd iddo fod yn ymarferol ir Prif Gofrestrydd Tir osgoi cael yr atebolrwydd.

4. Yn unol ag adran 10(5A) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel yi diwygiwyd), gall y Prif Gofrestrydd Tir adennill yr iawndal a dalwyd o dan adran 10 os ywr atebolrwydd o ganlyniad i wall a wnaed gan yr awdurdod cychwynnol wrth wneud cais i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant.

2. Protocol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chofrestrfa Tir EF yn cytuno bod angen cael protocol i ddelio 但 cheisiadau a allai godi i nodi pwy sydd 但r atebolrwydd ac unrhyw iawndal sydd iw adennill gan Gofrestrfa Tir EF or awdurdod lleol perthnasol.

Y nod yw cael proses syml, deg, dryloyw a chyn belled ag y bon rhesymol bosibl, proses anghyfreithadwy ar gyfer delio 但r ceisiadau hyn yn fuan.

1. Mae Cofrestrfa Tir EF yn derbyn cais syn gorfod bod yn ysgrifenedig.

2. Mae Cofrestrfa Tir EF yn gwirio bod gwybodaeth gefnogol berthnasol wedi cael ei darparu gan yr Hawlydd.

3. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cynnal ymchwiliad gan gynnwys a fu unrhyw golled ir prynwr syn Hawlydd o ganlyniad i beidio 但 chofrestrur pridiant neu chwiliad diffygiol.

4. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysur awdurdod lleol perthnasol cyn gynted 但 phosibl ar 担l derbyn cais pryd y gall geisio adennill unrhyw iawndal a dalwyd o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, gan amlinellur rhesymau pam ei fod or farn y gall y Prif Gofrestrydd Tir fod 但 hawl i adennill unrhyw iawndal a delir. Dylai ceisiadau gynnwys manylion am y cais a gyflwynwyd, gwybodaeth gefnogol ac unrhyw gasgliadau cychwynnol, ynghyd 但r holl dystiolaeth a gedwir gan gynnwys dyddiadau gweithredoedd/hysbysiadau, part誰on (pwy ywr Hawlydd), copi or chwiliad diffygiol honedig (neu fanylion y pridiannau a ddatgelwyd ar yr adeg y cafodd y chwiliad personol hwnnw ei wneud, os yw cais am iawndal yn cael ei wneud o dan adran 10(1)(a) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975). Caiff yr hysbysiad ei anfon wedi ei gyfeirio at adran gyfreithiol yr awdurdod lleol perthnasol.

5. Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod ei fod wedi derbyn yr hysbysiad yn ysgrifenedig i Gofrestrfa Tir EF cyn gynted ag y bon rhesymol ymarferol ac, mewn unrhyw achos, o fewn 7 diwrnod oi dderbyn.

6. Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud ymdrechion rhesymol i roi ir Prif Gofrestrydd Tir cyn gynted ag y bon ymarferol (ac mewn unrhyw achos o fewn 6 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad a roddwyd iddo gan Gofrestrfa Tir EF) ymateb ir hysbysiad syn cynnwys y canlynol:

  • (i) Hysbysiad, yn dilyn ymgynghori 但i Gwmn誰au Yswiriant, ynghylch a ywr awdurdod lleol yn derbyn hawl yr Hawlydd i gael iawndal gan ddarparu (lle na dderbynnir yr hawl am iawndal) manylion llawn ynghylch ar ba sail y mae hawl yr Hawlydd ir iawndal yn cael ei wrthod.
  • (ii) Cadarnhad ynghylch a ywr awdurdod lleol yn derbyn bod yr Hawlydd wedi dioddef colled o ganlyniad i ddim cofrestriad neu chwiliad diffygiol neur swm a hawlir i gynrychiolir golled a ddioddefwyd gan yr Hawlydd gan ddarparu (lle na dderbynnir yr hawl i iawndal neu swm yr iawndal) manylion ynghylch ar ba sail y maer hawl i swm yr iawndal a hawlir yn cael ei wrthod. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu manylion am unrhyw ffactorau lliniaru os yw or farn nad ywr golled a ddioddefwyd yn ganlyniad ir chwiliad diffygiol neu os yw or farn bod yr Hawlydd neu y dylair Hawlydd fod wedi bod yn ymwybodol fel arall or pridiant perthnasol. Yn yr un modd, bydd yr awdurdod lleol yn darparu manylion am unrhyw gynigion sydd ganddo i gyfaddawdu neu unionir sefyllfa er enghraifft trwy amrywio neu ddileu cofrestriad neu drwy roi 担l-gymeradwyaeth.
  • (iii) Cadarnhad ynghylch a ywr awdurdod lleol yn derbyn hawl y Prif Gofrestrydd Tir i adennill yr iawndal a dalwyd ganddo gan ddarparu (lle mae hawl y Prif Gofrestrydd Tir i adennill yr iawndal yn cael ei wrthod) manylion ynghylch ar ba sail y maer awdurdod cychwynnol yn honni na fydd gan y Prif Gofrestrydd Tir yr hawl i adennill iawndal a dalwyd o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 mewn perthynas 但r cais ganddo. Os nad yr awdurdod lleol ywr awdurdod cychwynnol mewn perthynas 但r pridiant perthnasol ac mae or farn bod atebolrwydd y Prif Gofrestrydd Tir yn ganlyniad i wall neu hepgorid ar ran yr awdurdod cychwynnol arall hwnnw, caiff manylion llawn ynghylch y sail ar gyfer y cais hwn eu darparu. (Cydnabyddir mewn rhai amgylchiadau na fydd awdurdod lleol yn ystyried bod unrhyw angen iddo ddarparur wybodaeth a fanylir yn rhan (ii) lle maer Awdurdod Lleol yn sicr na all unrhyw hawl i adennill iawndal ganddo godi).

7. Os nad ywr awdurdod lleol perthnasol a Chofrestrfa Tir EF (y Part誰on) mewn cytundeb cychwynnol ynghylch yr hawl ar ran y Prif Gofrestrydd Tir i adennill iawndal, bydd y Part誰on yn ceisio datrys y mater rhyngddynt eu hunain trwy gyfrwng gohebiaeth a/neu gyfarfodydd o fewn cyfnod rhesymol na fydd yn fwy na 10 wythnos, a bydd yn dechrau ar y dyddiad pan fydd naill ai Cofrestrfa Tir EF neur awdurdod lleol perthnasol yn rhoi gwybod ir parti arall bod y cyfnod i ddechrau.

8. Cyfryngu ar Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod:

  • (i) Os nad ywr Part誰on wedi gallu datrys yr anghydfod rhyngddynt, dylai camau cyfreithiol fod y dewis olaf un.
  • (ii) Maer llysoedd hefyd yn disgwyl i gamau cyfreithiol fod y dewis olaf un, felly byddent yn disgwyl gweld bod y ddau Barti wedi ystyried a allai Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod fod yn ffordd well o ddelio 但r anghydfod.
  • (iii) Fel ffordd arall o ddelio 但r anghydfod, maer Part誰on yn cytuno i ymgymryd 但 chyfryngu mewn ewyllys da i ddelio ag anghydfod or fath, a byddant yn gwneud hynny yn unol 但 Phrotocol Cyfryngu Enghreifftiol y Ganolfan Datrys Anghydfodaun Effeithiol (CEDR) (Cyfryngu). Oni bai y cytunir fel arall rhwng y Part誰on, o fewn 14 diwrnod gwaith o roi rhybudd or anghydfod, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR.
  • (iv) I gychwyn y cyfryngu, rhaid i barti roi rhybudd ysgrifenedig (hysbysiad Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR)) ir parti(ion) arall(eraill) ir anghydfod, gan gyfeirior anghydfod at gyfryngu. Dylid anfon copi or atgyfeiriad at CEDR.
  • (v) Oni bai y cytunir fel arall, bydd y cyfryngu yn dechrau ddim hwyrach na 21 diwrnod gwaith ar 担l dyddiad y rhybudd ADR.
  • (vi) Ar wah但n i ff誰oedd y cyfryngwr a gaiff eu talu gan y ddau Barti, bydd pob parti yn talu am gost y cyfryngu ei hun.

9. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd unrhyw setliad o gais am iawndal gan y Prif Gofrestrydd Tir cyn cytundeb rhwng y Part誰on yn cael ei ystyried yn dderbyniad awtomatig o atebolrwydd gan yr awdurdod lleol am y gwall honedig a arweiniodd at y cais neur swm a dalwyd.

10. Bydd y protocol hwn yn cael ei adolygu o bryd iw gilydd ai ddiweddaru o leiaf yn flynyddol fel y bo angen, trwy ymgynghori 但 Chymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.